Search Legislation

Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 2(5)

ATODLEN 5Safonau sy’n ymdrin â Materion Atodol

RHAN 1SAFONAU CYFLENWI GWASANAETHAU

1Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i safonau cyflenwi gwasanaethau
Safon 149:

Rhaid ichi sicrhau bod dogfen sy’n cofnodi’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau hynny, ar gael—

(a)

ar eich gwefan, a

(b)

ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.

2Corff yn cyhoeddi gweithdrefn gwyno
Safon 150:

Rhaid ichi—

(a)

sicrhau bod gennych weithdrefn gwyno sy’n delio â’r materion a ganlyn—

(i)

sut yr ydych yn bwriadu delio â chwynion ynglŷn â’ch cydymffurfedd â’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a

(ii)

sut y byddwch yn darparu hyfforddiant i’ch staff ynglŷn â delio â’r cwynion hynny,

(b)

cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r weithdrefn honno ar eich gwefan, ac

(c)

sicrhau bod copi o’r ddogfen honno ar gael ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.

3Corff yn cyhoeddi trefniadau goruchwylio, hybu etc.
Safon 151:

Rhaid ichi—

(a)

sicrhau bod gennych drefniadau ar gyfer—

(i)

goruchwylio’r modd yr ydych yn cydymffurfio â’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy,

(ii)

hybu’r gwasanaethau a gynigir gennych yn unol â’r safonau hynny, a

(iii)

hwyluso defnyddio’r gwasanaethau hynny,

(b)

cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r trefniadau hynny ar eich gwefan, ac

(c)

sicrhau bod copi o’r ddogfen honno ar gael ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.

4Corff yn llunio adroddiad blynyddol ynglŷn â safonau cyflenwi gwasanaethau
Safon 152:

(1Rhaid ichi lunio adroddiad (“adroddiad blynyddol”), yn Gymraeg, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, sy’n delio â’r modd y bu ichi gydymffurfio â’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy yn ystod y flwyddyn honno.

(2Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys nifer y cwynion a gawsoch yn ystod y flwyddyn honno a oedd yn ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.

(3Rhaid ichi gyhoeddi’r adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach na 6 mis yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

(4Rhaid ichi roi cyhoeddusrwydd i’r ffaith eich bod wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol.

(5Rhaid ichi sicrhau bod copi cyfredol o’ch adroddiad blynyddol ar gael—

(a)ar eich gwefan, a

(b)ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.

5Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r modd y mae’n bwriadu cydymffurfio â safonau cyflenwi gwasanaethau
Safon 153:Rhaid ichi gyhoeddi dogfen ar eich gwefan sy’n esbonio sut yr ydych yn bwriadu cydymffurfio â’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.
6Corff yn darparu gwybodaeth i Gomisiynydd y Gymraeg
Safon 154:Rhaid ichi ddarparu unrhyw wybodaeth y bydd Comisiynydd y Gymraeg yn gofyn amdani sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau cyflenwi gwasanaethau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.

RHAN 2SAFONAU LLUNIO POLISI

7Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i safonau llunio polisi
Safon 155:

Rhaid ichi sicrhau bod dogfen sy’n cofnodi’r safonau llunio polisi yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau hynny, ar gael—

(a)

ar eich gwefan, a

(b)

ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.

8Corff yn cyhoeddi gweithdrefn gwyno
Safon 156:

Rhaid ichi—

(a)

sicrhau bod gennych weithdrefn gwyno sy’n delio â’r materion a ganlyn—

(i)

sut yr ydych yn bwriadu delio â chwynion ynglŷn â’ch cydymffurfedd â’r safonau llunio polisi yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a

(ii)

sut y byddwch yn darparu hyfforddiant i’ch staff ynglŷn â delio â’r cwynion hynny,

(b)

cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r weithdrefn honno ar eich gwefan, ac

(c)

sicrhau bod copi o’r ddogfen honno ar gael ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.

9Corff yn cyhoeddi trefniadau goruchwylio
Safon 157:

Rhaid ichi—

(a)

sicrhau bod gennych drefniadau ar gyfer goruchwylio’r modd yr ydych yn cydymffurfio â’r safonau llunio polisi yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy,

(b)

cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r trefniadau hynny ar eich gwefan, ac

(c)

sicrhau bod copi o’r ddogfen honno ar gael ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.

10Corff yn llunio adroddiad blynyddol ynglŷn â safonau llunio polisi
Safon 158:

(1Rhaid ichi lunio adroddiad, (“adroddiad blynyddol”), yn Gymraeg, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, sy’n delio â’r modd y bu ichi gydymffurfio â’r safonau llunio polisi yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy yn ystod y flwyddyn honno.

(2Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys nifer y cwynion a gawsoch yn ystod y flwyddyn a oedd yn ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau llunio polisi yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.

(3Rhaid ichi gyhoeddi’r adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach na 6 mis yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

(4Rhaid ichi roi cyhoeddusrwydd i’r ffaith eich bod wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol.

(5Rhaid ichi sicrhau bod copi cyfredol o’ch adroddiad blynyddol ar gael—

(a)ar eich gwefan, a

(b)ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.

11Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r modd y mae’n bwriadu cydymffurfio â safonau llunio polisi
Safon 159:Rhaid ichi gyhoeddi dogfen ar eich gwefan sy’n esbonio sut yr ydych yn bwriadu cydymffurfio â’r safonau llunio polisi yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.
12Corff yn darparu gwybodaeth i Gomisiynydd y Gymraeg
Safon 160:Rhaid ichi ddarparu unrhyw wybodaeth y bydd Comisiynydd y Gymraeg yn gofyn amdani sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau llunio polisi yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.

RHAN 3SAFONAU GWEITHREDU

13Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i safonau gweithredu
Safon 161:

Rhaid ichi sicrhau bod dogfen sy’n cofnodi’r safonau gweithredu yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau hynny, ar gael—

(a)

ar eich gwefan, a

(b)

ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.

14Corff yn cyhoeddi gweithdrefn gwyno
Safon 162:

Rhaid ichi—

(a)

sicrhau bod gennych weithdrefn gwyno sy’n delio â’r materion a ganlyn—

(i)

sut yr ydych yn bwriadu delio â chwynion ynglŷn â’ch cydymffurfedd â’r safonau gweithredu yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a

(ii)

sut y byddwch yn darparu hyfforddiant i’ch staff ynglŷn â delio â’r cwynion hynny, a

(b)

cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r weithdrefn honno ar eich mewnrwyd.

15Corff yn cyhoeddi trefniadau goruchwylio, hybu etc.
Safon 163:

Rhaid ichi—

(a)

sicrhau bod gennych drefniadau ar gyfer—

(i)

goruchwylio’r modd yr ydych yn cydymffurfio â’r safonau gweithredu yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy,

(ii)

hybu’r gwasanaethau a gynigir gennych yn unol â’r safonau hynny, a

(iii)

hwyluso defnyddio’r gwasanaethau hynny, a

(b)

cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r trefniadau hynny ar eich mewnrwyd.

16Corff yn llunio adroddiad blynyddol ynglŷn â safonau gweithredu
Safon 164:

(1Rhaid ichi lunio adroddiad (“adroddiad blynyddol”), yn Gymraeg, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, sy’n delio â’r modd y bu ichi gydymffurfio â’r safonau gweithredu yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy yn ystod y flwyddyn honno.

(2Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys yr wybodaeth a ganlyn (pan fo’n berthnasol, i’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau y cyfeirir atynt)—

(a)nifer y cyflogeion sy’n meddu ar sgiliau yn y Gymraeg ar ddiwedd y flwyddyn o dan sylw (ar sail cofnodion a gadwasoch yn unol â safon 145);

(b)nifer yr aelodau o staff a fynychodd gyrsiau hyfforddi a gynigiwyd gennych yn y Gymraeg yn ystod y flwyddyn (ar sail cofnodion a gadwasoch yn unol â safon 146);

(c)os cynigiwyd fersiwn Gymraeg o gwrs gennych yn ystod y flwyddyn, y ganran o gyfanswm nifer y staff a fynychodd y cwrs a fynychodd y fersiwn Gymraeg (ar sail cofnodion a gadwasoch yn unol â safon 146);

(ch)nifer y swyddi newydd a’r swyddi gwag a hysbysebwyd gennych yn ystod y flwyddyn a gategoreiddiwyd fel swyddi sy’n gofyn—

(i)bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol,

(ii)bod angen dysgu sgiliau yn y Gymraeg pan benodir i’r swydd,

(iii)bod sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol, neu

(iv)nad oedd sgiliau yn y Gymraeg yn angenrheidiol,

(ar sail y cofnodion a gadwasoch yn unol â safon 148);

(d)nifer y cwynion a gawsoch yn ystod y flwyddyn a oedd yn ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau gweithredu yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.

(3Rhaid ichi gyhoeddi’r adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach na 6 mis yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

(4Rhaid ichi roi cyhoeddusrwydd i’r ffaith eich bod wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol.

(5Rhaid ichi sicrhau bod copi cyfredol o’ch adroddiad blynyddol ar gael—

(a)ar eich gwefan, a

(b)ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.

17Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r modd y mae’n bwriadu cydymffurfio â safonau gweithredu
Safon 165:Rhaid ichi gyhoeddi dogfen ar eich gwefan sy’n esbonio sut yr ydych yn bwriadu cydymffurfio â’r safonau gweithredu yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.
18Corff yn darparu gwybodaeth i Gomisiynydd y Gymraeg
Safon 166:Rhaid ichi ddarparu unrhyw wybodaeth y bydd Comisiynydd y Gymraeg yn gofyn amdani sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau gweithredu yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy.

RHAN 4SAFONAU CADW COFNODION

19Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i safonau cadw cofnodion
Safon 167:

Rhaid ichi sicrhau bod dogfen sy’n cofnodi’r safonau cadw cofnodion yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau hynny, ar gael—

(a)

ar eich gwefan, a

(b)

ym mhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.

20Corff yn darparu gwybodaeth i Gomisiynydd y Gymraeg
Safon 168:Rhaid ichi ddarparu unrhyw gofnodion a gadwasoch yn unol â’r safonau cadw cofnodion yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy i Gomisiynydd y Gymraeg, os bydd y Comisiynydd yn gofyn am y cofnodion hynny.

RHAN 5DEHONGLI’R SAFONAU

21Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhannau 1 i 4 fel a ganlyn.
22At ddibenion safonau 152, 158 a 164, ystyr “blwyddyn ariannol” yw blwyddyn ariannol y corff ei hun.
23At ddiben y safonau, nid yw gofyniad i lunio neu gyhoeddi unrhyw ddeunydd ysgrifenedig yn Gymraeg yn golygu y dylid llunio neu gyhoeddi’r deunydd hwnnw yn Gymraeg yn unig, ac nid yw’n golygu ychwaith y dylid llunio’r deunydd yn Gymraeg yn gyntaf (oni nodir hynny yn benodol yn y safon).

RHAN 6DARPARIAETH ATODOL

24Gweithdrefnau cwyno

(1Pan fydd corff o dan ddyletswydd i gydymffurfio ag un neu ragor o’r safonau a ganlyn, caiff—

(a)cydymffurfio â hwy mewn un weithdrefn gwyno;

(b)diwygio gweithdrefn gwyno sy’n bodoli eisoes.

(2Y safonau yw—

(a)safon 150;

(b)safon 156;

(c)safon 162.

25Trefniadau goruchwylio

(1Pan fydd corff o dan ddyletswydd i gydymffurfio ag un neu ragor o’r safonau a ganlyn, caiff gydymffurfio â hwy drwy un set o drefniadau goruchwylio.

(2Y safonau yw—

(a)safon 151;

(b)safon 157;

(c)safon 163.

26Adroddiadau blynyddol

(1Pan fydd corff o dan ddyletswydd i gydymffurfio ag un neu ragor o’r safonau a ganlyn, caiff gydymffurfio â hwy drwy gynnwys yr wybodaeth angenrheidiol mewn un adroddiad blynyddol o’r enw “Adroddiad Blynyddol Safonau’r Gymraeg”.

(2Y safonau yw—

(a)safon 152;

(b)safon 158;

(c)safon 164.

27Rhoi cyhoeddusrwydd i’r modd y mae corff yn bwriadu cydymffurfio â safonau

(1Pan fydd corff o dan ddyletswydd i gydymffurfio ag un neu ragor o’r safonau a ganlyn, caiff gydymffurfio â hwy mewn un ddogfen.

(2Y safonau yw—

(a)safon 153;

(b)safon 159;

(c)safon 165.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources