- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Caseinau a Chaseinadau (Cymru) 2016.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Offerynnau Statudol Cymru
Bwyd, Cymru
Gwnaed
20 Tachwedd 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
25 Tachwedd 2016
Coming into force
22 Rhagfyr 2016
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 6(4), 16(1)(a), (e), (f), 17(1), 26(1), (2)(e) a (3), 31(1) a 48 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1).
Yn unol ag adran 48(4A)(2) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd cyn gwneud y Rheoliadau hyn.
Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor, sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3).
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rheoliadau wedi eu cymhwyso yn rhannol (ynghyd â addasiadau) (1.10.2023) gan The Windsor Framework (Retail Movement Scheme: Public Health, Marketing and Organic Product Standards and Miscellaneous Provisions) Regulations 2023 (O.S. 2023/959), rhlau. 1(2), 4(b), Atod. 2 (ynghyd â rhlau. 7, 8)
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Caseinau a Chaseinadau (Cymru) 2016.
(2) Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 22 Rhagfyr 2016.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 22.12.2016, gweler rhl. 1(3)
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “casein asid bwytadwy” (“edible acid casein”) yw cynnyrch llaeth a geir drwy wahanu, golchi a sychu tolch a gafwyd drwy ddefnyddio asid i waddodi llaeth sgim a/neu gynhyrchion eraill a geir o laeth ac sy’n cydymffurfio â’r safonau a nodir yn Atodlen 1;
ystyr “caseinad bwytadwy” (“edible caseinate”) yw cynnyrch llaeth a geir drwy effaith casein bwytadwy neu dolch colfran casein bwytadwy gyda chyfryngau niwtraleiddio, ac sydd wedyn yn cael ei sychu ac sy’n cydymffurfio â’r safonau a nodir yn Atodlen 2;
ystyr “casein cywair llaeth bwytadwy” (“edible rennet casein”) yw cynnyrch llaeth a geir drwy wahanu, golchi a sychu tolch llaeth sgim a/neu gynhyrchion eraill a geir o laeth; ceir y dolch drwy adwaith cywair llaeth neu ensymau tolchi eraill ac sy’n cydymffurfio â’r safonau a nodir yn Atodlen 3;
ystyr “cynnyrch casein” (“casein product”) yw casein asid bwytadwy, caseinad bwytadwy neu gasein cywair llaeth bwytadwy;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “FIC” (“FIC”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac sy’n diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004(4);
mae i “gweithredydd busnes bwyd” yr ystyr a roddir i “food business operator” yn Erthygl 3 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor;
mae “gwerthu” (“sell”, “sale”) yn cynnwys meddu ar rywbeth i’w werthu a chynnig, dangos neu hysbysebu rhywbeth i’w werthu;
ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 1332/2008” (“Regulation (EC) No 1332/2008”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1332/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor yn ymwneud ag ensymau bwyd ac sy’n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 83/417/EEC, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999, Cyfarwyddeb 2000/13/EC, Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/112/EC a Rheoliad (EC) Rhif 258/97(5).
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 22.12.2016, gweler rhl. 1(3)
3. Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i gaseinau a chaseinadau wedi eu bwriadu i’w gwerthu ar gyfer eu bwyta gan bobl.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 22.12.2016, gweler rhl. 1(3)
4.—(1) Ni chaiff unrhyw berson ddefnyddio unrhyw gasein neu gaseinad wrth baratoi bwyd os nad yw’n cydymffurfio â’r safonau a nodir yn Atodlen 4.
(2) Rhaid i berson sy’n marchnata caseinau neu gaseinadau nad ydynt yn cydymffurfio â pharagraff (1), at ddiben ac eithrio defnyddio’r caseinau neu gaseinadau wrth baratoi bwyd, ddangos yn benodol, neu awgrymu’n glir natur neu ansawdd y cynnyrch neu’r defnydd y bwriedir ei wneud ohono.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 22.12.2016, gweler rhl. 1(3)
5.—(1) Ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw fwyd â label sy’n cynnwys enw unrhyw gynnyrch casein, pa un a yw wedi ei gysylltu â’r pecyn neu’r cynhwysydd neu wedi ei argraffu arno ai peidio, oni chydymffurfir â’r gofynion a nodir ym mharagraff (4).
(2) Ni chaiff unrhyw berson arddangos unrhyw docyn neu hysbysiad gydag unrhyw fwyd sy’n cael ei gynnig neu ei ddangos i’w werthu gan y person hwnnw, sy’n cynnwys enw unrhyw gynnyrch casein oni chydymffurfir â’r gofynion a nodir ym mharagraff (4).
(3) Ni chaiff unrhyw berson gyhoeddi, na bod yn rhan o gyhoeddi, unrhyw hysbyseb am fwyd sy’n cynnwys enw cynnyrch casein oni chydymffurfir â’r gofynion a nodir ym mharagraff (4).
(4) Y gofynion yw—
(a)bod y bwyd yn gynnyrch casein neu yn cynnwys cynnyrch casein; neu
(b)bod yr enw yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun sy’n dangos yn benodol neu’n awgrymu’n glir nad yw’r bwyd yn gynnyrch casein ac nad yw’n cynnwys cynnyrch casein.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 22.12.2016, gweler rhl. 1(3)
6.—(1) Heb leihau effaith darpariaethau FIC, ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw gynnyrch casein oni bai ei fod wedi ei farcio neu ei labelu â’r manylion a ganlyn—
(a)enw’r cynnyrch casein hwnnw fel y’i diffinnir yn rheoliad 2 ac, yn achos caseinadau bwytadwy, gan ddangos y cation neu gationau a restrir ym mharagraff 4 o Atodlen 2;
(b)yn achos cynhyrchion casein sy’n cael eu gwerthu fel cymysgeddau—
(i)y geiriau “mixture of” wedi eu dilyn gan enwau’r cynhyrchion casein sydd yn y cymysgedd, yn nhrefn ddisgynnol eu pwysau;
(ii)yn achos caseinadau bwytadwy, gan ddangos y cation neu gationau a restrir ym mharagraff 4 o Atodlen 2;
(iii)yn achos cymysgeddau sy’n cynnwys caseinadau bwytadwy, y cynnwys protein;
(c)pwysau net y cynnyrch casein, wedi ei fynegi mewn cilogramau neu gramau;
(d)enw neu enw busnes a chyfeiriad y gweithredydd busnes bwyd y marchnetir y cynnyrch o dan ei enw neu ei enw busnes, neu, os nad yw’r gweithredydd busnes bwyd hwnnw wedi ei sefydlu yn [F1y Deyrnas Unedig, enw neu enw busnes a chyfeiriad y sawl a’i mewnforiodd i farchnad y Deyrnas Unedig];
(e)yn achos cynnyrch casein wedi ei fewnforio o [F2drydedd wlad], enw gwlad tarddiad y cynnyrch; ac
(f)lot adnabod y cynnyrch casein neu’r dyddiad cynhyrchu.
(2) Rhaid i’r manylion y mae paragraff (1) yn eu gwneud yn ofynnol fod yn hawdd i’w gweld, yn glir i’w darllen, yn annileadwy ac wedi eu rhoi yn Saesneg, naill ai yn unig neu yn ogystal ag unrhyw iaith arall.
(3) Caniateir rhoi’r manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b)(iii), (c), (d) ac (e) mewn dogfen sy’n cyd-fynd â’r cynnyrch.
(4) Heb leihau effaith darpariaethau FIC, pan fo cynnwys protein llaeth unrhyw gynnyrch casein dros y lleiafswm a nodir ar gyfer y cynnyrch hwnnw—
(a)yng nghofnod 2 o’r tabl ym mharagraff 1 o Atodlen 1 mewn perthynas â chaseinau asid bwytadwy;
(b)yng nghofnod 2 o’r tabl ym mharagraff 1 o Atodlen 2 mewn perthynas â chaseinadau bwytadwy; neu
(c)yng nghofnod 2 o’r tabl ym mharagraff 1 o Atodlen 3 mewn perthynas â chasein cywair llaeth bwytadwy,
caiff person farcio’r ffaith ar becyn, label neu gynhwysydd y cynnyrch hwnnw.
(5) Pan fo cynnyrch casein sydd wedi ei farcio neu ei labelu ag “edible acid casein” yn unol â pharagraff (1)(a) yn cael ei farcio neu ei labelu yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg, rhaid defnyddio’r geiriau “casein asid bwytadwy”.
(6) Pan fo cynnyrch casein sydd wedi ei farcio neu ei labelu ag “edible caseinate” yn unol â pharagraff (1)(a) yn cael ei farcio neu ei labelu yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg, rhaid defnyddio’r geiriau “caseinad bwytadwy”.
(7) Pan fo cynnyrch casein sydd wedi ei farcio neu ei labelu ag “edible rennet casein” yn unol â pharagraff (1)(a) yn cael ei farcio neu ei labelu yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg, rhaid defnyddio’r geiriau “casein cywair llaeth bwytadwy”.
(8) Pan fo cynnyrch casein sydd wedi ei farcio neu ei labelu â “mixture of” yn unol â pharagraff (1)(b)(i) yn cael ei farcio neu ei labelu yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg, rhaid defnyddio’r geiriau “cymysgedd o” wedi eu dilyn gan enwau’r cynhyrchion casein sydd yn y cymysgedd, yn nhrefn ddisgynnol eu pwysau.
[F3(9) Yn y rheoliad hwn, ystyr “trydedd wlad” yw unrhyw wlad ac eithrio yr Ynysoedd Prydeinig.]
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 6(1)(d) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaeth Arbed) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1581), rhlau. 1(3), 15(2)(a)(i)
F2Geiriau yn rhl. 6(1)(e) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaeth Arbed) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1581), rhlau. 1(3), 15(2)(a)(ii)
F3Rhl. 6(9) wedi ei fewnosod (31.12.2020) gan Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaeth Arbed) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1581), rhlau. 1(3), 15(2)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 22.12.2016, gweler rhl. 1(3)
7. Dyletswydd awdurdod bwyd o fewn ei ardal ac awdurdod iechyd porthladd o fewn ei ddosbarth yw gorfodi’r Rheoliadau hyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 7 mewn grym ar 22.12.2016, gweler rhl. 1(3)
8.—(1) Mae adran 10(1) a (2) o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiad (yn achos adran 10(1)) a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 5 at ddibenion—
(a)galluogi i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno i berson sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau rheoliadau 4, 5, neu 6; a
(b)gwneud methu â chydymffurfio â hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a), yn drosedd.
(2) Mae darpariaethau’r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 y tabl yn Rhan 2 o Atodlen 5 yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw, at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(3) Nid yw paragraffau (1) a (2) yn lleihau effaith cymhwyso’r Ddeddf at y Rheoliadau hyn at ddibenion ac eithrio’r rhai a bennir ym mharagraff (1).
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 8 mewn grym ar 22.12.2016, gweler rhl. 1(3)
9. Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—
(a)Rheoliadau Caseinau a Chaseinadau 1985(6);
(b)Rheoliadau Caseinau a Chaseinedau (Diwygio) 1989(7).
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 9 mewn grym ar 22.12.2016, gweler rhl. 1(3)
10.—(1) Ni chaiff swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd gyflwyno i berson hysbysiad gwella sy’n ymwneud â methiant i gydymffurfio â rheoliad 6(1)(d) neu (e)—
(a)os byddai’r hysbysiad gwella’n ymwneud â chynnyrch a osodwyd ar y farchnad [F5cyn 1 Ionawr 2024]; a
(b)os na fyddai’r mater a fuasai’n ffurfio’r methiant honedig i gydymffurfio wedi bod yn fethiant i gydymffurfio â rheoliad 6(1)(d) neu (e) (yn ôl y digwydd) fel yr oedd y darpariaethau hynny’n cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “hysbysiad gwella” yw hysbysiad gwella yn unol â rheoliad 8.]
Diwygiadau Testunol
F4Rhl. 10 wedi ei fewnosod (14.4.2021) gan Rheoliadau Bwyd, Bwyd Anifeiliaid a Hadau (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (O.S. 2021/371), rhlau. 1(2), 8
F5Geiriau yn rhl. 10(1)(a) wedi eu hamnewid (30.9.2022) gan Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Diwygio Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/939), rhlau. 1(2), 10
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
20 Tachwedd 2016
Rheoliad 2
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 1 mewn grym ar 22.12.2016, gweler rhl. 1(3)
1 | Uchafswm cynnwys lleithedd | 12% yn ôl y pwysau |
2 | Lleiafswm cynnwys protein llaeth a gyfrifir o’r echdyniad sych | 90% yn ôl y pwysau |
lleiafswm cynnwys casein y protein llaeth | 95% yn ôl y pwysau | |
3 | Uchafswm cynnwys braster llaeth | 2% yn ôl y pwysau |
4 | Uchafswm asidedd titradiadwy wedi ei fynegi fel ml o hydoddiant sodiwm hydrocsid decinormal fesul g | 0,27 |
5 | Uchafswm cynnwys lludw (yn cynnwys P2O5) | 2,5% yn ôl y pwysau |
6 | Uchafswm cynnwys lactos anhydrus | 1% yn ôl y pwysau |
7 | Uchafswm cynnwys gwaddod (gronynnau wedi llosgi) | 22,5 mg mewn 25 g |
Uchafswm cynnwys plwm | 0,75 mg/kg |
Sylweddau estronol (fel gronynnau pren neu fetel, blew neu dameidiau o bryfed) | dim mewn 25 g |
4. Cymhorthion prosesu, meithriniadau bacteriol a chynhwysion awdurdodedig
sidau:
asid lactig
asid hydroclorig
asid sylffwrig
asid citrig
asid asetig
asid orthoffosfforig
meithriniadau bacteriol sy’n creu asid lactig
Maidd
1. | Arogl | Dim aroglau estron |
2. | Ymddangosiad | Lliw yn amrywio o wyn i wyn hufennog; ni chaniateir i’r cynnyrch gynnwys unrhyw lympiau na fyddent yn chwalu o dan bwysau ysgafn. |
Rheoliad 2
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 2 mewn grym ar 22.12.2016, gweler rhl. 1(3)
1 | Uchafswm cynnwys lleithedd | 8% yn ôl y pwysau |
2 | Lleiafswm cynnwys protein llaeth a gyfrifir o’r echdyniad sych | 88% yn ôl y pwysau |
lleiafswm cynnwys casein y protein llaeth | 95% yn ôl y pwysau | |
3 | Uchafswm cynnwys braster llaeth | 2% yn ôl y pwysau |
4 | Uchafswm cynnwys lactos anhydrus | 1% yn ôl y pwysau |
5 | Gwerth pH | 6,0 hyd at 8,0 |
6 | Uchafswm cynnwys gwaddod (gronynnau wedi llosgi) | 22,5 mg mewn 25 g |
Uchafswm cynnwys plwm | 0,75 mg/kg |
Sylweddau estronol (fel gronynnau pren neu fetel, blew neu dameidiau o bryfed) | dim mewn 25 g |
(cyfryngau niwtraleiddio a byffro opsiynol)
hydrocsidau | o | Sodiwm |
carbonadau | Potasiwm | |
ffosffadau | Calsiwm | |
citradau | Amoniwm | |
Magnesiwm |
1. | Arogl | Blasau ac aroglau estron ysgafn iawn |
2. | Ymddangosiad | Lliw yn amrywio o wyn i wyn hufennog; ni chaniateir i’r cynnyrch gynnwys unrhyw lympiau na fyddent yn chwalu o dan bwysau ysgafn. |
3. | Hydoddedd | Bron yn gyfan gwbl hydawdd mewn dŵr distyll, ac eithrio caseinad calsiwm. |
Rheoliad 2
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 3 mewn grym ar 22.12.2016, gweler rhl. 1(3)
1 | Uchafswm cynnwys lleithedd | 12% yn ôl y pwysau |
2 | Lleiafswm cynnwys protein llaeth a gyfrifir o’r echdyniad sych | 84% yn ôl y pwysau |
lleiafswm cynnwys casein y protein llaeth | 95% yn ôl y pwysau | |
3 | Uchafswm cynnwys braster llaeth | 2% yn ôl y pwysau |
4 | Uchafswm cynnwys lludw (yn cynnwys P2O5) | 7,5% yn ôl y pwysau |
5 | Uchafswm cynnwys lactos anhydrus | 1% yn ôl y pwysau |
6 | Uchafswm cynnwys gwaddod (gronynnau wedi llosgi) | 15 mg mewn 25 g |
Uchafswm cynnwys plwm | 0,75 mg/kg |
Sylweddau estronol (fel gronynnau pren neu fetel, blew neu dameidiau o bryfed) | dim mewn 25 g |
4. Cymhorthion prosesu
cywair llaeth sy’n bodloni gofynion Rheoliad (EC) Rhif 1332/2008(8);
ensymau tolchi llaeth eraill sy’n bodloni gofynion Rheoliad (EC) Rhif 1332/2008.
1. | Arogl | Dim aroglau estron |
2. | Ymddangosiad | Lliw yn amrywio o wyn i wyn hufennog; ni chaniateir i’r cynnyrch gynnwys unrhyw lympiau na fyddent yn chwalu o dan bwysau ysgafn. |
Rheoliad 4
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 4 mewn grym ar 22.12.2016, gweler rhl. 1(3)
Uchafswm cynnwys plwm | 0,75 mg/kg |
Sylweddau estronol (fel gronynnau pren neu fetel, blew neu dameidiau o bryfed) | dim mewn 25 g |
Rheoliad 8
1. Yn lle adran 10(1) rhodder—LL+C
“If an authorised officer has reasonable grounds for believing that a person is failing to comply with any of regulations 4, 5 or 6 of the Caseins and Caseinates (Wales) Regulations 2016, the authorised officer may, by a notice served on that person (in this Act referred to as an “improvement notice”)—
(a)state the officer’s grounds for believing that the person is failing to comply with the relevant provisions;
(b)specify the matters which constitute the person’s failure so to comply;
(c)specify the measures which, in the officer’s opinion, the person must take in order to secure compliance; and
(d)require the person to take measures, or measures that are at least equivalent to them, within such period (not being less than 14 days) as may be specified in the notice.”
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 22.12.2016, gweler rhl. 1(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 5 Rhn. 2 mewn grym ar 22.12.2016, gweler rhl. 1(3)
Colofn 1 Darpariaeth y Ddeddf | Colofn 2 Addasiadau |
---|---|
Adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.) | Yn is-adran (1), yn lle “this Act”, rhodder “the Caseins and Caseinates (Wales) Regulations 2016”. Yn is-adran (2), yn lle “this Act”, rhodder “the Caseins and Caseinates (Wales) Regulations 2016”. |
Adran 3 (rhagdybiaethau y bwriedir i fwyd gael ei fwyta gan bobl) | Yn is-adran (1), yn lle “this Act”, rhodder “the Caseins and Caseinates (Wales) Regulations 2016” |
Adran 20 (troseddau oherwydd bai person arall) | Yn lle “any of the preceding provisions of this Part”, rhodder “section 10(2), as applied by regulation 8 of the Caseins and Caseinates (Wales) Regulations 2016” |
Adran 21(1) a (5) (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) | Yn is-adran (1), yn lle “any of the preceding provisions of this Part”, rhodder “section 10(2), as applied by regulation 8 of the Caseins and Caseinates (Wales) Regulations 2016” |
Adran 30(8) (tystiolaeth o dystysgrifau a roddir gan ddadansoddydd neu archwilydd bwyd) | Yn lle “this Act”, rhodder “the Caseins and Caseinates (Wales) Regulations 2016” |
Adran 33 (rhwystro etc. swyddogion) | Yn is-adran (1), yn lle “this Act” (ym mhob man y digwydd), rhodder “the Caseins and Caseinates (Wales) Regulations 2016” |
Adran 35(1)(9) a (2)(10) (cosbi troseddau) | Yn is-adran (1), ar ôl “section 33(1) above”, mewnosoder “, as applied and modified by regulation 8 of, and Schedule 5 to, the Caseins and Caseinates (Wales) Regulations 2016” Ar ôl is-adran (1) mewnosoder— “(1A) A person guilty of an offence under section 10(2), as applied by regulation 8 of the Caseins and Caseinates (Wales) Regulations 2016, is liable, on summary conviction, to a fine.” Yn is-adran (2), yn lle “any other offence under this Act”, rhodder “an offence under section 33(2), as applied by regulation 8 of, and Schedule 5 to, the Caseins and Caseinates (Wales) Regulations 2016” |
Adran 36 (troseddau gan gyrff corfforaethol) | Yn is-adran (1), yn lle “this Act”, rhodder “section 10(2), as applied by regulation 8 of the Caseins and Caseinates (Wales) Regulations 2016” |
Adran 36A(11) (troseddau gan bartneriaethau Albanaidd) | Yn lle “this Act” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 8 of the Caseins and Caseinates (Wales) Regulations 2016” |
Adran 37(1), (3), (5) a (6) (apelau) | Yn lle is-adran (1) rhodder— “(1) Any person who is aggrieved by a decision of an authorised officer of a food authority to serve an improvement notice under section 10(1), as applied and modified by regulation 8 of the Caseins and Caseinates (Wales) Regulations 2016, may appeal to a magistrates’ court.” Yn lle is-adran (5) rhodder— “(5) The period within which such an appeal as is mentioned in subsection (1) above may be brought shall be—
Yn is-adran (6)— yn lle “(3) or (4)” rhodder “(1)”, ac ym mharagraff (a), hepgorer “or to the sheriff”. |
Adran 39 (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella) | Yn lle is-adran (1) rhodder— “(1) On an appeal against an improvement notice served under section 10(1), as applied and modified by regulation 8 of the Caseins and Caseinates (Wales) Regulations 2016, the magistrates’ court may either cancel or affirm the notice and, if it affirms it, may do so either in its original form or with such modifications as the court may in the circumstances think fit.” Yn is-adran (3), hepgorer “for want of prosecution”. |
Adran 44 (amddiffyn swyddogion sy’n gweithredu’n ddidwyll) | Yn lle “this Act” (ym mhob man y digwydd), rhodder “the Caseins and Caseinates (Wales) Regulations 2016” |
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb (EU) 2015/2203 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gyd-ddynesu cyfreithiau’r Aelod-wladwriaethau sy’n ymwneud â chaseinau a chaseinadau wedi eu bwriadu i’w bwyta gan bobl ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 83/417/EEC (OJ Rhif L 314, 1.12.2015, t 1).
Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Caseinau a Chaseinadau 1985 (O.S. 1985/2026) a Rheoliadau Caseinau a Chaseinadau (Diwygio) 1989 (O.S. 1989/2321) o ran Cymru.
Nid yw’r Rheoliadau hyn ond yn gymwys i gynhyrchion casein wedi eu bwriadu i’w bwyta gan bobl (rheoliad 3).
Mae’r Rheoliadau hyn—
(a)yn rhagnodi diffiniadau a safonau ar gyfer cynhyrchion casein penodol (rheoliad 2 ac Atodlenni 1 i 3);
(b)yn gwahardd defnyddio unrhyw gasein neu gaseinad wrth baratoi bwyd os nad yw’n cydymffurfio â safonau neilltuol (rheoliad 4 ac Atodlen 4);
(c)yn ddarostyngedig i eithriadau penodedig, yn gwahardd labelu neu hysbysebu bwyd ag enwau cynhyrchion casein os nad yw’r bwyd yn gynnyrch casein neu’n cynnwys cynnyrch casein (rheoliad 5);
(d)yn gosod gofynion ychwanegol o ran labelu cynhyrchion casein (rheoliad 6);
(e)yn gosod rhwymedigaeth ar bob cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol i orfodi’r Rheoliadau yn ei ardal (rheoliad 7);
(f)yn cymhwyso gydag addasiadau ddarpariaethau penodol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p. 16). Mae hyn yn cynnwys cymhwyso (gydag addasiadau) adran 10(1), sy’n galluogi i hysbysiad gwella gael ei gyflwyno sy’n gwneud cydymffurfedd â rheoliadau 4, 5 neu 6 o’r Rheoliadau hyn yn ofynnol. Mae’r darpariaethau, fel y maent yn cael eu cymhwyso, yn gwneud methu â chydymffurfio â hysbysiad gwella yn drosedd (rheoliad 8).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1990 p. 16. Diwygiwyd adran 6(4) gan baragraff 6 o Atodlen 9 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p. 40), paragraff 10(1) a (3) o Atodlen 5 ac Atodlen 6 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28) (“Ddeddf 1999”), ac O.S. 2002/794. Diwygiwyd adran 16(1) gan baragraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 17(1) gan baragraffau 8 a 12(a) o Atodlen 5 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2011/1043. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 48 gan baragraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999. Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers”, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S 1999/672 fel y’i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, a’u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
Mewnosodwyd adran 48(4A) gan baragraff 21 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999.
OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t 1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 652/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 189, 27.6.2014, t 1).
OJ Rhif L 304, 22.11.2011, t 18, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 78/2014 (OJ Rhif L 27, 30.1.2014, t 7).
OJ Rhif L 354, 3.12.2008, t 7, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1056/2012 (OJ Rhif L 313, 13.11.2012, t 9).
OJ Rhif L 354, 3.12.2008, t 7, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1056/2012 dyddiedig 12 Tachwedd 2012.
Mae adran 35(1) wedi ei diwygio gan baragraff 42 o Atodlen 26 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p. 44) o ddyddiad i’w benodi. Mae diwygiadau eraill i adran 35(1) nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Diwygiwyd adran 35(2) gan O.S. 2015/664. Mae diwygiadau eraill i adran 35(2) nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Mewnosodwyd adran 36A gan adran 40(1) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28) a pharagraffau 7 ac 16 o Atodlen 5 iddi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:
The data on this page is available in the alternative data formats listed: