Search Legislation

Rheoliadau Cofrestru Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cofrestru Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2017.

2.  Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “addasiadau rhesymol” (“reasonable adjustments”) yw’r addasiadau rhesymol hynny a fyddai’n ofynnol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010(1);

ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw’r person sy’n ceisio cael ei gofrestru;

ystyr “cofrestriad” a “cofrestru” (“registration”) yw cofrestriad o dan Ran 2 o’r Ddeddf;

mae i “cwmni daliannol” yr ystyr a roddir i “holding company” gan adran 1159 o Ddeddf Cwmnïau 2006(2);

ystyr “darparwr cofrestredig” (“registered provider”) yw person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o’r Ddeddf fel y person sy’n cynnal practis deintyddol preifat;

ystyr “datganiad o ddiben” (“statement of purpose”) yw’r datganiad ysgrifenedig a lunnir yn unol â rheoliad 5(1) o Reoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017;

ystyr “deintydd” (“dentist”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr o ddeintyddion a gedwir yn unol ag adran 14 o Ddeddf Deintyddion 1984(3);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000 ac, mewn cysylltiad â Rhan 2 o’r Ddeddf honno, y Rhan honno fel y’i cymhwysir gydag addasiadau i bractisau deintyddol preifat gan Reoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Estyn Cymhwysiad Rhan 2 i Bractisau Deintyddol Preifat) (Cymru) 2017 a chan reoliad 39 o Reoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017;

ystyr “gwasanaethau deintyddol” (“dental services”) yw gofal a thriniaeth ddeintyddol a ddarperir gan ddeintydd;

ystyr “gwasanaethau proffesiynol perthnasol” (“relevant professional services”) yw’r ddarpariaeth o wasanaethau proffesiynol yn unol â chwmpas ymarfer llawn proffesiynolyn gofal deintyddol, ac eithrio yn unol â phresgripsiwn gan ddeintydd ond nid yw’n cynnwys—

(a)

darparu gwasanaethau gwynnu dannedd gan hylenydd deintyddol neu therapydd deintyddol, a

(b)

darparu a chynnal a chadw dannedd gosod i gleifion â dannedd(4) gan dechnegydd deintyddol clinigol;

ystyr “hylenydd deintyddol” (“dental hygienist”), “therapydd deintyddol” (“dental therapist”) a “technegydd deintyddol clinigol” (“clinical dental technician”) yw personau sydd wedi eu cofrestru felly â’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol yn y gofrestr o broffesiynolion gofal deintyddol a sefydlwyd o dan adran 36B o Ddeddf Deintyddion 1984;

mae i “is-gwmni” yr ystyr a roddir i “subsidiary” gan adran 1159 o Ddeddf Cwmnïau 2006;

ystyr “person cofrestredig” (“registered person”) yw person sy’n ddarparwr cofrestredig neu’n rheolwr cofrestredig practis deintyddol preifat;

ystyr “person cyfrifol” (“responsible person”) yw—

(a)

pan fo’r ceisydd yn unigolyn—

(i)

y ceisydd; ac

(ii)

os yw’r ceisydd yn cynnal y practis deintyddol preifat mewn partneriaeth ag eraill, neu’n bwriadu gwneud hynny, enw pob partner i’r ceisydd;

(b)

pan fo’r ceisydd yn bartneriaeth, pob aelod o’r bartneriaeth;

(c)

pan fo’r ceisydd yn sefydliad, yr unigolyn cyfrifol;

ystyr “practis deintyddol preifat” (“private dental practice”)(5) yw ymgymeriad sy’n darparu neu’n cynnwys darparu—

(a)

gwasanaethau deintyddol preifat gan ddeintydd, neu

(b)

gwasanaethau proffesiynol perthnasol gan broffesiynolyn gofal deintyddol, ac eithrio at ddibenion Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(6);

ystyr “proffesiynolyn gofal deintyddol” (“dental care professional”) yw—

(a)

hylenydd deintyddol;

(b)

therapydd deintyddol; neu

(c)

technegydd deintyddol clinigol;

ystyr “Rheoliadau 2017” (“the 2017 Regulations”) yw Rheoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017(7);

ystyr “rheolwr cofrestredig” (“registered manager”) yw person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o’r Ddeddf fel rheolwr practis deintyddol preifat;

ystyr “rhestr perfformwyr deintyddol” (“dental performers list”) yw’r rhestr a luniwyd gan Fwrdd Iechyd Lleol neu Fwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac a gyhoeddwyd yn unol â rheoliad 3(1)(b) o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestri Perfformwyr) (Cymru) 2004(8) neu reoliadau o dan adran 106 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(9) fel y bo’n briodol;

ystyr “rhif cofrestru proffesiynol” (“professional registration number”) yw’r rhif gyferbyn ag enw’r person yn y gofrestr o ddeintyddion a gedwir yn unol ag adran 14 o Ddeddf Deintyddion 1984;

ystyr “sefydliad” (“organisation”) yw corff corfforaethol neu unrhyw gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth;

ystyr “swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru” (“appropriate office of the registration authority”) mewn perthynas â phractis deintyddol preifat yw—

(a)

os yw swyddfa wedi ei phennu o dan reoliad 3(2) o Reoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017, y swyddfa honno;

(b)

mewn unrhyw achos arall, unrhyw swyddfa’r awdurdod cofrestru;

mae “triniaethau a all arwain at gysylltiad” (“exposure-prone procedures”), at ddibenion y Rheoliadau hyn, yn cyfeirio at driniaethau mewnwthiol pan fo risg y gall anaf i’r deintydd neu’r proffesiynolyn gofal deintyddol arwain at gysylltiad rhwng meinwe agored claf a gwaed y deintydd neu’r proffesiynolyn gofal deintyddol;

ystyr “unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”) yw unigolyn sy’n gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd, neu swyddog arall i sefydliad ac sy’n gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o reoli practis deintyddol preifat;

ystyr “yswiriant” (“insurance”) yw—

(a)

contract yswiriant sy’n darparu sicrwydd o ran atebolrwyddau a all godi wrth gyflawni gwaith fel deintydd neu broffesiynolyn gofal deintyddol, neu

(b)

trefniant a wneir at ddibenion indemnio person rhag atebolrwyddau o’r fath.

(2Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at bractis deintyddol preifat i gael eu dehongli fel cyfeiriadau—

(a)yn achos ceisydd, at y practis deintyddol preifat y mae’r ceisydd yn ceisio cael ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef;

(b)yn achos person cofrestredig, at y practis deintyddol preifat y mae’r ceisydd wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef.

RHAN 2Ceisiadau i Gofrestru o dan Ran 2 o’r Ddeddf

Gwybodaeth a dogfennau sydd i gael eu darparu gan geisydd

4.—(1Rhaid i gais i gofrestru—

(a)bod yn ysgrifenedig ar ffurf a gymeradwyir gan yr awdurdod cofrestru;

(b)cael ei anfon neu ei ddanfon i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru;

(c)cael ffotograff diweddar o’r person cyfrifol gyda’r cais, a rhaid i’r ffotograff ddangos tebygrwydd gwirioneddol ohono; a

(d)rhoi’r wybodaeth y mae’n ofynnol i’r ceisydd ei darparu yn unol â pharagraffau (2) i (4).

(2Rhaid i berson sy’n ceisio cael ei gofrestru fel person sy’n cynnal practis deintyddol preifat ddarparu i’r awdurdod cofrestru—

(a)gwybodaeth lawn mewn cysylltiad â materion a restrir yn Rhannau 1 a 2 o Atodlen 1; a

(b)y dogfennau a restrir yn Atodlen 2.

(3Rhaid i berson sy’n ceisio cael ei gofrestru fel rheolwr mewn cysylltiad â phractis deintyddol preifat ddarparu i’r awdurdod cofrestru—

(a)gwybodaeth lawn mewn cysylltiad â phob un o’r materion a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 3; a

(b)y dogfennau a restrir yn Rhan 2 o’r Atodlen honno.

(4Os yw’r awdurdod cofrestru yn gofyn am hynny, rhaid i’r ceisydd ddarparu gwybodaeth lawn i’r awdurdod cofrestru mewn cysylltiad â’r materion a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1 mewn perthynas ag unrhyw berson a bennir at y diben hwn gan yr awdurdod cofrestru, sy’n gweithio yn y practis deintyddol preifat, neu sy’n bwriadu gweithio yno.

Euogfarnau

5.  Pan fo’r awdurdod cofrestru yn gofyn i’r person cyfrifol am fanylion unrhyw euogfarnau troseddol sydd wedi eu disbyddu o fewn ystyr “spent” yn adran 1 o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974(10) ac yn rhoi gwybod iddo ar yr adeg y gofynnir y cwestiwn bod euogfarnau sydd wedi eu disbyddu i gael eu datgelu yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975(11) (ac eithrio pan fônt yn euogfarnau gwarchodedig fel y disgrifir “protected conviction” yn erthygl 2A o’r Gorchymyn hwnnw), rhaid i’r person cyfrifol gyflenwi manylion ysgrifenedig unrhyw euogfarnau sydd wedi eu disbyddu sydd ganddo i’r awdurdod cofrestru.

Cyfweliad

6.  Os yw’r awdurdod cofrestru yn gofyn am hynny, rhaid i’r person cyfrifol fynd i gyfweliad at ddiben galluogi’r awdurdod cofrestru i benderfynu a yw’r ceisydd yn addas i gynnal neu reoli’r practis deintyddol preifat y mae’r ceisydd yn ceisio cael ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef(12).

Hysbysiad o newidiadau

7.  Rhaid i’r ceisydd roi hysbysiad ysgrifenedig i’r awdurdod cofrestru o unrhyw newid a bennir isod sy’n digwydd ar ôl gwneud y cais i gofrestru a chyn iddo gael ei benderfynu—

(a)unrhyw newid i enw neu gyfeiriad y ceisydd neu unrhyw berson cyfrifol;

(b)pan fo’r ceisydd yn sefydliad, unrhyw newid i gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall sy’n gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o reoli’r sefydliad.

Gwybodaeth am staff a gymerir ymlaen ar ôl gwneud cais

8.  Pan fo’r ceisydd yn gwneud cais i gofrestru fel person sy’n cynnal practis deintyddol preifat, a chyn i’r cais gael ei benderfynu, yn cymryd ymlaen berson i weithio yn y practis deintyddol preifat, rhaid i’r ceisydd, mewn cysylltiad â phob person a gymerir ymlaen felly—

(a)cael yr wybodaeth a bennir ym mharagraffau 18 (gwybodaeth am staff) a 19 (gwybodaeth bellach am staff) o Atodlen 1 a’r dogfennau a bennir ym mharagraff 9 (tystysgrifau cofnod troseddol) o Atodlen 2, mewn perthynas â’r swydd y mae’r person i’w gwneud; a

(b)darparu i’r awdurdod cofrestru, os yw’n gofyn amdanynt, unrhyw un neu ragor o’r dogfennau neu’r wybodaeth y mae’n ofynnol i’r ceisydd eu cael o dan baragraff (a).

RHAN 3Tystysgrifau Cofrestru

Cynnwys tystysgrif

9.  Rhaid i dystysgrif gofrestru gynnwys y manylion a ganlyn—

(a)enw, cyfeiriad a rhif ffôn swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru;

(b)enw a chyfeiriad y darparwr cofrestredig;

(c)pan fo’r person yn sefydliad, enw’r unigolyn cyfrifol;

(d)enw’r rheolwr cofrestredig;

(e)y disgrifiad o’r practis deintyddol preifat;

(f)pan fo’r cofrestriad yn ddarostyngedig i amodau, manylion yr amod;

(g)y dyddiad cofrestru;

(h)datganiad bod y cofrestriad yn agored i gael ei ganslo gan yr awdurdod cofrestru os nad yw practis deintyddol preifat yn cael ei gynnal yn unol â’r gofynion perthnasol ac ag unrhyw amodau;

(i)datganiad mai dim ond â’r person y’i dyroddir iddo gan yr awdurdod cofrestru y mae’r dystysgrif yn ymwneud ac na ellir ei throsglwyddo i berson arall.

Dychwelyd tystysgrif

10.  Os yw cofrestriad person mewn cysylltiad â phractis deintyddol preifat yn cael ei ganslo, rhaid i’r person hwnnw, heb fod yn hwyrach na’r diwrnod y mae’r penderfyniad neu’r gorchymyn sy’n canslo’r cofrestriad yn cymryd effaith, ddychwelyd y dystysgrif gofrestru i’r awdurdod cofrestru—

(a)drwy ei danfon i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru; neu

(b)drwy ei hanfon i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru drwy’r post cofrestredig neu ddanfoniad cofnodedig.

Trosedd

11.  Mae methu â chydymffurfio â rheoliad 10 yn drosedd.

RHAN 4Amodau ac Adroddiadau

Cais i amrywio neu ddileu amod

12.—(1Yn y rheoliad hwn—

ystyr “cais” (“application”) yw cais gan y person cofrestredig o dan adran 15(1)(a) o’r Ddeddf i amrywio neu ddileu amod mewn perthynas â chofrestriad y person hwnnw; ac

ystyr “dyddiad effeithiol arfaethedig” (“proposed effective date”) yw’r dyddiad y mae’r person cofrestredig yn gofyn amdano fel y dyddiad y mae’r amrywiad neu’r dileu y gwneir cais amdano i gymryd effaith.

(2Rhaid i gais—

(a)bod yn ysgrifenedig ar ffurf a gymeradwyir gan yr awdurdod cofrestru;

(b)cael ei anfon neu ei ddanfon i’r awdurdod cofrestru heb fod yn llai na chwe wythnos cyn y dyddiad effeithiol arfaethedig neu unrhyw gyfnod byrrach (os oes un) cyn y dyddiad hwnnw y cytunir arno â’r awdurdod cofrestru;

(c)cael ei anfon gyda’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (3); a

(d)cael ei anfon gyda’r ffi a ragnodir yn Rheoliadau 2017.

(3Mae’r wybodaeth a ganlyn wedi ei phennu—

(a)y dyddiad effeithiol arfaethedig;

(b)rhesymau’r person cofrestredig dros wneud y cais;

(c)manylion newidiadau y mae’r person cofrestredig yn bwriadu eu gwneud o ganlyniad i’r amrywio neu’r dileu y gwneir cais amdano, gan gynnwys manylion ynghylch—

(i)newidiadau strwythurol arfaethedig i’r fangre;

(ii)staff, cyfleusterau neu gyfarpar ychwanegol, newidiadau o ran rheoli neu unrhyw newidiadau eraill sy’n ofynnol i sicrhau bod y newidiadau arfaethedig yn cael eu rhoi ar waith.

(4Rhaid i’r person cofrestredig ddarparu i’r awdurdod cofrestru unrhyw wybodaeth arall neu ddogfennau eraill y mae’r awdurdod cofrestru yn eu gwneud yn rhesymol ofynnol mewn perthynas â’r cais.

Adroddiad o ran hyfywedd ariannol

13.  Os yw’n ymddangos i’r person cofrestredig fod y practis deintyddol preifat yn debygol o beidio â bod yn hyfyw yn ariannol ar unrhyw adeg o fewn y 6 mis canlynol, rhaid i’r person cofrestredig gyflwyno adroddiad ynghylch yr amgylchiadau perthnasol i’r awdurdod cofrestru.

RHAN 5Canslo Cofrestriad

Canslo cofrestriad

14.—(1At ddibenion adran 14(1)(d) o’r Ddeddf, mae paragraff (2) yn pennu ar ba sail y caiff awdurdod cofrestru ganslo cofrestriad person mewn cysylltiad â phractis deintyddol preifat.

(2Y sail y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yw bod y practis deintyddol preifat wedi peidio â bod yn hyfyw yn ariannol neu’n debygol o beidio â bod yn hyfyw yn ariannol ar unrhyw adeg o fewn y 6 mis nesaf.

Cais i ganslo cofrestriad

15.—(1Yn y rheoliad hwn—

ystyr “cais i ganslo” (“application for cancellation”) yw cais gan y person cofrestredig o dan adran 15(1)(b) o’r Ddeddf i gofrestriad y person hwnnw gael ei ganslo;

ystyr “dyddiad effeithiol arfaethedig” (“proposed effective date”) yw’r dyddiad y mae’r person cofrestredig yn gofyn amdano fel y dyddiad y mae’r canslo y gwneir cais amdano i gael effaith; ac

ystyr “hysbysiad o gais i ganslo” (“notice of application for cancellation”) yw hysbysiad gan y person cofrestredig sy’n datgan bod y person cofrestredig wedi gwneud cais i ganslo neu’n bwriadu gwneud cais o’r fath.

(2Rhaid i gais i ganslo—

(a)bod yn ysgrifenedig ar ffurf a gymeradwyir gan yr awdurdod cofrestru;

(b)cael ei anfon neu ei ddanfon i’r awdurdod cofrestru heb fod yn llai na 3 mis cyn y dyddiad effeithiol arfaethedig neu unrhyw gyfnod byrrach (os oes un) cyn y dyddiad hwnnw y cytunir arno â’r awdurdod cofrestru; ac

(c)cael ei anfon gyda’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (4).

(3Os yw’r person cofrestredig yn gwneud cais i ganslo, rhaid i’r person cofrestredig, heb fod yn fwy na saith niwrnod ar ôl hynny, roi hysbysiad o’r cais i ganslo i bob un o’r personau a bennir ym mharagraff (4)(d), ac eithrio person y rhoddodd y person cofrestredig hysbysiad o’r fath iddo o fewn 3 mis cyn gwneud y cais i ganslo.

(4Mae’r wybodaeth a ganlyn wedi ei phennu—

(a)y dyddiad effeithiol arfaethedig;

(b)datganiad ynghylch yr wybodaeth a ddarperir gan y person cofrestredig i gleifion ynghylch practisau deintyddol tebyg yn eu hardal;

(c)rhesymau’r person cofrestredig dros wneud y cais i ganslo;

(d)manylion unrhyw hysbysiad o gais i ganslo a roddwyd i unrhyw un neu ragor o’r personau a ganlyn;

(i)cleifion; ac

(ii)personau yr ymddengys i’r person cofrestredig eu bod yn gynrychiolwyr defnyddwyr gwasanaethau;

(e)pan na fo’r person cofrestredig wedi rhoi’r hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (d), datganiad ynghylch a oedd unrhyw amgylchiadau a ataliodd y person cofrestredig rhag rhoi’r hysbysiad hwnnw cyn y dyddiad y gwnaeth y person cofrestredig gais i ganslo neu a’i gwnaeth yn anymarferol iddo ei roi.

Vaughan Gething

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru

23 Chwefror 2017

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources