
Print Options
PrintThe Whole
Instrument
Statws
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
2017 Rhif 949 (Cy. 237) (C. 85)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn) 2017
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 126(2) a (3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017(), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn) 2017.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 4 Hydref 2017
2. Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 4 Hydref 2017—
(a)adran 2 (strategaeth genedlaethol ar atal a lleihau gordewdra: cyhoeddi ac adolygu);
(b)adran 3 (gweithredu’r strategaeth genedlaethol); ac
(c)adran 119 (derbyniadau cosb benodedig ar gyfer troseddau sgorio hylendid bwyd).
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ionawr 2018
3. Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 1 Ionawr 2018—
(a)Rhan 5 (rhoi twll mewn rhan bersonol o’r corff); a
(b)adran 94 (dehongli) at ddiben Rhan 5.
Rebecca Evans
Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru
27 Medi 2017
NODYN ESBONIADOL
Mae’r Gorchymyn hwn, sydd wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru, yn dwyn i rym ddarpariaethau penodedig o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 yn dwyn i rym ar 4 Hydref 2017 ddarpariaethau penodol o’r Ddeddf sy’n ymwneud â’r strategaeth genedlaethol ar atal gordewdra a lleihau lefelau gordewdra yng Nghymru.
Mae erthygl 2 hefyd yn dwyn i rym ar 4 Hydref 2017 ddarpariaethau penodol o’r Ddeddf sy’n ymwneud â derbyniadau cosb benodedig ar gyfer troseddau sgorio hylendid bwyd o dan Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013.
Mae erthygl 3 yn dwyn i rym ar 1 Ionawr 2018 ddarpariaethau penodol o’r Ddeddf sy’n ymwneud â rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff plentyn.
Back to top