- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3.—(1) Caiff corff cymeradwyo(1) wrthod penderfynu ar gais am gymeradwyaeth nad yw’n cael ei wneud yn unol â pharagraff 9(2) neu 10(2) (yn ôl y digwydd) o Atodlen 3.
(2) Pan fo corff cymeradwyo yn gwrthod penderfynu ar gais yn unol â pharagraff (1), rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n ymarferol—
(a)rhoi gwybod i’r ceisydd bod y cais wedi ei wrthod a rhoi’r rhesymau dros hynny, a
(b)dychwelyd unrhyw ffi am gais sy’n mynd gyda’r cais.
4.—(1) Rhaid i gorff cymeradwyo, pan fydd yn gwneud cais am ymateb gan berson yr ymgynghorir ag ef o dan baragraff 11(3) o Atodlen 3 (“ymgynghorai”), bennu dyddiad ar gyfer ymateb sydd o fewn 3 wythnos gan ddechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl iddo anfon y cais.
(2) Cyn diwedd y cyfnod a bennir o dan baragraff (1), caiff y corff cymeradwyo a’r ymgynghorai gytuno ar ddyddiad gwahanol ar gyfer ymateb.
(3) Caiff y corff cymeradwyo ddiystyru ymateb a geir gan ymgynghorai ar ôl y terfyn amser perthnasol.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “terfyn amser perthnasol” yw—
(a)cyfnod a bennir o dan baragraff (1), neu
(b)unrhyw gyfnod arall y cytunir arno o dan baragraff (2).
5.—(1) Rhaid i gorff cymeradwyo benderfynu ar—
(a)cais am gymeradwyaeth sy’n ymwneud â datblygiad sy’n destun Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol o dan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017(2)(“Rheoliadau 2017”) o fewn cyfnod o 12 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl iddo gael cais dilys, neu
(b)unrhyw gais arall am gymeradwyaeth o fewn y cyfnod o 7 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl iddo gael cais dilys.
(2) Cyn diwedd y cyfnod a bennir yn is-baragraff (a) neu (b) (yn ôl y digwydd) o baragraff (1), caiff y corff cymeradwyo a’r ceisydd gytuno ar gyfnod hwy ar gyfer penderfynu ar gais.
(3) Ystyrir bod corff cymeradwyo sy’n methu â phenderfynu ar gais o fewn y terfyn amser perthnasol yn gwrthod y cais.
(4) Yn y rheoliad hwn—
mae i “Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol” (“Environmental Impact Assessment”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2 o Reoliadau 2017;
mae i “datblygiad” yr ystyr a roddir i “development” yn adran 55(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(3);
ystyr “terfyn amser perthnasol” (“relevant time limit”)yw—
cyfnod a bennir ym mharagraff (1), neu
unrhyw gyfnod hwy y cytunir arno o dan baragraff (2).
Diffinnir “approving body” ym mharagraff 6 o Atodlen 3.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: