Search Legislation

Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) 2018

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 1182 (Cy. 241)

Y Diwydiant Dŵr, Cymru

Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) 2018

Gwnaed

13 Tachwedd 2018

Yn dod i rym

7 Ionawr 2019

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 32 a 48(2) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010(1), a pharagraffau 4(a) a 14 o Atodlen 3 iddi, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Yn unol â pharagraff 14(5)(b) o Atodlen 3 i’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) 2018.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 7 Ionawr 2019.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “apelydd” (“appellant”) yw datblygwr sy’n gwneud apêl o dan y Gorchymyn hwn;

ystyr “ardal adeiladu” (“construction area”) yw—

(a)

yr ardal o dir a nodir ar blan sy’n mynd gyda’r cais am ganiatâd cynllunio, neu

(b)

os na wnaed cais am ganiatâd cynllunio, yr ardal o dir y mae gwaith adeiladu wedi cychwyn arno, neu y bwriedir cychwyn gwaith adeiladu arno;

ystyr “Atodlen 3” (“Schedule 3”) yw Atodlen 3 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010;

mae i “awdurdod cynllunio lleol” yr ystyr a roddir i “local planning authority” yn adran 1(1B)(2) o Ddeddf 1990;

mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(3);

ystyr “cymeradwyaeth” (“approval”) yw’r gymeradwyaeth sy’n ofynnol o dan baragraff 7(1) o Atodlen 3 mewn perthynas â system ddraenio ar gyfer gwaith adeiladu;

ystyr “datblygwr” (“developer”) yw person sy’n cychwyn gwaith adeiladu neu’n bwriadu cychwyn gwaith adeiladu;

ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(4);

ystyr “hysbysiad apêl” (“notice of appeal”) yw hysbysiad o dan erthygl 14;

mae i “hysbysiad gorfodi” (“enforcement notice”) yr ystyr a roddir yn erthygl 8;

mae i “hysbysiad stop” (“stop notice”) yr ystyr a roddir yn erthygl 10;

mae i “hysbysiad stop dros dro” (“temporary stop notice”) yr ystyr a roddir yn erthygl 6;

ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw person a awdurdodir gan gorff cymeradwyo;

ystyr “pwerau mynediad” (“powers of entry”) yw’r pwerau a roddir gan erthygl 4;

mae i “terfyn amser ar gyfer gwneud apêl” (“time limit for making an appeal”) yr ystyr a roddir yn erthygl 13;

ystyr “toriad” (“breach”), mewn perthynas â’r gofyniad i gael cymeradwyaeth, yw—

(a)

cychwyn gwaith adeiladu(5) heb gymeradwyaeth,

(b)

torri un o amodau’r gymeradwyaeth, neu

(c)

nad yw gwaith adeiladu yn cydymffurfio â’r cynigion a gymeradwywyd.

(2Yn y Gorchymyn hwn, mae cyfeiriad at “gwaith adeiladu” i’w ddehongli fel cyfeiriad at waith adeiladu sydd â goblygiadau o ran draenio(6).

RHAN 2Arfer swyddogaethau gorfodi

Cytundeb i arfer swyddogaethau gorfodi

3.—(1Caiff corff cymeradwyo(7) gytuno â’r awdurdod cynllunio lleol (“yr Awdurdod”) y caiff yr Awdurdod arfer swyddogaeth orfodi o dan y Gorchymyn hwn fel pe bai’r awdurdod oedd y corff cymeradwyo.

(2Caiff y cytundeb—

(a)ymwneud ag unrhyw doriad o’r gofyniad i gael cymeradwyaeth, a

(b)cynnwys trefniadau i ad-dalu’r costau yr aed iddynt gan yr Awdurdod wrth arfer y swyddogaeth orfodi.

(3Yn yr erthygl hon, ystyr “swyddogaeth orfodi” yw unrhyw swyddogaeth sy’n arferadwy gan y corff cymeradwyo mewn perthynas ag—

(a)pwerau mynediad;

(b)hysbysiad stop dros dro, hysbysiad gorfodi neu hysbysiad stop.

Pwerau mynediad

4.—(1Caiff person awdurdodedig ar unrhyw adeg resymol fynd i ardal adeiladu (ac eithrio unrhyw fangre yn yr ardal adeiladu a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel tŷ annedd preifat) i ganfod—

(a)a dorrwyd y gofyniad i gael cymeradwyaeth, neu

(b)a chydymffurfiwyd â hysbysiad stop dros dro, hysbysiad stop neu hysbysiad gorfodi.

(2Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i baragraff (4).

(3Rhaid i’r person awdurdodedig, ar gais, ddangos tystiolaeth o awdurdodiad.

(4Mewn argyfwng, caniateir arfer pwerau mynediad ar unrhyw adeg.

(5Ni chaiff person awdurdodedig arfer pwerau mynediad i ganfod a dorrwyd y gofyniad i gael cymeradwyaeth os yw system ddraenio ar gyfer y gwaith adeiladu wedi ei mabwysiadu.

(6Caiff ynad heddwch, drwy warant wedi ei llofnodi, ganiatáu i berson awdurdodedig fynd i unrhyw fangre mewn ardal adeiladu, a hynny gan ddefnyddio grym rhesymol os oes angen, os yw’r ynad wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig a roddir ar lw—

(a)bod sail resymol dros fynd i’r fangre at ddibenion paragraff (1) o’r erthygl hon, a

(b)bod unrhyw un o’r amodau ym mharagraff (7) wedi ei fodloni.

(7Yr amodau yw—

(a)bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, a bod hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i’r meddiannydd;

(b)y byddai gofyn am gael mynediad i’r fangre, neu roi hysbysiad o’r fath, yn mynd yn groes i fwriad mynd i’r fangre;

(c)bod angen mynediad ar frys;

(d)bod y fangre heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro.

(8Mae gwarant yn ddilys am 3 mis.

(9Rhaid i berson awdurdodedig sy’n mynd i fangre nad yw wedi ei meddiannu, neu y mae ei meddiannydd yn absennol ohoni dros dro, ei gadael wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad heb awdurdod ag yr ydoedd cyn iddo fynd iddi.

Digollediad am golled o ganlyniad i arfer pwerau mynediad

5.—(1Mae gan ddatblygwr neu berson arall hawlogaeth i ddigollediad—

(a)os yw person awdurdodedig yn mynd i ardal adeiladu neu unrhyw fangre mewn ardal adeiladu drwy arfer pwerau mynediad ond nad yw’n dod o hyd i unrhyw dystiolaeth o dorri’r gofyniad i gael cymeradwyaeth, a

(b)os yw’r datblygwr neu berson arall yn cael colled o ganlyniad i arfer y pwerau hynny.

(2Os yw person awdurdodedig yn mynd i ardal adeiladu neu unrhyw fangre mewn ardal adeiladu drwy arfer pwerau mynediad ac y canfyddir y torrwyd y gofyniad i gael cymeradwyaeth, mae digollediad yn daladwy—

(a)i’r datblygwr am unrhyw golled o ganlyniad i arfer y pwerau hynny yn afresymol yn unig;

(b)i unrhyw berson arall fel pe bai dim tystiolaeth o doriad wedi ei ganfod.

(3Rhaid gwneud unrhyw hawliad am ddigollediad i’r corff cymeradwyo o fewn 12 mis ar ôl arfer y pwerau hynny.

(4Mae anghydfodau ynghylch digollediad i’w penderfynu gan yr Uwch Dribiwnlys.

RHAN 3Hysbysiadau

Hysbysiadau stop dros dro

6.—(1Caiff corff cymeradwyo roi hysbysiad (“hysbysiad stop dros dro”) i ddatblygwr os oes gan y corff cymeradwyo reswm i gredu—

(a)bod y datblygwr wedi torri’r gofyniad i gael cymeradwyaeth, a

(b)ei bod yn hwylus bod y gwaith adeiladu yn stopio ar unwaith.

(2Rhaid i hysbysiad stop dros dro fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo—

(a)pennu’r gweithgarwch y credir ei fod yn doriad,

(b)rhoi rhesymau dros y farn honno,

(c)gwahardd y datblygwr rhag parhau â’r gweithgarwch, a

(d)pennu canlyniadau peidio â chydymffurfio â’r hysbysiad.

(3Caiff corff cymeradwyo ar unrhyw adeg dynnu hysbysiad stop dros dro yn ôl drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i ddatblygwr sy’n nodi’r rhesymau dros y penderfyniad i’w dynnu’n ôl.

(4Mae hysbysiad stop dros dro yn cael effaith o’r adeg y’i rhoddir ac, oni bai y caiff ei dynnu’n ôl yn gynharach, mae’n peidio â chael effaith ar ddiwedd—

(a)y cyfnod o 4 wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y’i rhoddir, neu

(b)unrhyw gyfnod byrrach a bennir yn yr hysbysiad, gan ddechrau â’r diwrnod y’i rhoddir.

(5Ni chaniateir rhoi ail hysbysiad stop dros dro neu hysbysiad stop dros dro dilynol mewn cysylltiad â’r un gweithgarwch oni bai bod y corff cymeradwyo wedi cymryd unrhyw gamau gorfodi eraill yn gyntaf mewn perthynas â’r toriad.

Digollediad am golled o ganlyniad i hysbysiad stop dros dro

7.—(1Mae gan ddatblygwr sy’n cael colled o ganlyniad i gael hysbysiad stop dros dro hawlogaeth i ddigollediad—

(a)os yw’r corff cymeradwyo yn tynnu’r hysbysiad yn ôl, neu

(b)os nad yw’r corff cymeradwyo yn cymryd unrhyw gamau gorfodi pellach.

(2Rhaid gwneud unrhyw hawliad am ddigollediad i’r corff cymeradwyo o fewn 12 mis ar ôl i’r hysbysiad gael ei dynnu’n ôl neu ar ôl iddo beidio â chael effaith, pa un bynnag sydd gynharaf.

(3Mae anghydfodau ynghylch digollediad i’w penderfynu gan yr Uwch Dribiwnlys.

Hysbysiadau gorfodi

8.—(1Os yw datblygwr yn torri’r gofyniad i gael cymeradwyaeth, caiff y corff cymeradwyo roi hysbysiad i’r datblygwr sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r datblygwr gymryd camau i unioni’r toriad (“hysbysiad gorfodi”).

(2Caniateir rhoi hysbysiad gorfodi ar unrhyw adeg cyn y mabwysiedir system ddraenio ar gyfer y gwaith adeiladu, ond nid hwyrach na 4 blynedd ar ôl i’r toriad ddigwydd.

(3Rhaid i hysbysiad gorfodi fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo bennu—

(a)yr ardal adeiladu y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi,

(b)manylion y toriad,

(c)y camau y mae’n rhaid i’r datblygwr eu cymryd i unioni’r toriad,

(d)y dyddiad erbyn pryd y mae’n rhaid cymryd y camau,

(e)hawliau apelio, gan gynnwys y terfyn amser ar gyfer gwneud apêl, a

(f)canlyniadau peidio â chydymffurfio â’r hysbysiad.

(4Ni chaiff hysbysiad gorfodi ei gwneud yn ofynnol i’r datblygwr gymryd unrhyw gamau tan o leiaf 4 wythnos ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad.

(5Caiff corff cymeradwyo ar unrhyw adeg, drwy hysbysiad ysgrifenedig i ddatblygwr—

(a)tynnu hysbysiad gorfodi yn ôl, gan roi rhesymau, neu

(b)amrywio hysbysiad gorfodi drwy—

(i)lleihau faint o waith sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â’r hysbysiad, neu

(ii)estyn y cyfnod ar gyfer cymryd unrhyw gam a bennir yn yr hysbysiad.

Camau sy’n ofynnol gan hysbysiad gorfodi

9.—(1Ar gyfer gwaith adeiladu a gychwynnir heb gymeradwyaeth, rhaid i’r hysbysiad gorfodi ei gwneud yn ofynnol i’r datblygwr—

(a)gwneud cais am gymeradwyaeth (gan wneud y cais fel pe na bai’r gwaith adeiladu wedi cychwyn), neu

(b)adfer yr ardal adeiladu i’r cyflwr yr oedd ynddo cyn i’r gwaith adeiladu gychwyn.

(2Ar gyfer achos o dorri amod cymeradwyaeth, rhaid i’r hysbysiad gorfodi ei gwneud yn ofynnol i’r datblygwr—

(a)gwneud gwaith i sicrhau bod y system ddraenio yn cydymffurfio â’r amodau cymeradwyo, neu

(b)adfer yr ardal adeiladu i’r cyflwr yr oedd ynddo cyn i’r gwaith adeiladu gychwyn.

(3Ar gyfer gwaith adeiladu nad yw’n cydymffurfio â’r cynigion a gymeradwywyd, rhaid i’r hysbysiad gorfodi ei gwneud yn ofynnol i’r datblygwr—

(a)gwneud gwaith i sicrhau bod y system ddraenio yn cydymffurfio â’r cynigion a gymeradwywyd, neu

(b)adfer yr ardal adeiladu i’r cyflwr yr oedd ynddo cyn i’r gwaith adeiladu gychwyn.

(4Os yw datblygwr yn methu â chydymffurfio â hysbysiad gorfodi, caiff y corff cymeradwyo—

(a)cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad gorfodi neu awdurdodi person arall i gymryd y camau hynny, a

(b)ei gwneud yn ofynnol i’r datblygwr dalu treuliau yr aed iddynt o dan is-baragraff (a), gyda’r fath dreuliau i fod yn adenilladwy fel dyled.

(5Caiff y corff cymeradwyo neu berson a awdurdodir o dan baragraff (4)(a) ar unrhyw adeg resymol fynd i ardal adeiladu i gymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad gorfodi.

Hysbysiadau stop

10.—(1Caiff corff cymeradwyo roi hysbysiad (“hysbysiad stop”) i ddatblygwr—

(a)os yw’r datblygwr wedi apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi, a

(b)os yw’r corff cymeradwyo yn meddwl ei bod yn hwylus y dylai’r gwaith adeiladu ar y tir y mae’r hysbysiad gorfodi yn ymwneud ag ef stopio ar unwaith.

(2Caiff hysbysiad stop wahardd datblygwr rhag parhau â’r gwaith adeiladu a bennir yn yr hysbysiad hyd nes—

(a)bod yr apêl yn erbyn yr hysbysiad gorfodi yn cael ei phenderfynu neu ei thynnu’n ôl, neu

(b)bod y corff cymeradwyo—

(i)yn tynnu’r hysbysiad stop yn ôl, neu

(ii)yn cymryd camau gorfodi pellach.

(3Rhaid i hysbysiad stop fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo bennu—

(a)y dyddiad y mae’n cael effaith,

(b)ar ba seiliau y’i cyflwynwyd,

(c)canlyniadau peidio â chydymffurfio ag ef, a

(d)yr hysbysiad gorfodi y mae’n ymwneud ag ef.

(4Rhaid atodi copi o’r hysbysiad gorfodi i’r hysbysiad stop.

(5Caiff corff cymeradwyo dynnu hysbysiad stop yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i ddatblygwr sy’n nodi’r rhesymau dros y penderfyniad i’w dynnu’n ôl.

Cofrestr hysbysiadau

11.—(1Rhaid i gorff cymeradwyo gadw cofrestr sy’n cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â’r holl hysbysiadau stop dros dro, hysbysiadau gorfodi a hysbysiadau stop a roddir ganddo.

(2Rhaid i’r gofrestr gynnwys yr wybodaeth a ragnodir at ddiben adran 188(1)(8) o Ddeddf 1990 a chan erthygl 30 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012(9) ond gyda’r addasiadau a ddisgrifir ym mharagraff (3).

(3Yr addasiadau yw—

(a)mae unrhyw gyfeiriad at yr awdurdod i’w ddarllen fel cyfeiriad at y corff cymeradwyo;

(b)mae unrhyw gyfeiriad at gyflwyno’r hysbysiad neu gopïau o’r hysbysiad i’w ddarllen fel cyfeiriad at roi’r hysbysiad;

(c)mae unrhyw gyfeiriad at dorri rheolaeth gynllunio i’w ddarllen fel cyfeiriad at dorri’r gofyniad i gael cymeradwyaeth;

(d)mae unrhyw gyfeiriad at hysbysiad torri amod i’w ddarllen fel cyfeiriad at hysbysiad stop neu hysbysiad stop dros dro.

(4Rhaid cofnodi’r wybodaeth ar y gofrestr cyn gynted ag y bo’n ymarferol, ond nid mwy na 2 wythnos ar ôl rhoi’r hysbysiad.

(5Rhaid dileu cofnod sy’n ymwneud â hysbysiad o’r gofrestr os yw’r hysbysiad yn cael ei dynnu’n ôl neu os yw’n peidio â chael effaith.

RHAN 4Apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi

Hawl apelio

12.—(1Caiff datblygwr y rhoddir hysbysiad gorfodi iddo apelio drwy hysbysiad i Weinidogion Cymru yn erbyn y penderfyniad i’w roi.

(2Seiliau’r apêl yw—

(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

(c)bod y penderfyniad yn afresymol;

(d)nad oes toriad o’r gofyniad i gael cymeradwyaeth.

(3Mae hysbysiad gorfodi yn cael ei atal dros dro hyd nes y caiff apêl ei phenderfynu neu ei thynnu’n ôl.

Terfyn amser ar gyfer gwneud apêl

13.  Rhaid cyflwyno apêl o fewn y cyfnod o 4 wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad gorfodi i ddatblygwr.

Gwneud apêl

14.—(1Rhaid i hysbysiad apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi—

(a)bod yn ysgrifenedig, ar ffurflen a gafwyd oddi wrth Weinidogion Cymru,

(b)datgan seiliau’r apêl,

(c)datgan y ffeithiau y bydd yr apelydd yn dibynnu arnynt i ategu pob un o’r seiliau hynny ac unrhyw fanylion eraill am yr achos y mae’r apelydd yn bwriadu ei gyflwyno mewn perthynas â’r apêl, a

(d)cynnwys enw, cyfeiriad (gan gynnwys unrhyw gyfeiriad e-bost) a rhif ffôn yr apelydd ac unrhyw asiant sy’n gweithredu ar ran yr apelydd.

(2Rhaid anfon yr hysbysiad at Weinidogion Cymru gyda’r canlynol—

(a)datganiad ynghylch pa un a yw’r apelydd yn dymuno i’r apêl gael ei hymdrin drwy sylwadau ysgrifenedig, drwy wrandawiad neu drwy ymchwiliad,

(b)copi o’r hysbysiad gorfodi, ac

(c)copi o unrhyw hysbysiad stop neu hysbysiad stop dros dro cysylltiedig.

(3Rhaid i ddatblygwr sy’n anfon hysbysiad apêl at Weinidogion Cymru, ar yr un pryd, anfon copi o’r hysbysiad apêl a’r dogfennau sy’n mynd gyda’r hysbysiad apêl i’r corff cymeradwyo.

(4Yn yr erthygl hon, ystyr “dogfennau sy’n mynd gyda” yw’r dogfennau a grybwyllir ym mharagraff (2).

(5Caniateir i unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall y mae’r erthygl hon yn ei gwneud yn ofynnol i’w hanfon neu i’w darparu gael eu hanfon drwy’r post neu gyfathrebiad electronig.

Defnyddio cyfathrebiadau electronig

15.—(1Mae paragraffau (2) i (6) o’r erthygl hon yn gymwys pan fo’r apelydd yn defnyddio cyfathrebiad electronig at y diben o gyflawni unrhyw ofyniad yn erthygl 14.

(2Ystyrir bod y gofyniad wedi ei gyflawni pan fo’r hysbysiad neu’r ddogfen arall a drosglwyddir drwy gyfrwng y cyfathrebiad electronig—

(a)yn un y gall y derbynnydd gael mynediad iddo neu iddi,

(b)yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol, ac

(c)yn ddigon parhaol fel bod modd cyfeirio ato neu ati yn nes ymlaen.

(3Ym mharagraff (2), ystyr “yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol” yw bod yr wybodaeth a gynhwysir yn yr hysbysiad neu’r ddogfen arall ar gael i’r derbynnydd i’r un graddau â phe bai’r wybodaeth wedi ei hanfon neu ei rhoi drwy gyfrwng dogfen ar ffurf brintiedig.

(4Os caiff y derbynnydd y cyfathrebiad electronig y tu hwnt i’w oriau busnes, cymerir ei fod wedi ei gael ar y diwrnod gwaith nesaf.

(5Mae gofyniad yn erthygl 14 y dylai unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall fod yn ysgrifenedig wedi ei fodloni pan fo’r ddogfen honno’n bodloni’r meini prawf ym mharagraff (2), ac mae “ysgrifenedig” ac ymadroddion cytras i’w dehongli yn unol â hynny.

(6Pan fo apelydd yn anfon unrhyw hysbysiad neu ddogfen arall at Weinidogion Cymru drwy ddefnyddio cyfathrebiadau electronig, cymerir eu bod wedi cytuno i’r hyn a ganlyn—

(a)i ddefnyddio’r cyfathrebiadau hynny at yr holl ddibenion sy’n ymwneud â’r apêl y mae modd eu cyflawni drwy gyfrwng electronig;

(b)mai cyfeiriad yr apelydd at ddiben cyfathrebiadau o’r fath yw’r cyfeiriad sydd wedi ei ymgorffori yn yr hysbysiad neu’r ddogfen arall, neu sydd fel arall wedi ei gysylltu yn rhesymegol â hwy;

(c)y bydd cytundeb tybiedig yr apelydd o dan y paragraff hwn yn parhau hyd nes iddo hysbysu ei fod yn dymuno dirymu’r cytundeb yn unol ag erthygl 16.

Tynnu’n ôl y cydsyniad i ddefnyddio cyfathrebiadau electronig

16.—(1Pan na fo apelydd bellach yn fodlon derbyn y defnydd o gyfathrebiadau electronig at unrhyw ddiben o’r Gorchymyn hwn y mae modd ei gyflawni yn electronig, rhaid i’r apelydd roi hysbysiad ysgrifenedig sydd—

(a)yn tynnu’n ôl unrhyw gyfeiriad yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru neu gorff cymeradwyo amdano at y diben hwnnw, neu

(b)yn dirymu unrhyw gytundeb a wnaed gyda Gweinidogion Cymru neu gyda chorff cymeradwyo at y diben hwnnw.

(2Bydd y tynnu’n ôl neu’r dirymu o dan baragraff (1) yn derfynol ac yn cymryd effaith ar y diweddaraf o’r hyn a ganlyn—

(a)y dyddiad a bennwyd gan yr apelydd yn yr hysbysiad, ond ni ddylai’r dyddiad hwnnw fod yn llai nag 1 wythnos ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad, neu

(b)y dyddiad y daw’r cyfnod o 1 wythnos i ben gan ddechrau ar y dyddiad pan y rhoddir yr hysbysiad.

Y weithdrefn apelio

17.—(1Mae paragraffau (2) i (4) o’r erthygl hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad apêl dilys.

(2Mae adran 319B (pennu’r weithdrefn ar gyfer achosion penodol: Cymru) o Ddeddf 1990 a Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau Atgyfeiriedig a Gweithdrefn Apelau) (Cymru) 2017(10) (“Rheoliadau 2017”) yn gymwys i apêl o dan y Gorchymyn hwn gyda’r addasiadau a ddisgrifir ym mharagraff (3), fel pe bai’n apêl a gyflwynir o dan adran 174 (apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi) o Ddeddf 1990.

(3Yr addasiadau yw—

(a)mae i unrhyw gyfeiriad at “apelydd” yr ystyr a roddir yn erthygl 2;

(b)mae unrhyw gyfeiriad at “apêl” o dan adran 174 o Ddeddf 1990 i’w ddarllen fel cyfeiriad at apêl o dan y Gorchymyn hwn;

(c)mae unrhyw gyfeiriad at “person penodedig” yn gyfeiriad at berson a benodwyd gan Weinidogion Cymru o dan y Gorchymyn hwn i adrodd i Weinidogion Cymru;

(d)mae unrhyw gyfeiriad at “apêl gorfodi” i’w ddarllen fel cyfeiriad at apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi o dan y Gorchymyn hwn;

(e)mae unrhyw gyfeiriad at “hysbysiad gorfodi” o dan adran 172(1) o Ddeddf 1990 i’w ddarllen fel cyfeiriad at hysbysiad gorfodi o dan y Gorchymyn hwn;

(f)mae cyfeiriad at “datganiad achos llawn” i’w ddarllen fel cyfeiriad at y datganiad yn erthygl 14(1)(c);

(g)mae unrhyw gyfeiriad at “personau â buddiant” i’w ddarllen fel cyfeiriad at yr ymgyngoreion statudol a bennir ym mharagraff 11(3) o Atodlen 3;

(h)mae unrhyw gyfeiriad at “awdurdod cynllunio lleol” i’w ddarllen fel cyfeiriad at y corff cymeradwyo a roddodd hysbysiad gorfodi o dan y Gorchymyn hwn.

(4Yn yr erthygl hon, ystyr “hysbysiad apêl dilys” yw hysbysiad apêl—

(a)sy’n cydymffurfio â gofynion erthygl 14(1),

(b)a anfonir at Weinidogion Cymru—

(i)yn unol ag erthygl 14(2),

(ii)o fewn y cyfnod a bennir yn erthygl 13, ac

(c)y mae’r apelydd yn ardystio ei fod wedi anfon copi i’r corff cymeradwyo yn unol ag erthygl 14(3).

Penderfynu ar apêl

18.—(1Mae apêl o dan y Gorchymyn hwn i’w phenderfynu gan Weinidogion Cymru.

(2At ddibenion paragraff (1), caiff Gweinidogion Cymru benodi person (“y person penodedig”) i adrodd i Weinidogion Cymru.

Pwerau Gweinidogion Cymru wrth benderfynu ar apêl

19.  Wrth benderfynu ar apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)penderfynu bod yr hysbysiad i beidio â chael effaith, neu

(b)cadarnhau neu amrywio’r hysbysiad.

Tystiolaeth a chostau

20.—(1Mae is-adrannau (2) a (3) o adran 250 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(11) (ymchwiliadau lleol: tystiolaeth a chostau) yn gymwys gyda’r addasiadau a ddisgrifir ym mharagraff (2) i ymchwiliad o dan y Gorchymyn hwn fel y maent yn gymwys i ymchwiliadau lleol o dan yr adran honno.

(2Yr addasiadau yw—

(a)mae unrhyw gyfeiriad at y person a benodir i gynnal yr ymchwiliad i’w ddarllen fel cyfeiriad at y person a benodir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 18(2);

(b)mae unrhyw gyfeiriad at awdurdod lleol i’w ddarllen fel cyfeiriad at gorff cymeradwyo.

(3Mae adran 322C o Ddeddf 1990(12) (costau: Cymru) yn gymwys mewn perthynas â gwrandawiad neu ymchwiliad o dan y Gorchymyn hwn fel y mae’n gymwys mewn perthynas â gwrandawiad neu ymchwiliad lleol y cyfeirir ato yn yr adran honno.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i gostau gwrandawiad neu ymchwiliad a gynhelir o dan y Gorchymyn hwn gael eu talu gan Weinidogion Cymru.

RHAN 5Troseddau

Y drosedd o fethu â chydymffurfio â hysbysiad

21.—(1Mae person sy’n methu â chydymffurfio â hysbysiad stop dros dro, hysbysiad gorfodi neu hysbysiad stop yn euog o drosedd, ac yn agored—

(a)ar euogfarn ddiannod, i ddirwy nad yw’n fwy nag £20,000, neu

(b)ar euogfarn ar dditiad, i ddirwy.

(2Wrth benderfynu ar swm y ddirwy, rhaid i’r llys roi sylw yn benodol i unrhyw fantais ariannol sydd wedi cronni, neu yr ymddengys ei bod wedi cronni, i’r person sy’n cael euogfarn o ganlyniad i’r drosedd.

Y drosedd o rwystro

22.  Mae person sy’n rhwystro yn fwriadol person awdurdodedig sy’n arfer pwerau mynediad—

(a)yn euog o drosedd, a

(b)yn agored, ar euogfarn ddiannod, i ddirwy nad yw’n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Troseddau gan gyrff corfforaethol

23.—(1Os profir bod trosedd o dan y Gorchymyn hwn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol—

(a)wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog, neu

(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog—

bydd y swyddog, yn ogystal â’r corff corfforaethol, yn euog o’r drosedd a bydd yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(2Ym mharagraff (1), ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforaethol, yw—

(a)cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall tebyg i’r corff, neu

(b)person sy’n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o’r fath.

(3Os rheolir materion corff corfforaethol gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â swyddogaethau rheoli’r aelod fel y mae’n gymwys i swyddog corff corfforaethol.

Troseddau gan bartneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig

24.—(1Rhaid i achos ar gyfer trosedd o dan y Gorchymyn hwn yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig gael ei dwyn yn erbyn y bartneriaeth neu’r gymdeithas yn enw’r bartneriaeth neu’r gymdeithas.

(2At ddibenion achosion o’r fath—

(a)mae rheolau’r llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig yn gorff corfforaethol, a

(b)mae’r darpariaethau a ganlyn yn gymwys fel y maent yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforaethol—

(i)adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925(13);

(ii)Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(14).

(3Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig ar euogfarn am drosedd o dan y Gorchymyn hwn i’w thalu o gronfeydd y bartneriaeth neu’r gymdeithas.

(4Os profir bod trosedd o dan y Gorchymyn hwn a gyflawnwyd gan bartneriaeth—

(a)wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu

(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner—

mae’r partner, yn ogystal â’r bartneriaeth, yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(5Ym mharagraff (4), mae “partner” yn cynnwys person sy’n honni ei fod yn gweithredu fel partner.

(6Os profir bod trosedd o dan y Gorchymyn hwn a gyflawnwyd gan gymdeithas anghorfforedig (ac eithrio partneriaeth)—

(a)wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad un o swyddogion y gymdeithas, neu

(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog o’r fath—

mae’r swyddog, yn ogystal â’r gymdeithas, yn euog o’r drosedd a bydd yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(7Ym mharagraff (6), ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chymdeithas anghorfforedig, yw—

(a)un o swyddogion y gymdeithas neu aelod o’i chorff llywodraethu, neu

(b)person sy’n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swydd o’r fath.

Hannah Blythyn

Gweinidog yr Amgylchedd, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

13 Tachwedd 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer gorfodi unrhyw doriad o’r gymeradwyaeth sy’n ofynnol (“y gofyniad i gael cymeradwyaeth”) o dan baragraff 7(1) o Atodlen 3 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p. 29) (“y Ddeddf”) mewn perthynas â systemau draenio ar gyfer gwaith adeiladu.

Mae erthygl 3 yn darparu y caiff corff cymeradwyo gytuno â’r awdurdod cynllunio lleol y caniateir i’r awdurdod hwnnw arfer swyddogaethau gorfodi o dan y Gorchymyn hwn ar ran y corff cymeradwyo.

Mae erthygl 4 yn darparu ar gyfer pwerau mynediad i eiddo person a awdurdodir gan gorff cymeradwyo at y diben o ganfod pa un a dorrwyd y gofyniad i gael cymeradwyaeth neu ba un a gydymffurfiwyd â hysbysiad stop dros dro, hysbysiad gorfodi neu hysbysiad stop, gan gynnwys o dan ba amgylchiadau y caniateir i gais gael ei wneud i lys am warant.

Mae erthygl 5 yn darparu ar gyfer yr amgylchiadau y caiff datblygwr neu berson arall adennill digollediad mewn perthynas â cholled yr aed iddi o ganlyniad i arfer pwerau mynediad yn unol ag erthygl 4 oddi tanynt.

Mae erthygl 6 yn rhoi pŵer i gorff cymeradwyo roi hysbysiad stop dros dro i ddatblygwr, pan fo gan y corff reswm i gredu bod datblygwr wedi torri’r gofyniad i gael cymeradwyaeth. Mae hyd hysbysiad o’r fath wedi ei gyfyngu yn unol â’r erthygl honno.

Mae erthygl 7 yn darparu ar gyfer yr amgylchiadau y caiff datblygwr adennill digollediad mewn perthynas â cholled yr aed iddi o ganlyniad i gael hysbysiad stop dros dro oddi tanynt.

Mae erthygl 8 yn rhoi pŵer i gorff cymeradwyo, pan fo datblygwr wedi torri’r gofyniad i gael cymeradwyaeth, roi hysbysiad i’r datblygwr (“hysbysiad gorfodi”), sy’n pennu’r camau i’w cymryd gan y datblygwr i unioni’r toriad.

Mae erthygl 9 yn pennu’r camau i’w cymryd gan ddatblygwr, y mae rhaid eu cynnwys mewn hysbysiad gorfodi mewn amgylchiadau penodedig, ac yn darparu ar gyfer y camau y caiff y corff cymeradwyo eu cymryd os na chydymffurfir â’r hysbysiad.

Mae erthygl 10 yn rhoi pŵer i gorff cymeradwyo roi hysbysiad stop i ddatblygwr, mewn amgylchiadau pan fo’r datblygwr wedi apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi a bod y corff cymeradwyo yn meddwl ei fod yn hwylus i’r gwaith adeiladu y mae’r hysbysiad gorfodi yn ymwneud ag ef stopio ar unwaith. Mae erthygl 10 hefyd yn darparu ar gyfer yr amgylchiadau y mae hysbysiad o’r fath yn peidio â chael effaith oddi tanynt.

Mae erthygl 11 yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff cymeradwyo gadw cofrestr o’r holl hysbysiadau stop, hysbysiadau stop dros dro a hysbysiadau gorfodi y mae’n eu rhoi, ac yn rhagnodi’r wybodaeth i’w chynnwys yn y gofrestr.

Mae erthygl 12 yn darparu i ddatblygwr apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn hysbysiad gorfodi ar y seiliau a bennir yn yr erthygl.

Mae erthygl 13 yn rhagnodi o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid gwneud apêl.

Mae erthygl 14 yn rhagnodi cynnwys hysbysiad apêl, a’r camau y mae rhaid eu cymryd i wneud apêl.

Mae erthygl 15 yn darparu ar gyfer defnyddio cyfathrebu electronig, ac mae erthygl 16 yn darparu ar gyfer tynnu’n ôl y cydsyniad i ddefnyddio cyfathrebu electronig mewn perthynas ag apelau.

Mae erthygl 17 yn gwneud darpariaeth i adran 319B o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p. 8) (“Deddf 1990”) a Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau Atgyfeiriedig a Gweithdrefn Apelau) (Cymru) 2017 (O.S. 2017/544 (Cy. 121)) fod yn gymwys, gydag addasiadau priodol, i apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi o dan y Gorchymyn hwn, fel pe bai’n apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi cynllunio.

Mae erthygl 18 yn darparu mai Gweinidogion Cymru fydd yn penderfynu ar apêl o dan y Gorchymyn hwn.

Mae erthygl 19 yn darparu ar gyfer pwerau Gweinidogion Cymru i benderfynu ar apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi.

Mae erthygl 20 yn darparu ar gyfer gweithdrefn mewn perthynas â thystiolaeth mewn gwrandawiad neu ymchwiliad drwy gymhwyso, yn ddarostyngedig i addasiadau priodol, isadrannau (2) a (3) o adran 250 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (ymchwiliadau lleol: tystiolaeth a chostau), ac mewn perthynas â chostau, drwy gymhwyso adran 322C o Ddeddf 1990 (costau: Cymru).

Mae erthygl 21 yn darparu ar gyfer trosedd o fethu â chydymffurfio â hysbysiad stop dros dro, hysbysiad gorfodi neu hysbysiad stop.

Mae erthygl 22 yn darparu ar gyfer trosedd o rwystro’n fwriadol berson a awdurdodir gan gorff cymeradwyo sy’n arfer pwerau mynediad o dan erthygl 4.

Mae erthygl 23 yn gwneud darpariaeth ar gyfer atebolrwydd swyddogion ac aelodau pan fo trosedd o dan y Gorchymyn hwn yn cael ei chyflawni gan gorff corfforaethol.

Mae erthygl 24 yn gwneud darpariaeth ar gyfer atebolrwydd partneriaethau a phartneriaid, pan fo trosedd o dan y Gorchymyn hwn yn cael ei chyflawni gan bartneriaeth, ac ar gyfer atebolrwydd cymdeithasau anghorfforedig a’u swyddogion pan fo trosedd o’r fath yn cael ei chyflawni gan gymdeithas anghorfforedig.

Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol, o ran Cymru, o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.

(1)

2010 p. 29. Diwygiwyd Atodlen 3 gan adrannau 21(3), 88(a) ac 88(b) o Ddeddf Dŵr 2014 (p. 21) ac O.S. 2012/1659 a 2013/755 (Cy. 90).

(2)

Mewnosodwyd adran 1(1B) gan adran 18(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19).

(3)

2000 p. 7. Diwygiwyd adran 15(1) gan baragraff 158 o Atodlen 17 i Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (p. 21).

(5)

Diffinnir “construction work” ym mharagraff 7(2)(a) o Atodlen 3.

(6)

Diffinnir “drainage implications” ym mharagraff 7(2)(b) o Atodlen 3.

(7)

Diffinnir “approving body” ym mharagraff 6 o Atodlen 3.

(8)

Diwygiwyd adran 188(1) gan baragraff 30(a) o Atodlen 7 a Rhan 1 o Atodlen 19 i Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34) a chan baragraff 24(5) o Atodlen 6 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.

(11)

1972 p. 70. Diwygiwyd adran 250 gan adrannau 37, 38 a 46 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p. 48); adran 49(2) o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 (p. 63) ac Atodlen 12 iddi a chan y Ddeddf Cyfraith Statud (Diddymiadau) 1989 (p. 43).

(12)

Mewnosodwyd adran 322C gan adran 49 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4).

(13)

1925 p. 86. Diwygiwyd adran 33 gan Atodlen 6 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1952 (p. 55); paragraff 19 o Atodlen 8 i Ddeddf Llysoedd 1971 (p. 23) ac Atodlen 10 i Ddeddf Llysoedd 2003 (p. 39).

(14)

1980 p. 43. Diwygiwyd Atodlen 3 gan Atodlen 13 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991 (p. 43) a pharagraffau 51(13)(a) a (b) o Atodlen 3 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p. 44).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources