- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dosbarthu Carcasau a Hysbysu eu Prisiau (Cymru) 2018.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Rhagfyr 2018.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “anifail buchol llawn-dwf” (“adult bovine animal”) yw anifail buchol sy’n wyth mis oed neu ragor;
ystyr “carcas buchol” (“bovine carcase”) yw carcas neu hanner carcas anifail buchol llawn-dwf a gigyddwyd ac sy’n dwyn marc iechyd y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 5(2) o Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor a Phennod III o Adran 1 o Atodiad 1 iddo, sy’n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy’n tarddu o anifeiliaid ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl(1); ac yn y diffiniad hwn—
ystyr “carcas” yw holl gorff anifail a gigyddwyd fel y’i cyflwynir ar ôl ei waedu, ei ddiberfeddu a thynnu ei groen, a
ystyr “hanner carcas” yw’r cynnyrch a geir drwy wahanu’r carcas yn gymesur drwy ganol pob fertebra gyddfol, dorsal, meingefnol a sacrol a thrwy ganol y sternwm a’r symffysis isgiopwbig;
ystyr “carcas mochyn” (“pig carcase”) yw corff mochyn glân sydd wedi ei gigydda, wedi ei waedu ac wedi ei ddiberfeddu, yn gyfan ynteu wedi ei rannu ar hyd y llinell ganol;
ystyr “cyfathrebiad rhagnodedig” (“prescribed communication”) yw cyfathrebiad o’r canlyniadau dosbarthu yn unol â gofynion Erthygl 1 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn;
ystyr “darpariaeth eidion Ewropeaidd” (“European beef provision”) yw darpariaeth a bennir yng ngholofn (2) o Atodlen 1, y disgrifir ei chynnwys yng ngholofn (3) o’r Atodlen honno;
ystyr “darpariaeth moch Ewropeaidd” (“European pig provision”) yw darpariaeth a bennir yng ngholofn (2) o Atodlen 2, y disgrifir ei chynnwys yng ngholofn (3) o’r Atodlen honno;
ystyr “dosbarthu” (“classification”) yw—
dosbarthu carcasau buchol yn unol â’r darpariaethau eidion Ewropeaidd, neu
dosbarthu carcasau moch yn unol â’r darpariaethau moch Ewropeaidd a rheoliad 14,
yn ôl y digwydd, ac mae termau cytras i’w dehongli yn unol â hynny;
ystyr “gweithredwr” (“operator”) yw person sy’n cynnal busnes lladd-dy cymeradwy;
ystyr “lladd-dy cymeradwy” (“approved slaughterhouse”) yw sefydliad a ddefnyddir i gigydda anifeiliaid buchol llawn-dwf neu foch, y mae eu cig wedi ei fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl ac sydd wedi ei gymeradwyo neu wedi ei gymeradwyo’n amodol o dan Erthygl 4 o Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy’n tarddu o anifeiliaid(2);
ystyr “mochyn glân” (“clean pig”) yw mochyn sydd heb ei ddefnyddio ar gyfer bridio;
ystyr “Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn” (“Commission Delegated Regulation”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 2017/1182 sy’n cydategu Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran graddfeydd yr Undeb ar gyfer dosbarthu carcasau eidion, moch a defaid ac o ran hysbysu prisiau marchnad categorïau penodol o garcasau ac anifeiliaid byw(3);
ystyr “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu cyd-drefniadaeth ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol;(4)
ystyr “Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn” (“Commission Implementing Regulation”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 2017/1184 sy’n gosod rheolau ar gymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran graddfeydd yr Undeb ar gyfer dosbarthu carcasau eidion, moch a defaid ac o ran hysbysu prisiau marchnad categorïau penodol o garcasau ac anifeiliaid byw(5);
ystyr “Rheoliadau 2011” (“the 2011 Regulations”) yw Rheoliadau Dosbarthu Carcasau Eidion a Moch (Cymru) 2011(6);
ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw person a awdurdodir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliadau hyn, ond nid yw’n cynnwys person a benodir er mwyn ystyried apêl o dan reoliad 10.
(2) Mae i’r termau eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir y termau Saesneg sy’n cyfateb iddynt yn Rheoliad (EU) 2013, Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn neu Reoliad Gweithredu’r Comisiwn, yr ystyron a ddygir gan y termau cyfatebol Saesneg yn y Rheoliadau hynny.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at—
(a)Rheoliad (EU) 2013,
(b)Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn, neu
(c)Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn,
i’w ddehongli fel cyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.
3. Mae unrhyw hysbysiad, trwydded, cymeradwyaeth neu awdurdodiad a roddwyd neu a ganiatawyd o dan Reoliadau 2011 ac sy’n effeithiol pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym yn aros mewn grym fel pe baent wedi eu rhoi neu wedi eu caniatáu o dan y Rheoliadau hyn.
4. Mae’r canlynol wedi eu dirymu—
(a)Rheoliadau 2011; a
(b)rheoliad 2 o Reoliadau’r Trefniant Cyffredin Sengl ar gyfer Marchnadoedd (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2013(7).
5.—(1) Rhaid i bob person—
(a)sy’n weithredwr ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym, neu
(b)sy’n dod yn weithredwr ar ddyddiad dilynol,
roi hysbysiad i Weinidogion Cymru o’r manylion a bennir ym mharagraff (3) o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym neu o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad y daw’r person hwnnw’n weithredwr, yn ôl y digwydd.
(2) Bernir bod person—
(a)sydd wedi rhoi hysbysiad, neu y barnwyd ei fod wedi rhoi hysbysiad, o dan reoliad 5(1) neu (2) o Reoliadau 2011, a
(b)y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo yn rhinwedd rheoliad 6 neu 12,
wedi rhoi hysbysiad o dan baragraff (1).
(3) Dyma’r manylion ym mharagraff (1)—
(a)enw a chyfeiriad llawn y gweithredwr;
(b)pan fo’r gweithredwr yn bartneriaeth neu’n gydberchnogion, enwau a chyfeiriadau llawn pob un o’r partneriaid neu’r cydberchnogion;
(c)pan fo’r gweithredwr yn gorff corfforaethol, enw llawn, cyfeiriad swyddfa gofrestredig a rhif cofrestru’r corff; a
(d)cyfeiriad, rhif teleffon a rhif cymeradwyo’r lladd-dy.
(4) Pan fo unrhyw newid yn digwydd mewn unrhyw un neu ragor o’r manylion a bennir ym mharagraff (3), rhaid i’r gweithredwr, o fewn 28 diwrnod i ddyddiad y newid, roi hysbysiad o fanylion y newid i Weinidogion Cymru.
(5) Pan fo gweithredwr (“G”) yn peidio â bod yn weithredwr lladd-dy cymeradwy, rhaid i G, o fewn 10 niwrnod i’r dyddiad y peidiodd â bod yn weithredwr o’r fath, roi hysbysiad i Weinidogion Cymru o’r canlynol—
(a)y dyddiad y peidiodd â bod yn weithredwr o’r fath; a
(b)y person (os oes un) sy’n olynu G fel gweithredwr y lladd-dy hwnnw.
(6) Pan fo lladd-dy cymeradwy’n peidio â bod yn lladd-dy o’r fath, rhaid i weithredwr y lladd-dy, o fewn 10 niwrnod i’r dyddiad y peidiodd â bod yn lladd-dy o’r fath, roi hysbysiad i Weinidogion Cymru o’r dyddiad y peidiodd â bod yn lladd-dy o’r fath.
6.—(1) Nid yw’n ofynnol i weithredwr buchol ar raddfa fach ddosbarthu carcasau buchol.
(2) Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i weithredwr buchol ar raddfa fach nad yw’n dosbarthu carcasau buchol.
(3) Ond, os bydd gweithredwr buchol ar raddfa fach yn dewis dosbarthu carcasau buchol, mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â’r gweithredwr hwnnw ac mewn perthynas â dosbarthu’r carcasau hynny.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “gweithredwr buchol ar raddfa fach” yw gweithredwr lladd-dy cymeradwy lle y mae llai na 150 o anifeiliaid buchol llawn-dwf yn cael eu cigydda bob wythnos, ar gyfartaledd dros flwyddyn.
(5) Ni fernir bod unrhyw weithredwr buchol ar raddfa fach yr oedd yn ofynnol iddo, nes i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, ddosbarthu carcasau buchol o dan Reoliadau 2011 wedi dewis gwneud hynny at ddibenion paragraff (3) am y rheswm hwnnw yn unig.
(6) Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy’n rhwystro’r Rheoliadau hyn rhag cael eu cymhwyso at weithredwr mewn perthynas â charcasau moch, os oes moch hefyd yn cael eu cigydda yn lladd-dy’r gweithredwr hwnnw.
7.—(1) Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cymwys at ddibenion—
(a)Erthygl 12(2)(b) o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (darpariaethau ychwanegol ar ddosbarthu drwy dechnegau graddio awtomataidd);
(b)Erthyglau 13 a 14 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn ac Erthygl 14 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (hysbysu prisiau’r farchnad a chyfrifo pris cyfartalog pob dosbarth);
(c)Erthygl 17(2) o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (darpariaethau atodol ar hysbysu prisiau marchnad carcasau);
(d)Erthygl 4(1) o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (gwneud a chadw adroddiadau ar gyfer gwiriadau yn y fan a’r lle).
(2) Gweinidogion Cymru sy’n gyfrifol am y canlynol—
(a)Erthygl 10 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (awdurdodi dulliau graddio awtomataidd);
(b)Erthygl 25 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (hysbysu’r Comisiwn);
(c)gwiriadau yn y fan a’r lle, yn unol â’r disgrifiad o “on-the-spot checks” yn Erthyglau 2 a 3 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn.
8.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu trwydded i ymgymryd â dosbarthu carcasau buchol drwy edrych arnynt i unrhyw berson sy’n gwneud cais am drwydded o’r fath ac sy’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei fod yn gymwys i ymgymryd â’r dosbarthu, os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y ceisydd yn berson addas a phriodol i ymgymryd â dosbarthu carcasau buchol.
(2) Caniateir i’r drwydded gael ei rhoi yn ddarostyngedig i unrhyw delerau ac amodau y mae Gweinidogion Cymru’n ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddibenion paragraff (1).
(3) Yn ychwanegol at y pŵer i ddirymu trwydded yn yr amgylchiadau a grybwyllir yn Erthygl 4(2) o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (dosbarthiadau, cyflwyniadau neu adnabyddiadau anghywir), caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro neu ddirymu trwydded a ganiatawyd i berson o dan y rheoliad hwn—
(a)os yw’r person wedi torri unrhyw un neu ragor o delerau neu amodau’r drwydded honno; neu
(b)os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni nad yw’r person sy’n dal y drwydded honno yn berson addas a phriodol mwyach i ymgymryd â dosbarthu carcasau buchol.
(4) Pan fo Gweinidogion Cymru’n gwneud unrhyw benderfyniad mewn perthynas â thrwydded o dan y rheoliad hwn, a’r penderfyniad hwnnw’n ysgogi hawl i apelio o dan reoliad 10, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)hysbysu’r person am y penderfyniad mewn ysgrifen;
(b)rhoi’r rhesymau; ac
(c)esbonio bod yna hawl i apelio i berson a benodir gan Weinidogion Cymru.
9.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu trwydded i weithredwr lladd-dy cymeradwy i awdurdodi defnyddio offer graddio awtomataidd i ddosbarthu carcasau buchol yn y lladd-dy hwnnw, os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y byddai’r offer a’i ddull gweithredu yn bodloni’r safonau sy’n ofynnol gan Erthyglau 9(b) a 10(2) (o’u darllen gyda Rhan A o Atodiad IV) o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn.
(2) Caniateir i’r drwydded gael ei rhoi yn ddarostyngedig i unrhyw delerau ac amodau y mae eu hangen er mwyn sicrhau y cydymffurfir â’r safonau hynny.
(3) Yn ychwanegol at y pŵer i ddirymu trwydded yn yr amgylchiadau a grybwyllir yn Erthygl 4(2) o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn, caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro neu ddirymu trwydded a ganiatawyd i weithredwr o dan y rheoliad hwn—
(a)os yw’r gweithredwr wedi torri unrhyw un neu ragor o delerau neu amodau’r drwydded; neu
(b)os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw’r offer graddio awtomataidd mwyach yn bodloni’r safonau sy’n ofynnol gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn, pa un ai am resymau sy’n gysylltiedig â’r offer ei hun neu’r modd y defnyddir yr offer gan y gweithredwr.
(4) Pan fo Gweinidogion Cymru’n gwneud unrhyw benderfyniad mewn perthynas â thrwydded o dan y rheoliad hwn, a’r penderfyniad hwnnw’n ysgogi hawl i apelio o dan reoliad 10, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)hysbysu’r person am y penderfyniad mewn ysgrifen;
(b)rhoi’r rhesymau; ac
(c)esbonio bod yna hawl i apelio i berson a benodir gan Weinidogion Cymru.
10.—(1) Caniateir i berson apelio yn erbyn—
(a)penderfyniad gan Weinidogion Cymru i wrthod cais gan y person hwnnw am drwydded o dan reoliad 8 neu 9;
(b)teler neu amod a osodwyd gan Weinidogion Cymru mewn trwydded a ganiatawyd i’r person hwnnw o dan reoliad 8 neu 9; neu
(c)penderfyniad gan Weinidogion Cymru i atal dros dro neu ddirymu trwydded o dan reoliad 8 neu 9.
(2) Rhaid i’r apêl gael ei gwneud i berson a benodir at y diben gan Weinidogion Cymru.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru hefyd gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r person a benodir ynglŷn â’r penderfyniad.
(4) Rhaid i’r person a benodir ystyried yr apêl ac unrhyw sylwadau a gyflwynir gan Weinidogion Cymru, a rhaid iddo gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru gyda’i gasgliadau ar yr apêl ac argymhelliad ar sut y dylai’r mater gael ei benderfynu’n derfynol gan Weinidogion Cymru.
(5) Wedyn rhaid i Weinidogion Cymru gyrraedd penderfyniad terfynol, a hysbysu’r person a wnaeth yr apêl am y penderfyniad hwnnw a’r rhesymau drosto.
11.—(1) Rhaid i weithredwr lladd-dy cymeradwy gadw cofnod o’r manylion a bennir yn Atodlen 3 ynglŷn â phob carcas buchol a ddosberthir yn y lladd-dy hwnnw.
(2) Rhaid i’r gweithredwr ddal gafael ar bob cofnod am gyfnod o 12 mis o ddiwedd y flwyddyn galendr y mae’r cofnod yn berthynol iddi.
12.—(1) Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i weithredwr lladd-dy cymeradwy lle y mae llai na 500 o foch glân yn cael eu cigydda bob wythnos, ar gyfartaledd dros flwyddyn.
(2) Nid oes dim ym mharagraff (1) sy’n rhwystro’r Rheoliadau hyn rhag cael eu cymhwyso at weithredwr mewn perthynas â charcasau buchol, os oes anifeiliaid buchol llawn-dwf hefyd yn cael eu cigydda yn lladd-dy’r gweithredwr hwnnw.
13.—(1) Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cymwys at ddibenion y canlynol—
(a)Erthygl 7(4) o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (dosbarthu a phwyso);
(b)Erthygl 12(2)(b) o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (darpariaethau ychwanegol ar ddosbarthu drwy dechnegau graddio awtomataidd);
(c)Erthyglau 13 a 14 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn ac Erthygl 14 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (hysbysu prisiau’r farchnad a chyfrifo pris cyfartalog pob dosbarth);
(d)Erthygl 17(2) o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (darpariaethau atodol ar hysbysu prisiau marchnad carcasau);
(e)Erthygl 4(1) o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (gwneud a chadw adroddiadau ar gyfer gwiriadau yn y fan a’r lle).
(2) Gweinidogion Cymru sy’n gyfrifol am y canlynol—
(a)Erthygl 11 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (awdurdodi dulliau graddio awtomataidd);
(b)Erthygl 25 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (hysbysu’r Comisiwn);
(c)gwiriadau yn y fan a’r lle, yn unol â’r disgrifiad o “on-the-spot checks” yn Erthyglau 2 a 3 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn.
14.—(1) Rhaid ymgymryd â dosbarthu carcasau moch mewn lladd-dy cymeradwy—
(a)drwy ddefnyddio dull graddio awdurdodedig y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 11 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn; a
(b)drwy ddefnyddio technegau graddio y darperir ar eu cyfer yn Erthygl 11 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn a’r rheiny’n cael eu gweithredu gan bersonél cymwys.
(2) Yn y rheoliad hwn, mae “personél cymwys” yn cyfeirio at unrhyw berson sy’n hyfedr wrth ddefnyddio’r offer a’r technegau graddio sy’n cael eu gweithredu gan y person hwnnw.
15. Caiff gweithredwr neu’r person sy’n gyfrifol am ddosbarthu moch, yn hytrach na marcio carcas yn unol â’r darpariaethau moch Ewropeaidd a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 2, lunio cofnod ar gyfer y carcas hwnnw sy’n cynnwys o leiaf—
(a)modd i adnabod y carcas yn unigol drwy unrhyw ddull nad oes modd ei newid;
(b)pwysau cynnes y carcas; ac
(c)canlyniad y dosbarthiad.
16.—(1) Rhaid i weithredwr lladd-dy cymeradwy gadw cofnod o’r manylion a bennir yn Atodlen 4 ynglŷn â phob carcas mochyn a ddosberthir yn y lladd-dy hwnnw.
(2) Rhaid i’r gweithredwr ddal gafael ar bob cofnod am gyfnod o 12 mis o ddiwedd y flwyddyn galendr y mae’r cofnod yn berthynol iddi.
17.—(1) Rhaid i unrhyw hysbysiad y mae’n ofynnol ei roi, neu yr awdurdodir ei roi, i unrhyw berson o dan y Rheoliadau hyn fod mewn ysgrifen.
(2) Caniateir i unrhyw hysbysiad o’r fath gael ei roi—
(a)drwy ei drosglwyddo i’r person;
(b)drwy ei adael yng nghyfeiriad priodol y person; neu
(c)drwy ei anfon drwy’r post at y person yn y cyfeiriad hwnnw.
(3) Pan fo unrhyw hysbysiad o’r fath i gael ei roi i gorff corfforaethol, caniateir iddo gael ei roi i un o swyddogion y corff.
(4) At ddiben y rheoliad hwn, cyfeiriad priodol unrhyw berson y mae hysbysiad i gael ei roi iddo yw cyfeiriad hysbys olaf y person hwnnw, ac eithrio mai’r cyfeiriad priodol, yn achos corff corfforaethol neu un o swyddogion y corff, yw cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff hwnnw.
(5) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o’r corff corfforaethol; ac
ystyr “swyddog” (“officer”), mewn perthynas â chorff corfforaethol, yw unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i’r corff corfforaethol.
18.—(1) Caiff swyddog awdurdodedig, ar unrhyw adeg resymol ac, os gofynnir iddo, ar ôl dangos awdurdodiad a ddilyswyd yn briodol, fynd i mewn i ladd-dy cymeradwy ac unrhyw fangre gysylltiedig, lle y gall carcasau fod yn cael eu trin, neu lle y gall cofnodion ynglŷn â’r carcasau hynny fod yn cael eu cadw, er mwyn canfod—
(a)a oes unrhyw drosedd o dan y Rheoliadau hyn yn cael, neu wedi cael, ei chyflawni yn y fangre; neu
(b)a oes unrhyw dystiolaeth yn y fangre o unrhyw drosedd o’r fath.
(2) Caiff y swyddog fynd ag unrhyw bersonau eraill y mae’n credu eu bod yn angenrheidiol gydag ef.
(3) Caiff ynad heddwch, drwy warant wedi ei llofnodi, ganiatáu i swyddog awdurdodedig fynd i mewn i unrhyw fangre, drwy rym rhesymol os bydd angen hynny, os yw wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig a roddir ar lw—
(a)bod sail resymol dros fynd i mewn i’r fangre at unrhyw ddiben ym mharagraff (1); a
(b)bod unrhyw un neu ragor o’r amodau a ganlyn wedi eu bodloni—
(i)bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu y rhagwelir y caiff ei wrthod, ac (yn y naill achos neu’r llall) fod hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i’r gweithredwr;
(ii)y byddai gwneud cais am fynediad, neu roi hysbysiad o’r fath, yn tanseilio’r diben o fynd i mewn;
(iii)bod yr achos yn achos brys; neu
(iv)bod y fangre’n wag neu fod y gweithredwr yn absennol dros dro,
(4) Mae gwarant a ganiateir o dan y rheoliad hwn yn parhau mewn grym am dri mis.
(5) Rhaid i swyddog sy’n mynd i mewn i unrhyw fangre wag, neu fangre sydd â’i gweithredwr yn absennol dros dro, adael y fangre wedi ei diogelu mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd cyn i’r swyddog fynd i mewn.
19. Caiff swyddog awdurdodedig sy’n mynd i mewn i fangre o dan y Rheoliadau hyn—
(a)arolygu unrhyw garcas buchol neu garcas mochyn neu ran o garcas o’r fath, neu unrhyw garcas neu ran o garcas y mae’r swyddog yn amau’n rhesymol ei fod yn garcas buchol neu garcas mochyn neu ran o garcas o’r fath;
(b)archwilio unrhyw gofnod y mae’n ofynnol i weithredwr ei gadw o dan reoliad 11 neu 16 neu o dan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn neu Reoliad Gweithredu’r Comisiwn, a phan ddefnyddir cyfrifiadur i gadw’r cofnod hwnnw, cael mynediad i unrhyw gyfrifiadur a chyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig, a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â’r cofnod hwnnw, ac arolygu a gwirio gweithrediad y cyfryw gyfrifiadur a chyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig;
(c)ei gwneud yn ofynnol i gopïau neu ddarnau o unrhyw gofnod o’r fath gael eu dangos a, pan ddefnyddir cyfrifiadur i gadw’r cofnod hwnnw, ei gwneud yn ofynnol i’r cofnod gael ei ddangos ar ffurf a fydd yn caniatáu iddo gael ei gludo ymaith; a
(d)dal gafael ar unrhyw gofnod o’r fath y mae gan y swyddog reswm dros gredu y gall fod yn angenrheidiol fel tystiolaeth mewn achos o dan y Rheoliadau hyn.
20.—(1) Os oes gan Weinidogion Cymru reswm dros gredu bod person wedi cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau hyn, caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad gorfodi i’r person hwnnw yn unol â pharagraff (2).
(2) Rhaid i hysbysiad gorfodi—
(a)datgan ar ba sail y mae Gweinidogion Cymru’n credu bod trosedd wedi ei chyflawni;
(b)pennu’r mater sy’n cyfansoddi’r drosedd;
(c)pennu’r hyn y mae’n rhaid i’r person hwnnw beidio â’i wneud, neu’r mesurau y mae’n rhaid, ym marn Gweinidogion Cymru, i’r person hwnnw eu cymryd er mwyn cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn;
(d)ei gwneud yn ofynnol i’r person beidio â chyflawni’r weithred a bennir yn yr hysbysiad, neu gymryd y mesurau a bennir yn yr hysbysiad, neu fesurau sydd o leiaf yn gyfwerth â’r rheiny, o fewn y cyfnod (nad yw’n llai na 14 diwrnod) a bennir yn yr hysbysiad;
(e)hysbysu’r person am yr hawl i apelio a roddir gan reoliad 21; ac
(f)hysbysu’r person o fewn pa gyfnod y caniateir i apêl o’r fath gael ei gwneud.
(3) Mae unrhyw berson sy’n torri hysbysiad gorfodi neu’n methu â chydymffurfio ag ef yn euog o drosedd.
21.—(1) Caiff person apelio i lys ynadon yn erbyn hysbysiad gorfodi os oes gan y person hwnnw reswm dros gredu na ddylai’r hysbysiad fod wedi ei roi.
(2) Caiff person apelio o fewn y cyfnod o un mis sy’n cychwyn gyda’r dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad.
(3) Y weithdrefn a ddilynir yw gwneud cwyn am orchymyn; a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980(8) yn gymwys i’r achos.
(4) Ar apêl, caiff y llys naill ai ddiddymu’r hysbysiad neu ei gadarnhau, ac os bydd yn ei gadarnhau caiff wneud hynny naill ai yn ei ffurf wreiddiol neu gyda pha addasiadau bynnag y mae’r llys yn meddwl eu bod yn briodol.
22.—(1) Os oes gan Weinidogion Cymru reswm dros gredu bod person wedi cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau hyn, caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad (“hysbysiad cosb”) i’r person hwnnw yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Caiff hysbysiad cosb fod am unrhyw swm.
(3) Rhaid i hysbysiad cosb—
(a)rhoi unrhyw fanylion am amgylchiadau’r drosedd honedig sy’n angenrheidiol i roi gwybodaeth resymol am y drosedd;
(b)datgan swm y gosb;
(c)datgan yn ystod pa gyfnod, yn rhinwedd rheoliad 23, na chychwynnir achos ynglŷn â’r drosedd;
(d)datgan i ba berson ac ym mha gyfeiriad y gellir talu’r gosb; ac
(e)datgan ym mha fodd y caniateir i’r taliad gael ei wneud.
23.—(1) Pan fo hysbysiad cosb wedi ei roi i berson—
(a)ni chaniateir dwyn achos yn erbyn y person hwnnw am y drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi cyn diwedd y cyfnod o 28 diwrnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad; a
(b)ni chaniateir euogfarnu’r person hwnnw am y drosedd os telir y gosb yn unol â rheoliad 24 cyn diwedd y cyfnod hwnnw.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys os tynnir yr hysbysiad cosb yn ôl yn unol â rheoliad 25.
24.—(1) Rhaid talu unrhyw gosb i Weinidogion Cymru drwy ei hanfon drwy’r post neu drwy unrhyw ddull a bennir yn yr hysbysiad cosb.
(2) Mewn unrhyw achos, bydd tystysgrif yr honnir ei bod wedi ei llofnodi gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan yn datgan bod taliad o gosb wedi ei gael neu heb ei gael erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatgenir.
25.—(1) Caniateir i hysbysiad cosb gael ei dynnu’n ôl os oes gan Weinidogion Cymru reswm dros gredu na ddylai fod wedi ei roi (pa un ai i’r person a enwyd yn yr hysbysiad cosb, neu fel arall).
(2) Caniateir i hysbysiad cosb gael ei dynnu’n ôl gan Weinidogion Cymru drwy roi hysbysiad i’r person a enwyd yn yr hysbysiad cosb cyn i’r gosb gael ei thalu neu ar ôl i’r gosb gael ei thalu.
(3) Pan dynnir hysbysiad cosb yn ôl, rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu unrhyw gosb a dalwyd o dan yr hysbysiad cosb i’r person a enwyd yn yr hysbysiad cosb o fewn 28 diwrnod, gan gychwyn gyda’r dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad bod yr hysbysiad cosb wedi ei dynnu’n ôl.
26. Mae unrhyw berson sydd—
(a)yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad o dan ddarpariaeth eidion Ewropeaidd; neu
(b)yn torri unrhyw waharddiad a gynhwysir mewn darpariaeth eidion Ewropeaidd,
yn euog o drosedd.
27.—(1) Mae unrhyw berson sydd—
(a)yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad o dan ddarpariaeth moch Ewropeaidd; neu
(b)yn torri unrhyw waharddiad a gynhwysir mewn darpariaeth moch Ewropeaidd,
yn euog o drosedd.
(2) Ond pan fydd gweithredwr neu’r person sy’n gyfrifol am ddosbarthu carcasau moch yn llunio cofnod gan gydymffurfio â’r amodau y cyfeirir atynt yn rheoliad 15 (cofnodion yn lle marcio) ni chyflawnir trosedd drwy fethu â chydymffurfio â darpariaeth moch Ewropeaidd Rhan 2 neu drwy ei thorri.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr, “darpariaeth moch Ewropeaidd Rhan 2” yw darpariaeth a bennir yng ngholofn (2) o Ran 2 o Atodlen 2.
28. Mae unrhyw berson sy’n methu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o ofynion rheoliad 5 (hysbysiadau gan weithredwyr) yn euog o drosedd.
29.—(1) Os ymgymerir â dosbarthu carcas buchol mewn lladd-dy cymeradwy—
(a)heb drwydded a ganiatawyd o dan reoliad 8, neu
(b)gan dorri unrhyw un neu ragor o amodau neu delerau trwydded o’r fath,
mae’r person sy’n ymgymryd â’r dosbarthu a gweithredwr y lladd-dy hwnnw ill dau’n euog o drosedd.
(2) Os ymgymerir â dosbarthu carcas buchol mewn lladd-dy cymeradwy drwy ddefnyddio offer graddio awtomataidd—
(a)heb drwydded a ganiatawyd o dan reoliad 9 i ddefnyddio’r offer hwnnw yn y lladd-dy hwnnw, neu
(b)gan dorri unrhyw un neu ragor o amodau neu delerau trwydded o’r fath,
mae’r person sy’n ymgymryd â’r dosbarthu hwnnw a gweithredwr y lladd-dy hwnnw ill dau’n euog o drosedd.
(3) Mae unrhyw berson sy’n gwneud newid mewn trwydded a ganiatawyd o dan reoliad 8 neu 9 yn euog o drosedd.
30. Os ymgymerir â dosbarthu carcas mochyn mewn lladd-dy cymeradwy drwy ddefnyddio dull graddio neu dechneg graddio mewn modd nad yw’n cydymffurfio â gofynion rheoliad 14, mae’r person sy’n ymgymryd â’r dosbarthu a gweithredwr y lladd-dy hwnnw ill dau’n euog o drosedd.
31.—(1) Mae unrhyw berson sy’n methu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o ofynion rheoliad 11 (cofnodion: carcasau buchol) neu reoliad 16 (cofnodion: carcasau moch) yn euog o drosedd.
(2) Mae unrhyw berson sy’n marcio carcas buchol neu ran o garcas o’r fath—
(a)fel y rhagnodir gan Erthygl 8(1), (2)(a), (3)(a) (o’u darllen gydag ail baragraff Erthygl 8(3)), (4) a (5) o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn, neu
(b)mewn modd sy’n debyg iawn i’r marc a ragnodir yn y darpariaethau hynny,
sy’n debygol o gamarwain, yn euog o drosedd.
(3) Mae unrhyw berson sy’n marcio carcas mochyn neu ran o garcas o’r fath—
(a)fel y rhagnodir gan Erthygl 8(1), (2)(b), (3)(c) (o’u darllen gydag ail baragraff Erthygl 8(3)), (4) a (5) o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn, neu
(b)mewn modd sy’n debyg iawn i’r marc a ragnodir yn y darpariaethau hynny,
sy’n debygol o gamarwain, yn euog o drosedd.
32. Mae unrhyw berson—
(a)sydd heb esgus rhesymol, yn rhwystro unrhyw berson sy’n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn,
(b)sydd heb achos rhesymol, yn methu â rhoi i unrhyw berson sy’n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae’r person hwnnw yn rhesymol yn ei gwneud yn ofynnol er mwyn cyflawni swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn,
(c)sy’n rhoi i unrhyw berson sy’n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn unrhyw wybodaeth gan wybod ei bod yn ffug neu’n gamarweiniol, neu
(d)sy’n methu â dangos unrhyw ddogfen neu gofnod pan fo unrhyw berson sy’n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny,
yn euog o drosedd.
33.—(1) Caniateir i achos am drosedd o dan reoliadau 20(3), 26, 27, 28, 29, 30, 31(1) neu 32 gael ei ddwyn o fewn cyfnod o 12 mis o’r dyddiad y daeth yr erlynydd i wybod gyntaf am dystiolaeth ddigonol, ym marn yr erlynydd, i gyfiawnhau achos.
(2) Ond ni chaniateir i achos o’r fath gael ei ddwyn ymhen mwy na 18 mis ers i’r drosedd gael ei chyflawni.
(3) At ddibenion paragraff (1)—
(a)mae tystysgrif a lofnodwyd gan yr erlynydd neu ar ei ran ac sy’n datgan y dyddiad y daeth yr erlynydd i wybod gyntaf am dystiolaeth ddigonol i gyfiawnhau’r achos yn dystiolaeth derfynol o’r ffaith honno;
(b)bernir bod tystysgrif sy’n datgan y mater ac sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi felly wedi ei llofnodi felly, oni phrofir i’r gwrthwyneb.
34.—(1) Os profir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi ei chyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad swyddog, neu i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog, mae’r swyddog hwnnw yn ogystal â’r corff corfforaethol yn euog o’r drosedd ac yn agored i’w erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(2) Pan fo materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd ac anweithredoedd aelod, mewn cysylltiad â swyddogaethau’r aelod hwnnw o reoli, fel pe bai’r aelod hwnnw’n gyfarwyddwr i’r corff.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “swyddog” mewn perthynas â chorff corfforaethol yw cyfarwyddwr, aelod o’r pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i’r corff, neu berson sy’n honni gweithredu mewn unrhyw swydd o’r fath.
35. Mae’n amddiffyniad os gall person a gyhuddir o drosedd o dan y Rheoliadau hyn (“P”), brofi bod P wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni’r drosedd gan P neu gan berson o dan reolaeth P.
36.—(1) Mae person sy’n euog o drosedd o dan y canlynol—
(a)rheoliad 20(3) (hysbysiadau gorfodi),
(b)rheoliad 26 (darpariaethau eidion Ewropeaidd),
(c)rheoliad 27 (darpariaethau moch Ewropeaidd),
(d)rheoliad 28 (hysbysiadau gan weithredwyr),
(e)rheoliad 29 (trwyddedau (carcasau buchol)),
(f)rheoliad 30 (dulliau graddio awdurdodedig: (carcasau moch)),
(g)rheoliad 31(1) (cofnodion), neu
(h)rheoliad 32 (rhwystro etc.),
yn agored, o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy.
(2) Mae person sy’n euog o drosedd o dan reoliad 31(2) neu (3) (marciau camarweiniol etc.) yn agored—
(a)o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy; neu
(b)o’i euogfarnu ar dditiad, i ddirwy.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
22 Tachwedd 2018
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: