- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Rheoliad 124
1. Yn yr Atodlen hon—
ystyr “cyfnod o wasanaeth” (“period of service”) mewn perthynas â’r cynllun hwn, yw cyfnod di-dor o wasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwn;
ystyr “cyfnod tâl priodol” (“appropriate pay period”) yw’r cyfnod tâl a ystyrir yn briodol gan y rheolwr cynllun;
ystyr “cyfnod taliadau cyfnodol” (“periodical payment period”) yw’r cyfnod y mae taliadau cyfnodol ar gyfer pensiwn ychwanegol yn daladwy ar ei gyfer;
ystyr “y diwrnod perthnasol” (“the relevant day”) yw’r diwrnod pan fo’r rheolwr cynllun yn cael y cyfandaliad;
ystyr “y flwyddyn gynllun berthnasol” (“the relevant scheme year”) yw’r flwyddyn gynllun y mae’r diwrnod perthnasol yn digwydd ynddi;
mae i “hysbysiad o ddewisiad” (“notice of election”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 5;
ystyr “swm o bensiwn ychwanegol” (“amount of extra pension”) yw swm y pensiwn ychwanegol cronedig ar unrhyw adeg;
mae i “terfyn cyffredinol o bensiwn ychwanegol” (“overall limit of extra pension”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 2.
2.—(1) Y terfyn cyffredinol o bensiwn ychwanegol yw—
(a)£6,500 ar gyfer unrhyw flwyddyn gynllun sy’n dod i ben cyn 1 Ebrill 2016; a
(b)ar gyfer unrhyw flwyddyn gynllun sy’n cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2016—
(i)y terfyn cyffredinol o bensiwn ychwanegol a benderfynir gan y Trysorlys mewn cysylltiad â’r flwyddyn gynllun honno fel y’i cyhoeddwyd cyn dechrau’r flwyddyn gynllun honno, neu
(ii)os na wnaed penderfyniad o’r fath, y swm a gyfrifir o dan is-baragraff (2).
(2) Y swm yw’r swm y byddai’r gyfradd flynyddol o bensiwn sy’n hafal i’r terfyn cyffredinol o bensiwn ychwanegol ar gyfer y flwyddyn gynllun flaenorol wedi ei gynyddu o dan DPC 1971 pe bai—
(a)y pensiwn hwnnw yn gymwys i’w gynyddu felly; a
(b)diwrnod cyntaf y flwyddyn gynllun flaenorol yn ddyddiad cychwyn ar gyfer y pensiwn hwnnw.
3. Ni chaiff aelod actif arfer dewisiad pensiwn ychwanegol os byddai swm y pensiwn ychwanegol yn mynd dros ben y terfyn cyffredinol o bensiwn ychwanegol pe gwneid y dewisiad hwnnw.
4.—(1) Ar unrhyw un adeg, ni chaiff cyfanswm y pensiwn ychwanegol cronedig yng nghyfrif pensiwn ychwanegol aelod fod yn fwy na’r terfyn cyffredinol o bensiwn ychwanegol.
(2) Os gwnaed dewisiad gan yr aelod i wneud taliadau cyfnodol ar gyfer pensiwn ychwanegol, caiff y rheolwr cynllun, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r aelod, ddiddymu’r dewisiad hwnnw os yw’n ymddangos i’r rheolwr cynllun yr eir dros ben y terfyn cyffredinol o bensiwn ychwanegol os bydd yr aelod yn parhau i wneud y taliadau cyfnodol.
(3) Os yw’r rheolwr cynllun yn diddymu’r dewisiad, bydd y taliadau cyfnodol yn peidio â bod yn daladwy o’r cyfnod tâl nesaf sy’n dechrau ar ôl y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad diddymu.
5.—(1) Caiff aelod actif o’r cynllun hwn wneud dewisiad i wneud taliadau pensiwn ychwanegol i’r cynllun hwn er mwyn cynyddu buddion ymddeol a buddion marwolaeth yr aelod.
(2) Caiff aelod wneud y dewisiad pensiwn ychwanegol drwy roi hysbysiad i’r rheolwr cynllun ym mha bynnag ffurf sy’n ofynnol gan y rheolwr cynllun.
(3) Yn yr Atodlen hon, cyfeirir at yr hysbysiad a roddir yn is-baragraff (2) fel yr hysbysiad o ddewisiad.
(4) Rhaid i’r hysbysiad o ddewisiad ddatgan—
(a)a yw’r taliadau pensiwn ychwanegol i gael eu gwneud drwy—
(i)taliadau cyfnodol, neu
(ii)cyfandaliad;
(b)a oes gan yr aelod gyfrif pensiwn ychwanegol ai peidio gyda chyflogwr arall; ac
(c)a yw’r aelod yn gwneud dewisiad pensiwn ychwanegol mewn cysylltiad â chyflogaeth gynllun arall, ai peidio.
(5) Ni chaniateir gwneud dewisiad i dalu taliadau pensiwn ychwanegol drwy gyfandaliad oni fydd yr aelod wedi rhoi hysbysiad i’r rheolwr cynllun ddim hwyrach na 12 mis ar ôl y dyddiad y daeth y person yn gyflogedig ddiwethaf gan y cyflogwr cynllun hwnnw fel diffoddwr tân.
(6) Ni chaniateir gwneud dewisiad i dalu taliadau pensiwn ychwanegol drwy daliadau cyfnodol oni wneir hynny ddwy flynedd o leiaf cyn i’r aelod gyrraedd oedran pensiwn arferol, ac ni chaniateir gwneud dewisiad o’r fath unwaith y bydd y rheolwr cynllun wedi cytuno y bydd yr aelod yn gadael y gyflogaeth gynllun gyda hawlogaeth i bensiwn neu ddyfarniad afiechyd.
6. Mae’r Bennod hon yn gymwys mewn perthynas ag aelod actif o’r cynllun hwn sy’n gwneud dewisiad i wneud taliadau cyfnodol ar gyfer pensiwn ychwanegol.
7.—(1) Rhaid i’r hysbysiad o ddewisiad bennu—
(a)y cyfnod taliadau cyfnodol; a
(b)swm y taliad cyfnodol sydd i’w ddidynnu gan gyflogwr yr aelod allan o dâl pensiynadwy yr aelod ym mhob cyfnod tâl.
(2) Caniateir mynegi swm y taliad cyfnodol fel—
(a)canran o dâl pensiynadwy yr aelod; neu
(b)swm sefydlog.
(3) Ni chaiff swm y taliad cyfnodol fod yn llai nag unrhyw leiafswm a benderfynir gan y rheolwr cynllun.
8.—(1) Caiff y taliadau cyfnodol fod yn daladwy drwy ddidynnu o dâl pensiynadwy yr aelod gan ei gyflogwr yn ystod y cyfnod taliadau cyfnodol.
(2) Mae’r cyfnod taliadau cyfnodol—
(a)yn cychwyn gyda’r cyfnod tâl priodol cyntaf sy’n cychwyn ar neu ar ôl y dyddiad pan fo’r rheolwr cynllun yn cael yr hysbysiad o ddewisiad; a
(b)yn diweddu ar y cynharaf o’r canlynol—
(i)dyddiad dechrau’r cyfnod tâl priodol nesaf os yw’r aelod yn rhoi’r hysbysiad terfynu o dan baragraff 9,
(ii)dyddiad dechrau’r cyfnod tâl nesaf ar ôl y dyddiad a bennir mewn hysbysiad diddymu a roddir gan y rheolwr cynllun o dan baragraff 4(2),
(iii)y dyddiad y mae’r aelod yn peidio â bod yn aelod actif, a
(iv)y dyddiad a bennwyd yn yr hysbysiad o ddewisiad.
(3) Os nad yw’r aelod yn dymuno i’r taliadau cyfnodol gael eu gwneud drwy ddidynnu o’r tâl pensiynadwy, caiff y rheolwr cynllun gytuno ar ddull arall o dalu.
9. Os yw’r aelod yn dymuno terfynu’r taliadau cyfnodol, rhaid i’r aelod roi hysbysiad ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun.
10.—(1) Mae’r taliadau cyfnodol yn daladwy drwy ddidynnu o dâl pensiynadwy yr aelod yn ystod y cyfnod taliadau cyfnodol, a thra bo’r aelod yn cael ei drin fel pe bai’n cael tâl pensiynadwy tybiedig, tâl gostyngedig neu ddim tâl, caiff yr aelod—
(a)atal y taliadau cyfnodol; neu
(b)parhau i wneud y taliadau cyfnodol fel pe bai’r aelod yn cael tâl pensiynadwy ar y gyfradd lawn.
(2) Yn ystod unrhyw gyfnod pan fo’r aelod yn cael tâl mamolaeth statudol neu ar absenoldeb mamolaeth arferol gyda thâl, absenoldeb mabwysiadu arferol gyda thâl neu absenoldeb tadolaeth gyda thâl, caiff yr aelod—
(a)atal y taliadau cyfnodol; neu
(b)talu taliadau cyfnodol o swm a benderfynir drwy gyfeirio at dâl gwirioneddol yr aelod yn ystod y cyfnod hwnnw.
(3) Os yw aelod yn atal y taliadau cyfnodol yn ystod cyfnod o dâl pensiynadwy tybiedig neu gyfnod o dâl gostyngedig, caiff yr aelod ddewis ailddechrau gwneud taliadau cyfnodol yn y cyfnod tâl nesaf, wedi i’r cyfnod o dâl pensiynadwy tybiedig neu gyfnod o dâl gostyngedig ddod i ben.
(4) Ar ôl cyfnod o dâl pensiynadwy tybiedig neu gyfnod o dâl gostyngedig, caiff yr aelod roi hysbysiad ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun yn awdurdodi’r cyflogwr i ddidynnu’r taliadau cyfanredol y byddid wedi eu gwneud allan o dâl yr aelod yn ystod y cyfnod hwn, yn ystod y cyfnod o chwe mis o ddiwedd y cyfnod o dâl gostyngedig, neu pa bynnag gyfnod hwy a ganiateir gan y rheolwr cynllun.
(5) Rhaid rhoi hysbysiad o dan is-baragraff (4) i’r rheolwr cynllun ddim hwyrach nag un mis ar ôl diwedd y cyfnod o dâl pensiynadwy tybiedig neu dâl gostyngedig.
11.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys ar gyfer pob blwyddyn gynllun pa fo aelod yn gwneud taliadau cyfnodol er mwyn cynyddu buddion ymddeol yn ogystal â buddion marwolaeth yr aelod.
(2) Rhaid credydu swm o bensiwn ychwanegol i gyfrif pensiwn ychwanegol yr aelod ar gyfer y flwyddyn gynllun honno.
(3) Y swm a gredydir i’r cyfrif pensiwn ychwanegol yw’r swm a benderfynir gan y rheolwr cynllun drwy gyfeirio at ganllawiau actiwaraidd.
12. Mae’r Bennod hon yn gymwys mewn perthynas ag aelod actif o’r cynllun a wnaeth ddewisiad i wneud cyfandaliad ar gyfer pensiwn ychwanegol.
13.—(1) Rhaid i’r hysbysiad o ddewisiad bennu swm y cyfandaliad, ac ni chaiff fod yn llai nag unrhyw leiafswm a benderfynir gan y rheolwr cynllun.
(2) Os na thelir y cyfandaliad o fewn tri mis ar ôl y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad o ddewisiad, bydd yr hysbysiad o ddewisiad yn ddi-rym.
14.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw aelod yn gwneud dewisiad i dalu cyfandaliad er mwyn cynyddu buddion ymddeol a buddion marwolaeth yr aelod.
(2) Ar ôl talu’r cyfandaliad gan yr aelod, rhaid credydu swm o bensiwn ychwanegol i’r cyfrif pensiwn ychwanegol ar gyfer y flwyddyn gynllun berthnasol.
(3) Y swm a gredydir i’r cyfrif pensiwn ychwanegol yw’r swm a benderfynir gan y rheolwr cynllun drwy gyfeirio at ganllawiau actiwaraidd.
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: