Search Legislation

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Paragraff 8

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Mae’r fersiwn hon o'r ddarpariaeth hon yn rhagolygol. Help about Status

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Rhagolygol

Penderfynu ar amodau a hawl apelio wrth beidio â phenderfynuLL+C

8.—(1Pan mai cyfrifoldeb awdurdod cynllunio mwynau yw penderfynu ar gais Atodiad 1 neu Atodiad 2, nid oes gan baragraff 2(6)(b) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991 paragraff 9(9) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 neu baragraff 6(8) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 rym i drin yr awdurdod fel bod wedi penderfynu ar yr amodau y mae unrhyw ganiatâd cynllunio perthnasol yn ddarostyngedig iddo heblaw—

(a)bod yr awdurdod cynllunio mwynau wedi mabwysiadu barn sgrinio; neu

(b)bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd sgrinio sydd â’r effaith nad yw’r datblygiad ROMP dan sylw yn ddatblygiad AEA;

(2Pan mai cyfrifoldeb awdurdod cynllunio mwynau neu Weinidogion Cymru yw penderfynu ar gais Atodlen 1 neu Atodlen 2—

(a)mae adran 69 o Ddeddf 1990 (cofrestr o geisiadau ac ati), ac unrhyw ddarpariaethau o Orchymyn 2012 a wnaed yn rhinwedd yr adran honno, yn cael effaith gydag unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol fel pe bai cyfeiriadau at geisiadau am ganiatâd cynllunio yn cynnwys ceisiadau ROMP o dan baragraff 9(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a pharagraff 6(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995(2); a

(b)pan nad yr awdurdod cynllunio mwynol perthnasol yw’r awdurdod y mae’n ofynnol iddo gadw’r gofrestr, rhaid i’r awdurdod cynllunio mwynol perthnasol ddarparu’r awdurdod y mae’n ofynnol iddo ei chadw gyda dogfennau a gwybodaeth o’r fath y mae ar yr awdurdod eu hangen i gydymffurfio ag adran 69 o Ddeddf 1990 fel a gymhwysir gan is-baragraff (i), gyda rheoliad 23 fel a gymhwysir gan reoliad 52, a chyda paragraff 7(4) o’r Atodlen hon.

(3Pan mai cyfrifoldeb yr awdurdod cynllunio mwynol neu Weinidogion Cymru yw penderfynu ar gais AEA a wnaed o dan baragraff 2(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991 nid yw paragraff 4(4) o’r Atodlen honno yn gymwys.

(4Pan mai cyfrifoldeb yr awdurdod cynllunio mwynol yw penderfynu ar gais, rhaid i’r awdurdod roi rhybudd o’i benderfyniad am y cais ROMP o fewn 16 wythnos gan ddechrau â’r dyddiad y cafodd yr awdurdod y cais ROMP neu gyfnod estynedig y cytunir arno’n ysgrifenedig rhwng y ceisydd a’r awdurdod.

(5At ddibenion paragraff (4), ceir cais ROMP gan awdurdod pan fydd yn cael—

(a)dogfen y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn;

(b)unrhyw ddogfen ofynnol i gyd-fynd â’r datganiad hwnnw; ac

(c)unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae’r awdurdod wedi hysbysu’r ceisydd y dylai’r datganiad amgylcheddol ei chynnwys.

(6Pan fo paragraff (1) yn gymwys—

(a)mae paragraff 5(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 11(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a pharagraff 9(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (hawl apelio) yn cael effaith fel pe bai hefyd hawl apelio i Weinidogion Cymru pan nad yw’r awdurdodd cynllunio mwynol wedi rhoi rhybudd o’i benderfyniad o dan y cais ROMP yn unol â pharagraff (4); a

(b)paragraff 5(5) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 11(2) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a pharagraff 9(2) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (hawl apelio) yn cael effaith fel pe baent hefyd yn darparu ar gyfer hawl apelio i gael ei wneud o fewn 6 mis ar ôl i’r 16 wythnos ddod i ben neu gyfnod arall y cytunwyd arno yn unol â pharagraff (4).

(7Wrth benderfynu at ddibenion—

(a)paragraffau 2(6)(b) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, 9(9) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a 6(8) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (penderfynu ar amodau); neu

(b)baragraff 5(5) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 11(2) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a pharagraff 9(2) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (hawl apelio) fel a gymhwysir gan baragraff 8(6)(b) o’r Atodlen hon,

yr amser sydd wedi mynd heibio heb i’r awdurdod cynllunio mwynol hysbysu’r ceisydd am ei benderfyniad ynglŷn ag achos pan fo’r awdurdod wedi hysbysu ceisydd yn unol â rheoliad 10(1) bod angen cyflwyno datganiad amgylcheddol a bod Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd sgrinio ynghylch y datblygiad ROMP dan sylw ni chaniateir ystyried unrhyw gyfnod cyn y cyflwynwyd y cyfarwyddyd hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 7 para. 8 mewn grym ar 1.3.2016, gweler rhl. 1(2)

(1)

Ar gyfer ystyr “ROMP” gweler rheoliad 52(1).

(2)

Mae’r darpariaethau hyn yn gymwys i geiswyr o dan paragraff 2(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991 fel y cânt eu cymhwyso gan baragraff 9 o Atodlen 2 i Ddeddf 1991.

Back to top

Options/Help