- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017, RHAN 7.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
21.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir gofal a chymorth mewn ffordd sy’n amddiffyn, yn hybu ac yn cynnal diogelwch a llesiant unigolion.
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir y gofal a’r cymorth i bob unigolyn yn unol â chynllun personol yr unigolyn.
(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir y gofal a’r cymorth mewn ffordd—
(a)sy’n cynnal perthnasoedd personol a phroffesiynol da ag unigolion a staff; a
(b)sy’n annog ac yn cynorthwyo staff i gynnal perthnasoedd personol a phroffesiynol da ag unigolion.
(4) Os nad yw’r darparwr gwasanaeth, o ganlyniad i newid i anghenion asesedig yr unigolyn, yn gallu diwallu’r anghenion hynny mwyach, hyd yn oed ar ôl gwneud unrhyw addasiadau rhesymol, rhaid i’r darparwr roi hysbysiad ysgrifenedig o hyn i’r unigolyn, unrhyw gynrychiolydd, comisiynydd y gwasanaeth a’r awdurdod lleoli ar unwaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 21 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)
22. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle i sicrhau bod unigolion yn cael parhad gofal sy’n rhesymol i ddiwallu eu hanghenion am ofal a chymorth.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 22 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)
23.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod gan unigolion yr wybodaeth y mae ei hangen arnynt i wneud neu gymryd rhan mewn asesiadau, cynlluniau a phenderfyniadau o ddydd i ddydd am y ffordd y darperir gofal a chymorth iddynt a sut y maent yn cael eu cefnogi i gyflawni eu canlyniadau personol.
(2) Rhaid i’r wybodaeth a ddarperir fod ar gael yn yr iaith, yr arddull, y cyflwyniad a’r fformat priodol, gan roi sylw i—
(a)natur y gwasanaeth fel y’i disgrifir yn y datganiad o ddiben;
(b)y lefel o ddealltwriaeth yr unigolyn a’i allu i gyfathrebu;
(c)yn achos plentyn, oedran y plentyn.
(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod yr unigolyn yn cael unrhyw gymorth sy’n angenrheidiol i’w alluogi i ddeall yr wybodaeth a ddarperir.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 23 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)
24.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gymryd camau rhesymol i ddiwallu anghenion iaith unigolion.
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir mynediad i unrhyw gymhorthion a chyfarpar sy’n angenrheidiol i unigolyn i hwyluso’r ffordd y mae’r unigolyn yn cyfathrebu ag eraill.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 24 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)
25.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod unigolion yn cael eu trin â pharch a sensitifrwydd.
(2) Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i,—
(a)parchu preifatrwydd ac urddas yr unigolyn;
(b)parchu hawliau’r unigolyn i gyfrinachedd;
(c)hybu ymreolaeth ac annibyniaeth yr unigolyn;
(d)rhoi sylw i unrhyw nodweddion gwarchodedig perthnasol (fel y’u diffinnir yn adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010) yr unigolyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 25 mewn grym ar 2.4.2018, gweler rhl. 1(2)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: