Enwi a dehongli
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 3, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) 2017.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
Y diwrnod penodedig
2. Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 3 Ebrill 2017—
(a)Rhan 2 (sy’n cynnwys adrannau 65 i 66 ac sy’n ymwneud â’r trosolwg o Rannau 3 i 8 a’u dehongli);
(b)i’r graddau nad yw eisoes mewn grym, Rhan 3 (sy’n cynnwys adrannau 67 i 78 ac sy’n ymwneud â Gofal Cymdeithasol Cymru) ac Atodlen 2();
(c)Rhan 4 (sy’n cynnwys adrannau 79 i 111 ac sy’n ymwneud â gweithwyr gofal cymdeithasol);
(d)Rhan 5 (sy’n cynnwys adrannau 112 i 116 ac sy’n ymwneud â gweithwyr gofal cymdeithasol, safonau ymddygiad, addysg etc.);
(e)Rhan 6 (sy’n cynnwys adrannau 117 i 164 ac sy’n ymwneud ag addasrwydd gweithwyr gofal cymdeithasol i ymarfer), ac eithrio is-adran (5) o adran 160 (pŵer i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu);
(f)Rhan 7 (sy’n cynnwys adrannau 165 i 173 ac sy’n ymwneud â phersonau anghofrestredig a gorchmynion sy’n gwahardd gwaith mewn gofal cymdeithasol);
(g)Rhan 8 (sy’n cynnwys adrannau 174 i 175 ac sy’n ymwneud â Gofal Cymdeithasol Cymru a’r ddyletswydd i sefydlu paneli);
(h)Rhan 9 (sy’n cynnwys adrannau 176 i 182 ac sy’n ymwneud â chydweithredu a chydweithio gan gyrff rheoleiddiol);
(i)Rhan 10 (sy’n cynnwys adrannau 183 i 184 ac sy’n ymwneud â darpariaethau amrywiol a chyffredinol);
(j)adran 185 ac Atodlen 3 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i’r graddau y maent yn ymwneud â Rhan 2 o Atodlen 3 (Gofal Cymdeithasol Cymru).
Arbedion a darpariaethau trosiannol
3. Mae’r Atodlen (sy’n cynnwys arbedion a darpariaethau trosiannol) yn cael effaith o 3 Ebrill 2017.
4. Nid yw’r ddarpariaeth a wneir gan yr Atodlen yn effeithio ar weithrediad adrannau 16 a 17 o Ddeddf Dehongli 1978() fel y’i darllenir gydag adran 23 o’r Ddeddf honno.
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
7 Mawrth 2017