Search Legislation

Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Gweithdrefn Cymeradwyo a Mabwysiadu) (Cymru) 2018

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 1077 (Cy. 226)

Y Diwydiant Dŵr, Cymru

Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Gweithdrefn Cymeradwyo a Mabwysiadu) (Cymru) 2018

Gwnaed

10 Hydref 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

15 Hydref 2018

Yn dod i rym

7 Ionawr 2019

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 32 a 48(2) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010(1), a pharagraffau 4(a), 11(5), 17(5), 18(3), 23(7), 24(5) a 28 o Atodlen 3 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Gweithdrefn Cymeradwyo a Mabwysiadu) (Cymru) 2018.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Ionawr 2019.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Atodlen 3” (“Schedule 3”) yw Atodlen 3 i’r Ddeddf;

ystyr “cais am gymeradwyaeth” (“application for approval”) yw—

(a)

cais am gymeradwyaeth a wneir yn unol â pharagraff 9 o Atodlen 3, neu

(b)

y rhan honno o gais cyfun a wneir yn unol â pharagraff 10 o Atodlen 3 y gwneir cais am gymeradwyaeth mewn perthynas â hi—

ac mae cyfeiriad at “cais dilys” (“valid application”) i’w ddehongli yn unol â hynny;

ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw person sy’n gwneud cais am gymeradwyaeth;

ystyr “cymeradwyaeth” (“approval”) yw’r gymeradwyaeth sy’n ofynnol o dan baragraff 7(1) o Atodlen 3 am system ddraenio(2) i waith adeiladu(3);

ystyr “cynnig a gadarnhawyd” (“confirmed proposal”) yw cynnig i wneud gwaith ailadeiladu a gadarnhawyd o dan reoliad 15;

mae i “datblygiad” yr ystyr a roddir i “development” yn adran 55 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(4);

mae i “datblygwr” yr ystyr a roddir i “developer” ym mharagraff 23(2)(b) o Atodlen 3;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010;

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul nac yn ŵyl banc o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(5), nac yn ŵyl gyhoeddus arall yng Nghymru;

ystyr “gwaith ailadeiladu” (“reconstruction work”) yw gwaith a wneir—

(a)

i ailadeiladu system ddraenio gynaliadwy i’r cyflwr yr oedd ynddo cyn i’r gwaith statudol ddechrau, neu

(b)

i adeiladu system ddraenio gynaliadwy newydd yn unol â’r safonau cenedlaethol i weithredu yn lle’r system ddraenio gynaliadwy yr effeithiwyd arni gan y gwaith statudol;

ystyr “gwaith adferol” (“remedial work”) yw gwaith a wneir ar system ddraenio gynaliadwy—

(a)

i unioni difrod a achoswyd gan waith statudol, a

(b)

i sicrhau bod y system ddraenio gynaliadwy yn cydymffurfio â’r safonau cenedlaethol;

mae i “gwaith statudol” (“statutory works”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 14;

ystyr “safonau cenedlaethol” (“national standards”) yw’r safonau cenedlaethol ar gyfer draenio cynaliadwy a gyhoeddir o dan baragraff 5 o Atodlen 3;

ystyr “system ddraenio gynaliadwy” (“sustainable drainage system”) yw’r rhannau hynny o system ddraenio nad ydynt wedi eu breinio mewn ymgymerwr carthffosiaeth yn unol â chytundeb o dan adran 104 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(6);

mae i “ymgymerwr statudol” (“statutory undertaker”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 13.

(2Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at “gwaith adeiladu” i’w ddehongli fel cyfeiriad at waith adeiladu sydd â goblygiadau draenio(7).

RHAN 2Penderfynu ar geisiadau am gymeradwyaeth

Gwrthod penderfynu ar gais am gymeradwyaeth

3.—(1Caiff corff cymeradwyo(8) wrthod penderfynu ar gais am gymeradwyaeth nad yw’n cael ei wneud yn unol â pharagraff 9(2) neu 10(2) (yn ôl y digwydd) o Atodlen 3.

(2Pan fo corff cymeradwyo yn gwrthod penderfynu ar gais yn unol â pharagraff (1), rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n ymarferol—

(a)rhoi gwybod i’r ceisydd bod y cais wedi ei wrthod a rhoi’r rhesymau dros hynny, a

(b)dychwelyd unrhyw ffi am gais sy’n mynd gyda’r cais.

Dyletswydd i ymgynghori cyn penderfynu ar gais am gymeradwyaeth

4.—(1Rhaid i gorff cymeradwyo, pan fydd yn gwneud cais am ymateb gan berson yr ymgynghorir ag ef o dan baragraff 11(3) o Atodlen 3 (“ymgynghorai”), bennu dyddiad ar gyfer ymateb sydd o fewn 3 wythnos gan ddechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl iddo anfon y cais.

(2Cyn diwedd y cyfnod a bennir o dan baragraff (1), caiff y corff cymeradwyo a’r ymgynghorai gytuno ar ddyddiad gwahanol ar gyfer ymateb.

(3Caiff y corff cymeradwyo ddiystyru ymateb a geir gan ymgynghorai ar ôl y terfyn amser perthnasol.

(4Yn y rheoliad hwn, ystyr “terfyn amser perthnasol” yw—

(a)cyfnod a bennir o dan baragraff (1), neu

(b)unrhyw gyfnod arall y cytunir arno o dan baragraff (2).

Terfynau amser ar gyfer penderfynu ar geisiadau am gymeradwyaeth

5.—(1Rhaid i gorff cymeradwyo benderfynu ar—

(a)cais am gymeradwyaeth sy’n ymwneud â datblygiad sy’n destun Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol o dan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017(9)(“Rheoliadau 2017”) o fewn cyfnod o 12 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl iddo gael cais dilys, neu

(b)unrhyw gais arall am gymeradwyaeth o fewn y cyfnod o 7 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl iddo gael cais dilys.

(2Cyn diwedd y cyfnod a bennir yn is-baragraff (a) neu (b) (yn ôl y digwydd) o baragraff (1), caiff y corff cymeradwyo a’r ceisydd gytuno ar gyfnod hwy ar gyfer penderfynu ar gais.

(3Ystyrir bod corff cymeradwyo sy’n methu â phenderfynu ar gais o fewn y terfyn amser perthnasol yn gwrthod y cais.

(4Yn y rheoliad hwn—

mae i “Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol” (“Environmental Impact Assessment”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2 o Reoliadau 2017;

mae i “datblygiad” yr ystyr a roddir i “development” yn adran 55(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(10);

ystyr “terfyn amser perthnasol” (“relevant time limit”)yw—

(a)

cyfnod a bennir ym mharagraff (1), neu

(b)

unrhyw gyfnod hwy y cytunir arno o dan baragraff (2).

RHAN 3Dyletswydd i fabwysiadu

Hysbysu am benderfyniad i fabwysiadu

6.  Rhaid i hysbysiad o dan baragraff 23(4)(b) neu (5) o Atodlen 3 bennu—

(a)y rhesymau dros y penderfyniad, a

(b)dyddiad y penderfyniad.

Rhyddhau bond methu â chyflawni pan fo’r ddyletswydd i fabwysiadu yn gymwys

7.—(1Ac eithrio pan fo paragraff (3) yn gymwys, rhaid i’r corff cymeradwyo ryddhau bond methu â chyflawni o fewn 4 wythnos gan ddechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl rhoi hysbysiad o dan baragraff 23(4)(b) neu (5) o Atodlen 3.

(2Mae paragraff (3) yn gymwys os gwnaeth y corff cymeradwyo—

(a)dyroddi tystysgrif o dan baragraff 12(2) o Atodlen 3, a

(b)gwneud gwaith i sicrhau bod y system ddraenio wedi ei chwblhau yn y fath fodd fel ei bod yn debygol o gydymffurfio â’r safonau cenedlaethol o ran ei gweithredoedd.

(3Rhaid i’r corff cymeradwyo, o fewn 4 wythnos gan ddechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl cwblhau’r gwaith—

(a)anfon cyfrif llawn at y datblygwr o unrhyw symiau a gafwyd o dan y bond sydd wedi eu defnyddio i ddiwallu cost gwneud y gwaith,

(b)talu unrhyw swm dros ben i’r datblygwr, ac

(c)rhyddhau’r bond methu â chyflawni.

Cofrestru a dynodi pan fo’r ddyletswydd i fabwysiadu yn gymwys

8.  O fewn 4 wythnos gan ddechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl rhoi hysbysiad o dan baragraff 23(4)(b) neu (5) o Atodlen 3, rhaid i gorff cymeradwyo—

(a)trefnu—

(i)i’r awdurdod llifogydd lleol arweiniol(11) gynnwys y system ddraenio yn y gofrestr a gedwir o dan adran 21 o’r Ddeddf,

(ii)i awdurdod dynodi(12) ddynodi dros dro o dan baragraff 7 o Atodlen 1 i’r Ddeddf unrhyw ran o’r system ddraenio (pa un a yw honno’n rhan a fabwysiadwyd ai peidio) sy’n gymwys i’w dynodi ac nad yw’r corff cymeradwyo yn berchen arni, a

(b)yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 63 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991(13), rhoi hysbysiad o fwriad i ddynodi, o dan yr adran honno, unrhyw ran o’r system ddraenio a fabwysiadwyd sy’n stryd o fewn ystyr adran 48 o’r Ddeddf honno.

RHAN 4Pan na fo’r ddyletswydd i fabwysiadu yn gymwys

Eithriad ar gyfer eiddo unigol

9.  At ddibenion paragraff 18(1) neu (2) o Atodlen 3, mae system ddraenio neu unrhyw ran o system ddraenio i’w thrin fel pe bai wedi ei dylunio i ddarparu draeniad i eiddo unigol yn unig os yw wedi ei dylunio i ddarparu draeniad i unrhyw adeiladau neu strwythurau eraill y bydd y canlynol, ar ôl cwblhau’r gwaith adeiladu, yn berchen arnynt, yn eu rheoli neu â rheolaeth drostynt—

(a)person unigol, neu

(b)dau berson neu ragor gyda’i gilydd.

Rhyddhau bond methu â chyflawni pan na fo’r ddyletswydd i fabwysiadu yn gymwys

10.—(1Ac eithrio pan fo paragraff (3) yn gymwys, rhaid i gorff cymeradwyo ryddhau bond methu â chyflawni o fewn 4 wythnos gan ddechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl cwblhau system ddraenio a adeiledir yn unol â chynigion a gymeradwywyd.

(2Mae paragraff (3) yn gymwys os gwnaeth y corff cymeradwyo—

(a)dyroddi tystysgrif o dan baragraff 12(2) o Atodlen 3, a

(b)gwneud gwaith i sicrhau bod y system ddraenio wedi ei chwblhau yn y fath fodd fel ei bod yn debygol o gydymffurfio â’r safonau cenedlaethol o ran ei gweithredoedd.

(3Rhaid i’r corff cymeradwyo, o fewn 4 wythnos gan ddechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl cwblhau’r gwaith—

(a)anfon cyfrif llawn at y datblygwr o unrhyw symiau a gafwyd o dan y bond sydd wedi eu defnyddio i ddiwallu cost gwneud y gwaith,

(b)talu unrhyw swm dros ben i’r datblygwr, ac

(c)rhyddhau’r bond methu â chyflawni.

(4Yn y rheoliad hwn—

ystyr “cynigion a gymeradwywyd” (“approved proposals”) yw cynigion a gymeradwywyd o dan baragraff 7(1) o Atodlen 3, gan gynnwys unrhyw amodau ynghylch y gymeradwyaeth;

mae “system ddraenio” (“drainage system”) i’w dehongli fel system ddraenio nad yw’r ddyletswydd i fabwysiadu yn gymwys iddi.

Hysbysu am fabwysiadu gwirfoddol

11.—(1Rhaid i gorff cymeradwyo roi unrhyw hysbysiad o dan baragraff 24(2) o Atodlen 3 cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl penderfynu mabwysiadu system ddraenio nad yw’r ddyletswydd i fabwysiadu yn gymwys iddi.

(2Rhaid i’r hysbysiad bennu—

(a)y rheswm dros fabwysiadu, a

(b)y dyddiad mabwysiadu.

Cofrestru a dynodi yn dilyn mabwysiadu gwirfoddol

12.  O fewn 4 wythnos gan ddechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl rhoi hysbysiad o dan baragraff 24(2) o Atodlen 3, rhaid i gorff cymeradwyo drefnu—

(a)i’r awdurdod llifogydd lleol arweiniol gynnwys y system ddraenio yn y gofrestr a gedwir o dan adran 21 o’r Ddeddf, a

(b)i awdurdod dynodi ddynodi dros dro o dan baragraff 7 o Atodlen 1 unrhyw ran o’r system ddraenio (pa un a yw honno’n rhan a fabwysiadwyd ai peidio) sy’n gymwys i’w dynodi ac nad yw’r corff cymeradwyo yn berchen arni.

RHAN 5Gwaith ar dir cyhoeddus

Ystyr “statutory undertaker”

13.  At ddiben paragraff 28(3)(a) o Atodlen 3, ystyr “statutory undertaker” yw person sydd â’r hawl o dan ddarpariaeth mewn deddfiad a restrir yn rheoliad 14 i wneud gwaith statudol ar dir cyhoeddus.

Ystyr “statutory works”

14.  At ddiben paragraff 28(3)(b) o Atodlen 3, ystyr “statutory works” yw gwaith y caniateir ei wneud gan berson o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn—

(a)adran 159 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(14) (pŵer i osod, arolygu, cynnal a chadw etc. bibelli);

(b)Atodlen 4 i Ddeddf Nwy 1986(15) (pŵer i dyllu strydoedd);

(c)paragraff 10(4) o Atodlen 4 i Ddeddf Trydan 1989(16) (pŵer i wneud tyllau turio);

(d)Atodlen 3A i Ddeddf Cyfathrebiadau 2003(17).

Hysbysu am waith statudol a chynigion ar gyfer gwaith ailadeiladu

15.—(1Ac eithrio mewn argyfwng, ni chaiff ymgymerwr statudol ddechrau ar waith statudol a fydd yn effeithio ar weithrediad system ddraenio gynaliadwy neu a allai wneud hynny, ar unrhyw dir cyhoeddus, oni bai ei fod o leiaf 4 wythnos cyn i’r gwaith statudol ddechrau, yn hysbysu’r corff cymeradwyo ar gyfer y system ddraenio honno am—

(a)y gwaith statudol arfaethedig, a

(b)y cynnig i wneud gwaith ailadeiladu.

(2Rhaid i’r hysbysiad a roddir o dan baragraff (1) ddod i ben ar y diwrnod gwaith cyn y diwrnod y mae’r gwaith statudol i ddechrau.

(3Os dechreuir y gwaith statudol mewn argyfwng, rhaid i’r ymgymerwr statudol, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r gwaith statudol ddechrau, hysbysu’r corff cymeradwyo—

(a)bod y gwaith statudol wedi dechrau, a

(b)am y cynnig i wneud gwaith ailadeiladu.

(4Ni chaniateir dechrau ar waith ailadeiladu oni bai bod y corff cymeradwyo wedi cadarnhau’r cynnig i wneud y gwaith ailadeiladu.

(5Oni bai bod y corff cymeradwyo wedi hysbysu’r ymgymerwr statudol fel arall, cymerir bod cynnig i wneud gwaith ailadeiladu wedi ei gadarnhau—

(a)mewn perthynas â chynnig yr hysbysir amdano o dan baragraff (1)(b), 4 wythnos gan ddechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl i’r hysbysiad gael ei roi;

(b)mewn perthynas â chynnig yr hysbysir amdano o dan baragraff (3)(b), 48 awr ar ôl i’r corff cymeradwyo gael yr hysbysiad.

(6Rhaid i’r ymgymerwr statudol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud y gwaith ailadeiladu, hysbysu’r corff cymeradwyo am y dyddiad y cwblhawyd y gwaith statudol.

Gofyniad i ymgymryd â gwaith adferol

16.—(1Os yw ymgymerwr statudol yn methu â gwneud gwaith ailadeiladu yn unol â’r cynnig a gadarnhawyd, caiff y corff cymeradwyo ei gwneud yn ofynnol i’r ymgymerwr wneud gwaith adferol o fewn amserlen benodedig.

(2Os yw ymgymerwr statudol yn methu â chydymffurfio â gofyniad o dan baragraff (1), caiff y corff cymeradwyo—

(a)gwneud gwaith adferol, a

(b)adennill unrhyw gostau yr aed iddynt wrth wneud y gwaith hwnnw fel dyled gan yr ymgymerwr.

Gwaith statudol i gydymffurfio â’r safonau cenedlaethol

17.—(1O fewn 12 mis ar ôl i’r gwaith statudol gael ei gwblhau, rhaid i’r corf cymeradwyo benderfynu a yw wedi ei fodloni bod y gofynion ym mharagraff (2) wedi eu bodloni.

(2Mae’r gofynion fel a ganlyn—

(a)bod system ddraenio newydd neu un a ailadeiladwyd yn gweithredu yn unol â’r cynnig a gadarnhawyd,

(b)bod system ddraenio gynaliadwy newydd, os nad yw wedi ei hailadeiladu yn unol â’r cynnig a gadarnhawyd, yn cydymffurfio â’r safonau cenedlaethol, neu

(c)bod system ddraenio gynaliadwy a ailadeiladwyd, os nad yw wedi ei hadeiladu yn unol â’r cynnig a gadarnhawyd, wedi ei hailadeiladu i’r cyflwr yr oedd ynddo cyn i’r gwaith statudol ddechrau.

(3Os nad yw corff cymeradwyo wedi ei fodloni bod y gofynion ym mharagraff (2) wedi eu bodloni, caiff ei gwneud yn ofynnol i’r ymgymerwr statudol wneud gwaith ailadeiladu neu waith adferol o fewn amserlen benodedig.

(4Os yw ymgymerwr statudol yn methu â chydymffurfio â gofyniad o dan baragraff (3), caiff y corff cymeradwyo—

(a)gwneud gwaith adferol, a

(b)adennill unrhyw gostau yr aed iddynt wrth wneud y gwaith hwnnw fel dyled gan yr ymgymerwr.

Hannah Blythyn

Gweinidog yr Amgylchedd, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

10 October 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer y weithdrefn mewn perthynas â phenderfyniad cyrff cymeradwyo am geisiadau i gymeradwyo systemau draenio cynaliadwy ac i fabwysiadu systemau draenio o’r fath, yn unol ag Atodlen 3 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p. 29) (“y Ddeddf”).

Mae rheoliad 3 yn darparu y caiff corff cymeradwyo wrthod penderfynu ar gais am gymeradwyaeth nad yw’n unol â pharagraff 9 neu 10 o Atodlen 3 i’r Ddeddf.

Mae rheoliad 4 yn darparu gweithdrefn i’r corff cymeradwyo ei dilyn mewn perthynas â cheisio ymatebion gan yr ymgyngoreion statudol a bennir ym mharagraff 11(3) o Atodlen 3 i’r Ddeddf.

Mae rheoliad 5(1)(a) yn darparu ar gyfer y terfyn amser y mae rhaid penderfynu ar gais am gymeradwyaeth sy’n ymwneud â datblygiad sy’n destun Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol o fewn iddo. Mae rheoliad 5(1)(b) yn darparu ar gyfer y terfyn amser ar gyfer penderfynu ar unrhyw fath arall o gais am gymeradwyaeth. Mae rheoliad 5(2) yn darparu y caiff y ceisydd a’r corff cymeradwyo, yn y naill achos neu’r llall, gytuno ar gyfnod amser hwy ar gyfer penderfynu ar y cais.

Mae rheoliad 5(3) yn darparu yr ystyrir bod corff cymeradwyo sy’n methu â phenderfynu ar gais o fewn y terfyn amser perthnasol yn gwrthod y cais.

Mae rheoliad 6 yn darparu ar gyfer yr wybodaeth i’w chynnwys mewn hysbysiad i ddatblygwr am benderfyniad mewn perthynas â mabwysiadu, pan fo datblygwr yn gofyn i gorff cymeradwyo fabwysiadu system ddraenio, neu pan fo’r corff cymeradwyo yn mabwysiadu system ddraenio ar ei gymhelliad ei hun.

Mae rheoliad 7(1) yn darparu ar gyfer y cyfnod amser i ryddhau bond methu â chyflawni gan gorff cymeradwyo yn dilyn hysbysiad o benderfyniad mewn perthynas â mabwysiadu system ddraenio, ac eithrio pan fo’r corff cymeradwyo wedi ardystio nad yw’r system ddraenio wedi ei hadeiladu yn unol â’r cynigion a gymeradwywyd neu nad yw’n debygol y bydd yn cael ei chwblhau, a bod y corff cymeradwyo wedi gwneud gwaith i sicrhau bod y system ddraenio wedi ei chwblhau yn y fath fodd fel ei bod yn debygol o gydymffurfio â’r safonau cenedlaethol.

O dan yr amgylchiadau hynny, mae rheoliad 7(3) yn darparu i’r corff cymeradwyo roi cyfrif i’r datblygwr am symiau a ddefnyddiwyd i ddiwallu cost y gwaith, bod y balans yn cael ei ddychwelyd a bod y bond methu â chyflawni yn cael ei ryddhau.

Mae rheoliad 8 yn darparu bod rhaid i’r corff cymeradwyo, o fewn 4 wythnos i roi gwybod i ddatblygwr am benderfyniad i fabwysiadu system ddraenio (boed hynny ar gais neu ar ei gymhelliad ei hun), drefnu i’r system ddraenio gael ei nodi ar y gofrestr a gedwir o dan adran 21 o’r Ddeddf, trefnu i awdurdod dynodi wneud dynodiad dros dro o dan baragraff 7 o Atodlen 1 i’r Ddeddf, a rhoi hysbysiad o fwriad i ddynodi unrhyw ran o’r system ddraenio sy’n stryd, o fewn ystyr adran 48 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991.

Mae rheoliad 9 yn darparu diffiniad o systemau draenio “eiddo unigol” at ddibenion esemptiad rhag y ddyletswydd i fabwysiadu, yn unol â pharagraff 18 o Atodlen 3.

Mae rheoliad 10(1) yn darparu ar gyfer y cyfnod amser i gorff cymeradwyo ryddhau bond methu â chyflawni pan fo system ddraenio wedi ei chwblhau yn unol â’r cynigion a gymeradwywyd. Mae rheoliad 10(2) yn darparu ar gyfer yr achos pan fo corff cymeradwyo wedi gwneud gwaith i sicrhau bod system ddraenio yn cael ei chwblhau yn y fath fodd fel ei bod yn debygol o gydymffurfio â’r safonau cenedlaethol. Yn yr amgylchiadau hynny, mae rheoliad 10(3) yn darparu ar gyfer yr amser i gorff cymeradwyo roi cyfrif i’r datblygwr am arian a ddefnyddiwyd i gyflawni’r gwaith, dychwelyd unrhyw swm dros ben a rhyddhau’r bond methu â chyflawni.

Mae rheoliad 11 yn darparu bod rhaid i gorff cymeradwyo roi gwybod i’r personau ym mharagraff 24(2) o Atodlen 3 cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl arfer ei bŵer i fabwysiadu system ddraenio nad yw’r ddyletswydd i fabwysiadu yn gymwys iddi ac mae rheoliad 13(2) yn pennu cynnwys yr hysbysiad.

Mae rheoliad 12 yn darparu ar gyfer y cyfnod amser i’r awdurdod llifogydd lleol arweiniol gofrestru system ddraenio, ac i awdurdod dynodi ddynodi dros dro system ddraenio o dan baragraff 7 o Atodlen 1 i’r Ddeddf, yn dilyn mabwysiadu gwirfoddol.

Mae rheoliad 13 yn darparu diffiniad o “statutory undertaker”.

Mae rheoliad 14 yn darparu diffiniad o “statutory works”.

Mae rheoliadau 15(1) i (3) yn darparu i ymgymerwr statudol hysbysu’r corff cymeradwyo am y bwriad i ddechrau ar waith statudol ar dir cyhoeddus, gan gynnwys mewn argyfwng, pan fo’r cyfryw waith yn effeithio ar system ddraenio gynaliadwy, neu pan allai wneud hynny. Mae rheoliadau 15(4) i (6) yn gwneud darpariaeth ar gyfer cymeradwyo a hysbysu am waith ailadeiladu mewn perthynas â systemau draenio cynaliadwy yn dilyn gwaith statudol.

Mae rheoliad 16(1) yn darparu pŵer i’r corff cymeradwyo ei gwneud yn ofynnol i ymgymerwr statudol wneud gwaith adferol. Pan na chydymffurfir â chais o’r fath, mae rheoliad 16(2) yn darparu pŵer pellach i gorff cymeradwyo wneud gwaith adferol ac adennill costau’r gwaith gan yr ymgymerwr statudol.

Mae rheoliad 17(1) yn ei gwneud yn ofynnol i gorff cymeradwyo benderfynu, o fewn 12 mis i gwblhau’r gwaith statudol, a yw’n fodlon bod y gofynion yn rheoliad 17(2) wedi eu bodloni. Y gofynion yw bod system ddraenio newydd neu un a ailadeiladwyd yn gweithredu yn unol â’r cynnig a gymeradwywyd; bod system newydd, os nad yw wedi ei hadeiladu yn unol â’r cynnig a gymeradwywyd, yn cydymffurfio â’r safonau cenedlaethol, neu os yw’n system ddraenio gynaliadwy a ailadeiladwyd, os nad yw wedi ei hadeiladu yn unol â’r cynnig cymeradwy, wedi ei hailadeiladu i’r cyflwr yr oedd ynddo cyn i’r gwaith statudol ddechrau.

Mae rheoliad 17(3) yn darparu pŵer, pan na fo corff cymeradwyo yn fodlon mewn perthynas â rheoliad 17(2), i’r corff cymeradwyo ei gwneud yn ofynnol i ymgymerwr statudol wneud gwaith ailadeiladu neu waith adferol o fewn cyfnod amser penodedig. Os na chydymffurfir â chais o’r fath, mae rheoliad 17(4) yn darparu pŵer i’r corff cymeradwyo wneud y gwaith, ac adennill y costau gan yr ymgymerwr statudol.

Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol, o ran Cymru, o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.

(1)

2010 p. 29. Diwygiwyd Atodlen 3 gan adrannau 21(3), 88(a) ac 88(b) o Ddeddf Dŵr 2014 (p. 21) ac O.S. 2012/1659 a 2013/755 (Cy. 90).

(2)

Diffinnir “drainage system” ym mharagraff 1 o Atodlen 3.

(3)

Diffinnir “construction work” ym mharagraff 7(1)(a) o Atodlen 3.

(6)

1991 p. 56. Amnewidiwyd adran 104(1) gan adran 96(4)(a) o Ddeddf Dŵr 2003 (p. 37). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(7)

Diffinnir “drainage implications” ym mharagraff 7(2)(b) o Atodlen 3.

(8)

Diffinnir “approving body” ym mharagraff 6 o Atodlen 3.

(10)

1990 p. 8.

(11)

Diffinnir “lead local flood authority” yn adran 6(9) o’r Ddeddf.

(12)

Diffinnir “designating authority” ym mharagraff 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf.

(13)

1991 p. 22. Mewnosodwyd adran 63(5) gan baragraff 27 o Atodlen 3 i’r Ddeddf.

(14)

1991 p. 56. Diwygiwyd adran 159 gan adran 97(1) a (5) o Ddeddf Dŵr 2003 (p. 37).

(15)

1986 p. 44. Diwygiwyd Atodlen 4 gan baragraffau 1 a 2(1) o Ran 1 o Atodlen 6 i Ddeddf Cyfleustodau 2000 (p. 27), a chan baragraff 119 o Atodlen 8 i Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p. 22). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(17)

2003 p. 21. Mewnosodwyd Atodlen 3A gan Atodlen 1 i Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017 (p. 30).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources