- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
20.—(1) Caniateir ardystio deunyddiau lluosogi (ac eithrio planhigion tarddiol) a phlanhigion ffrwythau yn ddeunyddiau ardystiedig os yw’r deunyddiau lluosogi neu’r planhigion ffrwythau yn bodloni’r gofynion yn is-baragraff (2).
(2) Y gofynion yw bod y deunyddiau lluosogi neu’r planhigion ffrwythau—
(a)yn cael eu tyfu o blanhigion tarddiol ardystiedig a dyfir o ddeunyddiau cyn-sylfaenol neu ddeunyddiau sylfaenol;
(b)yn cael eu gwirhau o ran eu gwirdeiprwydd mewn perthynas â’r disgrifiad o’u hamrywogaeth gan arolygydd yn unol â pharagraff 7;
(c)yn cydymffurfio â’r cyfnod o amser a bennir ym mharagraff 8(3)(b);
(d)yn cydymffurfio â pharagraff 12 o ran diffygion;
(e)yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 22; ac
(f)yn cael eu tyfu mewn pridd y canfyddir, drwy waith samplu a phrofi, ei fod yn cydymffurfio â pharagraff 23.
(3) At ddiben y paragraff hwn, mae unrhyw gyfeiriad at blanhigion tarddiol cyn-sylfaenol neu ddeunyddiau cyn-sylfaenol yn y paragraffau a grybwyllir yn is-baragraff (2) i’w ddehongli fel cyfeiriad at blanhigion tarddiol ardystiedig neu ddeunyddiau ardystiedig, yn ôl y digwydd.
(4) Pan na fo planhigyn tarddiol ardystiedig neu ddeunyddiau ardystiedig yn bodloni’r gofynion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2)(b) i (f) mwyach—
(a)rhaid i’r cyflenwr symud y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau ymaith o gyffiniau planhigion tarddiol ardystiedig eraill a deunyddiau ardystiedig eraill;
(b)caiff y cyflenwr gymryd camau priodol i sicrhau bod y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau yn cydymffurfio â’r gofynion hynny eto.
(5) Caiff cyflenwr ddefnyddio unrhyw blanhigyn tarddiol neu ddeunyddiau a symudir ymaith yn unol ag is-baragraff (4)(a) fel deunyddiau CAC ar yr amod bod y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau yn bodloni’r gofynion a nodir yn Atodlen 1 ar gyfer deunyddiau CAC.
21.—(1) Caniateir ardystio gwreiddgyff nad yw’n perthyn i amrywogaeth yn ddeunydd ardystiedig os yw’n bodloni’r gofynion yn is-baragraff (2).
(2) Y gofynion yw bod y gwreiddgyff—
(a)yn cael ei dyfu o blanhigyn tarddiol ardystiedig a dyfwyd o ddeunyddiau cyn-sylfaenol neu ddeunyddiau sylfaenol;
(b)yn cydymffurfio â’r cyfnod o amser a bennir ym mharagraff 8(3)(b);
(c)yn cydymffurfio â pharagraff 12 o ran diffygion;
(d)yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 22; ac
(e)yn cael ei dyfu mewn pridd y canfyddir, drwy waith samplu a phrofi, ei fod yn cydymffurfio â pharagraff 23.
(3) At ddibenion y paragraff hwn, mae unrhyw gyfeiriad at blanhigion tarddiol cyn-sylfaenol neu ddeunyddiau cyn-sylfaenol yn y paragraffau a grybwyllir yn is-baragraff (2) i’w ddehongli fel cyfeiriad at blanhigion tarddiol ardystiedig neu ddeunyddiau ardystiedig, yn ôl y digwydd.
(4) Pan fo gwreiddgyff nad yw’n perthyn i amrywogaeth yn blanhigyn tarddiol ardystiedig neu’n ddeunyddiau ardystiedig nad yw’n bodloni’r gofynion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2) mwyach—
(a)rhaid i’r cyflenwr symud y gwreiddgyff ymaith o gyffiniau planhigion tarddiol ardystiedig eraill a deunyddiau ardystiedig eraill;
(b)caiff y cyflenwr gymryd camau priodol i sicrhau bod y gwreiddgyff yn cydymffurfio â’r gofynion hynny eto.
(5) Caiff cyflenwr ddefnyddio unrhyw wreiddgyff a symudir ymaith yn unol ag is-baragraff (4)(a) fel deunyddiau CAC ar yr amod bod y gwreiddgyff yn bodloni’r gofynion a nodir yn Atodlen 1 ar gyfer deunyddiau CAC.
22.—(1) Rhaid i blanhigyn tarddiol ardystiedig neu ddeunyddiau ardystiedig fod yn rhydd rhag y plâu a restrir yn Rhan A o Atodiad I ac yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, o ran y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw.
(2) Ni chaiff y ganran o blanhigion tarddiol ardystiedig neu ddeunyddiau ardystiedig a heintiwyd gan y plâu a restrir yn y tabl yn Rhan B o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2014/98/EU fod yn uwch na’r lefelau goddefiant a nodir yng ngholofn berthnasol y tabl hwnnw.
(3) Ond nid yw is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys i blanhigion tarddiol ardystiedig neu ddeunyddiau ardystiedig yn ystod rhewgadw.
(4) Mae arolygydd a, phan fo’n briodol, cyflenwr, yn cadarnhau cydymffurfedd ag is-baragraffau (1) a (2) drwy arolygiad gweledol o’r cyfleusterau, y meysydd a, phan fo’n briodol, y lotiau ac, mewn achosion pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb y plâu hynny, drwy waith samplu a phrofi.
(5) Rhaid cynnal arolygiadau gweledol a gwaith samplu a phrofi yn unol ag Atodiad IV i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, o ran y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw ac, yn achos gwaith samplu a phrofi, yn unol â’r protocol priodol hefyd.
23.—(1) Rhaid tyfu planhigion tarddiol ardystiedig a deunyddiau ardystiedig mewn pridd sy’n rhydd rhag unrhyw blâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU sy’n berthnasol i’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw ac sy’n lletya firysau sy’n effeithio ar y genws hwnnw neu’r rhywogaeth honno.
(2) Rhaid cadarnhau eu bod yn rhydd rhag y cyfryw blâu drwy waith samplu a phrofi gan arolygydd a, phan fo’n briodol, gan gyflenwr.
(3) Rhaid cyflawni gwaith samplu a phrofi—
(a)cyn plannu’r planhigion tarddiol ardystiedig neu’r deunyddiau ardystiedig, a rhaid ail wneud y gwaith hwnnw yn ystod twf pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb y cyfryw blâu;
(b)gan gymryd i ystyriaeth yr amodau hinsoddol, bioleg y plâu, a pherthnasedd y plâu i’r planhigion tarddiol ardystiedig neu’r deunyddiau ardystiedig o dan sylw;
(c)yn unol â’r protocol priodol.
(4) Nid yw gwaith samplu a phrofi yn ofynnol—
(a)yn achos planhigion ffrwythau ardystiedig;
(b)pan na fo planhigion, sy’n lletya’r plâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU ar gyfer y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, wedi eu tyfu yn y pridd cynhyrchu am gyfnod o bum mlynedd o leiaf a phan na fo amheuaeth ynghylch absenoldeb y plâu perthnasol yn y pridd hwnnw;
(c)pan fo arolygydd yn dod i’r casgliad, ar sail arolygiad swyddogol, fod y pridd yn rhydd rhag unrhyw blâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, ar gyfer y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, ac sy’n lletya firysau sy’n effeithio ar y genws hwnnw neu’r rhywogaeth honno.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: