Search Legislation

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2016 Rhif 58 (Cy. 28)

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016

Gwnaed

27 Ionawr 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1 Chwefror 2016

Yn dod i rym 1 Mawrth 2016 ac eithrio rheoliad 38, Atodlen 5 ac Atodlen 9, paragraff 8(3) sy'n dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru gan eu bod wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) mewn perthynas â’r gofyniad i asesu’r effaith ar yr amgylchedd y mae prosiectau sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd yn ei chael, i’r graddau y mae a wnelo â chynllunio gwlad a thref(2), drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, adran 71A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(3), ac wedi ystyried y meini prawf dethol yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2011/92/EU(4) Senedd Ewrop a’r Cyngor ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd(5), fel y’i mabwysiadwyd ar 13 Rhagfyr 2011, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Mawrth 2016 ac eithrio rheoliad 38, Atodlen 5 (gorchmynion datblygu lleol) ac Atodlen 9, paragraff 8(3) sy’n dod i rym ar y dyddiad y daw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016 i rym.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(4Mewn perthynas â chais am ganiatâd cynllunio a wneir i Weinidogion Cymru, mae Rhannau 2 i 7 o’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r graddau ac yn y ffordd a nodir yn Rhan 8 yn unig.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “ardal sensitif” (“sensitive area”) yw unrhyw un o’r canlynol—

(a)

tir hysbysedig o dan adran 28(1) (safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(6);

(b)

Parc Cenedlaethol o fewn ystyr Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949(7);

(c)

eiddo sy’n ymddangos ar Restr Treftadaeth y Byd a gedwir o dan erthygl 11(2) o Gonfensiwn UNESCO ynghylch Diogelu Treftadaeth Ddiwylliannol a Naturiol y Byd 1972(8);

(d)

heneb gofrestredig o fewn ystyr Deddf Henebion a Mannau Archeolegol 1979(9);

(e)

ardal a ddynodwyd yn ardal o harddwch naturiol eithriadol gan orchymyn a wnaed o dan adran 82(2) (ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000(10);

(f)

safle Ewropeaidd o fewn ystyr rheoliad 8 o Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010(11);

ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodir gan Weinidogion Cymru i benderfynu ar apêl;

ystyr “awdurdod cynllunio perthnasol” (“relevant planning authority”) yw’r corff sy’n gyfrifol, a oedd yn gyfrifol neu a fyddai’n gyfrifol am benderfynu ar gais am ganiatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad dan sylw, oni bai—

(a)

bod y datblygiad yn ddatblygiad o arwyddocâd cenedlaethol at ddibenion adran 62D o Ddeddf 1990(12); neu

(b)

am gyfarwyddyd o dan adran 77 o Ddeddf 1990 (atgyfeirio ceisiadau at yr Ysgrifennydd Gwladol)(13);

ystyr “barn gwmpasu” (“scoping opinion”) yw barn ysgrifenedig yr awdurdod cynllunio perthnasol ynghylch yr wybodaeth y mae’n rhaid ei darparu yn y datganiad amgylcheddol;

ystyr “barn sgrinio” (“screening opinion”) yw barn ysgrifenedig yr awdurdod cynllunio perthnasol ynghylch a yw datblygiad yn ddatblygiad AEA:

ystyr “cais AEA” (“EIA application”) yw—

(a)

cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad AEA; neu

(b)

cais dilynol mewn cysylltiad â datblygiad AEA;

ystyr “cais Atodlen 1” (“Schedule 1 application”) a “cais Atodlen 2” (“Schedule 2 application”) yw cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad Atodlen 1 a datblygiad Atodlen 2 yn ôl eu trefn;

ystyr “cais dilynol” (“subsequent application”) yw cais am ganiatâd, cytundeb neu gymeradwyaeth ar fater—

(a)

pan fo’r gymeradwyaeth yn ofynnol gan neu o dan amod y mae caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig iddi; a

(b)

pan mae’n rhaid cael cymeradwyaeth cyn y caniateir dechrau ar y datblygiad cyfan neu ar ran ohono a ganiateir gan y caniatâd cynllunio;

ystyr “caniatâd dilynol” (“subsequent consent”) yw caniatâd, cytundeb neu gymeradwyaeth a roddir yn unol â chais dilynol;

ystyr “cofrestr” (“register”) yw cofrestr a gedwir yn unol ag adran 69 o Ddeddf 1990 (cofrestrau o geisiadau etc.)(14) ac ystyr “cofrestr briodol” (“appropriate register”) yw’r gofrestr y rhoddwyd manylion am gais am ganiatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad perthnasol arni neu y byddent yn cael eu rhoi arni pe gwnaed cais o’r fath;

ystyr “cyfarwyddyd cwmpasu” (“scoping direction”) yw cyfarwyddyd ysgrifenedig Gweinidogion Cymru ynghylch yr wybodaeth y mae’n rhaid ei darparu yn y datganiad amgylcheddol;

ystyr “cyfarwyddyd sgrinio” (“screening direction”) yw cyfarwyddyd a wneir gan Weinidogion Cymru ynghylch pa un a yw datblygiad yn ddatblygiad AEA;

ystyr “datblygiad AEA” (“EIA development”) yw datblygiad sydd naill ai—

(a)

yn ddatblygiad Atodlen 1; neu

(b)

yn ddatblygiad Atodlen 2 sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd yn rhinwedd ffactorau fel ei natur, ei faint neu ei leoliad;

ystyr “datblygiad Atodlen 1” (“Schedule 1development”) yw datblygiad, heblaw datblygiad esempt, o ddisgrifiad a grybwyllir yn Atodlen 1;

ystyr “datblygiad Atodlen 2” (“Schedule 2 development”) yw datblygiad, heblaw datblygiad esempt, o ddisgrifiad a grybwyllir yng Ngholofn 1 y tabl yn Atodlen 2—

(a)

pan fo’n rhaid cyflawni unrhyw ran o’r datblygiad hwnnw mewn ardal sensitif; neu

(b)

pan fodlonir neu y rhagorir ar unrhyw drothwy neu faen prawf cymwys yn rhan gyfatebol Colofn 2 o’r tabl hwnnw mewn perthynas â’r datblygiad hwnnw;

ystyr “datblygiad esempt” (“exempt development”) yw datblygiad y mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd mewn cysylltiad ag ef o dan reoliad 4(4);

ystyr “datganiad amgylcheddol” (“environmental statement”) yw datganiad—

(a)

sy’n cynnwys cymaint o’r wybodaeth y cyfeirir ati yn Rhan 1 o Atodlen 4 ag sydd yn rhesymol yn ofynnol er mwyn asesu effeithiau amgylcheddol y datblygiad ac y gellir yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd neu’r corff cychwyn ei gasglu, gan roi ystyriaeth benodol i wybodaeth a dulliau presennol o asesu, ond

(b)

sy’n cynnwys o leiaf yr wybodaeth y cyfeirir ati yn Rhan 2 o Atodlen 4;

ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;

ystyr “Deddf 1991” (“the 1991 Act”) yw Deddf Cynllunio a Digolledu 1991(15);

ystyr “Deddf 1995” (“the 1995 Act”) yw Deddf yr Amgylchedd 1995(16);

ystyr “drwy hysbyseb lleol” (“by local advertisement”), mewn perthynas â hysbysiad, yw—

(a)

drwy gyhoeddi’r hysbysiad mewn papur newydd sy’n cylchredeg yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli; a

(b)

pan fo’r awdurdod cynllunio perthnasol yn cynnal gwefan at ddiben hysbysebu ceisiadau, drwy gyhoeddi’r hysbysiad ar y wefan;

ystyr “dyddiad cychwyn” (“commencement date”) yw 1 Mawrth 2016;

ystyr “Gorchymyn 2012” (“the 2012 Order”) yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012(17);

ystyr “Gorchymyn 2016” (“the 2016 Order”) yw Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016(18);

ystyr “gorchymyn datblygu lleol” (“local development order”) yw gorchymyn datblygu lleol a wneir yn unol ag adran 61A o Ddeddf 1990(19);

ystyr “gwybodaeth amgylcheddol” (“environmental information”) yw’r datganiad amgylcheddol, gan gynnwys unrhyw wybodaeth bellach ac unrhyw wybodaeth arall, unrhyw sylwadau a wneir gan unrhyw ymgynghorai ac unrhyw sylwadau a wneir yn briodol gan unrhyw berson arall ynghylch effeithiau amgylcheddol y datblygiad;

mae i “gwybodaeth bellach” (“further information”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 22(1);

ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb 2011/92/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar yr asesiad o effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd, fel y’i mabwysiadwyd ar 13 Rhagfyr 2011;

mae i “prif gyngor” yr ystyr a roddir i “principal council” gan adran 270(1) (darpariaethau cyffredinol ynghylch dehongli) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(20);

ystyr “y Rheoliadau Cyffredinol” (“the General Regulations”) yw Rheoliadau Cyffredinol Cynllunio Gwlad a Thref 1992(21);

ystyr “y tir” (“the land”) yw’r tir y byddai’r datblygiad yn digwydd arno neu, mewn perthynas â datblygiad sydd wedi digwydd yn barod, y tir y mae’r datblygiad wedi digwydd arno;

ystyr “tŷ annedd” (“dwellinghouse”) yw adeilad neu ran o adeilad sy’n cael ei ddefnyddio fel annedd preifat sengl ac i ddim diben arall;

mae “unrhyw berson penodol” (“any particular person”) yn cynnwys unrhyw sefydliad anllywodraethol sy’n hyrwyddo diogelu’r amgylchedd;

ystyr “unrhyw wybodaeth arall” (“any other information”) yw unrhyw wybodaeth arall o sylwedd sy’n ymwneud â’r datganiad amgylcheddol ac a ddarparwyd gan y ceisydd neu’r apelydd yn ôl y digwydd;

ystyr “yr ymgynghoreion” (“the consultees”) yw—

(a)

mewn cysylltiad â chais am ganiatâd cynllunio a wneir i Weinidogion Cymru, unrhyw awdurdod, corff neu berson y mae’n ofynnol iddynt ymgynghori ag ef yn rhinwedd erthygl 22 o Orchymyn 2016 a’r cyrff y cyfeirir atynt yn is-baragraff (c) os na chyfeiriwyd atynt yn barod yn yr is-baragraff hwn;

(b)

unrhyw gorff y mae’n ofynnol i’r awdurdod cynllunio perthnasol ymgynghori ag ef, neu y byddai’n ofynnol iddo ymgynghori ag ef, pe byddai cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad dan sylw ger ei fron, yn rhinwedd erthygl 14 o Orchymyn 2012 (ymgynghoriadau cyn rhoi caniatâd) neu o unrhyw gyfarwyddyd o dan yr erthygl honno a’r cyrff y cyfeirir atynt yn is-baragraff (c) os na chyfeirir atynt yn barod yn yr is-baragraff hwn;

(c)

y cyrff canlynol—

(i)

unrhyw brif gyngor ar gyfer yr ardal lle mae’r tir wedi ei leoli, os nad yr awdurdod cynllunio perthnasol;

(ii)

Corff Adnoddau Naturiol Cymru(22);

(iii)

cyrff eraill a ddynodir gan ddarpariaeth statudol fel cyrff sydd â chyfrifoldebau amgylcheddol penodol ac y mae’r awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd, yn ystyried ei bod yn debygol y bydd ganddynt ddiddordeb yn y cais.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), yr un ystyr sydd i’r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Neddf 1990 at ddibenion y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt at ddibenion Deddf 1990.

(3Yr un ystyr sydd i’r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn y Gyfarwyddeb at ddibenion y Rheoliadau hyn (pa un a ydynt yn cael eu defnyddio yn Neddf 1990 ai peidio) ag sydd iddynt at ddibenion y Gyfarwyddeb.

(4Yn y Rheoliadau hyn, rhaid peidio â dehongli cyfeiriadau at Weinidogion Cymru fel cyfeiriadau at arolygydd.

(5Pan ganiateir i gorff, neu pan fo’n ofynnol i gorff nodi, rhoi gwybod, gofyn, cadarnhau, hysbysu neu gyflwyno sylwadau, rhaid i’r corff hwnnw wneud hynny’n ysgrifenedig.

(6Caniateir cyflwyno neu roi unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall y mae’n rhaid eu hanfon, eu cyflwyno neu eu rhoi o dan y Rheoliadau hyn mewn modd a bennir yn adran 329 o Ddeddf 1990 (cyflwyno hysbysiadau)(23).

Gwaharddiad ar roi caniatâd cynllunio neu ganiatâd dilynol heb ystyried gwybodaeth amgylcheddol

3.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)i bob cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad AEA a geir ar neu ar ôl y dyddiad cychwyn;

(b)i bob cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad AEA a gofnodir gan awdurdod yn unol â rheoliad 3 (ceisiadau am ganiatâd cynllunio) o’r Rheoliadau Cyffredinol ar neu ar ôl y dyddiad cychwyn;

(c)i bob cais dilynol mewn cysylltiad â datblygiad AEA a geir ar neu ar ôl y dyddiad cychwyn; a

(d)i bob cais dilynol mewn cysylltiad â datblygiad AEA a gofnodir gan awdurdod yn unol â rheoliad 11 o’r Rheoliadau Cyffredinol ar neu ar ôl y dyddiad cychwyn.

(2At ddibenion paragraff (1), y dyddiad pan geir cais gan awdurdod yw—

(a)mewn cysylltiad â chais a wneir o dan adran 62D o Ddeddf 1990; dyddiad derbyn y cais yn unol ag erthygl 15 o Orchymyn 2016; a

(b)yr hyn a benderfynwyd yn unol ag erthygl 22(3) (cyfnodau amser ar gyfer penderfyniadau) o Orchymyn 2012 mewn cysylltiad â cheisiadau eraill.

(3Ni chaniateir i’r awdurdod cynllunio perthnasol na Gweinidogion Cymru nac arolygydd roi caniatâd cynllunio na chaniatâd dilynol yn unol â chais y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo oni bai eu bod wedi cymryd yr wybodaeth amgylcheddol i ystyriaeth, ac mae’n rhaid iddynt nodi yn eu penderfyniad eu bod wedi gwneud hynny.

RHAN 2Sgrinio

Darpariaethau cyffredinol sy’n ymwneud â sgrinio

4.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), bydd ddigwyddiad a grybwyllir ym mharagraff (2) yn penderfynu at ddiben y Rheoliadau hyn bod datblygiad yn ddatblygiad AEA.

(2Y digwyddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)cyflwyniad datganiad mewn perthynas â’r datblygiad hwnnw gan y ceisydd neu’r apelydd y mae’r ceisydd neu’r apelydd yn cyfeirio ato fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn; neu

(b)mabwysiadu barn sgrinio i’r perwyl bod y datblygiad yn ddatblygiad AEA gan yr awdurdod cynllunio perthnasol.

(3Mae cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru yn penderfynu pa un a yw datblygiad yn ddatblygiad AEA ai peidio at ddiben y Rheoliadau hyn.

(4Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo nad yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â datblygiad arfaethedig penodol a bennir yn y cyfarwyddyd yn unol ag Erthygl 2(4) o’r Gyfarwyddeb (ond heb iddo leihau effaith Erthygl 7 o’r Gyfarwyddeb).

(5Pan roddir cyfarwyddyd o dan baragraff (4) rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)anfon copi o unrhyw gyfarwyddyd o’r fath i’r awdurdod cynllunio perthnasol;

(b)sicrhau bod yr wybodaeth a ystyriwyd wrth wneud y cyfarwyddyd a’r rhesymau dros wneud y cyfarwyddyd ar gael i’r cyhoedd;

(c)ystyried pa un a fyddai math arall o asesiad yn briodol; a

(d)cymryd unrhyw gamau y maent yn ystyried sy’n briodol er mwyn dod â’r wybodaeth a gafwyd o dan y math arall o asesiad i sylw’r cyhoedd.

(6Pan fo’n rhaid i awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru benderfynu o dan y Rheoliadau hyn a yw datblygiad Atodlen 2 yn ddatblygiad AEA, rhaid i’r awdurdod neu Weinidogion Cymru ystyried cymaint o’r meini prawf dethol a nodir yn Atodlen 3 ag sy’n berthnasol i’r datblygiad wrth wneud y penderfyniad hwnnw.

(7Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn mabwysiadu barn sgrinio, neu pan wneir cyfarwyddyd sgrinio gan Weinidogion Cymru—

(a)rhaid cyflwyno’r farn honno neu’r cyfarwyddyd hwnnw ynghyd â datganiad sy’n nodi’r rhesymau llawn dros y casgliad hwnnw yn glir ac yn fanwl; a

(b)rhaid i’r awdurdod neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd, anfon copi o’r farn neu’r cyfarwyddyd a chopi o’r datganiad sy’n ofynnol gan is-baragraff (a) i’r person sy’n bwriadu cynnal neu sydd wedi cynnal y datblygiad dan sylw.

(8Caiff Gweinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio naill ai—

(a)o’u hewyllys eu hunain; neu

(b)os gofynnir iddynt wneud hynny gan unrhyw berson.

(9Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod y datblygiad penodol hwnnw o ddisgrifiad a grybwyllir yng Ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 2 yn ddatblygiad AEA er gwaethaf y ffaith nad oes yr un o’r amodau a gynhwysir yn is-baragraffau (a) a (b) o’r diffiniad o “datblygiad Atodlen 2” yn cael ei fodloni mewn perthynas â’r datblygiad hwnnw.

(10Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o unrhyw gyfarwyddyd sgrinio a chopi o’r datganiad sy’n ofynnol gan baragraff (7)(a) i’r awdurdod cynllunio perthnasol.

Ceisiadau am farnau sgrinio

5.—(1Caiff person sy’n bwriadu cynnal datblygiad ofyn i’r awdurdod cynllunio perthnasol fabwysiadu barn sgrinio.

(2Rhaid i gais am farn sgrinio mewn perthynas â chais am ganiatâd cynllunio gael ei gyflwyno ynghyd â—

(a)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;

(b)disgrifiad byr o natur a phwrpas y datblygiad a’i effeithiau posibl ar yr amgylchedd; a

(c)unrhyw wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r person sy’n gwneud y cais ddymuno eu darparu neu eu gwneud.

(3Rhaid i gais am farn sgrinio mewn perthynas â chais dilynol gael ei gyflwyno ynghyd â—

(a)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;

(b)digon o wybodaeth i alluogi’r awdurdod cynllunio perthnasol i ganfod unrhyw ganiatâd cynllunio a roddwyd i’r datblygiad mewn cysylltiad â chais dilynol sydd wedi ei wneud;

(c)disgrifiad o effeithiau tebygol ar yr amgylchedd na chanfuwyd ar yr adeg y rhoddwyd y caniatâd cynllunio; a

(d)unrhyw wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r person sy’n gwneud y cais ddymuno eu darparu neu eu gwneud.

(4Os nad yw awdurdod sy’n cael cais am farn sgrinio yn ystyried ei fod wedi cael ei ddarparu â digon o wybodaeth i fabwysiadu barn, rhaid iddo roi gwybod beth yw’r pwyntiau lle y mae angen gwybodaeth ychwanegol arnynt i’r person sy’n gwneud y cais.

(5Rhaid i awdurdod fabwysiadu barn sgrinio o fewn 21 diwrnod yn dechrau â’r dyddiad y ceir cais a wnaed yn unol â pharagraff (1) neu unrhyw gyfnod hwy y cytunir arno’n ysgrifenedig â’r person sy’n gwneud y cais.

(6Rhaid i awdurdod sy’n mabwysiadu barn sgrinio yn unol â pharagraff (5) anfon copi i’r person a wnaeth y cais.

(7Pan fo awdurdod—

(a)yn methu â mabwysiadu barn sgrinio yn unol â pharagraff (5); neu

(b)yn mabwysiadu barn i’r perwyl bod y datblygiad yn ddatblygiad AEA;

caiff y person a ofynnodd am y farn ofyn i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio.

(8Caiff y person wneud cais yn unol â pharagraff (7) hyd yn oed os nad yw’r awdurdod wedi cael gwybodaeth ychwanegol y mae wedi ei cheisio o dan baragraff (4).

Ceisiadau am gyfarwyddydau sgrinio gan Weinidogion Cymru

6.—(1Rhaid i berson sy’n gwneud cais i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio yn unol â rheoliad 5(7) (“person sy’n gwneud cais”) gyflwyno’r canlynol gyda’r cais—

(a)copi o’r cais i’r awdurdod cynllunio perthnasol o dan reoliad 5(1) a’r dogfennau a ddaeth ynghyd â’r cais;

(b)copi o unrhyw hysbysiad a gafwyd o dan reoliad 5(4) ac unrhyw ymateb a anfonwyd;

(c)copi o unrhyw farn sgrinio a gafwyd gan yr awdurdod ac unrhyw ddatganiad o’r rhesymau a ddaeth ynghyd â’r farn; a

(d)>unrhyw sylwadau y dymuna’r person eu gwneud.

(2Rhaid i berson sy’n gwneud cais anfon copi o’r cais hwnnw a’r sylwadau a wneir gan y person hwnnw i Weinidogion Cymru i’r awdurdod cynllunio perthnasol.

(3Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad oes digon o wybodaeth wedi ei darparu i wneud cyfarwyddyd sgrinio, rhaid iddynt hysbysu’r person sy’n gwneud y cais.

(4Rhaid i’r hysbysiad bennu’r pwyntiau y mae angen gwybodaeth ychwanegol amdanynt.

(5Caiff Gweinidogion Cymru hefyd ofyn i’r awdurdod cynllunio perthnasol ddarparu cymaint o wybodaeth ag y gall am unrhyw rai o’r pwyntiau hynny.

(6Rhaid i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio o fewn 21 diwrnod yn dechrau â’r dyddiad y ceir cais yn unol â rheoliad 5(7) neu unrhyw gyfnod hwy y gwneir yn ofynnol yn rhesymol.

(7Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o unrhyw gyfarwyddyd sgrinio a wneir yn unol â pharagraff (6) i’r person a wnaeth y cais cyn gynted ag y mae’n rhesymol ymarferol.

RHAN 3Gweithdrefnau Ynghylch Ceisiadau am Ganiatâd Cynllunio

Ceisiadau pan ymddengys bod barn sgrinio yn ofynnol

7.  Pan ymddengys i’r awdurdod cynllunio perthnasol—

(a)bod cais sydd ger ei fron i benderfynu arno yn gais Atodlen 1 neu’n gais Atodlen 2;

(b)nad yw’r datblygiad dan sylw wedi bod yn destun barn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio; a

(c)nad oes ynghyd â’r cais datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn,

mae paragraffau (4) a (5) o reoliad 5 yn gymwys fel pe bai cael neu gofnodi’r cais yn ofyniad a wnaed o dan reoliad 5(1).

Ceisiadau dilynol pan ddarparwyd gwybodaeth amgylcheddol yn flaenorol

8.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan ymddengys i’r awdurdod cynllunio perthnasol—

(a)bod cais sydd ger ei fron i’w benderfynu—

(i)yn gais dilynol mewn perthynas â datblygiad Atodlen 1 neu ddatblygiad Atodlen 2;

(ii)heb fod yn destun barn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio ei hun; a

(iii)heb ei gyflwyno ynghyd â datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn; a

(b)bod y cais gwreiddiol wedi ei gyflwyno ynghyd â datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(2Pan ymddengys i’r awdurdod cynllunio perthnasol bod yr wybodaeth amgylcheddol sydd eisoes ger ei fron yn ddigonol ar gyfer asesu effeithiau amgylcheddol y datblygiad, rhaid iddo gymryd yr wybodaeth honno i ystyriaeth yn ei benderfyniad ynglŷn â chaniatâd dilynol.

(3Pan ymddengys i’r awdurdod cynllunio perthnasol nad yw’r wybodaeth amgylcheddol a gyflwynwyd ger ei fron eisoes yn ddigonol ar gyfer asesu effeithiau amgylcheddol y datblygiad, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad yn ceisio gwybodaeth bellach yn unol â rheoliad 22(1).

Ceisiadau dilynol pan na ddarparwyd gwybodaeth amgylcheddol ynghyd â hwy yn flaenorol

9.  Pan ymddengys i’r awdurdod cynllunio perthnasol—

(a)bod cais sydd ger ei fron i’w benderfynu—

(i)yn gais dilynol mewn perthynas â datblygiad Atodlen 1 neu ddatblygiad Atodlen 2;

(ii)heb fod yn destun barn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio ei hun; a

(iii)heb ei gyflwyno ynghyd â datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn; a

(b)bod y cais gwreiddiol heb ei gyflwyno ynghyd â datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn,

mae paragraffau (4) a (5) o reoliad 5 yn gymwys fel pe bai cael neu gofnodi’r cais yn ofyniad a wnaed o dan reoliad 5(1).

Cais a wnaed i awdurdod cynllunio lleol heb ddatganiad amgylcheddol

10.—(1Pan nad oes datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn, yn cael ei gyflwyno â chais AEA i awdurdod cynllunio lleol er mwyn penderfynu arno, rhaid i’r awdurdod hysbysu’r ceisydd bod cyflwyno datganiad amgylcheddol yn ofynnol.

(2Pan fo’r awdurdod cynllunio perthnasol yn ymwybodol bod unrhyw berson penodol yn cael ei effeithio neu yn debygol o gael ei effeithio gan y cais, neu â diddordeb yn y cais, ac sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy gyfrwng cyhoeddiad electronig, hysbysiad ar y safle neu drwy hysbyseb lleol, rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol roi gwybod i’r ceisydd am unrhyw berson o’r fath.

(3Rhaid i awdurdod hysbysu’r ceisydd yn unol â pharagraff (1)—

(a)o fewn 21 diwrnod yn dechrau â’r dyddiad y ceir y cais neu unrhyw gyfnod hwy y cytunir arno’n ysgrifenedig gyda’r ceisydd; neu

(b)pan fo Gweinidogion Cymru, ar ôl terfyn y 21 diwrnod hwnnw neu unrhyw gyfnod hwy y cytunwyd arno, yn gwneud cyfarwyddyd sgrinio i’r perwyl bod y datblygiad yn ddatblygiad AEA, o fewn 7 diwrnod yn dechrau â’r dyddiad y cafodd yr awdurdod gopi o’r cyfarwyddyd sgrinio hwnnw.

(4Caiff ceisydd sy’n cael hysbysiad yn unol â pharagraff (1) ysgrifennu at yr awdurdod o fewn 21 diwrnod yn dechrau gyda dyddiad yr hysbysiad, i ddatgan—

(a)bod y ceisydd yn derbyn ei farn ac yn darparu datganiad amgylcheddol; neu

(b)oni bai bod yr amod y cyfeirir ato ym mharagraff (5) yn cael ei fodloni, bod y ceisydd yn ysgrifennu at Weinidogion Cymru i ofyn am gyfarwyddyd sgrinio.

(5At ddiben paragraff (4)(b) yr amod yw bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd sgrinio—

(a)mewn cysylltiad â’r datblygiad, yn achos cais am ganiatâd cynllunio; neu

(b)yn unol â chais dilynol,

yn ôl y digwydd.

(6Os nad yw’r ceisydd yn ysgrifennu at yr awdurdod yn unol â pharagraff (4), tybir bod y caniatâd neu’r caniatâd dilynol a geisir wedi ei wrthod ar ddiwedd y cyfnod perthnasol o 21 diwrnod, oni bai bod yr amod y cyfeirir ato ym mharagraff (7) yn cael ei fodloni a bod y gwrthodiad tybiedig—

(a)yn cael ei drin fel penderfyniad yr awdurdod at ddibenion erthygl 29(3)(c) (cofrestr o geisiadau) o Orchymyn 2012; ond

(b)nad yw’n arwain at apêl i Weinidogion Cymru o dan adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath)(24).

(7At ddibenion paragraff (6) yr amod yw bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd sgrinio i’r perwyl nad yw’r datblygiad yn ddatblygiad AEA—

(a)yn achos cais am ganiatâd cynllunio; neu

(b)yn unol â chais dilynol,

yn ôl y digwydd.

(8Oni bai bod Gweinidogion Cymru yn gwneud cyfarwyddyd sgrinio i’r perwyl nad yw’r datblygiad yn ddatblygiad AEA, rhaid i awdurdod sydd wedi rhoi hysbysiad yn unol â pharagraff (1) benderfynu ar y cais perthnasol dim ond drwy wrthod caniatâd cynllunio neu ganiatâd dilynol os nad yw’r ceisydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol ac yn cydymffurfio â rheoliad 17(6).

(9Rhaid i berson sy’n gwneud cais am gyfarwyddyd sgrinio yn unol â pharagraff (4)(b) anfon copïau o’r canlynol i Weinidogion Cymru gyda’r cais—

(a)y cais;

(b)pob dogfen a anfonwyd i’r awdurdod yn rhan o’r cais;

(c)pob gohebiaeth rhwng y ceisydd a’r awdurdod sy’n ymwneud â’r datblygiad arfaethedig;

(d)copi o unrhyw ganiatâd cynllunio a roddwyd ar gyfer y datblygiad; ac

(e)yn achos cais dilynol, dogfennau neu wybodaeth berthnasol sy’n ymwneud â’r caniatâd cynllunio a roddwyd ar gyfer y datblygiad,

ac mae paragraffau (2) i (7) o reoliad 6 yn gymwys i gais o dan y rheoliad hwn fel y maent yn gymwys i gais a wneir yn unol â rheoliad 5(7).

Cais a atgyfeirir i Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddol

11.—(1Pan fo cais wedi ei atgyfeirio i Weinidogion Cymru i gael ei benderfynu o dan adran 77 o Ddeddf 1990 (atgyfeirio ceisiadau i Weinidogion Cymru)(25), ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru—

(a)ei fod yn gais AEA;

(b)bod y datblygiad dan sylw—

(i)heb fod yn destun barn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio; neu

(ii)yn achos cais dilynol, wedi bod yn destun barn neu gyfeiriad sgrinio cyn y rhoddwyd caniatâd cynllunio i’r perwyl nad oedd yn ddatblygiad AEA; ac

(c)nad oes datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn yn cael ei gyflwyno ynghyd â’r cais,

mae paragraffau (3) a (4) o reoliad 6 yn gymwys fel pe bai atgyfeiro’r cais yn gais a wnaed gan y ceisydd yn unol â rheoliad 5(7).

(2Pan fo cais wedi ei atgyfeirio i Weinidogion Cymru i gael ei benderfynu, ac yr ymddengys i Weinidogion Cymru—

(a)ei fod yn gais AEA,

(b)nad yw paragraff (1)(b) yn gymwys; ac

(c)nad oes datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn yn cael ei gyflwyno ynghyd â’r cais,

rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd bod cyflwyno datganiad amgylcheddol yn ofynnol a rhaid iddynt anfon copi o’r hysbysiad hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd yn unol â pharagraff (2) o fewn 21 diwrnod yn dechrau â’r dyddiad y cafwyd y cais neu unrhyw gyfnod hwy y gwneir yn ofynnol yn rhesymol.

(4Pan fo Gweinidogion Cymru yn ymwybodol bod unrhyw berson penodol yn cael ei effeithio neu yn debygol o gael ei effeithio gan y cais, neu â diddordeb yn y cais, ac sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy gyfrwng cyhoeddiad electronig, hysbysiad ar y safle neu drwy hysbyseb lleol, rhaid iddynt roi gwybod i’r ceisydd am unrhyw berson o’r fath.

(5Caiff ceisydd sy’n cael hysbysiad o dan baragraff (2) gadarnhau i Weinidogion Cymru, o fewn 21 diwrnod yn dechrau gyda dyddiad yr hysbysiad, y bydd datganiad amgylcheddol yn cael ei ddarparu.

(6Os nad yw’r ceisydd yn ysgrifennu’n unol â pharagraff (5), nid oes gan Weinidogion Cymru ddyletswydd i ymdrin â’r cais ac ar ddiwedd y cyfnod o 21 diwrnod rhaid iddynt hysbysu’r ceisydd nad oes unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd ynglŷn â’r cais.

(7Pan—

(a)fo hysbysiad wedi ei roi o dan baragraff (2), a

(b)nad yw’r ceisydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol sy’n cydymffurfio â rheoliad 17(6),

rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y cais perthnasol dim ond drwy wrthod caniatâd cynllunio neu ganiatâd dilynol.

Apêl i Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddol

12.—(1Pan ymddengys i Weinidogion Cymru, wrth ystyried apêl o dan adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath) bod—

(a)y cais perthnasol yn gais AEA; a

(b)y datblygiad dan sylw—

(i)heb fod yn destun barn sgrinio na chyfarwyddyd sgrinio; neu

(ii)yn achos cais dilynol, wedi bod yn destun barn neu gyfarwyddyd sgrinio cyn y rhoddwyd caniatâd cynllunio iddo i’r perwyl nad yw’n ddatblygiad AEA; ac

(c)y cais perthnasol heb gael ei gyflwyno ynghyd â datganiad y cyfeirir ato gan yr apelydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn,

mae paragraffau (3) a (4) o reoliad 6 yn gymwys fel pe bai’r apêl yn gais a wnaed gan yr apelydd yn unol â rheoliad 5(7).

(2Pan fo arolygydd yn ymdrin ag apêl ac mae cwestiwn yn codi ynghylch a yw’r cais perthnasol yn gais AEA ac yr ymddengys i’r arolygydd y gallai fod yn gais o’r fath, rhaid i’r arolygydd atgyfeirio’r cwestiwn hwnnw i Weinidogion Cymru ac ni chaiff benderfynu ar yr apêl cyn y gwneir cyfarwyddyd sgrinio, ac eithrio drwy wrthod caniatâd cynllunio neu ganiatâd dilynol.

(3Mae paragraffau (3) a (4) o reoliad 6 yn gymwys i gwestiwn a atgyfeirir o dan baragraff (2) fel pe bai atgyfeirio’r cwestiwn hwnnw yn gais a wneir gan yr apelydd yn unol â rheoliad 5(7).

(4Pan ymddengys i Weinidogion Cymru bod y cais perthnasol yn gais AEA ac nad yw’n cael ei gyflwyno ynghyd â datganiad y cyfeirir ato gan yr apelydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn, rhaid iddynt hysbysu’r apelydd bod cyflwyno datganiad amgylcheddol yn ofynnol a rhaid iddynt anfon copi o’r hysbysiad hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol.

(5Pan fo Gweinidogion Cymru yn ymwybodol bod unrhyw berson penodol yn cael ei effeithio neu yn debygol o gael ei effeithio gan y cais, neu â diddordeb yn y cais, ac sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy gyfrwng cyhoeddiad electronig, hysbysiad ar y safle neu drwy hysbyseb lleol, rhaid iddynt roi gwybod i’r apelydd am unrhyw berson o’r fath.

(6Caiff apelydd sy’n cael hysbysiad o dan baragraff (4), gadarnhau i Weinidogion Cymru o fewn 21 diwrnod yn dechrau gyda dyddiad yr hysbysiad y bydd datganiad amgylcheddol yn cael ei ddarparu.

(7Os nad yw’r apelydd yn ysgrifennu yn unol â pharagraff (6), nid oes gan Weinidogion Cymru, na’r arolygydd pan fo hynny’n berthnasol, ddyletswydd i ymdrin â’r apêl; ac ar ddiwedd y 21 diwrnod, rhaid i Weinidogion Cymru, neu’r arolygydd, hysbysu’r apelydd nad oes unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd ar yr apêl.

(8Pan—

(a)fo hysbysiad wedi ei roi o dan baragraff (4), a

(b)nad yw’r apelydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol ac yn cydymffurfio â rheoliad 17(6),

rhaid i Weinidogion Cymru neu, pan fo hynny’n berthnasol, yr arolygydd benderfynu ar yr apêl dim ond drwy wrthod caniatâd cynllunio neu ganiatâd dilynol.

RHAN 4Paratoi Datganiadau Amgylcheddol

Barnau cwmpasu

13.—(1Caiff person sy’n bwriadu gwneud cais AEA ofyn i’r awdurdod cynllunio perthnasol ddarparu barn gwmpasu.

(2Rhaid i gais o dan baragraff (1) gynnwys—

(a)mewn perthynas â chais am ganiatâd cynllunio—

(i)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;

(ii)disgrifiad byr o natur a phwrpas y datblygiad a’i effeithiau posibl ar yr amgylchedd; a

(iii)unrhyw wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r person sy’n gwneud y cais ddymuno eu darparu neu eu gwneud.

(b)mewn perthynas â chais dilynol—

(i)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;

(ii)digon o wybodaeth i alluogi’r awdurdod cynllunio perthnasol i ganfod unrhyw ganiatâd cynllunio a roddwyd i’r datblygiad mewn cysylltiad â chais dilynol sydd wedi ei wneud;

(iii)disgrifiad o effeithiau posibl ar yr amgylchedd na chanfuwyd ar yr adeg y rhoddwyd y caniatâd cynllunio; a

(iv)unrhyw wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r person sy’n gwneud y cais ddymuno eu darparu neu eu gwneud.

(3Os nad yw awdurdod sy’n cael cais o dan baragraff (1) yn ystyried ei fod wedi cael ei ddarparu â digon o wybodaeth i fabwysiadu barn sgrinio, rhaid iddo roi gwybod i’r person sy’n gwneud y cais am y pwyntiau lle y mae angen gwybodaeth ychwanegol arnynt.

(4Rhaid i awdurdod beidio â mabwysiadu barn gwmpasu mewn ymateb i gais o dan baragraff (1) hyd nes ei fod wedi ymgynghori â’r person a wnaeth y cais a’r ymgynghoreion, ond rhaid iddo, yn unol â pharagraff (5), fabwysiadu barn gwmpasu ac anfon copi i’r person a wnaeth y cais o fewn 5 wythnos yn dechrau â’r dyddiad y ceir y cais neu unrhyw gyfnod hwy y cytunir arno yn ysgrifenedig â’r person a wnaeth y cais.

(5Pan fo person wedi gofyn i’r awdurdod am farn o dan baragraff (1) uchod ar yr un pryd â gwneud cais am farn sgrinio o dan reoliad 5(1), ac mae’r awdurdod wedi mabwysiadu barn sgrinio i’r perwyl bod y datblygiad yn ddatblygiad AEA, rhaid i’r awdurdod fabwysiadu barn gwmpasu ac anfon copi i’r person a wnaeth y cais o fewn 5 wythnos yn dechrau â’r dyddiad y mabwysiadwyd y farn sgrinio honno neu unrhyw gyfnod hwy y cytunir arno yn ysgrifenedig â’r person a wnaeth y cais.

(6Cyn mabwysiadu barn gwmpasu, rhaid i’r awdurdod gymryd y canlynol i ystyriaeth—

(a)nodweddion neilltuol y datblygiad penodol;

(b)nodweddion neilltuol y datblygiad o’r math dan sylw; ac

(c)y nodweddion amgylcheddol y mae’r datblygiad yn debygol o effeithio arnynt.

(7Pan fo awdurdod yn methu â mabwysiadu barn gwmpasu o fewn y cyfnod perthnasol a grybwyllir ym mharagraff (4) neu (5), caiff y person a wnaeth gais am y farn ofyn i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd cwmpasu o dan reoliad 14(1).

(8Mae paragraff (7) yn gymwys hyd yn oed os nad yw’r awdurdod wedi cael gwybodaeth ychwanegol y mae wedi ei cheisio o dan baragraff (3).

(9Nid oes unrhyw beth yn atal awdurdod sydd wedi mabwysiadu barn gwmpasu rhag ei gwneud yn ofynnol i’r person a wnaeth y cais ddarparu gwybodaeth ychwanegol.

(10Ystyr “gwybodaeth ychwanegol” (“additional information”) ym mharagraff (9) yw gwybodaeth mewn cysylltiad ag unrhyw ddatganiad y caniateir ei gyflwyno gan y person hwnnw fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â chais am ganiatâd cynllunio neu gais dilynol ar gyfer yr un datblygiad.

Cyfarwyddydau cwmpasu

14.—(1Rhaid i gais a wneir o dan y paragraff hwn yn unol â rheoliad 13(7) gynnwys—

(a)copi o’r cais i’r awdurdod cynllunio perthnasol o dan reoliad 13(1);

(b)copi o unrhyw hysbysiad perthnasol o dan reoliad 13(3) ac o unrhyw ymateb;

(c)copi o unrhyw farn sgrinio berthnasol a gafwyd gan y person sy’n gwneud y cais ac unrhyw ddatganiad o’r rhesymau sy’n mynd ynghyd â’r farn; a

(d)unrhyw sylwadau y dymuna’r person sy’n gwneud y cais eu gwneud.

(2Rhaid i berson sy’n gwneud cais anfon copi o’r cais hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol, ond nid oes angen i’r copi hwnnw gynnwys y materion a grybwyllir ym mharagraff (1)(a) i (c).

(3Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â pharagraff (1) yn ddigonol er mwyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r person sy’n gwneud y cais.

(4Rhaid i’r hysbysiad nodi unrhyw bwyntiau y mae angen gwybodaeth ychwanegol amdanynt.

(5Caiff Gweinidogion Cymru hefyd ofyn i’r awdurdod cynllunio perthnasol ddarparu cymaint o wybodaeth ag y gall ar unrhyw rai o’r pwyntiau hynny.

(6Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)ymgynghori â’r person sy’n gwneud y cais a’r ymgynghoreion cyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu mewn ymateb i gais o dan baragraff (1), a

(b)gwneud cyfarwyddyd ac anfon copi i’r person sy’n gwneud y cais ac i’r awdurdod cynllunio perthnasol, o fewn y 5 wythnos sy’n dechrau â’r dyddiad y ceir y cais hwnnw neu unrhyw gyfnod hwy y gwneir yn ofynnol yn rhesymol.

(7Cyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu rhaid i Weinidogion Cymru gymryd y materion a bennir yn rheoliad 13(6) i ystyriaeth.

(8Nid oes unrhyw beth yn atal Gweinidogion Cymru, (ar ôl iddynt wneud cyfarwyddyd cwmpasu) na’r awdurdod cynllunio perthnasol rhag ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n gwneud y cais ddarparu gwybodaeth ychwanegol.

(9Ystyr “gwybodaeth ychwanegol” (“additional information”) ym mharagraff (8) yw gwybodaeth mewn cysylltiad ag unrhyw ddatganiad y caniateir ei gyflwyno gan y person hwnnw fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â chais am ganiatâd cynllunio neu gais dilynol ar gyfer yr un datblygiad.

Gweithdrefn i hwyluso paratoi datganiadau amgylcheddol

15.—(1Caiff unrhyw berson sy’n bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol i’r awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn roi hysbysiad i’r awdurdod hwnnw neu i Weinidogion Cymru o dan y paragraff hwn.

(2Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) gynnwys yr wybodaeth sy’n angenrheidiol er mwyn adnabod y tir a natur a diben y datblygiad, a rhaid iddo ddangos y prif ganlyniadau amgylcheddol y mae’r person sy’n rhoi’r hysbysiad yn bwriadu cyfeirio atynt yn y datganiad amgylcheddol.

(3Rhaid i dderbynnydd—

(a)hysbysiad o’r math a grybwyllir ym mharagraff (1); neu

(b)datganiad neu gadarnhad a wneir yn unol â rheoliad 10(4)(a), 11(5) neu 12(6)

(i)hysbysu’r ymgynghoreion o enw a chyfeiriad y person sy’n bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol a’r ddyletswydd a osodir ar yr ymgynghoreion gan baragraff (4) er mwyn sicrhau bod gwybodaeth ar gael i’r person hwnnw; a

(ii)hysbysu’r person sy’n bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol o enwau a chyfeiriadau’r ymgynghoreion a hysbyswyd.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i awdurdod cynllunio perthnasol ac unrhyw ymgynghorai a hysbysir yn unol â pharagraff (3), ymgynghori â’r person, os bydd y person hwnnw sy’n bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol yn gofyn am hynny, er mwyn penderfynu a oes gan yr awdurdod neu’r ymgynghorai unrhyw wybodaeth yn eu meddiant y mae’r person hwnnw, neu y maent hwy, yn ei hystyried yn berthnasol ar gyfer paratoi’r datganiad amgylcheddol. Os oes ganddynt, rhaid i’r awdurdod neu’r ymgynghorai sicrhau bod yr wybodaeth honno ar gael i’r person hwnnw.

(5Rhaid i awdurdod cynllunio perthnasol neu ymgynghorai sy’n cael cais am wybodaeth o dan baragraff (4) ei drin fel cais am wybodaeth o dan reoliad 5(1) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004(26).

RHAN 5Cyhoeddusrwydd a Gweithdrefnau ar Gyflwyno Datganiadau Amgylcheddol

Y weithdrefn pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno i awdurdod cynllunio lleol

16.—(1Rhaid i geisydd sy’n gwneud cais AEA i’r awdurdod cynllunio perthnasol gyflwyno datganiad hefyd, y bwriedir iddo fod yn ddatganiad amgylcheddol, a rhaid darparu un copi ychwanegol o’r datganiad i’r awdurdod i’w drosglwyddo i Weinidogion Cymru.

(2Os yw’r ceisydd yn cyflwyno copi o’r datganiad i unrhyw gorff arall ar yr un pryd ag y mae’n gwneud cais AEA, rhaid i’r ceisydd—

(a)cyflwyno copi o’r cais i’r corff ac unrhyw blan a gyflwynir gyda’r cais (oni bai eu bod wedi eu darparu i’r corff dan sylw eisoes);

(b)hysbysu’r corff y caniateir gwneud sylwadau i’r awdurdod cynllunio perthnasol; ac

(c)hysbysu’r awdurdod o enw pob corff y cyflwynwyd iddo felly a dyddiad y cyflwyno.

(3Pan fo awdurdod cynllunio perthnasol yn cael datganiad amgylcheddol, rhaid i’r awdurdod—

(a)anfon un copi o’r datganiad, copi o’r cais perthnasol ac o unrhyw ddogfennau a gyflwynwyd gyda’r cais i Weinidogion Cymru o fewn 14 diwrnod ar ôl cael y datganiad;

(b)hysbysu’r ceisydd o nifer y copïau sy’n ofynnol er mwyn galluogi’r awdurdod i gydymffurfio ag is-baragraff (c);

(c)anfon copi o’r datganiad ymlaen i unrhyw ymgynghorai nad yw wedi cael copi yn uniongyrchol gan y ceisydd, a hysbysu unrhyw ymgynghorai o’r fath y caniateir iddo gyflwyno sylwadau;

(d)pan fo’r awdurdod cynllunio perthnasol yn ymwybodol bod unrhyw berson penodol yn cael ei effeithio neu yn debygol o gael ei effeithio gan y cais, neu â diddordeb yn y cais, ac sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy gyfrwng cyhoeddiad electronig, hysbysiad ar y safle neu drwy hysbyseb lleol, anfon hysbysiad i berson o’r fath yn cynnwys y manylion a nodir yn rheoliad 17(2)(b) i (j) ac enw a chyfeiriad yr awdurdod cynllunio perthnasol.

(4Rhaid i’r ceisydd anfon y copïau sy’n ofynnol at ddibenion paragraff (3)(c) i’r awdurdod cynllunio perthnasol.

(5Pan fo ceisydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol i’r awdurdod yn unol â pharagraff (1), mae darpariaethau erthygl 12 o Orchymyn 2012 (cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio) ac Atodlen 3 i’r Gorchymyn hwnnw yn gymwys i gais dilynol fel y maent yn gymwys i gais cynllunio sy’n dod o fewn erthygl 12(2) o Orchymyn 2012 fel pe bai’r cyfeiriad yn yr hysbysiad yn Atodlen 3 i Orchymyn 2012 at “ganiatâd cynllunio i” yn darllen “ganiatâd, cytundeb neu gymeradwyaeth i”.

(6Rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol beidio â phenderfynu ar y cais hyd nes y daw 21 diwrnod o’r dyddiad olaf y cyflwynwyd copi o’r datganiad yn unol â’r rheoliad hwn i ben.

Cyhoeddusrwydd pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno ar ôl y cais cynllunio

17.—(1Pan fo cais am ganiatâd cynllunio neu gais dilynol wedi ei wneud heb ddatganiad amgylcheddol a bod y ceisydd yn bwriadu cyflwyno datganiad o’r fath, rhaid i’r ceisydd gydymffurfio â pharagraffau (2) i (5) cyn ei gyflwyno.

(2Rhaid i’r ceisydd gyhoeddi hysbysiad mewn papur newydd lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal leol lle y mae’r tir wedi ei leoli sy’n nodi—

(a)enw’r ceisydd, bod cais yn cael ei wneud am ganiatâd cynllunio neu ganiatâd dilynol ac enw a chyfeiriad yr awdurdod cynllunio perthnasol;

(b)y dyddiad y gwnaed y cais, a bod y cais wedi ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru i gael ei benderfynu neu ei fod yn destun apêl i Weinidogion Cymru os gwnaed hynny;

(c)cyfeiriad neu leoliad a natur y datblygiad arfaethedig;

(d)bod—

(i)copi o’r cais, unrhyw blan a dogfennau eraill a gyflwynir ynghyd ag ef, a chopi o’r datganiad amgylcheddol, a

(ii)yn achos cais dilynol, copi o’r caniatâd cynllunio y gwnaed y cais hwnnw mewn cysylltiad ag ef a dogfennau ategol,

ar gael i aelodau o’r cyhoedd edrych arnynt ar bob adeg resymol;

(e)cyfeiriad yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle mae’r dogfennau hynny ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt, a’r dyddiad olaf y maent ar gael i’w gweld (sydd yn ddyddiad nad yw’n llai na 21 diwrnod yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(f)cyfeiriad (pa un a yw yr un cyfeiriad a roddir o dan is-baragraff (e) ai peidio) yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle gellir cael copïau o’r datganiad;

(g)y gellir cael copïau yno cyhyd â bod rhai yn dal ar gael;

(h)os codir tâl am gopi, swm y tâl;

(i)y dylai unrhyw berson sy’n dymuno cyflwyno sylwadau ynglŷn â’r cais wneud hynny, cyn y dyddiad a nodir yn unol ag is-baragraff (e), i’r awdurdod cynllunio perthnasol neu (yn achos cais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru neu apêl) i Weinidogion Cymru; a

(j)yn achos cais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru neu apêl, y cyfeiriad, gan gynnwys cyfeiriad electronig, y dylid anfon sylwadau iddo.

(3Rhaid i geisydd sy’n cael ei hysbysu o dan reoliad 10(2), 11(4) neu 12(5) ynghylch person o’r math a grybwyllir yn unrhyw un o’r paragraffau hynny gyflwyno hysbysiad i bob person o’r fath; a rhaid i’r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (2), ond ni chaiff y dyddiad a nodir fel y dyddiad olaf y mae’r dogfennau ar gael i aelodau o’r cyhoedd edrych arnynt fod yn llai na 21 diwrnod yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad gyntaf.

(4Rhaid i’r ceisydd arddangos hysbysiad ar y tir sy’n cynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (2), lle mae ganddo hawl i wneud hynny, neu lle y gellir caffael yr hawl yn rhesymol i wneud hynny, ond ni chaiff y dyddiad a nodir fel y dyddiad olaf y bydd y dogfennau ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt fod yn llai na 21 diwrnod yn ddiweddarach na’r dyddiad yr arddangosir yr hysbysiad gyntaf.

(5Rhaid i’r hysbysiad a grybwyllir ym mharagraff (4)—

(a)cael ei adael yn ei le am gyfnod heb fod yn llai na 7 diwrnod yn y 28 diwrnod yn union cyn y dyddiad y cyflwynir y datganiad; a

(b)cael ei osod yn gadarn ar rywbeth ar y tir a’i leoli a’i arddangos mewn modd sy’n golygu bod modd i aelodau o’r cyhoedd ei weld a’i ddarllen yn rhwydd heb fynd ar y tir.

(6Rhaid i’r canlynol fynd ynghyd â’r datganiad pan y’i cyflwynir—

(a)copi o’r hysbysiad a grybwyllir ym mharagraff (2) wedi ei ardystio gan neu ar ran y ceisydd mewn papur newydd a enwir ar ddyddiad a bennir yn y dystysgrif; a

(b)tystysgrif gan neu ar ran y ceisydd sy’n nodi naill ai—

(i)bod hysbysiad wedi ei arddangos ar y tir er mwyn cydymffurfio â’r rheoliad hwn a pha bryd y gwnaed hyn, a bod yr hysbysiad wedi ei adael yn ei le am gyfnod heb fod yn llai na 7 diwrnod yn y 28 diwrnod yn union cyn y dyddiad y cyflwynwyd y datganiad, neu ei fod, heb unrhyw fai na bwriad ar ran y ceisydd, wedi ei dynnu, ei guddio neu ei ddifwyno cyn diwedd y 7 diwrnod a bod y ceisydd wedi cymryd camau rhesymol i’w ddiogelu neu roi un newydd yn ei le, gan nodi’r camau a gymerwyd; neu

(ii)nad oedd modd i’r ceisydd gydymffurfio â pharagraffau (4) a (5) am nad oedd gan y ceisydd yr hawliau angenrheidiol i wneud hynny; bod unrhyw gamau rhesymol ar gael i gaffael yr hawliau hynny wedi eu cymryd ond yn aflwyddiannus, gan nodi’r camau a gymerwyd.

(7Pan fo ceisydd yn dynodi bod y ceisydd yn bwriadu darparu datganiad o dan yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (1), rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol, Gweinidogion Cymru neu’r arolygydd, yn ôl y digwydd, (oni bai y penderfynir gwrthod y caniatâd neu’r caniatâd dilynol a geisir) ohirio ystyried y cais neu’r apêl hyd nes y ceir y datganiad a’r dogfennau eraill a grybwyllir ym mharagraff (6); ac ni chaniateir penderfynu ar y cais na’r apêl yn ystod y cyfnod o 21 diwrnod sy’n dechrau â’r dyddiad y ceir y datganiad a’r dogfennau eraill a grybwyllwyd felly.

(8Os bydd unrhyw berson—

(a)yn dyroddi tystysgrif sy’n honni cydymffurfiad â gofynion paragraff (6)(b), neu

(b)yn dyroddi tystysgrif yn ddi-hid sy’n honni cydymffurfiad â’r gofynion hynny,

ac sy’n cynnwys datganiad y mae’r person hwnnw yn gwybod ei fod yn anwir neu’n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol, mae’r person hwnnw yn euog o drosedd ac yn agored yn dilyn euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(9Pan fwriedir cyflwyno datganiad amgylcheddol mewn cysylltiad ag apêl, mae’r rheoliad hwn yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriadau at y ceisydd yn gyfeiriadau at yr apelydd.

Darparu copïau o ddatganiadau amgylcheddol a gwybodaeth bellach i Weinidogion Cymru pe byddai atgyfeiriad neu apêl

18.  Pan fo ceisydd ar gyfer caniatâd cynllunio neu ganiatâd dilynol wedi cyflwyno datganiad amgylcheddol, neu wybodaeth bellach, i’r awdurdod cynllunio perthnasol mewn cysylltiad â’r cais hwnnw ac—

(a)mae’r cais yn cael ei atgyfeirio i Weinidogion Cymru o dan adran 77 o Ddeddf 1990 (atgyfeirio ceisiadau i’r Ysgrifennydd Gwladol); neu

(b)mae’r ceisydd yn apelio o dan adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath),

rhaid i’r ceisydd ddarparu un copi o’r datganiad i Weinidogion Cymru a, phan fo’n berthnasol, yr wybodaeth bellach oni bai, yn achos cais sydd wedi ei atgyfeirio, bod yr awdurdod cynllunio perthnasol eisoes wedi gwneud hynny.

Y weithdrefn pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru

19.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo ceisydd neu apelydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol i Weinidogion Cymru, mewn perthynas â chais AEA—

(a)sydd gerbron Gweinidogion Cymru neu arolygydd er mwyn penderfynu arno; neu

(b)sy’n destun apêl i Weinidogion Cymru.

(2Rhaid i’r ceisydd neu’r apelydd gyflwyno dau gopi o’r datganiad i Weinidogion Cymru a rhaid i Weinidogion Cymru anfon un copi i’r awdurdod cynllunio perthnasol.

(3Caiff ceisydd neu apelydd sy’n cyflwyno datganiad amgylcheddol i Weinidogion Cymru ddarparu copi ohono i unrhyw gorff arall, ac os gwneir hynny rhaid iddo—

(a)cydymffurfio â rheoliad 16(2)(a) a (b) fel pe bai’r cyfeiriad yn rheoliad 16(2)(b) at yr awdurdod cynllunio perthnasol yn gyfeiriad at Weinidogion Cymru; a

(b)hysbysu Gweinidogion Cymru o’r materion a grybwyllir yn rheoliad 16(2)(c).

(4Rhaid i Weinidogion Cymru gydymffurfio â rheoliad 16(3) (heblaw is-baragraff (a) o’r rheoliad hwnnw) a rhaid i’r ceisydd neu’r apelydd gydymffurfio â rheoliad 16(4) fel pe bai—

(a)cyfeiriadau yn y darpariaethau hynny at yr awdurdod cynllunio perthnasol yn gyfeiriadau at Weinidogion Cymru; a

(b)yn achos apêl, cyfeiriadau at y ceisydd yn gyfeiriadau at yr apelydd,

a rhaid i Weinidogion Cymru neu’r arolygydd gydymffurfio â rheoliad 16(6) fel pe bai’n cyfeirio at Weinidogion Cymru neu’r arolygydd yn hytrach na’r awdurdod cynllunio perthnasol.

Argaeledd copïau o ddatganiadau amgylcheddol

20.  Rhaid i geisydd neu apelydd sy’n cyflwyno datganiad amgylcheddol mewn cysylltiad â chais neu apêl, sicrhau bod nifer rhesymol o gopïau o’r datganiad ar gael yn y cyfeiriad a enwir yn yr hysbysiadau a gyhoeddir neu a osodir yn unol ag erthygl 12 o Orchymyn 2012 neu reoliad 17(2)(f) fel y cyfeiriad lle y gellir cael copïau o’r fath.

Tâl am gopïau o ddatganiadau amgylcheddol

21.  Caniateir codi tâl rhesymol sy’n adlewyrchu costau argraffu a dosbarthu ar aelod o’r cyhoedd am ddatganiad a wneir yn unol â rheoliad 20.

Gwybodaeth bellach a thystiolaeth mewn cysylltiad â datganiadau amgylcheddol

22.—(1Os yw awdurdod cynllunio perthnasol, Gweinidogion Cymru neu’r arolygydd sy’n ymdrin â chais neu apêl y mae’r ceisydd neu’r apelydd wedi cyflwyno datganiad amgylcheddol mewn perthynas ag ef, o’r farn y dylai’r datganiad gynnwys gwybodaeth ychwanegol er mwyn bod yn ddatganiad amgylcheddol, rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol, Gweinidogion Cymru neu’r arolygydd hysbysu’r ceisydd neu’r apelydd yn unol â hynny a rhaid i’r ceisydd neu’r apelydd ddarparu’r wybodaeth ychwanegol honno; a chyfeirir at wybodaeth ychwanegol o’r fath yn y Rheoliadau hyn fel “gwybodaeth bellach” (“further information”).

(2Mae paragraffau (3) i (9) yn gymwys mewn perthynas â gwybodaeth bellach ac unrhyw wybodaeth arall ac eithrio i’r graddau—

(a)y mae’r wybodaeth bellach ac unrhyw wybodaeth arall yn cael ei darparu at ddiben ymholiad neu wrandawiad a gynhelir o dan Ddeddf 1990; a

(b)bod y cais am yr wybodaeth bellach a wnaed yn unol â pharagraff (1) yn nodi ei bod i’w darparu at ddibenion o’r fath.

(3Rhaid i dderbynnydd gwybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall gyhoeddi hysbysiad mewn papur newydd lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli sy’n nodi—

(a)enw’r ceisydd am ganiatâd cynllunio neu am ganiatâd dilynol, neu’r apelydd (yn ôl y digwydd), ac enw a chyfeiriad yr awdurdod cynllunio perthnasol;

(b)y dyddiad y gwnaed y cais a’r dyddiad yr atgyfeiriwyd y cais i Weinidogion Cymru, os gwnaed hynny, er mwyn penderfynu arno neu ei fod yn destun apêl i Weinidogion Cymru;

(c)yn achos cais dilynol, digon o wybodaeth i alluogi adnabod y caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad;

(d)cyfeiriad neu leoliad a natur y datblygiad arfaethedig;

(e)bod gwybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall ar gael mewn perthynas â datganiad amgylcheddol sydd wedi ei ddarparu eisoes;

(f)y caiff aelodau’r cyhoedd edrych ar gopi o’r wybodaeth bellach neu o unrhyw wybodaeth arall ac unrhyw ddatganiad amgylcheddol sy’n ymwneud ag unrhyw ganiatâd cynllunio neu gais dilynol ar bob adeg resymol;

(g)cyfeiriad yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle caiff y cyhoedd edrych ar yr wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall a’r dyddiad olaf y bydd ar gael i’w gweld (sydd yn ddyddiad nad yw’n llai na 21 diwrnod yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(h)cyfeiriad yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli (pa un a yw yr un cyfeiriad a roddir yn unol ag is-baragraff (g) ai peidio) lle gellir cael copïau o’r wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall;

(i)y gellir cael copïau yno cyhyd â bod rhai yn dal ar gael;

(j)swm y tâl, os bydd tâl yn cael ei godi am gopi;

(k)y dylai unrhyw berson sy’n dymuno cyflwyno sylwadau am yr wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall eu cyflwyno i’r awdurdod cynllunio perthnasol, Gweinidogion Cymru neu’r arolygydd (yn ôl y digwydd) cyn y dyddiad a nodir yn unol ag is-baragraff (g); ac

(l)y cyfeiriad y dylid anfon sylwadau iddo.

(4Rhaid i’r sawl sy’n derbyn gwybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall anfon copi ohoni i bob un o’r personau yr anfonwyd atynt y datganiad sy’n ymwneud â hi, yn unol â’r Rheoliadau hyn.

(5Pan mai’r awdurdod cynllunio lleol yw’r sawl sy’n derbyn yr wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall, rhaid iddo anfon un copi o’r wybodaeth bellach i Weinidogion Cymru.

(6Caiff y sawl sy’n derbyn yr wybodaeth bellach ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd neu’r apelydd drwy hysbysiad i ddarparu’r cyfryw nifer o gopïau o’r wybodaeth bellach neu’r wybodaeth arall a bennir yn yr hysbysiad (sef y nifer sy’n ofynnol at ddibenion paragraff (4) neu (5)).

(7Pan ofynnir am wybodaeth o dan baragraff (1) neu pan ddarperir unrhyw wybodaeth arall, rhaid i Weinidogion Cymru neu’r arolygydd, yn ôl y digwydd,—

(a)atal y penderfyniad ar y cais neu’r apêl dros dro; a

(b)peidio â phenderfynu arno cyn—

(i)diwedd 21 diwrnod ar ôl y dyddiad yr anfonwyd yr wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall i bob person yr anfonwyd atynt y datganiad sy’n ymwneud â hi, neu

(ii)diwedd 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y cyhoeddwyd hysbysiad ohoni mewn papur newydd lleol,

pa bynnag un yw’r diweddaraf.

(8Rhaid i’r ceisydd neu’r apelydd sy’n darparu gwybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall, yn unol â pharagraff (1) sicrhau bod nifer rhesymol o gopïau o’r wybodaeth ar gael yn y cyfeiriad a enwir yn yr hysbysiad a gyhoeddwyd yn unol â pharagraff (3)(h) fel y cyfeiriad lle gellir cael copïau o’r fath.

(9Caniateir codi tâl rhesymol sy’n adlewyrchu costau argraffu a dosbarthu ar aelod o’r cyhoedd am gopi o’r wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall, a roddir ar gael yn unol â pharagraff (8).

(10Caiff yr awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru neu arolygydd ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd neu’r apelydd ddangos pa bynnag dystiolaeth y gallant ofyn amdani yn rhesymol i wirio unrhyw wybodaeth yn y datganiad amgylcheddol.

RHAN 6Argaeledd Cyfarwyddydau etc. a Hysbysu am Benderfyniadau

Argaeledd barnau, cyfarwyddydau etc. i’w harchwilio

23.—(1Pan fo manylion am gais cynllunio neu gais dilynol yn cael eu gosod yn Rhan 1 o’r gofrestr, rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol gymryd camau i sicrhau bod copi yn cael eu gosod yn y Rhan honno hefyd o unrhyw—

(a)barn sgrinio;

(b)cyfarwyddyd sgrinio;

(c)barn gwmpasu;

(d)cyfarwyddyd cwmpasu;

(e)hysbysiad a roddwyd o dan reoliad 10(1), 11(2) neu 12(4);

(f)cyfarwyddyd o dan reoliad 4(4);

(g)datganiad amgylcheddol, gan gynnwys unrhyw wybodaeth bellach ac unrhyw wybodaeth arall;

(h)datganiad o resymau sy’n mynd ynghyd ag unrhyw rai o’r uchod.

(2Pan fo’r awdurdod cynllunio perthnasol—

(a)yn mabwysiadu barn sgrinio neu farn gwmpasu; neu

(b)yn cael cais o dan reoliad 13(1), neu 14(1), copi o gyfarwyddyd sgrinio, cyfarwyddyd cwmpasu, neu gyfarwyddyd o dan reoliad 4(4) cyn y gwneir cais am ganiatâd cynllunio neu ganiatâd dilynol ar gyfer y datblygiad o dan sylw,

rhaid i’r awdurdod gymryd camau i sicrhau bod copi o’r farn, y cais neu’r cyfarwyddyd ac unrhyw ddatganiad o’r rhesymau sy’n mynd ynghyd ag ef neu hi yn cael eu rhoi ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt ar bob adeg resymol yn y lle y cedwir y gofrestr briodol (neu adran berthnasol o’r gofrestr honno).

(3Rhaid i gopïau o’r dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) barhau i fod ar gael yn y modd hwn am gyfnod o ddwy flynedd o’r dyddiad y gosodir hwy ar y gofrestr.

Dyletswyddau i hysbysu’r cyhoedd a Gweinidogion Cymru am y penderfyniadau terfynol

24.—(1Pan fo cais AEA yn cael ei benderfynu gan awdurdod cynllunio lleol, rhaid i’r awdurdod—

(a)hysbysu Gweinidogion Cymru o’r penderfyniad;

(b)hysbysu’r cyhoedd o’r penderfyniad, drwy hysbyseb lleol, neu drwy unrhyw ddull arall sy’n rhesymol dan yr amgylchiadau; ac

(c)sicrhau bod datganiad yn cael ei roi ar gael i’r cyhoedd edrych arno yn y lle y cedwir y gofrestr briodol (neu adran berthnasol o’r gofrestr honno), sydd yn cynnwys—

(i)cynnwys y penderfyniad ac unrhyw amodau sy’n gysylltiedig ag ef;

(ii)y prif resymau ac ystyriaethau y mae’r penderfyniad wedi ei seilio arnynt gan gynnwys, os yn berthnasol, gwybodaeth am gyfranogiad y cyhoedd;

(iii)disgrifiad, pan fo angen, o’r prif gamau ar gyfer osgoi, lleihau ac, os yn bosibl, gwrthbwyso prif effeithiau andwyol y datblygiad; a

(iv)gwybodaeth ynghylch yr hawl i herio dilysrwydd y penderfyniad a’r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny.

(2Pan fo cais AEA yn cael ei benderfynu gan Weinidogion Cymru neu arolygydd, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)hysbysu’r awdurdod cynllunio perthnasol o’r penderfyniad; a

(b)darparu datganiad o’r math a grybwyllir ym mharagraff (1)(c) i’r awdurdod.

(3Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael hysbysiad o dan baragraff (2)(a), rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol gydymffurfio ag is-baragraffau (b) ac (c) o baragraff (1) mewn perthynas â’r penderfyniad yr hysbyswyd amdano yn y modd hwn fel pe bai’n benderfyniad yr awdurdod.

RHAN 7Datblygiad Gan Awdurdod Cynllunio Lleol

Addasiadau pan fo’r cais gan awdurdod cynllunio lleol

25.  Pan mai’r awdurdod cynllunio perthnasol yw’r (neu a fyddai’r) ceisydd hefyd (pa un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd gydag unrhyw berson arall), mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i gais AEA (neu gais arfaethedig) yn ddarostyngedig i’r addasiadau canlynol—

(a)nid yw rheoliadau 5 a 6 yn gymwys, yn ddarostyngedig i reoliad 26(1) a (2);

(b)mae rheoliad 7 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriad at reoliad 5(4) a (5) wedi ei hepgor;

(c)nid yw rheoliad 10 yn gymwys;

(d)nid yw rheoliadau 13 a 14 yn gymwys;

(e)nid yw paragraffau (1) i (3) o reoliad 15 yn gymwys, ac mae rheoliad 15(4) yn gymwys i unrhyw ymgynghorai y mae’r awdurdod cynllunio perthnasol yn gofyn am gymorth ganddo fel y mae’n gymwys i ymgynghorai a hysbysir yn unol â rheoliad 15(3);

(f)ac eithrio at ddibenion rheoliad 19(3) a (4), mae rheoliad 16 yn gymwys fel pe bai—

(i)paragraff (1) yn darllen—

(1) Pan fo awdurdod cynllunio perthnasol sy’n gwneud cais AEA yn cofnodi datganiad, y cyfeirir ato fel “datganiad amgylcheddol”, rhaid iddo—

(a)darparu copi o’r canlynol i bob ymgynghorai—

(i)y datganiad;

(ii)y cais perthnasol ac unrhyw blan a gyflwynir gyda’r cynllun; a

(iii)yn achos cais dilynol, y caniatâd cynllunio a roddwyd i’r datblygiad y gwnaed y cais dilynol mewn cysylltiad ag ef ac unrhyw ddogfennau neu wybodaeth sy’n ymwneud â’r cais;

(b)hysbysu bob ymgynghorai y caniateir cyflwyno sylwadau i’r awdurdod cynllunio perthnasol; ac

(c)anfon y canlynol i Weinidogion Cymru o fewn 14 diwrnod ar ôl cofnodi’r datganiad—

(i)un copi o’r datganiad;

(ii)copi o’r cais perthnasol ac unrhyw ddogfennau a gyflwynwyd gyda’r cais; a

(iii)yn achos cais dilynol, y caniatâd cynllunio a roddwyd i’r datblygiad y gwnaed y cais dilynol mewn cysylltiad ag ef ac unrhyw ddogfennau neu wybodaeth sy’n ymwneud â’r cais.; a

(ii)paragraffau (2) a (3) wedi eu hepgor;

(iii)y geiriau “Pan fo ceisydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol i’r awdurdod yn unol â pharagraff (1)” yn rheoliad 16(5), wedi eu hepgor; a

(iv)“cyflwynwyd” yn rheoliad 16(6) yn darllen “cofnodwyd”;

(g)mae rheoliad 19 yn gymwys fel pe bai paragraff (2) wedi ei hepgor.

Barnau a chyfarwyddydau sgrinio

26.—(1Caiff awdurdod sy’n bwriadu gwneud cais cynllunio neu gais dilynol pan mai’r awdurdod ei hun fyddai’r awdurdod cynllunio perthnasol mewn perthynas â’r cais, fabwysiadu barn sgrinio neu ofyn i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio, ac mae paragraffau (3) a (4) o reoliad 6 yn gymwys i gais o’r fath fel y maent yn gymwys i gais a wneir yn unol â rheoliad 5(7).

(2Caiff awdurdod cynllunio perthnasol sy’n bwriadu cynnal datblygiad yr ystyrir ganddynt y gallai fod—

(a)yn ddatblygiad o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 2 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995(27) ac eithrio datblygiad o ddisgrifiad a bennir yn erthygl 3(12) o’r Gorchymyn hwnnw; neu

(b)yn ddatblygiad y byddai caniatâd yn cael ei roi ar ei gyfer oni bai am reoliad 37 (cynlluniau parth cynllunio wedi eu symleiddio neu orchmynion parth menter newydd),

fabwysiadu barn sgrinio neu ofyn i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio.

(3Mae paragraffau (3) a (4) o reoliad 6 yn gymwys i gais o’r fath fel y maent yn gymwys i gais a wneir yn unol â rheoliad 5(7).

(4Rhaid i’r canlynol fynd ynghyd â chais o dan baragraff (1) neu (2)

(a)yn achos cais cynllunio, y dogfennau a ddisgrifir yn rheoliad 5(2);

(b)yn achos cais dilynol, y dogfennau a ddisgrifir yn rheoliad 5(3).

(5Rhaid i awdurdod sy’n gwneud cais o dan baragraff (1) neu (2) anfon unrhyw wybodaeth ychwanegol y gofynnir amdani i Weinidogion Cymru i’w galluogi i wneud cyfarwyddyd.

RHAN 8Ceisiadau am ganiatâd cynllunio a wneir i Weinidogion Cymru

Cymhwyso Rhannau 2 i 7

27.—(1Mae’r Rhan hon yn gymwys pan wneir cais am ganiatâd cynllunio i Weinidogion Cymru ac felly ystyr “cais” (“application”) yn y Rhan hon yw cais am ganiatâd cynllunio a wneir yn y modd hwn.

(2Mae Rhannau 2 i 7 yn gymwys, yn ddarostyngedig i’r eithriadau yn y paragraff canlynol a’r addasiadau a’r darpariaethau atodol yn y Rhan hon.

(3Nid yw rheoliadau 5, 6(1), 6(2), 7 i 14(1), 16, 17(9), 18, 20, 24, 25 a 26 yn gymwys.

Ceisiadau am gyfarwyddydau sgrinio Gweinidogion Cymru

28.—(1Caiff person sy’n bwriadu gwneud cais ofyn i Weinidogion Cymru fabwysiadu cyfarwyddyd sgrinio.

(2Rhaid i’r canlynol fynd ynghyd â chais am gyfarwyddyd sgrinio mewn perthynas â chais—

(a)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;

(b)disgrifiad byr o natur a phwrpas y datblygiad a’i effeithiau posibl ar yr amgylchedd;

(c)datganiad bod y cais yn cael ei wneud mewn perthynas â datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol at ddibenion 62D o ddeddf 1990; a

(d)unrhyw wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r person sy’n gwneud y cais ddymuno eu darparu neu eu gwneud.

(3Rhaid i berson sy’n gwneud cais yn unol â pharagraff (1) anfon copi o’r cais hwnnw a’r dogfennau sy’n mynd ynghyd â’r cais hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol.

(4Mae paragraffau (3) i (7) o reoliad 6 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriadau at wneud cais o dan reoliad 5(7) yn gyfeiriadau at wneud cais o dan reoliad 28(1).

Ceisiadau a wneir heb ddatganiad amgylcheddol

29.—(1Pan wneir cais ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru—

(a)ei fod yn gais AEA; a

(b)nad oes datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol yn mynd ynghyd â’r cais, at ddibenion y Rheoliadau hyn,

rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd bod cyflwyno datganiad amgylcheddol yn ofynnol a rhaid iddynt anfon copi o’r hysbysiad hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd yn unol â pharagraff (1) o fewn 28 diwrnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn cael y cais neu pa bynnag gyfnod hwy a bennir gan Weinidogion Cymru.

(3Caiff ceisydd sy’n cael hysbysiad o dan baragraff (1) gadarnhau i Weinidogion Cymru, o fewn 21 diwrnod yn dechrau gyda dyddiad yr hysbysiad, y bydd datganiad amgylcheddol yn cael ei ddarparu.

(4Pan fo Gweinidogion Cymru yn ymwybodol bod unrhyw berson penodol yn cael ei effeithio neu yn debygol o gael ei effeithio gan y cais, neu â diddordeb yn y cais, ac sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy gyfrwng cyhoeddiad electronig, hysbysiad ar y safle neu drwy hysbyseb lleol, rhaid i Weinidogion Cymru roi gwybod i’r ceisydd am unrhyw berson o’r fath.

(5Os nad yw’r ceisydd yn cadarnhau yn unol â pharagraff (4), nid oes gan Weinidogion Cymru unrhyw ddyletswydd i ymdrin â’r cais ac ar ddiwedd y cyfnod o 21 diwrnod rhaid iddynt hysbysu’r ceisydd nad oes unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd ynglŷn â’r cais.

(6Pan—

(a)fo hysbysiad wedi ei roi o dan baragraff (1); a

(b)nad yw’r ceisydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol ac yn cydymffurfio â rheoliad 17 (cyhoeddusrwydd pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno ar ôl y cais cynllunio),

rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y cais dim ond drwy wrthod caniatâd cynllunio.

Cyfarwyddydau cwmpasu

30.—(1Caiff person sy’n bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio ofyn i Weinidogion Cymru ddarparu cyfarwyddydau cwmpasu.

(2Rhaid i gais o dan baragraff (1) gynnwys—

(a)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;

(b)disgrifiad byr o natur a phwrpas y datblygiad a’i effeithiau posibl ar yr amgylchedd;

(c)datganiad bod y cais yn cael ei wneud mewn perthynas â datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol at ddibenion adran 62D o Ddeddf 1990; a

(d)unrhyw wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r person sy’n gwneud y cais ddymuno eu darparu neu eu gwneud.

(3Rhaid i berson sy’n gwneud cais yn unol â pharagraff (1) anfon copi o’r cais hwnnw a’r dogfennau sy’n mynd ynghyd â’r cais hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol.

(4Os nad yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod yr wybodaeth a ddarperir yn unol â pharagraff (1) yn ddigonol ar gyfer gwneud cyfarwyddyd cwmpasu, rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad i’r person sy’n gwneud y cais.

(5Rhaid i’r hysbysiad nodi unrhyw bwyntiau y mae angen gwybodaeth ychwanegol amdanynt.

(6Caiff Gweinidogion Cymru hefyd ofyn i’r awdurdod cynllunio perthnasol ddarparu pa bynnag wybodaeth y gall am unrhyw rai o’r pwyntiau hyn.

(7Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)ymgynghori â’r person sy’n gwneud y cais a’r ymgynghoreion cyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu mewn ymateb i gais o dan baragraff (1), a

(b)gwneud cyfarwyddyd ac anfon copi i’r person sy’n gwneud y cais ac i’r awdurdod cynllunio perthnasol, o fewn y 5 wythnos sy’n dechrau â’r dyddiad y ceir y cais hwnnw neu unrhyw gyfnod hwy y gwneir yn ofynnol yn rhesymol.

(8Cyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu rhaid i Weinidogion gymryd y materion a bennir yn rheoliad 13(6) i ystyriaeth.

(9Nid oes unrhyw beth yn atal Gweinidogion Cymru, (ar ôl iddynt wneud cyfarwyddyd cwmpasu) na’r awdurdod cynllunio perthnasol rhag ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n gwneud y cais ddarparu gwybodaeth ychwanegol.

(10Ystyr “Gwybodaeth ychwanegol” (“additional information”) ym mharagraff (9) yw gwybodaeth mewn cysylltiad ag unrhyw ddatganiad y caniateir ei gyflwyno gan y person hwnnw fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Gweithdrefn i hwyluso paratoi datganiadau amgylcheddol

31.  Mae rheoliad 15 yn gymwys fel pe bai—

(a)(a) paragraff (3) yn darllen—

(3) Rhaid i dderbynnydd—

(a)hysbysiad o’r math a grybwyllir ym mharagraff (1); neu

(b)datganiad a wneir yn unol â rheoliad 10(4)(a), 11(5), 12(6) neu 29(3)—

(i)hysbysu’r ymgynghoreion o enw a chyfeiriad y person sy’n bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol a’r ddyletswydd a osodir ar yr ymgynghoreion gan baragraff (4) i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhoi ar gael i’r person hwnnw; a

(ii)hysbysu’r person sy’n bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol o enwau a chyfeiriadau’r ymgynghoreion a hysbyswyd felly.; a

(b)y cyfeiriadau ym mharagraffau (4) a (5) i’r “awdurdod cynllunio perthnasol” ac “awdurdod” yn gyfeiriadau at Weinidogion Cymru.

Gweithdrefn pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru

32.  Mae rheoliad 19 yn gymwys fel pe bai paragraff (2) yn darllen “Rhaid i’r ceisydd gyflwyno un copi o’r datganiad amgylcheddol i Weinidogion Cymru ac un copi i’r awdurdod cynllunio perthnasol.”

Cyhoeddusrwydd pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno ar ôl y cais cynllunio

33.  Mae rheoliad 17 yn gymwys fel pe bai paragraffau (2) a (3) yn darllen—

(2) Rhaid i’r ceisydd gyhoeddi hysbysiad yn nodi’r canlynol mewn papur newydd lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli—

(a)enw’r ceisydd, bod cais yn cael ei wneud i Weinidogion Cymru am ganiatâd cynllunio a chyfeiriad Gweinidogion Cymru;

(b)y dyddiad y gwnaed y cais;

(c)cyfeiriad neu leoliad a natur y datblygiad arfaethedig;

(d)bod copi o’r cais, unrhyw blan a dogfennau eraill sy’n mynd ynghyd ag ef, a chopi o’r datganiad amgylcheddol ar gael i aelodau’r cyhoedd edrych arnynt ar bob adeg resymol;

(e)cyfeiriad yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle mae’r dogfennau hynny ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt, a’r dyddiad olaf y maent ar gael i’w gweld (sydd yn ddyddiad nad yw’n llai na 21 diwrnod yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(f)cyfeiriad (pa un a yw yr un cyfeiriad a roddir o dan is-baragraff (e) ai peidio) yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle gellir cael copïau o’r datganiad;

(g)y gellir cael copïau yno cyhyd â bod rhai yn dal ar gael;

(h)os codir tâl am gopi, swm y tâl;

(i)bod yn rhaid i unrhyw berson sy’n dymuno cyflwyno sylwadau ynglŷn â’r cais eu cyflwyno i Weinidogion Cymru cyn y dyddiad a nodir yn unol ag is-baragraff (e); a

(j)y cyfeiriad y dylid anfon sylwadau iddo.

(3) Rhaid i geisydd sy’n cael ei hysbysu o dan reoliad 29(4) (ceisiadau heb ddatganiad amgylcheddol) ynghylch person o’r math a grybwyllir yn unrhyw un o’r paragraffau hynny gyflwyno hysbysiad i bob person o’r fath; a rhaid i’r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (2), ond ni chaiff y dyddiad a nodir fel y dyddiad olaf y mae’r dogfennau ar gael i aelodau o’r cyhoedd edrych arnynt fod yn llai na 21 diwrnod yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad gyntaf.

Argaeledd copïau o ddatganiadau amgylcheddol

34.  Rhaid i geisydd sy’n cyflwyno datganiad amgylcheddol mewn cysylltiad â chais, sicrhau bod nifer rhesymol o gopïau o’r datganiad ar gael yn y cyfeiriad a enwir yn yr hysbysiadau a gyhoeddir neu a osodir yn unol ag erthygl 18(2) o Orchymyn 2016 fel y cyfeiriad lle gellir cael copïau o’r fath.

Argaeledd cyfarwyddydau etc. i’w harchwilio

35.  Mae rheoliad 23 yn gymwys fel pe bai paragraff (1)(e) yn darllen “hysbysiad a roddwyd o dan reoliad 29(2) (ceisiadau a wneir heb ddatganiad amgylcheddol);”.

Dyletswyddau i hysbysu’r cyhoedd o benderfyniadau terfynol

36.—(1Pan fo cais AEA yn cael ei benderfynu gan Weinidogion Cymru neu arolygydd, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)hysbysu’r awdurdod cynllunio perthnasol o’r penderfyniad; a

(b)darparu datganiad i’r awdurdod sy’n cynnwys—

(i)cynnwys y penderfyniad ac unrhyw amodau sy’n gysylltiedig ag ef;

(ii)y prif resymau ac ystyriaethau y seilir y penderfyniad arno, gan gynnwys, os yn berthnasol, gwybodaeth am gyfranogiad y cyhoedd;

(iii)disgrifiad, pan fo angen, o’r prif fesurau ar gyfer osgoi, lleihau ac, os yn bosibl, gwrthbwyso prif effeithiau andwyol y datblygiad; a

(iv)gwybodaeth ynghylch yr hawl i herio dilysrwydd y penderfyniad a’r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny.

(2Rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael hysbysiad o dan baragraff (1)(a)

(a)hysbysu’r cyhoedd o’r penderfyniad, drwy hysbyseb lleol, neu drwy unrhyw ddull arall sy’n rhesymol dan yr amgylchiadau; a

(b)sicrhau bod y datganiad a gafwyd gan yr awdurdod yn unol â pharagraff (1)(b), ar gael i’r cyhoedd edrych arno yn y lle y cedwir y gofrestr briodol (neu adran berthnasol y gofrestr honno).

RHAN 9Cyfyngiadau ar Roi Caniatâd

Cynlluniau parth cynllunio wedi eu symleiddio neu orchmynion parth menter newydd

37.  Gydag effaith o’r dyddiad cychwyn, ni chaiff—

(a)mabwysiadu neu gymeradwyo cynllun parth cynllunio wedi ei symleiddio(28);

(b)gorchymyn sy’n dynodi parth menter a wnaed o dan adran 88 o Ddeddf 1990; neu

(c)cymeradwyo cynllun wedi ei addasu mewn perthynas â pharth menter o’r fath,

wneud y canlynol:

(i)rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad AEA; neu

(ii)rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad Atodlen 2 oni bai bod y caniatâd hwnnw yn cael ei wneud yn ddarostyngedig i fabwysiadu barn sgrinio yn flaenorol neu cyn gwneud cyfarwyddyd sgrinio nad yw’r datblygiad arfaethedig penodol yn ddatblygiad AEA.

Gorchmynion datblygu lleol

38.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â datblygiad Atodlen 2 y mae awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu rhoi caniatâd cynllunio iddo drwy orchymyn datblygu lleol.

(2Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, ni chaiff awdurdod cynllunio lleol fabwysiadu na diwygio gorchymyn datblygu lleol oni bai ei fod wedi mabwysiadu barn sgrinio neu bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd sgrinio.

(3Mae paragraff (4) ac Atodlen 5 yn gymwys pan fo—

(a)yr awdurdod cynllunio lleol yn mabwysiadu barn sgrinio; neu

(b)bod Gweinidogion Cymru yn gwneud cyfarwyddyd sgrinio o dan y Rheoliadau hyn,

i’r perwyl bod y datblygiad yn ddatblygiad AEA.

(4Ni chaiff awdurdod cynllunio lleol fabwysiadu na diwygio gorchymyn datblygu lleol a fyddai’n rhoi caniatâd cynllunio i ddatblygiad AEA oni bai—

(a)bod datganiad amgylcheddol wedi ei baratoi mewn perthynas â’r datblygiad hwnnw; a

(b)bod yr awdurdod wedi cymryd yr wybodaeth amgylcheddol i ystyriaeth, a’i fod yn nodi yn ei benderfyniad ei fod wedi gwneud hynny.

Gorchmynion adran 97 a gorchmynion adran 102

39.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru yn bwriadu gwneud neu gadarnhau gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102.

(2Yn y rheoliad hwn—

ystyr “gorchymyn adran 97” (“section 97 order”) yw—

(a)

gorchymyn awdurdod cynllunio lleol o dan adran 97(1) o Ddeddf 1990, neu

(b)

gorchymyn Gweinidogion Cymru o dan adran 100(1) o Ddeddf 1990,

(c)

addasu unrhyw ganiatâd i ddatblygu tir; ac

ystyr “gorchymyn adran 102” (“section 102 order”) yw gorchymyn awdurdod cynllunio lleol o dan adran 102 o Ddeddf 1990 neu orchymyn Gweinidogion Cymru i’r perwyl hwnnw yn unol ag adran 104(1) o Ddeddf 1990.

(3Ni chaiff yr awdurdod cynllunio lleol na Gweinidogion Cymru wneud na chadarnhau, gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 mewn perthynas â datblygiad Atodlen 2 oni bai bod yr awdurdod cynllunio lleol wedi mabwysiadu barn sgrinio neu bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd sgrinio.

(4Mae paragraffau (5) a (6) ac Atodlen 6 yn gymwys—

(a)i ddatblygiad Atodlen 1;

(b)pan fo naill ai—

(i)yr awdurdod cynllunio lleol yn mabwysiadu barn sgrinio, neu

(ii)Gweinidogion Cymru yn gwneud cyfarwyddyd sgrinio o dan y Rheoliadau hyn,

i’r perwyl bod y datblygiad yn ddatblygiad AEA.

(5Ni chaiff yr awdurdod cynllunio lleol wneud gorchymyn adran 97 sy’n caniatáu neu’n gwneud yn ofynnol datblygiad AEA oni bai—

(a)ei fod wedi paratoi datganiad amgylcheddol mewn perthynas â’r datblygiad hwnnw; a

(b)ei fod wedi cymryd yr wybodaeth amgylcheddol i ystyriaeth a’i fod yn nodi yn ei benderfyniad ei fod wedi gwneud hynny.

(6Ni chaiff Gweinidogion Cymru gadarnhau na gwneud gorchymyn adran 97 na gorchymyn adran 102 sy’n caniatáu neu’n gwneud yn ofynnol datblygiad AEA oni bai—

(a)bod datganiad amgylcheddol wedi ei baratoi mewn perthynas â’r datblygiad hwnnw; a

(b)eu bod wedi cymryd yr wybodaeth amgylcheddol i ystyriaeth a’u bod yn nodi yn eu penderfyniad eu bod wedi gwneud hynny.

RHAN 10Datblygiad Anawdurdodedig

Dehongli

40.  Yn y Rhan hon—

ystyr “apêl sail (a)” (“ground (a) appeal”) yw apêl a gyflwynir o dan adran 174(2)(a) o Ddeddf 1990; ac

ystyr “datblygiad AEA anawdurdodedig” (“unauthorised EIA development”) yw datblygiad AEA sy’n destun hysbysiad gorfodi o dan adran 172 o Ddeddf 1990 (dyroddi hysbysiad gorfodi)(29).

Gwahardd rhoi caniatâd cynllunio i ddatblygiad AEA anawdurdodedig

41.  Ni chaiff Gweinidogion Cymru nac arolygydd roi caniatâd cynllunio na chaniatâd dilynol o dan adran 177(1) o Ddeddf 1990 (rhoi neu addasu caniatâd cynllunio ar apeliadau yn erbyn hysbysiadau gorfodi)(30) mewn cysylltiad â datblygiad AEA anawdurdodedig oni bai bod Gweinidogion Cymru neu’r arolygydd wedi cymryd yr wybodaeth amgylcheddol i ystyriaeth yn gyntaf, a rhaid iddynt nodi yn eu penderfyniad eu bod wedi gwneud hynny.

Barnau sgrinio

42.—(1Pan ymddengys i’r awdurdod cynllunio lleol y dyroddir hysbysiad gorfodi ganddo neu ar ei ran bod y materion sy’n golygu torri rheol gynllunio yn ddatblygiad Atodlen 1 neu’n cynnwys datblygiad Atodlen 1 neu’n ddatblygiad Atodlen 2 neu’n cynnwys datblygiad Atodlen 2 rhaid iddo, cyn y dyroddir yr hysbysiad gorfodi, fabwysiadu barn sgrinio.

(2Pan ymddengys i’r awdurdod cynllunio lleol y dyroddir hysbysiad gorfodi ganddo neu ar ei ran bod y materion sy’n golygu torri rheol gynllunio yn ddatblygiad AEA neu’n cynnwys datblygiad AEA, rhaid iddo gyflwyno gyda’r copi o’r hysbysiad gorfodi, hysbysiad (“hysbysiad rheoliad 42”) y mae’n rhaid iddo—

(a)cynnwys y farn sgrinio sy’n ofynnol gan baragraff (1) a’r datganiad sy’n ofynnol gan reoliad 4(7); a

(b)ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n rhoi hysbysiad o apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990(31) gyflwyno dau gopi o ddatganiad amgylcheddol sy’n ymwneud â’r datblygiad AEA hwnnw i Weinidogion Cymru gyda’r hysbysiad.

(3Rhaid i’r awdurdod a gyflwynodd hysbysiad rheoliad 42 anfon copi ohono i—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)yr ymgynghoreion; ac

(c)unrhyw berson penodol y mae’r awdurdod yn ymwybodol ohono, sy’n debygol o gael ei effeithio gan, neu sydd â diddordeb yn, yr hysbysiad rheoliad 42.

(4Pan fo awdurdod yn darparu copi o hysbysiad rheoliad 42 i Weinidogion Cymru, rhaid iddo gynnwys gydag ef restr o’r personau eraill y mae copi o’r hysbysiad wedi ei anfon neu sydd am gael ei anfon iddynt.

Cyfarwyddydau sgrinio

43.—(1Caiff unrhyw berson y cyflwynir hysbysiad rheoliad 42 iddo, wneud cais i Weinidogion Cymru am gyfarwyddyd sgrinio o fewn 21 diwrnod yn dechrau â’r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad.

(2Rhaid i’r canlynol gael eu cyflwyno ynghyd â’r cais am gyfarwyddyd sgrinio—

(a)copi o’r hysbysiad rheoliad 42;

(b)copi o’r hysbysiad gorfodi oedd yn mynd ynghyd ag ef; ac

(c)pa bynnag wybodaeth neu sylwadau eraill y gallai’r ceisydd ddymuno eu darparu neu eu gwneud.

(3Ar yr un pryd ag y gwneir cais i Weinidogion Cymru, rhaid i’r ceisydd anfon copi o’r cais ac unrhyw wybodaeth neu sylwadau a ddarperir neu a wnaed yn unol â pharagraff (2)(c) i’r awdurdod a gyflwynodd yr hysbysiad rheoliad 42.

(4Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw’r wybodaeth a ddarperir yn unol â pharagraff (2)(a) yn ddigonol i wneud cyfarwyddyd, rhaid iddynt hysbysu’r ceisydd a’r awdurdod am y materion y mae angen gwybodaeth ychwanegol amdanynt; a rhaid i’r wybodaeth y gofynnwyd amdani felly gael ei darparu gan y ceisydd o fewn pa bynnag gyfnod rhesymol a bennir yn yr hysbysiad.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o’r cyfarwyddyd i’r ceisydd.

(6Pan fo Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo nad yw’r materion yr honnir eu bod yn torri rheol gynllunio yn ddatblygiad AEA nac yn cynnwys datblygiad AEA, rhaid iddynt anfon copi o’r cyfarwyddyd i bob person yr anfonwyd copi o’r hysbysiad rheoliad 42 atynt.

Darparu gwybodaeth

44.—(1Rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol ac unrhyw berson, ac eithrio Gweinidogion Cymru, yr anfonwyd copi o hysbysiad rheoliad 42 iddynt (“yr ymgynghorai rheoliad 42”), ymgynghori â’r person hwnnw, os gofynnir iddo wneud hynny gan y person y cyflwynwyd yr hysbysiad rheoliad 42 iddo, er mwyn penderfynu a oes gan yr ymgynghorai rheoliad 42 unrhyw wybodaeth yn ei feddiant y mae’r person hwnnw neu’r ymgynghorai rheoliad 42 yn ystyried ei bod yn berthnasol ar gyfer paratoi datganiad amgylcheddol ac os oes ganddo, rhaid i’r ymgynghorai rheoliad 42 sicrhau bod unrhyw wybodaeth o’r fath ar gael i’r person hwnnw.

(2Mae rheoliad 15(5) yn gymwys i wybodaeth o dan baragraff (1) fel y mae’n gymwys i unrhyw wybodaeth sy’n dod o fewn rheoliad 15(4).

Apêl i Weinidogion Cymru heb farn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio

45.—(1Pan ymddengys i Weinidogion Cymru wrth ystyried apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990 bod y materion yr honnir eu bod yn golygu torri rheol gynllunio yn ddatblygiad Atodlen 1 neu’n cynnwys datblygiad Atodlen 1, neu’n ddatblygiad Atodlen 2 neu’n cynnwys datblygiad Atodlen 2, rhaid iddynt wneud cyfarwyddyd sgrinio cyn y cyflwynir unrhyw hysbysiad yn unol â rheoliad 46.

(2Pan fo arolygydd yn ymdrin ag apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990 a bod cwestiwn yn codi ynghylch a yw’r materion yr honnir eu bod yn golygu torri rheol gynllunio yn ddatblygiad Atodlen 1 neu’n cynnwys datblygiad Atodlen 1, neu’n ddatblygiad Atodlen 2 neu’n cynnwys datblygiad Atodlen 2, rhaid i’r arolygydd atgyfeirio’r cwestiwn hwnnw i Weinidogion Cymru.

(3Cyn cael cyfarwyddyd sgrinio ni chaiff yr arolygydd benderfynu ar gais y tybir ei fod wedi ei wneud yn rhinwedd yr apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990 (“y cais tybiedig”) ac eithrio i wrthod y cais hwnnw.

(4Pan atgyfeirir cwestiwn o dan baragraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio o fewn 21 diwrnod yn dechrau â’r dyddiad yr atgyfeiriwyd y cwestiwn neu unrhyw gyfnod hwy y gwneir yn ofynnol yn rhesymol.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o unrhyw gyfarwyddyd sgrinio a wneir yn unol â pharagraff (4) i’r arolygydd.

(6Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad oes digon o wybodaeth wedi ei darparu i wneud cyfarwyddyd sgrinio, rhaid iddynt roi hysbysiad i’r ceisydd a’r awdurdod a gyflwynodd yr hysbysiad rheoliad 42 am y materion y mae angen gwybodaeth ychwanegol amdanynt ac mae’n rhaid i’r wybodaeth honno y gofynnir amdani felly gael ei darparu gan y ceisydd o fewn unrhyw gyfnod rhesymol a bennir yn yr hysbysiad.

(7Os bydd apelydd sydd wedi cael hysbysiad o dan baragraff (6) yn methu â chydymffurfio â gofynion yr hysbysiad hwnnw—

(a)mae’r cais y tybir ei fod wedi ei wneud yn rhinwedd yr apêl a wnaed o dan adran 174 o Ddeddf 1990; a

(b)yr apêl i’r graddau y mae’n apêl sail (a),

yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

Apêl i Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddol

46.—(1Mae’r weithdrefn ym mharagraff (2) yn gymwys pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru neu arolygydd yn ystyried apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990;

(b)y materion yr honnir eu bod yn golygu torri’r rheol gynllunio yn ddatblygiad AEA anawdurdodedig neu’n cynnwys datblygiad AEA anawdurdodedig; ac

(c)nid yw’r dogfennau a gyflwynir at ddibenion yr apêl yn cynnwys datganiad y cyfeirir ato gan yr apelydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(2Y weithdrefn yw—

(a)rhaid i Weinidogion Cymru, o fewn y cyfnod o 21 diwrnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod y ceir yr apêl, neu unrhyw gyfnod hwy y gwneir yn ofynnol yn rhesymol, hysbysu’r apelydd o ofynion is-baragraff (c) isod; ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-baragraff (b);

(b)nid oes angen hysbysu o dan is-baragraff (a) pan fo’r apelydd wedi cyflwyno datganiad amgylcheddol i Weinidogion Cymru at ddibenion apêl o dan adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath) sydd yn—

(i)ymwneud â’r datblygiad y mae’r apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990 yn ymwneud ag ef; a

(ii)i’w benderfynu ar yr un adeg â’r apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990;

ac mae’n rhaid trin y datganiad, unrhyw wybodaeth bellach, unrhyw wybodaeth arall a’r sylwadau (os oes rhai) a wneir mewn perthynas ag ef fel yr wybodaeth amgylcheddol at ddiben rheoliad 41;

(c)rhaid i’r apelydd, o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad neu pa bynnag gyfnod hwy y caniateir gan Weinidogion Cymru, gyflwyno dau gopi o ddatganiad amgylcheddol sy’n ymwneud â’r datblygiad AEA anawdurdodedig dan sylw i Weinidogion Cymru;

(d)rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o unrhyw hysbysiad a anfonwyd i’r apelydd o dan is-baragraff (a) i’r awdurdod cynllunio perthnasol;

(e)os bydd apelydd y rhoddwyd hysbysiad o dan is-baragraff (a) iddo yn methu â chydymffurfio â gofynion is-baragraff (c), bydd y cais tybiedig ac unrhyw apêl sail (a) yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod a bennir neu a ganiateir (yn ôl y digwydd);

(f)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r terfynu a ddisgrifir yn is-baragraff (e) ddigwydd, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r apelydd a’r awdurdod cynllunio lleol bod y cais tybiedig ac unrhyw apêl sail (a) wedi dod i ben.

Gweithdrefn pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru

47.  Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael datganiad amgylcheddol mewn cysylltiad ag apêl gorfodi (ac eithrio fel y crybwyllir yn rheoliad 46(2)(b)), rhaid iddynt—

(a)anfon copi o’r datganiad hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol, cynghori’r awdurdod y bydd y datganiad yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth benderfynu ar y cais tybiedig a’r apêl sail (a) (os oes un), a’i hysbysu y caniateir iddo gyflwyno sylwadau;

(b)hysbysu’r personau yr anfonwyd copi o’r hysbysiad rheoliad 42 perthnasol atynt y bydd y datganiad yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth benderfynu ar y cais tybiedig a’r apêl sail (a) (os oes un), a’u hysbysu y caniateir iddynt gyflwyno sylwadau ac, os ydynt yn dymuno cael copi o’r datganiad neu unrhyw ran ohono, bod yn rhaid iddynt hysbysu Gweinidogion Cymru o’u gofynion o fewn 7 diwrnod i gael hysbysiad Gweinidogion Cymru; ac

(c)ymateb i ofynion a hysbysir yn unol â pharagraff (b) drwy ddarparu copi o’r datganiad neu o’r rhan y gofynnwyd amdani (yn ôl y digwydd).

Gwybodaeth bellach a thystiolaeth ynghylch datganiadau amgylcheddol

48.  Mae rheoliad 22(1) a (10) yn gymwys i ddatganiadau a ddarperir yn unol â’r Rhan hon gyda’r addasiadau canlynol—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru neu arolygydd yn hysbysu’r apelydd o dan reoliad 22(1), rhaid i’r apelydd ddarparu’r wybodaeth bellach o fewn unrhyw gyfnod a bennir gan Weinidogion Cymru neu’r arolygydd yn yr hysbysiad neu ba bynnag gyfnod hwy y caniateir gan Weinidogion Cymru neu’r arolygydd;

(b)os bydd apelydd y mae hysbysiad wedi ei roi iddo o dan baragraff (a) yn methu â darparu’r wybodaeth bellach o fewn y cyfnod a bennir neu a ganiateir, bydd y cais tybiedig a’r apêl sail (a) (os oes un) yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

Cyhoeddusrwydd ar gyfer datganiadau amgylcheddol neu wybodaeth bellach

49.—(1Pan fo awdurdod yn cael copi o ddatganiad neu wybodaeth bellach yn rhinwedd rheoliad 47(a) neu unrhyw wybodaeth arall, rhaid iddo gyhoeddi hysbysiad drwy hysbyseb lleol sy’n nodi—

(a)enw’r apelydd a bod yr hysbysiad gorfodi wedi ei apelio i Weinidogion Cymru;

(b)cyfeiriad neu leoliad y tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef a natur y datblygiad;

(c)digon o wybodaeth i alluogi adnabod unrhyw ganiatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad;

(d)bod copi o’r datganiad, gwybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall ac o unrhyw ganiatâd cynllunio ar gael i aelodau o’r cyhoedd edrych arnynt ar bob adeg resymol;

(e)cyfeiriad yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle caiff y cyhoedd edrych ar y datganiad neu wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall, a’r dyddiad olaf y bydd ar gael i’w gweld (sydd yn ddyddiad nad yw’n llai na 21 diwrnod yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(f)y dylai unrhyw berson sy’n dymuno cyflwyno sylwadau am unrhyw fater sy’n cael ei drin yn y datganiad neu’r wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall eu cyflwyno i Weinidogion Cymru dim hwyrach na 21 diwrnod ar ôl y dyddiad a nodir yn unol ag is-baragraff (e); a

(g)y cyfeiriad y dylid anfon unrhyw sylwadau o’r fath iddo.

(2Rhaid i’r awdurdod, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyhoeddi hysbysiad yn unol â pharagraff (1), anfon copi o’r hysbysiad i Weinidogion Cymru, wedi ei ardystio gan neu ar ran yr awdurdod ei fod wedi ei gyhoeddi drwy hysbyseb lleol ar ddyddiad a bennir yn y dystysgrif.

(3Ni chaiff Gweinidogion Cymru sy’n cael tystysgrif o dan baragraff (2) nac arolygydd benderfynu ar y cais tybiedig na’r apêl sail (a) mewn cysylltiad â’r datblygiad y mae’r dystysgrif yn ymwneud ag ef hyd nes bod y cyfnod o 21 diwrnod o’r dyddiad a nodir yn yr hysbysiad cyhoeddedig fel y dyddiad olaf yr oedd y datganiad neu’r wybodaeth bellach ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt wedi dod i ben.

Dogfennau ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt

50.—(1Rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol sicrhau bod copi o’r canlynol ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt ar bob adeg resymol yn y lle y cedwir y gofrestr briodol (neu ran berthnasol o’r gofrestr)—

(a)pob hysbysiad rheoliad 42 a roddwyd gan yr awdurdod;

(b)pob hysbysiad a gafwyd gan yr awdurdod o dan reoliad 46(2)(d); ac

(c)pob datganiad a phob gwybodaeth bellach a gafwyd gan yr awdurdod o dan reoliad 47(a);

a rhaid i gopïau o’r dogfennau hynny barhau i fod ar gael felly am gyfnod o 2 flynedd neu hyd y byddant yn cael ei gosod yn Rhan 2 o’r gofrestr yn unol â pharagraff (2), pa bynnag un sy’n digwydd gyntaf.

(2Pan fo manylion am unrhyw ganiatâd cynllunio a roddwyd gan Weinidogion Cymru neu arolygydd o dan adran 177 o Ddeddf 1990 yn cael eu rhoi yn Rhan 2 o’r gofrestr(32), rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol gymryd camau i sicrhau bod y Rhan honno hefyd yn cynnwys copi o unrhyw rai o’r dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) sy’n berthnasol i’r datblygiad y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar ei gyfer.

(3Mae darpariaethau rheoliad 24(2) a (3) yn gymwys i gais tybiedig a chaniatâd cynllunio a roddir o dan adran 177 o Ddeddf 1990 fel y maent yn gymwys i gais am ganiatâd cynllunio a rhoi caniatâd cynllunio o dan Ran 3 o Ddeddf 1990.

Effeithiau trawsffiniol sylweddol

51.  Mae rheoliad 53 yn gymwys i ddatblygiad AEA anawdurdodedig fel pe bai—

(a)rheoliad 53(1)(a) yn darllen—

(a)wrth ystyried apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990, mae Gweinidogion Cymru o’r farn bod y materion yr honnir eu bod yn golygu torri rheol gynllunio yn ddatblygiad AEA neu’n cynnwys datblygiad AEA a bod y datblygiad wedi neu yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth AEE arall; neu;

(b)yn rheoliad 53(3)(a), “copi o’r cais dan sylw”, yn darllen “disgrifiad o’r datblygiad dan sylw”;

(c)yn rheoliad 53(6), “y cais” yn darllen “yr apêl”.

RHAN 11Ceisiadau ROMP

Cymhwysiad cyffredinol y Rheoliadau i geisiadau ROMP

52.—(1Yn y rheoliad hwn ac yn Atodlen 7—

ystyr “awdurdod cynllunio mwynau perthnasol” (“relevant mineral planning authority”) yw’r corff sy’n gyfrifol, oedd yn gyfrifol neu a fyddai’n gyfrifol, oni bai am gyfarwyddyd o dan—

(a)

paragraff 7 o Atodlen 2 i Ddeddf 1991;

(b)

paragraff 13 o Atodlen 13 i Ddeddf 1995; neu

(c)

paragraff 8 o Atodlen 14 i Ddeddf 1995,

am benderfynu ar y cais ROMP dan sylw;

ystyr “cais dilynol ROMP” (“ROMP subsequent application”) yw cais am gymeradwyo mater—

(a)

pan fo’r gymeradwyaeth yn ofynnol gan neu o dan amod y mae caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig iddo ar ôl penderfynu ar gais ROMP; a

(b)

pan fo rhaid cael y gymeradwyaeth cyn y caniateir dechrau ar neu barhau â’r datblygiad mwynau cyfan neu ran o’r datblygiad mwynau a ganiateir gan y caniatâd cynllunio;

ystyr “cais ROMP” (“ROMP application”) yw cais i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol i benderfynu ar yr amodau y bydd caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig iddynt o dan—

(a)

paragraff 2(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991 (cofrestru hen ganiatadau mwyngloddio);

(b)

paragraff 9(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 (adolygu hen ganiatadau cynllunio mwynau); neu

(c)

paragraff 6(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (adolygiad cyfnodol o ganiatadau cynllunio mwynau)(33);

ystyr “caniatâd dilynol ROMP” (“ROMP subsequent consent”) yw caniatâd a roddir yn unol â chais dilynol ROMP;

ystyr “datblygiad ROMP” (“ROMP development”) yw datblygiad nad yw wedi digwydd eto ac sydd wedi ei awdurdodi gan ganiatâd cynllunio y mae cais ROMP wedi neu yn mynd i gael ei wneud ar ei gyfer;

ystyr “ROMP” (“ROMP”) yw adolygiad o hen ganiatâd mwynau.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a’r addasiadau a’r ychwanegiadau a nodir yn Atodlen 7, mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i—

(a)cais ROMP fel y maent yn gymwys i gais am ganiatâd cynllunio;

(b)cais dilynol ROMP fel y maent yn gymwys i gais dilynol;

(c)datblygiad ROMP fel y maent yn gymwys i ddatblygiad y mae cais am ganiatâd cynllunio yn, wedi neu yn mynd i gael ei wneud ar ei gyfer;

(d)awdurdod cynllunio mwynau perthnasol fel y maent yn gymwys i awdurdod cynllunio perthnasol;

(e)person sy’n gwneud cais ROMP fel y maent yn gymwys i geisydd am ganiatâd cynllunio;

(f)person sy’n gwneud cais dilynol ROMP fel y maent yn gymwys i berson sy’n gwneud cais dilynol;

(g)penderfyniad ar gais ROMP fel y maent yn gymwys i roi caniatâd cynllunio; a

(h)rhoi caniatâd dilynol ROMP fel y maent yn gymwys i roi caniatâd dilynol.

(3Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i—

(a)unrhyw gais ROMP amhenderfynedig y mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009(34) yn gymwys iddo;

(b)unrhyw apêl mewn perthynas â chais o’r fath.

RHAN 12Datblygiad ag Effeithiau Trawsffiniol Sylweddol

Datblygiad yng Nghymru sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol mewn Gwladwriaeth AEE arall

53.—(1Pan—

(a)y daw i sylw Gweinidogion Cymru bod datblygiad y bwriedir ei gynnal yng Nghymru yn destun cais AEA ac yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth AEE arall; neu

(b)bod Gwladwriaeth AEE arall sy’n debygol o gael ei heffeithio’n sylweddol gan ddatblygiad o’r fath yn gofyn iddynt,

rhaid i Weinidogion Cymru—

(i)anfon y manylion a grybwyllwyd ym mharagraff (2) ac, os yn berthnasol, yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (3) i’r Wladwriaeth AEE cyn gynted ag y bo modd a dim hwyrach na’r dyddiad cyhoeddi yn The London Gazette y cyfeirir ato ym mharagraff (ii) isod;

(ii)cyhoeddi’r wybodaeth ym mharagraff (i) uchod mewn hysbysiad a roddir yn The London Gazette yn dangos y cyfeiriad lle mae gwybodaeth ychwanegol ar gael; a

(iii)rhoi amser rhesymol i’r Wladwriaeth AEE ddynodi a yw’n dymuno cymryd rhan yn y weithdrefn y mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar ei chyfer.

(2Y manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b)(i) yw—

(a)disgrifiad o’r datblygiad ynghyd ag unrhyw wybodaeth sydd ar gael ar ei effaith sylweddol bosibl ar yr amgylchedd mewn Aelod-wladwriaeth arall; a

(b)gwybodaeth ar natur y penderfyniad y caniateir ei wneud.

(3Pan fo Gwladwriaeth AEE yn dynodi, yn unol â pharagraff (1)(b)(iii), ei bod yn dymuno cymryd rhan yn y weithdrefn y mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar ei chyfer, rhaid i Weinidogion Cymru anfon y canlynol i’r Wladwriaeth AEE honno cyn gynted ag y bo modd—

(a)copi o’r cais dan sylw;

(b)copi o unrhyw ganiatâd cynllunio sy’n ymwneud â’r datblygiad;

(c)copi o unrhyw ddatganiad amgylcheddol mewn cysylltiad â’r datblygiad; a

(d)gwybodaeth berthnasol ynglŷn â’r weithdrefn o dan y Rheoliadau hyn,

ond dim ond i’r graddau nad yw gwybodaeth o’r fath wedi ei darparu i’r Wladwriaeth AEE yn gynharach yn unol â pharagraff (1)(b)(i).

(4Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd—

(a)trefnu bod y manylion a’r wybodaeth y cyfeirir atynt ym mharagraffau (2) a (3) ac unrhyw wybodaeth bellach ac unrhyw wybodaeth arall ar gael, o fewn amser rhesymol, i’r awdurdodau y cyfeirir atynt yn Erthygl 6(1) o’r Gyfarwyddeb a’r cyhoedd dan sylw yn nhiriogaeth y Wladwriaeth AEE sy’n debygol o gael ei heffeithio’n sylweddol; a

(b)sicrhau bod yr awdurdodau hynny a’r cyhoedd dan sylw yn cael cyfle i anfon ymlaen eu barn ar yr wybodaeth a ddarperir at Weinidogion Cymru, o fewn cyfnod rhesymol o amser, cyn y rhoddir caniatâd cynllunio i’r datblygiad.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru, yn unol ag Erthygl 7(4) o’r Gyfarwyddeb—

(a)cynnal ymgynghoriadau gyda’r Wladwriaeth AEE dan sylw ynghylch, ymysg pethau eraill, effeithiau sylweddol posibl y datblygiad ar amgylchedd y Wladwriaeth AEE honno a’r mesurau a ragwelir ar gyfer lleihau neu ddileu effeithiau o’r fath; a

(b)penderfynu ar y cyd â’r Wladwriaeth AEE arall ar gyfnod rhesymol o amser ar gyfer hyd y cyfnod ymgynghori.

(6Pan ymgynghorir â Gwladwriaeth AEE yn unol â pharagraff (5) ar benderfyniad ynghylch y cais dan sylw, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r Wladwriaeth AEE o’r penderfyniad ac anfon ati ddatganiad o—

(a)cynnwys y penderfyniad ac unrhyw amodau cysylltiedig ag ef;

(b)y prif resymau ac ystyriaethau y seilir y penderfyniad arnynt gan gynnwys, os yn berthnasol, gwybodaeth am gyfranogiad y cyhoedd; a

(c)disgrifiad, pan fo angen, o’r prif fesurau er mwyn osgoi, lleihau ac, os yn bosibl, gwrthbwyso prif effeithiau andwyol y datblygiad.

Prosiectau mewn Gwladwriaeth AEE arall sy’n debygol o gael effeithiau trawsffiniol sylweddol

54.—(1Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael gwybodaeth gan Wladwriaeth AEE arall, yn unol ag Erthygl 7(1) neu 7(2) o’r Gyfarwyddeb, a gasglwyd o ddatblygwr prosiect arfaethedig yn y Wladwriaeth AEE arall gan y Wladwriaeth AEE honno, sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd yng Nghymru, rhaid iddynt, yn unol ag Erthygl 7(4) o’r Gyfarwyddeb—

(a)cynnal ymgynghoriadau gyda’r Wladwriaeth AEE honno ynghylch effeithiau sylweddol potensial y prosiect arfaethedig ar yr amgylchedd yng Nghymru a’r mesurau a ragwelir ar gyfer lleihau neu ddileu effeithiau o’r fath; a

(b)cyn y rhoddir caniatâd datblygu i’r prosiect penderfynu ar gyfnod rhesymol ar y cyd â’r Wladwriaeth AEE honno pryd y caniateir i aelodau’r cyhoedd yng Nghymru gyflwyno sylwadau i’r awdurdod cymwys yn y Wladwriaeth AEE honno, yn unol ag Erthygl 7(3)(b) o’r Gyfarwyddeb.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd—

(a)trefnu i’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) fod ar gael, o fewn cyfnod rhesymol o amser, i’r awdurdodau yng Nghymru sy’n debygol o fod â diddordeb yn y prosiect oherwydd eu cyfrifoldebau amgylcheddol penodol, ac i’r cyhoedd dan sylw yng Nghymru hefyd;

(b)sicrhau bod yr awdurdodau hynny a’r cyhoedd dan sylw yn cael cyfle i anfon ymlaen eu barn ar yr wybodaeth a ddarparwyd at yr awdurdod cymwys yn y Wladwriaeth AEE berthnasol o fewn cyfnod rhesymol o amser, cyn y rhoddir caniatâd datblygu i’r prosiect; ac

(c)i’r graddau y mae gwybodaeth o’r fath wedi ei chael gan Weinidogion Cymru, hysbysu’r awdurdodau hynny a’r cyhoedd o gynnwys unrhyw benderfyniad gan awdurdod cymwys y Wladwriaeth AEE berthnasol; ac yn benodol—

(i)unrhyw amodau cysylltiedig â’r penderfyniad;

(ii)y prif resymau ac ystyriaethau y seiliwyd y penderfyniad arnynt gan gynnwys, os yn berthnasol, gwybodaeth am gyfranogiad y cyhoedd; a

(iii)disgrifiad o’r prif fesurau i osgoi, lleihau ac, os yn bosibl, gwrthbwyso unrhyw brif effeithiau andwyol a ganfuwyd.

RHAN 13Amrywiol

Cais i’r Uchel Lys

55.  At ddibenion Rhan 12 o Ddeddf 1990 (dilysrwydd penderfyniadau penodol), rhaid cymryd bod y cyfeiriad yn adran 288(1)(b)(35) nad yw gweithredoedd Gweinidogion Cymru o fewn pwerau Deddf 1990 yn cynnwys peidio â chaniatáu rhoi caniatâd cynllunio neu ganiatâd dilynol oherwydd rheoliadau 3 neu 41.

Gwastraff peryglus a newid defnydd sylweddol

56.  Mae newid yn nefnydd tir neu adeiladau i ddefnydd at ddiben a grybwyllir ym mharagraff 9 o Atodlen 1 yn cynnwys newid sylweddol yn y defnydd o’r tir hwnnw neu’r adeiladau hynny at ddibenion adran 55(1) o Ddeddf 1990 (ystyr “datblygiad” a “datblygiad newydd”).

Ymestyn y cyfnod ar gyfer penderfyniad awdurdod ar gais cynllunio

57.—(1At ddibenion adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath), o ran penderfynu ar yr amser sydd wedi mynd heibio heb i’r awdurdod cynllunio perthnasol roi hysbysiad i’r ceisydd o’i benderfyniad—

(a)pan fo’r awdurdod wedi hysbysu ceisydd yn unol â rheoliad 10(1) bod cyflwyno datganiad amgylcheddol yn ofynnol; a

(b)pan fo Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd sgrinio mewn perthynas â’r datblygiad dan sylw,

nid oes unrhyw ystyriaeth i’w roi i unrhyw gyfnod cyn dyroddi’r cyfarwyddyd.

(2Pan fo awdurdod yn gyfrifol am benderfynu ar gais AEA, mae erthyglau 22 (cyfnodau amser ar gyfer penderfyniadau) a 23 (ceisiadau a wneir o dan amod cynllunio) o Orchymyn 2012 yn cael effaith fel pe bai bob un o’r cyfeiriadau yn erthygl 22(2)(a) a 23 at gyfnod o 8 wythnos yn gyfeiriad at gyfnod o 16 wythnos.

Ymestyn y pŵer i ddarparu mewn gorchymyn datblygu ar gyfer rhoi cyfarwyddydau ynghylch y dull yr ymdrinnir â cheisiadau cynllunio

58.  Rhaid i ddarpariaethau a gynhwysir mewn gorchymyn datblygu yn rhinwedd adran 60 o Ddeddf 1990 (caniatâd a roddir gan orchymyn datblygu)(36) sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddydau, eu galluogi i gyfarwyddo bod datblygiad sydd o ddisgrifiad a grybwyllir yng Ngholofn 1 y tabl yn Atodlen 2, a hefyd o ddosbarth a ddisgrifir yn y cyfarwyddyd yn ddatblygiad AEA at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Cymhwyso i’r Goron

59.—(1Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r Goron gyda’r addasiadau canlynol.

(2Mewn perthynas â chais a wneir i Weinidogion Cymru heblaw cais o dan adran 62D o Ddeddf 1990 (datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol: ceisiadau am ganiatad cynllunio), rhaid darllen rheoliad 11 (cais a atgyfeirir i Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddol) fel pe bai—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)cyn “atgyfeirio” yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, yn darllen “wneud i Weinidogion Cymru o dan adran 293A o Ddeddf 1990 (datblygiad brys y Goron: cais)(37) neu ei”; a

(ii)cyn “atgyfeirio’r” yn darllen “gwneud neu”; a

(b)ym mharagraff (2), cyn “atgyfeirio” yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, yn darllen “wneud o dan adran 293A o Ddeddf 1990 neu ei”.

Dirymu offerynnau statudol a darpariaethau trosiannol

60.—(1Mae’r offerynnau statudol yn Atodlen 8 wedi eu dirymu i’r graddau a ddangosir yn yr Atodlen honno.

(2Nid oes unrhyw beth ym mharagraff (1) yn effeithio ar barhad cymhwysiad yr offerynnau a ddirymir gan y paragraff hwnnw, ac nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys, mewn perthynas ag—

(a)unrhyw gais a gofnodir neu a geir gan awdurdod cyn y dyddiad cychwyn,

(b)unrhyw gais ROMP amhenderfynedig y mae’r offerynnau hynny’n gymwys iddo yn unol â Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009,

(c)unrhyw apêl mewn perthynas â chais o dan is-baragraff (a) neu (b), neu

(d)unrhyw fater y mae’r awdurdod cynllunio lleol wedi, cyn y dyddiad hwnnw, dyroddi hysbysiad gorfodi mewn perthynas ag ef o dan adran 172 o Ddeddf 1990.

(3Yn y rheoliad hwn, mae i “cais ROMP” (“ROMP application”) a “ROMP” (“ROMP”) yr un ystyr ag yn rheoliad 52(1).

Diwygiadau canlyniadol

61.  Mae’r offerynnau yn Atodlen 9 wedi eu diwygio i’r graddau a ddangosir yn yr Atodlen honno.

Carl Sargeant

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

27 Ionawr 2016

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 1Disgrifiadau o ddatblygiad at ddibenion y diffiniad o “datblygiad Atodlen 1”

Dehongli

Yn yr Atodlen hon—

nid yw “gorsaf bŵer niwclear” (“nuclear power station”) ac “adweithydd niwclear arall” (“other nuclear reactor”) yn cynnwys gosodiad o safle lle mae pob tanwydd niwclear a deunyddiau wedi eu halogi’n ymbelydrol wedi eu symud oddi yno’n barhaol; a rhaid peidio â thrin datblygiad at ddiben datgymalu neu ddadgomisiynu gorsaf bŵer niwclear neu adweithydd niwclear arall fel datblygiad o ddisgrifiad a grybwyllir ym mharagraff 2(b) yr Atodlen hon;

ystyr “gwibffordd” yw ffordd sy’n cydymffurfio â’r diffiniad o “express road” yng Nghytundeb Ewrop ar Briffyrdd Traffig Rhyngwladol, 15 Tachwedd 1975(38);

ystyr “maes awyr” (“airport”) yw maes awyr sy’n cydymffurfio â’r diffiniad o “airport” yng Nghonfensiwn Chicago 1944 yn sefydlu’r Sefydliad Hedfan Sifil Rhyngwladol (Atodiad 14)(39).

Disgrifiadau o ddatblygiad

Cynnal datblygiad er mwyn darparu unrhyw rai o’r canlynol—

1.  Purfeydd olew crai (ac eithrio ymgymeriadau sy’n gweithgynhyrchu dim ond ireidiau o olew crai) a gosodiadau ar gyfer nwyeiddio a hylifo 500 tunnell neu fwy o lo neu olew siâl bitwminaidd y dydd.

2.

 (a)Gorsafoedd pŵer thermal a gosodiadau ymlosgi eraill sy’n cynhyrchu 300 megawat o wres neu fwy; a

(b)Gorsafoedd pŵer niwclear ac adweithyddion niwclear eraill (ac eithrio gosodiadau ymchwil er mwyn cynhyrchu a thrawsnewid deunyddiau ymholltol a ffrwythlon, nad yw eu pŵer uchaf yn fwy na llwyth thermal parhaus o 1 cilowat).

3.

 (a)Gosodiadau ar gyfer ailbrosesu tanwydd niwclear arbelydredig;

(b)Gosodiadau a gynlluniwyd—

(i)ar gyfer cynhyrchu neu gyfoethogi tanwydd niwclear,

(ii)ar gyfer prosesu tanwydd niwclear arbelydredig neu wastraff ymbelydrol lefel uchel,

(iii)ar gyfer cael gwared yn derfynol ar danwydd niwclear arbelydredig,

(iv)ar gyfer cael gwared yn derfynol ar wastraff ymbelydrol yn unig,

(v)ar gyfer storio (a gynllunnir am dros 10 mlynedd) tanwyddau niwclear arbelydredig neu wastraff ymbelydrol mewn safle gwahanol i’r safle lle ei cynhyrchir yn unig.

4.

 (a)Gwaith integredig ar gyfer toddi cychwynnol haearn bwrw a dur;

(b)Gosodiadau ar gyfer cynhyrchu metelau crai anfferrus o fwyn, crynodiadau neu ddeunyddiau crau eilaidd drwy brosesau metelegol, cemegol neu electrolytig.

5.  Gosodiadau ar gyfer echdynnu asbestos a phrosesu a thrawsnewid asbestos a chynhyrchion sy’n cynnwys asbestos—

(a)ar gyfer cynhyrchion asbestos-sment, sy’n cynhyrchu mwy na 20,000 tunnell o’r cynhyrchion gorffenedig y flwyddyn;

(b)ar gyfer deunydd ffrithiant, sy’n cynhyrchu mwy na 50 tunnell o’r cynhyrchion gorffenedig y flwyddyn; ac

(c)ar gyfer defnydd arall o asbestos, sy’n defnyddio mwy na 200 tunnell y flwyddyn.

6.  Gosodiadau cemegol integredig, hynny yw, gosodiadau ar gyfer gweithgynhyrchu sylweddau drwy ddefnyddio prosesau trawsnewid cemegol ar raddfa ddiwydiannol, lle y cyfosodir nifer o unedau a’u cysylltu’n weithredol â’i gilydd ac sydd—

(a)ar gyfer cynhyrchu cemegau organig sylfaenol;

(b)ar gyfer cynhyrchu cemegau anorganig sylfaenol;

(c)ar gyfer cynhyrchu gwrtaith y mae ffosfforws-, nitrogen- neu botasiwm- yn sylfaen iddo (gwrteithiau syml neu gyfansawdd);

(d)ar gyfer cynhyrchu cynhyrchion iechyd planhigion sylfaenol a bywleiddiaid;

(e)ar gyfer cynhyrchu cynhyrchion fferyllol sylfaenol drwy ddefnyddio proses gemegol neu fiolegol;

(f)ar gyfer cynhyrchu ffrwydron.

7.

 (a)Adeiladu rheilffyrdd ar gyfer traffig rheilffordd pellter hir a meysydd awyr sydd â hyd rhedfa sylfaenol o 2,100 metr neu fwy;

(b)Adeiladu traffyrdd a gwibffyrdd;

(c)Adeiladu ffordd newydd o bedair lôn neu fwy, neu adlinio a/neu ledu ffordd bresennol o ddwy lôn neu lai er mwyn darparu pedair neu fwy o lonydd, pan fyddai ffordd newydd o’r fath, neu ran wedi ei hadlinio a/neu ei lledu o ffordd yn 10 cilometr neu fwy mewn hyd parhaus.

8.

 (a)Dyfrffyrdd mewndirol a phorthladdoedd ar gyfer traffig dyfrffyrdd mewndirol sy’n caniatáu hynt llongau dros 1,350 tunnell;

(b)Porthladdoedd masnachu, pierau ar gyfer llwytho a dadlwytho sydd wedi eu cysylltu i dir a thu allan i borthladdoedd (ac eithrio pierau fferi) a all dderbyn llongau sydd dros 1,350 tunnell.

9.  Gosodiadau gwaredu gwastraff ar gyfer llosgi, trin yn gemegol (fel y’i diffinnir yn Atodiad IIA i Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC(40) o dan bennawd D9), neu dirlenwi gwastraff peryglus fel y’i diffinnir yn rheoliad 6 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005(41).

10.  Gosodiadau gwaredu gwastraff ar gyfer llosgi neu drin yn gemegol (fel y’i diffinnir yn Atodiad IIA i Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC o dan bennawd D9) gwastraff nad yw’n beryglus gyda chynhwysedd o dros 100 tunnell y dydd.

11.  Cynlluniau tynnu dŵr daear neu ail-lenwi dŵr daear artiffisial pan fo cyfaint blynyddol y dŵr a dynnir neu a ail-lenwir yn cyfateb i neu’n fwy na 10 miliwn metr ciwbig.

12.

 (a)Gwaith ar gyfer trosglwyddo adnoddau dŵr, heblaw dŵr yfed a bibellir, rhwng basnau afon pan mai nod y trosglwyddiad yw atal prinder dŵr posibl a phan fo swm y dŵr a drosglwyddir yn fwy na 100 miliwn metr ciwbig y flwyddyn;

(b)Ym mhob achos arall, gwaith ar gyfer trosglwyddo adnoddau dŵr, heblaw dŵr yfed a bibellir, rhwng basnau afon pan fo llif cyfartalog aml-flynyddol y basn y tynnir y dŵr ohono yn fwy na 2,000 miliwn metr ciwbig y flwyddyn a phan fo swm y dŵr a drosglwyddir yn fwy na 5% o’r llif hwn.

13.  Gweithfeydd trin dŵr gwastraff gyda chynhwysedd sy’n fwy na chyfwerth â 150,000 o boblogaeth fel y’i diffinnir yn Erthygl 2 pwynt (6) o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/271/EEC(42).

14.  Echdynnu petrolewm a nwy naturiol at ddibenion masnachol pan fo’r swm a echdynnir yn fwy na 500 tunnell y dydd yn achos petrolewm a 500,000 metr ciwbig y dydd yn achos nwy.

15.  Argloddiau a gosodiadau eraill a gynlluniwyd er mwyn dal dŵr yn ôl neu storio dŵr yn barhaol, pan fo swm newydd neu swm ychwanegol o ddŵr a ddelir yn ôl neu a gaiff ei storio yn fwy na 10 miliwn metr ciwbig.

16.  Piblinellau sydd â diamedr o fwy na 800 milimetr a hyd o fwy na 40 cilometr:

  • ar gyfer cludo nwy, olew, cemegau, neu

  • ar gyfer cludo ffrwd carbon deuocsid er mwyn ei storio’n ddaearegol, gan gynnwys gorsafoedd atgyfnerthu cysylltiedig.

17.  Gosodiadau ar gyfer magu dofednod neu foch yn ddwys gyda mwy na—

(a)85,000 o leoedd ar gyfer brwyliaid neu 60,000 o leoedd ar gyfer ieir;

(b)3,000 o leoedd ar gyfer moch cynhyrchu (dros 30 kg); neu

(c)900 o leoedd ar gyfer hychod.

18.  Gweithfeydd diwydiannol ar gyfer—

(a)cynhyrchu pwlp o goed neu ddeunyddiau ffibrog tebyg;

(b)cynhyrchu papur a bwrdd gyda’r lle i gynhyrchu dros 200 tunnell y dydd.

19.  Chwareli a chloddio glo brig pan fo arwyneb y safle yn fwy na 25 hectar, neu echdynnu mawn pan fo arwyneb y safle yn fwy na 150 hectar.

20.  Gosodiadau ar gyfer storio petroliwm, cynhyrchion petrocemegol neu gemegol gyda lle i 200,000 tunnell neu fwy.

21.  Safleoedd storio yn unol â Chyfarwyddeb 2009/31/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 23 Ebrill 2009 ar storio carbon deuocsid yn ddaearegol(43).

22.  Gosodiadau ar gyfer dal ffrydiau carbon deuocsid at ddibenion eu storio’n ddaearegol yn unol â Chyfarwyddeb 2009/31/EC o osodiadau a gynhwysir yn yr Atodlen hon, neu pan fo cyfanswm o 1.5 megaton neu fwy o garbon deuocsid y flwyddyn yn cael ei ddal.

23.  Unrhyw newid i ddatblygiad neu estyniad ohono a restrir yn yr Atodlen hon pan fo newid neu estyniad o’r fath ynddo’i hun yn bodloni trothwyon, os oes rhai, neu ddisgrifiad o ddatblygiad a nodir yn yr Atodlen hon.

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 2Disgrifiadau o ddatblygiad a throthwyon a meini prawf cymwys at ddibenion y diffiniad o “datblygiad Atodlen 2”

1.  Yn y tabl isod—

mae “arwynebedd gwaith” (“area of the works”) yn cynnwys unrhyw arwynebedd lle mae aparatws, cyfarpar, peiriannau, deunyddiau, offer, tomen rwbel neu gyfleusterau eraill neu storfeydd y mae eu hangen ar gyfer adeiladu neu osod;

ystyr “arwynebedd llawr” (“floorspace”) yw arwynebedd y lloriau mewn adeilad neu adeiladau.

mae i “dyfroedd a reolir” yr un ystyr ag a roddir i “controlled waters” yn Neddf Adnoddau Dŵr 1991(44).

2.  Mae’r tabl isod yn nodi disgrifiadau o ddatblygiad a throthwyon a meini prawf cymwys at ddiben dosbarthu datblygiad yn ddatblygiad Atodlen 2.

Colofn 1

Disgrifiad o ddatblygiad

Colofn 2

Trothwyon a meini prawf cymwys

Cynnal datblygiad ar gyfer darparu unrhyw un o’r canlynol—
1  Amaethyddiaeth a dyframaethu
(a) Prosiectau ar gyfer defnyddio tir heb ei drin neu arwynebau lled-naturiol at ddibenion amaethyddol dwys;Mae arwynebedd y datblygiad yn fwy na 0.5 hectar.
(b) Prosiectau rheoli dŵr ar gyfer amaethyddiaeth, gan gynnwys prosiectau dyfrhau a draenio tir;Mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar.
(c) Gosodiadau da byw dwys (oni bai ei fod wedi ei gynnwys yn Atodlen 1);Mae’r arwynebedd llawr newydd yn fwy na 500 metr sgwâr.
(d) Ffermio pysgod dwys;Mae’r gosodiad a gyfyd o’r datblygiad wedi ei gynllunio i gynhyrchu mwy na 10 tunnell o bwysau pysgod marw y flwyddyn.
(e) Adennill tir o’r môr.Pob datblygiad.
2 Diwydiant echdynnol

(a) Chwareli, cloddio glo brig ac echdynnu mawn (oni bai ei fod wedi ei gynnwys yn Atodlen 1);

(b) Cloddio o dan y ddaear;

Pob datblygiad heblaw adeiladu adeiladau neu adeileddau ategol eraill lle nad yw’r arwyneb llawr yn fwy na 1,000 metr sgwâr.
(c) Echdynnu mwynau drwy garthu afonol neu forol;Pob datblygiad.

(d) Driliadau dwfn, yn enwedig—

(i) drilio geothermol;

(ii) drilio ar gyfer storio deunydd gwastraff niwclear;

(iii) drilio ar gyfer cyflenwadau dŵr;

ac eithrio driliadau ar gyfer ymchwilio i sefydlogrwydd y pridd.

(i) Mewn perthynas ag unrhyw fath o ddrilio, mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar; neu

(ii) mewn perthynas â drilio geothermol a drilio ar gyfer storio deunydd gwastraff niwclear, mae’r drilio o fewn 100 metr oddi wrth unrhyw ddyfroedd a reolir.

(e) Gosodiadau diwydiannol ar yr wyneb ar gyfer echdynnu glo, petrolewm, nwy a mwynau naturiol, yn ogystal â siâl bitwminaidd.Mae arwynebedd y datblygiad yn fwy na 0.5 hectar.
3 Diwydiant ynni
(a) Gosodiadau diwydiannol ar gyfer cynhyrchu trydan, stêm a dŵr poeth (oni bai ei fod wedi ei gynnwys yn Atodlen 1);Mae arwynebedd y datblygiad yn fwy na 0.5 hectar.
(b) Gosodiadau diwydiannol ar gyfer cludo nwy, stêm a dŵr poeth;Mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar.

(c) Storio nwy naturiol ar yr wyneb;

(d) Storio nwyon hylosg o dan y ddaear;

(e) Storio tanwydd ffosil ar yr wyneb;

(i) Mae arwynebedd unrhyw adeilad, gwaddod neu adeiledd newydd yn fwy na 500 metr sgwâr; neu

(ii) adeilad, gwaddod neu adeiledd newydd sydd i’w leoli o fewn 100 metr oddi wrth unrhyw ddyfroedd a reolir.

(f) Cynhyrchu brics o lo a lignit ar raddfa ddiwydiannol;Mae arwynebedd y llawr newydd yn fwy na 1,000 metr sgwâr.
(g) Gosodiadau ar gyfer prosesu a storio gwastraff ymbelydrol (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1);(i) Mae arwynebedd y llawr newydd yn fwy na 1,000 metr sgwâr; neu (ii) bydd yn ofynnol i’r gosodiad sy’n deillio o’r datblygiad gael trwydded amgylcheddol o dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010(45) mewn perthynas â gweithgaredd sylweddau ymbelydrol a ddisgrifir ym mharagraff 11(2)(b), (2)(c) neu (4) o Ran 2 o Atodlen 23 i’r Rheoliadau hynny, neu amrywiad o drwydded o’r fath.
(h) Gosodiadau ar gyfer cynhyrchu ynni hydrodrydanol;Mae’r gosodiad wedi ei gynllunio i gynhyrchu mwy na 0.5 megawat.
(i) Gosodiadau ar gyfer defnyddio pŵer y gwynt er mwyn cynhyrchu ynni (ffermydd gwynt).

(i) Mae’r datblygiad yn golygu gosod mwy na 2 dyrbin; neu

(ii) mae uchder canol unrhyw dyrbin neu uchder unrhyw adeiledd arall yn fwy na 15 metr.

(j) Gosodiadau ar gyfer dal ffrydiau carbon deuocsid at ddiben storio daearegol yn unol â Chyfarwyddeb 2009/31/EC o osodiadau nad ydynt wedi eu cynnwys yn Atodlen 1.Pob datblygiad.
4 Cynhyrchu a phrosesu metelau

(a) Gosodiadau ar gyfer cynhyrchu haearn crai neu ddur (prif ymdoddiad neu ymdoddiad eilaidd) gan gynnwys castio parhaus;

(b) Gosodiadau ar gyfer prosesu metelau fferrus—

(i) melinau rholio poeth;

(ii) gofaniaeth gyda morthwylion;

(iii) araenu gyda haenau metel ymdoddedig amddiffynnol.

(c) Ffowndrïau metel fferrus;

(d) Gosodiadau ar gyfer toddi, gan gynnwys aloieiddio, metelau anfferrus, ac eithrio metelau gwerthfawr, gan gynnwys cynhyrchion wedi eu hadfer, (coethi, castio ffowndri, etc.);

(e) Gosodiadau ar gyfer trin arwynebedd metelau a deunyddiau plastig drwy ddefnyddio proses electrolytig neu gemegol;

(f) Gweithgynhyrchu a chydosod cerbydau modur a gweithgynhyrchu peiriannau cerbydau modur;

(g) Ierdydd llongau;

(h) Gosodiadau ar gyfer adeiladu a thrwsio awyrennau;

(i) Gweithgynhyrchu offer rheilffordd;

(j) Swagio gyda ffrwydron;

(k) Gosodiadau ar gyfer rhostio a sintro mwynau metelig.

Mae arwynebedd y llawr newydd yn fwy na 1,000 metr sgwâr.
5 Diwydiant mwynol

(a) Ffyrnau golosg (distyllu glo sych);

(b) Gosodiadau ar gyfer gweithgynhyrchu sment;

(c) Gosodiadau ar gyfer cynhyrchu asbestos a gweithgynhyrchu cynhyrchion sy’n seiliedig ar asbestos (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1);

(d) Gosodiadau ar gyfer gweithgynhyrchu gwydr gan gynnwys gwydrffibr;

(e) Gosodiadau ar gyfer mwyndoddi sylweddau mwynol gan gynnwys cynhyrchu ffibrau mwynol;

(f) Gweithgynhyrchu cynhyrchion ceramig drwy losgi, yn enwedig teils to, briciau, briciau gwrthsafol, teils, crochenwaith caled neu borslen.

Mae arwynebedd y llawr newydd yn fwy na 1,000 metr sgwâr.
6 Diwydiant cemegol (oni bai ei fod wedi ei gynnwys yn Atodlen 1)

(a) Trin rhan-gynhyrchion a chynhyrchu cemegau;

(b) Cynhyrchu plaleiddiaid a chynhyrchion fferyllol, paent a farneisiau, elastomerau a pherocsidau;

Mae arwynebedd y llawr newydd yn fwy na 1,000 metr sgwâr
(c) Cyfleusterau storio ar gyfer petrolewm, cynhyrchion petrocemegol a chemegol.

(i) Mae arwynebedd unrhyw adeilad neu strwythur newydd yn fwy na 0.05 hectar; neu

(ii) bydd mwy na 200 tunnell o betrolewm, cynhyrchion petrocemegol neu gemegol yn cael eu storio ar unrhyw un adeg.

7 Diwydiant bwyd

(a) Gweithgynhyrchu olew a braster llysiau ac anifeiliaid;

(b) Pacio a chanio cynhyrchion anifeiliaid a llysiau;

(c) Gweithgynhyrchu cynnyrch llaeth;

(d) Bragu a bragio;

(e) Gweithgynhyrchu melysion a surop;

(f) Gosodiadau ar gyfer cigydda anifeiliaid;

(g) Gosodiadau gweithgynhyrchu startsh diwydiannol;

(h) Ffatrïoedd pysg mâl ac olew pysgod;

(i) Ffatrïoedd siwgr.

Mae arwynebedd y llawr newydd yn fwy na 1,000 metr sgwâr.
8 Diwydiannau tecstil, lledr, pren a phapur

(a) Gwaith diwydiannol ar gyfer cynhyrchu papur a bwrdd (oni bai ei fod wedi ei gynnwys yn Atodlen 1);

(b) Gweithfeydd ar gyfer rhagdriniaeth (gweithrediadau megis golchi, cannu, sgleinio) neu liwio ffibrau neu decstilau;

(c) Gweithfeydd ar gyfer trin lledr a chroen;

(d) Gosodiadau prosesu a chynhyrchu seliwlos.

Mae arwynebedd y llawr newydd yn fwy na 1,000 metr sgwâr.
9. Y diwydiant rwber
Gweithgynhyrchu a thrin cynhyrchion sy’n seiliedig ar elastomer.Mae arwynebedd y llawr newydd yn fwy na 1,000 metr sgwâr.
10. Prosiectau seilwaith
(a) Prosiectau datblygu ystad ddiwydiannol;

Mae arwynebedd y datblygiad yn fwy na 5 hectar.

(b) Prosiectau datblygu trefol, gan gynnwys adeiladu canolfannau siopa a meysydd parcio, stadiymau chwaraeon, canolfannau hamdden a sinemâu aml-sgrîn;

(i) Mae’r datblygiad yn cynnwys mwy nag 1 hectar o ddatblygiad trefol nad yw’n ddatblygiad tai annedd; neu

(ii) mae’r datblygiad yn cynnwys mwy na 150 o dai annedd; neu

(iii) mae arwynebedd cyffredinol y datblygiad yn fwy na 5 hectar.

(c) Adeiladu cyfleusterau trawslwytho rhyngfoddol a therfynellau rhyngfoddol (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1);

Mae arwynebedd y datblygiad yn fwy na 0.5 hectar.
(d) Adeiladu rheilffyrdd (oni bai ei fod wedi ei gynnwys yn Atodlen 1);Mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar.
(e) Adeiladu meysydd glanio (oni bai bod hynny wedi ei gynnwys yn Atodlen 1);

(i) Mae’r datblygiad yn cynnwys estyniad i redfa; neu

(ii) mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar.

(f) Adeiladu ffyrdd (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1);Mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar.
(g) Adeiladu harbyrau a gosodiadau porthladd gan gynnwys harbyrau pysgota (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1);Mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar.

(h) Adeiladu dyfrffordd fewndirol nad ydyw wedi ei chynnwys yn Atodlen 1, gwaith camlesu a lleddfu llifogydd;

(i) Argloddiau a gosodiadau eraill sydd wedi eu cynllunio i ddal dŵr neu ei storio yn yr hir dymor (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1);

(j)Tramffyrdd, rheilffyrdd uwch ben a thanddaearol, rheilffyrdd crog neu reilffyrdd tebyg o fath penodol, a ddefnyddir i gludo teithwyr yn unig neu’n bennaf;

Mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar.

(k)  Gosodiadau piblinellau olew a nwy a phiblinellau i gludo ffrydiau carbon deuocsid at ddibenion storio daearegol (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1);

(l) Gosodiadau traphontydd pellter hir;

(i) Mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar; neu,

(ii) yn achos piblinell nwy, bod gan y gosodiad bwysedd cynllun gweithredu sy’n fwy na medrydd 7 bar.

(m) Gwaith arfordirol er mwyn mynd i’r afael ag erydiad a gwaith morol a all addasu’r arfordir drwy adeiladu, er enghraifft argloddiau, morgloddiau, glanfeydd a gwaith arall sy’n amddiffyn rhag y môr, ac eithrio cynnal a chadw ac ailadeiladu gwaith o’r fath;Pob datblygiad.

(n) Cynlluniau tynnu dŵr daear ac ail-lenwi dŵr daear artiffisial nad ydynt wedi eu cynnwys yn Atodlen 1;

(o) Gwaith ar gyfer trosglwyddo adnoddau dŵr rhwng basnau afonydd nad ydyw wedi ei gynnwys yn Atodlen 1;

Mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar.
(p) Mannau gwasanaeth traffyrdd.Mae arwynebedd y gwaith yn fwy na 0.5 hectar.
11 Prosiectau eraill
(a) Traciau rasio a phrofi cerbydau modur parhaol;Mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar.
(b) Gosodiadau ar gyfer cael gwared â gwastraff (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1);

(i) Mae’r gwarediad yn digwydd drwy losgi; neu

(ii) mae arwynebedd y datblygiad yn fwy na 0.5 hectar; neu

(iii) bydd y gosodiad yn cael ei leoli o fewn 100 metr i unrhyw ddyfroedd a reolir.

(c) Gweithfeydd trin dŵr gwastraff (oni bai eu bod wedi eu cynnwys yn Atodlen 1);Mae arwynebedd y datblygiad yn fwy na 1,000 metr sgwâr.

(d) Safleoedd gwaddodi llaid;

(e) Storio haearn sgrap, gan gynnwys cerbydau sgrap;

(i) Mae arwynebedd y gwaddod neu storio yn fwy na 0.5 hectar; neu

(ii) bydd gwaddod yn cael ei wneud neu sgrap yn cael ei storio o fewn 100 metr i unrhyw ddyfroedd a reolir.

(f) Meinciau arbrofi ar gyfer peiriannau, tyrbinau neu adweithyddion;

(g) Gosodiadau ar gyfer gweithgynhyrchu ffibrau mwynol artiffisial;

(h) Gosodiadau ar gyfer adfer neu ddinistrio deunyddiau ffrwydrol;

(i) Ierdydd naceriaid.

Mae arwynebedd y llawr newydd yn fwy na 1,000 metr sgwâr.
12 Twristiaeth a hamdden
(a) Llethrau sgïo, lifftiau sgïo a cheir cebl a datblygiadau cysylltiedig;

(i) Mae arwynebedd y gwaith yn fwy nag 1 hectar; neu

(ii) mae uchder unrhyw adeilad neu adeiledd arall yn fwy na 15 metr.

(b) Marinas;Mae arwynebedd y dŵr amgaeedig yn fwy na 1,000 metr sgwâr.

(c) Pentrefi gwyliau a chyfadeiladau gwestai y tu allan i ardaloedd trefol a datblygiadau cysylltiedig;

(d) Parciau thema;

Mae arwynebedd y datblygiad yn fwy na 0.5 hectar.
(e) Meysydd carafanau a safleoedd gwersylla parhaol;Mae arwynebedd y datblygiad yn fwy na 1 hectar.
(f) Cyrsiau golff a datblygiadau cysylltiedig.Mae arwynebedd y datblygiad yn fwy na 1 hectar.
13 Newidiadau ac estyniadau
(a) Unrhyw newid neu estyniad i ddatblygiad o ddisgrifiad a restrir yn Atodlen 1 (heblaw newid neu estyniad sy’n dod o fewn paragraff 23 o’r Atodlen honno) pan fo’r datblygiad wedi ei awdurdodi, ei weithredu neu yn y broses o gael ei weithredu eisoes.

Gall y datblygiad fel y’i newidir neu y’i hestynnir gael effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd.

(b) Unrhyw newid neu estyniad i ddatblygiad o ddisgrifiad a restrir ym mharagraffau 1 i 12 o golofn 1 o’r tabl hwn, pan fo’r datblygiad wedi ei awdurdodi, ei weithredu neu yn y broses o gael ei weithredu eisoes.

(a) Bodlonir neu rhagorir ar y trothwyon a’r meini prawf yn y rhan gyfatebol o Golofn 2 o’r tabl hwn sy’n gymwys i’r datblygiad fel y’i newidir neu y’i hestynnir; a

(b) mewn achos o’r fath gall y datblygiad fel y’i newidir neu y’i hestynnir gael effaith andwyol sylweddol ar yr amgylchedd.

(c) Datblygiad o ddisgrifiad a grybwyllir yn Atodlen 1 a wneir ar gyfer datblygu a phrofi dulliau neu gynhyrchion newydd yn unig neu’n bennaf ac nad ydyw wedi ei ddefnyddio am fwy na dwy flynedd.Pob datblygiad.

Rheoliad 4(6)

ATODLEN 3Meini prawf dethol ar gyfer sgrinio datblygiad Atodlen 2

Nodweddion y datblygiad

1.  Rhaid ystyried nodweddion y datblygiad gan roi sylw yn arbennig ar—

(a)maint y datblygiad;

(b)y cyfuniad gyda datblygiad arall;

(c)y defnydd o adnoddau naturiol;

(d)cynhyrchu gwastraff;

(e)llygredd a niwsans;

(f)y perygl o ddamweiniau, gan roi sylw yn arbennig i’r sylweddau neu’r technolegau a ddefnyddir.

Lleoliad y datblygiad

2.  Rhaid i sensitifrwydd amgylcheddol ardaloedd daearyddol sy’n debygol o gael eu heffeithio gan ddatblygiad gael ei ystyried, gan roi sylw, yn arbennig i’r nodweddion a ganlyn—

(a)y defnydd presennol o’r tir;

(b)digonedd cymharol, ansawdd a chapasiti atgynhyrchiol adnoddau naturiol yn yr ardal;

(c)capasiti amsugnad yr amgylchedd naturiol, gan roi sylw arbennig i’r ardaloedd canlynol—

(i)gwlypdiroedd;

(ii)parthau arfordirol;

(iii)ardaloedd mynyddoedd a choedwigoedd;

(iv)gwarchodfeydd natur a pharciau;

(v)ardaloedd a ddosberthir neu a amddiffynnir o dan ddeddfwriaeth Aelod-wladwriaethau, ardaloedd a ddynodir gan Aelod-wladwriaethau yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 2009/147/EC ar warchod adar gwyllt(46) a Chyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar warchod cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt(47);

(vi)ardaloedd lle rhagorwyd ar y safonau ansawdd amgylcheddol a nodir yn neddfwriaeth yr UE yn barod;

(vii)ardaloedd trwchus eu poblogaeth;

(viii)tirweddau o arwyddocâd hanesyddol, diwylliannol neu archeolegol.

Nodweddion yr effaith potensial

3.  Rhaid ystyried effeithiau sylweddol potensial y datblygu mewn perthynas â’r meini prawf a nodir o dan baragraffau 1 a 2 uchod, a rhoi sylw yn arbennig i’r canlynol—

(a)graddau’r effaith (arwynebedd daearyddol a maint y boblogaeth yr effeithir arni);

(b)natur drawsffiniol yr effaith;

(c)maint a chymhlethdod yr effaith;

(d)tebygolrwydd yr effaith;

(e)parhad, amledd a gwrthdroadwyedd yr effaith.

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 4Gwybodaeth i’w chynnwys mewn datganiadau amgylcheddol

RHAN 1

1.  Disgrifiad o’r datblygiad, gan gynnwys yn benodol—

(a)disgrifiad o nodweddion ffisegol yr holl ddatblygiad a’r gofynion o ran y defnydd o’r tir yn ystod y cyfnodau adeiladu a gweithredu;

(b)disgrifiad o brif nodweddion y prosesau cynhyrchu, er enghraifft, natur ac ansawdd y deunyddiau a ddefnyddir;

(c)amcangyfrifiad, yn ôl math ac ansawdd, o’r gweddillion a’r allyriadau (llygredd dŵr, aer a phridd, sŵn, dirgryniad, golau, gwres, ymbelydredd, etc.) o ganlyniad i weithrediad y datblygiad arfaethedig.

2.  Amlinelliad o’r prif ddewisiadau amgen a astudiwyd gan y ceisydd neu’r apelydd a dynodi’r prif resymau dros y dewis a wnaed, gan gymryd yr effeithiau amgylcheddol i ystyriaeth.

3.  Disgrifiad o’r agweddau ar yr amgylchedd sy’n debygol o gael eu heffeithio’n sylweddol gan y datblygiad, gan gynnwys yn benodol, poblogaeth, ffawna, fflora, pridd, dŵr, aer, ffactorau hinsoddol, asedau materol, gan gynnwys y dreftadaeth bensaernïol ac archeolegol, y dirwedd a’r gydberthynas rhwng y ffactorau uchod.

4.  Disgrifiad o effeithiau sylweddol tebygol y datblygiad ar yr amgylchedd, a ddylai gynnwys yr effeithiau uniongyrchol ac unrhyw effeithiau anuniongyrchol, eilaidd, cronnus, tymor byr, tymor canolig a thymor hir, parhaol a dros dro, cadarnhaol a negyddol y datblygiad o ganlyniad i—

(a)bodolaeth y datblygiad;

(b)y defnydd o adnoddau dynol;

(c)allyriad llygryddion, creu niwsans a chael gwared â gwastraff,

a disgrifiad gan y ceisydd neu’r apelydd o’r dulliau darogan a ddefnyddir i asesu’r effeithiau ar yr amgylchedd.

5.  Disgrifiad o’r mesurau a ragwelir i atal, lleihau a, phan fo modd, gwrthbwyso unrhyw effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd.

6.  Crynodeb annhechnegol o’r wybodaeth a ddarperir o dan baragraffau 1 i 5 o’r Rhan hon.

7.  Dynodiad o unrhyw anawsterau (diffygion technegol neu ddiffyg medrusrwydd) a ddaw i ran y ceisydd neu’r apelydd wrth gasglu’r wybodaeth ofynnol.

RHAN 2

8.  Disgrifiad o’r datblygiad yn cynnwys gwybodaeth am y safle, cynllun a maint y datblygiad.

9.  Disgrifiad o’r mesurau a ragwelir er mwyn osgoi, lleihau ac, os yn bosibl, adfer effeithiau andwyol sylweddol.

10.  Y data sydd ei angen er mwyn adnabod ac asesu prif effeithiau tebygol y datblygiad ar yr amgylchedd.

11.  Amlinelliad o’r prif ddewisiadau amgen a astudiwyd gan y ceisydd neu’r apelydd a dynodiad o’r prif resymau dros y dewis a wnaed, gan gymryd yr effeithiau amgylcheddol i ystyriaeth.

12.  Crynodeb annhechnegol o’r wybodaeth a ddarperir o dan baragraffau 8 i 11 o’r Rhan hon.

Rheoliad 38(3)

ATODLEN 5Gorchmynion Datblygu Lleol

1.  Mewn achos pan fo’r Atodlen hon yn cael effaith, mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys, yn ddarostyngedig i’r addasiadau canlynol.

2.  Nid yw rheoliadau 3, 5 i 12, 18 a 19 yn gymwys.

3.  Yn rheoliad 4

(a)nid yw paragraff (2)(a) yn gymwys;

(b)ym mharagraff (2)(b), (5) a (10), yn lle “perthnasol” darllener “lleol”;

(c)darllener fel pe bai paragraff (7)(b) wedi ei hepgor.

4.  Rhaid darllen rheoliad 13 fel pe bai’n darparu—

(1) Pan fo gorchymyn datblygiad lleol arfaethedig yn ddatblygiad AEA, rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol nodi ei farn ynghylch yr wybodaeth y mae’n rhaid ei darparu yn y datganiad amgylcheddol (“barn gwmpasu”).

(2) Rhaid i farn gwmpasu o dan baragraff (1) gynnwys—

(a)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;

(b)disgrifiad byr o natur a phwrpas y datblygiad a’i effeithiau posibl ar yr amgylchedd; ac

(c)unrhyw wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r awdurdod cynllunio lleol ddymuno eu darparu neu eu gwneud.

(3) Rhaid i awdurdod beidio â mabwysiadu barn gwmpasu hyd nes ei fod wedi ymgynghori â’r ymgynghoreion.

(4) Cyn mabwysiadu barn sgrinio rhaid i’r awdurdod gymryd i ystyriaeth—

(a)nodweddion penodol y datblygiad neilltuol;

(b)nodweddion penodol datblygiad o’r math dan sylw; ac

(c)y nodweddion amgylcheddol sy’n debygol o gael eu heffeithio gan y datblygiad.

5.  Rhaid darllen rheoliad 15 fel pe bai’n darparu—

15.(1) Caiff awdurdod cynllunio lleol sy’n bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol holi’r ymgynghorai a oes gan yr ymgynghorai unrhyw wybodaeth y mae’r ymgynghorai neu’r awdurdod cynllunio lleol yn ystyried ei fod yn berthnasol i’r gwaith o baratoi’r datganiad amgylcheddol.

(2) Os oes gan yr ymgynghorai wybodaeth o’r fath, rhaid iddo drin yr ymholiad gan yr awdurdod cynllunio lleol fel cais am wybodaeth gan yr awdurdod cynllunio lleol o dan reoliad 5(1) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004(48).

6.  Rhaid darllen rheoliad 16 fel pe bai’n darparu—

16.(1) Pan fo datganiad, y cyfeirir ato fel “datganiad amgylcheddol”, wedi ei baratoi mewn perthynas â datblygiad AEA y mae’r awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu rhoi caniatâd cynllunio iddo drwy orchymyn datblygu lleol, rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol—

(a)anfon copi o’r datganiad i’r ymgynghoreion a’u hysbysu y cânt gyflwyno sylwadau; a

(b)hysbysu unrhyw berson penodol y mae’r awdurdod yn ymwybodol ohono, sy’n debygol o gael ei effeithio gan y cais, neu sydd â diddordeb yn y cais, ac sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy gyfrwng cyhoeddiad electronig, hysbysiad ar y safle neu drwy hysbyseb lleol, o gyfeiriad yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli, lle gellir cael copi o’r datganiad a’r cyfeiriad y caniateir anfon sylwadau iddo.

(2) Ni chaiff yr awdurdod cynllunio lleol wneud y gorchymyn datblygu lleol hyd nes y bydd 21 diwrnod o’r dyddiad olaf y cyflwynwyd copi o’r datganiad yn unol â’r rheoliad hwn wedi dod i ben.

7.  Rhaid darllen rheoliad 17 fel pe bai—

(a)paragraff (1) wedi ei hepgor;

(b)paragraff (2) yn darllen—

(2) Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol gyhoeddi’r hysbysiad mewn papur newydd lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli sy’n nodi—

(a)enw a chyfeiriad yr awdurdod cynllunio lleol;

(b)cyfeiriad neu leoliad a natur y datblygiad y cyfeirir ato yn y gorchymyn datblygu lleol arfaethedig;

(c)bod copi o’r gorchymyn datblygu lleol drafft ac unrhyw blan neu ddogfennau eraill sy’n mynd ynghyd ag ef, yn ogystal â chopi o’r datganiad amgylcheddol, ar gael i aelodau o’r cyhoedd edrych arno ar bob adeg resymol;

(d)cyfeiriad yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle caiff y cyhoedd edrych ar y dogfennau hynny, a’r dyddiad olaf y byddant ar gael i’w gweld (sydd yn ddyddiad nad yw’n llai na 21 diwrnod yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(e)cyfeiriad yn yr ardal leol (pa un a yw’r un cyfeiriad ag a roddir o dan is-baragraff (d) ai peidio) lle mae’r tir wedi ei leoli lle gellir cael copïau o’r datganiad;

(f)y gellir cael copïau yno cyhyd â bod rhai yn dal ar gael;

(g)swm y tâl, os bydd tâl yn cael ei godi am gopi; a

(h)y dylai unrhyw berson sy’n dymuno cyflwyno sylwadau am y gorchymyn datblygu lleol eu cyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol cyn y dyddiad a bennir yn unol ag is-baragraff (d).;

(c)paragraff (3) wedi ei hepgor;

(d)ym mharagraff (4), bod “ceisydd” yn darllen “awdurdod cynllunio lleol”; a

(e)paragraffau (6) i (9) wedi eu hepgor.

8.  Rhaid darllen rheoliad 20 fel pe bai’n dweud—

20.  Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol sicrhau bod nifer rhesymol o gopïau o’r datganiad y cyfeirir ato fel y datganiad amgylcheddol a baratowyd mewn perthynas â datblygiad AEA y mae’r awdurdod yn bwriadu rhoi caniatâd cynllunio ar ei gyfer drwy orchymyn datblygu lleol ar gael yn—

(a)ei brif swyddfa yn ystod oriau swyddfa arferol; a

(b)mewn unrhyw leoedd eraill o fewn ei ardal fel yr ystyria yn briodol.

9.  Rhaid darllen rheoliad 22 fel pe bai—

(a)paragraff (1) yn darllen—

(1) Pan fo datganiad amgylcheddol wedi ei baratoi a bod yr awdurdod cynllunio lleol o’r farn y dylai’r datganiad gynnwys gwybodaeth ychwanegol er mwyn bod yn ddatganiad amgylcheddol, rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol sicrhau bod gwybodaeth ychwanegol yn cael ei darparu ac y cyfeirir at wybodaeth o’r fath a ddarperir yn y Rheoliadau hyn fel “gwybodaeth bellach” (“further information”);

(b)paragraff (3) yn darllen—

(3) Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol gyhoeddi hysbysiad mewn papur newydd lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli sy’n nodi—

(a)enw a chyfeiriad yr awdurdod cynllunio lleol;

(b)cyfeiriad neu leoliad a natur y datblygiad y cyfeirir ato yn y gorchymyn datblygu lleol arfaethedig;

(c)bod gwybodaeth bellach ar gael mewn perthynas â datganiad amgylcheddol sydd wedi ei ddarparu’n barod;

(d)bod copi o’r wybodaeth bellach ar gael i aelodau o’r cyhoedd edrych arno ar bob adeg resymol;

(e)cyfeiriad yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle caiff y cyhoedd edrych ar yr wybodaeth bellach, a’r dyddiad olaf y bydd ar gael i’w gweld (sydd yn ddyddiad nad yw’n llai na 21 diwrnod yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(f)cyfeiriad yn yr ardal leol (pa un a yw’r un cyfeiriad ag a roddir o dan is-baragraff (e) ai peidio) lle mae’r tir wedi ei leoli lle gellir cael copïau o’r wybodaeth bellach;

(g)y gellir cael copïau yno cyhyd â bod rhai yn dal ar gael;

(h)swm y tâl, os bydd tâl yn cael ei godi am gopi;

(i)y dylai unrhyw berson sy’n dymuno cyflwyno sylwadau am yr wybodaeth bellach eu cyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol cyn y dyddiad a bennir yn unol ag is-baragraff (e);

(j)y cyfeiriad y dylid anfon sylwadau iddo.;

(c)paragraff (4) yn darllen—

(4) Rhaid i’r awdurdod lleol anfon copi o’r wybodaeth bellach ac unrhyw wybodaeth arall i bob person, yn unol â’r Rheoliadau, yr anfonwyd atynt y datganiad sy’n ymwneud â hi ac i Weinidogion Cymru.;

(d)paragraffau (5) a (6) wedi eu hepgor;

(e)paragraff (7) yn darllen—

(7) Pan ddarperir gwybodaeth o dan baragraff (1) rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol beidio â gwneud y gorchymyn datblygu lleol cyn diwedd 21 diwrnod ar ôl y dyddiad yr anfonwyd yr wybodaeth bellach i bob person yr anfonwyd atynt y datganiad sy’n ymwneud â hi neu ddiwedd 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y cyhoeddwyd hysbysiad ohoni mewn papur newydd lleol, pa bynnag un sydd ddiweddaraf.;

(f)ym mharagraff (8)—

(i)yn lle “ceisydd neu’r apelydd” ei fod yn darllen “awdurdod cynllunio lleol”; a

(ii)ar ôl “nifer rhesymol o gopïau o’r” ei fod yn darllen “wybodaeth bellach neu arall”.

10.  Rhaid darllen rheoliad 23 fel pe bai paragraffau (1) a (2) yn darllen—

(1) Pan fo manylion gorchymyn datblygu lleol drafft yn cael eu gosod ar Ran 3 o’r gofrestr, rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol gymryd camau i sicrhau bod copi o unrhyw rai perthnasol o’r canlynol yn cael eu gosod ar y Rhan honno hefyd—

(a)barn sgrinio;

(b)cyfarwyddyd sgrinio;

(c)barn gwmpasu;

(d)cyfarwyddyd o dan reoliad 4(4);

(e)y datganiad y cyfeirir ato fel y datganiad amgylcheddol gan gynnwys unrhyw wybodaeth bellach;

(f)datganiad o resymau sy’n mynd ynghyd ag unrhyw rai o’r uchod.

(2) Pan fo’r awdurdod cynllunio perthnasol yn mabwysiadu barn sgrinio neu farn gwmpasu, neu’n cael copi o gyfarwyddyd sgrinio cyn y gwneir gorchymyn datblygu lleol, rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol gymryd camau i sicrhau bod copi o’r farn neu’r cyfarwyddyd ac unrhyw ddatganiad o resymau sy’n mynd ynghyd ag ef ar gael i’r cyhoedd gael edrych arno ar bob adeg resymol yn y lle y cedwir y gofrestr briodol (neu’r adran berthnasol o’r gofrestr honno).

11.  Rhaid darllen rheoliad 24 fel pe bai—

(a)ym mharagraff (1) yn lle “Pan fo cais AEA yn cael ei benderfynu gan awdurdod cynllunio lleol” ei fod yn darllen “Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn mabwysiadu gorchymyn datblygu lleol sy’n rhoi caniatâd i ddatblygiad sydd yn ddatblygiad AEA”; a

(b)paragraffau (2) a (3) wedi eu hepgor.

12.  53 fel pe bai—

(a)ym mharagraff (1), is-baragraff (a) yn darllen—

(a)y daw i sylw Gweinidogion Cymru bod datblygiad AEA y bwriedir ei gynnal yng Nghymru y mae awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu rhoi caniatâd cynllunio drwy orchymyn datblygu lleol ar ei gyfer yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth AEE arall; neu; a

(b)ym mharagraffau (3) a (6), yn lle “cais” ei fod yn darllen “gorchymyn datblygu lleol arfaethedig”.

Rheoliad 39

ATODLEN 6Gorchmynion adran 97 a 102 o dan Ddeddf 1990

1.  Yn yr Atodlen hon ystyr “corff cychwyn” (“initiating body”) yw’r awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru, pan eu bod yn bwriadu gwneud gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102.

2.  Mewn achos pan fo’r Atodlen hon yn cael effaith, mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys yn ddarostyngedig i’r addasiadau canlynol.

3.  Nid yw rheoliadau 3, 5 i 12 a 19 yn gymwys.

4.  Yn rheoliad 4

(a)nid yw paragraff (2)(a) yn gymwys;

(b)ym mharagraff (2)(b), yn lle “perthnasol” darllener “lleol”;

(c)ym mharagraff (7) darllener fel pe bai is-baragraff (b) wedi ei hepgor.

5.  Rhaid darllen rheoliad 13 fel pe bai’n darparu—

(1) Pan fo gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 arfaethedig yn caniatáu neu’n gwneud datblygiad AEA yn ofynnol, rhaid i’r corff cychwyn ddatgan ei farn am yr wybodaeth y mae’n rhaid ei darparu yn y datganiad amgylcheddol, oni bai bod y corff cychwyn yn awdurdod cynllunio lleol ac yn gwneud cais o dan reoliad 14(1).

(2) Rhaid i farn gwmpasu neu gyfarwyddyd cwmpasu o dan baragraff (1) gynnwys—

(a)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;

(b)disgrifiad byr o natur a phwrpas y datblygiad a’i effeithiau posibl ar yr amgylchedd; ac

(c)unrhyw wybodaeth arall neu sylwadau eraill y mae’r corff cychwyn perthnasol yn dymuno eu darparu neu eu gwneud.

(3) Rhaid i gorff cychwyn beidio â mabwysiadu barn gwmpasu na chyfarwyddyd cwmpasu hyd nes ei fod wedi ymgynghori â’r ymgynghoreion.

(4) Cyn mabwysiadu barn gwmpasu neu gyfarwyddyd cwmpasu rhaid i’r corff cychwyn gymryd i ystyriaeth—

(a)nodweddion penodol y datblygiad penodol;

(b)nodweddion penodol datblygiad o’r math dan sylw; ac

(c)y nodweddion amgylcheddol sy’n debygol o gael eu heffeithio gan y datblygiad.

(5) Os bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu o’u hewyllys eu hunain ar gais trydydd parti, rhaid iddynt anfon copi i’r awdurdod lleol sydd wedi cychwyn y gorchymyn.

6.  Rhaid darllen rheoliad 14 fel pe bai—

(a)paragraff (1) yn darllen

Caiff awdurdod cynllunio lleol sy’n bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol ofyn i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd ynglŷn â’r wybodaeth y mae’n rhaid ei darparu yn y datganiad amgylcheddol ac mae’n rhaid i gais o’r fath gynnwys—

(a)copïau o’r farn sgrinio berthnasol a datganiad o resymau; a

(b)y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 13(2).;

(b)paragraffau (2) a (5) wedi eu hepgor;

(c)paragraff (6) yn darllen “Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r awdurdod cynllunio lleol a’r ymgynghoreion cyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu a rhaid iddynt wneud y cyfarwyddyd o fewn 5 wythnos yn dechrau â’r dyddiad y ceir y cais hwnnw neu unrhyw gyfnod hwy ag y gwneir yn ofynnol yn rhesymol.”; a

(d)y cyfeiriad ym mharagraff (7) at “rheoliad 13(6)” yn gyfeiriad at “rheoliad 13(4)”.

7.  Rhaid darllen rheoliad 15 fel pe bai’n darparu—

15.(1) Caiff corff cychwyn sy’n bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol ymgynghori ag ymgynghorai er mwyn penderfynu a oes gan yr ymgynghorai unrhyw wybodaeth y mae’r ymgynghorai neu’r corff cychwyn yn ei hystyried yn berthnasol ar gyfer paratoi’r datganiad amgylcheddol.

(2) Os oes gan yr ymgynghorai wybodaeth o’r fath, rhaid i’r ymgynghorai drin yr ymgynghoriad gan y corff cychwyn fel cais am wybodaeth gan yr awdurdod cynllunio lleol o dan reoliad 5(1) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004(49).

8.  Rhaid darllen rheoliad 16 fel pe bai’n darparu—

16.(1) Pan fo datganiad, y cyfeirir ato fel datganiad amgylcheddol, wedi ei baratoi gan gorff cychwyn mewn perthynas â datblygiad sy’n ymwneud â gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102, rhaid i’r corff hwnnw—

(a)anfon copi o’r gorchymyn adran 97 drafft neu’r gorchymyn adran 102 drafft a’r datganiad i’r ymgynghoreion a’u hysbysu y cânt gyflwyno sylwadau; a

(b)hysbysu unrhyw berson penodol y mae’r corff yn ymwybodol ohono ac sy’n debygol o gael ei effeithio gan y gorchymyn drafft, neu sydd â diddordeb yn y gorchymyn drafft, ac sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy gyfrwng cyhoeddiad electronig, hysbysiad ar y safle neu drwy hysbyseb lleol, o—

(i)cyfeiriad yn yr ardal leol lle gellir cael copi o’r gorchymyn drafft a’r datganiad; a

(ii)y cyfeiriad y caniateir anfon sylwadau iddo.

(2) Ni chaiff y corff cychwyn wneud y gorchymyn hyd nes diwedd 21 diwrnod o’r dyddiad olaf y cyflwynwyd copi o’r datganiad yn unol â’r rheoliad hwn.

(3) Pan fo’r awdurdod cynllunio lleol yn paratoi datganiad amgylcheddol, rhaid iddo anfon un copi o bob un o unrhyw farn sgrinio, datganiad o resymau a gorchymyn drafft perthnasol i Weinidogion Cymru o fewn 14 diwrnod i anfon y datganiad i’r ymgynghoreion.

9.  >Rhaid darllen rheoliad 17 fel pe bai—

(a)paragraff (1) wedi ei hepgor;

(b)paragraff (2) yn darllen—

(2) Rhaid i’r corff cychwyn gyhoeddi hysbysiad mewn papur newydd lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal leol sy’n nodi—

(a)enw a chyfeiriad y corff cychwyn;

(b)cyfeiriad neu leoliad a natur y datblygiad y cyfeirir ato yn y gorchymyn adran 97 neu’r gorchymyn adran 102 arfaethedig;

(c)bod copi o’r gorchymyn drafft ac unrhyw blan neu ddogfennau eraill sy’n mynd ynghyd ag ef, yn ogystal â chopi o’r datganiad amgylcheddol ar gael i aelodau’r cyhoedd edrych arno ar bob adeg resymol;

(d)cyfeiriad yn yr ardal leol lle mae’r dogfennau hynny ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt, a’r dyddiad olaf y maent ar gael i’w gweld (sydd yn ddyddiad nad yw’n llai na 21 diwrnod yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(e)cyfeiriad (pa un a yw’r un fath â’r cyfeiriad a roddir o dan is-baragraff (d) ai peidio) yn yr ardal leol lle gellir cael copïau o’r datganiad;

(f)y gellir cael copïau yno cyhyd â bod rhai yn dal ar gael;

(g)os codir tâl am gopi, swm y tâl; ac

(h)y dylai unrhyw berson sy’n dymuno cyflwyno sylwadau ynglŷn â’r gorchymyn eu cyflwyno i’r corff cychwyn cyn y dyddiad a bennir yn unol ag is-baragraff (d).;

(c)paragraff (3) wedi ei hepgor;

(d)ym mharagraff (4), bod “ceisydd” yn darllen “corff cychwyn”; ac

(e)paragraffau (6) i (9) wedi eu hepgor.

10.  Rhaid darllen rheoliad 18 fel pe bai’n darparu—

18.  Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn cyflwyno gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 i Weinidogion Cymru i’w gadarnhau, rhaid i’r awdurdod hefyd gyflwyno un copi o unrhyw ddatganiad amgylcheddol ac unrhyw wybodaeth bellach.

11.  Rhaid darllen rheoliad 20 fel pe bai’n darparu—

20.(1) Pan mai’r awdurdod cynllunio lleol yw’r corff cychwyn, rhaid iddo sicrhau bod nifer rhesymol o gopïau o’r datganiad y cyfeirir ato fel y datganiad amgylcheddol a baratowyd mewn perthynas â’r datblygiad y mae’r awdurdod yn bwriadu gwneud gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 ar ei gyfer ar gael—

(a)yn ei brif swyddfa yn ystod oriau swyddfa arferol; a

(b)mewn unrhyw leoedd eraill o fewn ei ardal fel yr ystyria yn briodol.

(2) Pan mai Gweinidogion Cymru yw’r corff cychwyn, rhaid iddynt anfon copi o’r datganiad amgylcheddol a baratowyd mewn perthynas â’r gorchymyn arfaethedig i’r awdurdod cynllunio lleol a fyddai’n gyfrifol am benderfynu ar gais am ganiatâd cynllunio mewn perthynas â’r datblygiad sy’n dod o dan y gorchymyn adran 97 neu’r gorchymyn adran 102 arfaethedig.

(3) Pan fo’r awdurdod cynllunio lleol yn cael copi o ddatganiad amgylcheddol yn unol â pharagraff (2), rhaid iddo sicrhau bod nifer rhesymol o gopïau o’r datganiad ar gael—

(a)yn ei brif swyddfa yn ystod oriau swyddfa arferol; a

(b)mewn unrhyw leoedd eraill o fewn ei ardal fel yr ystyria yn briodol.

12.  Rhaid darllen rheoliad 22 fel pe bai—

(a)paragraff (1) yn darllen—

(1) Pan fo—

(a)datganiad amgylcheddol wedi ei baratoi; a gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 wedi ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gadarnhau; a

(b)Gweinidogion Cymru yn ystyried y dylai’r datganiad gynnwys gwybodaeth ychwanegol er mwyn bod yn ddatganiad amgylcheddol,

rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r awdurdod cynllunio perthnasol; a rhaid i’r awdurdod hwnnw sicrhau bod yr wybodaeth ychwanegol yn cael ei darparu; a chyfeirir at wybodaeth ychwanegol o’r fath yn y Rheoliadau hyn fel “gwybodaeth bellach” (“further information”);

(b)paragraff (3) yn darllen—

(3) Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol gyhoeddi hysbysiad mewn papur newydd lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal leol sy’n nodi—

(a)enw a chyfeiriad yr awdurdod cynllunio perthnasol;

(b)cyfeiriad neu leoliad a natur y datblygiad y cyfeirir ato yn y gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 arfaethedig;

(c)bod gwybodaeth bellach ar gael mewn perthynas â datganiad amgylcheddol sydd wedi ei ddarparu’n barod;

(d)y caiff aelodau’r cyhoedd edrych ar gopi o’r wybodaeth bellach ar bob adeg resymol;

(e)cyfeiriad yn yr ardal leol lle caiff y cyhoedd edrych ar yr wybodaeth bellach, a’r dyddiad olaf y bydd ar gael i’w gweld (sydd yn ddyddiad nad yw’n llai na 21 diwrnod yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(f)cyfeiriad yn yr ardal leol (pa un a yw’r un cyfeiriad ag a roddir o dan is-baragraff (e) ai peidio) lle y gellir cael yr wybodaeth bellach;

(g)y gellir cael copïau yno cyhyd â bod rhai yn dal ar gael;

(h)swm y tâl, os bydd tâl yn cael ei chodi am gopi;

(i)y dylai unrhyw berson sy’n dymuno cyflwyno sylwadau am yr wybodaeth bellach eu cyflwyno i’r awdurdod cynllunio perthnasol cyn y dyddiad a bennir yn unol ag is-baragraff (e);

(j)y cyfeiriad y dylid anfon sylwadau iddo.;

(c)paragraff (4) yn darllen—

(4) Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol anfon copi o’r wybodaeth bellach i bob person yr anfonwyd atynt y datganiad sy’n ymwneud â hi, yn unol â’r Rheoliadau, ac i Weinidogion Cymru.;

(d)paragraffau (5) a (6) wedi eu hepgor;

(e)paragraff (7) yn darllen—

(7) Pan ddarperir gwybodaeth o dan baragraff (1) neu pan ddarperir unrhyw wybodaeth arall, rhaid i Weinidogion Cymru beidio â chadarnhau gorchymyn adran 97 na gorchymyn adran 102 cyn diwedd 21 diwrnod ar ôl y dyddiad yr anfonwyd yr wybodaeth bellach i bob person yr anfonwyd atynt y datganiad sy’n ymwneud â hi neu ddiwedd 21 diwrnod ar ôl y dyddiad y cyhoeddwyd hysbysiad ohoni mewn papur newydd lleol, pa bynnag un sydd ddiweddaraf.;

(f)ym mharagraff (8)—

(i)yn lle “ceisydd neu’r apelydd sy’n darparu” ei fod yn darllen “awdurdod cynllunio lleol sy’n darparu”; a

(ii)ar ôl “nifer rhesymol o gopïau o’r wybodaeth” ei fod yn dweud “bellach”.

13.  Rhaid darllen rheoliad 23 fel pe bai paragraffau (1) a (2) yn darllen—

(1) Rhaid i bob awdurdod cynllunio lleol gadw cofnod sy’n cynnwys copi o bob gorchymyn adran 97 a gorchymyn adran 102 sy’n ymwneud â’i ardal, ynghyd â datganiad o’r rhesymau dros wneud y gorchymyn; a rhaid i’r awdurdod gymryd camau i sicrhau bod copi’n cael ei roi ar y cofnod hwnnw hefyd o unrhyw un o’r canlynol sy’n berthnasol—

(a)barn sgrinio;

(b)cyfarwyddyd sgrinio;

(c)barn gwmpasu;

(d)cyfarwyddyd o dan reoliad 4(4);

(e)datganiad y cyfeirir ato fel y datganiad amgylcheddol, gan gynnwys unrhyw wybodaeth bellach;

(f)datganiad o resymau sy’n mynd ynghyd ag unrhyw rai o’r uchod.

(2) Pan fo’r awdurdod cynllunio lleol yn mabwysiadu barn sgrinio neu farn gwmpasu, neu’n cael copi o gyfarwyddyd sgrinio neu gyfarwyddyd cwmpasu cyn i orchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 gael ei wneud, rhaid i’r awdurdod gymryd camau i sicrhau bod copi o’r farn neu’r cyfarwyddyd ac unrhyw ddatganiad o resymau sy’n mynd ynghyd ag ef neu hi ar gael i’r cyhoedd edrych arno ar bob adeg resymol yn y lle y cedwir y cofnod.

(3) Rhaid i gopïau o’r dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) barhau i fod ar gael am gyfnod o ddwy flynedd o’r dyddiad y’u gosodir ar y cofnod.

14.  Rhaid darllen rheoliad 24 fel pe bai’n darparu—

24.(1) Yn y rheoliad hwn, ystyr “penderfyniad” (“decision”), mewn perthynas â gorchymyn sy’n cael effaith o dan adran 97(7) o Ddeddf 1990, yw’r penderfyniad i wneud y gorchymyn ac fel arall, y penderfyniad i gadarnhau y gorchymyn adran 97 neu’r gorchymyn adran 102.

(2) Pan fo gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 sy’n caniatáu neu’n gwneud yn ofynnol datblygiad AEA yn cael effaith, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)hysbysu awdurdod cynllunio lleol yr ardal y mae’r gorchymyn yn ymwneud â hi pan fo’r gorchymyn yn cael ei wneud neu ei gadarnhau; a

(b)ac eithrio mewn perthynas â gorchmynion adran 97 sy’n cael effaith heb gael eu cadarnhau gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 99(7) o Ddeddf 1990, ddarparu datganiad sy’n cynnwys yr wybodaeth ym mharagraff (3)(c) i’r awdurdod.

(3) Pan fo gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 sy’n caniatáu neu’n gwneud yn ofynnol datblygiad AEA yn cael effaith, rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol ar gyfer yr ardal y mae’r gorchymyn yn ymwneud â hi—

(a)hysbysu’r cyhoedd o’r penderfyniad, drwy hysbyseb lleol, neu drwy unrhyw ddull arall sy’n rhesymol o dan yr amgylchiadau; a

(b)sicrhau bod datganiad sy’n cynnwys y canlynol ar gael i’r cyhoedd edrych arno yn y lle y mae’r cofnod o orchmynion adran 97 a gorchmynion adran 102 yn cael eu cadw—

(i)cynnwys y penderfyniad ac unrhyw amodau cysylltiedig;

(ii)y prif resymau ac ystyriaethau y seiliwyd y penderfyniad arnynt gan gynnwys, os yn berthnasol, gwybodaeth am gyfranogiad y cyhoedd.

(iii)disgrifiad, pan fo angen, o’r prif fesurau i osgoi, lleihau, ac os yn bosibl, gwrthbwyso prif effeithiau andwyol y datblygiad a ganiateir neu sy’n ofynnol gan y gorchymyn; a

(iv)gwybodaeth ynglŷn â’r hawl i herio dilysrwydd y penderfyniad a’r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny.

15.  Rhaid darllen rheoliad 53 fel pe bai—

(a)“penderfyniad” â’r un ystyr ag ym mharagraff 14;

(b)ym mharagraff (1), is-baragraff (a) yn darllen—

(a)y daw i sylw Gweinidogion Cymru bod datblygiad AEA y bwriedir ei gynnal yng Nghymru ac y mae corff cychwyn yn bwriadu ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu drwy orchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102, yn debygol o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth AEE arall; neu ; ac

(c)ym mharagraffau (3) a (6), yn lle “cais” ei fod yn darllen “gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 arfaethedig”.

Rheoliad 52(2)

ATODLEN 7Ceisiadau ROMP(50)

Addasu darpariaethau ynglŷn â gwaharddiad ar roi caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol

1.  Rhaid darllen rheoliad 3 (gwaharddiad ar roi caniatâd cynllunio neu ganiatâd dilynol heb ystyried gwybodaeth amgylcheddol) fel pe bai—

(a)ym mharagraff (1)(b), “3 (ceisiadau am ganiatâd cynllunio)” yn darllen “11 (caniatâd arall)”;

(b)ym mharagraff (2), yn achos cais ROMP, bod “yr hyn a benderfynwyd yn unol ag erthygl 22(3) (cyfnodau amser ar gyfer penderfyniadau) o Orchymyn 2012”, yn darllen “y dyddiad y gwnaed cais ROMP sy’n cydymffurfio â darpariaethau paragraffau 2(3) i (5) a 4(1) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, 9(2) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995(51), neu 6(2) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995”.

Addasu darpariaethau mewn cais i awdurdod cynllunio lleol heb ddatganiad amgylcheddol

2.  Yn achos cais ROMP, rhaid i reoliad 10(4) (cais a wnaed i awdurdod cynllunio lleol heb ddatganiad amgylcheddol) gael ei ddarllen fel pe bai—

(a)“21 diwrnod” yn darllen “6 wythnos”; a

(b)ar ôl “yr hysbysiad”, ei fod yn darllen “, neu o fewn cyfnod arall y cytunir arno gyda’r awdurdod yn ysgrifenedig”.

Datgymhwyso Rheoliadau ac addasu darpariaethau ar gais a atgyfeiriwyd neu a apelwyd i Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddol

3.—(1Yn achos cais ROMP, nid yw rheoliadau 10(6) ac (8), 11(6) a (7), 12(7), 25 a 57 yn gymwys.

(2Yn achos cais ROMP, rhaid darllen rheoliad 11(5) (cais a atgyfeiriwyd i Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddol) a rheoliad 12(6) (apêl i Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddol) fel pe bai—

(a)“21 diwrnod” yn darllen “6 wythnos”; a

(b)ar ôl “yr hysbysiad” ei fod yn darllen “, neu o fewn unrhyw gyfnod arall y cytunir arno gyda Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig”.

Amnewid cyfeiriadau at hawl i apelio o dan adran 78 o Ddeddf 1990 ac addasiadau i ddarpariaethau wrth apelio i Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddol

4.—(1Yn achos cais ROMP, yn rheoliadau 12(1) a 18(b), yn lle’r cyfeiriadau at “adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath)” darllener—

baragraff 5(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 11(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 neu baragraff 9(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (hawl i apelio).

(2Yn achos cais ROMP, darllener rheoliad 12(2) (apêl i Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddol) fel pe bai “, ac eithrio drwy wrthod caniatâd cynllunio neu ganiatâd dilynol” wedi ei hepgor.

Addasu darpariaethau ar baratoi, cyhoeddusrwydd a gweithdrefnau wrth gyflwyno datganiadau amgylcheddol

5.—(1Yn achos cais ROMP, yn rheoliadau 13(10) a 14(9), yn lle’r geiriau “â chais am ganiatâd cynllunio neu gais dilynol ar gyfer” darllener “â chais ROMP sy’n ymwneud â chaniatâd cynllunio arall sy’n awdurdodi”.

(2Yn achos cais ROMP, yn rheoliad 16 (y weithdrefn pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno i awdurdod cynllunio lleol) yn lle paragraff (4) darllener—

(4) Pan fo ceisydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol i’r awdurdod yn unol â pharagraff (1), mae darpariaethau erthygl 12 o Orchymyn 2012 (cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio) ac Atodlen 3 iddo yn gymwys i gais ROMP o dan baragraff—

(a)2(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, a

(b)6(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (52),

fel y maent yn gymwys i gais cynllunio sy’n dod o fewn paragraff (2) o erthygl 12 o Orchymyn 2012 ac eithrio bod “benderfynu’r amodau y mae cais cynllunio i fod yn ddarostyngedig iddynt” yn cael ei roi yn lle’r cyfeiriadau at “ganiatâd cynllunio” yn yr hysbysiad yn Atodlen 3 i Orchymyn 2012 a bod rhaid i’r hysbysiad gyfeirio at ddarpariaethau perthnasol Deddf 1991 neu Ddeddf 1995 y gwneir y cais yn unol â hwy.

(3Yn achos cais ROMP, yn rheoliad 17 (cyhoeddusrwydd pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno ar ôl y cais cynllunio)—

(a)ym mharagraff (2)(a) yn lle’r geiriau “bod cais yn cael ei wneud am ganiatâd cynllunio neu ganiatâd dilynol” darllener—

bod cais yn cael ei wneud i benderfynu’r amodau y mae caniatâd cynllunio i fod yn ddarostyngedig iddynt, darpariaethau perthnasol Deddf 1991 neu Ddeddf 1995 y gwneir y cais yn unol â hwy ;

(b)yn lle paragraff (7) darllener—

(7) Pan fo ceisydd yn dynodi bod y ceisydd yn bwriadu darparu datganiad o’r fath ac o dan yr amgylchiadau hynny a grybwyllir ym mharagraff (1), rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol, Gweinidogion Cymru neu’r arolygydd, yn ôl y digwydd, ohirio ystyried y cais neu’r apêl hyd nes y dyddiad a bennir gan yr awdurdod neu gan Weinidogion Cymru ar gyfer cyflwyno’r datganiad amgylcheddol a chydymffurfio â pharagraff (6); a rhaid iddynt beidio â phenderfynu’r cais neu’r apêl yn ystod y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y ceir y datganiad a’r dogfennau eraill a grybwyllir ym mharagraff (6).

(4Yn achos cais ROMP, yn rheoliad 18 (darparu copïau o ddatganiadau amgylcheddol a gwybodaeth bellach i Weinidogion Cymru pe bai atgyfeirio neu apelio), ym mharagraff (a) yn lle “adran 77 o Ddeddf 1990” darllener “baragraff 7(1) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 13(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 neu baragraff 8(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995”.

(5Yn achos cais ROMP, yn rheoliad 20 (argaeledd copïau o ddatganiadau amgylcheddol) ar ôl “Gorchymyn 2012” darllener “(fel y’i cymhwysir gan reoliad 16(5) neu gan baragraff 9(5) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995),”.

(6Yn achos cais ROMP, yn rheoliad 22 (gwybodaeth bellach a thystiolaeth mewn cysylltiad â datganiadau amgylcheddol)—

(a)ym mharagraff (3)(a) yn lle’r geiriau “ceisydd am ganiatâd cynllunio neu am ganiatâd dilynol, neu’r apelydd (yn ôl y digwydd)” darllener—

person sydd wedi gwneud cais am benderfynu’r amodau y mae’r cais cynllunio i fod yn ddarostyngedig iddynt neu sydd wedi apelio mewn perthynas â hwy, darpariaethau perthnasol Deddf 1991 neu Ddeddf 1995 y gwneir y cais yn unol â hwy;

(b)ym mharagraff (7)(a) ar ôl y geiriau “cais neu’r apêl dros dro” darllener “hyd y dyddiad a bennir ganddynt ar gyfer cyflwyno’r wybodaeth bellach”.

Addasu darpariaethau wrth wneud cais i Uchel Lys a rhoi cyfarwyddyd

6.—(1Yn achos cais ROMP, yn lle rheoliad 55 (cais i’r Uchel Lys) darllener—

Cais i’r Uchel Lys

55.  At ddibenion Rhan 12 o Ddeddf 1990 (dilysrwydd penderfyniadau penodol), rhaid cymryd bod y cyfeiriad yn adran 288 o Ddeddf 1990, fel y’i cymhwysir gan baragraff 9(3) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 16(4) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 neu baragraff 9(4) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995, at weithredu ar ran Gweinidogion Cymru heb fod o fewn pwerau Deddf 1990, yn ymestyn i benderfynu cais ROMP gan Weinidogion Cymru yn groes i reoliad 3.

(2Mae’r pŵer i nodi cyfarwyddyd yn erthygl 18(2) o Orchymyn 2012 yn gymwys i ddatblygiad ROMP fel y mae’n gymwys i ddatblygiad y gwneir cais cynllunio ar ei gyfer.

Atal datblygiad mwynau dros dro

7.—(1Pan fo’r awdurdod, Gweinidogion Cymru neu arolygydd yn ymdrin â chais ROMP neu apêl sy’n codi o gais ROMP ac yn hysbysu’r ceisydd neu’r apeliwr, yn ôl y digwydd, ei bod—

(a)yn ofynnol dan reoliad 10(1), 11(2) neu 12(4) i gyflwyno datganiad amgylcheddol yna mae’n rhaid i hysbysiad o’r fath nodi’r cyfnod y mae’r datganiad amgylcheddol a chydymffurfiad â rheoliad 17(6) yn ofynnol; neu

(b)yn ofynnol dan reoliad 22(1) i ddatganiad gynnwys gwybodaeth ychwanegol

yna mae’n rhaid i hysbysiad o’r fath bennu’r cyfnod y mae’n ofynnol darparu’r wybodaeth oddi mewn iddo.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff(3), caiff y caniatâd cynllunio y mae’r cais ROMP yn ymwneud ag ef ddim ond awdurdodi unrhyw ddatblygiad mwynau (heblaw bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd sgrinio sy’n nodi nad yw datblygiad ROMP yn ddatblygiad AEA) os yw’r ceisydd neu’r apeliwr wedi—

(a)ysgrifennu at yr awdurdod neu Weinidogion Cymru o fewn y 6 wythnos neu gyfnod arall y cytunir arno yn unol â rheoliad 10(3) a 10(4), 11(3) a 11(5) neu 12(6);

(b)cyflwyno datganiad amgylcheddol a chydymffurfio â rheoliad 17(6) o fewn y cyfnod a bennir gan yr awdurdod neu Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (1) neu o fewn unrhyw gyfnod estynedig y cytunir arno’n ysgrifenedig;

(c)darparu gwybodaeth ychwanegol o fewn y cyfnod a bennir gan yr awdurdod, i Weinidogion Cymru neu arolygydd yn unol â pharagraff (1) neu o fewn unrhyw gyfnod estynedig y cytunir arno’n ysgrifenedig; neu

(d)pan fo hysbysiad o dan reoliad 5(4), 6(3), 13(3) neu 14(3) wedi ei gael, ar yr amod bod yr wybodaeth ychwanegol y gofynnwyd amdani o fewn 21 diwrnod gan ddechrau â dyddiad yr hysbysiad, neu o fewn unrhyw gyfnod estynedig y cytunir arno’n ysgrifenedig.

(3Pan fo paragraff (2) yn gymwys, ni chaiff y caniatâd cynllunio awdurdodi unrhyw ddatblygiad mwynau o ddiwedd—

(a)y cyfnod perthnasol a bennir yn rheoliadau 10(3) a 10(4), 11(3) a 11(5) neu 12(6) neu gyfnod y cytunir arno yn unol â’r rheoliadau hynny; a

(b)y cyfnod a bennir neu y cytunir arno yn ysgrifenedig fel y cyfeirir ato yn is-baragraffau (2)(b), (c), a (d),

tan fod y ceisydd wedi cydymffurfio â’r holl ddarpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) sy’n berthnasol i’r cais neu’r apêl dan sylw.

(4Rhaid i fanylion atal datblygiad mwynau dros dro a dyddiad y bydd yr ataliad hwnnw’n dod i ben gael eu nodi yn y rhan briodol o’r gofrestr cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol.

(5Nid yw paragraff (2) yn effeithio ar unrhyw ddatblygiad mwynau a gynhelir o dan y caniatâd cynllunio cyn dyddiad atal y datblygiad mwynau dros dro.

(6At ddibenion paragraffau (2) i (5), ystyr “datblygiad mwynau” (“minerals development”) yw datblygiad sy’n cynnwys ennill a gweithio ar fwynau, neu’n cynnwys gwaddodi gwastraff mwynol.

Penderfynu ar amodau a hawl apelio wrth beidio â phenderfynu

8.—(1Pan mai cyfrifoldeb awdurdod cynllunio mwynau yw penderfynu ar gais Atodiad 1 neu Atodiad 2, nid oes gan baragraff 2(6)(b) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991 paragraff 9(9) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 neu baragraff 6(8) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 rym i drin yr awdurdod fel bod wedi penderfynu ar yr amodau y mae unrhyw ganiatâd cynllunio perthnasol yn ddarostyngedig iddo heblaw—

(a)bod yr awdurdod cynllunio mwynau wedi mabwysiadu barn sgrinio; neu

(b)bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd sgrinio sydd â’r effaith nad yw’r datblygiad ROMP dan sylw yn ddatblygiad AEA;

(2Pan mai cyfrifoldeb awdurdod cynllunio mwynau neu Weinidogion Cymru yw penderfynu ar gais Atodlen 1 neu Atodlen 2—

(a)mae adran 69 o Ddeddf 1990 (cofrestr o geisiadau ac ati), ac unrhyw ddarpariaethau o Orchymyn 2012 a wnaed yn rhinwedd yr adran honno, yn cael effaith gydag unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol fel pe bai cyfeiriadau at geisiadau am ganiatâd cynllunio yn cynnwys ceisiadau ROMP o dan baragraff 9(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a pharagraff 6(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995(53); a

(b)pan nad yr awdurdod cynllunio mwynol perthnasol yw’r awdurdod y mae’n ofynnol iddo gadw’r gofrestr, rhaid i’r awdurdod cynllunio mwynol perthnasol ddarparu’r awdurdod y mae’n ofynnol iddo ei chadw gyda dogfennau a gwybodaeth o’r fath y mae ar yr awdurdod eu hangen i gydymffurfio ag adran 69 o Ddeddf 1990 fel a gymhwysir gan is-baragraff (i), gyda rheoliad 23 fel a gymhwysir gan reoliad 52, a chyda paragraff 7(4) o’r Atodlen hon.

(3Pan mai cyfrifoldeb yr awdurdod cynllunio mwynol neu Weinidogion Cymru yw penderfynu ar gais AEA a wnaed o dan baragraff 2(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991 nid yw paragraff 4(4) o’r Atodlen honno yn gymwys.

(4Pan mai cyfrifoldeb yr awdurdod cynllunio mwynol yw penderfynu ar gais, rhaid i’r awdurdod roi rhybudd o’i benderfyniad am y cais ROMP o fewn 16 wythnos gan ddechrau â’r dyddiad y cafodd yr awdurdod y cais ROMP neu gyfnod estynedig y cytunir arno’n ysgrifenedig rhwng y ceisydd a’r awdurdod.

(5At ddibenion paragraff (4), ceir cais ROMP gan awdurdod pan fydd yn cael—

(a)dogfen y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn;

(b)unrhyw ddogfen ofynnol i gyd-fynd â’r datganiad hwnnw; ac

(c)unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae’r awdurdod wedi hysbysu’r ceisydd y dylai’r datganiad amgylcheddol ei chynnwys.

(6Pan fo paragraff (1) yn gymwys—

(a)mae paragraff 5(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 11(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a pharagraff 9(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (hawl apelio) yn cael effaith fel pe bai hefyd hawl apelio i Weinidogion Cymru pan nad yw’r awdurdodd cynllunio mwynol wedi rhoi rhybudd o’i benderfyniad o dan y cais ROMP yn unol â pharagraff (4); a

(b)paragraff 5(5) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 11(2) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a pharagraff 9(2) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (hawl apelio) yn cael effaith fel pe baent hefyd yn darparu ar gyfer hawl apelio i gael ei wneud o fewn 6 mis ar ôl i’r 16 wythnos ddod i ben neu gyfnod arall y cytunwyd arno yn unol â pharagraff (4).

(7Wrth benderfynu at ddibenion—

(a)paragraffau 2(6)(b) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, 9(9) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a 6(8) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (penderfynu ar amodau); neu

(b)baragraff 5(5) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 11(2) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 a pharagraff 9(2) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (hawl apelio) fel a gymhwysir gan baragraff 8(6)(b) o’r Atodlen hon,

yr amser sydd wedi mynd heibio heb i’r awdurdod cynllunio mwynol hysbysu’r ceisydd am ei benderfyniad ynglŷn ag achos pan fo’r awdurdod wedi hysbysu ceisydd yn unol â rheoliad 10(1) bod angen cyflwyno datganiad amgylcheddol a bod Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd sgrinio ynghylch y datblygiad ROMP dan sylw ni chaniateir ystyried unrhyw gyfnod cyn y cyflwynwyd y cyfarwyddyd hwnnw.

Cais ROMP gan awdurdod cynllunio mwynol

9.—(1Pan fo awdurdod cynllunio mwynol yn bwriadu gwneud neu yn gwneud cais ROMP sy’n gais Atodlen 1 neu Atodlen 2 i Weinidogion Cymru o dan reoliad 11 (caniatadau eraill) o’r Rheoliadau Cyffredinol(54), mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r cais neu’r cais arfaethedig hwnnw fel y maent yn gymwys i gais ROMP y cyfeiriwyd at Weinidogion Cymru o dan baragraff 7(1) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991, paragraff 13(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 neu baragraff 8(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (cyfeirio ceisiadau i Weinidogion Cymru) yn ddarostyngedig i’r addasiadau canlynol—

(a)yn ddarostyngedig i baragraff (2), nid yw rheoliadau 5 i 10, 12, 13, 14, 16 (ac eithrio at ddibenion rheoliadau 19(3) a (4)), 18 a 24(1) yn gymwys;

(b)yn rheoliad 4 (darpariaethau cyffredinol yn ymwneud â sgrinio), nid yw paragraffau (4) a (10) yn gymwys;

(c)mae rheoliad 11(2) (cais a atgyfeirir i Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddol), yn gymwys fel pe bai “a rhaid iddynt anfon copi o’r hysbysiad hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol” wedi ei hepgor;

(d)yn rheoliad 15 (gweithdrefn i hwyluso paratoi datganiadau amgylcheddol)—

(i)yn is-baragraff (3)(b) yn lle’r geiriau “10(4)(a), neu 11(5) neu 12(6)” darllener “11(5)”;

(ii)darllener paragraff (4) fel pe bai “gorff cynllunio perthnasol ac” ac “awdurdod neu’r” wedi eu hepgor;

(e)yn rheoliad 17(2) (cyhoeddusrwydd pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno ar ôl y cais cynllunio)—

(i)yn is-baragraff (a) darllener fel pe bai “ac enw a chyfeiriad yr awdurdod cynllunio perthnasol” wedi ei hepgor;

(ii)darllener fel pe bai is-baragraff (b) yn darparu—

(b)y dyddiad y gwnaed y cais a’i fod wedi ei wneud i Weinidogion Cymru o dan reoliad 11 o’r Rheoliadau Cyffredinol;;

(f)darllener rheoliad 19(2) (y weithdrefn pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru), fel pe bai “anfon copi i’r awdurdod cynllunio perthnasol” wedi ei hepgor;

(g)yn rheoliad 22(3) (gwybodaeth bellach a thystiolaeth mewn cysylltiad â datganiadau amgylcheddol)—

(i)darllener is-baragraff (a) fel pe bai “ac enw a chyfeiriad yr awdurdod cynllunio perthnasol” wedi ei hepgor;

(ii)darllener is-baragraff (b) fel pe bai’n darparu—

(b)y dyddiad y gwnaed y cais a’i fod wedi ei wneud i Weinidogion Cymru o dan reoliad 11 o’r Rheoliadau Cyffredinol;; a

(h)rheoliadau 23 (argaeledd, barnau, cyfarwyddyd etc. i’w harchwilio) a 24(2) (dyletswyddau i hysbysu’r cyhoedd a Gweinidogion Cymru am y penderfyniadau terfynol) yn gymwys fel pe bai cyfeiriadau at “awdurdod cynllunio perthnasol” yn gyfeiriadau at awdurdod cynllunio mwynol.

(2Caiff awdurdod cynllunio mwynol sy’n bwriadu gwneud cais ROMP i Weinidogion Cymru o dan reoliad 11 o’r Rheoliadau Cyffredinol ofyn i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio, ac mae paragraffau (3) i (6) o reoliad 6 yn gymwys i gais o’r fath fel y maent yn gymwys i gais a wneir yn unol â rheoliad 5(7) ac eithrio fel pe bai ym mharagraff (5) “, hefyd ofyn i’r awdurdod cynllunio perthnasol ddarparu cymaint o wybodaeth ag y gall am unrhyw rai o’r pwyntiau hynny” wedi ei hepgor.

(3Rhaid i gais o dan baragraff (2) gynnwys hefyd—

(a)plan digonol i adnabod y tir;

(b)disgrifiad byr o fath a diben y datblygiad ROMP a’i effeithiau posibl ar yr amgylchedd; a

(c)unrhyw wybodaeth arall o’r fath y gallai’r awdurdod ddymuno ei darparu neu ei gwneud.

(4Rhaid i awdurdod sy’n gwneud cais o dan baragraff (10) anfon i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth ychwanegol y caniateir iddynt ofyn amdani i wneud cyfarwyddyd.

Ceisiadau ROMP: dyletswydd i wneud gorchymyn gwahardd ar ôl atal caniatad dros dro am ddwy flynedd

10.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys, mewn perthynas â datblygiad mwynol—

(a)os yw’r cyfnod o 2 flynedd yn dechrau ar y dyddiad gwahardd wedi mynd heibio, a

(b)os yw’r camau a nodir ym mharagraff 7(2) heb eu cymryd eto.

(2Y “dyddiad atal” yw’r dyddiad y mae atal y pŵer i awdurdodi datblygiad mwynol (o fewn ystyr paragraff 7(3)) yn dechrau.

(3Mae paragraff 3 o Atodlen 9 i Ddeddf 1990 (gwahardd ailddechrau gwaith mwynol) (55) yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw ran o safle fel y mae’n cael effaith mewn perthynas â’r safle cyfan.

(4Mae is-baragraff (1) o’r paragraff hwnnw yn cael effaith fel pe bai “the mineral planning authority may by order” i’r diwedd yn darllen—

the mineral planning authority—

(i)

must by order prohibit the resumption of the winning and working or the depositing; and

(ii)

may in the order impose, in relation to the site, any such requirement as is specified in sub-paragraph (3).

(5Yn is-baragraffau (2)(a) a (b) o’r paragraff hwnnw, rhaid darllen cyfeiriadau at ennill a gweithio neu waddodi fel cyfeiriadau at ennill a gweithio neu waddodi lle nad yw caniatâd wedi ei atal yn unol â pharagraff 7(3).

(6Mae paragraff 4(7) o Atodlen 9 i Ddeddf 1990 yn cael effaith fel pe bai “have effect” yn darllen “authorise that development”.

Rheoliad 60

ATODLEN 8Dirymu offerynau statudol

Teitl yr offerynCyfeirnodGraddau’r dirymu
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effaith Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 1999O.S. 1999/293Y Rheoliadau cyfan.
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effaith Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2000O.S. 2000/2867Y Rheoliadau cyfan.
Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru a Lloegr) 2005O.S. 2005/894Paragraffau 24 a 25 o Ran 2 o Atodlen 11.
Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005O.S. 2005/1806 (Cy. 138)Paragraffau 26 a 27 o Ran 2 o Atodlen 11.
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Cymhwyso Is-ddeddfwriaeth i’r Goron) 2006O.S. 2006/1282Erthygl 22.
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effaith Amgylcheddol) (Diwygio) (Cymru) 2006O.S. 2006/3099 (Cy.283)Y Rheoliadau cyfan.
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Diwygio) (Cymru) 2008O.S. 2008/2335 (Cy. 198)Y Rheoliadau cyfan.
Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010O.S. 2010/675Paragraff 13 o Ran 2 o Atodlen 26.
Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011O.S. 2011/988Paragraff 11 yn Rhan 2 o Atodlen 4.
Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2011O.S. 2011/2043Paragraff 2 o Ran 2 o Atodlen 2.
Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013O.S. 2013/755 (Cy. 90)Paragraff 79 o Atodlen 4.

Rheoliad 61

ATODLEN 9Diwygiadau canlyniadol

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995

1.—(1Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygiad Cyffredinol a Ganiateir) 1995(56) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 3(10), yn lle “the Town and Country Planning (Environmental Impact Assessment) (England and Wales) Regulations 1999”, rhodder “the Town and Country Planning (Environmental Impact Assessment) (Wales) Regulations 2016”.

(3Ym mharagraffau (10) a (11) o erthygl 3—

(a)yn lle “regulation 4(7)” rhodder “regulation 4(8)”;

(b)yn lle “regulation 6(4)” rhodder “regulation 6(6)”; ac

(c)ar ôl “the Secretary of State has” ym mhob man lle y digwydd y geiriau hynny, mewnosoder “, or the Welsh Ministers have,”.

Rheoliadau Gwaith Piblinellau Trawsgludo Nwy (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 1999

2.—(1Mae Rheoliadau Gwaith Piblinellau Trawsgludo Nwy (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 1999(57) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1), yn lle’r diffiniad o “the 1999 EIA Regulations” rhodder ““the 2016 EIA Regulations” means the Town and Country Planning (Environmental Impact Assessment) (Wales) Regulations 2016;”.

(3Yn rheoliad 4(3)—

(a)yn lle is-baragraff (b), rhodder “be treated for the purposes of those Regulations as if it were a direction of the Welsh Ministers under regulation 6(6)”; a

(b)yn lle “the 1999 EIA Regulations” (yn y ddau le arall y mae’r geiriau hynny yn digwydd) rhodder “the 2016 EIA Regulations”.

Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Coedwigaeth) (Cymru a Lloegr) 1999

3.—(1Mae Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Coedwigaeth) (Cymru a Lloegr) 1999(58) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3(1)(c)(ii), yn lle “the Town and Country Planning (Environmental Impact Assessment) (England and Wales) Regulations 1999;” rhodder “the Town and Country Planning (Environmental Impact Assessment) (Wales) Regulations 2016”.

Rheoliadau Cynllunio (Cyfarwyddiadau Diogelwch Gwladol a Chynrychiolwyr Penodedig) (Cymru) 2006

4.—(1Mae Rheoliadau Cynllunio (Cyfarwyddiadau Diogelwch Gwladol a Chynrychiolwyr Penodedig) (Cymru) 2006(59) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn y diffiniad o “EIA application” yn rheoliad 6(8), yn lle “Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 1999”, rhodder “Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016”.

Rheoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2007

5.—(1Mae Rheoliadau Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2007(60) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3(2)(b), yn lle “Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu’r Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 1999 yn gymwys iddo”, rhodder “Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016 yn gymwys iddo”.

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009

6.—(1Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009(61) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1), yn lle “ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 1999 (O.S. 1999/293);”, rhodder “ystyr “Rheoliadau 2016” (“the 2016 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016;”.

(3Yn lle rheoliad 52, gan gynnwys ei bennawd, rhodder—

Rheoliadau 53 a 54 o Reoliadau 2016

52.  Mae rheoliadau 53 (datblygiad yng Nghymru sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol mewn Gwladwriaeth AEE arall) a 54 (prosiectau mewn Gwladwriaeth AEE arall sy’n debygol o gael effeithiau trawsffiniol sylweddol) o Reoliadau 2016 yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn fel y maent yn gymwys at ddibenion Rheoliadau 2016.

(4Yn lle “Rheoliadau 1999”, ym mhob man lle y mae’n digwydd, rhodder “Rheoliadau 2016”.

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2011

7.—(1Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2011(62) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 56, yn lle “the Town and Country Planning (Environmental Impact Assessment) (England and Wales) Regulations 1999;” rhodder “the Town and Country Planning (Environmental Impact Assessment) (Wales) Regulations 2016;”.

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygiad) (Cymru) 2012

8.—(1Mae Gorchymyn 2012(63) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 2(1), yn y diffiniad o “cais AEA”, “datblygiad AEA”, “gwybodaeth amgylcheddol” a “datganiad amgylcheddol”, yn lle “Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effaith Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 1999”, rhodder “Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016”.

(3Yn erthygl 18(2), yn lle “Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effaith Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 1999”, rhodder “Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016”.

(4Yn erthygl 27—

(a)ym mharagraff (6)(a), yn lle “a’r datganiad o resymau” rhodder “, y datganiad o resymau ac unrhyw ddatganiad amgylcheddol”;

(b)ym mharagraff (6)(b)(i) ac (c)(i), yn lle “a’r datganiad o resymau” rhodder “, y datganiad o resymau ac unrhyw ddatganiad amgylcheddol”.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn cydgrynhoi gyda diwygiadau ddarpariaethau Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 1999(64) (“Rheoliadau 1999”) a’r offerynnau diwygio dilynol. Roedd Rheoliadau 1999 yn cydgrynhoi ac yn diweddaru offerynnau cynharach a oedd yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 1985 ar yr asesiad o effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd(65).

Mae Cyfarwyddeb 1985 wedi ei disodli gan Gyfarwyddeb 2011/92/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 13 Rhagfyr 2011 ar yr asesiad o effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd(66). Mae Cyfarwyddeb 2011/92/EU wedi ei diwygio gan Gyfarwyddeb yr UE 2014/52/EU(67).

Y prif newidiadau i Reoliadau 1999 yw:

Mae rheoliad 4(5) a (7) yn cyflwyno gofyniad i’r rhesymau dros benderfyniadau sgrinio negyddol gael eu darparu a’u rhoi ar Ran 1 o’r gofrestr, fel eu bod ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt.

Mae rheoliad 4(8) yn egluro y caiff unrhyw berson ofyn i Weinidogion Cymru arfer pŵer cyfarwyddo.

Mae rheoliad 8 yn cyfyngu’r gofyniad bod ceisiadau dilynol yn ddarostyngedig i’r broses sgrinio i’r achosion pan fo’r datblygiad dan sylw yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd nas canfuwyd ar yr adeg y rhoddwyd y caniatâd cynllunio cychwynnol.

Mae rheoliadau 27 i 36(2) yn ddarpariaethau sy’n ymwneud â cheisiadau am ganiatâd cynllunio a wneir yn uniongyrchol i Weinidogion Cymru.

Mae rheoliad 38 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cynllunio lleol sy’n bwriadu gwneud gorchymyn datblygu lleol benderfynu a yw’r datblygiad yn ddatblygiad AEA; ac os ydyw, i gymryd camau penodol i’w alluogi i gymryd yr wybodaeth amgylcheddol i ystyriaeth cyn gwneud y gorchymyn.

Mae rheoliad 39 yn gymwys pan fo awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru yn bwriadu un ai gwneud gorchymyn adran 97 o dan adran 97 neu 100 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, neu orchymyn o dan adran 102 neu 104 o’r Ddeddf honno.

Mae paragraff 21 o Atodlen 1 yn cynnwys safleoedd ar gyfer storio carbon deuocsid yn ddaearegol. Cynhwysir gweithfeydd ar gyfer dal ffrydiau carbon deuocsid at ddibenion storio daearegol er mwyn gweithredu’r gofynion yn y Gyfarwyddeb ynglŷn â Storio Carbon Deuocsid yn Ddaearegol (Cyfarwyddeb 2009/31/EC)(68).

Mae’r Rheoliadau hyn yn codi ac yn diwygio’r trothwyon yn Atodlen 2 lle bydd angen sgrinio mathau penodol o brosiectau datblygu er mwyn penderfynu a yw asesiad o’r effaith amgylcheddol yn ofynnol o dan y Gyfarwyddeb. Gwneir y newidiadau hyn ar ôl ystyried y meini prawf dethol yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2011/92/EU, fel y’i mabwysiadwyd gan Senedd Ewrop a Chyngor yr Undeb Ewropeaidd ar 13 Rhagfyr 2011.

Codir y trothwy ar gyfer prosiectau datblygu ystadau diwydiannol o ardaloedd mwy na 0.5 hectar i ardaloedd mwy na 5 hectar (ym mharagraff 10(a) o’r tabl ym mharagraff 2 o Atodlen 2).

Yn achos prosiectau datblygu trefol, codir y trothwy presennol o 0.5 hectar a’i ddiwygio fel bod angen sgrinio prosiect—

  • os yw’r datblygiad yn cynnwys mwy nag 1 hectar o ddatblygiad nad yw’n ddatblygiad tŷ annedd; neu

  • os yw’r datblygiad yn cynnwys mwy na 150 o dai annedd; neu

  • os yw ardal y datblygiad yn fwy na 5 hectar (gweler paragraff 10(b) o’r tabl ym mharagraff 2 o Atodlen 2).

Mewnosodir diffiniad o “tŷ annedd” yn rheoliad 2(1) er mwyn ei egluro yn y cyd-destun hwn.

Mae paragraff 13 o’r tabl ym mharagraff 2 o Atodlen 2 yn cynnwys diwygiad i’r darpariaethau sy’n ymwneud â newidiadau neu estyniadau i ddatblygiad presennol, fel bod effeithiau’r datblygiad yn ei gyfanrwydd ar ôl ei addasu yn cael eu hystyried.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei lunio mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau gan yr Is-adran Gynllunio, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar y wefan yn https://www.wales.gov.uk.

(1)

1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) ac adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o’r Atodlen i’r Ddeddf honno.

(2)

O.S. 2007/1679. Gweler erthygl 4.

(3)

1990 p. 8. Mewnosodwyd adran 71A gan adran 15 o Ddeddf 1991. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan y Ddeddf honno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwnnw: gweler y cofnod yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf 1991. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno, y swyddogaethau yn swyddogaethau perthnasol i’r Cyulliad fel y diffinnir ym mharagraff 30(2).

(4)

Mae Cyfarwyddeb 2011/92/EU wedi ei diwygio gan Gyfarwyddeb 2014//52/EU. Gweler erthyglau 2(1) a 3(1) o Gyfarwyddeb 2014/52/EU.

(5)

O.J. Rhif L 26, 28.1.2012, t. 1. Mae’r Gyfarwyddeb wedi ei diwygio gan Gyfarwyddeb 2014/52/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor, O.J. Rhif L 124, 25.4.2014,, t. 1. Gweler yn benodol Erthygl 3(1).

(6)

1981 p. 69. Amnewidiwyd adran 28(1) gan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2001 (p. 37), adran 75(1) ac Atodlen 9, paragraff 1, a’i ddiwygio gan Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (p. 16) adran 105(1), Atodlen 11, Rhan 1, paragraff 79, a chan Ddeddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (p. 23) adran 148, Atodlen 13, Rhan 2, paragraff 2(1).

(7)

1949 p. 97, gweler adran 5(3). Gweler adran 27AA ar gyfer cymhwysiad adran 28 mewn perthynas â thir yng Nghymru.

(8)

Gweler Papur Gorchymyn 9424 a http:/whc.unesco.org/en/list.

(9)

1979 p. 46. Gweler y diffiniad yn adran 1(11).

(10)

2000 p. 37. Diwygiwyd adran 82(2) gan O.S. 2013/755.

(11)

O.S. 2010/490. Mae diwygiadau i reoliad 8 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(12)

Mewnosodwyd adran 62D gan adran 19 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (anaw 4).

(13)

Diwygiwyd adran 77 gan Ddeddf 1991, Atodlen 7, paragraff 18.

(14)

Amnewidwyd adran 69 gan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, adran 188(1) ac Atodlen 6, paragraffau 1 a 3; diwygiwyd adran 69 gan Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29), adran 190(1) a (4); Deddf Lleoliaeth 2011 (p. 20), adran 237 a Rhan 18 o Atodlen 25. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(17)

O.S. 2012/801 (Cy. 110); diwygiwyd gan O.S. 2016/1330 (Cy. 123); mae offerynnau diwygio eraill ond nid oes yr un yn berthnasol.

(19)

Mewnosodwyd adran 61A gan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5), adran 40(1); cafodd is-adran (1) ei diddymu gan Ddeddf Cynllunio 2008, adrannau 188(1), (2), 238 ac Atodlen 13; diwygiwyd is-adran (2) gan Ddeddf Cynllunio 2008, adran 188(1) a (3).

(20)

1972 p. 70. Ystyr “principal council” yw cyngor a etholwyd ar gyfer bwrdeistref sirol.

(21)

O.S. 1992/1492.Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1992/892 ac O.S. 1997/3006.

(23)

Diwygiwyd adran 329 gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Cyfathrebiadau Electronig) (Cymru) (Rhif 1) 2004 (O.S. 2004/.3156 (Cy. 273)).

(24)

Diwygiwyd adran 78 gan Ddeddf 1991, adran 17(2); Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5), adran 43(2); Deddf Lleoliaeth 2011 (p. 20), adran 121 ac Atodlen 12, paragraffau 1 ac 11 ac adran 123(1) a (3); Deddf Cynllunio 2008 (p. 29), adran 196(4) ac Atodlen 10, paragraffau 1 a 3, adran 197 ac Atodlen 11, paragraffau 1 a 2; Deddf Twf a Seilwaith 2013 (p. 27), adran 1(2) ac Atodlen 1, paragraffau 1 ac 8; Deddf Cynllunio (Cymru) 2015, adrannau 45 a 46; a chan O.S. 2014/2773 (Cy. 280), erthygl 3 ac Atodlen 1, paragraffau 1 a 3. Mae diwygiad arall nad yw’n berthnasol i’r offeryn hwn.

(25)

Diwygiwyd adran 77 gan Ddeddf 1991, adran 32, Atodlen 7, paragraff 18; Deddf Seilwaith 2015 (p. 7), adran 30(1) ac Atodlen 4, Rhan 2, paragraffau 2 ac 11(a), a gan O.S. 2014/2773 (Cy. 280), erthygl 3 ac Atodlen 1, paragraffau 1 a 2. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(27)

O.S. 1995/418, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(28)

Gweler y diffiniad o “simplified planning zone” yn adran 336 o Ddeddf 1990.

(29)

Amnewidiwyd adran 172 gan adran 5 o Ddeddf 1991.

(30)

Amnewidiwyd adran 177 gan adrannau 6(3) a 32 o Ddeddf 1991, ac Atodlen 7, paragraff 24 iddi; a chan adran 123(1), (6) o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20). Mae diwygiad arall nad yw’n berthnasol i’r offeryn hwn.

(31)

Diwygiwyd adran 174 gan adran 6(1) o Ddeddf 1991 a pharagraff 22 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno; Deddf Cynllunio (Cymru) 2015, adran 46; a chan O.S 2003/956. Gweler hefyd adran 177(5) a ddiwygiwyd gan baragraff 24 o Atodlen 7 i Ddeddf 1991.

(32)

Gweler adran 177(8) o Ddeddf 1990.

(33)

Diwygiwyd paragraff 6 gan O.S. 2004/3156 (Cy. 273). Mae diwygiad arall nad yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(35)

Diwygiwyd adran 288(1)(b) gan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4), adran 27 ac Atodlen 4, paragraff 16.

(36)

Mae diwygiadau i adran 60 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(37)

Mewnosodwyd adran 293A gan adran 82(1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5) (“Deddf 2004”) a diwygiwyd yr adran gan adran 16 ac Atodlen 2, paragraffau 8 a 9 ac adran 27 a pharagraffau 1 ac 17(1) i (3) o Atodlen 4 i Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc. 4). Mae adran 118(3) o Ddeddf 2004 yn darparu bod cyfeiriad yn Atodlen 1 Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) at ddeddfiad a ddiwygiwyd gan Ddeddf 2004 yn gyfeiriad at y deddfiad fel y-I diwygiwyd felly.

(38)

Gweler Papur Gorchymyn 6993.

(39)

Gweler Papur Gorchymyn 6614.

(40)

O.J. Rhif L 194, 25.7.1975, t. 39. Diwygiwyd Cyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC gan Gyfarwyddeb y Cyngor 91/156/EEC (O.J. Rhif L 78, 26.3.1991, t. 32) a chan Benderfyniad y Comisiwn 94/3/EC (O.J. Rhif L 5, 7.1.1994, t. 15).

(42)

O.J. Rhif L 135, 30.5.1991, t. 40.

(43)

O.J. Rhif L 140, 5.6.2009, t. 114.

(44)

1991 p. 57. Gweler adran 104.

(46)

O.J. Rhif L 20, 26.1.2010, t. 7.

(47)

O.J. Rhif L 206, 22.7.1992, t. 7.

(50)

Ar gyfer ystyr “ROMP” gweler rheoliad 52(1).

(51)

Diwygiwyd paragraff 9 o Atodlen 13 a pharagraff 60 o Atodlen 14 gan O.S. 2004/3156 (Cy. 273), Mae diwygiad arall nad yw’n berthnasol i’r offeryn hwn.

(52)

Mae darpariaethau Gorchymyn 2012 yn gymwys i geisiadau o dan baragraff 9(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 yn rhinwedd paragraff 9(5) o’r Atodlen honno.

(53)

Mae’r darpariaethau hyn yn gymwys i geiswyr o dan paragraff 2(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991 fel y cânt eu cymhwyso gan baragraff 9 o Atodlen 2 i Ddeddf 1991.

(54)

Diwygiwyd rheoliad 11 gan O.S. 1999/1810 ac O.S. 1999/1892.

(55)

Diwygiwyd paragraff 3 gan Ddeddf 1991, Atodlen 1, paragraff 15(6).

(56)

O.S. 1995/418 y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(65)

O.J. Rhif L175, 5.7.1985, t. 40. Diwygiwyd Cyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC gan Gyfarwyddeb y Cyngor 97/11/EC, O.J. Rhif L 73, 14.3.1997, t. 5; Cyfarwyddeb 2003/35/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, O.J. Rhif L156, 25.6.2003, t. 17; a Chyfarwyddeb 2009/31/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, O.J. Rhif L 140, 5.6.2009, t. 114. Cafodd Cyfarwyddeb 1985 a darpariaethau diwygio y Gyfarwyddeb ddilynol eu codeiddio yng Nghyfarwyddeb 2011/92/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 13 Rhagfyr 2011 ar yr asesiad o effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd, O.J. Rhif L26 28.1.2012, t. 1.

(66)

O.J. Rhif L26, 28.1.2012, t. 1.

(67)

O.J. Rhif L124, 25.4.2014, t. 1.

(68)

Cyfarwyddeb 2009/31/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 23 Ebrill 2009 ar storio carbon deuocsid yn ddaearegol ac sy’n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC, Cyfarwyddebau 2000/60/EC, 2001/80/EC, 2004/35/EC, 2006/12/EC, 2008/1/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 1013/2006.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources