- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
4.—(1) Rhaid i gais i gofrestru—
(a)bod yn ysgrifenedig ar ffurf a gymeradwyir gan yr awdurdod cofrestru;
(b)cael ei anfon neu ei ddanfon i swyddfa briodol yr awdurdod cofrestru;
(c)cael ffotograff diweddar o’r person cyfrifol gyda’r cais, a rhaid i’r ffotograff ddangos tebygrwydd gwirioneddol ohono; a
(d)rhoi’r wybodaeth y mae’n ofynnol i’r ceisydd ei darparu yn unol â pharagraffau (2) i (4).
(2) Rhaid i berson sy’n ceisio cael ei gofrestru fel person sy’n cynnal practis deintyddol preifat ddarparu i’r awdurdod cofrestru—
(a)gwybodaeth lawn mewn cysylltiad â materion a restrir yn Rhannau 1 a 2 o Atodlen 1; a
(b)y dogfennau a restrir yn Atodlen 2.
(3) Rhaid i berson sy’n ceisio cael ei gofrestru fel rheolwr mewn cysylltiad â phractis deintyddol preifat ddarparu i’r awdurdod cofrestru—
(a)gwybodaeth lawn mewn cysylltiad â phob un o’r materion a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 3; a
(b)y dogfennau a restrir yn Rhan 2 o’r Atodlen honno.
(4) Os yw’r awdurdod cofrestru yn gofyn am hynny, rhaid i’r ceisydd ddarparu gwybodaeth lawn i’r awdurdod cofrestru mewn cysylltiad â’r materion a restrir yn Rhan 3 o Atodlen 1 mewn perthynas ag unrhyw berson a bennir at y diben hwn gan yr awdurdod cofrestru, sy’n gweithio yn y practis deintyddol preifat, neu sy’n bwriadu gweithio yno.
5. Pan fo’r awdurdod cofrestru yn gofyn i’r person cyfrifol am fanylion unrhyw euogfarnau troseddol sydd wedi eu disbyddu o fewn ystyr “spent” yn adran 1 o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974(1) ac yn rhoi gwybod iddo ar yr adeg y gofynnir y cwestiwn bod euogfarnau sydd wedi eu disbyddu i gael eu datgelu yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975(2) (ac eithrio pan fônt yn euogfarnau gwarchodedig fel y disgrifir “protected conviction” yn erthygl 2A o’r Gorchymyn hwnnw), rhaid i’r person cyfrifol gyflenwi manylion ysgrifenedig unrhyw euogfarnau sydd wedi eu disbyddu sydd ganddo i’r awdurdod cofrestru.
6. Os yw’r awdurdod cofrestru yn gofyn am hynny, rhaid i’r person cyfrifol fynd i gyfweliad at ddiben galluogi’r awdurdod cofrestru i benderfynu a yw’r ceisydd yn addas i gynnal neu reoli’r practis deintyddol preifat y mae’r ceisydd yn ceisio cael ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef(3).
7. Rhaid i’r ceisydd roi hysbysiad ysgrifenedig i’r awdurdod cofrestru o unrhyw newid a bennir isod sy’n digwydd ar ôl gwneud y cais i gofrestru a chyn iddo gael ei benderfynu—
(a)unrhyw newid i enw neu gyfeiriad y ceisydd neu unrhyw berson cyfrifol;
(b)pan fo’r ceisydd yn sefydliad, unrhyw newid i gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall sy’n gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o reoli’r sefydliad.
8. Pan fo’r ceisydd yn gwneud cais i gofrestru fel person sy’n cynnal practis deintyddol preifat, a chyn i’r cais gael ei benderfynu, yn cymryd ymlaen berson i weithio yn y practis deintyddol preifat, rhaid i’r ceisydd, mewn cysylltiad â phob person a gymerir ymlaen felly—
(a)cael yr wybodaeth a bennir ym mharagraffau 18 (gwybodaeth am staff) a 19 (gwybodaeth bellach am staff) o Atodlen 1 a’r dogfennau a bennir ym mharagraff 9 (tystysgrifau cofnod troseddol) o Atodlen 2, mewn perthynas â’r swydd y mae’r person i’w gwneud; a
(b)darparu i’r awdurdod cofrestru, os yw’n gofyn amdanynt, unrhyw un neu ragor o’r dogfennau neu’r wybodaeth y mae’n ofynnol i’r ceisydd eu cael o dan baragraff (a).
Am y gofynion o ran addasrwydd, gweler rheoliadau 9 ac 11 o Reoliadau Deintyddiaeth Breifat (Cymru) 2017 (O.S. 2017/202 (W.57)).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: