Search Legislation

Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017, RHAN 13. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

RHAN 13LL+CGofynion ychwanegol ar ddarparwyr gwasanaethau mewn cysylltiad â mangreoedd – llety newydd

Cymhwyso Rhan 13LL+C

49.[F1(1) Mae’r Rhan hon yn gymwys i ddarparwyr gwasanaethau sydd wedi eu cofrestru i ddarparu gwasanaeth llety—

(a)(i)pan fo’r gwasanaeth yn cynnwys darparu llety i bump neu ragor o unigolion, a

(ii)pan fo’r fangre a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn dod o fewn un o’r categorïau ym mharagraff (2), neu

(b)pan fo’r darparwyr gwasanaethau yn bersonau y mae rheoliad 49A(1) neu reoliad 49B(1) yn gymwys iddynt.]

(2Y categorïau yw—

  • Categori A: Mae’r fangre a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn adeilad newydd neu adeilad presennol sydd wedi cael ei addasu at ddiben darparu’r gwasanaeth, ac, yn y naill achos neu’r llall, nad yw’r adeilad wedi cael ei ddefnyddio o’r blaen at ddiben darparu gwasanaeth llety.

  • Categori B: Mae’r fangre yn [F2adeilad neu adeiladau yr ychwanegir estyniad ato neu atynt ac maeʼr estyniad yn] cael ei ddefnyddio at ddiben darparu’r gwasanaeth mewn man a bennir fel amod i gofrestriad y darparwr gwasanaeth.

  • [F3Categori C: Mae’r fangre yn adeilad a oedd heb ei feddiannu yn union cyn cofrestriad y darparwr gwasanaeth ond a oedd yn cael ei ddefnyddio o’r blaen at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a ganlyn—

    (a)

    at ddiben darparu gwasanaeth llety mewn man a bennir fel amod i gofrestriad darparwr gwasanaeth arall;

    (b)

    fel sefydliad yr oedd person wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 i ddarparu llety mewn cartref plant, cartref gofal, neu ganolfan breswyl i deuluoedd;

    (c)

    fel sefydliad yr oedd person wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef o dan Ran 1 neu 2 o Ddeddf Cartrefi Cofrestredig 1984 i ddarparu llety preswyl i bersonau y mae angen gofal personol arnynt (oherwydd henaint, anabledd, dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau neu anhwylder meddwl);

    (d)

    fel sefydliad yr oedd person wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef mewn cofrestr a gedwir at ddibenion adran 60 o Ddeddf Plant 1989, neu o dan Ran 8 o’r Ddeddf honno, i ddarparu llety preswyl i blant.]

(3Os yw’r Rhan hon yn gymwys, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y cydymffurfir â gofynion rheoliadau 50 i 54 [F4ond yn achos mangre Categori B, nid ywʼr gofynion ond yn gymwys iʼr rhan oʼr fangre syʼn cynnwys yr estyniad (neu yn achos rheoliad 53, i unrhyw rannau oʼr tiroedd allanol sydd wedi eu datblygu ar y cyd âʼr estyniad)] .

[F5(4) Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “gwasanaeth llety” yw gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd;

(b)mae i “cartref plant”, “cartref gofal” a “canolfan breswyl i deuluoedd” yr ystyron a roddir i “children’s home”, “care home” a “residential family centre” yn ôl eu trefn yn adrannau 1, 3 a 4 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 fel yr oedd yn cael effaith yng Nghymru yn union cyn 1 Ebrill 2017.]

[F6Ailgyflunio mangreLL+C

49A.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth—

(a)sydd wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth llety mewn man a bennir fel amod i gofrestriad y darparwr gwasanaeth, a

(b)nad oedd Rhan 13 yn gymwys iddo mewn perthynas â’r man hwnnw yn ystod cyfnod pan oedd y gwasanaeth yn cynnwys darparu llety i bedwar neu lai o unigolion.

(2)  Yn ddarostyngedig i baragraff (3), pan fo darparwr gwasanaeth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo wedi cael caniatâd am amrywiad i’w amodau cofrestru ar neu ar ôl 31 Mawrth 2024 o ganlyniad i ailgyflunio mangre a ddefnyddir mewn perthynas â’r man, ac mai effaith yr amrywiad yw y gellir darparu llety yn y man hwnnw i bump neu ragor o unigolion, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gydymffurfio â gofynion rheoliadau 50 i 54 mewn cysylltiad â’r man hwnnw.

(3) Nid yw’r gofyniad i gydymffurfio â rheoliadau 50 a 51 mewn perthynas â’r man hwnnw ond yn gymwys i unrhyw ystafelloedd gwely ychwanegol ar gyfer unigolion.

(4) Yn y rheoliad hwn a rheoliad 49B—

ystyr “ailgyflunio mangre” (“reconfiguration of premises”) yw ad-drefnu neu newid cynllun ffisegol presennol y fangre er mwyn cynyddu nifer yr unigolion y gellir darparu llety iddynt yn y gwasanaeth.

49B.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth—

(a)sydd wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaeth llety mewn man a bennir fel amod i gofrestriad y darparwr gwasanaeth, a

(b)nad oedd Rhan 13 yn gymwys iddo mewn perthynas â’r man hwnnw yn ystod cyfnod pan nad oedd y fangre a ddefnyddir gan y gwasanaeth yn dod o fewn Categori A, B nac C a phan oedd yn cynnwys darparu llety i bump neu ragor o unigolion.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), pan fo darparwr gwasanaeth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo wedi cael caniatâd am amrywiad i’w amodau cofrestru ar neu ar ôl 31 Mawrth 2024 o ganlyniad i ailgyflunio mangre a ddefnyddir mewn perthynas â’r man, ac mai effaith yr amrywiad yw bod nifer yr unigolion y gellir darparu llety ar eu cyfer yn y man hwnnw wedi ei gynyddu, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gydymffurfio â gofynion rheoliadau 50 i 54 mewn cysylltiad â’r man hwnnw.

(3) Nid yw’r gofyniad i gydymffurfio â rheoliadau 50 a 51 mewn perthynas â’r man hwnnw ond yn gymwys i unrhyw ystafelloedd gwely ychwanegol ar gyfer unigolion.]

Gofynion ychwanegol – ystafelloedd ymolchi en-suiteLL+C

50.  Rhaid i bob ystafell wely a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth gael ystafell ymolchi en-suite sy’n cynnwys basn golchi dwylo, toiled a chawod hygyrch.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 50 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Gofynion ychwanegol – maint ystafelloeddLL+C

51.—(1Rhaid i bob ystafell a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth gael o leiaf 12 o fetrau sgwâr o le llawr y gellir ei ddefnyddio oni bai bod paragraff (2) neu (3) yn gymwys.

(2Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo rhaid i’r person sy’n byw yn yr ystafell ddefnyddio cadair olwyn yn barhaol ac yn gyson[F7.]F8...

(3Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo ystafell wely yn cael ei rhannu.

(4Os yw paragraff (2) yn gymwys, rhaid i’r ystafell wely gael o leiaf 13.5 o fetrau sgwâr o le llawr y gellir ei ddefnyddio.

(5Os yw paragraff (3) yn gymwys, rhaid i’r ystafell wely gael o leiaf 16 o fetrau sgwâr o le llawr y gellir ei ddefnyddio.

Gofynion ychwanegol – lle cymunedolLL+C

52.—(1[F9 Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid] i’r lle eistedd, hamdden a bwyta a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn unol â rheoliad 44(6) fod o leiaf—

(a)4.1 metr sgwâr ar gyfer pob unigolyn;

(b)5.1 metr sgwâr ar gyfer pobl sy’n defnyddio cadair olwyn.

[F10(2) Ar gyfer mangre Categori B, maeʼr rheoliad hwn yn gymwys fel bod rhaid iʼr gofyniad o ran lle gael ei fodloni mewn perthynas ag unrhyw ystafelloedd ychwanegol i unigolion.]

Gofynion ychwanegol – lle yn yr awyr agoredLL+C

53.  Rhaid i’r tiroedd allanol [F11(neu, yn achos mangre Categori B, unrhyw ran oʼr tiroedd allanol a ddatblygir ar y cyd ag adeiladuʼr estyniad)] a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn unol â rheoliad 44(10)—

(a)bod yn hygyrch i unigolion sy’n defnyddio cadair olwyn neu sydd â phroblemau symudedd eraill,

(b)bod â digon o seddi addas, ac

(c)wedi eu dylunio i ddiwallu anghenion pob unigolyn gan gynnwys y rhai sydd â namau corfforol, synhwyraidd a gwybyddol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 53 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Gofynion ychwanegol – lifft i deithwyrLL+C

54.  Pan fo’r llety a ddefnyddir ar gyfer darparu’r gwasanaeth ar fwy nag un llawr a bod hyn yn gyson â’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth, rhaid i lifft i deithwyr fod ar gael.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 54 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources