Atal plâu planhigion rhag lledaenuLL+C
20.—(1) Ni chaiff unrhyw berson gadw, storio, plannu, gwerthu na symud y canlynol yn fwriadol, na pheri na chaniatáu yn fwriadol i’r canlynol gael eu cadw, eu storio, eu plannu, eu gwerthu na’u symud—
(a)unrhyw bla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 1;
(b)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 2 sy’n cario neu wedi ei heintio â phla planhigion o ddisgrifiad a bennir mewn unrhyw gofnod mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Atodlen 2;
(c)unrhyw bla planhigion, er nad yw wedi ei bennu yn Atodlen 1 nac yng ngholofn 3 o Atodlen 2, nad yw’n bresennol ym Mhrydain Fawr fel arfer ac sy’n debygol o fod yn niweidiol i blanhigion ym Mhrydain Fawr;
(d)unrhyw ddeunydd perthnasol a gyflwynwyd i Gymru gan dorri erthygl 5(1)(d), (e) neu (f) neu erthygl 18(1)(d), (e), (f) neu (g);
(e)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran B o Atodlen 4 sy’n tarddu o Brydain Fawr, oni bai y cydymffurfir â’r gofynion a bennir yn y cofnodion mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Ran B o Atodlen 4;
(f)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran C o Atodlen 4 sy’n tarddu o Brydain Fawr, oni bai y cydymffurfir â’r gofynion a bennir yn y cofnodion mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Ran C o Atodlen 4;
(g)unrhyw ddeunydd perthnasol a gyflwynwyd i Gymru o Loegr neu o’r Alban a fyddai, pe bai wedi ei gyflwyno o drydedd wlad neu o ran arall o’r Undeb Ewropeaidd, wedi torri erthygl 5(1)(d), (e) neu (f) neu erthygl 18(1)(d), (e), (f) neu (g).
(2) Nid yw’r gwaharddiadau ym mharagraff (1) yn gymwys i unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol y mae’n ofynnol ei gadw, ei storio neu ei symud gan gydymffurfio â gofyniad a osodir gan arolygydd o dan Ran 6 neu 7.
(3) Mae paragraff (1)(e) ac (f) yn ddarostyngedig i erthygl 22.
(4) Yn yr erthygl hon, mae “symud” (“move” a “moved”) yn golygu symud neu waredu fel arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Ergl. 20 mewn grym ar 2.11.2018, gweler ergl. 1(2)