- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gwnaed
13 Mawrth 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
16 Mawrth 2015
Yn dod i rym
6 Ebrill 2015
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) a Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2015.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Y swm y mae awdurdod lleol i ragdybio bod ei angen ar berson at ei anghenion personol o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 yw £25.50 bob wythnos.
3. Mae rheoliad 2 o Reoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Asesu Adnoddau) a Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2014(3) wedi ei ddirymu.
4.—(1) Mae Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Asesu Modd a Phenderfynu Ffioedd) (Cymru) 2011(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5 (uchafswm rhesymol y ffi am wasanaeth)—
(a)ym mharagraff (2) yn lle’r ffigur “£55.00” rhodder y ffigur “£60.00”, a
(b)ym mharagraff (3) yn lle’r ffigur “£55.00” rhodder y ffigur “£60.00”.
(3) Mae paragraff (2) o reoliad 5 o Reoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Asesu Adnoddau) a Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2014 wedi ei ddirymu.
5.—(1) Mae Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Taliadau Uniongyrchol) (Asesu Modd a Phenderfynu ar Ad-daliad neu Gyfraniad) (Cymru) 2011(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5 (yr uchafswm rhesymol o ad-daliad neu gyfraniad sy’n daladwy)—
(a)ym mharagraff (1) yn lle’r ffigur “£55.00” rhodder y ffigur “£60.00”, a
(b)ym mharagraff (2) yn lle’r ffigur “£55.00” rhodder y ffigur “£60.00”.
(3) Mae paragraff (2) o reoliad 6 o Reoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Asesu Adnoddau) a Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2014 wedi ei ddirymu.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
13 Mawrth 2015
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Asesu Modd a Phenderfynu Ffioedd) (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Penderfynu Ffioedd”) a Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Taliadau Uniongyrchol) (Asesu Modd a Phenderfynu ar Ad-daliad neu Gyfraniad) (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol”). Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu rheoliadau 2, 5(2) a 6(2) o Reoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Asesu Adnoddau) a Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2014 (“Rheoliadau 2014”).
Mae adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (“y Ddeddf”) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol, wrth asesu gallu person i dalu am lety o dan Ran 3 o’r Ddeddf, ragdybio, yn niffyg anghenion arbennig, fod angen swm rhagnodedig ar berson at ei anghenion personol bob wythnos. Mae rheoliad 2 yn rhagnodi £25.50 fel y swm y mae ei angen at anghenion personol o dan adran 22(4).
Mae rheoliad 3 yn dirymu rheoliad 2 o Reoliadau 2014 a oedd gynt yn rhagnodi’r swm at anghenion personol o dan adran 22(4).
Mae rheoliad 5 o’r Rheoliadau Penderfynu Ffioedd a rheoliad 5 o’r Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol yn rhagnodi yn eu trefn uchafswm rhesymol y ffi am wasanaeth a’r uchafswm rhesymol o ad-daliad neu gyfraniad sy’n daladwy am y gwasanaeth hwnnw. Mae rheoliadau 4(2) a 5(2) o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Penderfynu Ffioedd a’r Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol fel y daw yr uchafswm a nodir yn y naill a’r llall o’r Rheoliadau yn £60.00.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyflawni Polisïau ar gyfer Plant ac Oedolion, Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1948 p. 29. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22(4) o’r Ddeddf Cymorth Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atolden 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)|.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: