- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Gwnaed
5 Ebrill 2017
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 58 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015(1).
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol) 2017.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(2);
ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Cynllunio (Cymru) 2015.
2. Y diwrnod penodedig i adran 54 o Ddeddf 2015 ddod i rym, i’r graddau nad yw eisoes mewn grym, yw 10 Ebrill 2017.
3. Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2015 ddod i rym, i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, yw 5 Mai 2017—
(a)adran 39;
(b)adrannau 47 a 48;
(c)adran 50;
(d)adran 51; ac
(e)paragraffau 15 i 19, 21, 23, 25 a 27 o Atodlen 5.
4.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan gaiff hysbysiad o apêl ei gyflwyno mewn perthynas â chais a wnaed cyn 5 Mai 2017 o dan—
(a)adrannau 78 a 195 o Ddeddf 1990;
(b)adran 20 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990(3) (“y Ddeddf Adeiladau Rhestredig”);
(c)adran 21 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990(4) (“y Ddeddf Sylweddau Peryglus”).
(2) Mae Deddf 1990, y Ddeddf Adeiladau Rhestredig a’r Ddeddf Sylweddau Peryglus yn eu trefn yn gymwys i’r apêl berthnasol a’r cais y mae’r apêl honno yn berthnasol iddo fel pe na bai’r diwygiadau a wneir gan adran 47 o Ddeddf 2015 wedi eu gwneud.
5. Pan fo apêl yn cael ei gwneud o dan adran 217 o Ddeddf 1990 yn erbyn hysbysiad o dan adran 215 o’r Ddeddf honno a gyflwynwyd cyn 5 Mai 2017, mae Deddf 1990 yn gymwys i’r apêl honno fel pe na bai’r diwygiadau a wneir gan adran 48 o Ddeddf 2015 wedi eu gwneud.
Jane Hutt
Un o Weinidogion Cymru
5 Ebrill 2017
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw’r pedwerydd gorchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”).
Mae erthygl 2 yn dwyn adran 54 (ceisiadau i ddiwygio cofrestrau: pŵer i wneud darpariaeth ynghylch ffioedd) o Ddeddf 2015 i rym, i’r graddau nad yw eisoes mewn grym, ar 10 Ebrill 2017.
Mae erthygl 3 yn dwyn y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2015 i rym, i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, ar 5 Mai 2017—
adran 39 (arfer swyddogaethau awdurdod cynllunio lleol sy’n ymwneud â cheisiadau);
adran 47 (dim amrywio ar gais ar ôl cyflwyno hysbysiad am apêl yn erbyn penderfyniad cynllunio);
adran 48 (apelio yn erbyn hysbysiad mewn cysylltiad â thir sy’n cael effaith andwyol ar amwynder);
adran 50 (y weithdrefn ar gyfer achosion penodol); ac
adran 51 a pharagraffau 15 i 19, 21, 23, 25 a 27 o Atodlen 5 (costau a’r weithdrefn wrth apelio etc: diwygiadau pellach).
Mae erthyglau 4 a 5 yn cynnwys darpariaethau trosiannol.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2015 wedi eu dwyn i rym gan Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 2 | 1 Ebrill 2016 | O.S. 2015/1987 (Cy. 297) (C. 123) |
Adran 3 (i’r graddau y mae’n rhoi adrannau newydd 60, 60A a 60B yn lle adran 60 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004) | 4 Ionawr 2016 | O.S. 2015/1987 (Cy. 297) (C. 123) |
Adran 4 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 5 Hydref 2015 | O.S. 2015/1736 (Cy. 237) (C. 106) |
Adrannau 11 i 14 (i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) | 4 Ionawr 2016 | O.S. 2015/1987 (Cy. 297) (C. 123) |
Adran 15(1) a (2) (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 16 Mawrth 2016 | O.S. 2015/1987 (Cy. 297) (C. 123) |
Adran 15(3) | 1 Ebrill 2016 | O.S. 2015/1987 (Cy. 297) (C. 123) |
Adrannau 17 i 22 (i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) | 1 Mawrth 2016 | O.S. 2016/52 (Cy. 22) (C. 4) |
Adrannau 24 i 27 (i’r graddau y maent yn ymwneud â datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol a chydsyniadau eilaidd) | 1 Mawrth 2016 | O.S. 2016/52 (Cy. 22) (C. 4) |
Adrannau 28 i 30 (i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) | 16 Mawrth 2016 | O.S. 2016/52 (Cy. 22) (C. 4) |
Adran 31 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 4 Ionawr 2016 | O.S. 2015/1987 (Cy. 297) (C. 123) |
Adran 32 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 16 Mawrth 2016 | O.S. 2016/52 (Cy. 22) (C. 4) |
Adrannau 33 a 34 (i’r graddau y maent yn ymwneud â datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol a chydsyniadau eilaidd) | 1 Mawrth 2016 | O.S. 2016/52 (Cy. 22) (C. 4) |
Adrannau 33 i 38 (i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) | 16 Mawrth 2016 | O.S. 2016/52 (Cy. 22) (C. 4) |
Adrannau 40 i 42 (i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) | 16 Mawrth 2016 | O.S. 2015/1987 (Cy. 297) (C. 123) |
Adrannau 43 i 46 (i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) | 16 Mawrth 2016 | O.S. 2016/52 (Cy. 22) (C. 4) |
Adran 49 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 1 Mawrth 2016 | O.S. 2016/52 (Cy. 22) (C. 4) |
Adran 50 (i’r graddau y mae’n ymwneud â datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol a chydsyniadau eilaidd) | 1 Mawrth 2016 | O.S. 2016/52 (Cy. 22) (C. 4) |
Adran 51 (i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau o Atodlen 5 a restrir isod) | 1 Mawrth 2016 | O.S. 2016/52 (Cy. 22) (C. 4) |
Rhan 1 o Atodlen 1 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym) | 5 Hydref 2015 | O.S. 2015/1736 (Cy. 237) (C. 106) |
Atodlen 3 (i’r graddau y mae’n ymwneud â datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol a chydsyniadau eilaidd) | 1 Mawrth 2016 | O.S. 2016/52 (Cy. 22) (C. 4) |
Atodlen 4 (i’r graddau y mae’n ymwneud â datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol a chydsyniadau eilaidd) | 1 Mawrth 2016 | O.S. 2016/52 (Cy. 22) (C. 4) |
Atodlen 5: paragraffau 1-14; paragraff 16(1) i’r graddau y mae’n ymwneud ag is-baragraff (2), ac is-baragraff (2); paragraff 18 i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 5(4) o Atodlen 8 i Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990; paragraff 19 i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraff 20 a pharagraff 21(1), (2)(a) a (b); paragraff 20; paragraff 21(1) i’r graddau y mae’n ymwneud ag is-baragraff (2)(a) a (b), ac is-baragraff (2)(a) a (b); paragraff 22; paragraff 23 i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraffau 24, 25(1), 25(2)(a) a (b), a 26; paragraff 24; paragraff 25(1), (2)(a) a (b); a pharagraff 26. | 1 Mawrth 2016 | O.S. 2016/52 (Cy. 22) (C. 4) |
Gweler adran 58(1) o Ddeddf 2015 ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar y diwrnod y cafodd Deddf 2015 y Cydsyniad Brenhinol(5) ac adran 58(2) ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym 2 fis ar ôl i Ddeddf 2015 gael y Cydsyniad Brenhinol.
Cafodd Deddf 2015 y Cydsyniad Brenhinol ar 6 Gorffennaf 2015.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: