Search Legislation

Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Hyrwyddo Sgôr Hylendid Bwyd) (Cymru) 2016

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Hyrwyddo Sgôr Hylendid Bwyd) (Cymru) 2016 (heb Atodlenni)

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 28/11/2016. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) Instrument yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol. Help about Status

Close

Statws

Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:

  1. os nad yw'r ddarpariaeth (Rhan, Pennod neu adran) erioed wedi dod i rym neu;
  2. pan fo testun y ddarpariaeth wedi'i newid, ond nad oes dyddiad wedi'i bennu eto gan y person neu'r corff priodol i'r newidiadau hynny i ddod i rym.

Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Hyrwyddo Sgôr Hylendid Bwyd) (Cymru) 2016. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.

Rhagolygol

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongliLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Hyrwyddo Sgôr Hylendid Bwyd) (Cymru) 2016 a deuant i rym ar 28 Tachwedd 2016.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “cludfwyd” (“takeaway food”) yw bwyd sydd wedi ei baratoi yn unol ag archeb benodol defnyddwyr ar gyfer ei ddanfon neu ei gasglu i’w fwyta oddi ar y fangre;

ystyr “deunyddiau cyhoeddusrwydd” (“publicity materials”) yw unrhyw ddeunydd printiedig sy’n hyrwyddo’r cludfwyd a ddarperir gan sefydliad y gweithredwr ac sy’n cynnwys prisiau’r bwyd a ddarperir ynghyd â disgrifiad o sut y caiff defnyddiwr, sy’n unigolyn y cyflenwir bwyd iddo ac eithrio yng nghwrs busnes a gynhelir ganddo, archebu ac eithrio archebu’n bersonol;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013;

ystyr “sefydliad” (“establishment”) yw sefydliad busnes bwyd; ac

ystyr “sgôr” (“rating”) yw sgôr hylendid bwyd a roddir o dan y Ddeddf.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)

Sefydliadau y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddyntLL+C

2.  Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i sefydliadau sy’n cyflenwi cludfwyd yn uniongyrchol i ddefnyddwyr.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)

Y gofyniad i hyrwyddo sgôr hylendid bwydLL+C

3.—(1Rhaid i weithredwr sefydliad sicrhau bod ei ddeunyddiau cyhoeddusrwydd yn arddangos y datganiad a ganlyn—

“Ewch i food.gov.uk/ratings i ganfod sgôr hylendid bwyd ein busnes neu gofynnwch inni beth yw ein sgôr hylendid bwyd wrth archebu. / Go to food.gov.uk/ratings to find out the food hygiene rating of our business or ask us for our food hygiene rating when you order”.

(2Rhaid i’r datganiad gael ei roi mewn lle amlwg ar y deunyddiau cyhoeddusrwydd fel bod defnyddwyr yn gallu ei weld yn hawdd.

(3Rhaid i’r datganiad gydymffurfio â’r manylebau a ganlyn—

(a)maint teip sy’n 9 pwynt o leiaf fel y’i mesurir mewn ffont ‘Times New Roman’ nad yw wedi ei gulhau; a

(b)bwlch rhwng llinellau testun sy’n 3mm o leiaf.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)

Arddangos sgôr hylendid bwydLL+C

4.—(1Pan fo deunyddiau cyhoeddusrwydd yn cydymffurfio â rheoliad 3, caiff gweithredwr hefyd ddewis arddangos sgôr y sefydliad ar ei ddeunyddiau cyhoeddusrwydd.

(2Rhaid i ddeunyddiau cyhoeddusrwydd sy’n arddangos y sgôr—

(a)arddangos sgôr ddilys;

(b)rhoi’r sgôr mewn lle amlwg ar y deunyddiau cyhoeddusrwydd fel bod defnyddwyr yn gallu ei gweld yn hawdd;

(c)arddangos y sgôr mewn ffordd sy’n ei gwneud yn glir i ba sefydliad y mae’n berthnasol os yw’r deunyddiau cyhoeddusrwydd yn hyrwyddo cludfwyd mwy nag un sefydliad; a

(d)cydymffurfio ag Atodlen 1.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)

TroseddauLL+C

5.  Mae gweithredwr sefydliad yn cyflawni trosedd os yw, heb esgus rhesymol—

(a)yn methu â chydymffurfio â gofynion rheoliad 3; a

(b)yn methu â chydymffurfio â gofyniad rheoliad 4(2).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)

Troseddau gan gyrff corfforaetholLL+C

6.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo trosedd o dan reoliad 5 yn cael ei chyflawni gan gorff corfforaethol.

(2Os profir bod y drosedd wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu i’w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd i’r corff corfforaethol, neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o’r fath;

bydd y cyfarwyddwr hwnnw, y rheolwr hwnnw, yr ysgrifennydd hwnnw neu’r person hwnnw sy’n honni ei fod yn gweithredu fel y cyfryw (yn ogystal â’r corff corfforaethol) yn euog o’r drosedd a bydd yn agored i achos yn ei erbyn ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.

(3Mae’r cyfeiriad at gyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd y corff corfforaethol yn cynnwys cyfeiriad—

(a)at unrhyw swyddog cyffelyb y corff; neu

(b)pan fo’r corff yn gorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, at unrhyw swyddog neu aelod o’r corff.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)

GorfodiLL+C

7.  Caiff awdurdod bwyd orfodi’r rhwymedigaethau a osodir gan reoliadau 3 a 4(2) ar sefydliadau yn ei ardal.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)

Pŵer mynediadLL+C

8.—(1Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd, ar ôl dangos ei awdurdod ysgrifenedig os caiff ei erchi i wneud hynny, fynd i mewn ar bob adeg resymol i sefydliad at ddibenion gorfodi’r gofynion yn rheoliadau 3 a 4(2).

(2Ond yn achos mynediad i unrhyw ran o sefydliad a ddefnyddir fel annedd breifat yn unig, rhaid rhoi 24 awr o rybudd o’r bwriad i fynd i mewn iddo i’r gweithredwr.

(3Caiff swyddog awdurdodedig ymafael mewn unrhyw ddogfen y mae ganddo sail resymol dros gredu y gall fod yn dystiolaeth o fethu â chydymffurfio â rheoliadau 3 a 4(2) a’i symud oddi yno.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)

CosbauLL+C

9.  Mae person sy’n euog o drosedd o dan reoliad 5 yn atebol ar euogfarn ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)

Cosbau penodedigLL+C

10.—(1Pan fo gan swyddog awdurdodedig i awdurdod bwyd reswm dros gredu bod person wedi cyflawni trosedd o dan reoliad 5, caiff y swyddog roi hysbysiad i’r person sy’n cynnig y cyfle iddo fodloni unrhyw atebolrwydd i euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig.

(2Pan fo hysbysiad wedi ei roi i berson o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â throsedd—

(a)ni chaniateir i unrhyw achos gael ei gychwyn am y drosedd cyn diwedd cyfnod a bennir yn yr hysbysiad; a

(b)ni chaniateir i’r person gael ei euogfarnu o’r drosedd os yw’n talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(3Mae Atodlen 2 (hysbysiadau cosb benodedig) yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)

Derbyniadau cosb benodedigLL+C

11.  Rhaid i awdurdod bwyd ddefnyddio’r symiau a delir iddo o dan hysbysiadau cosb benodedig a ddyroddir o dan reoliad 10 at ddiben ei swyddogaethau sy’n ymwneud â gorfodi hylendid bwyd yng Nghymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)

Cyfrifoldeb awdurdodau bwyd i anfon gwybodaeth at weithredwyrLL+C

12.  Rhaid i awdurdod bwyd anfon datganiad sy’n tynnu sylw gweithredwyr sefydliadau yn ei ardal at ofynion y Rheoliadau hyn yn unol ag adran 15(1) o’r Ddeddf (pwerau a chyfrifoldebau eraill awdurdodau bwyd).

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 12 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)

Vaughan Gething

Y Dirprwy Weinidog Iechyd, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

18 Mawrth 2016

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources