- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
19.—(1) Pan benderfynwyd cynnal ymchwiliad cyhoeddus, caiff yr arolygydd, os yw’n ystyried ei bod yn ddymunol, gynnal cyfarfod cyn yr ymchwiliad i bennu pa faterion i fynd i’r afael â hwy a’r weithdrefn i’w dilyn yn yr ymchwiliad.
(2) Os yw’r arolygydd yn penderfynu cynnal cyfarfod cyn yr ymchwiliad, rhaid rhoi hysbysiad o ddim llai na 14 diwrnod calendr yn ysgrifenedig i—
(a)y ceisydd, yn achos cais;
(b)yr awdurdod cofrestru;
(c)unrhyw berson sydd wedi gwneud sylwadau ysgrifenedig ynghylch y cynnig neu’r cais; a
(d)unrhyw berson arall y mae’r arolygydd yn ystyried ei bod yn ddymunol iddo fod yn bresennol yn y cyfarfod cyn yr ymchwiliad.
(3) Mae paragraffau (2) a (4) i (7) o reoliad 18 (i’r graddau y maent yn berthnasol) yn gymwys i gyfarfodydd cyn yr ymchwiliad fel y maent yn gymwys i ymchwiliadau.
(4) Caiff yr arolygydd, mewn cyfarfod cyn yr ymchwiliad—
(a)rhoi cyfar0wyddydau ynghylch pethau sydd i’w gwneud i baratoi ar gyfer yr ymchwiliad i—
(i)y ceisydd, yn achos cais;
(ii)yr awdurdod cofrestru; a
(iii)unrhyw berson arall sy’n dymuno ymddangos yn yr ymchwiliad; a
(b)pennu dyddiad neu ddyddiadau erbyn pryd y mae’n rhaid cydymffurfio ag unrhyw gyfryw gyfarwyddydau.
(5) Yn benodol, caiff yr arolygydd roi cyfarwyddyd i unrhyw berson sy’n dymuno rhoi tystiolaeth i gyflwyno datganiad ysgrifenedig o’r dystiolaeth honno i—
(a)yr arolygydd; a
(b)personau eraill y caiff yr arolygydd eu pennu.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: