Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â’r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2016

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2016 Rhif 135 (Cy. 65)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â’r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2016

Gwnaed

3 Chwefror 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

11 Chwefror 2016

Yn dod i rym

1 Medi 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 122(1) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1) a pharagraffau 6B(1)(a) ac 13B(2) o Atodlen 26 iddi, a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 77(2) a (9), 150 a 152 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000(2), a chan adrannau 28(1), 50(4) ac (8), 55(4), 56(3) a 120(2) o Ddeddf Addysg 2005(3), a pharagraff 2(1) o Atodlen 6 iddi, ac sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â’r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2016 a deuant i rym ar 1 Medi 2016.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001

2.  Yn rheoliad 2 o Reoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001(4), yn lle paragraff (1)(b) rhodder—

(b)ym mhob achos arall, o leiaf unwaith o fewn cyfnod o saith mlynedd yn dechrau ar 1 Medi 2016 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2023 ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd wedi hynny yn dechrau pan ddaw’r cyfnod blaenorol i ben.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006

3.  Mae Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn—

(a)yn rheoliad 6, yn lle paragraff (1)(b) rhodder—

(b)ym mhob achos arall, o leiaf unwaith o fewn cyfnod o saith mlynedd yn dechrau ar 1 Medi 2016 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2023 ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd wedi hynny yn dechrau pan ddaw’r cyfnod blaenorol i ben.; a

(b)yn rheoliad 14, yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)ym mhob achos arall, o leiaf unwaith o fewn cyfnod o saith mlynedd yn dechrau ar 1 Medi 2016 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2023 ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd wedi hynny yn dechrau pan ddaw’r cyfnod blaenorol i ben.

Diwygio Rheoliadau Arolygu’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006

4.  Yn rheoliad 4 o Reoliadau Arolygu’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006(6), yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Ac eithrio pan fo rheoliad 3 yn gymwys, rhaid i’r Prif Arolygydd arolygu pob darparydd gwasanaeth o dan adran 55 o Ddeddf 2005 a phob darparydd perthnasol o dan adran 56 o Ddeddf 2005 o leiaf unwaith o fewn cyfnod o saith mlynedd yn dechrau ar 1 Medi 2016 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2023 ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd wedi hynny yn dechrau pan ddaw’r cyfnod blaenorol i ben.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 2015

5.  Mae Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 2015(7) wedi eu diwygio fel a ganlyn—

(a)yn rheoliad 3, yn lle paragraff (2)(f), rhodder—

(f)yn achos addysg feithrin a ddarperir gan berson sydd wedi ei gofrestru gan Weinidogion Cymru o dan adrannau 20 neu 22 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(8), y person hwnnw a Gweinidogion Cymru; a

(b)yn rheoliad 4, yn lle paragraff (1)(b), rhodder—

(b)ym mhob achos arall, o leiaf unwaith o fewn cyfnod o saith mlynedd yn dechrau ar 1 Medi 2016 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2023 ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd wedi hynny yn dechrau pan ddaw’r cyfnod blaenorol i ben.

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

3 Chwefror 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio—

(a)Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001,

(b)Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006,

(c)Rheoliadau Arolygu’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006, a

(d)Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 2015,

er mwyn ei gwneud yn ofynnol i Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru/Her Majesty’s Chief Inspector of Education and Training in Wales arolygu o leiaf unwaith o fewn cyfnod o saith mlynedd yn dechrau ar 1 Medi 2016 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2023 ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd wedi hynny (rheoliadau 2, 3 a 4).

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn cywiro rheoliad 3(2)(f) o Reoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”). Mae rheoliad 3(2)(f) o Reoliadau 2015 yn cyfeirio at swyddogaethau cofrestru awdurdodau lleol yn adrannau 20 a 22 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (“Mesur 2010”). Mae rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r cyfeiriad hwnnw er mwyn iddo gyfeirio at swyddogaethau cofrestru Gweinidogion Cymru yn adrannau 20 neu 22 o Fesur 2010.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oed yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1998 p. 31. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac maent yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(2)

2000 p. 21. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

(3)

2005 p. 18. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

(4)

O.S. 2001/2501 (Cy. 204) fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Diwygio) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/783 (Cy. 80)), Gorchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu’r Cyngor) 2005 (O.S. 2005/3238 (Cy. 243)), Rheoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â’r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1436 (Cy. 127)) a Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud ag Arolygu Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/1212 (Cy. 128)).

(5)

O.S. 2006/1714 (Cy. 176) fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â’r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1436 (Cy. 127)) a Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud ag Arolygu Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/1212 (Cy. 128)).

(6)

O.S. 2006/3103 (Cy. 286) fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â’r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1436 (Cy. 127)) a Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud ag Arolygu Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/1212 (Cy. 128)).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources