- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae’r fersiwn hon o'r ddarpariaeth hon yn rhagolygol.
Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:
Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
Rhagolygol
17.—(1) Pan fo cais am ganiatâd cynllunio neu gais dilynol wedi ei wneud heb ddatganiad amgylcheddol a bod y ceisydd yn bwriadu cyflwyno datganiad o’r fath, rhaid i’r ceisydd gydymffurfio â pharagraffau (2) i (5) cyn ei gyflwyno.
(2) Rhaid i’r ceisydd gyhoeddi hysbysiad mewn papur newydd lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal leol lle y mae’r tir wedi ei leoli sy’n nodi—
(a)enw’r ceisydd, bod cais yn cael ei wneud am ganiatâd cynllunio neu ganiatâd dilynol ac enw a chyfeiriad yr awdurdod cynllunio perthnasol;
(b)y dyddiad y gwnaed y cais, a bod y cais wedi ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru i gael ei benderfynu neu ei fod yn destun apêl i Weinidogion Cymru os gwnaed hynny;
(c)cyfeiriad neu leoliad a natur y datblygiad arfaethedig;
(d)bod—
(i)copi o’r cais, unrhyw blan a dogfennau eraill a gyflwynir ynghyd ag ef, a chopi o’r datganiad amgylcheddol, a
(ii)yn achos cais dilynol, copi o’r caniatâd cynllunio y gwnaed y cais hwnnw mewn cysylltiad ag ef a dogfennau ategol,
ar gael i aelodau o’r cyhoedd edrych arnynt ar bob adeg resymol;
(e)cyfeiriad yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle mae’r dogfennau hynny ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt, a’r dyddiad olaf y maent ar gael i’w gweld (sydd yn ddyddiad nad yw’n llai na 21 diwrnod yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);
(f)cyfeiriad (pa un a yw yr un cyfeiriad a roddir o dan is-baragraff (e) ai peidio) yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle gellir cael copïau o’r datganiad;
(g)y gellir cael copïau yno cyhyd â bod rhai yn dal ar gael;
(h)os codir tâl am gopi, swm y tâl;
(i)y dylai unrhyw berson sy’n dymuno cyflwyno sylwadau ynglŷn â’r cais wneud hynny, cyn y dyddiad a nodir yn unol ag is-baragraff (e), i’r awdurdod cynllunio perthnasol neu (yn achos cais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru neu apêl) i Weinidogion Cymru; a
(j)yn achos cais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru neu apêl, y cyfeiriad, gan gynnwys cyfeiriad electronig, y dylid anfon sylwadau iddo.
(3) Rhaid i geisydd sy’n cael ei hysbysu o dan reoliad 10(2), 11(4) neu 12(5) ynghylch person o’r math a grybwyllir yn unrhyw un o’r paragraffau hynny gyflwyno hysbysiad i bob person o’r fath; a rhaid i’r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (2), ond ni chaiff y dyddiad a nodir fel y dyddiad olaf y mae’r dogfennau ar gael i aelodau o’r cyhoedd edrych arnynt fod yn llai na 21 diwrnod yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad gyntaf.
(4) Rhaid i’r ceisydd arddangos hysbysiad ar y tir sy’n cynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (2), lle mae ganddo hawl i wneud hynny, neu lle y gellir caffael yr hawl yn rhesymol i wneud hynny, ond ni chaiff y dyddiad a nodir fel y dyddiad olaf y bydd y dogfennau ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt fod yn llai na 21 diwrnod yn ddiweddarach na’r dyddiad yr arddangosir yr hysbysiad gyntaf.
(5) Rhaid i’r hysbysiad a grybwyllir ym mharagraff (4)—
(a)cael ei adael yn ei le am gyfnod heb fod yn llai na 7 diwrnod yn y 28 diwrnod yn union cyn y dyddiad y cyflwynir y datganiad; a
(b)cael ei osod yn gadarn ar rywbeth ar y tir a’i leoli a’i arddangos mewn modd sy’n golygu bod modd i aelodau o’r cyhoedd ei weld a’i ddarllen yn rhwydd heb fynd ar y tir.
(6) Rhaid i’r canlynol fynd ynghyd â’r datganiad pan y’i cyflwynir—
(a)copi o’r hysbysiad a grybwyllir ym mharagraff (2) wedi ei ardystio gan neu ar ran y ceisydd mewn papur newydd a enwir ar ddyddiad a bennir yn y dystysgrif; a
(b)tystysgrif gan neu ar ran y ceisydd sy’n nodi naill ai—
(i)bod hysbysiad wedi ei arddangos ar y tir er mwyn cydymffurfio â’r rheoliad hwn a pha bryd y gwnaed hyn, a bod yr hysbysiad wedi ei adael yn ei le am gyfnod heb fod yn llai na 7 diwrnod yn y 28 diwrnod yn union cyn y dyddiad y cyflwynwyd y datganiad, neu ei fod, heb unrhyw fai na bwriad ar ran y ceisydd, wedi ei dynnu, ei guddio neu ei ddifwyno cyn diwedd y 7 diwrnod a bod y ceisydd wedi cymryd camau rhesymol i’w ddiogelu neu roi un newydd yn ei le, gan nodi’r camau a gymerwyd; neu
(ii)nad oedd modd i’r ceisydd gydymffurfio â pharagraffau (4) a (5) am nad oedd gan y ceisydd yr hawliau angenrheidiol i wneud hynny; bod unrhyw gamau rhesymol ar gael i gaffael yr hawliau hynny wedi eu cymryd ond yn aflwyddiannus, gan nodi’r camau a gymerwyd.
(7) Pan fo ceisydd yn dynodi bod y ceisydd yn bwriadu darparu datganiad o dan yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (1), rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol, Gweinidogion Cymru neu’r arolygydd, yn ôl y digwydd, (oni bai y penderfynir gwrthod y caniatâd neu’r caniatâd dilynol a geisir) ohirio ystyried y cais neu’r apêl hyd nes y ceir y datganiad a’r dogfennau eraill a grybwyllir ym mharagraff (6); ac ni chaniateir penderfynu ar y cais na’r apêl yn ystod y cyfnod o 21 diwrnod sy’n dechrau â’r dyddiad y ceir y datganiad a’r dogfennau eraill a grybwyllwyd felly.
(8) Os bydd unrhyw berson—
(a)yn dyroddi tystysgrif sy’n honni cydymffurfiad â gofynion paragraff (6)(b), neu
(b)yn dyroddi tystysgrif yn ddi-hid sy’n honni cydymffurfiad â’r gofynion hynny,
ac sy’n cynnwys datganiad y mae’r person hwnnw yn gwybod ei fod yn anwir neu’n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol, mae’r person hwnnw yn euog o drosedd ac yn agored yn dilyn euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
(9) Pan fwriedir cyflwyno datganiad amgylcheddol mewn cysylltiad ag apêl, mae’r rheoliad hwn yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriadau at y ceisydd yn gyfeiriadau at yr apelydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 17 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: