Search Legislation

Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Rheoliad 2

ATODLEN 1Deunyddiau CAC

Amodau ar gyfer deunyddiau CAC (ac eithrio gwreiddgyffion nad ydynt yn perthyn i amrywogaeth)

1.—(1Ni chaniateir marchnata deunyddiau CAC (ac eithrio gwreiddgyffion nad ydynt yn perthyn i amrywogaeth) oni bai eu bod yn bodloni’r gofynion yn is-baragraff (2).

(2Y gofynion yw bod y deunyddiau CAC—

(a)yn cael eu lluosogi o ffynhonnell ddeunyddiau adnabyddedig a gofnodir gan y cyflenwr;

(b)yn wirdeip mewn perthynas â’r disgrifiad o’u hamrywogaeth yn unol â pharagraff 3;

(c)yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 4; a

(d)yn cydymffurfio â’r gofynion ynghylch diffygion ym mharagraff 5.

(3Pan na fo deunyddiau CAC yn cydymffurfio ag is-baragraff (2) mwyach—

(a)rhaid i’r cyflenwr eu symud ymaith o gyffiniau deunyddiau CAC eraill;

(b)caiff y cyflenwr gymryd camau priodol i sicrhau bod y deunyddiau hynny yn cydymffurfio ag is-baragraff (2) eto.

Gwreiddgyffion nad ydynt yn perthyn i amrywogaeth

2.—(1Ni chaniateir marchnata deunyddiau CAC sy’n cynnwys gwreiddgyffion nad ydynt yn perthyn i amrywogaeth oni bai eu bod yn bodloni’r gofynion yn is-baragraff (2).

(2Y gofynion yw bod y deunyddiau CAC—

(a)yn wirdeip mewn perthynas â’r disgrifiad o’u rhywogaeth;

(b)yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 4; ac

(c)yn cydymffurfio â’r gofynion ynghylch diffygion ym mharagraff 5.

(3Pan na fo deunyddiau CAC yn cydymffurfio ag is-baragraff (2) mwyach—

(a)rhaid i’r cyflenwr eu symud ymaith o gyffiniau deunyddiau CAC eraill;

(b)caiff y cyflenwr gymryd camau priodol i sicrhau bod y deunyddiau hynny yn cydymffurfio ag is-baragraff (2) eto.

Gwirdeiprwydd mewn perthynas â’r disgrifiad o’r amrywogaeth

3.—(1Rhaid i gyflenwr gadarnhau gwirdeiprwydd deunyddiau CAC mewn perthynas â’r disgrifiad o’u hamrywogaeth yn unol â’r paragraff hwn, a gwirhau’r gwirdeiprwydd hwnnw yn rheolaidd.

(2Gwneir hynny drwy arsylwi ar y mynegiad o nodweddion amrywogaeth, a bod yr arsylwi ar sail un o’r elfennau a ganlyn—

(a)ei disgrifiad swyddogol;

(b)y disgrifiad sy’n mynd gyda chais i gofrestru;

(c)y disgrifiad sy’n mynd gyda chais am hawliau amrywogaeth planhigion;

(d)pan fo’r amrywogaeth wedi ei chofrestru â disgrifiad a gydnabyddir yn swyddogol, neu’n destun cais i gofrestru â disgrifiad a gydnabyddir yn swyddogol, y disgrifiad hwnnw.

Gofynion iechyd

4.—(1Rhaid i’r deunyddiau CAC fod yn rhydd i bob pwrpas rhag y plâu a restrir yn Atodiadau I a II i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, o ran y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw.

(2Caiff hyn ei gadarnhau drwy arolygiad gweledol gan y cyflenwr neu, pan fo amheuaeth, drwy waith samplu a phrofi.

(3Rhaid cyflawni arolygiadau gweledol a gwaith samplu a phrofi yn unol ag Atodiad IV i Gyfarwyddeb 2014/98/EU.

(4Ond nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i ddeunyddiau CAC yn ystod rhewgadw.

(5O ran deunyddiau CAC sy’n perthyn i’r rhywogaeth Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf—

(a)rhaid eu cynhyrchu o ffynhonnell ddeunyddiau adnabyddedig y canfuwyd ei bod, drwy waith samplu a phrofi, yn rhydd rhag y plâu a restrir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 2014/98/EU ar gyfer y rhywogaethau hynny; a

(b)ers dechrau’r cylch llystyfiant diwethaf, rhaid bod wedi canfod, drwy arolygiad gweledol ac unrhyw waith samplu a phrofi, eu bod yn rhydd i bob pwrpas rhag y plâu a restrir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, o ran y rhywogaethau o dan sylw.

(6Yn y paragraff hwn, ystyr “rhydd i bob pwrpas rhag y plâu” yw bod y graddau y mae plâu yn bresennol ar y deunyddiau lluosogi neu’r planhigion ffrwythau yn ddigon isel i sicrhau bod y deunyddiau lluosogi o ansawdd a defnyddioldeb derbyniol.

Gofynion ynghylch diffygion sy’n debygol o amharu ar ansawdd

5.—(1Rhaid i ddeunyddiau CAC fod yn rhydd rhag diffygion i bob pwrpas.

(2Caiff hyn ei gadarnhau ar sail arolygiad gweledol.

(3Mae anafiadau, afliwiad, meinweoedd creithiol neu ddysychiad yn cael eu hystyried yn ddiffygion, os ydynt yn effeithio ar ansawdd a defnyddioldeb deunyddiau CAC fel deunyddiau lluosogi.

Rheoliad 2

ATODLEN 2Labeli swyddogol a dogfennau’r cyflenwr

RHAN 1Labeli swyddogol

1.  Rhaid i label swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â deunyddiau cyn-sylfaenol fod wedi ei liwio’n wyn gyda llinell groeslinol fioled.

2.  Rhaid i label swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â deunyddiau sylfaenol fod wedi ei liwio’n wyn.

3.  Rhaid i label swyddogol a ddefnyddir mewn perthynas â deunyddiau ardystiedig fod wedi ei liwio’n las.

4.  O ran label swyddogol—

(a)ni chaiff fod wedi ei ddefnyddio’n flaenorol;

(b)rhaid iddo gynnwys y datganiad “EU rules and standards”;

(c)rhaid iddo ddatgan y manylion a ganlyn—

(i)enw’r awdurdod cyfrifol neu fyrfodd neilltuol yr awdurdod hwnnw;

(ii)enw’r cyflenwr neu rif cofrestru’r cyflenwr;

(iii)rhif y dystysgrif arolygu cnwd;

(iv)enw botanegol y deunyddiau planhigion;

(v)categori’r deunyddiau planhigion (deunyddiau cyn-sylfaenol, deunyddiau sylfaenol, deunyddiau ardystiedig neu ddeunyddiau CAC) ac, ar gyfer deunyddiau sylfaenol, rhif y cenhedliad;

(vi)enw’r amrywogaeth a, phan fo’n briodol, enw’r clôn;

(vii)yn achos gwreiddgyffion nad ydynt yn perthyn i amrywogaeth, enw’r rhywogaeth neu enw’r cymysgryw rhyngrywiogaethol o dan sylw;

(viii)yn achos planhigion ffrwythau a impiwyd, enw amrywogaeth y gwreiddgyff ac enw’r brig-impiad;

(ix)ar gyfer amrywogaethau y mae cais i gofrestru hawliau amrywogaeth planhigion yn yr arfaeth ar eu cyfer, rhaid rhoi’r geiriau “proposed denomination” ac “application pending” o flaen unrhyw wybodaeth a roddir mewn perthynas â pharagraffau (vi) a (viii);

(x)pan fo’n briodol, y geiriau “variety with an officially recognised description”,

(xi)swm y deunyddiau planhigion;

(xii)os nad yng Nghymru, enw’r wlad lle y’u cynhyrchwyd a chod neu fyrfodd priodol y wlad honno;

(xiii)blwyddyn dyroddi’r label, neu yn achos label sy’n disodli label arall, blwyddyn dyroddi’r label gwreiddiol;

(xiv)yn achos amrywogaeth a addaswyd yn enetig—

(aa)datganiad bod yr amrywogaeth wedi ei haddasu’n enetig; a

(bb)rhestr o’r organeddau a addaswyd yn enetig.

5.  Rhaid i’r wybodaeth a’r manylion sy’n ofynnol ar label swyddogol gael eu hargraffu’n annileadwy yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd a bod yn hawdd i’w gweld a’u ddarllen.

6.  Caiff label swyddogol gynnwys y cyfryw fanylion pellach y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

7.  Yn y Rhan hon, ystyr “rhif y dystysgrif arolygu cnwd” yw’r rhif a roddir i’r dystysgrif arolygu cnwd gan yr arolygydd ar adeg dyroddi’r dystysgrif.

RHAN 2Dogfen y cyflenwr: Deunyddiau CAC

8.  Rhaid i ddogfen y cyflenwr sy’n mynd gyda deunyddiau CAC—

(a)cynnwys y datganiadau “EU rules and standards” a “CAC material”; a

(b)datgan y manylion a ganlyn—

(i)enw neu fyrfoddau neilltuol yr awdurdod cyfrifol a’r Aelod-wladwriaeth lle y lluniwyd dogfen y cyflenwr;

(ii)rhif cofrestru’r cyflenwr;

(iii)y rhif cyfresol neu wythnosol unigol neu’r rhif swp unigol;

(iv)enw botanegol y deunyddiau planhigion;

(v)enw’r amrywogaeth a, phan fo’n briodol, enw’r clôn;

(vi)yn achos gwreiddgyffion nad ydynt yn perthyn i amrywogaeth, enw’r rhywogaeth neu enw’r cymysgryw rhyngrywiogaethol o dan sylw;

(vii)yn achos planhigion ffrwythau a impiwyd, enw amrywogaeth y gwreiddgyff ac enw’r brig-impiad;

(viii)ar gyfer amrywogaethau y mae cais i gofrestru hawliau amrywogaeth planhigion yn yr arfaeth ar eu cyfer, rhaid rhoi’r geiriau “proposed denomination” ac “application pending” o flaen unrhyw wybodaeth a roddir mewn perthynas â pharagraffau (v) a (vii);

(ix)y swm;

(x)y wlad lle’u cynhyrchwyd a’i byrfoddau neilltuol pan fo’n wahanol i’r Aelod-wladwriaeth lle y lluniwyd dogfen y cyflenwr;

(xi)dyddiad dyroddi dogfen y cyflenwr.

9.  Rhaid i’r wybodaeth a’r manylion y mae’n ofynnol eu cynnwys yn nogfen y cyflenwr gael eu hargraffu’n annileadwy yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd a bod yn hawdd i’w gweld a’u darllen.

10.  Caiff dogfen y cyflenwr sy’n mynd gyda deunyddiau CAC a gynhyrchir yng Nghymru gynnwys y cyfryw fanylion pellach y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

Rheoliad 4

ATODLEN 3Y genera a’r rhywogaethau y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt

Genera a rhywogaethauEnw cyffredin (er arweiniad yn unig)
Castanea sativa Mill.Castanwydden bêr
Citrus L.yn cynnwys coed Grawnffrwyth, Lemwn, Leim, Mandarin ac Oren
Corylus avellana L.Collen
Cydonia oblonga Mill.Coeden gwins
Ficus carica L.Ffigysbren
Fortunella SwingleCoeden gymcwat
Fragaria L.Pob rywogaeth mefus a dyfir
Juglans regia L.Coeden cnau Ffrengig
Malus Mill.Coeden afalau
Olea europaea L.Olewydden
Pistacia vera L.Coeden bistasio
Poncirus Raf.Coeden orenau teirddeiliog
Prunus armeniaca L.Bricyllwydden
Prunus avium (L.) L.Coeden ceirios melys
Prunus cerasus L.Coeden ceirios duon
Prunus domestica L.Coeden eirin
Prunus dulcis (Mill) D A Webb (a elwir fel arall yn Prunus amygdalus Batsch)Coeden almon
Prunus persica (L.) BatschCoeden eirin gwlanog
Prunus salicina LindleyCoeden eirin Siapan
Pyrus L.Pob math o goed gellyg bwytadwy a dyfir, gan gynnwys gellyg perai
Ribes L.Llwyn cyrens duon, eirin Mair, cyrens cochion a chyrens gwynion
Rubus L.Llwyn mwyar duon, mafon a mwyar cymysgryw
Vaccinium L.yn cynnwys llwyn llus America, llugaeron a llus

Rheoliad 7(4)

ATODLEN 4Cofrestru amrywogaethau

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “Cyfarwyddeb 2001/18/EC” (“Directive 2001/18/EC”) yw Cyfarwyddeb 2001/18/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ryddhau’n fwriadol i’r amgylchedd organeddau a addaswyd yn enetig a diddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 90/220/EEC(1);

ystyr “gwahanol” (“distinct”) yw bod yr amrywogaeth yn amlwg yn wahanol, oherwydd un neu ragor o nodweddion sy’n deillio o genoteip penodol neu gyfuniad o genoteipiau, i unrhyw amrywogaeth arall y mae ei bodolaeth yn hysbys i bawb ar adeg y cais i gofrestru yn amrywogaeth;

ystyr “protocol priodol” (“appropriate protocol”) yw—

(a)

protocol a gyhoeddir gan Gyngor Gweinyddol Swyddfa Amrywogaethau Planhigion y Gymuned mewn perthynas â phrofion gwahanolrwydd, unffurfedd a sefydlogrwydd ar gyfer y genws penodol neu’r rhywogaeth benodol o dan sylw; neu

(b)

pan na fo protocol wedi ei gyhoeddi ar gyfer y genws perthnasol neu’r rhywogaeth berthnasol, canllawiau a lunnir gan UPOV mewn perthynas â chynnal profion gwahanolrwydd, unffurfedd a sefydlogrwydd; neu

(c)

pan na fo’r protocolau a grybwyllir ym mharagraff (a) na’r canllawiau a grybwyllir ym mharagraff (b) yn bodoli, protocol neu ganllawiau a sefydlir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r un materion;

ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003” (“Regulation (EC) No 1829/2003”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fwyd a bwyd anifeiliaid wedi eu haddasu’n enetig(2);

ystyr “sefydlog” (“stable”) yw bod nodweddion yr amrywogaeth, sydd wedi eu cynnwys yn yr archwiliad gwahanolrwydd, yn ogystal ag unrhyw nodweddion eraill a ddefnyddir ar gyfer y disgrifiad o’r amrywogaeth, yn parhau yn ddigyfnewid ar ôl lluosogi mynych neu, yn achos microluosogi, ar ddiwedd pob cylch o’r fath;

ystyr “unffurf” (“uniform”), yn amodol ar yr amrywiadau y gellir eu disgwyl yn sgil nodweddion penodol ei lluosogi, yw bod yr amrywogaeth yn ddigon unffurf o ran y nodweddion hynny sydd wedi eu cynnwys yn yr archwiliad gwahanolrwydd, yn ogystal ag unrhyw nodweddion eraill a ddefnyddir i ddisgrifio’r amrywogaeth.

Cais i gofrestru â disgrifiad swyddogol

2.—(1Rhaid i gais i gofrestru amrywogaeth â disgrifiad swyddogol gael ei wneud yn ysgrifenedig i Weinidogion Cymru ym mha bynnag ffurf sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.

(2Rhaid i’r canlynol fynd gyda chais—

(a)unrhyw wybodaeth dechnegol (megis, ond heb fod yn gyfyngedig i, fanylion y genws a’r rhywogaeth y mae’r amrywogaeth yn perthyn iddynt, ei henw cyffredin, manylion y ceisydd, ac enw, tarddiad a nodweddion yr amrywogaeth) sy’n ofynnol o dan brotocol priodol sy’n berthnasol i’r rhywogaeth;

(b)gwybodaeth ynghylch a yw’r amrywogaeth wedi ei chofrestru’n swyddogol mewn man arall yn y Deyrnas Unedig neu mewn Aelod-wladwriaeth arall, neu a yw’n destun cais cofrestru o’r fath;

(c)enw arfaethedig; a

(d)y cyfryw wybodaeth arall sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.

(3Pan fo’n gymwys, caniateir i gais fynd gyda manylion disgrifiad swyddogol a bennir gan awdurdod cyfrifol mewn man arall yn y Deyrnas Unedig neu mewn Aelod-wladwriaeth arall.

Cofrestru

3.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru gofrestru amrywogaeth â disgrifiad swyddogol os ydynt wedi eu bodloni—

(a)bod yr amrywogaeth yn wahanol, yn unffurf ac yn sefydlog;

(b)bod sampl o’r amrywogaeth ar gael; ac

(c)mewn perthynas ag amrywogaethau a addaswyd yn enetig, fod yr organedd a addaswyd yn enetig sy’n ffurfio’r amrywogaeth wedi ei awdurdodi i’w dyfu yn unol â Chyfarwyddeb 2001/18/EC neu Reoliad (EC) Rhif 1829/2003.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru dderbyn bod amrywogaeth yn wahanol, yn unffurf ac yn sefydlog ar sail canlyniadau treialon tyfu yn unol â pharagraff 6.

(3Nid yw’n ofynnol cynnal treialon tyfu pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni, ar sail yr wybodaeth a gyflwynir gan y cais, fod disgrifiad swyddogol a bennir gan gorff swyddogol y tu allan i Gymru yn bodloni’r amodau cofrestru sy’n ofynnol gan is-baragraff (1).

(4Caiff Gweinidogion Cymru gofrestru amrywogaeth sydd wedi ei marchnata o fewn yr Undeb Ewropeaidd cyn 30 Medi 2012 ar yr amod bod gan yr amrywogaeth ddisgrifiad a gydnabyddir yn swyddogol.

Cofrestr amrywogaethau

4.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal a chyhoeddi cofrestr o amrywogaethau (“y gofrestr”).

(2Rhaid i’r gofrestr gynnwys yr wybodaeth a ganlyn ar gyfer pob amrywogaeth gofrestredig—

(a)enw’r amrywogaeth a’i chyfystyron;

(b)y rhywogaeth y mae’r amrywogaeth yn perthyn iddi;

(c)y dynodiad ‘official description’ neu ‘officially recognised description’, fel y bo’n briodol;

(d)y dyddiad cofrestru neu, pan fo’n gymwys, ddyddiad adnewyddu’r cofrestriad;

(e)dyddiad dod i ben dilysrwydd y cofrestriad.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd, mewn perthynas â phob amrywogaeth a gofrestrir, gadw ffeil sy’n cynnwys disgrifiad o’r amrywogaeth a chrynodeb o’r ffeithiau sy’n berthnasol i’w chofrestriad.

Gofynion ychwanegol ar gyfer cynnyrch sydd i’w defnyddio fel bwyd neu fwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig

5.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw amrywogaeth y mae cynhyrchion sydd i’w defnyddio fel y pethau a ganlyn, neu yn y pethau a ganlyn, yn deillio ohoni—

(a)bwyd o fewn cwmpas Erthygl 3 o Reoliad (EC) Rhif 1829/2003; neu

(b)bwyd anifeiliaid o fewn cwmpas Erthygl 15 o Reoliad (EC) Rhif 1829/2003.

(2Cyn cofrestru unrhyw amrywogaeth o’r fath, rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi eu bodloni bod y bwyd neu’r bwyd anifeiliaid wedi ei awdurdodi yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1829/2003.

(3Pan fo’n ofynnol cynnal treial tyfu, rhaid cyflwyno sampl o ddeunyddiau’r amrywogaeth ar gais.

Treialon tyfu

6.—(1Caniateir cynnal treialon tyfu—

(a)gan Weinidogion Cymru;

(b)ar ran Gweinidogion Cymru yn unol â’r trefniadau ar gyfer mesurau swyddogol a wneir o dan reoliad 27; neu

(c)gan awdurdod cyfrifol mewn man arall yn y Deyrnas Unedig neu mewn Aelod-wladwriaeth arall.

(2Rhaid i dreialon tyfu—

(a)cadarnhau a yw amrywogaeth yn wahanol, yn unffurf ac yn sefydlog; a

(b)cael eu cynnal, o ran cynllun y treialon, yr amodau tyfu a nodweddion yr amrywogaeth o dan sylw, yn unol â’r protocol priodol.

Parhad cofrestriad ac adnewyddu cofrestriad

7.—(1Mae cofrestriad amrywogaeth yn ddilys—

(a)yn achos amrywogaeth a addaswyd yn enetig, am y cyfnod y mae’r organedd a addaswyd yn enetig sy’n ffurfio’r amrywogaeth wedi ei awdurdodi i’w dyfu yn unol â Chyfarwyddeb 2001/18/EC neu Reoliad (EC) Rhif 1829/2003; neu

(b)fel arall hyd at ddiwedd y 30ain blwyddyn galendr ar ôl y dyddiad derbyn.

(2Ond nid yw is-baragraff (1) yn gymwys os yw’r cofrestriad—

(a)yn cael ei adnewyddu yn unol ag is-baragraff (3) neu (4) (fel y bo’n briodol);

(b)yn cael ei ddirymu yn unol â pharagraff 8.

(3Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), caiff Gweinidogion Cymru, ar sail cais ysgrifenedig, adnewyddu’r cofrestriad am gyfnod pellach o 30 o flynyddoedd—

(a)os yw’r amrywogaeth yn wahanol, yn unffurf ac yn sefydlog;

(b)os oes deunyddiau o’r amrywogaeth honno ar gael ar y farchnad.

(4Yn achos amrywogaeth a addaswyd yn enetig—

(a)rhaid i unrhyw achos o adnewyddu cofrestriad fod yn ddarostyngedig i amod bod yr organedd a addaswyd yn enetig priodol yn parhau i fod wedi ei awdurdodi i’w dyfu yn unol â Chyfarwyddeb 2001/18/EC neu Reoliad (EC) Rhif 1829/2003;

(b)rhaid i’r cyfnod adnewyddu fod yn gyfyngedig i gyfnod awdurdodi’r organedd a addaswyd yn enetig o dan sylw.

(5Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), caiff Gweinidogion Cymru adnewyddu’r cofrestriad heb gais ysgrifenedig os ydynt wedi eu bodloni bod adnewyddu yn gwarchod amrywiaeth enetig a chynhyrchu cynaliadwy.

Dileu o’r gofrestr

8.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru ddirymu cofrestriad amrywogaeth—

(a)os nad yw’n wahanol, yn unffurf neu’n sefydlog mwyach;

(b)os nad oes unrhyw ddeunydd o’r amrywogaeth honno ar gael mwyach sy’n ddigon unffurf neu sy’n cyfateb i’r disgrifiad o’r amrywogaeth ar yr adeg y’i cofrestrwyd;

(c)os darparwyd gwybodaeth anwir neu gamarweiniol sy’n berthnasol i gofrestru i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r cais i gofrestru;

(d)yn achos unrhyw amrywogaeth a addaswyd yn enetig, os yw’r organedd a addaswyd yn enetig sydd wedi ei gynnwys yn yr amrywogaeth yn peidio â bod yn awdurdodedig yn unol â Chyfarwyddeb 2001/18/EC neu Reoliad (EC) Rhif 1829/2003.

(2Ond nid yw is-baragraff (1)(a) i (c) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y dylai’r amrywogaeth barhau ar y gofrestr er budd gwarchod amrywiaeth enetig amrywogaethau.

Rheoliad 9

ATODLEN 5Ardystio deunyddiau planhigion

RHAN 1Rhagarweiniad

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “adnewyddu” (“renewal”) yw disodli planhigyn â phlanhigyn a gynhyrchir yn llystyfol ohono;

ystyr “arolygiad swyddogol” (“official inspection”) yw arolygiad gweledol a, phan fo’n briodol, gwaith samplu a phrofi a gyflawnir gan arolygydd yn unol â pharagraff 2;

ystyr “lluosi” (“multiplication”) yw atgynhyrchiad llystyfol planhigion er mwyn cael nifer digonol o blanhigion yn yr un categori;

ystyr “planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol sy’n destun cais” (“candidate pre-basic mother plant”) yw planhigyn tarddiol y mae’r cyflenwr yn bwriadu iddo gael ei dderbyn yn blanhigyn tarddiol cyn-sylfaenol;

ystyr “protocol priodol” (“appropriate protocol”) yw—

(a)

protocol a gyhoeddir gan Sefydliad Diogelu Planhigion Ewrop a Glannau’r Canolfor mewn perthynas â’r gweithgarwch penodol (megis, ond heb fod yn gyfyngedig i, waith samplu a phrofi neu luosi, adnewyddu a lluosogi, gan gynnwys drwy ficroluosogi, planhigion tarddiol) a’r genws penodol neu’r rhywogaeth benodol o dan sylw;

(b)

pan na fo’r protocol a grybwyllir ym mharagraff (a) yn bodoli, protocol a gydnabyddir yn rhyngwladol mewn perthynas â’r un materion; neu

(c)

pan na fo’r protocol a grybwyllir ym mharagraff (a) na (b) yn bodoli, protocol a sefydlir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r un materion.

Arolygiadau swyddogol

2.—(1Yn ystod arolygiad swyddogol, rhaid i arolygydd dalu sylw i—

(a)addasrwydd dulliau’r cyflenwr ar gyfer gwirio pob un o gamau allweddol y broses gynhyrchu, a’r defnydd o’r dulliau hynny;

(b)cymhwysedd cyffredinol staff y cyflenwr i gyflawni gwaith cynhyrchu neu atgynhyrchu deunyddiau lluosogi a phlanhigion ffrwythau.

(2Rhaid i arolygydd gadw cofnodion o ganlyniadau a dyddiadau pob arolygiad maes a’r holl waith samplu a phrofi a gyflawnir gan yr arolygydd hwnnw.

RHAN 2Ardystio deunyddiau cyn-sylfaenol

Deunyddiau lluosogi (ac eithrio planhigion tarddiol a gwreiddgyffion)

3.—(1Caniateir ardystio deunyddiau lluosogi (ac eithrio planhigion tarddiol a gwreiddgyffion) yn ddeunyddiau cyn-sylfaenol os yw’r deunyddiau hynny yn bodloni’r gofynion yn is-baragraff (2).

(2Y gofynion yw bod y deunyddiau lluosogi—

(a)yn cael eu lluosogi’n uniongyrchol o blanhigyn tarddiol—

(i)wedi ei dderbyn yn unol â pharagraff 5;

(ii)yn deillio o luosi neu ficroluosogi yn unol â pharagraff 13;

(b)wedi cael eu gwirhau o ran eu gwirdeiprwydd mewn perthynas â’r disgrifiad o’u hamrywogaeth gan arolygydd yn unol â pharagraff 7;

(c)wedi eu cynnal yn unol â pharagraff 8;

(d)yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 10;

(e)pan fônt wedi eu hawdurdodi o dan baragraff 8(2) i gael eu tyfu yn y maes o dan amodau nad ydynt yn ddiogel rhag pryfed, yn cael eu tyfu mewn pridd y canfyddir, drwy waith samplu a phrofi, ei fod yn cydymffurfio â pharagraff 11;

(f)yn cydymffurfio â pharagraff 12 o ran diffygion.

(3Pan na fo’r planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau lluosogi yn bodloni’r gofynion perthnasol yn is-baragraff (2) mwyach—

(a)rhaid i’r cyflenwr symud y planhigyn neu’r deunyddiau ymaith o gyffiniau planhigion tarddiol cyn-sylfaenol eraill a deunyddiau cyn-sylfaenol eraill;

(b)caiff y cyflenwr gymryd camau priodol i sicrhau bod y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau yn cydymffurfio â’r gofynion hynny eto.

(4Caiff cyflenwr ddefnyddio unrhyw blanhigyn tarddiol neu ddeunyddiau a symudir ymaith yn unol ag is-baragraff (3)(a) fel deunyddiau sylfaenol, deunyddiau ardystiedig neu ddeunyddiau CAC ar yr amod bod y planhigyn neu’r deunyddiau yn bodloni’r gofynion a nodir yn y Rheoliadau hyn ar gyfer y categorïau priodol.

Gwreiddgyffion nad ydynt yn perthyn i amrywogaeth

4.—(1Caniateir ardystio gwreiddgyff nad yw’n perthyn i amrywogaeth yn ddeunyddiau cyn-sylfaenol os yw’n bodloni’r gofynion yn is-baragraff (2).

(2Y gofynion yw bod y gwreiddgyff—

(a)yn cael ei luosogi’n uniongyrchol o blanhigyn tarddiol—

(i)drwy luosogi llystyfol neu rywiol, ac yn achos lluosogi rhywiol, gan goed sy’n peillio (coed peillio) a gynhyrchir yn uniongyrchol drwy luosogi llystyfol o blanhigyn tarddiol;

(ii)wedi ei dderbyn yn unol â pharagraff 5;

(iii)yn deillio o luosi neu ficroluosogi yn unol â pharagraff 13;

(b)wedi cael ei wirhau o ran ei wirdeiprwydd mewn perthynas â’r disgrifiad o’i amrywogaeth gan arolygydd yn unol â pharagraff 7;

(c)wedi ei gynnal yn unol â pharagraff 8;

(d)yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 10;

(e)pan fo wedi ei awdurdodi o dan baragraff 8(2) i gael ei dyfu yn y maes o dan amodau nad ydynt yn ddiogel rhag pryfed, yn cael ei dyfu mewn pridd y canfyddir, drwy waith samplu a phrofi, ei fod yn cydymffurfio â pharagraff 11;

(f)yn cydymffurfio â pharagraff 12 o ran diffygion.

(3Pan na fo gwreiddgyff, sy’n blanhigyn tarddiol cyn-sylfaenol neu’n ddeunyddiau cyn-sylfaenol, yn bodloni’r gofynion yn is-baragraff (2) mwyach—

(a)rhaid i’r cyflenwr symud y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau ymaith o gyffiniau planhigion tarddiol cyn-sylfaenol eraill a deunyddiau cyn-sylfaenol eraill;

(b)caiff y cyflenwr gymryd camau priodol i sicrhau bod y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau yn cydymffurfio â’r gofynion hynny eto.

(4Caiff cyflenwr ddefnyddio unrhyw blanhigyn tarddiol neu ddeunyddiau a symudir ymaith yn unol ag is-baragraff (3)(a) fel deunyddiau sylfaenol, deunyddiau ardystiedig neu ddeunyddiau CAC ar yr amod bod y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau yn bodloni’r gofynion a nodir yn y Rheoliadau hyn ar gyfer y categorïau priodol.

Gofynion ar gyfer derbyn planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol

5.—(1Caniateir derbyn planhigyn yn blanhigyn tarddiol cyn-sylfaenol os yw arolygiad swyddogol yn cadarnhau—

(a)cydymffurfedd â pharagraffau 7 i 12; a

(b)bod ei wirdeiprwydd mewn perthynas â’r disgrifiad o’i hamrywogaeth yn cael ei gadarnhau yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Rhaid i arolygydd gadarnhau gwirdeiprwydd y planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol mewn perthynas â’r disgrifiad o’i hamrywogaeth drwy arsylwi ar y mynegiad o nodweddion yr amrywogaeth.

(3Rhaid i’r arsylwi hwnnw fod yn seiliedig ar un o’r elfennau a ganlyn—

(a)y disgrifiad swyddogol ar gyfer amrywogaethau a gofrestrwyd mewn cofrestr amrywogaethau, ac ar gyfer amrywogaethau sydd wedi eu gwarchod yn gyfreithiol gan hawliau amrywogaeth planhigion;

(b)y disgrifiad sy’n dod gyda’r cais ar gyfer amrywogaethau sy’n destun cais i gofrestru mewn cofrestr amrywogaethau;

(c)y disgrifiad sy’n dod gyda’r cais ar gyfer amrywogaethau sy’n destun cais i gofrestru hawliau amrywogaeth planhigion;

(d)y disgrifiad a gydnabyddir yn swyddogol, os yw’r amrywogaeth sy’n ddarostyngedig i’r disgrifiad hwnnw wedi ei gofrestru mewn cofrestr amrywogaethau.

(4Pan fo is-baragraff (3)(b) neu (c) yn gymwys—

(a)ni chaniateir derbyn y planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol oni bai bod adroddiad a luniwyd gan arolygydd neu awdurdod cyfrifol y tu allan i Gymru ar gael sy’n profi bod yr amrywogaeth briodol yn wahanol, yn unffurf ac yn sefydlog;

(b)hyd nes y cofrestrir yr amrywogaeth, ni chaniateir defnyddio’r planhigyn tarddiol o dan sylw a’r deunyddiau a gynhyrchir ohono ac eithrio ar gyfer cynhyrchu deunyddiau sylfaenol neu ddeunyddiau ardystiedig, ac ni chaniateir eu marchnata fel deunyddiau cyn-sylfaenol, sylfaenol neu ardystiedig.

(5Pan fo ond yn bosibl cadarnhau gwirdeiprwydd mewn perthynas â’r disgrifiad o’r amrywogaeth ar sail nodweddion planhigyn sy’n dwyn ffrwyth—

(a)rhaid cyflawni’r arsylwi ar y mynegiad o nodweddion yr amrywogaeth ar ffrwythau planhigyn sy’n dwyn ffrwyth a luosogir o’r planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol; a

(b)rhaid cadw’r planhigion hynny sy’n dwyn ffrwyth ar wahân i’r planhigion tarddiol cyn-sylfaenol a’r deunyddiau cyn-sylfaenol.

(6Rhaid cynnal arolygiad gweledol o blanhigion sy’n dwyn ffrwyth yn ystod y cyfnodau mwyaf priodol o’r flwyddyn, gan gymryd i ystyriaeth amodau hinsoddol ac amodau tyfu planhigion o’r genera neu’r rhywogaethau o dan sylw.

(7Yn y paragraff hwn—

ystyr “cofrestr amrywogaethau” (“register of varieties”) yw—

(a)

mewn perthynas â chofrestru amrywogaethau yng Nghymru, y gofrestr a gynhelir yn unol â pharagraff 4(1) o Atodlen 4;

(b)

mewn perthynas â chofrestru amrywogaethau y tu allan i Gymru, y gofrestr a gynhelir yn unol ag Erthygl 3(1) o Gyfarwyddeb 2014/97/EU;

ystyr “planhigyn sy’n dwyn ffrwyth” (“fruiting plant”) yw planhigyn a luosogir o blanhigyn tarddiol ac a dyfir i gynhyrchu ffrwyth er mwyn caniatáu gwirhau hunaniaeth amrywogaethol y planhigyn tarddiol hwnnw.

Y gofynion ar gyfer derbyn gwreiddgyff nad yw’n perthyn i amrywogaeth

6.  Caiff arolygydd dderbyn gwreiddgyff nad yw’n perthyn i amrywogaeth yn blanhigyn tarddiol cyn-sylfaenol os yw’n wirdeip mewn perthynas â’r disgrifiad o’i rywogaeth ac os yw’n cydymffurfio â pharagraffau 8 i 12.

Gwirhau gwirdeiprwydd mewn perthynas â’r disgrifiad o’r amrywogaeth

7.—(1Rhaid i arolygydd a, phan fo’n briodol, y cyflenwr, wirhau gwirdeiprwydd planhigion tarddiol cyn-sylfaenol a deunyddiau cyn-sylfaenol mewn perthynas â’r disgrifiad o’u hamrywogaeth yn rheolaidd, yn unol â pharagraff 5(2) a (3), fel y bo’n briodol i’r amrywogaeth o dan sylw a’r dull lluosogi a ddefnyddir.

(2Yn ogystal â gwirhau planhigion tarddiol cyn-sylfaenol a deunyddiau cyn-sylfaenol yn rheolaidd, rhaid i’r arolygydd a, phan fo’n briodol, y cyflenwr, ar ôl pob achos o adnewyddu planhigyn tarddiol, wirhau’r planhigion tarddiol cyn-sylfaenol sy’n deillio ohono.

Gofynion cynnal: deunyddiau cyn-sylfaenol a phlanhigion tarddiol cyn-sylfaenol

8.—(1Rhaid i gyflenwr—

(a)cynnal planhigion tarddiol cyn-sylfaenol a deunyddiau cyn-sylfaenol mewn cyfleusterau a ddynodir ar gyfer y genera neu’r rhywogaethau o dan sylw, sy’n ddiogel rhag pryfed ac yn sicrhau eu bod yn rhydd rhag heintio gan fectorau a gludir yn yr awyr ac unrhyw ffynonellau posibl eraill drwy gydol y broses gynhyrchu;

(b)tyfu neu gynhyrchu planhigion tarddiol cyn-sylfaenol a deunyddiau cyn-sylfaenol wedi eu hynysu oddi wrth y pridd, mewn potiau a labelir yn unigol sy’n cynnwys cyfrwng tyfu nad yw’n cynnwys pridd neu sy’n cynnwys cyfrwng tyfu diheintiedig;

(c)sicrhau bod planhigion tarddiol cyn-sylfaenol a deunyddiau cyn-sylfaenol yn cael eu nodi’n unigol drwy gydol y broses gynhyrchu;

(d)cadw planhigion tarddiol cyn-sylfaenol sy’n destun cais o dan amodau sy’n ddiogel rhag pryfed, ac wedi eu hynysu yn gorfforol oddi wrth blanhigion tarddiol cyn-sylfaenol eraill yn y cyfleusterau y cyfeirir atynt ym mharagraff (a), hyd nes bod yr holl brofion o ran cydymffurfedd â pharagraff 9 wedi eu cwblhau.

(2Ond nid yw is-baragraff (1) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn awdurdodi cynhyrchu planhigion tarddiol cyn-sylfaenol (gan gynnwys planhigion tarddiol cyn-sylfaenol sy’n destun cais) a deunyddiau cyn-sylfaenol mewn maes o dan amodau nad ydynt yn ddiogel rhag pryfed, a chaiff Weinidogion Cymru wneud hynny os ydynt wedi eu bodloni—

(a)bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi awdurdodi’r Deyrnas Unedig i wneud hynny o dan Erthygl 8(4) o Gyfarwyddeb 2014/98/EU;

(b)bod y planhigion a’r deunyddiau wedi eu nodi â labeli sy’n sicrhau y gellir eu holrhain; ac

(c)y cymerir camau priodol i atal heintio’r planhigion a’r deunyddiau gan fectorau a gludir yn yr awyr, dod i gyffyrddiad â gwreiddiau planhigyn arall, croes-heintio gan beiriannau, offer impio neu unrhyw ffynhonnell bosibl arall.

(3O ran planhigion tarddiol cyn-sylfaenol a deunyddiau cyn-sylfaenol—

(a)caniateir eu cynnal drwy rewgadw; a

(b)ni chaniateir eu defnyddio ac eithrio am gyfnod a gyfrifir ar sail sefydlogrwydd yr amrywogaeth neu’r amodau amgylcheddol y’u tyfir oddi tanynt ac unrhyw benderfynyddion eraill sy’n effeithio ar sefydlogrwydd yr amrywogaeth.

Gofynion iechyd: planhigion tarddiol cyn-sylfaenol sy’n destun cais a phlanhigion tarddiol cyn-sylfaenol a gynhyrchir drwy adnewyddu

9.—(1Rhaid i blanhigion tarddiol cyn-sylfaenol sy’n destun cais a phlanhigion tarddiol cyn-sylfaenol a gynhyrchir drwy adnewyddu fod yn rhydd rhag y plâu a restrir yn Atodiad I ac yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, o ran y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw.

(2Caiff hyn ei gadarnhau—

(a)ar gyfer plâu a restrir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, drwy arolygiad gweledol, ac mewn achosion lle ceir amheuaeth ynghylch presenoldeb y plâu hynny, drwy waith samplu a phrofi;

(b)ar gyfer plâu a restrir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, drwy arolygiad gweledol a gwaith samplu a phrofi.

(3Yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), o ran gwaith samplu a phrofi—

(a)rhaid i’r gwaith gael ei gyflawni gan arolygydd neu, pan fo’n briodol, gan y cyflenwr yn unol â’r protocol priodol;

(b)mewn perthynas â firysau, firoidau a chlefydau sy’n debyg i firysau a ffytoplasmau, drwy ddull mynegeio biolegol ar blanhigion dangosol, neu drwy’r cyfryw ddull arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn ddibynadwy;

(c)rhaid cynnal y gwaith hwnnw—

(i)yn ystod y cyfnod mwyaf priodol o’r flwyddyn, gan gymryd i ystyriaeth yr amodau hinsoddol ac amodau tyfu’r planhigyn, a bioleg y plâu sy’n berthnasol i’r planhigyn hwnnw;

(ii)mewn achosion pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb y plâu hynny, ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.

(4Pan fo planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol sy’n destun cais yn eginblanhigyn, nid yw arolygiadau gweledol a gwaith samplu a phrofi ond yn ofynnol mewn cysylltiad â’r firysau, y firoidau neu’r clefydau sy’n debyg i firysau a restrir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, o ran y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, a drosglwyddir gan baill—

(a)os yw arolygiad swyddogol yn cadarnhau y tyfwyd yr eginblanhigyn o hedyn a gynhyrchwyd gan blanhigyn sy’n rhydd rhag symptomau a achosir gan y firysau, y firoidau a’r clefydau hynny sy’n debyg i firysau;

(b)os yw’r eginblanhigyn wedi ei gynnal yn unol â pharagraff 8.

Gofynion iechyd: deunyddiau cyn-sylfaenol a phlanhigion tarddiol cyn-sylfaenol

10.—(1Rhaid i blanhigion tarddiol cyn-sylfaenol neu ddeunyddiau cyn-sylfaenol fod yn rhydd rhag y plâu a restrir yn Rhan A o Atodiad I ac yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, o ran y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw.

(2Ni chaiff y ganran o blanhigion tarddiol cyn sylfaenol neu ddeunyddiau cyn-sylfaenol a heintiwyd gan y plâu a restrir yn y tabl yn Rhan B o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2014/98/EU fod yn uwch na’r lefelau goddefiant a nodir yng ngholofn berthnasol y tabl hwnnw.

(3Ond nid yw is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys i blanhigion tarddiol cyn-sylfaenol neu ddeunyddiau cyn-sylfaenol yn ystod rhewgadw.

(4Caiff cydymffurfedd ag is-baragraffau (1) a (2) ei gadarnhau drwy arolygiad gweledol ac, mewn achosion pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb y plâu hynny, drwy waith samplu a phrofi.

(5Rhaid cynnal arolygiadau gweledol a gwaith samplu a phrofi yn unol ag Atodiad IV i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, o ran y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw ac, yn achos gwaith samplu a phrofi, yn unol â’r protocol priodol hefyd.

Gofynion pridd: deunyddiau cyn-sylfaenol

11.—(1Rhaid tyfu planhigion tarddiol cyn-sylfaenol a deunyddiau cyn-sylfaenol mewn pridd sy’n rhydd rhag unrhyw blâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU sy’n berthnasol i’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw ac sy’n lletya firysau sy’n effeithio ar y genws hwnnw neu’r rhywogaeth honno.

(2Rhaid cadarnhau eu bod yn rhydd rhag y cyfryw blâu drwy waith samplu a phrofi gan arolygydd a, phan fo’n briodol, y cyflenwr.

(3Rhaid cyflawni gwaith samplu a phrofi—

(a)cyn plannu’r planhigion tarddiol cyn-sylfaenol neu’r deunyddiau cyn-sylfaenol, a rhaid ail wneud y gwaith hwnnw yn ystod twf pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb y plâu y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1);

(b)gan gymryd i ystyriaeth yr amodau hinsoddol a bioleg y plâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, a phan fo’r plâu hynny yn berthnasol i’r planhigion tarddiol cyn-sylfaenol neu’r deunyddiau cyn-sylfaenol o dan sylw;

(c)yn unol â’r protocol priodol.

(4Nid yw gwaith samplu a phrofi yn ofynnol—

(a)pan na fo planhigion, sy’n lletya’r plâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU ar gyfer y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, wedi eu tyfu yn y pridd cynhyrchu am gyfnod o bum mlynedd o leiaf a phan na fo amheuaeth ynghylch absenoldeb y plâu perthnasol yn y pridd hwnnw;

(b)pan fo arolygydd yn dod i’r casgliad, ar sail arolygiad swyddogol, fod y pridd yn rhydd rhag unrhyw blâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, ar gyfer y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, ac sy’n lletya firysau sy’n effeithio ar y genws hwnnw neu’r rhywogaeth honno.

Gofynion ynghylch diffygion sy’n debygol o amharu ar ansawdd

12.—(1Rhaid canfod bod planhigion tarddiol cyn-sylfaenol a deunyddiau cyn-sylfaenol yn rhydd rhag diffygion i bob pwrpas ar sail arolygiad gweledol.

(2Rhaid i’r arolygiad gweledol hwnnw gael ei gyflawni gan arolygydd a, phan fo’n briodol, y cyflenwr.

Gofynion ynghylch lluosi, adnewyddu a lluosogi planhigion tarddiol cyn-sylfaenol

13.—(1Caiff cyflenwr luosi neu adnewyddu planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol a dderbynnir yn unol â pharagraff 5.

(2Caiff cyflenwr luosogi planhigion tarddiol cyn-sylfaenol i gynhyrchu deunyddiau cyn-sylfaenol.

(3Rhaid lluosi, adnewyddu a lluosogi (gan gynnwys microluosogi) planhigion tarddiol cyn-sylfaenol yn unol â’r protocol priodol.

(4Yn achos microluosogi, rhaid i’r protocol priodol fod wedi ei brofi ar y genws perthnasol neu’r rhywogaeth berthnasol am gyfnod o amser a ystyrir yn ddigonol i alluogi gwirio ffenoteip y planhigion o ran gwirdeiprwydd yr amrywogaeth mewn perthynas â’r disgrifiad ohoni ar sail arsylwi ar gynhyrchiant ffrwythau neu ddatblygiad llystyfol y gwreiddgyffion.

(5Ni chaiff cyflenwr ond adnewyddu planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol cyn diwedd y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff 8(3)(b).

RHAN 3Ardystio deunyddiau sylfaenol

Deunyddiau lluosogi (ac eithrio planhigion tarddiol sylfaenol a gwreiddgyffion nad ydynt yn perthyn i amrywogaeth)

14.—(1Caniateir ardystio deunyddiau lluosogi (ac eithrio planhigion tarddiol sylfaenol a gwreiddgyffion nad ydynt yn perthyn i amrywogaeth) yn ddeunyddiau sylfaenol os yw’r deunyddiau hynny yn bodloni’r gofynion yn is-baragraff (2).

(2Y gofynion yw bod y deunyddiau lluosogi—

(a)yn cael eu lluosogi o blanhigyn tarddiol sylfaenol—

(i)a dyfir o ddeunyddiau cyn-sylfaenol;

(ii)a gynhyrchir drwy luosi o blanhigyn tarddiol sylfaenol yn unol â pharagraff 19;

(b)yn cael eu gwirhau o ran eu gwirdeiprwydd mewn perthynas â’r disgrifiad o’u hamrywogaeth gan arolygydd yn unol â pharagraff 7;

(c)yn cydymffurfio â’r cyfnod o amser a bennir ym mharagraff 8(3)(b);

(d)yn cydymffurfio â pharagraff 12 o ran diffygion;

(e)yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 16;

(f)yn cael eu tyfu mewn pridd y canfyddir, drwy waith samplu a phrofi, ei fod yn cydymffurfio â pharagraff 17;

(g)wedi eu cynnal yn unol â pharagraff 18; a

(h)pan fo’n briodol, wedi eu lluosi yn unol â pharagraff 19.

(3At ddiben y paragraff hwn, mae unrhyw gyfeiriad at blanhigion tarddiol cyn-sylfaenol neu ddeunyddiau cyn-sylfaenol yn y paragraffau a grybwyllir yn is-baragraff (2)(b) i (h) i’w ddehongli fel cyfeiriad at blanhigion tarddiol sylfaenol neu ddeunyddiau sylfaenol, yn ôl y digwydd.

(4Pan na fo’r planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau yn bodloni’r gofynion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2) mwyach—

(a)rhaid i’r cyflenwr symud y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau ymaith o gyffiniau planhigion tarddiol sylfaenol eraill a deunyddiau sylfaenol eraill;

(b)caiff y cyflenwr gymryd camau priodol i sicrhau bod y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau yn cydymffurfio â’r gofynion hynny eto.

(5Caiff cyflenwr ddefnyddio unrhyw blanhigyn tarddiol neu ddeunyddiau a symudir ymaith yn unol ag is-baragraff (4)(a) fel deunyddiau ardystiedig neu ddeunyddiau CAC ar yr amod bod y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau yn bodloni’r gofynion a nodir yn y Rheoliadau hyn ar gyfer y categorïau priodol.

Gwreiddgyff nad yw’n perthyn i amrywogaeth

15.—(1Caniateir ardystio gwreiddgyff nad yw’n perthyn i amrywogaeth yn ddeunyddiau sylfaenol os yw’n bodloni’r gofynion yn is-baragraff (2).

(2Y gofynion yw bod y gwreiddgyff—

(a)yn wirdeip mewn perthynas â’r disgrifiad o’i rywogaeth;

(b)yn cael ei nodi’n unigol drwy gydol y broses gynhyrchu;

(c)yn cydymffurfio â’r cyfnod o amser a bennir ym mharagraff 8(3)(b);

(d)yn cydymffurfio â pharagraff 12 o ran diffygion;

(e)yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 16;

(f)yn cael ei dyfu mewn pridd y canfyddir, drwy waith samplu a phrofi, ei fod yn cydymffurfio â pharagraff 17;

(g)wedi ei gynnal yn unol â pharagraff 18; a

(h)pan fo’n briodol, wedi ei luosi yn unol â pharagraff 19.

(3At ddiben y paragraff hwn, mae unrhyw gyfeiriad at blanhigion tarddiol cyn-sylfaenol neu ddeunyddiau cyn-sylfaenol yn y paragraffau a grybwyllir yn is-baragraff (2) i’w ddehongli fel cyfeiriad at blanhigion tarddiol sylfaenol neu ddeunyddiau sylfaenol, yn ôl y digwydd.

(4Pan fo gwreiddgyff nad yw’n perthyn i amrywogaeth yn blanhigyn tarddiol sylfaenol neu’n ddeunyddiau sylfaenol nad yw’n bodloni gofynion is-baragraff (2) mwyach—

(a)rhaid i’r cyflenwr symud y gwreiddgyff ymaith o gyffiniau planhigion tarddiol sylfaenol eraill a deunyddiau sylfaenol eraill;

(b)caiff y cyflenwr gymryd camau priodol i sicrhau bod y gwreiddgyff yn cydymffurfio â’r gofynion hynny eto.

(5Caiff cyflenwr ddefnyddio unrhyw wreiddgyff a symudir ymaith yn unol ag is-baragraff (4)(a) fel deunyddiau ardystiedig neu ddeunyddiau CAC ar yr amod bod y gwreiddgyff yn bodloni’r gofynion a nodir yn y Rheoliadau hyn ar gyfer y categorïau priodol.

Gofynion iechyd: planhigion tarddiol sylfaenol neu ddeunyddiau sylfaenol

16.—(1Rhaid i blanhigyn tarddiol sylfaenol neu ddeunyddiau sylfaenol fod yn rhydd rhag y plâu a restrir yn Rhan A o Atodiad I ac yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, o ran y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw.

(2Ni chaiff y ganran o blanhigion tarddiol sylfaenol neu ddeunyddiau sylfaenol a heintiwyd gan y plâu a restrir yn y tabl Rhan B o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2014/98/EU fod yn uwch na’r lefelau goddefiant a nodir yng ngholofn berthnasol y tabl hwnnw.

(3Ond nid yw is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys i blanhigion tarddiol sylfaenol neu ddeunyddiau sylfaenol yn ystod rhewgadw.

(4Caiff cydymffurfedd ag is-baragraffau (1) a (2) ei gadarnhau drwy arolygiad gweledol o’r cyfleusterau, y meysydd a, phan fo’n briodol, y lotiau ac, mewn achosion pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb y plâu hynny, drwy waith samplu a phrofi gan arolygydd a, phan fo’n briodol, y cyflenwr.

(5Rhaid cynnal arolygiadau gweledol a gwaith samplu a phrofi yn unol ag Atodiad IV i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, o ran y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw ac, yn achos gwaith samplu a phrofi, yn unol â’r protocol priodol hefyd.

Gofynion pridd: deunyddiau sylfaenol

17.—(1Ni chaniateir tyfu planhigion tarddiol sylfaenol a deunyddiau sylfaenol ac eithrio mewn pridd sy’n rhydd rhag unrhyw blâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU sy’n berthnasol i’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw ac sy’n lletya firysau sy’n effeithio ar y genws hwnnw neu’r rhywogaeth honno.

(2Rhaid cadarnhau eu bod yn rhydd rhag y cyfryw blâu drwy waith samplu a phrofi gan arolygydd a, phan fo’n briodol, gan gyflenwr.

(3Rhaid i waith samplu a phrofi gael ei gyflawni—

(a)cyn plannu’r planhigion tarddiol sylfaenol neu’r deunyddiau sylfaenol, a rhaid ail wneud y gwaith yn ystod twf pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb y plâu y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1);

(b)gan gymryd i ystyriaeth yr amodau hinsoddol a bioleg y plâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, a phan fo’r plâu hynny yn berthnasol i’r planhigion tarddiol sylfaenol neu’r deunyddiau sylfaenol o dan sylw;

(c)yn unol â’r protocol priodol.

(4Nid oes angen cyflawni gwaith samplu a phrofi—

(a)pan na fo planhigion, sy’n lletya’r plâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU ar gyfer y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, wedi eu tyfu yn y pridd cynhyrchu am gyfnod o bum mlynedd o leiaf a phan na fo amheuaeth ynghylch absenoldeb y plâu perthnasol yn y pridd hwnnw;

(b)pan fo arolygydd yn dod i’r casgliad, ar sail arolygiad swyddogol, fod y pridd yn rhydd rhag unrhyw blâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, ar gyfer y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, ac sy’n lletya firysau sy’n effeithio ar y genws hwnnw neu’r rhywogaeth honno.

Gofynion cynnal: planhigion tarddiol sylfaenol a deunyddiau sylfaenol

18.  Rhaid cynnal planhigion tarddiol sylfaenol a deunyddiau sylfaenol mewn meysydd sydd wedi eu hynysu’n bell oddi wrth ffynonellau heintio posibl, gan gynnwys fectorau a gludir yn yr awyr, dod i gyffyrddiad â gwreiddiau planhigyn arall, croes-heintio gan beiriannau, offer impio ac unrhyw ffynhonnell bosibl arall.

Amodau lluosi: planhigion tarddiol sylfaenol

19.—(1Caniateir lluosi planhigion tarddiol sylfaenol a dyfir o ddeunyddiau cyn-sylfaenol mewn nifer o genedliadau er mwyn cael y nifer angenrheidiol o blanhigion tarddiol sylfaenol yn unol â’r paragraff hwn.

(2Rhaid gwneud unrhyw luosi o blanhigion tarddiol sylfaenol o dan is-baragraff (1) yn unol â pharagraff 13 ac, at ddibenion yr is-baragraff hwn, mae cyfeiriad at blanhigyn tarddiol cyn-sylfaenol ym mharagraff 13 i’w ddehongli fel cyfeiriad at blanhigyn tarddiol sylfaenol.

(3Ni chaiff y nifer uchaf o genedliadau a ganiateir, na’r hyd oes hwyaf a ganiateir ar gyfer planhigyn tarddiol sylfaenol, fod yn uwch na’r terfynau a bennir yn Atodlen V i Gyfarwyddeb 2014/98/EU ar gyfer y genera neu’r rhywogaethau perthnasol.

(4Pan ganiateir cenedliadau lluosog o blanhigion tarddiol sylfaenol, caiff pob cenhedliad, ac eithrio’r cyntaf, ddeillio o unrhyw genhedliad blaenorol.

(5Rhaid cadw deunyddiau lluosogi o genedliadau gwahanol ar wahân.

RHAN 4Ardystio deunyddiau ardystiedig

Deunyddiau lluosogi (ac eithrio planhigion tarddiol) a phlanhigion ffrwythau

20.—(1Caniateir ardystio deunyddiau lluosogi (ac eithrio planhigion tarddiol) a phlanhigion ffrwythau yn ddeunyddiau ardystiedig os yw’r deunyddiau lluosogi neu’r planhigion ffrwythau yn bodloni’r gofynion yn is-baragraff (2).

(2Y gofynion yw bod y deunyddiau lluosogi neu’r planhigion ffrwythau—

(a)yn cael eu tyfu o blanhigion tarddiol ardystiedig a dyfir o ddeunyddiau cyn-sylfaenol neu ddeunyddiau sylfaenol;

(b)yn cael eu gwirhau o ran eu gwirdeiprwydd mewn perthynas â’r disgrifiad o’u hamrywogaeth gan arolygydd yn unol â pharagraff 7;

(c)yn cydymffurfio â’r cyfnod o amser a bennir ym mharagraff 8(3)(b);

(d)yn cydymffurfio â pharagraff 12 o ran diffygion;

(e)yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 22; ac

(f)yn cael eu tyfu mewn pridd y canfyddir, drwy waith samplu a phrofi, ei fod yn cydymffurfio â pharagraff 23.

(3At ddiben y paragraff hwn, mae unrhyw gyfeiriad at blanhigion tarddiol cyn-sylfaenol neu ddeunyddiau cyn-sylfaenol yn y paragraffau a grybwyllir yn is-baragraff (2) i’w ddehongli fel cyfeiriad at blanhigion tarddiol ardystiedig neu ddeunyddiau ardystiedig, yn ôl y digwydd.

(4Pan na fo planhigyn tarddiol ardystiedig neu ddeunyddiau ardystiedig yn bodloni’r gofynion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2)(b) i (f) mwyach—

(a)rhaid i’r cyflenwr symud y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau ymaith o gyffiniau planhigion tarddiol ardystiedig eraill a deunyddiau ardystiedig eraill;

(b)caiff y cyflenwr gymryd camau priodol i sicrhau bod y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau yn cydymffurfio â’r gofynion hynny eto.

(5Caiff cyflenwr ddefnyddio unrhyw blanhigyn tarddiol neu ddeunyddiau a symudir ymaith yn unol ag is-baragraff (4)(a) fel deunyddiau CAC ar yr amod bod y planhigyn tarddiol neu’r deunyddiau yn bodloni’r gofynion a nodir yn Atodlen 1 ar gyfer deunyddiau CAC.

Gwreiddgyff nad yw’n perthyn i amrywogaeth

21.—(1Caniateir ardystio gwreiddgyff nad yw’n perthyn i amrywogaeth yn ddeunydd ardystiedig os yw’n bodloni’r gofynion yn is-baragraff (2).

(2Y gofynion yw bod y gwreiddgyff—

(a)yn cael ei dyfu o blanhigyn tarddiol ardystiedig a dyfwyd o ddeunyddiau cyn-sylfaenol neu ddeunyddiau sylfaenol;

(b)yn cydymffurfio â’r cyfnod o amser a bennir ym mharagraff 8(3)(b);

(c)yn cydymffurfio â pharagraff 12 o ran diffygion;

(d)yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 22; ac

(e)yn cael ei dyfu mewn pridd y canfyddir, drwy waith samplu a phrofi, ei fod yn cydymffurfio â pharagraff 23.

(3At ddibenion y paragraff hwn, mae unrhyw gyfeiriad at blanhigion tarddiol cyn-sylfaenol neu ddeunyddiau cyn-sylfaenol yn y paragraffau a grybwyllir yn is-baragraff (2) i’w ddehongli fel cyfeiriad at blanhigion tarddiol ardystiedig neu ddeunyddiau ardystiedig, yn ôl y digwydd.

(4Pan fo gwreiddgyff nad yw’n perthyn i amrywogaeth yn blanhigyn tarddiol ardystiedig neu’n ddeunyddiau ardystiedig nad yw’n bodloni’r gofynion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2) mwyach—

(a)rhaid i’r cyflenwr symud y gwreiddgyff ymaith o gyffiniau planhigion tarddiol ardystiedig eraill a deunyddiau ardystiedig eraill;

(b)caiff y cyflenwr gymryd camau priodol i sicrhau bod y gwreiddgyff yn cydymffurfio â’r gofynion hynny eto.

(5Caiff cyflenwr ddefnyddio unrhyw wreiddgyff a symudir ymaith yn unol ag is-baragraff (4)(a) fel deunyddiau CAC ar yr amod bod y gwreiddgyff yn bodloni’r gofynion a nodir yn Atodlen 1 ar gyfer deunyddiau CAC.

Gofynion iechyd: planhigion tarddiol ardystiedig a deunyddiau ardystiedig

22.—(1Rhaid i blanhigyn tarddiol ardystiedig neu ddeunyddiau ardystiedig fod yn rhydd rhag y plâu a restrir yn Rhan A o Atodiad I ac yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, o ran y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw.

(2Ni chaiff y ganran o blanhigion tarddiol ardystiedig neu ddeunyddiau ardystiedig a heintiwyd gan y plâu a restrir yn y tabl yn Rhan B o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2014/98/EU fod yn uwch na’r lefelau goddefiant a nodir yng ngholofn berthnasol y tabl hwnnw.

(3Ond nid yw is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys i blanhigion tarddiol ardystiedig neu ddeunyddiau ardystiedig yn ystod rhewgadw.

(4Mae arolygydd a, phan fo’n briodol, cyflenwr, yn cadarnhau cydymffurfedd ag is-baragraffau (1) a (2) drwy arolygiad gweledol o’r cyfleusterau, y meysydd a, phan fo’n briodol, y lotiau ac, mewn achosion pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb y plâu hynny, drwy waith samplu a phrofi.

(5Rhaid cynnal arolygiadau gweledol a gwaith samplu a phrofi yn unol ag Atodiad IV i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, o ran y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw ac, yn achos gwaith samplu a phrofi, yn unol â’r protocol priodol hefyd.

Gofynion pridd: planhigion tarddiol ardystiedig a deunyddiau ardystiedig

23.—(1Rhaid tyfu planhigion tarddiol ardystiedig a deunyddiau ardystiedig mewn pridd sy’n rhydd rhag unrhyw blâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU sy’n berthnasol i’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw ac sy’n lletya firysau sy’n effeithio ar y genws hwnnw neu’r rhywogaeth honno.

(2Rhaid cadarnhau eu bod yn rhydd rhag y cyfryw blâu drwy waith samplu a phrofi gan arolygydd a, phan fo’n briodol, gan gyflenwr.

(3Rhaid cyflawni gwaith samplu a phrofi—

(a)cyn plannu’r planhigion tarddiol ardystiedig neu’r deunyddiau ardystiedig, a rhaid ail wneud y gwaith hwnnw yn ystod twf pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb y cyfryw blâu;

(b)gan gymryd i ystyriaeth yr amodau hinsoddol, bioleg y plâu, a pherthnasedd y plâu i’r planhigion tarddiol ardystiedig neu’r deunyddiau ardystiedig o dan sylw;

(c)yn unol â’r protocol priodol.

(4Nid yw gwaith samplu a phrofi yn ofynnol—

(a)yn achos planhigion ffrwythau ardystiedig;

(b)pan na fo planhigion, sy’n lletya’r plâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU ar gyfer y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, wedi eu tyfu yn y pridd cynhyrchu am gyfnod o bum mlynedd o leiaf a phan na fo amheuaeth ynghylch absenoldeb y plâu perthnasol yn y pridd hwnnw;

(c)pan fo arolygydd yn dod i’r casgliad, ar sail arolygiad swyddogol, fod y pridd yn rhydd rhag unrhyw blâu a restrir yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, ar gyfer y genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, ac sy’n lletya firysau sy’n effeithio ar y genws hwnnw neu’r rhywogaeth honno.

(1)

OJ Rhif L 106, 17.4.2001, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb (EU) 2015/412 (OJ Rhif L 68, 13.3.2015, t. 1).

(2)

OJ Rhif L 268, 18.10.2003, t. 1; fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 298/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 97, 9.4.2008, t. 64).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources