- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Rheoli Perygl Llifogydd, Cymru
Gwnaed
27 Ionawr 2016
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau A1(8), 2E(1), 5, 10(2) a 19A(1) o Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975(1) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae drafft o’r Rheoliadau hyn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo, yn unol ag adran 5(6), (7) ac (8) o Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Esemptiadau, Apeliadau ac Arolygiadau) (Cymru) 2016.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2016.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “cronfa ddŵr risg uchel” (“high risk reservoir”) yr un ystyr ag a roddir i “high-risk reservoir” yn adran 2C o Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975;
mae i “cyforgronfa ddŵr fawr” (“large raised reservoir”) yr un ystyr ag a roddir i “large raised reservoir” yn adran A1 o Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975;
ystyr “CANC” (“NRBW”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru
ystyr “Deddf 1975” (“the 1975 Act”) yw Deddf Cronfeydd Dŵr 1975;
mae i “ymgymerwr” (“undertaker”) yr un ystyr ag a roddir i “undertakers” yn adran 1(4) o Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975.
3.—(1) Yn unol ag adran A1(8) o Ddeddf 1975, nid yw’r pethau a ganlyn i’w drin fel cyforgronfeydd dŵr mawr at ddibenion y Ddeddf honno—
(a)lagŵn mwynfa sy’n dip o fewn ystyr Rheoliadau Mwynfeydd 2014(2);
(b)lagŵn chwarel sy’n—
(i)dip o fewn ystyr Rheoliadau Chwareli 1999(3); neu
(ii)dip segur o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Mwynfeydd a Chwareli (Tipiau) 1969(4);
(c)camlas neu fordwyaeth mewndirol arall;
(d)strwythurau a ddyluniwyd ac a adeiladwyd â’r prif ddiben o amddiffyn tir rhag y môr; neu
(e)arglawdd ffordd neu arglawdd rheilffordd ac eithrio —
(i)pan mae’r draen neu’r draeniau sy’n rhedeg trwyddo wedi ei flocio neu eu blocio mewn ffordd artiffisial at ddibenion defnyddio ardaloedd i fyny’r afon i storio dŵr; neu
(ii)pan mae’r draen neu’r draeniau sy’n rhedeg trwyddo wedi ei adeiladu neu eu hadeiladu fel bod dŵr yn cael ei storio yn uwch na lefel naturiol y tir.
(2) Nid yw paragraff (1)(c) yn cynnwys cronfa ddŵr sy’n ffurfio rhan o gamlas neu fordwyaeth fewndirol arall.
4.—(1) Caiff ymgymerwr sydd wedi ei gyflwyno ag hysbysiad o dan adran 2B(1) o Ddeddf 1975(5) apelio yn erbyn y dynodiad ar unrhyw sail i Weinidogion Cymru.
(2) Wrth benderfynu ar apêl o dan baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru naill ai gadarnhau neu ganslo’r dynodiad.
5.—(1) Caiff ymgymerwr y mae hysbysiad gorfodi wedi ei gyflwyno iddo apelio i Weinidogion Cymru ar unrhyw sail yn erbyn gofyniad yn yr hysbysiad i benodi peiriannydd neu i roi effaith i argymhelliad peiriannydd.
(2) Wrth benderfynu ar apêl o dan baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)cadarnhau’r gofyniad;
(b)addasu’r gofyniad; neu
(c)penderfynu rhoi’r gorau i’r gofyniad cael effaith.
(3) Pan fo apêl yn cael ei gwneud, caiff y gofyniad ei atal tra bo’r apêl yn cael ei phenderfynu.
(4) Yn y rheoliad hwn ystyr “hysbysiad gorfodi” yw hysbysiad a roddir o dan adran 8(1), 8(3A)(6), 9(7), 10(7), 12(4), 13(5) neu 14(4) o Ddeddf 1975.
6.—(1) Rhaid i apêl o dan reoliad 4 neu 5—
(a)cael ei gwneud yn ysgrifenedig;
(b)datgan seiliau’r apêl; ac
(c)dod i law Gweinidogion Cymru ddim mwy na 28 diwrnod ar ôl y dyddiad y cyflwynir hysbysiad gorfodi, neu hysbysiad a gyflwynir o dan adran 2B o’r Ddeddf, i’r ymgymerwr.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru gyfeirio’r apêl at berson penodedig iddo ei hystyried a phenderfynu arni.
(3) Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael apêl rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o’r apêl a’r wybodaeth ategol at CANC.
7.—(1) Os yw’r person penodedig wedi ei fodloni bod apêl wedi ei chyflwyno yn unol â rheoliad 6 rhaid i’r person penodedig benderfynu ar y cais.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (10), mae’r person penodedig i benderfynu ar y weithdrefn ar gyfer penderfynu ar apêl.
(3) Cyn penderfynu ar apêl rhaid i’r person penodedig—
(a)caniatáu 21 o ddiwrnodau i’r apelydd a CANC gyflwyno sylwadau a dogfennau ategol mewn perthynas â’r apêl;
(b)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol anfon copi i CANC o unrhyw sylwadau a dogfennau ategol a gyflwynwyd gan yr apelydd o dan is-baragraff (a);
(c)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol anfon copi i’r apelydd o unrhyw sylwadau a dogfennau ategol a gyflwynwyd gan CANC o dan is-baragraff (a);
(d)caniatáu 14 o ddiwrnodau pellach i’r apelydd a CANC gyflwyno sylwadau ar sylwadau a dogfennau ategol y naill a’r llall i’r person penodedig.
(4) Caiff y person penodedig ofyn am wybodaeth bellach gan yr apelydd neu CANC ar unrhyw adeg.
(5) Ar ôl ystyried y sylwadau a’r dogfennau a gyflwynwyd o dan baragraff (3) rhaid i’r person penodedig benderfynu a fydd yr apêl yn cael ei chynnal drwy sylwadau ysgrifenedig neu drwy wrandawiad a rhaid hysbysu’r partïon am y penderfyniad.
(6) Os yw apêl i’w phenderfynu drwy wrandawiad rhaid i’r person penodedig bennu’r dyddiad a rhoi o leiaf 28 o ddiwrnodau o rybudd i’r apelydd ac i CANC.
(7) Os yw’r naill barti neu’r llall yn bwriadu galw neu roi tystiolaeth gan dyst yn y gwrandawiad rhaid iddynt, o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad, anfon proflen o’r dystiolaeth y bwriedir ei rhoi at y person penodedig.
(8) Rhaid i’r person penodedig sicrhau bod gan y ddau barti gopïau o’r holl broflenni tystiolaeth a gyflwynwyd o dan baragraff (7).
(9) Caiff yr apelydd dynnu apêl yn ôl drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person penodedig ar unrhyw adeg cyn i’r person penodedig benderfynu arni.
(10) Mae’r holl bartïon i’r apêl i ddwyn eu costau eu hunain.
8. Mae Gweinidogion Cymru wedi eu rhwymo gan benderfyniad gan y person penodedig.
9.—(1) At ddibenion adran 10(2) o Ddeddf 1975, mae cronfa ddŵr risg uchel i’w harolygu ar bob un o’r adegau a ganlyn—
(a)cyn diwedd y cyfnod o chwe mis gan ddechrau ar ddyddiad cwblhau unrhyw addasiad i’r gronfa ddŵr—
(i)nad yw’n cynyddu neu’n lleihau ei chynhwysedd;
(ii)y gallai’r fath addasiad effeithio ar ei diogelwch; a
(iii)sydd heb ei ddylunio na’i oruchwylio gan beiriannydd sifil cymwysedig;
(b)ar unrhyw adeg a argymhellir gan y peiriannydd sy’n goruchwylio o dan adran 12(3) o Ddeddf 1975;
(c)ar unrhyw adeg a argymhellir yn adroddiad y peiriannydd sy’n arolygu a luniwyd o dan adran 10(3) o Ddeddf 1975;
(d)o fewn blwyddyn i’w dynodi o dan adran 2B o Ddeddf 1975;
(e)yn ddim hwyrach na 10 mlynedd ar ôl dyddiad yr arolygiad diweddaraf a wnaed o dan adran 10 o Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975 ac unwaith bob 10 mlynedd wedi hynny.
(2) Nid yw paragraff (1)(d) yn gymwys i unrhyw gronfa ddŵr a gofrestrwyd fel cyforgronfa ddŵr fawr yn flaenorol o dan Reoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Cofrestrau, Adroddiadau a Chofnodion) 1985(7).
(3) Nid yw’r gofyniad i arolygu cronfa ddŵr risg uchel o dan adran 10(2) o Ddeddf 1975 wedi ei gyflawni pan bod yr arolygiad wedi ei gyfyngu i ran o’r gronfa ddŵr.
(4) Nid yw paragraff (3) yn gymwys mewn unrhyw achos pan fo peiriannydd sy’n arolygu sy’n gweithredu o dan adran 12(3) o Ddeddf 1975 neu beiriannydd sy’n goruchwylio sy’n gweithredu o dan adran 10(3) o’r Ddeddf honno yn argymell bod arolygiad yn cael ei gyfyngu i ran o’r gronfa ddŵr.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
27 Ionawr 2016
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
At ddibenion Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (p.23) (“Deddf 1975”), mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer—
(a)pethau penodedig nad ydynt i’w trin fel cyforgronfeydd dŵr mawr (rheoliad 3);
(b)hawl i apelio yn erbyn dynodi cyforgronfeydd dŵr mawr yn gronfeydd dŵr risg uchel (rheoliad 4);
(c)hawl i apelio yn erbyn hysbysiadau a roddwyd gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru naill ai i benodi peiriannydd neu i roi effaith i argymhelliad peiriannydd (rheoliad 5); ac
(d)amseroedd arolygiadau (rheoliad 9).
Mae adran 2E o Ddeddf 1975 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddarparu hawl i apelio yn erbyn dynodi cyforgronfa ddŵr fawr yn gronfa ddŵr risg uchel. Mae adran 19A o Ddeddf 1975 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddarparu hawl i apelio yn erbyn gofyniad i benodi peiriannydd a gofyniad i roi effaith i argymhelliad peiriannydd o dan amrywiad o adrannau Deddf 1975.
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhoi awdurdodaeth i Weinidogion Cymru ystyried apeliadau a wneir o dan y Rheoliadau hyn ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer y broses apelio.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Dîm Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yr Is-adran Ynni, Dŵr a Llifogydd, Llywodraeth Cymru, Adeiladau’r Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
1975 (p.23). Mewnosodwyd adrannau A1, 2E, 19A gan adran 33 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p.29) a pharagraffau 2, 7 a 30 o Atodlen 4 iddi. Mae swyddogaethau o dan yr adrannau hyn wedi eu rhoi i “y Gweinidog”. Mae adran 33 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, a pharagraff 42 o Atodlen 4 iddi, yn darparu bod cyfeiriad at y Gweinidog yn gyfeiriad at Weinidogion Cymru, mewn perthynas â Chymru. Diwygiwyd adran 10(2) gan adran 33 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 a pharagraff 12(3) o Atodlen 4 iddi. Mae diwygiadau eraill ond nid ydynt yn berthnasol. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 5, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672 ac Atodlen 1 iddo. Mae’r swyddogaethau hynny yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
O.S. 1999/2024, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Mewnosodwyd adran 2B gan adran 33 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p. 29) a pharagraff 7 o Atodlen 4 iddi.
Mewnosodwyd adran 8(3A) gan adran 75 o Ddeddf Dŵr 2003 (p. 37).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:
The data on this page is available in the alternative data formats listed: