- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2017.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 2 Ebrill 2018.
(3) Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “cyfnod talu” (“payment period”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 5;
ystyr “derbynnydd” (“recipient”) yw person y rhoddir hysbysiad cosb iddo yn unol ag adran 52 o’r Ddeddf;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;
ystyr “hysbysiad cosb” (“penalty notice”) yw hysbysiad cosb a roddir yn unol ag adran 52 o’r Ddeddf;
ystyr “rheoleiddiwr gwasanaethau” (“service regulator”) yw Gweinidogion Cymru;
ystyr “y Rheoliadau Darparwyr Gwasanaethau” (“the Service Providers Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017(1);
ystyr “trosedd” (“offence”) yw trosedd ragnodedig.
3. Mae’r troseddau o dan y darpariaethau a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl yn yr Atodlen wedi eu rhagnodi(2) fel troseddau rhagnodedig(3) at ddibenion adran 52(1) o’r Ddeddf.
4. Mae swm y gosb sydd i gael ei dalu ar gyfer pob trosedd wedi ei bennu yn nhrydedd golofn y tabl yn yr Atodlen.
5. Yr amser erbyn pryd y mae’r gosb a bennir mewn hysbysiad cosb i gael ei thalu yw diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y ceir yr hysbysiad (“cyfnod talu”).
6.—(1) Rhaid talu’r gosb a bennir mewn hysbysiad cosb i’r rheoleiddiwr gwasanaethau drwy’r dull a bennir yn yr hysbysiad.
(2) Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif yr honnir ei bod wedi ei llofnodi gan y rheoleiddiwr gwasanaethau neu ar ei ran, sy’n datgan bod taliad cosb wedi dod i law neu heb ddod i law erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif, yn dystiolaeth i’r ffeithiau a ddatgenir.
7.—(1) Pan fo derbynnydd yn cael hysbysiad cosb, ni chaniateir i achos am y drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi gael ei gychwyn yn erbyn y derbynnydd cyn diwedd y cyfnod talu.
(2) Mae adran 184 o’r Ddeddf(4) yn gymwys i hysbysiad cosb fel y mae’n gymwys i hysbysiad y mae’n ofynnol ei roi o dan y Ddeddf.
8.—(1) Caiff y rheoleiddiwr gwasanaethau dynnu hysbysiad cosb yn ôl drwy roi rhybudd ysgrifenedig o’r tynnu’n ôl i’r derbynnydd—
(a)os yw’r rheoleiddiwr gwasanaethau yn penderfynu—
(i)na ddylai fod wedi cael ei roi, neu
(ii)na ddylai fod wedi cael ei roi i’r person a enwir fel y derbynnydd; neu
(b)os yw’n ymddangos i’r rheoleiddiwr gwasanaethau fod yr hysbysiad yn cynnwys gwallau perthnasol.
(2) Caniateir i hysbysiad cosb gael ei dynnu’n ôl yn unol â pharagraff (1) pa un a yw’r cyfnod talu wedi dod i ben ai peidio, a pha un a yw’r gosb wedi cael ei thalu ai peidio.
(3) Pan fo hysbysiad cosb wedi cael ei dynnu’n ôl yn unol â pharagraff (1), rhaid i’r rheoleiddiwr gwasanaethau ad-dalu unrhyw swm sydd wedi ei dalu fel cosb yn unol â’r hysbysiad hwnnw, i’r person a’i talodd.
(4) Ac eithrio fel y darperir ym mharagraff (5), ni chaniateir i achos gael ei gychwyn neu ei barhau yn erbyn derbynnydd am y drosedd y mae’r hysbysiad cosb yn ymwneud â hi pan fo’r hysbysiad wedi cael ei dynnu’n ôl yn unol â pharagraff (1).
(5) Pan fo hysbysiad cosb wedi cael ei dynnu’n ôl o dan baragraff (1)(b), caniateir i achos gael ei gychwyn neu ei barhau am y drosedd y rhoddwyd yr hysbysiad cosb hwnnw mewn cysylltiad â hi os yw hysbysiad cosb pellach wedi cael ei roi mewn cysylltiad â’r drosedd ac nad yw’r gosb wedi ei thalu cyn diwedd y cyfnod talu.
9.—(1) Rhaid i hysbysiad cosb roi’r manylion hynny am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn drosedd y mae’n ymddangos i’r rheoleiddiwr gwasanaethau eu bod yn rhesymol ofynnol i roi gwybodaeth i’r derbynnydd amdani.
(2) Rhaid i hysbysiad cosb ddatgan—
(a)enw a chyfeiriad y derbynnydd;
(b)swm y gosb;
(c)y cyfnod talu;
(d)y bydd talu o fewn y cyfnod hwnnw yn rhyddhau unrhyw atebolrwydd am y drosedd;
(e)y cyfnod pan na fydd achos yn cael ei ddwyn mewn cysylltiad â’r drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi;
(f)y canlyniadau os na chaiff y gosb ei thalu cyn i’r cyfnod ar gyfer ei thalu ddod i ben;
(g)y person y caniateir i’r gosb gael ei thalu iddo a’r cyfeiriad lle y caniateir ei thalu ac y caniateir anfon unrhyw ohebiaeth am yr hysbysiad cosb iddo;
(h)y dulliau a ganiateir ar gyfer talu’r gosb;
(i)ar ba seiliau y caniateir i’r hysbysiad cosb gael ei dynnu’n ôl.
10. Rhaid i’r rheoleiddiwr gwasanaethau gadw cofnod o unrhyw hysbysiadau cosb a roddir, y mae rhaid iddo gynnwys—
(a)copi o bob hysbysiad cosb a roddir;
(b)cofnod o’r holl daliadau a wnaed a’r dyddiad pan y’u derbyniwyd;
(c)manylion unrhyw hysbysiad cosb sydd wedi ei dynnu’n ôl a’r seiliau dros hynny;
(d)manylion ynghylch a gafodd y derbynnydd ei erlyn am y drosedd y rhoddwyd yr hysbysiad cosb ar ei chyfer.
Huw Irranca-Davies
Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
14 Rhagfyr 2017
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: