Rheoliad 325
YR ATODLENLL+CDarpariaethau trosiannol ac arbed
DehongliLL+C
1. Yn yr Atodlen hon—
ystyr “Deddf 1948” (“the 1948 Act”) yw Deddf Cymorth Gwladol 1948();
ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983();
ystyr “Deddf 2001” (“the 2001 Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001();
ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Plant 2004();
ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013();
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Adran 26 o Ddeddf Plant 1989LL+C
2. Yn unol â’r ddarpariaeth sydd wedi ei gwneud yn erthygl 3 o Orchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaeth Arbed) (Cymru) 2016() ac er gwaethaf y ddarpariaeth sydd wedi ei gwneud yn rheoliad 90, mae adran 26 o Ddeddf Plant 1989 yn parhau i gael effaith heb ei diwygio at ddibenion paragraff 10(2)(1) o’r Ddeddf honno (rheoliadau o ran lleoli plant mewn cartrefi preifat i blant).
Darpariaethau trosiannol ac arbed cyffredinolLL+C
3.—(1) Er gwaethaf y diwygiadau sydd wedi eu gwneud gan y Rheoliadau hyn, ar neu ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym—
(a)caniateir i gymorth neu wasanaethau barhau i gael eu darparu, a
(b)caniateir i daliadau tuag at gost cymorth neu wasanaethau barhau i gael eu gwneud,
yn achos person y mae cymorth neu wasanaethau yn cael eu darparu iddo neu mewn perthynas ag ef, neu y mae taliadau yn cael eu gwneud iddo neu mewn perthynas ag ef tuag at gost cymorth neu wasanaethau, yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
(2) Mae is-baragraff (1) yn gymwys—
(a)hyd nes y bydd Rhan 4 o’r Ddeddf yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth neu wasanaethau, neu wneud taliadau tuag at gost cymorth neu wasanaethau, yn achos y person hwnnw yn rhinwedd darpariaeth drosiannol sydd wedi ei gwneud mewn gorchymyn o dan adran 199(2) o’r Ddeddf (cychwyn), neu
(b)os yw’n gynharach, tan 31 Mawrth 2017.
(3) Er gwaethaf y diwygiadau sydd wedi eu gwneud gan y Rheoliadau hyn—
(a)mae unrhyw ddarpariaeth sy’n gweithredu mewn perthynas â chymorth neu wasanaethau a ddarperir, neu drwy gyfeirio atynt, neu daliadau a wneir tuag at gost cymorth neu wasanaethau, cyn neu (yn unol ag is-baragraff (1)) ar neu ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym, a
(b)mae unrhyw beth a wneir o dan y ddarpariaeth honno,
yn parhau i gael effaith at ddiben y cymorth hwnnw neu’r gwasanaethau neu’r taliadau hynny, yn ddarostyngedig i is-baragraff (6).
(4) Mae’r cyfeiriadau yn is-baragraff (3) at gymorth neu wasanaethau a ddarperir, neu daliadau a wneir, cyn y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym yn cynnwys cymorth neu wasanaethau nas darperir ond y mae’n ofynnol, neu y caniateir, iddynt gael eu darparu neu y mae’n bosibl y bydd yn ofynnol, neu y caniateir, iddynt gael eu darparu, neu daliadau nas gwneir ond y mae’n ofynnol, neu y caniateir, iddynt gael eu gwneud neu y mae’n bosibl y bydd yn ofynnol, neu y caniateir, iddynt gael eu gwneud, cyn y dyddiad hwnnw.
(5) Mae’r ddarpariaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (3) yn cynnwys, yn benodol, ddarpariaeth ynghylch—
(a)costau a symiau eraill sy’n daladwy a’u hadennill;
(b)gwasanaethau cyfreithiol sifil (o fewn yr ystyr a roddir i “civil legal services” yn Rhan 1 o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012);
(c)troseddau.
(6) Nid yw is-baragraff (3) yn awdurdodi awdurdod lleol i wneud unrhyw un o’r canlynol ar neu ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym—
(a)creu arwystl o dan adran 22(1) o Ddeddf 1983;
(b)gwneud gorchymyn o dan adran 23(1) o’r Ddeddf honno;
(c)ymrwymo i gytundeb ar daliadau gohiriedig o dan adran 55(1) o Ddeddf 2001.
(7) Pan fo deddfiad yn peidio â chael effaith o dan y Rheoliadau hyn at ddiben y mae awdurdod lleol yn dal tir ar ei gyfer yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, mae’r tir i gael ei drin fel pe bai wedi ei gyfeddu at ba ddibenion bynnag o’r Ddeddf y mae’r awdurdod yn eu dynodi.
(8) Pan fo deddfiad yn peidio â chael effaith o dan y Rheoliadau hyn at ddiben y mae gan awdurdod lleol hawl i ddefnyddio tir ar ei gyfer yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym—
(a)mae’r awdurdod yn parhau i fod â’r hawl honno i ddefnyddio’r tir at ba ddibenion bynnag o’r Ddeddf y mae’r awdurdod yn eu dynodi, ond
(b)nid yw hynny’n effeithio ar yr amgylchiadau (ac eithrio bod y deddfiad yn peidio â chael effaith) y mae’r hawl yn peidio odanynt.
(9) Nid yw’r paragraff hwn yn rhagfarnu adran 16 o Ddeddf Dehongli 1978() (arbedion cyffredinol).
Darpariaeth drosiannol mewn perthynas â gorfodi dyledionLL+C
4.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (4) a (5), gellir adennill swm neu ffi y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo neu iddi o dan adran 70 o’r Ddeddf (adennill costau, llog etc) fel pe bai’n swm sy’n ddyledus i’r awdurdod lleol o dan sylw o dan Ran 5 o’r Ddeddf.
(2) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i unrhyw swm neu ffi sy’n ddyledus i awdurdod lleol yng Nghymru o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau perthnasol mewn cysylltiad â chymorth neu wasanaethau (gan gynnwys swm neu ffi sy’n dod yn ddyledus ar neu ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym).
(3) At ddibenion is-baragraff (2), y darpariaethau perthnasol yw—
(a)Rhan 3 o Ddeddf 1948 (gwasanaethau awdurdodau lleol);
(b)adran 17 o Ddeddf 1983 (ffioedd am wasanaethau awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr);
(c)adran 29 o Ddeddf Plant 1989();
(d)Rhan 3 o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno;
(e)Mesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2010().
(4) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i swm na ffi y mae achos adennill wedi dechrau mewn cysylltiad ag ef neu hi cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
(5) Gellir adennill swm neu ffi o dan is-baragraff (1) o fewn y cyfnod y gallai, oni bai am y paragraff hwn, fod wedi ei hadennill o’i fewn o dan adran 56 o Ddeddf 1948 (achosion cyfreithiol) neu, yn ôl y digwydd, o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau perthnasol.
(6) Er gwaethaf paragraff 3(3) o’r Atodlen hon, nid yw adran 56(1) o Ddeddf 1948 nac unrhyw un o’r darpariaethau perthnasol yn gymwys mewn perthynas â swm neu ffi y gellir ei adennill neu ei hadennill o dan is-baragraff (1).
Darpariaeth drosiannol sy’n ymwneud ag anghydfodau ynghylch preswylfa arferolLL+C
5. Mae unrhyw gwestiwn o ran preswylfa arferol oedolyn sy’n codi o dan Ddeddf 1948 ac sydd i gael ei ddyfarnu gan Weinidogion Cymru ar neu ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym i gael ei ddyfarnu yn unol ag adran 195 o’r Ddeddf (anghydfodau ynghylch preswylfa arferol a hygludedd gofal a chymorth).
Darpariaeth drosiannol mewn perthynas â gwarchod eiddo personau a dderbynnir i ysbytai etc.LL+C
6.—(1) Er gwaethaf paragraff 3(3) o’r Atodlen hon, mae unrhyw gamau a gymerir gan awdurdod lleol yng Nghymru, yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, i atal neu i leihau’r golled o eiddo, neu’r difrod i eiddo, yn unol ag adran 48 o Ddeddf 1948 (dyletswydd cynghorau i warchod dros dro eiddo personau a dderbynnir i ysbytai etc.) i gael eu trin, ar neu ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, fel pe baent wedi eu cymryd yn unol ag adran 58 o’r Ddeddf (gwarchod eiddo personau y gofelir amdanynt i ffwrdd o’u cartrefi).
(2) Caniateir i unrhyw dreuliau rhesymol yr eir iddynt ond nas adenillir cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym gan yr awdurdod lleol yng Nghymru o dan adran 48 o Ddeddf 1948, ar neu ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, gael eu hadennill o dan adran 58(9) o’r Ddeddf.
Darpariaeth arbed mewn perthynas â phwerau Gweinidogion Cymru i ymyrrydLL+C
7.—(1) Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn, bydd adran 7D o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970 yn parhau i fod yn gymwys mewn unrhyw achos pan fo gorchymyn sy’n cynnwys cyfarwyddydau wedi ei wneud o dan adran 7D(1) a phan na fo’r cyfnod ar gyfer cydymffurfio â’r cyfarwyddydau wedi dod i ben cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
(2) Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn, bydd cymhwysiad Pennod 2 o Ran 2 o Ddeddf 2013 (ymyrryd mewn awdurdodau lleol) gan adran 50A(1) o Ddeddf 2004 (ymyrryd – Cymru) yn parhau mewn unrhyw achos—
(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod seiliau dros ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer y swyddogaethau a bennir yn adran 50A(2) o Ddeddf 2004 a phan na fo’r cyfnod cydymffurfio mewn hysbysiad rhybuddio a roddir o dan adran 22 o Ddeddf 2013 wedi dod i ben cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, neu
(b)pan fo gan Weinidogion Cymru, yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, y pŵer i ymyrryd o dan Bennod 2 o Ran 2 o Ddeddf 2013 â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer y swyddogaethau a bennir yn adran 50A(2) o Ddeddf 2004.