Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/04/2019.
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017, Paragraff 6.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
6.—(1) Pan fo’r ceisydd yn bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol, mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r ceisydd a’r cais perthnasol—LL+C
(a)fel y maent yn gymwys i apelyddion ac apelau, yn achos camau arfaethedig o dan adran 141 o Ddeddf 1990—
(i)i roi caniatâd cynllunio;
(ii)i ddirymu neu ddiwygio’r amodau sy’n gysylltiedig â chaniatâd cynllunio;
(iii)i roi cyfarwyddyd, pe bai cais am ganiatâd cynllunio yn cael ei wneud, bod rhaid rhoi’r caniatâd hwnnw; ac
(b)fel y maent yn gymwys i’r corff cychwyn a gorchymyn adran 97 arfaethedig neu orchymyn adran 102 arfaethedig, yn achos camau arfaethedig o dan adran 141 o Ddeddf 1990—
(i)i ddirymu neu ddiwygio amodau sy’n gysylltiedig â’r fath orchymyn;
(ii)i ddiwygio’r fath orchymyn.
(2) Pan fo’r ceisydd yn bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol rhaid i’r ceisydd gydymffurfio â darpariaethau erthygl 12(7A)(1) o Orchymyn 2012 (cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio) fel pe bai’r datganiad amgylcheddol wedi ei gyflwyno mewn perthynas â chais cynllunio sy’n dod o fewn erthygl 12(2) o Orchymyn 2012 ac fel pe bai, yn erthygl 12(7A) o Orchymyn 2012, y cyfeiriadau at gais am ganiatâd cynllunio yn gyfeiriadau at fwriad i weithredu o dan adran 141(2) neu (3) o Ddeddf 1990.
(3) Pan fo Gweinidogion Cymru yn ymwybodol bod unrhyw berson penodol yn cael ei effeithio gan y cais, neu’n debygol o gael ei effeithio gan y cais, neu â diddordeb yn y cais, ac yn annhebygol o ddod yn ymwybodol ohono drwy ddull cyhoeddiad electronig, hysbysiad safle neu drwy hysbyseb leol, rhaid iddynt hysbysu’r ceisydd am unrhyw berson o’r fath.
(4) Caiff ceisydd sy’n cael hysbysiad o dan baragraff 5 o’r Atodlen hon, o fewn 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad yr hysbysiad, gadarnhau yn ysgrifenedig i Weinidogion Cymru y darperir datganiad amgylcheddol.
(5) Os nad yw’r ceisydd yn ysgrifennu yn unol â pharagraff (4), ar ddiwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau ni chaiff Gweinidogion Cymru weithredu o dan adran 141(2) neu (3) o Ddeddf 1990.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 7 para. 6 mewn grym ar 16.5.2017, gweler rhl. 1(2)
Mewnosodir erthygl 12(7A) yng Ngorchymyn 2012 gan baragraff 1(3)(h) o Atodlen 9 i’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: