Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/01/2024.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017, Adran 25.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
25.—(1) Wrth benderfynu ar gais neu apêl y cyflwynwyd datganiad amgylcheddol mewn perthynas ag ef neu hi, rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd—
(a)archwilio’r wybodaeth amgylcheddol;
(b)dod i gasgliad rhesymedig ynghylch effeithiau sylweddol y datblygiad arfaethedig ar yr amgylchedd, gan ystyried yr archwilio y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) a, phan fo’n briodol, eu harchwiliad ategol eu hunain;
(c)integreiddio’r casgliad hwnnw yn y penderfyniad o ran pa un ai i roi caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol; a
(d)os rhoddir caniatâd cynllunio neu gydsyniad dilynol, ystyried pa un a yw’n briodol gosod mesurau monitro.
(2) Rhaid i’r casgliad rhesymedig y cyfeirir ato ym mharagraff (1) fod yn gyfoes pan wneir y penderfyniad; a rhaid tybio bod y casgliad hwnnw yn gyfoes os ydyw, ym marn yr awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd, yn ymdrin â’r effeithiau sylweddol sy’n debygol o ddigwydd o ganlyniad i’r datblygiad arfaethedig.
(3) Wrth ystyried pa un ai i osod mesur monitro o dan baragraff (1)(d), rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru, fel y bo’n briodol—
(a)os ystyrir bod monitro yn briodol, ystyried pa un ai i wneud darpariaeth ar gyfer camau unioni posibl;
(b)cymryd camau i sicrhau bod y math o baramedrau sydd i’w monitro, a hyd y cyfnod monitro, yn gymesur â natur, lleoliad a maint y datblygiad arfaethedig ac arwyddocâd ei effeithiau ar yr amgylchedd; ac
(c)ystyried, er mwyn osgoi dyblygu monitro, pa un a yw trefniadau monitro sy’n ofynnol o dan [F1gyfraith [F2a gymathwyd] (ac eithrio deddfiad a weithredodd y Gyfarwyddeb)] neu ddeddfwriaeth arall sy’n gymwys yng Nghymru yn fwy priodol na gosod mesurau monitro.
(4) Mewn achosion pan nad oes amserlen statudol wedi ei phennu, rhaid i benderfyniad yr awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru, yn ôl y digwydd, gael ei wneud o fewn cyfnod rhesymol, gan ystyried natur a chymhlethdod y datblygiad arfaethedig, o’r dyddiad y darparwyd yr wybodaeth amgylcheddol i’r awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 25(3)(c) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/245), rhlau. 1(2)(3), 6(7); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
F2Geiriau yn rhl. 25(3)(c) wedi eu hamnewid (1.1.2024) gan Rheoliadau Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/1332), rhlau. 1(2), 19(5)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 25 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: