- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
7.—(1) Mae Rheoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 2007(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1 (enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso)—
(a)hepgorer y diffiniad o “tîm integredig cymorth i deuluoedd”;
(b)yn y diffiniad o “ymwelydd annibynnol”, yn lle “baragraff 17 o Atodlen 2 i’r Ddeddf” rhodder “adran 98 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014”; ac
(c)yn y diffiniad o “awdurdod cyfrifol”—
(i)hepgorer paragraff (a),
(ii)ym mharagraff (b), hepgorer “nad yw’n derbyn gofal awdurdod lleol”, a
(iii)ym mharagraff (c), hepgorer “naill ai’n derbyn gofal awdurdod lleol nac”.
(3) Yn rheoliad 2 (dyletswydd i adolygu achosion plant), hepgorer “tra bydd yn derbyn gofal neu”.
(4) Yn rheoliad 4 (amser pan fo’n rhaid adolygu pob achos)—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “derbyn gofal gan yr awdurdod cyfrifol neu’n dechrau cael ei letya ganddo”, rhodder “cael ei letya gan yr awdurdod cyfrifol”; a
(b)yn lle paragraff (3), rhodder—
“(3) Nid oes dim byd yn y rheoliad hwn yn rhwystro’r awdurdod cyfrifol rhag adolygu’r achos cyn yr amser a bennir ym mharagraff (1) neu (2) ac, yn benodol, rhaid iddo wneud hynny os yw’r swyddog adolygu annibynnol yn cyfarwyddo hynny.”.
(5) Yn rheoliad 5(2) (y dull ar gyfer adolygu achosion), hepgorer “y mae plentyn yn derbyn gofal ganddo neu”.
(6) Hepgorer rheoliad 6A (ystyriaethau ychwanegol y mae awdurdodau cyfrifol i roi sylw iddynt pan fo tîm integredig cymorth i deuluoedd yn ymgysylltu).
(7) Yn rheoliad 7(1) (adolygiadau iechyd), yn lle “sy’n parhau i dderbyn gofal neu y darperir llety iddo ganddo”, rhodder “y mae’n parhau i ddarparu llety iddo”.
(8) Yn rheoliad 8 (ymgynghori, cymryd rhan a hysbysu)—
(a)ym mharagraff (1), hepgorer is-baragraff (chch); a
(b)ym mharagraff (3), hepgorer is-baragraff (chch).
(9) Yn rheoliad 12 (cymhwyso’r rheoliadau i gyfnodau byr)—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “plentyn i dderbyn gofal neu bod llety yn cael ei ddarparu iddo”, rhodder “llety yn cael ei ddarparu i blentyn”; a
(b)ym mharagraff (3), yn lle “sy’n parhau i dderbyn gofal neu y darperir llety iddo”, rhodder “y bydd llety yn parhau i gael ei ddarparu iddo”.
(10) Yn rheoliad 14 (eithriadau i gymhwysiad y rheoliadau), hepgorer “gan awdurdod lleol neu”.
(11) Yn Atodlen 1 (elfennau sydd i’w cynnwys mewn adolygiad)—
(a)ym mharagraff 1, yn lle “wrth i’r plentyn dderbyn gofal” rhodder “ar gyfer darparu llety i’r plentyn”; a
(b)ym mharagraff 5—
(i)hepgorer is-baragraff (b), a
(ii)yn is-baragraff (c), yn lle “y Ddeddf”, rhodder “Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014”.
(12) Yn Atodlen 2 (ystyriaethau y mae awdurdodau cyfrifol i roi sylw iddynt)—
(a)hepgorer paragraffau (1), (2) a (7);
(b)ym mharagraff (5), hepgorer “o ran bod y plentyn yn derbyn gofal neu”; ac
(c)ym mharagraff (10), yn lle “fydd y plentyn yn derbyn gofal neu pan na ddarperir llety iddo”, rhodder “ddarperir llety i’r plentyn”.
(13) Hepgorer Atodlen 4 (ystyriaethau ychwanegol y mae awdurdodau lleol i roi sylw iddynt pan fo tîm integredig cymorth i deuluoedd yn ymgysylltu).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: