Search Legislation

Rheoliadau Maint a Chyfansoddiad Pwyllgorau Awdurdodau Cynllunio Lleol (Cymru) 2017

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 459 (Cy. 97)

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Rheoliadau Maint a Chyfansoddiad Pwyllgorau Awdurdodau Cynllunio Lleol (Cymru) 2017

Gwnaed

21 Mawrth 2017

Yn dod i rym

5 Mai 2017

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 319ZB a 319ZC o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(1), ac a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 333 o’r Ddeddf honno(2), sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy(3), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Maint a Chyfansoddiad Pwyllgorau Awdurdodau Cynllunio Lleol (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 5 Mai 2017.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw —

(a)

cyngor sir yng Nghymru;

(b)

cyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

ystyr “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yw awdurdod cynllunio lleol perthnasol(4);

ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;

mae “pwyllgor” (“committee”) yn cynnwys is-bwyllgor awdurdod perthnasol;

ystyr “ward amlaelod(5)” (“multiple member ward”) yw ward etholiadol yr etholir drosti fwy nag un aelod; ac

ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir drosti aelodau i awdurdod lleol.

Maint pwyllgor

3.  —Mae’r gofynion a ganlyn wedi eu rhagnodi at ddibenion adran 319ZB o Ddeddf 1990.

4.—(1Mae awdurdod perthnasol i benodi i bwyllgor yr awdurdod sy’n cyflawni swyddogaeth berthnasol(6)

(a)dim llai nag 11 o’u haelodau; a

(b)dim mwy nag 21 o’u haelodau.

(2Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i reoliad 5.

5.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i awdurdod perthnasol sy’n—

(a)cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol; neu

(b)bwrdd cydgynllunio(7).

(2Rhaid i nifer yr aelodau a benodir i bwyllgor yn unol â’r rheoliad 4 beidio â bod yn fwy na hanner cyfanswm nifer aelodau’r awdurdod perthnasol, wedi ei dalgrynnu i’r rhif cyfan agosaf.

Wardiau amlaelod

6.—(1Yn achos ward amlaelod, un o aelodau’r awdurdod lleol yn unig o’r ward hwnnw sy’n gymwys i’w benodi i bwyllgor awdurdod perthnasol.

(2Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i baragraff (3).

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys i awdurdod lleol sy’n cynnwys wardiau amlaelod yn unig.

Jane Hutt

Un o Weinidogion Cymru

21 Mawrth 2017

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi gofynion sy’n ymwneud â maint a chyfansoddiad pwyllgorau ac is-bwyllgorau awdurdodau cynllunio lleol perthnasol yng Nghymru sy’n cyflawni swyddogaeth berthnasol.

“Awdurdodau cynllunio lleol perthnasol” yw cynghorau sir neu gynghorau bwrdeistref sirol, byrddau cydgynllunio ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol. “Swyddogaeth berthnasol” yw swyddogaeth sy’n arferadwy gan awdurdod cynllunio lleol perthnasol mewn perthynas â chais o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (gweler adran 319ZD o’r Ddeddf honno).

Y gofynion yw bod pwyllgorau ac is-bwyllgorau awdurdodau cynllunio lleol perthnasol i gynnwys dim llai nag 11 o aelodau a dim mwy nag 21 o aelodau o’r awdurdod. Mewn perthynas â wardiau amlaelod, un aelod o’r ward yn unig sy’n gymwys i gael ei benodi i bwyllgor neu is-bwyllgor. Nid yw’r cyfyngiad ar benodi un aelod yn unig yn gymwys pan fo awdurdod cynllunio lleol yn cynnwys wardiau amlaelod yn unig.

Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan Lywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.llyw.cymru.

(1)

1990 p. 8. Mewnosodwyd adrannau 319ZB a 319ZC yn y Ddeddf honno gan adran 39(1) o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4).

(2)

Diwygiwyd adran 333 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 gan adran 55 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 a pharagraff 3 o Atodlen 7 iddi. Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(3)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler y cofnod yn Atodlen 1 i Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi.

(4)

Gweler adran 319ZD o Ddeddf 1990 ar gyfer y diffiniad o “relevant local planning authority”.

(6)

Gweler adran 319ZD ar gyfer y diffiniad o “relevant function”.

(7)

Caniateir cyfansoddi bwrdd cydgynllunio ar gyfer ardal yng Nghymru drwy orchymyn o dan adran 2(1B) o Ddeddf 1990.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources