- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Hyrwyddo Sgôr Hylendid Bwyd) (Cymru) 2016. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Rhagolygol
Rheoliad 4
1. Rhaid arddangos sgôr ddilys ar un o’r ffurfiau a ddangosir isod.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)
2. Y ffurf briodol ar gyfer sefydliad yw pa ffurf bynnag a ddangosir ym mharagraff 1 sy’n arddangos y sgôr gyfredol ar gyfer y sefydliad hwnnw.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)
3. Rhaid i’r sgôr gydymffurfio â’r manylebau a ganlyn—LL+C
(a)cyfeirnodau lliw: Green: c43 m0 y100 k0 & Black;
(b)rhaid i ddimensiynau’r sgoriau fod yn 39mm (lled) x 27mm (uchder) o leiaf.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)
Rheoliad 10
1. Caiff hysbysiad cosb benodedig gynnig y cyfle i berson dalu cosb o £200 (“y gosb”) o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad cosb.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)
2. Caiff hysbysiad cosb benodedig hefyd gynnig y cyfle i berson dalu cosb is o £150 (“y gosb ostyngol”) os telir o fewn cyfnod o 14 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y rhoddir yr hysbysiad cosb.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)
3. Caniateir i’r gosb neu’r gosb ostyngol gael ei thalu drwy bostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb at y person a ddisgrifir ar yr hysbysiad yn y cyfeiriad a ddisgrifir felly. Bernir bod y taliad wedi ei wneud ar yr amser y byddai’r llythyr wedi cael ei ddosbarthu yn nhrefn arferol y post.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)
4. Nid yw paragraff 3 yn atal y gosb rhag cael ei thalu drwy unrhyw ddull arall.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)
5. Os yw awdurdod bwyd o’r farn na ddylai hysbysiad cosb benodedig fod wedi ei roi i berson gan swyddog awdurdodedig sy’n gweithredu ar ran yr awdurdod bwyd, rhaid i’r awdurdod bwyd roi hysbysiad i’r person hwnnw sy’n tynnu’r hysbysiad cosb benodedig yn ôl.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)
6. Os caiff hysbysiad cosb benodedig ei dynnu’n ôl—LL+C
(a)rhaid i awdurdod bwyd ad-dalu unrhyw swm sydd wedi ei dalu fel cosb yn unol â’r hysbysiad cosb benodedig, a
(b)ni chaniateir dwyn unrhyw achos na pharhau ag unrhyw achos yn erbyn y person a gafodd yr hysbysiad ar gyfer y drosedd o dan sylw.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)
7. Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif—LL+C
(a)sy’n cymryd arni ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran prif swyddog cyllid awdurdod bwyd, a
(b)sy’n datgan bod taliad cosb wedi dod i law neu heb ddod i law erbyn dyddiad a bennwyd yn y dystysgrif,
yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatganwyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)
8. Rhaid i hysbysiad cosb benodedig roi’r manylion am yr amgylchiad yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd, sy’n angenrheidiol i esbonio pam mae trosedd wedi digwydd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)
9. Rhaid i hysbysiad cosb benodedig ddatgan hefyd—LL+C
(a)enw a chyfeiriad yr awdurdod yr oedd y swyddog awdurdodedig yn gweithredu ar ei ran pan roddodd y swyddog yr hysbysiad;
(b)swm y gosb a’r cyfnod ar gyfer talu’r gosb;
(c)swm y gosb ostyngol a’r cyfnod y mae’r gostyngiad yn gymwys iddo;
(d)canlyniadau peidio â thalu’r gosb cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu’r gosb;
(e)y person y caniateir i’r gosb neu’r gosb ostyngol gael ei thalu iddo a’r cyfeiriad lle y caniateir ei thalu;
(f)drwy ba ddull y caniateir talu;
(g)y person y caniateir i unrhyw sylwadau sy’n ymwneud â’r hysbysiad gael eu cyflwyno iddo a’r cyfeiriad lle y caniateir eu cyflwyno.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)
10. Rhaid i hysbysiad cosb benodedig hefyd—LL+C
(a)hysbysu’r person y mae wedi ei roi iddo am ei hawl i sefyll prawf am y drosedd honedig, a
(b)esbonio sut y caniateir i’r hawl honno gael ei harfer.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 28.11.2016, gweler rhl. 1(1)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: