- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
8.—(1) Pan mai cyfrifoldeb awdurdod cynllunio mwynau yw penderfynu ar gais Atodiad 1 neu Atodiad 2, nid oes gan baragraff 2(6)(b) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991 paragraff 9(9) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 neu baragraff 6(8) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 rym i drin yr awdurdod fel bod wedi penderfynu ar yr amodau y mae unrhyw ganiatâd cynllunio perthnasol yn ddarostyngedig iddo heblaw—
(a)bod yr awdurdod cynllunio mwynau wedi mabwysiadu barn sgrinio; neu
(b)bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd sgrinio sydd â’r effaith nad yw’r datblygiad ROMP dan sylw yn ddatblygiad AEA;
(2) Pan mai cyfrifoldeb awdurdod cynllunio mwynau neu Weinidogion Cymru yw penderfynu ar gais Atodlen 1 neu Atodlen 2—
(a)mae adran 69 o Ddeddf 1990 (cofrestr o geisiadau ac ati), ac unrhyw ddarpariaethau o Orchymyn 2012 a wnaed yn rhinwedd yr adran honno, yn cael effaith gydag unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol fel pe bai cyfeiriadau at geisiadau am ganiatâd cynllunio yn cynnwys ceisiadau ROMP o dan baragraff 9(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a pharagraff 6(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995(2); a
(b)pan nad yr awdurdod cynllunio mwynol perthnasol yw’r awdurdod y mae’n ofynnol iddo gadw’r gofrestr, rhaid i’r awdurdod cynllunio mwynol perthnasol ddarparu’r awdurdod y mae’n ofynnol iddo ei chadw gyda dogfennau a gwybodaeth o’r fath y mae ar yr awdurdod eu hangen i gydymffurfio ag adran 69 o Ddeddf 1990 fel a gymhwysir gan is-baragraff (i), gyda rheoliad 23 fel a gymhwysir gan reoliad 52, a chyda paragraff 7(4) o’r Atodlen hon.
(3) Pan mai cyfrifoldeb yr awdurdod cynllunio mwynol neu Weinidogion Cymru yw penderfynu ar gais AEA a wnaed o dan baragraff 2(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991 nid yw paragraff 4(4) o’r Atodlen honno yn gymwys.
(4) Pan mai cyfrifoldeb yr awdurdod cynllunio mwynol yw penderfynu ar gais, rhaid i’r awdurdod roi rhybudd o’i benderfyniad am y cais ROMP o fewn 16 wythnos gan ddechrau â’r dyddiad y cafodd yr awdurdod y cais ROMP neu gyfnod estynedig y cytunir arno’n ysgrifenedig rhwng y ceisydd a’r awdurdod.
(5) At ddibenion paragraff (4), ceir cais ROMP gan awdurdod pan fydd yn cael—
(a)dogfen y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn;
(b)unrhyw ddogfen ofynnol i gyd-fynd â’r datganiad hwnnw; ac
(c)unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae’r awdurdod wedi hysbysu’r ceisydd y dylai’r datganiad amgylcheddol ei chynnwys.
(6) Pan fo paragraff (1) yn gymwys—
(a)mae paragraff 5(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 11(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a pharagraff 9(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (hawl apelio) yn cael effaith fel pe bai hefyd hawl apelio i Weinidogion Cymru pan nad yw’r awdurdodd cynllunio mwynol wedi rhoi rhybudd o’i benderfyniad o dan y cais ROMP yn unol â pharagraff (4); a
(b)paragraff 5(5) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 11(2) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a pharagraff 9(2) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (hawl apelio) yn cael effaith fel pe baent hefyd yn darparu ar gyfer hawl apelio i gael ei wneud o fewn 6 mis ar ôl i’r 16 wythnos ddod i ben neu gyfnod arall y cytunwyd arno yn unol â pharagraff (4).
(7) Wrth benderfynu at ddibenion—
(a)paragraffau 2(6)(b) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, 9(9) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a 6(8) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (penderfynu ar amodau); neu
(b)baragraff 5(5) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 11(2) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a pharagraff 9(2) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (hawl apelio) fel a gymhwysir gan baragraff 8(6)(b) o’r Atodlen hon,
yr amser sydd wedi mynd heibio heb i’r awdurdod cynllunio mwynol hysbysu’r ceisydd am ei benderfyniad ynglŷn ag achos pan fo’r awdurdod wedi hysbysu ceisydd yn unol â rheoliad 10(1) bod angen cyflwyno datganiad amgylcheddol a bod Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd sgrinio ynghylch y datblygiad ROMP dan sylw ni chaniateir ystyried unrhyw gyfnod cyn y cyflwynwyd y cyfarwyddyd hwnnw.
Ar gyfer ystyr “ROMP” gweler rheoliad 52(1).
Mae’r darpariaethau hyn yn gymwys i geiswyr o dan paragraff 2(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991 fel y cânt eu cymhwyso gan baragraff 9 o Atodlen 2 i Ddeddf 1991.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: