- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
13.—(1) Yn erthygl 8—
(a)ym mharagraff (1) yn lle is-baragraff (a) rhodder—
“(a)cais sy’n cydymffurfio â gofynion erthygl 5;”
(b)yn lle paragraff (3) rhodder—
“(3) Pan fo’r awdurdod cynllunio lleol o’r farn nad yw unrhyw ffi, y mae’n ofynnol ei thalu mewn perthynas â’r cais, wedi ei thalu (ac eithrio pan fo siec wedi ei dychwelyd a pharagraffau (2)(c) a (3)(e) o erthygl 22 yn gymwys) rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gyflwyno hysbysiad i’r ceisydd i ddatgan bod y cais yn annilys. Rhaid i’r hysbysiad hysbysu’r ceisydd o swm y ffi y mae’n ofynnol ei thalu a sut y gellir ei thalu.”
(c)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—
“(3A) Os yw’r awdurdod cynllunio lleol o’r farn bod adran 62ZA(2) o Ddeddf 1990 yn gymwys i’r cais, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gyflwyno hysbysiad i’r ceisydd i ddatgan bod y cais yn annilys. Rhaid i’r hysbysiad a roddir yn unol ag adran 62ZA(2) o Ddeddf 1990 hysbysu’r ceisydd ynghylch—
(a)yr hawl i apelio i Weinidogion Cymru o dan adran 62ZB o Ddeddf 1990, a
(b)y terfyn amser yn erthygl 24C(2) ar y cyfnod a ganiateir i’r ceisydd ar gyfer rhoi hysbysiad o apêl.”
(2) Yn erthygl 22 ym mharagraff (3) yn lle is-baragraff (a) rhodder—
“(a)cais sy’n cydymffurfio â gofynion erthygl 5;”
(3) Yn erthygl 23—
(a)yn lle “Pan fo cais” rhodder “Pan fo cais dilys”;
(b)hepgorer “am gymeradwyo materion a gadwyd yn ôl neu gais”;
(c)mae’r ddarpariaeth yn erthygl 23 fel y’i diwygiwyd gan is-baragraffau (a) a (b) yn dod yn baragraff (1) o’r erthygl; a
(d)ar ôl y paragraff hwnnw mewnosoder—
“(2) At y diben o gyfrifo’r cyfnodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) pan fo unrhyw ffi sy’n ofynnol mewn cysylltiad â chais wedi ei thalu â siec a’r siec wedi ei dychwelyd yn ddiweddarach, rhaid diystyru’r cyfnod rhwng y dyddiad yr anfonodd yr awdurdod cynllunio lleol hysbysiad ysgrifenedig at y ceisydd bod y siec wedi ei dychwelyd a’r dyddiad y bodlonir yr awdurdod ei fod wedi cael swm llawn y ffi.
(3) Yn yr erthygl hon, ystyr “cais dilys” (“valid application”) yw cais a gyfansoddir o’r canlynol—
(a)cais sy’n cynnwys yr wybodaeth, ac a gyflwynir ynghyd â’r dogfennau a’r deunyddiau eraill sy’n ofynnol, ar gyfer cydymffurfio â thelerau’r caniatâd cynllunio o dan sylw;
(b)cais sy’n cydymffurfio â gofynion erthygl 4 pan fo’n gymwys; ac
(c)unrhyw ffi y mae’n ofynnol ei thalu mewn cysylltiad â’r cais, ac at y diben hwn ystyrir bod cyflwyno siec am swm y ffi yn daliad,
a rhaid ystyried bod cais dilys wedi ei gael pan fo’r cais a’r cyfryw wybodaeth, dogfennau neu ddeunyddiau eraill y cyfeirir atynt uchod fel rhai y mae’n ofynnol eu cynnwys yn y cais neu ynghyd â’r cais, ac unrhyw ffi sy’n ofynnol, wedi eu cyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol.
(4) Pan fo’r awdurdod cynllunio lleol o’r farn nad yw ffi y mae’n ofynnol ei thalu mewn perthynas â’r cais wedi ei thalu (ac eithrio pan fo siec wedi ei dychwelyd a pharagraffau (2) a (3)(c) yn gymwys) rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gyflwyno hysbysiad i’r ceisydd i ddatgan bod y cais yn annilys. Rhaid i’r hysbysiad hysbysu’r ceisydd o swm y ffi y mae’n ofynnol ei thalu a sut y gellir ei thalu.
(5) Os yw’r awdurdod cynllunio lleol o’r farn bod adran 62ZA(4) o Ddeddf 1990 yn gymwys i’r cais, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gyflwyno hysbysiad i’r ceisydd i ddatgan bod y cais yn annilys. Rhaid i’r hysbysiad a roddir yn unol ag adran 62ZA(4) o Ddeddf 1990 hysbysu’r ceisydd ynghylch—
(a)yr hawl i apelio i Weinidogion Cymru o dan adran 62ZB o Ddeddf 1990, a
(b)y terfyn amser yn erthygl 24C(2) ar y cyfnod a ganiateir i’r ceisydd ar gyfer rhoi hysbysiad o apêl.”
(4) Yn Rhan 5, o flaen erthygl 25, mewnosoder—
24C.—(1) Rhaid i geisydd sy’n dymuno apelio i Weinidogion Cymru o dan adran 62ZB o Ddeddf 1990 roi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru drwy—
(a)cyflwyno i Weinidogion Cymru, o fewn y terfyn amser a bennir ym mharagraff (2), ffurflen a gafwyd gan Weinidogion Cymru, gan gynnwys y dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3); a
(b)cyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol gopi o’r ffurflen a’r dogfennau a gyflwynir i Weinidogion Cymru.
(2) Y terfyn amser a grybwyllir ym mharagraff (1)(a) yw dwy wythnos ar ôl y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad yn unol ag erthygl 8(3A) neu 23(5) a oedd yn datgan bod y cais yn annilys neu pa bynnag gyfnod hwy y caiff Gweinidogion Cymru ei ganiatáu ar unrhyw adeg.
(3) At ddibenion paragraff (1)(a) y dogfennau yw—
(a)yn achos cais am ganiatâd cynllunio—
(i)copi o’r hysbysiad a gyflwynwyd yn unol ag erthygl 8(3A) a oedd yn datgan bod y cais yn annilys;
(ii)copi o’r cais a wnaed i’r awdurdod cynllunio lleol ac a ysgogodd yr apêl; a
(iii)copi o’r ffurflenni, dogfennau, planiau, dyluniadau, datganiadau, addefiadau, tystysgrifau, manylion neu dystiolaeth a grybwyllir yn erthyglau 5 ac 8(1) a roddwyd i’r awdurdod mewn cysylltiad â’r cais cyn dyddiad yr hysbysiad a gyflwynwyd yn unol ag erthygl 8(3A) a oedd yn datgan bod y cais yn annilys.
(b)yn achos cais a wnaed o dan erthygl 23—
(i)copi o’r hysbysiad a gyflwynwyd yn unol ag erthygl 23(5) a oedd yn datgan bod y cais yn annilys;
(ii)copi o’r cais a wnaed i’r awdurdod cynllunio lleol ac a ysgogodd yr apêl;
(iii)copi o’r penderfyniad i roi caniatâd cynllunio, os oes un, y gwneir y cais yn unol ag ef; a
(iv)copi o’r ffurflenni, dogfennau, planiau, dyluniadau, datganiadau, addefiadau, tystysgrifau, manylion neu dystiolaeth (gan gynnwys y cyfryw rai a grybwyllir yn erthygl 4(1) pan fo’n gymwys) a roddwyd i’r awdurdod mewn cysylltiad â’r cais cyn dyddiad yr hysbysiad a gyflwynwyd yn unol ag erthygl 23(5) a oedd yn datgan bod y cais yn annilys.
(c)Pan fo is-baragraff (b)(iii) yn gymwys a fersiwn ddiwygiedig o’r hysbysiad o’r penderfyniad wedi ei ddyroddi gan yr awdurdod yn unol ag adran 71ZA(5) o Ddeddf 1990 ac erthygl 24A, rhaid darllen is-baragraff (b)(iii) fel pe bai’n cyfeirio at y fersiwn ddiwygiedig o’r hysbysiad.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru wrthod derbyn hysbysiad o apêl gan geisydd os na chyflwynir y ffurflen a’r dogfennau sy’n ofynnol o dan baragraff (1)(a) i Weinidogion Cymru o fewn y terfyn amser a bennir ym mharagraff (2).
(5) Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu, neu drefnu ar gyfer darparu, gwefan sydd i’w defnyddio at ddibenion o’r fath a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru, ac sydd—
(a)yn ymwneud ag apelau o dan adran 62ZB o Ddeddf 1990 a’r erthygl hon, a
(b)yn ddibenion y gellir eu cyflawni yn electronig.
(6) Pan fo person yn defnyddio cyfathrebiadau electronig i roi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru, mae darpariaethau erthygl 32 yn gymwys.”
(5) Yn y pennawd i erthygl 25, ar ôl “Hysbysiad o apêl” mewnosoder “o dan adran 78 o Ddeddf 1990”.
(6) Yn y pennawd i erthygl 26, ar ôl “Apelau” mewnosoder “o dan adran 78 o Ddeddf 1990”.
(7) Yn y pennawd i erthygl 26A(1), ar ôl “Apelau a wnaed” mewnosoder “o dan adran 78 o Ddeddf 1990”.
Mewnosodwyd gan O.S. 2015/1330 (Cy. 123).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: