Search Legislation

Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) (Diwygio) 2017

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 935 (Cy. 229)

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) (Diwygio) 2017

Gwnaed

17 Medi 2017

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

21 Medi 2017

Yn dod i rym

27 Hydref 2017

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 6(4), 16(1), 17(1), 26(1) a (3), 31 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1).

Yn unol ag adran 48(4A)(2) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd cyn gwneud y Rheoliadau hyn.

Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3).

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) (Diwygio) 2017.

(2Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 27 Hydref 2017.

Diwygio Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2015

2.  Mae Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2015(4) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 15.

3.  Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1)—

(a)yn lle’r diffiniad o “triniaeth tynnu fflworid”, rhodder—

mae i “triniaeth tynnu fflworid” (“fluoride removal treatment”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 27A.;

(b)yn lle’r diffiniad o “triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn”, rhodder—

mae i “triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn” (“ozone-enriched air treatment”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 27B;.

4.  Yn rheoliad 13 (gwerthu dŵr mwynol naturiol), yn lle is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (2) rhodder—

(a)wedi ei echdynnu o ffynnon—

(i)yng Nghymru, a ddatblygir yn groes i reoliad 8; neu

(ii)y tu allan i Gymru, a ddatblygwyd mewn ffordd nad oedd yn cydymffurfio â’r gofynion a ddisgrifir yn rheoliad 8(1)(a) ac (c) a rheoliad 8(2), neu os nad yw awdurdod cyfrifol yr ardal lle y datblygir y ffynnon wedi rhoi caniatâd i’r ffynnon gael ei datblygu felly;

(b)wedi cael—

(i)yng Nghymru, unrhyw driniaeth neu ychwanegiad yn groes i reoliad 9; neu

(ii)y tu allan i Gymru,—

(aa)triniaeth nas disgrifir yn rheoliad 9(1)(a)(i), 9(1)(a)(ii), triniaeth tynnu fflworid, neu driniaeth ocsideiddio aer a gyfoethogir ag osôn;

(bb)unrhyw ychwanegiad heblaw ychwanegiad a ddisgrifir yn rheoliad 9(1)(b); neu

(cc)unrhyw driniaeth ddiheintio, ychwanegu elfennau bacteriostatig, neu unrhyw driniaeth arall sy’n debygol o newid cyfrif cytref hyfyw y dŵr mwynol naturiol;

(c)wedi’i botelu—

(i)yng Nghymru, yn groes i reoliad 10; neu

(ii)y tu allan i Gymru, yn groes i’r gofynion a ddisgrifir yn rheoliad 10;

(d)wedi’i labelu—

(i)yng Nghymru, yn groes i reoliad 11; neu

(ii)y tu allan i Gymru, yn groes i’r gofynion a ddisgrifir yn rheoliad 11; neu.

5.—(1Mae rheoliad 15 (triniaethau i ddŵr y bwriedir ei labelu a’i werthu fel “spring water” neu “dŵr ffynnon” ac ychwanegiadau iddo) wedi ei ailrifo fel paragraff (1) o’r rheoliad hwnnw.

(2Ar ôl paragraff (1) fel y’i hailrifwyd felly, mewnosoder—

(2) Nid yw paragraff (1) yn atal y defnydd o ddŵr y bwriedir ei labelu a’i werthu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, wrth weithgynhyrchu diodydd ysgafn.

6.  Yn rheoliad 17 (hysbysebu dŵr fel “spring water” neu “dŵr ffynnon”) ar ôl paragraff (2), mewnosoder—

(3) Ni chaiff neb hysbysebu dŵr y bwriedir ei labelu a’i werthu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall o dan—

(a)dynodiad, enw perchnogol, marc masnachol, enw brand, llun neu arwydd arall, pa un a yw’n arwyddlun ai peidio, y gallai’r defnydd ohonynt beri dryswch rhwng y dŵr a dŵr mwynol naturiol, neu

(b)y disgrifiad “mineral water”, “dŵr mwynol”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall.

7.  Yn rheoliad 18 (gwerthu dŵr fel “spring water” neu “dŵr ffynnon”) yn lle is-baragraffau (a) i (c) o baragraff (1) rhodder—

(a)wedi’i botelu—

(i)yng Nghymru, yn groes i reoliad 14(1); neu

(ii)y tu allan i Gymru, yn groes i’r gofynion a ddisgrifir yn rheoliad 14(1);

(b)wedi cael—

(i)yng Nghymru, unrhyw driniaeth neu ychwanegiad yn groes i reoliad 15; neu

(ii)y tu allan i Gymru,—

(aa)triniaeth nas disgrifir yn rheoliad 15(1)(a)(i), 15(1)(a)(ii), triniaeth tynnu fflworid, neu driniaeth ocsideiddio aer a gyfoethogir ag osôn;

(bb)unrhyw ychwanegiad heblaw ychwanegiad a ddisgrifir yn rheoliad 15(1)(b); neu

(cc)unrhyw driniaeth ddiheintio, ychwanegu elfennau bacteriostatig, neu unrhyw driniaeth arall sy’n debygol o newid cyfrif cytref hyfyw y dŵr mwynol naturiol;

(c)wedi’i labelu—

(i)yng Nghymru, yn groes i reoliad 16; neu

(ii)y tu allan i Gymru, yn groes i’r gofynion a ddisgrifir yn rheoliad 16; neu.

8.  Yn rheoliad 24 (monitro dŵr wedi’i botelu a’i labelu fel “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu), hepgorer paragraff (2)(a).

9.  Ar ôl rheoliad 27 (monitro triniaethau penodol) mewnosoder—

Triniaeth tynnu fflworid

27A.  At ddibenion y Rheoliadau hyn, ystyr triniaeth tynnu fflworid yw—

(a)triniaeth, a awdurdodir yn unol â rheoliadau 9(1)(a)(iii) neu 15(a)(iii) ac Atodlen 2, i ddŵr mwynol naturiol neu ddŵr y bwriedir ei botelu a’i labelu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, ag alwmina actifedig er mwyn tynnu fflworid;

(b)yn achos dŵr mwynol naturiol neu ddŵr y bwriedir ei botelu a’i labelu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, y deuir ag ef i Gymru o ran arall o’r Deyrnas Unedig neu o Wladwriaeth AEE arall, triniaeth a awdurdodwyd gan yr awdurdod cyfrifol yn yr ardal lle yr echdynnir y dŵr fel triniaeth sy’n cydymffurfio â gofynion Erthyglau 1 i 3 o Reoliad 115/2010 ac nad yw’n cael effaith ddiheintio; neu

(c)yn achos dŵr mwynol naturiol neu ddŵr y bwriedir ei botelu a’i labelu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, y deuir ag ef i Gymru o wlad nad yw’n Wladwriaeth AEE arall, triniaeth a awdurdodwyd gan yr awdurdod cyfrifol yn y wlad honno yn unol â’r gweithdrefnau i awdurdodi triniaeth tynnu fflworid yn y wlad honno y penderfynwyd gan yr Asiantaeth neu awdurdod cyfrifol mewn rhan arall o’r Deyrnas Unedig neu mewn Gwladwriaeth AEE arall ei bod yn cyfateb i ofynion Erthyglau 1 i 3 o Reoliad 115/2010 ac nad yw’n cael effaith ddiheintio.

10.  Ar ôl rheoliad 27A (triniaeth tynnu fflworid), mewnosoder—

Triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn

27B.  At ddibenion y Rheoliadau hyn, ystyr triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn yw—

(a)triniaeth, a awdurdodir yn unol â rheoliadau 9(1)(a)(iv) neu 15(a)(iv) ac Atodlen 3, i ddŵr mwynol naturiol neu ddŵr y bwriedir ei botelu a’i labelu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, ag aer a gyfoethogir ag osôn;

(b)yn achos dŵr mwynol naturiol neu ddŵr y bwriedir ei botelu a’i labelu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, y deuir ag ef i Gymru o ran arall o’r Deyrnas Unedig neu o Wladwriaeth AEE arall, triniaeth a awdurdodwyd gan yr awdurdod cyfrifol yn yr ardal lle yr echdynnir y dŵr fel triniaeth sy’n cydymffurfio ag Erthygl 5 o Gyfarwyddeb 2003/40, fel y’i darllenir ynghyd ag Erthygl 7 o’r Gyfarwyddeb honno mewn cysylltiad â’i chymhwyso i ddŵr ffynnon, fel y’i gweithredir yn y rhan honno o’r Deyrnas Unedig neu’r Wladwriaeth AEE honno, ac nad yw’n cael effaith ddiheintio; neu

(c)yn achos dŵr mwynol naturiol neu ddŵr y bwriedir ei botelu a’i labelu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, y deuir ag ef i Gymru o wlad nad yw’n Wladwriaeth AEE arall, triniaeth a awdurdodwyd gan yr awdurdod cyfrifol yn y wlad honno yn unol â’r gweithdrefnau i awdurdodi triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn yn y wlad honno y penderfynwyd gan yr Asiantaeth neu awdurdod cyfrifol mewn rhan arall o’r Deyrnas Unedig neu mewn Gwladwriaeth AEE arall ei bod yn cyfateb i ofynion Erthygl 5 o Gyfarwyddeb 2003/40, fel y’i darllenir ynghyd ag Erthygl 7 o’r Gyfarwyddeb honno mewn cysylltiad â’i chymhwyso i ddŵr ffynnon, ac nad yw’n cael effaith ddiheintio.

11.  Yn Atodlen 2 (triniaeth tynnu fflworid), yn lle’r testun Cymraeg o is-baragraff (b) o baragraff 3, rhodder “nad yw’r driniaeth yn cael effaith ddiheintio.”

12.  Yn Atodlen 3 (triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn)—

(a)yn is-baragraff (b) o baragraff 1, yn lle “3, 4 a 5” rhodder “6, 7 ac 8”;

(b)yn lle’r testun Cymraeg o is-baragraff (c) o baragraff 1, rhodder “nad yw’r driniaeth yn cael effaith ddiheintio.”

13.  Yn Atodlen 7 (gofynion ar gyfer dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu gan gynnwys crynodiadau neu werthoedd a ragnodwyd o’r paramedrau), yn Rhan 3 (gwerthoedd paramedrig ar gyfer paramedrau dangosol), yn Nhabl C (paramedrau dangosol), yn y rhes sy’n ymwneud ag—

(a)eitem 5, paramedr “Lliw”—

(i)yng ngholofn 3 (unedau mesur), yn lle “graddfa Mg/1 Pt/Co” rhodder “Derbyniol i ddefnyddwyr a dim newid annormal”; a

(ii)yng ngholofn 4 (crynodiad neu werth mwyaf), hepgorer “20”;

(b)eitem 10, paramedr “Arogl”—

(i)yng ngholofn 3 (unedau mesur), yn lle “Rhif gwanediad” rhodder “Derbyniol i ddefnyddwyr a dim newid annormal”; a

(ii)yng ngholofn 4 (crynodiad neu werth mwyaf), hepgorer “3 at 25ºC”;

(c)eitem 14, paramedr “Blas”—

(i)yng ngholofn 3 (unedau mesur), yn lle “Rhif gwanediad” rhodder “Derbyniol i ddefnyddwyr a dim newid annormal”; a

(ii)yng ngholofn 4 (crynodiad neu werth mwyaf), hepgorer “3 ar 25ºC”.

14.  Hepgorer Atodlen 8 (monitro ar gyfer paramedrau heblaw sylweddau ymbelydrol mewn dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu).

15.—(1Yn Atodlen 9 (monitro ar gyfer sylweddau ymbelydrol mewn dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu), mae paragraff 13 (esemptiad o’r monitro) wedi ei ailrifo fel is-baragraff (1) o’r paragraff hwnnw.

(2Ar ôl is-baragraff (1) fel y’i hailrifwyd felly, mewnosoder—

(2) yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), mae’r esemptiad o’r monitro o dan is-baragraff (1) yn dirwyn i ben ar ôl cyfnod o 5 mlynedd, gan ddechrau ar y dyddiad y mae’r awdurdod bwyd yn hysbysu’r Asiantaeth am ei benderfyniad yn unol ag is-baragraff (1)(b).

(3) Mae’r esemptiad o’r monitro o dan is-baragraff (1) yn dirwyn i ben ar unwaith os yw lefel y radon, y tritiwm neu’r dogn dangosiadol yn uwch na’r gwerth paramedrig perthnasol a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 7.

Rebecca Evans

Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru

17 Medi 2017

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1867 (Cy. 274)) (“y prif Reoliadau”).

Mae’r diwygiadau’n—

(a)gweithredu’r gofynion monitro diwygiedig ar gyfer dŵr ffynnon a dŵr yfed wedi’i botelu y darperir ar eu cyfer gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (EU) 2015/1787 sy’n diwygio Atodlenni II a III i Gyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC ar ansawdd dŵr y bwriedir iddo gael ei yfed gan bobl (OJ Rhif L 260, 7.10.2015, t 6). Mae’r diwygiadau’n dileu’r gofyniad i awdurdodau bwyd ymgymryd â monitro ar gyfer gwirio ac archwilio dŵr ffynnon a dŵr yfed wedi’i botelu (rheoliadau 8 a 14);

(b)darparu y caniateir i ddŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon sydd wedi cael triniaeth tynnu fflworid neu driniaeth aer a gyfoethogir ag osôn mewn gwlad nad yw’n Wladwriaeth AEE gael eu gwerthu yng Nghymru. Dim ond os yw’r triniaethau hynny wedi cael eu hawdurdodi gan yr awdurdod cyfrifol yn y wlad honno nad yw’n Wladwriaeth AEE, a bod yr Asiantaeth Safonau Bwyd neu’r awdurdod cyfrifol mewn rhan arall o’r DU neu’r AEE wedi penderfynu bod y weithdrefn ar gyfer awdurdodi’r driniaeth yn y Wladwriaeth honno yn cyfateb i’r gofynion o dan Erthyglau 1 i 3 o Reoliad (EU) 115/2010 y caniateir gwerthu’r dŵr (rheoliadau 3, 9 a 10);

(c)egluro na chaniateir i ddŵr mwynol naturiol na dŵr ffynnon sydd wedi eu hechdynnu y tu allan i Gymru gael eu gwerthu yng Nghymru ond os ydynt yn cydymffurfio â’r gofynion a ddisgrifir yn y prif Reoliadau mewn perthynas â datblygu (yn achos dŵr mwynol naturiol), triniaethau ac ychwanegiadau, a gofynion potelu a labelu (rheoliadau 4 a 7);

(d)egluro nad yw’r rheolau ar driniaethau ac ychwanegiadau yn atal dŵr ffynnon rhag cael ei ddefnyddio wrth weithgynhyrchu diodydd ysgafn (rheoliad 5);

(e)gwahardd hysbysebu dŵr ffynnon mewn ffordd a allai beri dryswch rhwng y dŵr a dŵr mwynol naturiol, a gwahardd defnyddio “mineral water”, “dŵr mwynol”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, wrth hysbysebu dŵr ffynnon (rheoliad 6);

(f)cywiro dau wall yn nhestun Cymraeg y prif Reoliadau (rheoliadau 11 a 12(b));

(g)cywiro amrywiol wallau eraill yn y prif Reoliadau (rheoliadau 12(a) a 13); a

(h)egluro bod cyfnod yr esemptiad o’r monitro ar gyfer sylweddau ymbelydrol penodol yn para am 5 mlynedd (rheoliad 15).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1990 p. 16. Diwygiwyd adran 6(4) gan adran 31 o Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p. 40) a pharagraff 6 o Atodlen 9 iddi, adran 40(1) a (4) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28) (“Deddf 1999”) a pharagraff 10(1) a (3) o Atodlen 5 ac Atodlen 6 iddi, ac O.S. 2002/794. Diwygiwyd adran 16(1) gan adran 40(1) o Ddeddf 1999 a pharagraffau 7 ac 8 o Atodlen 5 iddi. Diwygiwyd adran 17(1) gan baragraffau 8 a 12(a) o Atodlen 5 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2011/1043. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 31 gan adran 40(1) o Ddeddf 1999 a pharagraff 8 o Atodlen 5 iddi. Diwygiwyd adran 48 gan adran 40(1) o Ddeddf 1999 a pharagraff 8 o Atodlen 5 iddi. Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers” i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 fel y’i darllenir ynghyd ag adran 40(3) o Ddeddf 1999, ac fe’u trosglwyddwyd wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ( p. 32).

(2)

Mewnosodwyd adran 48(4A) gan baragraff 21 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999.

(3)

OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 652/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 189, 27.6.2014, t 1).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources