Search Legislation

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017 (heb Atodlenni)

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 31/12/2020

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/04/2019.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.

RHAN 1LL+CCyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwysoLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 16 Mai 2017.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(4Mewn perthynas â chais am ganiatâd cynllunio a wneir i Weinidogion Cymru, mae Rhannau 2 i 7 o’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r graddau ac yn y ffordd a nodir yn Rhan 7 yn unig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

DehongliLL+C

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “ardal sensitif” (“sensitive area”) yw unrhyw un o’r canlynol—

(a)

tir hysbysedig o dan adran 28(1) (safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(1);

(b)

Parc Cenedlaethol o fewn ystyr Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949(2);

(c)

eiddo sy’n ymddangos ar Restr Treftadaeth y Byd a gedwir o dan Erthygl 11(2) o Gonfensiwn UNESCO ynghylch Diogelu Treftadaeth Ddiwylliannol a Naturiol y Byd 1972(3);

(d)

heneb gofrestredig o fewn ystyr Deddf Henebion a Mannau Archaeolegol 1979(4);

(e)

ardal a ddynodwyd yn ardal o harddwch naturiol eithriadol gan orchymyn a wnaed o dan adran 82(2) (ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000(5);

(f)

safle Ewropeaidd;

ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodir gan Weinidogion Cymru i benderfynu ar apêl;

ystyr “asesiad o’r effaith amgylcheddol” (“environmental impact assessment”) yw’r broses a ddisgrifir yn rheoliad 4(1);

ystyr “awdurdod cynllunio perthnasol” (“relevant planning authority”) yw’r corff sy’n gyfrifol, a oedd yn gyfrifol neu a fyddai’n gyfrifol am benderfynu ar gais am ganiatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad dan sylw, oni bai—

(a)

bod y datblygiad yn ddatblygiad o arwyddocâd cenedlaethol at ddibenion adran 62D o Ddeddf 1990(6); neu

(b)

am gyfarwyddyd o dan adran 77 o Ddeddf 1990 (atgyfeirio ceisiadau at yr Ysgrifennydd Gwladol)(7);

mae i “barn gwmpasu” (“scoping opinion”) yr ystyr a roddir iddi gan reoliad 14(1);

ystyr “barn sgrinio” (“screening opinion”) yw barn ysgrifenedig yr awdurdod cynllunio perthnasol ynghylch a yw datblygiad yn ddatblygiad AEA:

ystyr “cais AEA” (“EIA application”) yw—

(a)

cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad AEA; neu

(b)

cais dilynol mewn cysylltiad â datblygiad AEA;

ystyr “cais Atodlen 1” (“Schedule 1 application”) a “cais Atodlen 2” (“Schedule 2 application”) yw cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad Atodlen 1 a datblygiad Atodlen 2 yn ôl eu trefn;

ystyr “cais dilynol” (“subsequent application”) yw cais am gydsyniad, cytundeb neu gymeradwyaeth ar fater—

(a)

sy’n ofynnol gan neu o dan amod y mae caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig iddi; a

(b)

y mae’n rhaid ei gael neu ei chael cyn y caniateir dechrau ar y datblygiad cyfan neu ar ran ohono a ganiateir gan y caniatâd cynllunio;

ystyr “cofrestr” (“register”) yw cofrestr a gedwir yn unol ag adran 69 o Ddeddf 1990 (cofrestrau o geisiadau etc.)(8) ac ystyr “cofrestr briodol” (“appropriate register”) yw’r gofrestr y rhoddwyd manylion am gais am ganiatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad perthnasol arni neu y byddent yn cael eu rhoi arni pe gwnaed cais o’r fath;

ystyr “corff cychwyn” (“initiating body”) yw’r awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru, fel y bo’n briodol, pan fônt yn bwriadu gwneud gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102;

ystyr “cydsyniad dilynol” (“subsequent consent”) yw cydsyniad, cytundeb neu gymeradwyaeth a roddir yn unol â chais dilynol;

mae i “cyfarwyddyd cwmpasu” (“scoping direction”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 14(7);

ystyr “cyfarwyddyd sgrinio” (“screening direction”) yw cyfarwyddyd a wneir gan Weinidogion Cymru ynghylch pa un a yw datblygiad yn ddatblygiad AEA;

ystyr “datblygiad AEA” (“EIA development”) yw datblygiad sydd naill ai—

(a)

yn ddatblygiad Atodlen 1; neu

(b)

yn ddatblygiad Atodlen 2 sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd yn rhinwedd ffactorau fel ei natur, ei faint neu ei leoliad;

ystyr “datblygiad Atodlen 1” (“Schedule 1 >development”) yw datblygiad, heblaw datblygiad esempt, o ddisgrifiad a grybwyllir yn Atodlen 1;

ystyr “datblygiad Atodlen 2” (“Schedule 2 development”) yw datblygiad, heblaw datblygiad esempt, o ddisgrifiad a grybwyllir yng Ngholofn 1 y tabl yn Atodlen 2—

(a)

pan fo’n rhaid cyflawni unrhyw ran o’r datblygiad hwnnw mewn ardal sensitif; neu

(b)

pan fodlonir neu y rhagorir ar unrhyw drothwy neu faen prawf cymwys yn rhan gyfatebol Colofn 2 o’r tabl hwnnw mewn perthynas â’r datblygiad hwnnw;

ystyr “datblygiad esempt” (“exempt development”) yw datblygiad y mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd mewn cysylltiad ag ef o dan reoliad 5(4);

ystyr “datganiad amgylcheddol” (“environmental statement”) yw datganiad fel y’i disgrifir yn rheoliad 17;

ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;

ystyr “Deddf 1991” (“the 1991 Act”) yw Deddf Cynllunio a Digolledu 1991(9);

ystyr “Deddf 1995” (“the 1995 Act”) yw Deddf yr Amgylchedd 1995(10);

ystyr “deddfwriaeth yr Undeb” (“Union legislation”) yw unrhyw ddeddfiad sy’n gymwys o ran Cymru sy’n rhoi effaith i un o rwymedigaethau’r UE;

ystyr “drwy hysbyseb leol” (“by local advertisement”), mewn perthynas â hysbysiad, yw—

(a)

drwy gyhoeddi’r hysbysiad mewn papur newydd sy’n cylchredeg yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli; a

(b)

drwy gyhoeddi’r hysbysiad ar wefan yr awdurdod cynllunio perthnasol;

ystyr “Gorchymyn 2012” (“the 2012 Order”) yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012(11);

ystyr “Gorchymyn 2016” (“the 2016 Order”) yw Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016(12);

ystyr “gorchymyn adran 97” (“section 97 order”) yw—

(a)

gorchymyn awdurdod cynllunio lleol o dan adran 97(1) o Ddeddf 1990 (pŵer i ddirymu neu addasu caniatâd cynllunio); neu

(b)

gorchymyn Gweinidogion Cymru o dan adran 100(1) o Ddeddf 1990 (dirymu ac addasu caniatâd cynllunio);

ystyr “gorchymyn adran 102” (“section 102 order”) yw—

(a)

gorchymyn awdurdod cynllunio lleol o dan adran 102 o Ddeddf 1990; neu

(b)

gorchymyn Gweinidogion Cymru i’r perwyl hwnnw yn unol ag adran 104(1) o Ddeddf 1990 (gorchmynion sy’n ei gwneud yn ofynnol peidio â pharhau i ddefnyddio adeiladau neu weithfeydd neu eu haddasu neu eu diddymu);

ystyr “gorchymyn datblygu lleol” (“local development order”) yw gorchymyn datblygu lleol a wneir yn unol ag adran 61A o Ddeddf 1990(13);

ystyr “gwybodaeth amgylcheddol” (“environmental information”) yw’r datganiad amgylcheddol, gan gynnwys unrhyw wybodaeth bellach ac unrhyw wybodaeth arall, unrhyw sylwadau a wneir gan unrhyw ymgynghorai ac unrhyw sylwadau a wneir yn briodol gan unrhyw berson arall ynghylch effeithiau amgylcheddol y datblygiad;

mae i “gwybodaeth bellach” (“further information”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 24(1);

ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb 2011/92/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar yr asesiad o effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd(14);

ystyr “mesur monitro” (“monitoring measure”) yw darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i fonitro unrhyw effeithiau andwyol sylweddol ar amgylchedd datblygiad arfaethedig, gan gynnwys unrhyw fesurau sydd wedi eu cynnwys—

(a)

mewn amod a osodir ar roi’r caniatâd cynllunio; neu

(b)

mewn rhwymedigaeth gynllunio;

mae i “prif gyngor” yr ystyr a roddir i “principal council” gan adran 270(1) (darpariaethau cyffredinol ynghylch dehongli) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(15);

ystyr “safle Ewropeaidd” (“European site”) yw safle o fewn ystyr [F1reoliad 8(1) o Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017] (16);

ystyr “y tir” (“the land”) yw’r tir y byddai’r datblygiad yn digwydd arno neu, mewn perthynas â datblygiad sydd wedi digwydd yn barod, y tir y mae’r datblygiad wedi digwydd arno;

ystyr “tŷ annedd” (“dwellinghouse”) yw adeilad neu ran o adeilad sy’n cael ei ddefnyddio fel annedd preifat sengl ac i ddim diben arall;

mae “unrhyw berson penodol” (“any particular person”) yn cynnwys unrhyw sefydliad anllywodraethol sy’n hyrwyddo diogelu’r amgylchedd;

ystyr “unrhyw wybodaeth arall” (“any other information”) yw unrhyw wybodaeth arall o sylwedd sy’n ymwneud â’r datganiad amgylcheddol ac a ddarparwyd gan y ceisydd neu’r apelydd yn ôl y digwydd;

ystyr “yr ymgynghoreion” (“the consultees”) yw—

(a)

mewn cysylltiad â chais am ganiatâd cynllunio a wneir i Weinidogion Cymru, unrhyw awdurdod, corff neu berson y mae’n ofynnol iddynt ymgynghori ag ef yn rhinwedd erthygl 22 o Orchymyn 2016 (cyfnodau amser ar gyfer penderfyniad), neu y byddai’n ofynnol iddynt ymgynghori â hwy pe bai cais am ganiatâd cynllunio ger eu bron, a’r cyrff y cyfeirir atynt yn is-baragraff (c) os na chyfeiriwyd atynt yn barod yn yr is-baragraff hwn;

(b)

unrhyw gorff y mae’n ofynnol i’r awdurdod cynllunio perthnasol ymgynghori ag ef, neu y byddai’n ofynnol iddo ymgynghori ag ef, pe byddai cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad dan sylw ger ei fron, yn rhinwedd erthygl 14 o Orchymyn 2012 (ymgynghoriadau cyn rhoi caniatâd) neu o unrhyw gyfarwyddyd o dan yr erthygl honno a’r cyrff y cyfeirir atynt yn is-baragraff (c) os na chyfeirir atynt yn barod yn yr is-baragraff hwn;

(c)

y cyrff canlynol—

(i)

unrhyw brif gyngor ar gyfer yr ardal lle mae’r tir wedi ei leoli, os nad yr awdurdod cynllunio perthnasol;

(ii)

Corff Adnoddau Naturiol Cymru(17);

(iii)

cyrff eraill a ddynodir gan ddarpariaeth statudol fel cyrff sydd â chyfrifoldebau amgylcheddol penodol ac y mae’r awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd, yn ystyried ei bod yn debygol y bydd ganddynt ddiddordeb yn y cais.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), yr un ystyr sydd i’r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Neddf 1990 at ddibenion y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt at ddibenion Deddf 1990.

(3Yr un ystyr sydd i’r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn y Gyfarwyddeb at ddibenion y Rheoliadau hyn (pa un a ydynt yn cael eu defnyddio yn Neddf 1990 ai peidio) ag sydd iddynt at ddibenion y Gyfarwyddeb.

(4Yn y Rheoliadau hyn, rhaid peidio â dehongli cyfeiriadau at Weinidogion Cymru fel cyfeiriadau at arolygydd.

(5Pan ganiateir i berson, neu pan fo’n ofynnol i berson nodi, rhoi gwybod, gofyn, cadarnhau, hysbysu neu gyflwyno sylwadau, rhaid i’r person hwnnw wneud hynny’n ysgrifenedig.

(6Caniateir cyflwyno neu roi unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall y mae’n rhaid eu hanfon, eu cyflwyno neu eu rhoi o dan y Rheoliadau hyn mewn modd a bennir yn adran 329 o Ddeddf 1990 (cyflwyno hysbysiadau)(18).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Gwaharddiad ar roi caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol heb asesiad o’r effaith amgylcheddolLL+C

3.  Ni chaniateir i awdurdod cynllunio perthnasol, Gweinidogion Cymru nac arolygydd roi caniatâd cynllunio na chydsyniad dilynol ar gyfer datblygiad AEA oni bai y cynhaliwyd asesiad o’r effaith amgylcheddol mewn cysylltiad â’r datblygiad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Asesiad o’r effaith amgylcheddolLL+C

4.—(1Mae’r asesiad o’r effaith amgylcheddol yn broses sy’n cynnwys—

(a)llunio datganiad amgylcheddol gan y person sy’n gofyn am ganiatâd cynllunio neu’n cychwyn caniatâd cynllunio;

(b)unrhyw ymgynghoriad, cyhoeddiad a hysbysiad sy’n ofynnol gan Rannau 5, 9 a, phan fo’n berthnasol, Rhan 12 o’r Rheoliadau hyn, Gorchymyn 2012 neu Orchymyn 2016, mewn cysylltiad â datblygiad AEA; ac

(c)y camau sy’n ofynnol o dan reoliad 25(1).

(2Rhaid i’r asesiad o’r effaith amgylcheddol nodi, disgrifio ac asesu mewn modd priodol, yng ngoleuni pob achos unigol, effeithiau sylweddol uniongyrchol ac anuniongyrchol datblygiad arfethedig ar y canlynol—

(a)y boblogaeth ac iechyd pobl;

(b)bioamrywiaeth, gan roi sylw penodol i rywogaethau a chynefinoedd a warchodir o dan Gyfarwyddeb 92/43/EEC(19) a Chyfarwyddeb 2009/147/EC(20);

(c)tir, pridd, dŵr, aer a’r hinsawdd;

(d)asedau perthnasol, treftadaeth ddiwylliannol a’r dirwedd; ac

(e)y rhyngweithio rhwng y ffactorau a restrir yn is-baragraffau (a) i (d).

(3Rhaid i’r effeithiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) ar y ffactorau a nodir yn y paragraff hwnnw gynnwys—

(a)effeithiau gweithredol y datblygiad arfaethedig, pan fydd y datblygiad arfaethedig yn cael effeithiau gweithredol; a

(b)yr effeithiau disgwyliedig sy’n deillio o’r graddau y mae’r datblygiad arfaethedig yn agored i’r perygl o ddamweiniau difrifol a thrychinebau sy’n berthnasol i’r datblygiad hwnnw.

(4Rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd, sicrhau eu bod yn meddu ar arbenigedd digonol i archwilio’r datganiad amgylcheddol, neu sicrhau bod y fath arbenigedd ar gael iddynt fel y bo angen.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2LL+CSgrinio

Darpariaethau cyffredinol sy’n ymwneud â sgrinioLL+C

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), bydd digwyddiad a grybwyllir ym mharagraff (2) yn penderfynu at ddiben y Rheoliadau hyn bod datblygiad yn ddatblygiad AEA.

(2Y digwyddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)cyflwyno datganiad mewn perthynas â’r datblygiad hwnnw gan y ceisydd neu’r apelydd y mae’r ceisydd neu’r apelydd yn cyfeirio ato fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn; neu

(b)mabwysiadu barn sgrinio i’r perwyl bod y datblygiad yn ddatblygiad AEA gan yr awdurdod cynllunio perthnasol.

(3Mae cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru yn penderfynu pa un a yw datblygiad yn ddatblygiad AEA ai peidio at ddiben y Rheoliadau hyn.

(4Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo nad yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â datblygiad arfaethedig penodol a bennir yn y cyfarwyddyd—

(a)yn unol ag Erthygl 2(4) o’r Gyfarwyddeb (heb leihau effaith Erthygl 7 o’r Gyfarwyddeb) pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn y byddai cymhwyso’r Rheoliadau hyn yn cael effaith andwyol ar ddiben y datblygiad;

(b)os yw’r datblygiad yn brosiect, neu’n ffurfio rhan o brosiect, sydd â’r diben o ymateb i argyfyngau sifil yn unig, a bod Gweinidogion Cymru o’r farn y byddai cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn yn cael effaith andwyol ar y diben hwnnw.

(5Pan roddir cyfarwyddyd o dan baragraff (4)(a) neu (4)(b) rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o unrhyw gyfarwyddyd o’r fath i’r awdurdod cynllunio perthnasol.

(6Pan roddir cyfarwyddyd o dan baragraff (4)(a) rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)sicrhau bod yr wybodaeth a ystyriwyd wrth wneud y cyfarwyddyd a’r rhesymau dros wneud y cyfarwyddyd ar gael i’r cyhoedd;

(b)ystyried pa un a fyddai math arall o asesiad yn briodol; a

(c)cymryd unrhyw gamau y maent yn ystyried sy’n briodol er mwyn dod â’r wybodaeth a gafwyd o dan y math arall o asesiad i sylw’r cyhoedd.

F2(7. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(8Pan fo’n rhaid i awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru benderfynu o dan y Rheoliadau hyn pa un a yw datblygiad Atodlen 2 yn ddatblygiad AEA, rhaid i’r awdurdod neu Weinidogion Cymru ystyried y canlynol wrth wneud y penderfyniad hwnnw—

(a)unrhyw wybodaeth a ddarperir gan y person sy’n bwriadu gwneud datblygiad;

(b)y canlyniadau sydd ar gael o asesiadau amgylcheddol eraill a gynhaliwyd yn unol â deddfwriaeth yr Undeb ac eithrio deddfwriaeth sy’n gweithredu gofynion y Gyfarwyddeb; ac

(c)y fath meini prawf dethol a nodir yn Atodlen 3 sy’n berthnasol i’r datblygiad.

(9Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn mabwysiadu barn sgrinio, neu pan wneir cyfarwyddyd sgrinio gan Weinidogion Cymru—

(a)rhaid i’r farn honno neu’r cyfarwyddyd hwnnw ddatgan y prif resymau dros ddod i’r casgliad hwnnw gan yr awdurdod neu Weinidogion Cymru, fel y bo’n briodol, gan gyfeirio at y meini prawf perthnasol a restrir yn Atodlen 3;

(b)os penderfynir nad yw’r datblygiad arfaethedig yn ddatblygiad AEA, rhaid i’r farn honno neu’r cyfarwyddyd hwnnw ddatgan unrhyw nodweddion sy’n perthyn i’r datblygiad arfaethedig a’r mesurau a ragwelir i osgoi neu atal yr hyn a allai fel arall fod wedi bod yn effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd.

(10Rhaid i’r awdurdod neu Weinidogion Cymru, fel y bo’n briodol, anfon copi o’r farn neu’r cyfarwyddyd at y person sy’n bwriadu gwneud y datblygiad dan sylw, neu sydd wedi gwneud y datblygiad hwnnw.

(11Caiff Gweinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio naill ai—

(a)o’u hewyllys eu hunain; neu

(b)os gofynnir iddynt wneud hynny gan unrhyw berson.

(12Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod datblygiad penodol o ddisgrifiad a grybwyllir yng Ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 2 yn ddatblygiad AEA er gwaethaf y ffaith nad yw’r naill na’r llall o is-baragraffau (a) a (b) o’r diffiniad o “datblygiad Atodlen 2” wedi eu bodloni mewn perthynas â’r datblygiad hwnnw.

(13Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd sgrinio yn unol â pharagraff (11), rhaid iddynt—

(a)cymryd y fath gamau sy’n ymddangos yn rhesymol iddynt hwy o dan yr amgylchiadau, gan roi sylw i ofynion rheoliad 6(2) a (4), i gael gwybodaeth am y datblygiad arfaethedig er mwyn hysbysu cyfarwyddyd sgrinio;

(b)cymryd i ystyriaeth wrth wneud y cyfarwyddyd hwnnw—

(i)yr wybodaeth a gesglir yn unol ag is-baragraff (a);

(ii)y canlyniadau sydd ar gael o asesiadau amgylcheddol eraill a gynhaliwyd yn unol â deddfwriaeth yr Undeb ac eithrio deddfwriaeth sy’n gweithredu gofynion y Gyfarwyddeb; a

(iii)y fath rai o’r meini prawf dethol a nodir yn Atodlen 3 sy’n berthnasol i’r datblygiad; ac

(c)dyroddi cyfarwyddyd sgrinio o fewn 90 o ddiwrnodau i’r dyddiad y mae Gweinidogion Cymru wedi cael digon o wybodaeth i wneud cyfarwyddyd.

(14Pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried, oherwydd amgylchiadau eithriadol sy’n ymwneud ag amgylchiadau’r datblygiad arfaethedig, nad yw’n ymarferol iddynt fabwysiadu cyfarwyddyd sgrinio o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (13)(c), caiff Gweinidogion Cymru estyn y cyfnod hwnnw drwy hysbysiad a roddir i’r person a ofynodd am gyfarwyddyd sgrinio.

(15Rhaid i Weinidogion Cymru ddatgan mewn unrhyw hysbysiad a roddir o dan baragraff (14) y rhesymau sy’n cyfiawnhau’r estyniad a dyddiad disgwyliedig y penderfyniad.

(16Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o unrhyw gyfarwyddyd sgrinio i’r awdurdod cynllunio perthnasol.

Achosion o ofyn am farnau sgrinioLL+C

6.—(1Caiff person sy’n bwriadu cynnal datblygiad ofyn i’r awdurdod cynllunio perthnasol fabwysiadu barn sgrinio.

(2Rhaid i gais am farn sgrinio mewn perthynas â chais am ganiatâd cynllunio ddod gyda—

(a)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;

(b)disgrifiad o’r datblygiad, gan gynnwys yn benodol—

(i)disgrifiad o nodweddion ffisegol y datblygiad a, phan fo’n berthnasol, y gwaith dymchwel;

(ii)disgrifiad o leoliad y datblygiad, gan roi sylw penodol i sensitifrwydd amgylcheddol yr ardaloedd daearyddol sy’n debygol o gael eu heffeithio;

(c)disgrifiad o’r agweddau ar yr amgylchedd y mae’r datblygiad yn debygol o gael effaith sylweddol arnynt;

(d)disgrifiad o unrhyw effeithiau sylweddol y mae’r datblygiad arfaethedig yn debygol o’u cael ar yr amgylchedd, i’r graddau y mae gwybodaeth ar gael ar yr effeithiau hynny, o ganlyniad i—

(i)y gwaddodion a’r allyriadau disgwyliedig a’r gwastraff a gynhyrchir, pan fo’n berthnasol; a

(ii)y defnydd o adnoddau naturiol, yn enwedig pridd, tir, dŵr a bioamrywiaeth; ac

(e)y fath wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r person sy’n gwneud y cais ddymuno eu darparu neu eu cyflwyno gan gynnwys unrhyw rai o nodweddion y datblygiad arfaethedig neu unrhyw fesurau a ragwelir i osgoi neu atal yr hyn a allai fel arall fod wedi bod yn effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd.

(3Rhaid i gais am farn sgrinio mewn perthynas â chais dilynol ddod gyda—

(a)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;

(b)digon o wybodaeth i alluogi’r awdurdod cynllunio perthnasol i ganfod unrhyw ganiatâd cynllunio a roddwyd ar gyfer y datblygiad y gwnaed cais dilynol mewn cysylltiad ag ef;

(c)yr wybodaeth a ddisgrifir ym mharagraff (2)(c) a (d), ond dim ond i’r graddau y mae hyn yn ymwneud ag effeithiau sylweddol tebygol ar yr amgylchedd nas nodwyd yn flaenorol; a

(d)y fath wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r person sy’n gwneud y cais ddymuno eu darparu neu eu cyflwyno, gan gynnwys unrhyw rai o nodweddion y datblygiad arfaethedig neu unrhyw fesurau a ragwelir i osgoi neu atal yr hyn a allai fel arall fod wedi bod yn effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd.

(4Rhaid i’r person sy’n gwneud y cais am y farn sgrinio, pan fo’r person hwnnw yn darparu’r wybodaeth sy’n ofynnol gan baragraff (2) neu (3), gymryd i ystyriaeth y meini prawf yn Atodlen 3 a’r canlyniadau sydd ar gael o asesiadau amgylcheddol eraill a gynhaliwyd yn unol â deddfwriaeth yr Undeb ac eithrio deddfwriaeth o dan y Gyfarwyddeb.

(5Os nad yw awdurdod y gofynnir iddo am farn sgrinio yn ystyried ei fod wedi cael digon o wybodaeth i fabwysiadu barn, rhaid iddo roi gwybod i’r person sy’n gwneud y cais am ba bwyntiau y mae angen gwybodaeth ychwanegol arno.

(6Rhaid i awdurdod fabwysiadu barn sgrinio o fewn—

(a)21 o ddiwrnodau; neu

(b)y fath gyfnod hwy nad yw’n hwy na 90 o ddiwrnodau fel y cytunir yn ysgrifenedig â’r person sy’n gofyn am y farn sgrinio,

yn y naill achos neu’r llall, o’r dyddiad y mae’r person sy’n gofyn am y farn sgrinio yn cyflwyno’r wybodaeth sy’n ofynnol o dan baragraff (2) neu (3).

(7Rhaid i awdurdod sy’n mabwysiadu barn sgrinio yn unol â pharagraff (6) anfon copi at y person a ofynodd amdani.

(8Pan fo awdurdod—

(a)yn methu â mabwysiadu barn sgrinio yn unol â pharagraff (6); neu

(b)yn mabwysiadu barn i’r perwyl bod y datblygiad yn ddatblygiad AEA;

caiff y person a ofynnodd am y farn ofyn i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio.

(9Caiff y person ofyn am farn sgrinio yn unol â pharagraff (8) hyd yn oed os nad yw’r awdurdod wedi cael gwybodaeth ychwanegol y mae wedi ei cheisio o dan baragraff (5).

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Achosion o ofyn am gyfarwyddydau sgrinio oddi wrth Weinidogion CymruLL+C

7.—(1Rhaid i berson sy’n gofyn i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio yn unol â rheoliad 6(8) (“person sy’n gwneud cais”) gyflwyno’r canlynol gyda’r cais—

(a)copi o’r cais i’r awdurdod cynllunio perthnasol o dan reoliad 6(1) a’r dogfennau a ddaeth ynghyd â’r cais;

(b)copi o unrhyw hysbysiad a gafwyd o dan reoliad 6(5) ac unrhyw ymateb a anfonwyd;

(c)copi o unrhyw farn sgrinio a gafwyd gan yr awdurdod ac unrhyw ddatganiad o’r rhesymau a ddaeth ynghyd â’r farn; a

(d)unrhyw sylwadau y dymuna’r person eu gwneud.

(2Rhaid i berson sy’n gwneud cais anfon copi o’r cais hwnnw a’r sylwadau a wneir gan y person hwnnw i Weinidogion Cymru i’r awdurdod cynllunio perthnasol.

(3Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad oes digon o wybodaeth wedi ei darparu i wneud cyfarwyddyd sgrinio, rhaid iddynt roi hysbysiad i’r person sy’n gwneud y cais.

(4Rhaid i’r hysbysiad bennu’r pwyntiau y mae angen gwybodaeth ychwanegol amdanynt.

(5Caiff Gweinidogion Cymru hefyd ofyn i’r awdurdod cynllunio perthnasol ddarparu cymaint o wybodaeth ag y gall am unrhyw rai o’r pwyntiau hynny.

(6Rhaid i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio o fewn—

(a)21 o ddiwrnodau; neu

(b)y fath gyfnod hwy nad yw’n fwy na 90 o ddiwrnodau a all fod yn rhesymol ofynnol,

yn y naill achos neu’r llall, o’r dyddiad y mae’r person sy’n gofyn am y farn yn cyflwyno’r wybodaeth sy’n ofynnol o dan baragraff (1).

(7Pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried, oherwydd amgylchiadau eithriadol sy’n ymwneud â’r datblygiad arfaethedig, nad yw’n ymarferol iddynt fabwysiadu cyfarwyddyd sgrinio o fewn y cyfnod o 90 o ddiwrnodau, caiff Gweinidogion Cymru estyn y cyfnod hwnnw drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person a ofynodd am gyfarwyddyd sgrinio.

(8Rhaid i Weinidogion Cymru ddatgan mewn unrhyw hysbysiad o dan baragraff (7) y rhesymau sy’n cyfiawnhau’r estyniad a dyddiad disgwyliedig y penderfyniad.

(9Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o unrhyw gyfarwyddyd sgrinio a wneir yn unol â pharagraff (6) at y person a ofynnodd amdano, yr apelydd (os nad hwy yw’r person a ofynnodd amdano) a’r awdurdod cynllunio perthnasol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

RHAN 3LL+CGweithdrefnau Ynghylch Ceisiadau am Ganiatâd Cynllunio

Ceisiadau pan ymddengys bod barn sgrinio yn ofynnolLL+C

8.—(1Pan ymddengys i’r awdurdod cynllunio perthnasol—

(a)bod cais sydd ger ei fron i benderfynu arno yn gais Atodlen 1 neu’n gais Atodlen 2;

(b)nad yw’r datblygiad dan sylw wedi bod yn destun barn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio; a

(c)nad oes ynghyd â’r cais datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn,

mae paragraffau (5) a (6) o reoliad 6 yn gymwys fel pe bai cael neu gofnodi’r cais yn gais a wnaed o dan reoliad 6(1).

(2Pan fo rheoliad 6(4) yn gymwys yn rhinwedd y rheoliad hwn, rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol, pan fo’n angenrheidiol i sicrhau bod y ceisydd wedi darparu’r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 6(2), ac i’r graddau y bo hynny’n angenrheidiol, ofyn am wybodaeth ychwanegol cyn dyroddi barn sgrinio.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Ceisiadau dilynol pan ddarparwyd gwybodaeth amgylcheddol yn flaenorolLL+C

9.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan ymddengys i’r awdurdod cynllunio perthnasol—

(a)bod cais sydd ger ei fron i’w benderfynu—

(i)yn gais dilynol mewn perthynas â datblygiad Atodlen 1 neu ddatblygiad Atodlen 2;

(ii)heb fod yn destun barn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio ei hun; a

(iii)heb ei gyflwyno ynghyd â datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn; a

(b)bod y cais gwreiddiol wedi ei gyflwyno ynghyd â datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(2Pan ymddengys i’r awdurdod cynllunio perthnasol bod yr wybodaeth amgylcheddol sydd eisoes ger ei fron yn ddigonol ar gyfer asesu effeithiau sylweddol y datblygiad ar yr amgylchedd, rhaid iddo gymryd yr wybodaeth honno i ystyriaeth yn ei benderfyniad ynglŷn â chydsyniad dilynol.

(3Pan ymddengys i’r awdurdod cynllunio perthnasol nad yw’r wybodaeth amgylcheddol a gyflwynwyd ger ei fron eisoes yn ddigonol ar gyfer asesu effeithiau sylweddol y datblygiad ar y amgylchedd, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad yn ceisio gwybodaeth bellach yn unol â rheoliad 24(1).

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Ceisiadau dilynol pan na ddarparwyd gwybodaeth amgylcheddol ynghyd â hwy yn flaenorolLL+C

10.—(1Pan ymddengys i’r awdurdod cynllunio perthnasol—

(a)bod cais sydd ger ei fron i’w benderfynu—

(i)yn gais dilynol mewn perthynas â datblygiad Atodlen 1 neu ddatblygiad Atodlen 2;

(ii)heb fod yn destun barn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio ei hun; a

(iii)heb ei gyflwyno ynghyd â datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn; a

(b)bod y cais gwreiddiol heb ei gyflwyno ynghyd â datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn,

mae paragraffau (5) a (6) o reoliad 6 yn gymwys fel pe bai cael neu gofnodi’r cais yn ofyniad a wnaed o dan reoliad 6(1).

(2Pan fo paragraff (5) o reoliad 6 yn gymwys yn rhinwedd y rheoliad hwn, rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol, pan fo’n angenrheidiol i sicrhau bod y ceisydd wedi darparu’r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 6(2), ac i’r graddau sy’n angenrheidiol i sicrhau hynny, ofyn am wybodaeth ychwanegol cyn dyroddi barn sgrinio ac mae rheoliad 6(4) yn gymwys fel pe bai cael y cais neu ei gofnodi yn rhywbeth y gofynnwyd amdano o dan reoliad 6(1).

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Cais a wnaed i awdurdod cynllunio lleol heb ddatganiad amgylcheddolLL+C

11.—(1Pan nad oes datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn, yn cael ei gyflwyno â chais AEA i awdurdod cynllunio lleol er mwyn penderfynu arno, rhaid i’r awdurdod hysbysu’r ceisydd bod cyflwyno datganiad amgylcheddol yn ofynnol.

(2Pan fo’r awdurdod cynllunio perthnasol yn ymwybodol bod unrhyw berson penodol yn cael ei effeithio neu yn debygol o gael ei effeithio gan y cais, neu â diddordeb yn y cais, ac sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy gyfrwng cyhoeddiad electronig, hysbysiad ar y safle neu drwy hysbyseb leol, rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol hysbysu’r ceisydd am unrhyw berson o’r fath.

(3Rhaid i awdurdod hysbysu’r ceisydd yn unol â pharagraff (1)—

(a)o fewn 21 o ddiwrnodau yn dechrau â’r dyddiad y ceir y cais neu unrhyw gyfnod hwy y cytunir arno’n ysgrifenedig gyda’r ceisydd; neu

(b)pan fo Gweinidogion Cymru, ar ôl terfyn y 21 diwrnod hwnnw neu unrhyw gyfnod hwy y cytunwyd arno, yn gwneud cyfarwyddyd sgrinio i’r perwyl bod y datblygiad yn ddatblygiad AEA, o fewn 7 diwrnod yn dechrau â’r dyddiad y cafodd yr awdurdod gopi o’r cyfarwyddyd sgrinio hwnnw.

(4Caiff ceisydd sy’n cael hysbysiad yn unol â pharagraff (1) ysgrifennu at yr awdurdod o fewn 21 o ddiwrnodau yn dechrau gyda dyddiad yr hysbysiad, i ddatgan—

(a)bod y ceisydd yn derbyn ei farn ac yn darparu datganiad amgylcheddol; neu

(b)oni bai bod yr amod y cyfeirir ato ym mharagraff (5) yn cael ei fodloni, bod y ceisydd yn ysgrifennu at Weinidogion Cymru i ofyn am gyfarwyddyd sgrinio.

(5At ddiben paragraff (4)(b) yr amod yw bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd sgrinio mewn cysylltiad â’r datblygiad—

(a)yn achos cais am ganiatâd cynllunio; neu

(b)yn unol â chais dilynol,

yn ôl y digwydd.

(6Os nad yw’r ceisydd yn ysgrifennu at yr awdurdod yn unol â pharagraff (4), tybir bod y caniatâd neu’r cydsyniad dilynol a geisir wedi ei wrthod ar ddiwedd y cyfnod perthnasol o 21 o ddiwrnodau, oni bai bod yr amod y cyfeirir ato ym mharagraff (7) yn cael ei fodloni a bod y gwrthodiad tybiedig—

(a)yn cael ei drin fel penderfyniad yr awdurdod at ddibenion erthygl 29(3)(c) (cofrestr o geisiadau) o Orchymyn 2012; ond

(b)nad yw’n arwain at apêl i Weinidogion Cymru o dan adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath)(21).

(7At ddibenion paragraff (6) yr amod yw bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd sgrinio i’r perwyl nad yw’r datblygiad yn ddatblygiad AEA—

(a)yn achos cais am ganiatâd cynllunio; neu

(b)yn unol â chais dilynol,

yn ôl y digwydd.

(8Oni bai bod Gweinidogion Cymru yn gwneud cyfarwyddyd sgrinio nad yw’r datblygiad yn ddatblygiad AEA, rhaid i awdurdod sydd wedi rhoi hysbysiad yn unol â pharagraff (1) benderfynu ar y cais perthnasol drwy wrthod caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol os nad yw’r ceisydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol ac yn cydymffurfio â rheoliad 19(6).

(9Rhaid i berson sy’n gofyn am gyfarwyddyd sgrinio yn unol â pharagraff (4)(b) anfon copïau o’r canlynol at Weinidogion Cymru gyda’r gofyniad—

(a)y gofyniad i’r awdurdod cynllunio perthnasol o dan reoliad >6(1) a’r dogfennau a oedd yn dod gydag ef;

(b)unrhyw hysbysiad a wnaed o dan reoliad 6(4) ac unrhyw ymateb a anfonwyd gan y person hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol;

(c)y cais;

(d)pob dogfen a anfonwyd i’r awdurdod yn rhan o’r cais;

(e)pob gohebiaeth rhwng y ceisydd a’r awdurdod sy’n ymwneud â’r datblygiad arfaethedig;

(f)unrhyw ganiatâd cynllunio a roddwyd ar gyfer y datblygiad; ac

(g)yn achos cais dilynol, dogfennau neu wybodaeth berthnasol sy’n ymwneud â’r caniatâd cynllunio a roddwyd ar gyfer y datblygiad,

ac mae paragraffau (2) i (9) o reoliad 7 yn gymwys i ofyniad o dan y rheoliad hwn fel y maent yn gymwys i ofyniad a wneir yn unol â rheoliad 6(8).

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Cais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddolLL+C

12.—(1Pan fo cais wedi ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru i gael ei benderfynu o dan adran 77 o Ddeddf 1990 (atgyfeirio ceisiadau at Weinidogion Cymru)(22), ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru—

(a)ei fod yn gais Atodlen 1 neu’n gais Atodlen 2;

(b)bod y datblygiad dan sylw—

(i)heb fod yn destun barn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio; neu

(ii)yn achos cais dilynol, wedi bod yn destun barn neu gyfarwyddyd sgrinio cyn y rhoddwyd caniatâd cynllunio i’r perwyl nad oedd yn ddatblygiad AEA; ac

(c)nad oes datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn yn cael ei gyflwyno ynghyd â’r cais,

mae paragraffau (3) i (9) o reoliad 7 yn gymwys fel pe bai atgyfeiro’r cais yn gais a wnaed gan y ceisydd yn unol â rheoliad 6(8).

(2Pan fo rheoliad 7(3) yn gymwys yn rhinwedd y rheoliad hwn, rhaid i Weinidogion Cymru, pan fo’n angenrheidiol i sicrhau bod y ceisydd wedi darparu—

(a)yn achos ceisiadau, yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 6(2),

(b)yn achos ceisiadau dilynol, yr wybodaeth sy’n ofynnol gan reoliad 6(3),

wneud cais am wybodaeth ychwanegol cyn dyroddi cyfarwyddyd sgrinio ac mae rheoliad 6(4) yn gymwys fel pe bai atgyfeirio’r cais yn rhywbeth y mae’r ceisydd wedi gofyn amdano o dan reoliad 6(1).

(3Pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod cais a atgyfeiriwyd atynt i’w benderfynu yn gais AEA ond nad oes datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn yn dod gyda’r cais, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd bod cyflwyno datganiad amgylcheddol yn ofynnol a rhaid iddynt anfon copi o’r hysbysiad hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol.

(4Pan fo Gweinidogion Cymru yn ymwybodol bod unrhyw berson penodol yn cael ei effeithio neu yn debygol o gael ei effeithio gan y cais, neu â diddordeb yn y cais, ac sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy gyfrwng cyhoeddiad electronig, hysbysiad ar y safle neu drwy hysbyseb leol, rhaid iddynt hysbysu’r ceisydd am unrhyw berson o’r fath.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd yn unol â pharagraff (3) o fewn 21 o ddiwrnodau yn dechrau â’r dyddiad y cafwyd y cais neu unrhyw gyfnod hwy a all fod yn rhesymol ofynnol.

(6Caiff ceisydd sy’n cael hysbysiad o dan baragraff (3) gadarnhau i Weinidogion Cymru, o fewn 21 o ddiwrnodau yn dechrau gyda dyddiad yr hysbysiad, y darperir datganiad amgylcheddol.

(7Os nad yw’r ceisydd yn ysgrifennu yn unol â pharagraff (6), nid oes gan Weinidogion Cymru ddyletswydd i ymdrin â’r cais ac ar ddiwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau rhaid iddynt hysbysu’r ceisydd nad oes unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd o ran y cais.

(8Pan—

(a)fo hysbysiad wedi ei roi o dan baragraff (3), a

(b)nad yw’r ceisydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol sy’n cydymffurfio â rheoliad 19(6),

rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y cais perthnasol drwy wrthod caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 12 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Apêl i Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddolLL+C

13.—(1Pan ymddengys i Weinidogion Cymru, wrth ystyried apêl o dan adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath) bod—

(a)y cais perthnasol yn gais Atodlen 1 neu’n gais Atodlen 2; a

(b)y datblygiad dan sylw—

(i)heb fod yn destun barn sgrinio na chyfarwyddyd sgrinio; neu

(ii)yn achos cais dilynol, wedi bod yn destun barn neu gyfarwyddyd sgrinio cyn y rhoddwyd caniatâd cynllunio iddo i’r perwyl nad yw’n ddatblygiad AEA; ac

(c)y cais perthnasol heb gael ei gyflwyno ynghyd â datganiad y cyfeirir ato gan yr apelydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn,

mae paragraffau (3) i (9) o reoliad 7 yn gymwys fel pe bai’r apêl yn rhywbeth y gofynnodd yr apelydd amdani yn unol â rheoliad 6(8).

(2Pan fo arolygydd yn ymdrin ag apêl ac mae cwestiwn yn codi ynghylch pa un a yw’r cais perthnasol yn gais AEA ac yr ymddengys i’r arolygydd y gallai fod yn gais o’r fath, rhaid i’r arolygydd atgyfeirio’r cwestiwn hwnnw at Weinidogion Cymru ac ni chaiff benderfynu ar yr apêl cyn y gwneir cyfarwyddyd sgrinio, ac eithrio drwy wrthod caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol.

(3Mae paragraffau (3) i (9) o reoliad 7 yn gymwys i gwestiwn a atgyfeirir o dan baragraff (2) fel pe bai atgyfeirio’r cwestiwn hwnnw yn gais a wneir gan yr apelydd yn unol â rheoliad 6(8).

(4Pan fo rheoliad 7(3) yn gymwys yn rhinwedd paragraff (1) neu (3), rhaid i Weinidogion Cymru, pan fo’n angenrheidiol i sicrhau bod y ceisydd wedi darparu, yn achos—

(a)ceisiadau, yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 6(2); a

(b)ceisiadau dilynol, yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 6(3),

ofyn am wybodaeth ychwanegol cyn dyroddi cyfarwyddyd sgrinio ac mae rheoliad 6(4) yn gymwys fel pe bai atgyfeirio’r cais yn rhywbeth y mae’r ceisydd wedi gofyn amdano o dan reoliad 6(8).

(5Pan ymddengys i Weinidogion Cymru bod y cais perthnasol yn gais AEA ac nad yw’n cael ei gyflwyno ynghyd â datganiad y cyfeirir ato gan yr apelydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn, rhaid iddynt hysbysu’r apelydd bod cyflwyno datganiad amgylcheddol yn ofynnol.

(6Pan fo Gweinidogion Cymru yn ymwybodol bod unrhyw berson penodol yn cael ei effeithio neu yn debygol o gael ei effeithio gan y cais, neu â diddordeb yn y cais, ac sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy gyfrwng cyhoeddiad electronig, hysbysiad ar y safle neu drwy hysbyseb leol, rhaid iddynt hysbysu’r apelydd am unrhyw berson o’r fath.

(7Caiff apelydd sy’n cael hysbysiad o dan baragraff (5), gadarnhau i Weinidogion Cymru o fewn 21 o ddiwrnodau yn dechrau gyda dyddiad yr hysbysiad y bydd datganiad amgylcheddol yn cael ei ddarparu.

(8Os nad yw’r apelydd yn cadarnhau yn unol â pharagraff (7), nid oes gan Weinidogion Cymru, na’r arolygydd pan fo hynny’n berthnasol, ddyletswydd i ymdrin â’r apêl; ac ar ddiwedd y 21 o ddiwrnodau, rhaid i Weinidogion Cymru, neu’r arolygydd, hysbysu’r apelydd nad oes unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd o ran yr apêl.

(9Pan—

(a)fo hysbysiad wedi ei roi o dan baragraff (5), a

(b)nad yw’r apelydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol ac yn cydymffurfio â rheoliad 19(6),

rhaid i Weinidogion Cymru neu, pan fo hynny’n berthnasol, yr arolygydd benderfynu ar yr apêl drwy wrthod caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Rhl. 13 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

RHAN 4LL+CLlunio Datganiadau Amgylcheddol

Barnau cwmpasuLL+C

14.—(1Caiff person sy’n bwriadu gwneud cais AEA ofyn i’r awdurdod cynllunio perthnasol ddatgan ei farn o ran cwmpas a manylder yr wybodaeth i’w darparu yn y datganiad amgylcheddol (“barn gwmpasu”).

(2Rhaid i’r gofyniad o dan baragraff (1) gynnwys—

(a)mewn perthynas â chais am ganiatâd cynllunio—

(i)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;

(ii)disgrifiad byr o natur a diben y datblygiad, gan gynnwys ei leoliad a’i gapasiti technegol;

(iii)ei effeithiau sylweddol tebygol ar yr amgylchedd; a

(iv)y fath wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r person sy’n gwneud y cais ddymuno eu darparu neu eu cyflwyno;

(b)mewn perthynas â chais dilynol—

(i)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;

(ii)digon o wybodaeth i alluogi’r awdurdod cynllunio perthnasol i ganfod unrhyw ganiatâd cynllunio a roddwyd i’r datblygiad mewn cysylltiad â chais dilynol sydd wedi ei wneud;

(iii)disgrifiad o’r effeithiau sylweddol tebygol ar yr amgylchedd na chanfuwyd ar yr adeg y rhoddwyd y caniatâd cynllunio; a

(iv)unrhyw wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r person sy’n gwneud y cais ddymuno eu darparu neu eu cyflwyno.

(3Os nad yw awdurdod sy’n cael cais o dan baragraff (1) yn ystyried ei fod wedi cael ei ddarparu â digon o wybodaeth i fabwysiadu barn sgrinio, rhaid iddo roi gwybod i’r person sy’n gwneud y cais am y pwyntiau lle y mae angen gwybodaeth ychwanegol arnynt.

(4Rhaid i awdurdod beidio â mabwysiadu barn gwmpasu mewn ymateb i gais o dan baragraff (1) hyd nes ei fod wedi ymgynghori â’r ymgynghoreion, ond rhaid iddo, yn ddarostyngedig i baragraff (5), fabwysiadu barn gwmpasu ac anfon copi at y person a wnaeth y cais o fewn 8 wythnos yn dechrau â’r dyddiad y ceir y cais neu unrhyw gyfnod hwy y cytunir arno yn ysgrifenedig â’r person a wnaeth y cais.

(5Pan fo person wedi gofyn i’r awdurdod am farn o dan baragraff (1) uchod ar yr un pryd â gwneud cais am farn sgrinio o dan reoliad 6(1), ac mae’r awdurdod wedi mabwysiadu barn sgrinio i’r perwyl bod y datblygiad yn ddatblygiad AEA, rhaid i’r awdurdod fabwysiadu barn gwmpasu ac anfon copi at y person a wnaeth y cais o fewn 8 wythnos yn dechrau â’r dyddiad y mabwysiadwyd y farn sgrinio honno neu unrhyw gyfnod hwy y cytunir arno yn ysgrifenedig â’r person a wnaeth y cais.

(6Cyn mabwysiadu barn gwmpasu, rhaid i’r awdurdod gymryd y canlynol i ystyriaeth—

(a)unrhyw wybodaeth a ddarperir gan y ceisydd ynghylch y datblygiad arfaethedig;

(b)nodweddion neilltuol y datblygiad penodol;

(c)nodweddion neilltuol y datblygiad o’r math dan sylw; a

(d)y nodweddion amgylcheddol y mae’r datblygiad yn debygol o effeithio’n sylweddol arnynt.

(7Pan fo awdurdod yn methu â mabwysiadu barn gwmpasu o fewn y cyfnod perthnasol a grybwyllir ym mharagraff (4) neu (5), caiff y person a ofynnodd am y farn ofyn i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd o dan reoliad 15(1) ynghylch yr wybodaeth sydd i’w darparu yn y datganiad amgylcheddol (“cyfarwyddyd cwmpasu”).

(8Mae paragraff (7) yn gymwys hyd yn oed os nad yw’r awdurdod wedi cael gwybodaeth ychwanegol y mae wedi ei cheisio o dan baragraff (3).

(9Nid oes unrhyw beth yn atal awdurdod sydd wedi mabwysiadu barn gwmpasu rhag ei gwneud yn ofynnol i’r person a wnaeth y cais ddarparu gwybodaeth ychwanegol.

(10Ystyr “gwybodaeth ychwanegol” (“additional information”) ym mharagraff (9) yw gwybodaeth mewn cysylltiad ag unrhyw ddatganiad y caniateir ei gyflwyno gan y person hwnnw fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â chais am ganiatâd cynllunio neu gais dilynol ar gyfer yr un datblygiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Rhl. 14 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Cyfarwyddydau cwmpasuLL+C

15.—(1Rhaid i ofyniad a wneir o dan y paragraff hwn yn unol â rheoliad 14(7) gynnwys—

(a)copi o’r gofyniad i’r awdurdod cynllunio perthnasol o dan reoliad 14(1);

(b)copi o unrhyw hysbysiad perthnasol o dan reoliad 14(3) ac o unrhyw ymateb;

(c)copi o unrhyw farn sgrinio berthnasol a gafwyd gan y person sy’n gwneud y gofyniad ac unrhyw ddatganiad o’r rhesymau sy’n dod gyda’r farn; a

(d)unrhyw sylwadau y dymuna’r person sy’n gwneud y gofyniad eu gwneud.

(2Rhaid i berson sy’n gwneud gofyniad anfon copi o’r gofyniad hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol, ond nid oes angen i’r copi hwnnw gynnwys y materion a grybwyllir ym mharagraff (1)(a) i (c).

(3Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â pharagraff (1) yn ddigonol er mwyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu, rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad i’r person sy’n gwneud y cais.

(4Rhaid i’r hysbysiad nodi unrhyw bwyntiau y mae angen gwybodaeth ychwanegol amdanynt.

(5Caiff Gweinidogion Cymru hefyd ofyn i’r awdurdod cynllunio perthnasol ddarparu cymaint o wybodaeth ag y gall ar unrhyw rai o’r pwyntiau hynny.

(6Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)ymgynghori â’r ymgynghoreion cyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu mewn ymateb i ofyniad o dan baragraff (1), a

(b)gwneud cyfarwyddyd ac anfon copi at y person sy’n gwneud y gofyniad ac i’r awdurdod cynllunio perthnasol, o fewn y 5 wythnos sy’n dechrau â’r dyddiad y ceir y gofyniad hwnnw neu unrhyw gyfnod hwy a all fod yn rhesymol ofynnol.

(7Cyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu rhaid i Weinidogion Cymru ystyried y materion a bennir yn rheoliad 14(6).

(8Nid oes dim yn atal Gweinidogion Cymru, (ar ôl iddynt wneud cyfarwyddyd cwmpasu) na’r awdurdod cynllunio perthnasol rhag ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n gwneud y gofyniad ddarparu gwybodaeth ychwanegol.

(9Ystyr “gwybodaeth ychwanegol” (“additional information”) ym mharagraff (8) yw gwybodaeth mewn cysylltiad ag unrhyw ddatganiad y caniateir ei gyflwyno gan y person hwnnw fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â chais am ganiatâd cynllunio neu gais dilynol ar gyfer yr un datblygiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Rhl. 15 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Gweithdrefn i hwyluso llunio datganiadau amgylcheddolLL+C

16.—(1Caiff unrhyw berson sy’n bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol i’r awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn roi hysbysiad i’r awdurdod hwnnw neu i Weinidogion Cymru o dan y paragraff hwn.

(2Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) gynnwys yr wybodaeth sy’n angenrheidiol er mwyn adnabod y tir a natur a diben y datblygiad, a rhaid iddo ddangos y prif ganlyniadau amgylcheddol y mae’r person sy’n rhoi’r hysbysiad yn bwriadu cyfeirio atynt yn y datganiad amgylcheddol.

(3Rhaid i dderbynnydd—

(a)hysbysiad o’r math a grybwyllir ym mharagraff (1); neu

(b)datganiad neu gadarnhad a wneir yn unol â rheoliad 11(4)(a), 12(6) neu 13(7)

(i)hysbysu’r ymgynghoreion am enw a chyfeiriad y person sy’n bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol a’r ddyletswydd a osodir ar yr ymgynghoreion gan baragraff (4) er mwyn sicrhau bod gwybodaeth ar gael i’r person hwnnw; a

(ii)hysbysu’r person sy’n bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol o enwau a chyfeiriadau’r ymgynghoreion a hysbyswyd felly.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i awdurdod cynllunio perthnasol ac unrhyw ymgynghorai a hysbysir yn unol â pharagraff (3), ymgynghori â’r person, os bydd y person hwnnw sy’n bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol yn gofyn am hynny, er mwyn penderfynu a oes gan yr awdurdod neu’r ymgynghorai unrhyw wybodaeth yn eu meddiant y mae’r person hwnnw, neu y maent hwy, yn ei hystyried yn berthnasol ar gyfer llunio’r datganiad amgylcheddol. Os oes ganddynt, rhaid i’r awdurdod neu’r ymgynghorai sicrhau bod yr wybodaeth honno ar gael i’r person hwnnw.

(5Rhaid i awdurdod cynllunio perthnasol neu ymgynghorai sy’n cael gofyniad am wybodaeth o dan baragraff (4) ei drin fel gofyniad am wybodaeth o dan reoliad 5(1) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004(23).

Gwybodaeth Cychwyn

I16Rhl. 16 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

RHAN 5LL+CCyhoeddusrwydd a Gweithdrefnau ar Gyflwyno Datganiadau Amgylcheddol

Datganiadau amgylcheddolLL+C

17.—(1Rhaid i gais AEA ddod gyda datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn, ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (2).

(2Pan fo rheoliad 9(1) a (2) yn gymwys, nid yw paragraff (1) yn gymwys.

(3Mae datganiad amgylcheddol yn ddatganiad sy’n cynnwys o leiaf—

(a)disgrifiad o’r datblygiad arfaethedig sef gwybodaeth ynghylch y safle, y dyluniad, maint y datblygiad a’i nodweddion perthnasol eraill;

(b)disgrifiad o effeithiau sylweddol tebygol y datblygiad arfaethedig ar yr amgylchedd;

(c)disgrifiad o unrhyw un neu ragor o nodweddion y datblygiad arfaethedig, neu fesurau a ragwelir er mwyn osgoi, atal neu leihau effeithiau andwyol sylweddol tebygol ar yr amgylchedd, a gwrthbwyso’r effeithiau hynny os yw’n bosibl;

(d)disgrifiad o’r dewisiadau amgen rhesymol a astudiwyd gan y ceisydd neu’r apelydd, sy’n berthnasol i’r datblygiad arfaethedig a’i nodweddion penodol, a mynegiad o’r prif resymau dros y dewis a wnaed, gan ystyried effeithiau sylweddol y datblygiad ar yr amgylchedd;

(e)crynodeb annhechnegol o’r wybodaeth y cyfeirir ati yn is-baragraffau (a) i (d); a

(f)unrhyw wybodaeth ychwanegol a bennir yn Atodlen 4 sy’n berthnasol i nodweddion penodol y datblygiad penodol neu’r math o ddatblygiad ac i’r nodweddion amgylcheddol sy’n debygol o gael eu heffeithio’n sylweddol.

(4Rhaid i ddatganiad amgylcheddol—

(a)cael ei lunio gan bersonau sydd, ym marn yr awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru, fel y bo’n briodol, yn meddu ar arbenigedd digonol i sicrhau bod y datganiad yn gyflawn ac yn safonol;

(b)cynnwys datganiad gan neu ar ran y ceisydd neu’r apelydd sy’n disgrifio arbenigedd y person a luniodd y datganiad amgylcheddol;

(c)pan fo barn gwmpasu neu gyfarwyddyd cwmpasu wedi ei dyroddi neu ei ddyroddi yn unol â rheoliad 14 neu 15, fod yn seiliedig ar y farn gwmpasu neu’r cyfarwyddyd cwmpasu diweddaraf a ddyroddwyd (i’r graddau y mae’r datblygiad arfaethedig yn parhau i fod yr un datblygiad arfaethedig yn ei hanfod â’r datblygiad arfaethedig a fu’n destun y farn honno neu’r cyfarwyddyd hwnnw);

(d)cynnwys yr wybodaeth sy’n rhesymol ofynnol ar gyfer dod i gasgliad rhesymedig ynghylch effeithiau sylweddol y datblygiad ar yr amgylchedd, gan roi sylw i’r wybodaeth gyfredol a’r dulliau asesu cyfredol; ac

(e)rhoi sylw i asesiadau amgylcheddol perthnasol eraill sy’n ofynnol o dan ddeddfwriaeth yr Undeb neu unrhyw ddarpariaeth mewn deddfwriaeth ddomestig, gyda’r nod o osgoi dyblygu asesiadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Rhl. 17 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Y weithdrefn pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno i awdurdod cynllunio lleolLL+C

18.—(1Rhaid i geisydd sy’n cyflwyno datganiad amgylcheddol i’r awdurdod cynllunio perthnasol ei gyflwyno yn electronig ac ar bapur, oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig.

(2Os yw’r ceisydd yn cyflwyno copi o’r datganiad i unrhyw gorff arall ar yr un pryd ag y mae’n gwneud cais AEA, rhaid i’r ceisydd—

(a)cyflwyno gyda’r datganiad gopi o’r cais ac unrhyw blan a gyflwynir gyda’r cais (oni bai eu bod wedi eu darparu i’r corff dan sylw eisoes);

(b)hysbysu’r corff y caniateir cyflwyno sylwadau i’r awdurdod cynllunio perthnasol; ac

(c)hysbysu’r awdurdod am enw pob corff y cyflwynwyd datganiad iddo felly a dyddiad y cyflwyno.

(3Pan fo awdurdod cynllunio perthnasol yn cael datganiad amgylcheddol, rhaid i’r awdurdod—

(a)anfon un copi electronig o’r datganiad, copi o’r cais perthnasol ac o unrhyw ddogfennau a gyflwynwyd gyda’r cais i Weinidogion Cymru o fewn 14 o ddiwrnodau ar ôl cael y datganiad;

(b)hysbysu’r ceisydd am nifer y copïau sy’n ofynnol er mwyn galluogi’r awdurdod i gydymffurfio ag is-baragraff (c);

(c)anfon copi o’r datganiad ymlaen at unrhyw ymgynghorai nad yw wedi cael copi yn uniongyrchol gan y ceisydd, a hysbysu unrhyw ymgynghorai o’r fath y caniateir iddo gyflwyno sylwadau;

(d)pan fo’r awdurdod yn ymwybodol bod unrhyw berson penodol sy’n cael ei effeithio neu yn debygol o gael ei effeithio gan y cais, neu â diddordeb yn y cais, ac sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy gyfrwng cyhoeddiad electronig, neu drwy hysbysiad safle neu drwy hysbyseb leol, anfon hysbysiad at berson o’r fath yn cynnwys y manylion a nodir yn rheoliad 19(2)(b) i (k) ac enw a chyfeiriad yr awdurdod.

(4Rhaid i’r ceisydd anfon y copïau sy’n ofynnol at ddibenion paragraff (3)(c) i’r awdurdod cynllunio perthnasol.

(5Pan fo ceisydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol i’r awdurdod yn unol â pharagraff (1), mae darpariaethau erthygl 12 o Orchymyn 2012 (cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio) ac Atodlen 3 i’r Gorchymyn hwnnw yn gymwys i gais dilynol fel y maent yn gymwys i gais cynllunio sy’n dod o fewn erthygl 12(2) o Orchymyn 2012 fel pe bai’r cyfeiriad yn yr hysbysiad yn Atodlen 3 i Orchymyn 2012 at “ganiatâd cynllunio i” yn darllen “gydsyniad, cytundeb neu gymeradwyaeth i”.

(6Rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol beidio â phenderfynu ar y cais hyd nes y daw 30 o ddiwrnodau o’r dyddiad olaf y cyflwynwyd copi o’r datganiad yn unol â’r rheoliad hwn i ben.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Rhl. 18 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Cyhoeddusrwydd pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno ar ôl y cais cynllunioLL+C

19.—(1Pan fo cais am ganiatâd cynllunio neu gais dilynol wedi ei wneud heb ddatganiad amgylcheddol a bod y ceisydd yn bwriadu cyflwyno datganiad o’r fath, rhaid i’r ceisydd gydymffurfio â pharagraffau (2) i (5) cyn ei gyflwyno.

(2Rhaid i’r ceisydd gyhoeddi hysbysiad mewn papur newydd lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal leol lle y mae’r tir wedi ei leoli sy’n nodi—

(a)enw’r ceisydd, bod cais yn cael ei wneud am ganiatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol ac enw a chyfeiriad yr awdurdod cynllunio perthnasol;

(b)y dyddiad y gwnaed y cais, a bod y cais wedi ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru i gael ei benderfynu neu ei fod yn destun apêl i Weinidogion Cymru os gwnaed hynny;

(c)cyfeiriad neu leoliad a natur y datblygiad arfaethedig;

(d)bod—

(i)copi o’r cais, unrhyw blan a dogfennau eraill a gyflwynir ynghyd ag ef, a chopi o’r datganiad amgylcheddol, a

(ii)yn achos cais dilynol, copi o’r caniatâd cynllunio y gwnaed y cais hwnnw mewn cysylltiad ag ef a dogfennau ategol,

ar gael i aelodau o’r cyhoedd edrych arnynt ar bob adeg resymol;

(e)cyfeiriad yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle mae’r dogfennau hynny ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt, a’r dyddiad olaf y maent ar gael i’w gweld (sef dyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(f)manylion gwefan a gynhelir gan yr awdurdod cynllunio perthnasol, neu ar ei ran, lle gellir gweld y datganiad amgylcheddol a’r dogfennau eraill, a’r dyddiad diweddaraf y byddant ar gael i’w gweld (sef dyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(g)cyfeiriad (pa un a yw yr un cyfeiriad a roddir o dan is-baragraff (e) ai peidio) yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle gellir cael copïau o’r datganiad;

(h)y gellir cael copïau yno cyhyd â bod rhai yn dal ar gael;

(i)os codir tâl am gopi, swm y tâl;

(j)y dylai unrhyw berson sy’n dymuno cyflwyno sylwadau ynglŷn â’r cais wneud hynny, cyn y dyddiad diweddaraf a nodir yn unol ag is-baragraff (e) neu (f), i’r awdurdod cynllunio perthnasol neu (yn achos cais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru neu apêl) i Weinidogion Cymru; a

(k)yn achos cais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru neu apêl, y cyfeiriad, gan gynnwys cyfeiriad electronig, y dylid anfon sylwadau iddo.

(3Rhaid i geisydd sy’n cael ei hysbysu o dan reoliad 11(2), 12(4) neu 13(6) ynghylch person o’r math a grybwyllir yn unrhyw un o’r rheoliadau hynny gyflwyno hysbysiad i bob person o’r fath; a rhaid i’r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (2).

(4Rhaid i’r ceisydd arddangos ar y tir hysbysiad sy’n cynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (2), lle mae ganddo hawl i wneud hynny, neu lle y gellir caffael yn rhesymol yr hawl i wneud hynny.

(5Rhaid i’r hysbysiad a grybwyllir ym mharagraff (4)—

(a)cael ei adael yn ei le am gyfnod heb fod yn llai na 7 diwrnod yn y 28 o ddiwrnodau yn union cyn y dyddiad y cyflwynir y datganiad; a

(b)cael ei osod yn gadarn ar rywbeth ar y tir a’i leoli a’i arddangos mewn modd sy’n golygu bod modd i aelodau o’r cyhoedd ei weld a’i ddarllen yn rhwydd heb fynd ar y tir.

(6Rhaid i’r canlynol ddod gyda’r datganiad amgylcheddol pan y’i cyflwynir—

(a)copi o’r hysbysiad a grybwyllir ym mharagraff (2) wedi ei ardystio gan neu ar ran y ceisydd ei fod wedi ei gyhoeddi mewn papur newydd a enwir ar ddyddiad a bennir yn y dystysgrif; a

(b)tystysgrif gan neu ar ran y ceisydd sy’n nodi naill ai—

(i)bod hysbysiad wedi ei arddangos ar y tir er mwyn cydymffurfio â’r rheoliad hwn a pha bryd y gwnaed hyn, a bod yr hysbysiad wedi ei adael yn ei le am gyfnod heb fod yn llai na 7 diwrnod yn y 28 o ddiwrnodau yn union cyn y dyddiad y cyflwynwyd y datganiad, neu ei fod, heb unrhyw fai na bwriad ar ran y ceisydd, wedi ei dynnu, ei guddio neu ei ddifwyno cyn diwedd y 7 diwrnod a bod y ceisydd wedi cymryd camau rhesymol i’w ddiogelu neu roi un newydd yn ei le, gan nodi’r camau a gymerwyd; neu

(ii)nad oedd modd i’r ceisydd gydymffurfio â pharagraffau (4) a (5) am nad oedd gan y ceisydd yr hawliau angenrheidiol i wneud hynny; bod unrhyw gamau rhesymol ar gael i gaffael yr hawliau hynny wedi eu cymryd ond yn aflwyddiannus, gan nodi’r camau a gymerwyd.

(7Pan fo ceisydd yn dynodi bod y ceisydd yn bwriadu darparu datganiad o dan yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (1), rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol, Gweinidogion Cymru neu’r arolygydd, yn ôl y digwydd, (oni bai y penderfynir gwrthod y caniatâd neu’r cydsyniad dilynol a geisir) ohirio ystyried y cais neu’r apêl hyd nes y ceir y datganiad a’r dogfennau eraill a grybwyllir ym mharagraff (6); ac ni chaniateir penderfynu ar y cais na’r apêl yn ystod y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad diweddaraf y cyhoeddir y datganiad a’r dogfennau eraill a grybwyllwyd felly yn unol â’r rheoliad hwn.

(8Pan fwriedir cyflwyno datganiad amgylcheddol mewn cysylltiad ag apêl, mae’r rheoliad hwn yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriadau at y ceisydd yn gyfeiriadau at yr apelydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Rhl. 19 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Darparu copïau o ddatganiadau amgylcheddol a gwybodaeth bellach i Weinidogion Cymru pe byddai atgyfeiriad neu apêlLL+C

20.—(1Pan fo ceisydd am ganiatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol wedi cyflwyno datganiad amgylcheddol, neu wybodaeth bellach, i’r awdurdod cynllunio perthnasol mewn cysylltiad â’r cais hwnnw ac—

(a)mae’r cais yn cael ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru o dan adran 77 o Ddeddf 1990 (atgyfeirio ceisiadau at yr Ysgrifennydd Gwladol); neu

(b)mae’r ceisydd yn apelio o dan adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath),

rhaid i’r ceisydd ddarparu’r datganiad i Weinidogion Cymru a, phan fo’n berthnasol, yr wybodaeth bellach oni bai, yn achos cais sydd wedi ei atgyfeirio, bod yr awdurdod eisoes wedi gwneud hynny.

(2Rhaid darparu’r datganiad a’r wybodaeth bellach a ddarperir yn unol â pharagraff (1) yn electronig ac ar bapur oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I20Rhl. 20 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Y weithdrefn pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno i Weinidogion CymruLL+C

21.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo ceisydd neu apelydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol i Weinidogion Cymru, mewn perthynas â chais AEA—

(a)sydd gerbron Gweinidogion Cymru neu arolygydd er mwyn penderfynu arno; neu

(b)sy’n destun apêl i Weinidogion Cymru.

(2Rhaid i’r ceisydd neu’r apelydd gyflwyno’r datganiad amgylcheddol i Weinidogion Cymru a’r awdurdod cynllunio perthnasol yn electronig ac ar bapur, oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig.

(3Caiff ceisydd neu apelydd sy’n cyflwyno datganiad amgylcheddol i Weinidogion Cymru ddarparu copi ohono i unrhyw gorff arall, ac os gwneir hynny rhaid iddo—

(a)cydymffurfio ag is-baragraffau (a) a (b) o reoliad 18(2) fel pe bai’r cyfeiriad yn rheoliad 18(2)(b) at yr awdurdod cynllunio perthnasol yn gyfeiriad at Weinidogion Cymru; a

(b)hysbysu Gweinidogion Cymru o’r materion a grybwyllir yn rheoliad 18(2)(c).

(4Rhaid i Weinidogion Cymru gydymffurfio â rheoliad 18(3) (heblaw is-baragraff (a) o’r rheoliad hwnnw) a rhaid i’r ceisydd neu’r apelydd gydymffurfio â rheoliad 18(4) fel pe bai—

(a)cyfeiriadau yn y darpariaethau hynny at yr awdurdod cynllunio perthnasol yn gyfeiriadau at Weinidogion Cymru; a

(b)yn achos apêl, cyfeiriadau at y ceisydd yn gyfeiriadau at yr apelydd,

a rhaid i Weinidogion Cymru neu’r arolygydd gydymffurfio â rheoliad 18(6) fel pe bai’n cyfeirio at Weinidogion Cymru neu’r arolygydd yn hytrach na’r awdurdod cynllunio perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Rhl. 21 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Argaeledd copïau o ddatganiadau amgylcheddolLL+C

22.  Rhaid i geisydd neu apelydd sy’n cyflwyno datganiad amgylcheddol mewn cysylltiad â chais neu apêl, sicrhau bod nifer rhesymol o gopïau o’r datganiad ar gael yn y cyfeiriad a enwir yn yr hysbysiadau a gyhoeddir neu a osodir yn unol ag erthygl 12 o Orchymyn 2012 neu reoliad 19(2)(g) fel y cyfeiriad lle y gellir cael copïau o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I22Rhl. 22 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Tâl am gopïau o ddatganiadau amgylcheddolLL+C

23.  Caniateir codi tâl rhesymol sy’n adlewyrchu costau argraffu a dosbarthu ar aelod o’r cyhoedd am gopi o ddatganiad a roddir ar gael yn unol â rheoliad 22.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Rhl. 23 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Gwybodaeth bellach a thystiolaeth mewn cysylltiad â datganiadau amgylcheddolLL+C

24.—(1Os yw awdurdod cynllunio perthnasol, Gweinidogion Cymru neu’r arolygydd sy’n ymdrin â chais neu apêl y mae’r ceisydd neu’r apelydd wedi cyflwyno datganiad amgylcheddol mewn perthynas ag ef neu hi, o’r farn, er mwyn bodloni gofynion rheoliad 17(3), ei bod yn angenrheidiol ategu’r datganiad gyda gwybodaeth ychwanegol sy’n uniongyrchol berthnasol i ddod i gasgliad rhesymedig ar effeithiau sylweddol tebygol y datblygiad a ddisgrifir yn y cais, rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol, Gweinidogion Cymru neu’r arolygydd hysbysu’r ceisydd neu’r apelydd yn unol â hynny a rhaid i’r ceisydd neu’r apelydd ddarparu’r wybodaeth ychwanegol honno ar bapur ac yn electronig, oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig; a chyfeirir at wybodaeth ychwanegol o’r fath yn y Rheoliadau hyn fel “gwybodaeth bellach” (“further information”).

(2Mae paragraffau (3) i (9) yn gymwys mewn perthynas â gwybodaeth bellach ac unrhyw wybodaeth arall ac eithrio i’r graddau—

(a)y mae’r wybodaeth bellach ac unrhyw wybodaeth arall yn cael ei darparu at ddibenion ymholiad neu wrandawiad a gynhelir o dan Ddeddf 1990; a

(b)bod y cais am yr wybodaeth bellach a wnaed yn unol â pharagraff (1) yn nodi ei bod i’w darparu at ddibenion o’r fath.

(3Rhaid i dderbynnydd gwybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall gyhoeddi hysbysiad drwy hysbyseb leol sy’n nodi—

(a)enw’r ceisydd am ganiatâd cynllunio neu am gydsyniad dilynol, neu’r apelydd (yn ôl y digwydd), ac enw a chyfeiriad yr awdurdod cynllunio perthnasol;

(b)y dyddiad y gwnaed y cais a’r dyddiad yr atgyfeiriwyd y cais at Weinidogion Cymru, os gwnaed hynny, er mwyn penderfynu arno neu ei fod yn destun apêl i Weinidogion Cymru;

(c)yn achos cais dilynol, digon o wybodaeth i alluogi adnabod y caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad;

(d)cyfeiriad neu leoliad a natur y datblygiad arfaethedig;

(e)bod gwybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall ar gael mewn perthynas â datganiad amgylcheddol sydd wedi ei ddarparu eisoes;

(f)y caiff aelodau’r cyhoedd edrych ar gopi o’r wybodaeth bellach neu o unrhyw wybodaeth arall ac unrhyw ddatganiad amgylcheddol sy’n ymwneud ag unrhyw ganiatâd cynllunio neu gais dilynol ar bob adeg resymol;

(g)cyfeiriad yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle caiff y cyhoedd edrych ar yr wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall a’r dyddiad olaf y bydd ar gael i’w gweld (sydd yn ddyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(h)manylion gwefan a gynhelir gan yr awdurdod cynllunio perthnasol, neu ar ei ran, lle gellir gweld yr wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall, a’r dyddiad diweddaraf y byddant ar gael i’w gweld (sef dyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(i)cyfeiriad yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli (pa un a yw yr un cyfeiriad a roddir yn unol ag is-baragraffau (g) ac (h) ai peidio) lle gellir cael copïau o’r wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall;

(j)y gellir cael copïau yno cyhyd â bod rhai yn dal ar gael;

(k)os codir tâl am gopi, swm y tâl;

(l)y dylai unrhyw berson sy’n dymuno cyflwyno sylwadau am yr wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall eu cyflwyno i’r awdurdod cynllunio perthnasol, Gweinidogion Cymru neu’r arolygydd (yn ôl y digwydd) cyn y dyddiad a nodir yn unol ag is-baragraff (g); ac

(m)y cyfeiriad y dylid anfon sylwadau iddo.

(4Rhaid i’r sawl sy’n derbyn gwybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall anfon copi ohoni at bob un o’r personau yr anfonwyd atynt y datganiad sy’n ymwneud â hi, yn unol â’r Rheoliadau hyn.

(5Pan mai’r awdurdod cynllunio perthnasol yw’r sawl sy’n derbyn yr wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall, rhaid iddo anfon un copi o’r wybodaeth bellach at Weinidogion Cymru.

(6Caiff y sawl sy’n derbyn yr wybodaeth bellach ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd neu’r apelydd drwy hysbysiad i ddarparu’r cyfryw nifer o gopïau o’r wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall a bennir yn yr hysbysiad (sef y nifer sy’n ofynnol at ddibenion paragraff (4) neu (5)).

(7Pan ofynnir am wybodaeth o dan baragraff (1) neu pan ddarperir unrhyw wybodaeth arall, rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol, Gweinidogion Cymru neu’r arolygydd, yn ôl y digwydd,—

(a)atal y penderfyniad ar y cais neu’r apêl dros dro; a

(b)rhaid peidio â phenderfynu arno cyn diwedd cyfnod o 30 o ddiwrnodau ar ôl y diweddaraf o blith—

(i)y dyddiad yr anfonwyd yr wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall at bob person yr anfonwyd atynt y datganiad sy’n ymwneud â hi;

(ii)y dyddiad y cyhoeddwyd hysbysiad amdani mewn papur newydd lleol; neu

(iii)y dyddiad y cyhoeddwyd hysbysiad amdani ar y wefan.

(8Rhaid i’r ceisydd neu’r apelydd sy’n darparu gwybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall, yn unol â pharagraff (1)—

(a)sicrhau bod nifer rhesymol o gopïau o’r wybodaeth ar gael yn y cyfeiriad a enwir yn yr hysbysiad a gyhoeddwyd yn unol â pharagraff (3)(i) fel y cyfeiriad lle gellir cael copïau o’r fath; a

(b)cymryd unrhyw gamau rhesymol sy’n ofynnol gan yr awdurdod i sicrhau bod copïau o’r wybodaeth bellach neu wybodaeth arall ar gael i’w gweld ar y wefan y cyfeirir ati yn yr hysbysiad a gyhoeddir yn unol â pharagraff (3).

(9Caniateir codi tâl rhesymol sy’n adlewyrchu costau argraffu a dosbarthu ar aelod o’r cyhoedd am gopi o’r wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall, a roddir ar gael yn unol â pharagraff (8)(a).

(10Caiff yr awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru neu arolygydd ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd neu’r apelydd ddangos pa bynnag dystiolaeth y gallant ofyn amdani yn rhesymol i wirio unrhyw wybodaeth yn y datganiad amgylcheddol.

Gwybodaeth Cychwyn

I24Rhl. 24 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Ystyried pa un a ddylid rhoi caniatâd cynllunioLL+C

25.—(1Wrth benderfynu ar gais neu apêl y cyflwynwyd datganiad amgylcheddol mewn perthynas ag ef neu hi, rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd—

(a)archwilio’r wybodaeth amgylcheddol;

(b)dod i gasgliad rhesymedig ynghylch effeithiau sylweddol y datblygiad arfaethedig ar yr amgylchedd, gan ystyried yr archwilio y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) a, phan fo’n briodol, eu harchwiliad ategol eu hunain;

(c)integreiddio’r casgliad hwnnw yn y penderfyniad o ran pa un ai i roi caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol; a

(d)os rhoddir caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol, ystyried pa un a yw’n briodol gosod mesurau monitro.

(2Rhaid i’r casgliad rhesymedig y cyfeirir ato ym mharagraff (1) fod yn gyfoes pan wneir y penderfyniad; a rhaid tybio bod y casgliad hwnnw yn gyfoes os ydyw, ym marn yr awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd, yn ymdrin â’r effeithiau sylweddol sy’n debygol o ddigwydd o ganlyniad i’r datblygiad arfaethedig.

(3Wrth ystyried pa un ai i osod mesur monitro o dan baragraff (1)(d), rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru, fel y bo’n briodol—

(a)os ystyrir bod monitro yn briodol, ystyried pa un ai i wneud darpariaeth ar gyfer camau unioni posibl;

(b)cymryd camau i sicrhau bod y math o baramedrau sydd i’w monitro, a hyd y cyfnod monitro, yn gymesur â natur, lleoliad a maint y datblygiad arfaethedig ac arwyddocâd ei effeithiau ar yr amgylchedd; ac

(c)ystyried, er mwyn osgoi dyblygu monitro, pa un a yw trefniadau monitro sy’n ofynnol o dan ddeddfwriaeth yr Undeb (ac eithrio deddfwriaeth sy’n gweithredu gofynion y Gyfarwyddeb) neu ddeddfwriaeth arall sy’n gymwys yng Nghymru yn fwy priodol na gosod mesurau monitro.

(4Mewn achosion pan nad oes amserlen statudol wedi ei phennu, rhaid i benderfyniad yr awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd, gael ei wneud o fewn cyfnod rhesymol, gan ystyried natur a chymhlethdod y datblygiad arfaethedig, o’r dyddiad y darparwyd yr wybodaeth amgylcheddol i’r awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Rhl. 25 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

RHAN 6LL+C

Cyd-drefnu asesiadauLL+C

26.—(1Pan fo, mewn perthynas â datblygiad AEA, ofyniad i gynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd hefyd yn ogystal â’r gofyniad i gynnal asesiad o’r effaith amgylcheddol, rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol (neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd) sicrhau pan fo’n briodol bod yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd a’r asesiad o’r effaith amgylcheddol yn cael eu cyd-drefnu.

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd” (“Habitats Regulations Assessment”) yw asesiad o dan [F3reoliad 63 o Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017] .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I26Rhl. 26 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

RHAN 7LL+CArgaeledd Cyfarwyddydau etc. a Hysbysu am Benderfyniadau

Argaeledd barnau, cyfarwyddydau etc. i’w harchwilioLL+C

27.—(1Pan fo manylion am gais cynllunio neu gais dilynol yn cael eu gosod yn Rhan 1 o’r gofrestr, rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol gymryd camau i sicrhau bod copi yn cael eu gosod yn y Rhan honno hefyd o unrhyw—

(a)barn sgrinio;

(b)cyfarwyddyd sgrinio;

(c)barn gwmpasu;

(d)cyfarwyddyd cwmpasu;

(e)hysbysiad a roddwyd o dan reoliad 11(1), 12(2) neu 13(5);

(f)cyfarwyddyd o dan reoliad 5(4) neu (5);

(g)datganiad amgylcheddol, gan gynnwys unrhyw wybodaeth bellach ac unrhyw wybodaeth arall;

(h)datganiad o resymau sy’n dod gydag unrhyw rai o’r uchod.

(2Pan fo’r awdurdod cynllunio perthnasol—

(a)yn mabwysiadu barn sgrinio neu farn gwmpasu; neu

(b)yn cael gofyniad o dan reoliad 14(1), neu 15(1), neu gopi o gyfarwyddyd sgrinio, cyfarwyddyd cwmpasu, neu gyfarwyddyd o dan reoliad 5(4) cyn y gwneir cais am ganiatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol ar gyfer y datblygiad dan sylw,

rhaid i’r awdurdod gymryd camau i sicrhau bod copi o’r farn, y cais neu’r cyfarwyddyd ac unrhyw ddatganiad o’r rhesymau sy’n dod gydag ef neu hi yn cael eu rhoi ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt ar bob adeg resymol yn y lle y cedwir y gofrestr briodol (neu ran berthnasol o’r gofrestr honno).

(3Rhaid i gopïau o’r dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) barhau i fod ar gael yn y modd hwn am gyfnod o ddwy flynedd o’r dyddiad y gosodir hwy ar y gofrestr.

Gwybodaeth Cychwyn

I27Rhl. 27 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Gwybodaeth i fynd gyda phenderfyniadauLL+C

28.—(1Pan fo cais neu apêl AEA y cyflwynwyd datganiad amgylcheddol mewn perthynas ag ef neu hi yn cael ei benderfynu neu ei phenderfynu gan awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd, rhaid i’r person sy’n gwneud y penderfyniad hwnnw ddarparu i’r ceisydd neu’r apelydd yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (2).

(2Yr wybodaeth honno yw—

(a)gwybodaeth ynghylch yr hawl i herio dilysrwydd y penderfyniad a’r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny; a

(b)os yw’n benderfyniad i roi caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol—

(i)casgliad rhesymedig yr awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd, ynghylch effeithiau sylweddol y datblygiad ar yr amgylchedd, gan ystyried canlyniadau’r archwiliad y cyfeirir ato yn rheoliad 25(1)(a) a (b);

(ii)unrhyw amodau y mae’r penderfyniad yn ddarostyngedig iddynt sy’n ymwneud ag effeithiau sylweddol tebygol y datblygiad ar yr amgylchedd;

(iii)disgrifiad o unrhyw un neu ragor o nodweddion y datblygiad ac unrhyw fesurau a ragwelir er mwyn osgoi, atal neu leihau effeithiau andwyol sylweddol tebygol ar yr amgylchedd, a gwrthbwyso’r effeithiau hynny os yw’n bosibl; a

(iv)unrhyw fesurau monitro y mae’r awdurdod neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd, yn ystyried eu bod yn briodol; neu

(c)os yw’n benderfyniad i wrthod caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol, y prif resymau dros wrthod.

Gwybodaeth Cychwyn

I28Rhl. 28 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Dyletswyddau i hysbysu’r cyhoedd a Gweinidogion Cymru am y penderfyniadau terfynolLL+C

29.—(1Pan fo cais AEA yn cael ei benderfynu gan awdurdod cynllunio lleol, rhaid i’r awdurdod wneud y canlynol yn brydlon—

(a)hysbysu Gweinidogion Cymru am y penderfyniad drwy ddulliau electronig;

(b)hysbysu’r ymgynghoreion am y penderfyniad;

(c)hysbysu’r cyhoedd am y penderfyniad, drwy hysbyseb leol, neu drwy’r fath ddull arall sy’n rhesymol dan yr amgylchiadau; a

(d)sicrhau bod datganiad yn cael ei roi ar gael i’r cyhoedd edrych arno yn y lle y cedwir y gofrestr briodol (neu’r rhan berthnasol o’r gofrestr honno), sy’n cynnwys—

(i)manylion y materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 28(2);

(ii)y prif resymau ac ystyriaethau y mae’r penderfyniad wedi ei seilio arnynt gan gynnwys, os yw’n berthnasol, gwybodaeth am gyfranogiad y cyhoedd;

(iii)crynodeb o ganlyniadau’r ymgynghoriadau a gynhaliwyd a’r wybodaeth a gasglwyd, mewn cysylltiad â’r cais a sut y mae’r canlyniadau hynny, yn enwedig y sylwadau a gafwyd gan Wladwriaeth AEE yn unol ag ymgynghoriad o dan reoliad 56, wedi eu hymgorffori neu sut yr ymdriniwyd â hwy fel arall.

(2Pan fo cais AEA yn cael ei benderfynu gan Weinidogion Cymru neu arolygydd, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)hysbysu’r awdurdod cynllunio perthnasol am y penderfyniad; a

(b)darparu datganiad o’r math a grybwyllir ym mharagraff (1)(c) i’r awdurdod.

(3Rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael hysbysiad o dan baragraff (2)(a), gydymffurfio ag is-baragraffau (b) i (d) o baragraff (1) mewn perthynas â’r penderfyniad yr hysbyswyd amdano yn y modd hwn fel pe bai’n benderfyniad yr awdurdod.

Gwybodaeth Cychwyn

I29Rhl. 29 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

RHAN 8LL+CCeisiadau am ganiatâd cynllunio a wneir i Weinidogion Cymru

Cymhwyso Rhannau 2 i 7LL+C

30.—(1Mae’r Rhan hon yn gymwys pan wneir cais am ganiatâd cynllunio i Weinidogion Cymru ac felly ystyr “cais” (“application”) yn y Rhan hon yw cais am ganiatâd cynllunio a wneir yn y modd hwn.

(2Mae Rhannau 2 i 7 yn gymwys, yn ddarostyngedig i’r eithriadau yn y paragraff canlynol a’r addasiadau a’r darpariaethau atodol yn y Rhan hon.

(3Nid yw rheoliadau 6, 7(1), 7(2), 8 i 15, 20, na 22 yn gymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I30Rhl. 30 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Ceisiadau am gyfarwyddydau sgrinio Gweinidogion CymruLL+C

31.—(1Caiff person sy’n bwriadu gwneud cais ofyn i Weinidogion Cymru fabwysiadu cyfarwyddyd sgrinio.

(2Rhaid i’r canlynol ddod gyda gofyniad am gyfarwyddyd sgrinio mewn perthynas â chais—

(a)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;

(b)disgrifiad o’r datblygiad, gan gynnwys yn benodol—

(i)disgrifiad o nodweddion ffisegol y datblygiad cyfan a, phan fo’n berthnasol, y gwaith dymchwel;

(ii)disgrifiad o leoliad y datblygiad, gan roi sylw penodol i sensitifrwydd amgylcheddol yr ardaloedd daearyddol sy’n debygol o gael eu heffeithio;

(c)disgrifiad o’r agweddau ar yr amgylchedd y mae’r datblygiad yn debygol o gael effaith sylweddol arnynt;

(d)disgrifiad o unrhyw effeithiau sylweddol tebygol y datblygiad arfaethedig ar yr amgylchedd, i’r graddau y mae gwybodaeth ar gael am yr effeithiau hynny, o ganlyniad i—

(i)y gwaddodion a’r allyriadau disgwyliedig a’r gwastraff a gynhyrchir, pan fo’n berthnasol; a

(ii)y defnydd o adnoddau naturiol, yn enwedig pridd, tir, dŵr a bioamrywiaeth;

(e)datganiad bod y gofyniad yn cael ei wneud mewn perthynas â datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol at ddibenion 62D o Ddeddf 1990; ac

(f)y fath wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r person sy’n gwneud y gofyniad ddymuno eu darparu neu eu cyflwyno, gan gynnwys unrhyw nodweddion y datblygiad arfaethedig neu unrhyw fesurau a ragwelir i osgoi neu atal yr hyn a allai fel arall fod wedi bod yn effeithiau andwyol sylweddol ar yr amgylchedd.

(3Rhaid i’r person sy’n gofyn am y farn sgrinio ystyried y meini prawf yn Atodlen 3 a’r canlyniadau sydd ar gael o asesiadau amgylcheddol eraill a gynhaliwyd yn unol â deddfwriaeth yr Undeb ac eithrio o dan y Gyfarwyddeb pan fydd y person hwnnw yn darparu’r wybodaeth sy’n ofynnol gan baragraff (2).

(4Rhaid i berson sy’n gwneud gofyniad yn unol â pharagraff (1) anfon copi o’r gofyniad hwnnw a’r dogfennau sy’n dod gyda’r gofyniad hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol.

(5Mae paragraffau (3) i (9) o reoliad 7 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriadau at ofyn am farn o dan reoliad 6(8) yn gyfeiriadau at ofyn am gyfarwyddyd o dan reoliad 31(1).

Gwybodaeth Cychwyn

I31Rhl. 31 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Ceisiadau a wneir heb ddatganiad amgylcheddolLL+C

32.—(1Pan wneir cais ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru—

(a)ei fod yn gais AEA; a

(b)nad oes datganiad y cyfeirir ato gan y ceisydd fel datganiad amgylcheddol yn dod gyda’r cais, at ddibenion y Rheoliadau hyn,

rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd bod cyflwyno datganiad amgylcheddol yn ofynnol a rhaid iddynt anfon copi o’r hysbysiad hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd yn unol â pharagraff (1) o fewn 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau gyda’r dyddiad y mae Gweinidogion Cymru yn cael y cais neu ba bynnag gyfnod hwy a bennir gan Weinidogion Cymru.

(3Caiff ceisydd sy’n cael hysbysiad o dan baragraff (1) gadarnhau i Weinidogion Cymru, o fewn 21 o ddiwrnodau yn dechrau gyda dyddiad yr hysbysiad, y darperir datganiad amgylcheddol.

(4Pan fo Gweinidogion Cymru yn ymwybodol bod unrhyw berson penodol yn cael ei effeithio neu yn debygol o gael ei effeithio gan y cais, neu â diddordeb yn y cais, ac sy’n annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy gyfrwng cyhoeddiad electronig, hysbysiad ar y safle neu drwy hysbyseb leol, rhaid i Weinidogion Cymru roi gwybod i’r ceisydd am unrhyw berson o’r fath.

(5Os nad yw’r ceisydd yn cadarnhau yn unol â pharagraff (3), nid oes gan Weinidogion Cymru unrhyw ddyletswydd i ymdrin â’r cais ac ar ddiwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau rhaid iddynt hysbysu’r ceisydd nad oes unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd ynglŷn â’r cais.

(6Pan—

(a)fo hysbysiad wedi ei roi o dan baragraff (1); a

(b)nad yw’r ceisydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol ac yn cydymffurfio â rheoliad 19 (cyhoeddusrwydd pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno ar ôl y cais cynllunio),

rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y cais drwy wrthod caniatâd cynllunio yn unig.

Gwybodaeth Cychwyn

I32Rhl. 32 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Cyfarwyddydau cwmpasuLL+C

33.—(1Caiff person sy’n bwriadu gwneud cais am ganiatâd cynllunio ofyn i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd cwmpasu.

(2Rhaid i ofyniad o dan baragraff (1) gynnwys—

(a)plan sy’n ddigonol i adnabod y tir;

(b)disgrifiad byr o natur a diben y datblygiad, gan gynnwys ei leoliad a’i gapasiti technegol;

(c)ei effeithiau sylweddol tebygol ar yr amgylchedd;

(d)datganiad y gofynnir am gyfarwyddyd mewn perthynas â datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol at ddibenion adran 62D o Ddeddf 1990; ac

(e)y fath wybodaeth arall neu sylwadau eraill y gallai’r person sy’n gwneud y gofyniad ddymuno eu darparu neu eu cyflwyno.

(3Rhaid i berson sy’n gwneud gofyniad yn unol â pharagraff (1) anfon copi o’r gofyniad hwnnw a’r dogfennau sy’n dod gyda’r gofyniad hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol.

(4Os nad yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod yr wybodaeth a ddarperir yn unol â pharagraff (1) yn ddigonol ar gyfer gwneud cyfarwyddyd cwmpasu, rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad i’r person sy’n gwneud y gofyniad.

(5Rhaid i’r hysbysiad nodi unrhyw bwyntiau y mae angen gwybodaeth ychwanegol amdanynt.

(6Caiff Gweinidogion Cymru hefyd ofyn i’r awdurdod cynllunio perthnasol ddarparu pa bynnag wybodaeth y gall am unrhyw rai o’r pwyntiau hyn.

(7Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)ymgynghori â’r ymgynghoreion cyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu mewn ymateb i ofyniad o dan baragraff (1), a

(b)gwneud cyfarwyddyd ac anfon copi at y person sy’n gofyn am y cyfarwyddyd ac i’r awdurdod cynllunio perthnasol, o fewn cyfnod o 8 wythnos sy’n dechrau â’r dyddiad y ceir y gofyniad hwnnw neu unrhyw gyfnod hwy a all fod yn rhesymol ofynnol.

(8Cyn gwneud cyfarwyddyd cwmpasu rhaid i Weinidogion Cymru ystyried—

(a)unrhyw wybodaeth a ddarperir gan y ceisydd ynghylch y datblygiad arfethedig;

(b)nodweddion neilltuol y datblygiad penodol;

(c)nodweddion neilltuol y datblygiad o’r math dan sylw; a

(d)y nodweddion amgylcheddol y mae’r datblygiad yn debygol o effeithio arnynt yn sylweddol.

(9Nid oes dim yn atal Gweinidogion Cymru, (ar ôl iddynt wneud cyfarwyddyd cwmpasu) rhag ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n gofyn am y cyfarwyddyd ddarparu gwybodaeth ychwanegol ynghylch effeithiau sylweddol tebygol y datblygiad arfaethedig.

(10Ystyr “Gwybodaeth ychwanegol” (“additional information”) ym mharagraff (9) yw gwybodaeth mewn cysylltiad ag unrhyw ddatganiad y caniateir ei gyflwyno gan y person hwnnw fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I33Rhl. 33 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Gweithdrefn i hwyluso llunio datganiadau amgylcheddolLL+C

34.  Mae rheoliad 16 yn gymwys fel pe bai—

(a)paragraff (3) yn darllen—

(3) Rhaid i dderbynnydd—

(a)hysbysiad o’r math a grybwyllir ym mharagraff (1); neu

(b)datganiad a wneir yn unol â rheoliad 11(4)(a), 12(6), 13(7) neu 32(3)

(i)hysbysu’r ymgynghoreion o enw a chyfeiriad y person sy’n bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol a’r ddyletswydd a osodir ar yr ymgynghoreion gan baragraff (4) i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhoi ar gael i’r person hwnnw; a

(ii)hysbysu’r person sy’n bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol o enwau a chyfeiriadau’r ymgynghoreion a hysbyswyd felly.; a

(b)y cyfeiriadau ym mharagraffau (4) a (5) i’r “awdurdod cynllunio perthnasol” ac “awdurdod” yn gyfeiriadau at Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I34Rhl. 34 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Cyhoeddusrwydd pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno ar ôl y cais cynllunioLL+C

35.  Mae rheoliad 19 yn gymwys fel pe bai paragraffau (2) a (3) yn darllen—

(2) Rhaid i’r ceisydd gyhoeddi hysbysiad yn nodi’r canlynol mewn papur newydd lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli—

(a)enw’r ceisydd, bod cais yn cael ei wneud i Weinidogion Cymru am ganiatâd cynllunio a chyfeiriad Gweinidogion Cymru;

(b)y dyddiad y gwnaed y cais;

(c)cyfeiriad neu leoliad a natur y datblygiad arfaethedig;

(d)bod copi o’r cais, unrhyw blan a dogfennau eraill sy’n mynd ynghyd ag ef, a chopi o’r datganiad amgylcheddol ar gael i aelodau’r cyhoedd edrych arnynt ar bob adeg resymol;

(e)cyfeiriad yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle mae’r dogfennau hynny ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt, a’r dyddiad olaf y maent ar gael i’w gweld (sydd yn ddyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(f)manylion gwefan a gynhelir gan Weinidogion Cymru, neu ar eu rhan, lle gellir gweld y datganiad amgylcheddol a dogfennau eraill, a’r dyddiad diweddaraf y byddant ar gael i’w cyrchu (sef dyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(g)cyfeiriad (pa un a yw yr un cyfeiriad a roddir o dan is-baragraff (e) ai peidio) yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle gellir cael copïau o’r datganiad;

(h)y gellir cael copïau yno cyhyd â bod rhai yn dal ar gael;

(i)os codir tâl am gopi, swm y tâl;

(j)bod yn rhaid i unrhyw berson sy’n dymuno cyflwyno sylwadau ynglŷn â’r cais eu cyflwyno i Weinidogion Cymru cyn y dyddiad a nodir yn unol ag is-baragraff (e) neu (f), pa un bynnag sydd ddiweddaraf; a

(k)y cyfeiriad y dylid anfon sylwadau iddo.

(3) Rhaid i geisydd sy’n cael ei hysbysu o dan reoliad 32(4) ynghylch person o’r math a grybwyllir yn y rheoliad hwnnw gyflwyno hysbysiad i bob person o’r fath; a rhaid i’r hysbysiad gynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (2), ond ni chaiff y dyddiad a nodir fel y dyddiad olaf y mae’r dogfennau ar gael i aelodau o’r cyhoedd edrych arnynt fod yn llai na 21 o ddiwrnodau yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad gyntaf.

Gwybodaeth Cychwyn

I35Rhl. 35 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Argaeledd copïau o ddatganiadau amgylcheddolLL+C

36.  Rhaid i geisydd sy’n cyflwyno datganiad amgylcheddol mewn cysylltiad â chais, sicrhau bod nifer rhesymol o gopïau o’r datganiad ar gael yn y cyfeiriad a enwir yn yr hysbysiadau a gyhoeddir neu a gyflwynir yn unol ag erthygl 18(2) o Orchymyn 2016 fel y cyfeiriad lle gellir cael copïau o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I36Rhl. 36 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Argaeledd cyfarwyddydau etc. i’w harchwilioLL+C

37.  Mae rheoliad 27 yn gymwys fel pe bai paragraff (1)(e) yn darllen “hysbysiad a roddwyd o dan reoliad 32(2) (ceisiadau a wneir heb ddatganiad amgylcheddol);”.

Gwybodaeth Cychwyn

I37Rhl. 37 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

RHAN 9LL+CCyfyngiadau ar Roi Caniatâd

Cynlluniau parth cynllunio wedi eu symleiddio neu orchmynion parth menter newyddLL+C

38.  Ni chaiff—

(a)mabwysiadu neu gymeradwyo cynllun parth cynllunio wedi ei symleiddio(24);

(b)gorchymyn sy’n dynodi parth menter a wnaed o dan adran 88 o Ddeddf 1990; neu

(c)cymeradwyo cynllun wedi ei addasu mewn perthynas â pharth menter o’r fath,

wneud y canlynol—

(i)rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad AEA; neu

(ii)rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad Atodlen 2 oni bai bod y caniatâd hwnnw yn cael ei wneud yn ddarostyngedig i fabwysiadu barn sgrinio yn flaenorol neu cyn gwneud cyfarwyddyd sgrinio nad yw’r datblygiad arfaethedig penodol yn ddatblygiad AEA.

Gwybodaeth Cychwyn

I38Rhl. 38 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Gorchmynion datblygu lleolLL+C

39.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â datblygiad Atodlen 2 y mae awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu rhoi caniatâd cynllunio iddo drwy orchymyn datblygu lleol.

(2Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)ni chaiff awdurdod cynllunio lleol fabwysiadu na diwygio gorchymyn datblygu lleol oni bai ei fod naill ai wedi gofyn am farn sgrinio a’i mabwysiadu neu bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd sgrinio;

(b)mae rheoliad 7(1) yn gymwys fel pe bai’r geiriau “yn unol â rheoliad 6(8)” wedi eu hepgor;

(c)mae rheoliadau 6(2) i (9), 7 ac 8 yn gymwys fel pe bai cyfeiriadau—

(i)at gais am ganiatâd cynllunio yn gyfeiriadau at gynnig ar gyfer gorchymyn datblygu lleol;

(ii)at awdurdod cynllunio perthnasol yn gyfeiriadau at yr awdurdod cynllunio lleol a fyddai’n gyfrifol am fabwysiadu neu ddiwygio’r gorchymyn datblygu lleol;

(iii)at y ceisydd yn gyfeiriadau at yr awdurdod; a

(iv)at gais Atodlen 2 yn gyfeiriadau at gynnig ar gyfer gorchymyn datblygu lleol i roi caniatâd cynllunio i ddatblygiad Atodlen 2.

(3Mae paragraff (4) ac Atodlen 5 yn gymwys—

(a)pan fo’r awdurdod cynllunio lleol yn mabwysiadu barn sgrinio; neu

(b)pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud cyfarwyddyd sgrinio,

i’r perwyl bod y datblygiad dan sylw yn ddatblygiad AEA.

(4Ni chaiff yr awdurdod cynllunio lleol fabwysiadu na diwygio gorchymyn datblygu lleol sy’n rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad Atodlen 2 sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd yn rhinwedd ffactorau megis natur, maint neu leoliad y datblygiad oni bai bod asesiad o’r effaith amgylcheddol wedi ei gynnal mewn cysylltiad â’r datblygiad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I39Rhl. 39 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Gorchmynion adran 97 a gorchmynion adran 102LL+C

40.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru yn bwriadu gwneud neu gadarnhau gorchymyn adran 97 sy’n addasu unrhyw ganiatâd i ddatblygu tir neu orchymyn adran 102 sy’n rhoi caniatâd cynllunio.

(2Ni chaiff yr awdurdod cynllunio lleol na Gweinidogion Cymru wneud na chadarnhau gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 mewn perthynas â datblygiad Atodlen 2 oni bai bod yr awdurdod wedi gofyn am farn sgrinio a’i mabwysiadu neu bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd sgrinio.

(3Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)nid yw rheoliad 6(4) yn gymwys;

(b)mae rheoliad 7(1) yn gymwys fel pe bai’r geiriau “yn unol â rheoliad 6(8)” wedi eu hepgor;

(c)mae rheoliadau 6(2), (4), (5) i (9) a 7(1), (3) i (9) yn gymwys fel pe bai cyfeiriadau—

(i)at gais am ganiatâd cynllunio yn gyfeiriadau at gynnig am orchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102;

(ii)at awdurdod cynllunio perthnasol yn gyfeiriadau at y corff sy’n gyfrifol am wneud y gorchymyn adran 97 neu’r gorchymyn adran 102;

(iii)at y ceisydd yn gyfeiriadau at y corff cychwyn; a

(iv)at gais Atodlen 1 neu gais Atodlen 2 yn gyfeiriadau at gynnig ar gyfer gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102 a fyddai’n rhoi neu’n addasu caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad Atodlen 1 neu ddatblygiad Atodlen 2 yn y drefn honno.

(4Mae paragraffau (5) a (6) ac Atodlen 6 yn gymwys yn y naill achos neu’r llall—

(a)i ddatblygiad Atodlen 1;

(b)pan fo naill ai—

(i)yr awdurdod cynllunio lleol yn mabwysiadu barn sgrinio, neu

(ii)Gweinidogion Cymru yn gwneud cyfarwyddyd sgrinio o dan y Rheoliadau hyn,

i’r perwyl bod y datblygiad yn ddatblygiad AEA.

(5Ni chaiff yr awdurdod cynllunio lleol wneud gorchymyn adran 97 sy’n caniatáu datblygiad AEA neu’n gwneud datblygiad AEA yn ofynnol oni bai bod asesiad o’r effaith amgylcheddol wedi ei gynnal mewn perthynas â’r datblygiad hwnnw.

(6Ni chaiff Gweinidogion Cymru gadarnhau na gwneud gorchymyn adran 97 na gorchymyn adran 102 sy’n caniatáu datblygiad AEA neu’n gwneud datblygiad AEA yn ofynnol oni bai bod asesiad o’r effaith amgylcheddol wedi ei gynnal mewn perthynas â’r datblygiad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I40Rhl. 40 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Camau gweithredu o dan adran 141 o Ddeddf 1990LL+C

41.—(1Mae’r rheoliad hwn ac Atodlen 7 yn gymwys mewn perthynas ag arfer swyddogaethau gan Weinidogion Cymru o dan adran 141(2) neu (3) o Ddeddf 1990(25).

(2Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad prynu o dan adran 139(4) o Ddeddf 1990, ni chaiff Gweinidogion Cymru addasu caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad AEA neu roi cyfarwyddyd, os y gwneir cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad AEA, bod rhaid rhoi’r caniatâd hwnnw oni bai y cynhaliwyd asesiad o’r effaith amgylcheddol mewn cysylltiad â’r datblygiad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I41Rhl. 41 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

RHAN 10LL+CDatblygiad Anawdurdodedig

Dehongli’r Rhan honLL+C

42.  Yn y Rhan hon—

ystyr “apêl sail (a)” (“ground (a) appeal”) yw apêl a gyflwynir o dan adran 174(2)(a) o Ddeddf 1990 (apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi)(26); ac

ystyr “datblygiad AEA anawdurdodedig” (“unauthorised EIA development”) yw datblygiad AEA sy’n destun hysbysiad gorfodi o dan adran 172 o Ddeddf 1990 (dyroddi hysbysiad gorfodi);

ystyr “swyddogaethau gorfodi” (“enforcement functions”) yw—

(a)

dyroddi hysbysiad gorfodi o dan adran 172 o Ddeddf 1990 (dyroddi hysbysiad gorfodi)(27);

(b)

dyroddi hysbysiad tramgwydd cynllunio o dan adran 171C o Ddeddf 1990 (pŵer i wneud gwybodaeth ynghylch gweithgarwch ar dir yn ofynnol)(28);

(c)

dyroddi hysbysiad stop dros dro o dan adran 171E o Ddeddf 1990 (hysbysiad stop dros dro)(29);

(d)

dyroddi hysbysiad stop o dan adran 183 o Ddeddf 1990 (hysbysiadau stop)(30);

(e)

cyflwyno hysbysiad torri amodau o dan adran 187A o Ddeddf 1990 (gorfodi amodau)(31); a

(f)

cais i’r llys am waharddeb o dan adran 187B o Ddeddf 1990 (gwaharddebau sy’n atal achosion o dorri rheol gynllunio)(32).

Gwybodaeth Cychwyn

I42Rhl. 42 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Dyletswydd i sicrhau y cyflawnir amcanion y GyfarwyddebLL+C

43.  Rhaid i awdurdodau cynllunio perthnasol, wrth arfer eu swyddogaethau gorfodi, roi sylw i’r angen i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion ac amcanion y Gyfarwyddeb.

Gwybodaeth Cychwyn

I43Rhl. 43 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Gwahardd rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad AEA anawdurdodedigLL+C

44.  Ni chaiff Gweinidogion Cymru nac arolygydd roi caniatâd cynllunio na chydsyniad dilynol o dan adran 177(1) o Ddeddf 1990 (rhoi neu addasu caniatâd cynllunio ar apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi)(33) mewn cysylltiad â datblygiad AEA anawdurdodedig oni bai y cynhaliwyd asesiad o’r effaith amgylcheddol mewn cysylltiad â’r datblygiad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I44Rhl. 44 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Barnau sgrinioLL+C

45.—(1Pan ymddengys i’r awdurdod cynllunio lleol y dyroddir hysbysiad gorfodi ganddo neu ar ei ran bod y materion sy’n golygu torri rheol gynllunio yn ddatblygiad Atodlen 1 neu’n cynnwys datblygiad Atodlen 1 neu’n ddatblygiad Atodlen 2 neu’n cynnwys datblygiad Atodlen 2 rhaid iddo, cyn y dyroddir yr hysbysiad gorfodi—

(a)cymryd y fath gamau sy’n ymddangos yn rhesymol iddynt o dan yr amgylchiadau, gan roi sylw i ofynion rheoliad 6(2) a (4), i gael gwybodaeth am ddatblygiad anawdurdodedig i hysbysu barn sgrinio; a

(b)mabwysiadu barn sgrinio.

(2Pan ymddengys i’r fath awdurdod cynllunio lleol bod y materion sy’n golygu torri rheol gynllunio yn ddatblygiad AEA neu’n cynnwys datblygiad AEA, rhaid iddo gyflwyno gyda chopi o’r hysbysiad gorfodi, hysbysiad (“hysbysiad rheoliad 45”) y mae’n rhaid iddo—

(a)cynnwys y farn sgrinio sy’n ofynnol gan baragraff (1); a

(b)ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n rhoi hysbysiad o apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990 gyflwyno dau gopi o ddatganiad amgylcheddol sy’n ymwneud â’r datblygiad AEA hwnnw i Weinidogion Cymru gyda’r hysbysiad.

(3Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol a gyflwynodd hysbysiad rheoliad 45 anfon copi ohono at—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)yr ymgynghoreion; ac

(c)unrhyw berson penodol y mae’r awdurdod yn ymwybodol ohono, sy’n debygol o gael ei effeithio gan, neu sydd â diddordeb yn, yr hysbysiad rheoliad 45.

(4Pan fo awdurdod cynllunio lleol yn darparu copi o hysbysiad rheoliad 45 i Weinidogion Cymru, rhaid iddo gynnwys gydag ef restr o’r personau eraill y mae copi o’r hysbysiad wedi ei anfon neu sydd am gael ei anfon atynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I45Rhl. 45 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Cyfarwyddydau sgrinioLL+C

46.—(1Caiff unrhyw berson y cyflwynir hysbysiad rheoliad 45 iddo, wneud cais i Weinidogion Cymru am gyfarwyddyd sgrinio o fewn 21 o ddiwrnodau yn dechrau â’r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad.

(2Rhaid i’r canlynol gael eu cyflwyno ynghyd â’r cais am gyfarwyddyd sgrinio—

(a)copi o’r hysbysiad rheoliad 45;

(b)copi o’r hysbysiad gorfodi a oedd yn dod gydag ef; ac

(c)yr wybodaeth sy’n ofynnol o dan reoliad 6(2), a’r sylwadau a gyflwynir yn unol â’r rheoliad hwnnw, y mae’n rhaid i’r ceisydd eu llunio wrth gydymffurfio â rheoliad 6(4).

(3Ar yr un pryd ag y gwneir cais i Weinidogion Cymru, rhaid i’r ceisydd anfon copi o’r cais a’r wybodaeth ac unrhyw sylwadau a ddarperir neu a gyflwynir yn unol â pharagraff (2)(c) i’r awdurdod a gyflwynodd yr hysbysiad rheoliad 45.

(4Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw’r wybodaeth a ddarperir yn unol â pharagraff (2) yn ddigonol i wneud cyfarwyddyd, rhaid iddynt hysbysu’r ceisydd a’r awdurdod am y materion y mae angen gwybodaeth ychwanegol mewn cysylltiad â hwy; a rhaid i’r wybodaeth y gofynnwyd amdani felly gael ei darparu gan y ceisydd o fewn pa bynnag gyfnod rhesymol a bennir yn yr hysbysiad.

(5Mae rheoliad 7(6) i (8) yn gymwys i gyfarwyddyd y ceisir yn unol â pharagraff (1).

(6Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o’r cyfarwyddyd at y ceisydd.

(7Pan fo Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo nad yw’r materion yr honnir eu bod yn torri rheol gynllunio yn ddatblygiad AEA nac yn cynnwys datblygiad AEA, rhaid iddynt anfon copi o’r cyfarwyddyd at bob person yr anfonwyd copi o’r hysbysiad rheoliad 45 atynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I46Rhl. 46 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Darparu gwybodaethLL+C

47.—(1Rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol ac unrhyw berson, ac eithrio Gweinidogion Cymru, yr anfonwyd copi o hysbysiad rheoliad 45 atynt (“yr ymgynghorai rheoliad 45”), ymgynghori â’r person hwnnw, os gofynnir iddo wneud hynny gan y person y cyflwynwyd yr hysbysiad rheoliad 45 iddo, er mwyn penderfynu a oes gan yr ymgynghorai rheoliad 45 unrhyw wybodaeth yn ei feddiant y mae’r person hwnnw neu’r ymgynghorai rheoliad 45 yn ystyried ei bod yn berthnasol ar gyfer llunio datganiad amgylcheddol ac os oes ganddo, rhaid i’r ymgynghorai rheoliad 45 sicrhau bod unrhyw wybodaeth o’r fath ar gael i’r person hwnnw.

(2Mae rheoliad 16(5) yn gymwys i wybodaeth o dan baragraff (1) fel y mae’n gymwys i unrhyw wybodaeth sy’n dod o fewn rheoliad 16(4).

Gwybodaeth Cychwyn

I47Rhl. 47 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Apêl i Weinidogion Cymru heb farn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinioLL+C

48.—(1Pan ymddengys i Weinidogion Cymru wrth ystyried apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990 bod y materion yr honnir eu bod yn golygu torri rheol gynllunio yn ddatblygiad Atodlen 1 neu’n cynnwys datblygiad Atodlen 1, neu’n ddatblygiad Atodlen 2 neu’n cynnwys datblygiad Atodlen 2, rhaid iddynt wneud cyfarwyddyd sgrinio cyn y cyflwynir unrhyw hysbysiad yn unol â rheoliad 49.

(2Pan fo arolygydd yn ymdrin ag apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990 a bod cwestiwn yn codi ynghylch a yw’r materion yr honnir eu bod yn golygu torri rheol gynllunio yn ddatblygiad Atodlen 1 neu’n cynnwys datblygiad Atodlen 1, neu’n ddatblygiad Atodlen 2 neu’n cynnwys datblygiad Atodlen 2, rhaid i’r arolygydd atgyfeirio’r cwestiwn hwnnw at Weinidogion Cymru.

(3Cyn cael cyfarwyddyd sgrinio ni chaiff yr arolygydd benderfynu ar gais y tybir ei fod wedi ei wneud yn rhinwedd yr apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990 (“y cais tybiedig”) ac eithrio i wrthod y cais hwnnw.

(4Pan atgyfeirir cwestiwn o dan baragraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd sgrinio o fewn 21 o ddiwrnodau yn dechrau â’r dyddiad yr atgyfeiriwyd y cwestiwn neu unrhyw gyfnod hwy y gwneir yn ofynnol yn rhesymol, heb fod yn fwy na 90 o ddiwrnodau o’r dyddiad y mae’r person sy’n gofyn am y cyfarwyddyd yn cyflwyno’r wybodaeth sy’n ofynnol o dan reoliad 46(2)(c).

(5Pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried, oherwydd amgylchiadau eithriadol sy’n ymwneud â’r datblygiad arfaethedig, nad yw’n ymarferol iddynt fabwysiadu cyfarwyddyd sgrinio o fewn y cyfnod o 90 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad y gofyniad, caiff Gweinidogion Cymru estyn y cyfnod hwnnw drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person a ofynnodd am y cyfarwyddyd.

(6Rhaid i Weinidogion Cymru ddatgan mewn unrhyw hysbysiad o dan baragraff (5) y rhesymau sy’n cyfiawnhau’r estyniad a dyddiad disgwyliedig y penderfyniad.

(7Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o unrhyw gyfarwyddyd sgrinio a wneir yn unol â pharagraff (4) at yr arolygydd.

(8Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad oes digon o wybodaeth wedi ei darparu i wneud cyfarwyddyd sgrinio, rhaid iddynt roi hysbysiad i’r ceisydd a’r awdurdod a gyflwynodd yr hysbysiad rheoliad 45 am y materion y mae angen gwybodaeth ychwanegol mewn cysylltiad â hwy, ac mae’n rhaid i’r wybodaeth honno y gofynnir amdani felly gael ei darparu gan y ceisydd o fewn unrhyw gyfnod rhesymol a bennir yn yr hysbysiad.

(9Os bydd apelydd sydd wedi cael hysbysiad o dan baragraff (8) yn methu â chydymffurfio â gofynion yr hysbysiad hwnnw mae’r apêl, i’r graddau y mae’n apêl sail (a), yn methu ar ddiwedd y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I48Rhl. 48 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Apêl i Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddolLL+C

49.—(1Mae’r weithdrefn ym mharagraff (2) yn gymwys pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru neu arolygydd yn ystyried apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990;

(b)y materion yr honnir eu bod yn golygu torri’r rheol gynllunio yn ddatblygiad AEA anawdurdodedig neu’n cynnwys datblygiad AEA anawdurdodedig; ac

(c)nid yw’r dogfennau a gyflwynir at ddibenion yr apêl yn cynnwys datganiad y cyfeirir ato gan yr apelydd fel datganiad amgylcheddol at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(2Y weithdrefn yw—

(a)rhaid i Weinidogion Cymru, o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau gyda’r diwrnod y ceir yr apêl, neu unrhyw gyfnod hwy y gwneir yn ofynnol yn rhesymol, rhoi hysbysiad i’r apelydd o ofynion is-baragraff (c); ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-baragraff (b);

(b)nid oes angen rhoi hysbysiad o dan is-baragraff (a) pan fo’r apelydd wedi cyflwyno datganiad amgylcheddol i Weinidogion Cymru at ddibenion apêl o dan adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath) sydd—

(i)yn ymwneud â’r datblygiad y mae’r apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990 yn ymwneud ag ef; a

(ii)i’w benderfynu ar yr un adeg â’r apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990;

ac mae’n rhaid trin y datganiad, unrhyw wybodaeth bellach, unrhyw wybodaeth arall a’r sylwadau (os oes rhai) a wneir mewn perthynas ag ef fel yr wybodaeth amgylcheddol at ddiben rheoliad 41;

(c)rhaid i’r apelydd, o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad neu pa bynnag gyfnod hwy y caniateir gan Weinidogion Cymru, gyflwyno dau gopi o ddatganiad amgylcheddol sy’n ymwneud â’r datblygiad AEA anawdurdodedig dan sylw i Weinidogion Cymru;

(d)rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o unrhyw hysbysiad a anfonwyd at yr apelydd o dan is-baragraff (a) i’r awdurdod cynllunio perthnasol;

(e)os bydd apelydd y rhoddwyd hysbysiad o dan is-baragraff (a) iddo yn methu â chydymffurfio â gofynion is-baragraff (c), mae’r apêl sail (a) yn methu ar ddiwedd y cyfnod a ganiateir;

(f)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r methu a ddisgrifir yn is-baragraff (e) ddigwydd, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r apelydd a’r awdurdod cynllunio perthnasol bod yr apêl sail (a) wedi methu.

Gwybodaeth Cychwyn

I49Rhl. 49 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Gweithdrefn pan fo datganiad amgylcheddol yn cael ei gyflwyno i Weinidogion CymruLL+C

50.  Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael datganiad amgylcheddol mewn cysylltiad ag apêl gorfodi (ac eithrio fel y crybwyllir yn rheoliad 49(2)(b)), rhaid iddynt—

(a)anfon copi o’r datganiad hwnnw i’r awdurdod cynllunio perthnasol, cynghori’r awdurdod y bydd y datganiad yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth benderfynu ar yr apêl sail (a), a’i hysbysu y caniateir iddo gyflwyno sylwadau;

(b)hysbysu’r personau yr anfonwyd copi o’r hysbysiad rheoliad 45 perthnasol atynt y bydd y datganiad yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth benderfynu ar yr apêl sail (a), a’u hysbysu y caniateir iddynt gyflwyno sylwadau ac, os ydynt yn dymuno cael copi o’r datganiad neu unrhyw ran ohono, bod yn rhaid iddynt hysbysu Gweinidogion Cymru o’u gofynion o fewn 7 diwrnod i gael hysbysiad Gweinidogion Cymru; ac

(c)ymateb i ofynion a hysbysir yn unol â pharagraff (b) drwy ddarparu copi o’r datganiad neu o’r rhan y gofynnwyd amdani (yn ôl y digwydd).

Gwybodaeth Cychwyn

I50Rhl. 50 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Gwybodaeth bellach a thystiolaeth ynghylch datganiadau amgylcheddolLL+C

51.  Mae rheoliad 24(1) a (10) yn gymwys i ddatganiadau a ddarperir yn unol â’r Rhan hon gyda’r addasiadau canlynol—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru neu arolygydd yn hysbysu’r apelydd o dan reoliad 24(1), rhaid i’r apelydd ddarparu’r wybodaeth bellach o fewn y fath gyfnod a bennir gan Weinidogion Cymru neu’r arolygydd yn yr hysbysiad neu ba bynnag gyfnod hwy y caniateir gan Weinidogion Cymru neu’r arolygydd;

(b)os bydd apelydd y mae hysbysiad wedi ei roi iddo o dan baragraff (a) yn methu â darparu’r wybodaeth bellach o fewn y cyfnod a bennir neu a ganiateir, mae’r apêl sail (a) yn methu ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I51Rhl. 51 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Cyhoeddusrwydd ar gyfer datganiadau amgylcheddol neu wybodaeth bellachLL+C

52.—(1Pan fo awdurdod yn cael copi o ddatganiad yn rhinwedd rheoliad 50(a) neu unrhyw wybodaeth bellach neu wybodaeth arall, rhaid iddo gyhoeddi hysbysiad drwy hysbyseb leol sy’n nodi—

(a)enw’r apelydd a bod yr hysbysiad gorfodi wedi ei apelio i Weinidogion Cymru;

(b)cyfeiriad neu leoliad y tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef a natur y datblygiad;

(c)digon o wybodaeth i alluogi adnabod unrhyw ganiatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad;

(d)bod copi o’r datganiad, gwybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall ac o unrhyw ganiatâd cynllunio ar gael i aelodau o’r cyhoedd edrych arnynt ar bob adeg resymol;

(e)cyfeiriad yn yr ardal leol lle mae’r tir wedi ei leoli lle caiff y cyhoedd edrych ar y datganiad neu wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall, a’r dyddiad olaf y bydd ar gael i’w gweld (sydd yn ddyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(f)manylion gwefan a gynhelir gan yr awdurdod cynllunio perthnasol, neu ar ei ran, lle gellir gweld y datganiad amgylcheddol a dogfennau eraill, a’r dyddiad diweddaraf y byddant ar gael i’w cyrchu (sef dyddiad nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau yn ddiweddarach na’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad);

(g)y dylai unrhyw berson sy’n dymuno cyflwyno sylwadau am unrhyw fater sy’n cael ei drin yn y datganiad neu’r wybodaeth bellach neu unrhyw wybodaeth arall eu cyflwyno i Weinidogion Cymru cyn y dyddiad diweddaraf a nodir yn unol ag is-baragraff (e) neu (f); ac

(h)y cyfeiriad y dylid anfon unrhyw sylwadau o’r fath iddo.

(2Rhaid i’r awdurdod, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyhoeddi hysbysiad yn unol â pharagraff (1), anfon copi o’r hysbysiad at Weinidogion Cymru, wedi ei ardystio gan neu ar ran yr awdurdod ei fod wedi ei gyhoeddi drwy hysbyseb leol ar ddyddiad a bennir yn y dystysgrif.

(3Rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol sicrhau bod y datganiad amgylcheddol ar gael i’w weld ar wefan a gynhelir ganddo neu ar ei ran.

(4Ni chaiff Gweinidogion Cymru sy’n cael tystysgrif o dan baragraff (2) nac arolygydd benderfynu ar yr apêl sail (a) mewn cysylltiad â’r datblygiad y mae’r dystysgrif yn ymwneud ag ef hyd nes bod y cyfnod o 30 o ddiwrnodau o’r dyddiad a nodir yn yr hysbysiad cyhoeddedig fel y dyddiad olaf yr oedd y datganiad neu’r wybodaeth bellach ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt wedi dod i ben.

Gwybodaeth Cychwyn

I52Rhl. 52 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Dogfennau ar gael i’r cyhoedd edrych arnyntLL+C

53.—(1Rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol sicrhau bod copi o’r canlynol ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt ar bob adeg resymol yn y lle y cedwir y gofrestr briodol (neu ran berthnasol o’r gofrestr)—

(a)pob hysbysiad rheoliad 45 a roddwyd gan yr awdurdod;

(b)pob hysbysiad a gafwyd gan yr awdurdod o dan reoliad 49(2)(d); ac

(c)pob datganiad a phob gwybodaeth bellach a gafwyd gan yr awdurdod o dan reoliad 50(a);

a rhaid i gopïau o’r dogfennau hynny barhau i fod ar gael felly am gyfnod o 2 flynedd neu hyd y byddant yn cael eu rhoi yn Rhan 2 o’r gofrestr yn unol â pharagraff (2), pa bynnag un sy’n digwydd gyntaf.

(2Pan fo manylion am unrhyw ganiatâd cynllunio a roddwyd gan Weinidogion Cymru neu arolygydd o dan adran 177 o Ddeddf 1990 yn cael eu rhoi yn Rhan 2 o’r gofrestr(34), rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol gymryd camau i sicrhau bod y Rhan honno hefyd yn cynnwys copi o unrhyw rai o’r dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) sy’n berthnasol i’r datblygiad y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar ei gyfer.

(3Mae darpariaethau paragraffau (2) a (3) o reoliad 29 yn gymwys i ganiatâd cynllunio a roddir o dan adran 177 o Ddeddf 1990 fel y maent yn gymwys i gais am ganiatâd cynllunio a rhoi caniatâd cynllunio o dan Ran 3 o Ddeddf 1990.

Gwybodaeth Cychwyn

I53Rhl. 53 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Effeithiau trawsffiniol sylweddolLL+C

54.  Mae rheoliad 56 yn gymwys i ddatblygiad AEA anawdurdodedig fel pe bai—

(a)rheoliad 56(1)(a) i’w ddarllen fel—

(a)wrth ystyried apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990, mae Gweinidogion Cymru o’r farn bod y materion yr honnir eu bod yn golygu torri rheol gynllunio yn ddatblygiad AEA neu’n cynnwys datblygiad AEA a bod y datblygiad wedi neu yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth AEE arall; neu;

(b)yn rheoliad 56(3)(a), “copi o’r cais dan sylw”, i’w ddarllen fel “disgrifiad o’r datblygiad dan sylw”;

(c)yn rheoliad 56(6), “y cais” i’w ddarllen fel “yr apêl”.

Gwybodaeth Cychwyn

I54Rhl. 54 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

RHAN 11LL+CCeisiadau ROMP

Cymhwysiad cyffredinol y Rheoliadau i geisiadau ROMPLL+C

55.—(1Yn y rheoliad hwn ac yn Atodlen 8—

ystyr “awdurdod cynllunio mwynau perthnasol” (“relevant mineral planning authority”) yw’r corff sy’n gyfrifol, oedd yn gyfrifol neu a fyddai’n gyfrifol, oni bai am gyfarwyddyd o dan—

(a)

paragraff 7 o Atodlen 2 i Ddeddf 1991;

(b)

paragraff 13 o Atodlen 13 i Ddeddf 1995; neu

(c)

paragraff 8 o Atodlen 14 i Ddeddf 1995,

am benderfynu ar y cais ROMP dan sylw;

ystyr “cais dilynol ROMP” (“ROMP subsequent application”) yw cais am gymeradwyo mater—

(a)

pan fo’r gymeradwyaeth yn ofynnol gan neu o dan amod y mae caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig iddo ar ôl penderfynu ar gais ROMP; a

(b)

pan fo rhaid cael y gymeradwyaeth cyn y caniateir dechrau ar neu barhau â’r datblygiad mwynau cyfan neu ran o’r datblygiad mwynau a ganiateir gan y caniatâd cynllunio;

ystyr “cais ROMP” (“ROMP application”) yw cais i awdurdod cynllunio mwynau perthnasol i benderfynu ar yr amodau y bydd caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig iddynt o dan—

(a)

paragraff 2(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 1991 (cofrestru hen ganiatadau mwyngloddio);

(b)

paragraff 9(1) o Atodlen 13 i Ddeddf 1995 (adolygu hen ganiatadau cynllunio mwynau); neu

(c)

paragraff 6(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1995 (adolygiad cyfnodol o ganiatadau cynllunio mwynau)(35);

mae i “cais ROMP amhenderfynedig” (“undetermined ROMP application”) yr un ystyr ag yn rheoliad 2 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009(36);

ystyr “cydsyniad dilynol ROMP” (“ROMP subsequent consent”) yw cydsyniad a roddir yn unol â chais dilynol ROMP;

ystyr “datblygiad ROMP” (“ROMP development”) yw datblygiad nad yw wedi digwydd eto ac sydd wedi ei awdurdodi gan ganiatâd cynllunio y mae cais ROMP wedi neu yn mynd i gael ei wneud mewn cysylltiad ag ef;

ystyr “ROMP” (“ROMP”) yw adolygiad o hen ganiatâd mwynau;

ystyr “y Rheoliadau Cyffredinol” (“the General Regulations”) yw Rheoliadau Cyffredinol Cynllunio Gwlad a Thref 1992(37).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3) a’r addasiadau a’r ychwanegiadau a nodir yn Atodlen 8, mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i—

(a)cais ROMP fel y maent yn gymwys i gais am ganiatâd cynllunio;

(b)cais dilynol ROMP fel y maent yn gymwys i gais dilynol;

(c)datblygiad ROMP fel y maent yn gymwys i ddatblygiad y mae cais am ganiatâd cynllunio yn, wedi neu yn mynd i gael ei wneud mewn cysylltiad ag ef;

(d)awdurdod cynllunio mwynau perthnasol fel y maent yn gymwys i awdurdod cynllunio perthnasol;

(e)person sy’n gwneud cais ROMP fel y maent yn gymwys i geisydd am ganiatâd cynllunio;

(f)person sy’n gwneud cais dilynol ROMP fel y maent yn gymwys i berson sy’n gwneud cais dilynol;

(g)penderfyniad ar gais ROMP fel y maent yn gymwys i roi caniatâd cynllunio; a

(h)rhoi cydsyniad dilynol ROMP fel y maent yn gymwys i roi cydsyniad dilynol.

(3Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i—

(a)unrhyw gais ROMP amhenderfynedig y mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009 yn gymwys iddo;

(b)unrhyw apêl mewn perthynas â chais o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I55Rhl. 55 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

RHAN 12LL+CDatblygiad ag Effeithiau Trawsffiniol Sylweddol

Datblygiad yng Nghymru sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol mewn Gwladwriaeth AEE arallLL+C

56.—(1Pan—

(a)y daw i sylw Gweinidogion Cymru bod datblygiad y bwriedir ei gynnal yng Nghymru yn destun cais AEA ac yn debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth AEE arall; neu

(b)bod Gwladwriaeth AEE arall sy’n debygol o gael ei heffeithio’n sylweddol gan ddatblygiad o’r fath yn gofyn iddynt,

rhaid i Weinidogion Cymru—

(i)anfon y manylion a grybwyllwyd ym mharagraff (2) ac, os yn berthnasol, yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (3) i’r Wladwriaeth AEE cyn gynted ag y bo modd a dim hwyrach na’r dyddiad cyhoeddi yn y London Gazette y cyfeirir ato yn is-baragraff (ii);

(ii)cyhoeddi’r wybodaeth ym mharagraff (2) mewn hysbysiad yn y London Gazette, ac os yw’n berthnasol, yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (3) a chyfeiriad lle mae gwybodaeth ychwanegol ar gael; a

(iii)rhoi amser rhesymol i’r Wladwriaeth AEE ddynodi a yw’n dymuno cymryd rhan yn y weithdrefn y mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar ei chyfer.

(2Y manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b)(i) yw—

(a)disgrifiad o’r datblygiad ynghyd ag unrhyw wybodaeth sydd ar gael ar ei effaith sylweddol bosibl ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth AEE arall; a

(b)gwybodaeth ynghylch natur y penderfyniad y caniateir ei wneud.

(3Pan fo Gwladwriaeth AEE yn dynodi, yn unol â pharagraff (1)(b)(iii), ei bod yn dymuno cymryd rhan yn y weithdrefn y mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar ei chyfer, rhaid i Weinidogion Cymru anfon y canlynol i’r Wladwriaeth AEE honno cyn gynted ag y bo modd—

(a)copi o’r cais dan sylw;

(b)manylion yr awdurdod sy’n gyfrifol am benderfynu ar y cais;

(c)copi o unrhyw ganiatâd cynllunio sy’n ymwneud â’r datblygiad;

(d)copi o unrhyw ddatganiad amgylcheddol mewn cysylltiad â’r datblygiad; a

(e)gwybodaeth berthnasol ynglŷn â’r weithdrefn o dan y Rheoliadau hyn,

ond dim ond i’r graddau nad yw gwybodaeth o’r fath wedi ei darparu i’r Wladwriaeth AEE yn gynharach yn unol â pharagraff (1)(b)(i).

(4Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd sicrhau bod y Wladwriaeth AEE dan sylw yn cael cyfle, cyn y rhoddir caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad, i anfon ymlaen at Weinidogion Cymru o fewn cyfnod rhesymol, farn y cyhoedd a’r awdurdodau sy’n debygol o fod â phryderon yn sgîl y prosiect oherwydd eu cyfrifoldebau amgylcheddol penodol am yr wybodaeth a ddarperir.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru, yn unol ag Erthygl 7(4) o’r Gyfarwyddeb—

(a)cynnal ymgynghoriadau gyda’r Wladwriaeth AEE dan sylw ynghylch, ymysg pethau eraill, effeithiau sylweddol posibl y datblygiad ar amgylchedd y Wladwriaeth AEE honno a’r mesurau a ragwelir ar gyfer lleihau neu ddileu effeithiau o’r fath; a

(b)penderfynu ar y cyd â’r Wladwriaeth AEE arall ar gyfnod rhesymol o amser ar gyfer hyd y cyfnod ymgynghori.

(6Pan ymgynghorir â Gwladwriaeth AEE yn unol â pharagraff (5) ar benderfyniad ynghylch y cais dan sylw, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r Wladwriaeth AEE am y penderfyniad ac anfon ati gopi o’r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 28.

Gwybodaeth Cychwyn

I56Rhl. 56 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Prosiectau mewn Gwladwriaeth AEE arall sy’n debygol o gael effeithiau trawsffiniol sylweddolLL+C

57.—(1Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael gwybodaeth gan Wladwriaeth AEE arall, yn unol ag Erthygl 7(1) neu (2) o’r Gyfarwyddeb, a gasglwyd oddi wrth ddatblygwr prosiect arfaethedig yn y Wladwriaeth AEE arall gan y Wladwriaeth AEE honno, sy’n debygol o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd yng Nghymru, rhaid iddynt, yn unol ag Erthygl 7(4) o’r Gyfarwyddeb—

(a)cynnal ymgynghoriadau gyda’r Wladwriaeth AEE honno ynghylch effeithiau sylweddol posibl y prosiect arfaethedig ar yr amgylchedd yng Nghymru a’r mesurau a ragwelir ar gyfer lleihau neu ddileu effeithiau o’r fath; a

(b)cyn y rhoddir cydsyniad datblygu i’r prosiect, penderfynu ar gyfnod rhesymol ar y cyd â’r Wladwriaeth AEE honno pryd y caniateir i aelodau’r cyhoedd yng Nghymru gyflwyno sylwadau i’r awdurdod cymwys yn y Wladwriaeth AEE honno, yn unol ag Erthygl 7(3)(b) o’r Gyfarwyddeb.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd—

(a)trefnu i’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) fod ar gael, o fewn cyfnod rhesymol ac am gyfnod nad yw’n llai na 30 o ddiwrnodau, i’r awdurdodau yng Nghymru sy’n debygol o fod â phryderon ynghylch y prosiect oherwydd eu cyfrifoldebau amgylcheddol penodol, ac i’r cyhoedd dan sylw yng Nghymru hefyd;

(b)sicrhau bod yr awdurdodau hynny a’r cyhoedd dan sylw yn cael cyfle i anfon ymlaen eu barn ar yr wybodaeth a ddarparwyd at yr [F4awdurdod yn y Wladwriaeth AEE berthnasol y mae’r wladwriaeth honno wedi ei ddynodi yn awdurdod sy’n gyfrifol am gyflawni’r dyletswyddau sy’n deillio o’r Gyfarwyddeb] o fewn cyfnod rhesymol o amser, cyn y rhoddir cydsyniad datblygu i’r prosiect; ac

(c)sicrhau bod unrhyw wybodaeth a geir gan [F5awdurdod yn y Wladwriaeth AEE berthnasol y mae’r wladwriaeth honno wedi ei ddynodi yn awdurdod sy’n gyfrifol am gyflawni’r dyletswyddau sy’n deillio o’r Gyfarwyddeb] .

RHAN 13LL+CAmrywiol

Gwrthrychedd a rhagfarnLL+C

58.—(1Pan fo gan awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru ddyletswydd o dan y Rheoliadau hyn, rhaid iddynt gyflawni’r ddyletswydd honno mewn modd gwrthrychol er mwyn osgoi sefyllfa sy’n arwain at wrthdaro buddiannau.

(2Pan fo awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru yn gweithredu fel datblygwr a bod yr awdurdod hwnnw neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd, hefyd yn gyfrifol am benderfynu ar ei gynnig ei hun neu eu cynnig eu hunain, rhaid i’r awdurdod hwnnw neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd, wneud trefniadau gweinyddol priodol er mwyn sicrhau bod gwahanu swyddogaethau rhwng y personau hynny sy’n gwneud cais am ganiatâd i ddatblygu, neu y mae caniatâd i ddatblygu yn ofynnol iddynt, a’r personau sy’n gyfrifol am benderfynu ar y cynnig hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I58Rhl. 58 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Cais i’r Uchel LysLL+C

59.  At ddibenion Rhan 12 o Ddeddf 1990 (dilysrwydd penderfyniadau penodol), rhaid cymryd bod y cyfeiriad yn adran 288(1)(b)(38) nad yw gweithredoedd Gweinidogion Cymru o fewn pwerau Deddf 1990 yn cynnwys peidio â chaniatáu rhoi caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol oherwydd rheoliadau 3 neu 44.

Gwybodaeth Cychwyn

I59Rhl. 59 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Gwastraff peryglus a newid defnydd sylweddolLL+C

60.  Mae newid yn nefnydd tir neu adeiladau i ddefnydd at ddiben a grybwyllir ym mharagraff 9 o Atodlen 1 yn cynnwys newid sylweddol yn y defnydd o’r tir hwnnw neu’r adeiladau hynny at ddibenion adran 55(1) o Ddeddf 1990 (ystyr “datblygiad” a “datblygiad newydd”).

Gwybodaeth Cychwyn

I60Rhl. 60 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Ymestyn y cyfnod ar gyfer penderfyniad awdurdod ar gais cynllunioLL+C

61.—(1At ddibenion adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o’r fath), o ran penderfynu ar yr amser sydd wedi mynd heibio heb i’r awdurdod cynllunio perthnasol roi hysbysiad i’r ceisydd o’i benderfyniad—

(a)pan fo’r awdurdod wedi hysbysu ceisydd yn unol â rheoliad 11(1) bod cyflwyno datganiad amgylcheddol yn ofynnol; a

(b)pan fo Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd sgrinio mewn perthynas â’r datblygiad dan sylw,

nid oes unrhyw ystyriaeth i’w roi i unrhyw gyfnod cyn dyroddi’r cyfarwyddyd.

(2Pan fo awdurdod yn gyfrifol am benderfynu ar gais AEA, mae erthyglau 22 (cyfnodau amser ar gyfer penderfyniadau) a 23 (ceisiadau a wneir o dan amod cynllunio) o Orchymyn 2012 yn cael effaith fel pe bai—

(a)pob un o’r cyfeiriadau yn erthyglau 22(2)(a) a 23 at gyfnod o 8 wythnos yn gyfeiriad at gyfnod o 16 wythnos; a

(b)y cyfeiriad yn erthygl 22(2)(aa)(39) at y cyfnod o 12 wythnos yn gyfeiriad at y cyfnod o 20 wythnos.

Gwybodaeth Cychwyn

I61Rhl. 61 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Ymestyn y pŵer i ddarparu mewn gorchymyn datblygu ar gyfer rhoi cyfarwyddydau ynghylch y dull yr ymdrinnir â cheisiadau cynllunioLL+C

62.  Rhaid i ddarpariaethau a gynhwysir mewn gorchymyn datblygu yn rhinwedd adran 60 o Ddeddf 1990 (caniatâd a roddir gan orchymyn datblygu)(40) sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddydau, eu galluogi i gyfarwyddo bod datblygiad sydd o ddisgrifiad a grybwyllir yng Ngholofn 1 y tabl yn Atodlen 2, a hefyd o ddosbarth a ddisgrifir yn y cyfarwyddyd yn ddatblygiad AEA at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I62Rhl. 62 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Cymhwyso i’r GoronLL+C

63.—(1Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r Goron gyda’r addasiadau canlynol.

(2Mewn perthynas â chais a wneir i Weinidogion Cymru heblaw cais o dan adran 62D o Ddeddf 1990 (datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol: ceisiadau am ganiatad cynllunio), rhaid darllen rheoliad 12 (cais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru heb ddatganiad amgylcheddol) fel pe bai—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)cyn “atgyfeirio” yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, yn darllen “wneud i Weinidogion Cymru o dan adran 293A o Ddeddf 1990 (datblygiad brys y Goron: cais)(41) neu ei”; a

(ii)cyn “atgyfeirio’r” yn darllen “gwneud neu”;

(b)ym mharagraff (2), cyn “atgyfeirio’r” yn darllen “gwneud neu”; ac

(c)ym mharagraff (3), cyn “a atgyfeiriwyd” yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, yn darllen “a wnaed o dan adran 293A o Ddeddf 1990 neu”.

Gwybodaeth Cychwyn

I63Rhl. 63 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Diwygio offerynnau eraillLL+C

64.  Mae’r offerynnau yn Atodlen 9 wedi eu diwygio i’r graddau a nodir yn yr Atodlen honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I64Rhl. 64 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Darpariaethau dirymu, arbed a throsiannolLL+C

65.—(1Mae Rheoliadau 2016 wedi eu dirymu, ond mae hynny’n ddarostyngedig i baragraffau [F6(2), (7) ac (8)].

[F7(2) Mae Rheoliadau 2016 yn parhau i gael effaith pan fo, cyn 16 Mai 2017—

(a)y ceisydd neu’r apelydd wedi cyflwyno datganiad amgylcheddol neu wedi gofyn am farn gwmpasu mewn cysylltiad â’r datblygiad; neu

(b)mewn cysylltiad â—

(i)gorchmynion datblygu lleol;

(ii)gorchmynion adran 97;

(iii)gorchmynion adran 102; neu

(iv)cam gweithredu o dan adran 141 o Ddeddf 1990,

yr awdurdod cynllunio lleol, y corff cychwyn neu’r ceisydd wedi llunio datganiad amgylcheddol neu farn gwmpasu neu wedi gofyn am gyfarwyddyd cwmpasu mewn cysylltiad â’r gorchymyn neu’r cam gweithredu hwnnw.]

(7Mae Rhannau 1 a 2 o Reoliadau 2016 yn parhau i gael effaith mewn cysylltiad â—

(a)gofyniadau am farn sgrinio neu gyfarwyddyd sgrinio;

(b)barnau sgrinio a fabwysiedir gan yr awdurdod cynllunio perthnasol; ac

(c)cyfarwyddydau sgrinio a wneir gan Weinidogion Cymru,

pan fo, cyn 16 Mai 2017, y fath ofyniadau wedi eu gwneud, neu pan fo’r awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) wedi cychwyn gwneud barnau sgrinio neu gyfarwyddydau sgrinio neu wedi cychwyn mabwysiadu barnau neu gyfarwyddydau o’r fath.

(8Mae Rheoliadau 2016 yn parhau i gael effaith at ddibenion Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009(42).

(9Yn unol â hynny, nid yw’r Rheoliadau hyn (ac eithrio’r rheoliad hwn) yn gymwys mewn cysylltiad â datblygiad y mae Rheoliadau 2016 yn parhau i gael effaith arno yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o baragraffau [F8(2), (7) ac (8)].

(10Yn y rheoliad hwn—

mae i “barn gwmpasu” (“scoping opinion”), “cyfarwyddyd cwmpasu” (“scoping direction”) a “datganiad amgylcheddol” (“environmental statement”) yr ystyron a roddir yn rheoliad 2 o Reoliadau 2016;

mae i “cais ROMP” (“ROMP application”) a “ROMP” (“ROMP”) yr un ystyr ag yn rheoliad 55(1); ac

ystyr “Rheoliadau 2016” (“2016 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2016(43).

Diwygiadau canlyniadolLL+C

66.  Mae’r offerynnau yn Atodlen 10 wedi eu diwygio i’r graddau a ddangosir yn yr Atodlen honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I66Rhl. 66 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)

Lesley Griffiths

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

20 Ebrill 2017

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources