Search Legislation

Rheoliadau Dosbarthu Carcasau a Hysbysu eu Prisiau (Cymru) 2018

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Cyhoeddwyd yr Offeryn statudol hwn yn lle’r OS sy’n dwyn yr un rhif ac fe’I dyroddir yn rhad ac am ddim I bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 1215 (Cy. 248)

Amaethyddiaeth, Cymru

Rheoliadau Dosbarthu Carcasau a Hysbysu eu Prisiau (Cymru) 2018

Gwnaed

22 Tachwedd 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

23 Tachwedd 2018

Yn dod i rym

14 Rhagfyr 2018

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi(1).

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(2) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn yr adran honno ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus dehongli cyfeiriadau at y Rheoliadau a ganlyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd—

Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu cyd-drefniadaeth ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol(3);

(a)

Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu cyd-drefniadaeth ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol(3);

(b)

Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 2017/1182 sy’n cydategu Rheoliad (EU) Rhif 1308/213 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran graddfeydd yr Undeb ar gyfer dosbarthu carcasau eidion, moch a defaid ac o ran hysbysu prisiau marchnad categorïau penodol o garcasau ac anifeiliaid byw(4); ac

(c)

Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 2017/1184 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran graddfeydd yr Undeb ar gyfer dosbarthu carcasau eidion, moch a defaid ac o ran hysbysu prisiau marchnad categorïau penodol o garcasau ac anifeiliaid byw(5).

RHAN 1DARPARIAETHAU CYFFREDINOL

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dosbarthu Carcasau a Hysbysu eu Prisiau (Cymru) 2018.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Rhagfyr 2018.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “anifail buchol llawn-dwf” (“adult bovine animal”) yw anifail buchol sy’n wyth mis oed neu ragor;

ystyr “carcas buchol” (“bovine carcase”) yw carcas neu hanner carcas anifail buchol llawn-dwf a gigyddwyd ac sy’n dwyn marc iechyd y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 5(2) o Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor a Phennod III o Adran 1 o Atodiad 1 iddo, sy’n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy’n tarddu o anifeiliaid ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl(6); ac yn y diffiniad hwn—

(a)

ystyr “carcas” yw holl gorff anifail a gigyddwyd fel y’i cyflwynir ar ôl ei waedu, ei ddiberfeddu a thynnu ei groen, a

(b)

ystyr “hanner carcas” yw’r cynnyrch a geir drwy wahanu’r carcas yn gymesur drwy ganol pob fertebra gyddfol, dorsal, meingefnol a sacrol a thrwy ganol y sternwm a’r symffysis isgiopwbig;

ystyr “carcas mochyn” (“pig carcase”) yw corff mochyn glân sydd wedi ei gigydda, wedi ei waedu ac wedi ei ddiberfeddu, yn gyfan ynteu wedi ei rannu ar hyd y llinell ganol;

ystyr “cyfathrebiad rhagnodedig” (“prescribed communication”) yw cyfathrebiad o’r canlyniadau dosbarthu yn unol â gofynion Erthygl 1 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn;

ystyr “darpariaeth eidion Ewropeaidd” (“European beef provision”) yw darpariaeth a bennir yng ngholofn (2) o Atodlen 1, y disgrifir ei chynnwys yng ngholofn (3) o’r Atodlen honno;

ystyr “darpariaeth moch Ewropeaidd” (“European pig provision”) yw darpariaeth a bennir yng ngholofn (2) o Atodlen 2, y disgrifir ei chynnwys yng ngholofn (3) o’r Atodlen honno;

ystyr “dosbarthu” (“classification”) yw—

(a)

dosbarthu carcasau buchol yn unol â’r darpariaethau eidion Ewropeaidd, neu

(b)

dosbarthu carcasau moch yn unol â’r darpariaethau moch Ewropeaidd a rheoliad 14,

yn ôl y digwydd, ac mae termau cytras i’w dehongli yn unol â hynny;

ystyr “gweithredwr” (“operator”) yw person sy’n cynnal busnes lladd-dy cymeradwy;

ystyr “lladd-dy cymeradwy” (“approved slaughterhouse”) yw sefydliad a ddefnyddir i gigydda anifeiliaid buchol llawn-dwf neu foch, y mae eu cig wedi ei fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl ac sydd wedi ei gymeradwyo neu wedi ei gymeradwyo’n amodol o dan Erthygl 4 o Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy’n tarddu o anifeiliaid(7);

ystyr “mochyn glân” (“clean pig”) yw mochyn sydd heb ei ddefnyddio ar gyfer bridio;

ystyr “Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn” (“Commission Delegated Regulation”) yw Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 2017/1182 sy’n cydategu Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran graddfeydd yr Undeb ar gyfer dosbarthu carcasau eidion, moch a defaid ac o ran hysbysu prisiau marchnad categorïau penodol o garcasau ac anifeiliaid byw(8);

ystyr “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu cyd-drefniadaeth ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol;(9)

ystyr “Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn” (“Commission Implementing Regulation”) yw Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 2017/1184 sy’n gosod rheolau ar gymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran graddfeydd yr Undeb ar gyfer dosbarthu carcasau eidion, moch a defaid ac o ran hysbysu prisiau marchnad categorïau penodol o garcasau ac anifeiliaid byw(10);

ystyr “Rheoliadau 2011” (“the 2011 Regulations”) yw Rheoliadau Dosbarthu Carcasau Eidion a Moch (Cymru) 2011(11);

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw person a awdurdodir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliadau hyn, ond nid yw’n cynnwys person a benodir er mwyn ystyried apêl o dan reoliad 10.

(2Mae i’r termau eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir y termau Saesneg sy’n cyfateb iddynt yn Rheoliad (EU) 2013, Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn neu Reoliad Gweithredu’r Comisiwn, yr ystyron a ddygir gan y termau cyfatebol Saesneg yn y Rheoliadau hynny.

(3Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at—

(a)Rheoliad (EU) 2013,

(b)Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn, neu

(c)Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn,

i’w ddehongli fel cyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Darpariaethau trosiannol

3.  Mae unrhyw hysbysiad, trwydded, cymeradwyaeth neu awdurdodiad a roddwyd neu a ganiatawyd o dan Reoliadau 2011 ac sy’n effeithiol pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym yn aros mewn grym fel pe baent wedi eu rhoi neu wedi eu caniatáu o dan y Rheoliadau hyn.

Dirymu

4.  Mae’r canlynol wedi eu dirymu—

(a)Rheoliadau 2011; a

(b)rheoliad 2 o Reoliadau’r Trefniant Cyffredin Sengl ar gyfer Marchnadoedd (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2013(12).

RHAN 2HYSBYSU GAN WEITHREDWYR

Hysbysu gan weithredwyr

5.—(1Rhaid i bob person—

(a)sy’n weithredwr ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym, neu

(b)sy’n dod yn weithredwr ar ddyddiad dilynol,

roi hysbysiad i Weinidogion Cymru o’r manylion a bennir ym mharagraff (3) o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym neu o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad y daw’r person hwnnw’n weithredwr, yn ôl y digwydd.

(2Bernir bod person—

(a)sydd wedi rhoi hysbysiad, neu y barnwyd ei fod wedi rhoi hysbysiad, o dan reoliad 5(1) neu (2) o Reoliadau 2011, a

(b)y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo yn rhinwedd rheoliad 6 neu 12,

wedi rhoi hysbysiad o dan baragraff (1).

(3Dyma’r manylion ym mharagraff (1)—

(a)enw a chyfeiriad llawn y gweithredwr;

(b)pan fo’r gweithredwr yn bartneriaeth neu’n gydberchnogion, enwau a chyfeiriadau llawn pob un o’r partneriaid neu’r cydberchnogion;

(c)pan fo’r gweithredwr yn gorff corfforaethol, enw llawn, cyfeiriad swyddfa gofrestredig a rhif cofrestru’r corff; a

(d)cyfeiriad, rhif teleffon a rhif cymeradwyo’r lladd-dy.

(4Pan fo unrhyw newid yn digwydd mewn unrhyw un neu ragor o’r manylion a bennir ym mharagraff (3), rhaid i’r gweithredwr, o fewn 28 diwrnod i ddyddiad y newid, roi hysbysiad o fanylion y newid i Weinidogion Cymru.

(5Pan fo gweithredwr (“G”) yn peidio â bod yn weithredwr lladd-dy cymeradwy, rhaid i G, o fewn 10 niwrnod i’r dyddiad y peidiodd â bod yn weithredwr o’r fath, roi hysbysiad i Weinidogion Cymru o’r canlynol—

(a)y dyddiad y peidiodd â bod yn weithredwr o’r fath; a

(b)y person (os oes un) sy’n olynu G fel gweithredwr y lladd-dy hwnnw.

(6Pan fo lladd-dy cymeradwy’n peidio â bod yn lladd-dy o’r fath, rhaid i weithredwr y lladd-dy, o fewn 10 niwrnod i’r dyddiad y peidiodd â bod yn lladd-dy o’r fath, roi hysbysiad i Weinidogion Cymru o’r dyddiad y peidiodd â bod yn lladd-dy o’r fath.

RHAN 3CARCASAU BUCHOL

Cymhwyso’r Rheoliadau hyn at weithredwyr buchol ar raddfa fach

6.—(1Nid yw’n ofynnol i weithredwr buchol ar raddfa fach ddosbarthu carcasau buchol.

(2Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i weithredwr buchol ar raddfa fach nad yw’n dosbarthu carcasau buchol.

(3Ond, os bydd gweithredwr buchol ar raddfa fach yn dewis dosbarthu carcasau buchol, mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â’r gweithredwr hwnnw ac mewn perthynas â dosbarthu’r carcasau hynny.

(4Yn y rheoliad hwn, ystyr “gweithredwr buchol ar raddfa fach” yw gweithredwr lladd-dy cymeradwy lle y mae llai na 150 o anifeiliaid buchol llawn-dwf yn cael eu cigydda bob wythnos, ar gyfartaledd dros flwyddyn.

(5Ni fernir bod unrhyw weithredwr buchol ar raddfa fach yr oedd yn ofynnol iddo, nes i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, ddosbarthu carcasau buchol o dan Reoliadau 2011 wedi dewis gwneud hynny at ddibenion paragraff (3) am y rheswm hwnnw yn unig.

(6Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy’n rhwystro’r Rheoliadau hyn rhag cael eu cymhwyso at weithredwr mewn perthynas â charcasau moch, os oes moch hefyd yn cael eu cigydda yn lladd-dy’r gweithredwr hwnnw.

Awdurdodau cymwys: carcasau buchol

7.—(1Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cymwys at ddibenion—

(a)Erthygl 12(2)(b) o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (darpariaethau ychwanegol ar ddosbarthu drwy dechnegau graddio awtomataidd);

(b)Erthyglau 13 a 14 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn ac Erthygl 14 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (hysbysu prisiau’r farchnad a chyfrifo pris cyfartalog pob dosbarth);

(c)Erthygl 17(2) o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (darpariaethau atodol ar hysbysu prisiau marchnad carcasau);

(d)Erthygl 4(1) o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (gwneud a chadw adroddiadau ar gyfer gwiriadau yn y fan a’r lle).

(2Gweinidogion Cymru sy’n gyfrifol am y canlynol—

(a)Erthygl 10 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (awdurdodi dulliau graddio awtomataidd);

(b)Erthygl 25 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (hysbysu’r Comisiwn);

(c)gwiriadau yn y fan a’r lle, yn unol â’r disgrifiad o “on-the-spot checks” yn Erthyglau 2 a 3 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn.

Trwydded i ymgymryd â dosbarthu

8.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu trwydded i ymgymryd â dosbarthu carcasau buchol drwy edrych arnynt i unrhyw berson sy’n gwneud cais am drwydded o’r fath ac sy’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei fod yn gymwys i ymgymryd â’r dosbarthu, os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y ceisydd yn berson addas a phriodol i ymgymryd â dosbarthu carcasau buchol.

(2Caniateir i’r drwydded gael ei rhoi yn ddarostyngedig i unrhyw delerau ac amodau y mae Gweinidogion Cymru’n ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddibenion paragraff (1).

(3Yn ychwanegol at y pŵer i ddirymu trwydded yn yr amgylchiadau a grybwyllir yn Erthygl 4(2) o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (dosbarthiadau, cyflwyniadau neu adnabyddiadau anghywir), caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro neu ddirymu trwydded a ganiatawyd i berson o dan y rheoliad hwn—

(a)os yw’r person wedi torri unrhyw un neu ragor o delerau neu amodau’r drwydded honno; neu

(b)os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni nad yw’r person sy’n dal y drwydded honno yn berson addas a phriodol mwyach i ymgymryd â dosbarthu carcasau buchol.

(4Pan fo Gweinidogion Cymru’n gwneud unrhyw benderfyniad mewn perthynas â thrwydded o dan y rheoliad hwn, a’r penderfyniad hwnnw’n ysgogi hawl i apelio o dan reoliad 10, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)hysbysu’r person am y penderfyniad mewn ysgrifen;

(b)rhoi’r rhesymau; ac

(c)esbonio bod yna hawl i apelio i berson a benodir gan Weinidogion Cymru.

Trwydded ar gyfer graddio awtomataidd

9.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu trwydded i weithredwr lladd-dy cymeradwy i awdurdodi defnyddio offer graddio awtomataidd i ddosbarthu carcasau buchol yn y lladd-dy hwnnw, os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y byddai’r offer a’i ddull gweithredu yn bodloni’r safonau sy’n ofynnol gan Erthyglau 9(b) a 10(2) (o’u darllen gyda Rhan A o Atodiad IV) o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn.

(2Caniateir i’r drwydded gael ei rhoi yn ddarostyngedig i unrhyw delerau ac amodau y mae eu hangen er mwyn sicrhau y cydymffurfir â’r safonau hynny.

(3Yn ychwanegol at y pŵer i ddirymu trwydded yn yr amgylchiadau a grybwyllir yn Erthygl 4(2) o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn, caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro neu ddirymu trwydded a ganiatawyd i weithredwr o dan y rheoliad hwn—

(a)os yw’r gweithredwr wedi torri unrhyw un neu ragor o delerau neu amodau’r drwydded; neu

(b)os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw’r offer graddio awtomataidd mwyach yn bodloni’r safonau sy’n ofynnol gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn, pa un ai am resymau sy’n gysylltiedig â’r offer ei hun neu’r modd y defnyddir yr offer gan y gweithredwr.

(4Pan fo Gweinidogion Cymru’n gwneud unrhyw benderfyniad mewn perthynas â thrwydded o dan y rheoliad hwn, a’r penderfyniad hwnnw’n ysgogi hawl i apelio o dan reoliad 10, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)hysbysu’r person am y penderfyniad mewn ysgrifen;

(b)rhoi’r rhesymau; ac

(c)esbonio bod yna hawl i apelio i berson a benodir gan Weinidogion Cymru.

Apelau ynghylch trwyddedau

10.—(1Caniateir i berson apelio yn erbyn—

(a)penderfyniad gan Weinidogion Cymru i wrthod cais gan y person hwnnw am drwydded o dan reoliad 8 neu 9;

(b)teler neu amod a osodwyd gan Weinidogion Cymru mewn trwydded a ganiatawyd i’r person hwnnw o dan reoliad 8 neu 9; neu

(c)penderfyniad gan Weinidogion Cymru i atal dros dro neu ddirymu trwydded o dan reoliad 8 neu 9.

(2Rhaid i’r apêl gael ei gwneud i berson a benodir at y diben gan Weinidogion Cymru.

(3Caiff Gweinidogion Cymru hefyd gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r person a benodir ynglŷn â’r penderfyniad.

(4Rhaid i’r person a benodir ystyried yr apêl ac unrhyw sylwadau a gyflwynir gan Weinidogion Cymru, a rhaid iddo gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru gyda’i gasgliadau ar yr apêl ac argymhelliad ar sut y dylai’r mater gael ei benderfynu’n derfynol gan Weinidogion Cymru.

(5Wedyn rhaid i Weinidogion Cymru gyrraedd penderfyniad terfynol, a hysbysu’r person a wnaeth yr apêl am y penderfyniad hwnnw a’r rhesymau drosto.

Cofnodion: carcasau buchol

11.—(1Rhaid i weithredwr lladd-dy cymeradwy gadw cofnod o’r manylion a bennir yn Atodlen 3 ynglŷn â phob carcas buchol a ddosberthir yn y lladd-dy hwnnw.

(2Rhaid i’r gweithredwr ddal gafael ar bob cofnod am gyfnod o 12 mis o ddiwedd y flwyddyn galendr y mae’r cofnod yn berthynol iddi.

RHAN 4CARCASAU MOCH

Esemptiad i weithredwyr moch ar raddfa fach

12.—(1Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i weithredwr lladd-dy cymeradwy lle y mae llai na 500 o foch glân yn cael eu cigydda bob wythnos, ar gyfartaledd dros flwyddyn.

(2Nid oes dim ym mharagraff (1) sy’n rhwystro’r Rheoliadau hyn rhag cael eu cymhwyso at weithredwr mewn perthynas â charcasau buchol, os oes anifeiliaid buchol llawn-dwf hefyd yn cael eu cigydda yn lladd-dy’r gweithredwr hwnnw.

Awdurdod cymwys: carcasau moch

13.—(1Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cymwys at ddibenion y canlynol—

(a)Erthygl 7(4) o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (dosbarthu a phwyso);

(b)Erthygl 12(2)(b) o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (darpariaethau ychwanegol ar ddosbarthu drwy dechnegau graddio awtomataidd);

(c)Erthyglau 13 a 14 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn ac Erthygl 14 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (hysbysu prisiau’r farchnad a chyfrifo pris cyfartalog pob dosbarth);

(d)Erthygl 17(2) o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (darpariaethau atodol ar hysbysu prisiau marchnad carcasau);

(e)Erthygl 4(1) o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (gwneud a chadw adroddiadau ar gyfer gwiriadau yn y fan a’r lle).

(2Gweinidogion Cymru sy’n gyfrifol am y canlynol—

(a)Erthygl 11 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (awdurdodi dulliau graddio awtomataidd);

(b)Erthygl 25 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (hysbysu’r Comisiwn);

(c)gwiriadau yn y fan a’r lle, yn unol â’r disgrifiad o “on-the-spot checks” yn Erthyglau 2 a 3 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn.

Dulliau graddio awdurdodedig

14.—(1Rhaid ymgymryd â dosbarthu carcasau moch mewn lladd-dy cymeradwy—

(a)drwy ddefnyddio dull graddio awdurdodedig y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 11 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn; a

(b)drwy ddefnyddio technegau graddio y darperir ar eu cyfer yn Erthygl 11 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn a’r rheiny’n cael eu gweithredu gan bersonél cymwys.

(2Yn y rheoliad hwn, mae “personél cymwys” yn cyfeirio at unrhyw berson sy’n hyfedr wrth ddefnyddio’r offer a’r technegau graddio sy’n cael eu gweithredu gan y person hwnnw.

Cofnodion yn lle marcio

15.  Caiff gweithredwr neu’r person sy’n gyfrifol am ddosbarthu moch, yn hytrach na marcio carcas yn unol â’r darpariaethau moch Ewropeaidd a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 2, lunio cofnod ar gyfer y carcas hwnnw sy’n cynnwys o leiaf—

(a)modd i adnabod y carcas yn unigol drwy unrhyw ddull nad oes modd ei newid;

(b)pwysau cynnes y carcas; ac

(c)canlyniad y dosbarthiad.

Cofnodion: carcasau moch

16.—(1Rhaid i weithredwr lladd-dy cymeradwy gadw cofnod o’r manylion a bennir yn Atodlen 4 ynglŷn â phob carcas mochyn a ddosberthir yn y lladd-dy hwnnw.

(2Rhaid i’r gweithredwr ddal gafael ar bob cofnod am gyfnod o 12 mis o ddiwedd y flwyddyn galendr y mae’r cofnod yn berthynol iddi.

RHAN 5GORFODI A THROSEDDAU

Hysbysiadau

17.—(1Rhaid i unrhyw hysbysiad y mae’n ofynnol ei roi, neu yr awdurdodir ei roi, i unrhyw berson o dan y Rheoliadau hyn fod mewn ysgrifen.

(2Caniateir i unrhyw hysbysiad o’r fath gael ei roi—

(a)drwy ei drosglwyddo i’r person;

(b)drwy ei adael yng nghyfeiriad priodol y person; neu

(c)drwy ei anfon drwy’r post at y person yn y cyfeiriad hwnnw.

(3Pan fo unrhyw hysbysiad o’r fath i gael ei roi i gorff corfforaethol, caniateir iddo gael ei roi i un o swyddogion y corff.

(4At ddiben y rheoliad hwn, cyfeiriad priodol unrhyw berson y mae hysbysiad i gael ei roi iddo yw cyfeiriad hysbys olaf y person hwnnw, ac eithrio mai’r cyfeiriad priodol, yn achos corff corfforaethol neu un o swyddogion y corff, yw cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff hwnnw.

(5Yn y rheoliad hwn—

ystyr “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o’r corff corfforaethol; ac

ystyr “swyddog” (“officer”), mewn perthynas â chorff corfforaethol, yw unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i’r corff corfforaethol.

Pwerau mynediad

18.—(1Caiff swyddog awdurdodedig, ar unrhyw adeg resymol ac, os gofynnir iddo, ar ôl dangos awdurdodiad a ddilyswyd yn briodol, fynd i mewn i ladd-dy cymeradwy ac unrhyw fangre gysylltiedig, lle y gall carcasau fod yn cael eu trin, neu lle y gall cofnodion ynglŷn â’r carcasau hynny fod yn cael eu cadw, er mwyn canfod—

(a)a oes unrhyw drosedd o dan y Rheoliadau hyn yn cael, neu wedi cael, ei chyflawni yn y fangre; neu

(b)a oes unrhyw dystiolaeth yn y fangre o unrhyw drosedd o’r fath.

(2Caiff y swyddog fynd ag unrhyw bersonau eraill y mae’n credu eu bod yn angenrheidiol gydag ef.

(3Caiff ynad heddwch, drwy warant wedi ei llofnodi, ganiatáu i swyddog awdurdodedig fynd i mewn i unrhyw fangre, drwy rym rhesymol os bydd angen hynny, os yw wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig a roddir ar lw—

(a)bod sail resymol dros fynd i mewn i’r fangre at unrhyw ddiben ym mharagraff (1); a

(b)bod unrhyw un neu ragor o’r amodau a ganlyn wedi eu bodloni—

(i)bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu y rhagwelir y caiff ei wrthod, ac (yn y naill achos neu’r llall) fod hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i’r gweithredwr;

(ii)y byddai gwneud cais am fynediad, neu roi hysbysiad o’r fath, yn tanseilio’r diben o fynd i mewn;

(iii)bod yr achos yn achos brys; neu

(iv)bod y fangre’n wag neu fod y gweithredwr yn absennol dros dro,

(4Mae gwarant a ganiateir o dan y rheoliad hwn yn parhau mewn grym am dri mis.

(5Rhaid i swyddog sy’n mynd i mewn i unrhyw fangre wag, neu fangre sydd â’i gweithredwr yn absennol dros dro, adael y fangre wedi ei diogelu mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd cyn i’r swyddog fynd i mewn.

Pwerau swyddogion awdurdodedig

19.  Caiff swyddog awdurdodedig sy’n mynd i mewn i fangre o dan y Rheoliadau hyn—

(a)arolygu unrhyw garcas buchol neu garcas mochyn neu ran o garcas o’r fath, neu unrhyw garcas neu ran o garcas y mae’r swyddog yn amau’n rhesymol ei fod yn garcas buchol neu garcas mochyn neu ran o garcas o’r fath;

(b)archwilio unrhyw gofnod y mae’n ofynnol i weithredwr ei gadw o dan reoliad 11 neu 16 neu o dan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn neu Reoliad Gweithredu’r Comisiwn, a phan ddefnyddir cyfrifiadur i gadw’r cofnod hwnnw, cael mynediad i unrhyw gyfrifiadur a chyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig, a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â’r cofnod hwnnw, ac arolygu a gwirio gweithrediad y cyfryw gyfrifiadur a chyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig;

(c)ei gwneud yn ofynnol i gopïau neu ddarnau o unrhyw gofnod o’r fath gael eu dangos a, pan ddefnyddir cyfrifiadur i gadw’r cofnod hwnnw, ei gwneud yn ofynnol i’r cofnod gael ei ddangos ar ffurf a fydd yn caniatáu iddo gael ei gludo ymaith; a

(d)dal gafael ar unrhyw gofnod o’r fath y mae gan y swyddog reswm dros gredu y gall fod yn angenrheidiol fel tystiolaeth mewn achos o dan y Rheoliadau hyn.

Hysbysiadau gorfodi

20.—(1Os oes gan Weinidogion Cymru reswm dros gredu bod person wedi cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau hyn, caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad gorfodi i’r person hwnnw yn unol â pharagraff (2).

(2Rhaid i hysbysiad gorfodi—

(a)datgan ar ba sail y mae Gweinidogion Cymru’n credu bod trosedd wedi ei chyflawni;

(b)pennu’r mater sy’n cyfansoddi’r drosedd;

(c)pennu’r hyn y mae’n rhaid i’r person hwnnw beidio â’i wneud, neu’r mesurau y mae’n rhaid, ym marn Gweinidogion Cymru, i’r person hwnnw eu cymryd er mwyn cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn;

(d)ei gwneud yn ofynnol i’r person beidio â chyflawni’r weithred a bennir yn yr hysbysiad, neu gymryd y mesurau a bennir yn yr hysbysiad, neu fesurau sydd o leiaf yn gyfwerth â’r rheiny, o fewn y cyfnod (nad yw’n llai na 14 diwrnod) a bennir yn yr hysbysiad;

(e)hysbysu’r person am yr hawl i apelio a roddir gan reoliad 21; ac

(f)hysbysu’r person o fewn pa gyfnod y caniateir i apêl o’r fath gael ei gwneud.

(3Mae unrhyw berson sy’n torri hysbysiad gorfodi neu’n methu â chydymffurfio ag ef yn euog o drosedd.

Apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi

21.—(1Caiff person apelio i lys ynadon yn erbyn hysbysiad gorfodi os oes gan y person hwnnw reswm dros gredu na ddylai’r hysbysiad fod wedi ei roi.

(2Caiff person apelio o fewn y cyfnod o un mis sy’n cychwyn gyda’r dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad.

(3Y weithdrefn a ddilynir yw gwneud cwyn am orchymyn; a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980(13) yn gymwys i’r achos.

(4Ar apêl, caiff y llys naill ai ddiddymu’r hysbysiad neu ei gadarnhau, ac os bydd yn ei gadarnhau caiff wneud hynny naill ai yn ei ffurf wreiddiol neu gyda pha addasiadau bynnag y mae’r llys yn meddwl eu bod yn briodol.

Hysbysiadau cosb

22.—(1Os oes gan Weinidogion Cymru reswm dros gredu bod person wedi cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau hyn, caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad (“hysbysiad cosb”) i’r person hwnnw yn unol â pharagraffau (2) a (3).

(2Caiff hysbysiad cosb fod am unrhyw swm.

(3Rhaid i hysbysiad cosb—

(a)rhoi unrhyw fanylion am amgylchiadau’r drosedd honedig sy’n angenrheidiol i roi gwybodaeth resymol am y drosedd;

(b)datgan swm y gosb;

(c)datgan yn ystod pa gyfnod, yn rhinwedd rheoliad 23, na chychwynnir achos ynglŷn â’r drosedd;

(d)datgan i ba berson ac ym mha gyfeiriad y gellir talu’r gosb; ac

(e)datgan ym mha fodd y caniateir i’r taliad gael ei wneud.

Cyfyngiad ar ddwyn achos am drosedd cosb

23.—(1Pan fo hysbysiad cosb wedi ei roi i berson—

(a)ni chaniateir dwyn achos yn erbyn y person hwnnw am y drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi cyn diwedd y cyfnod o 28 diwrnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad; a

(b)ni chaniateir euogfarnu’r person hwnnw am y drosedd os telir y gosb yn unol â rheoliad 24 cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys os tynnir yr hysbysiad cosb yn ôl yn unol â rheoliad 25.

Talu’r gosb

24.—(1Rhaid talu unrhyw gosb i Weinidogion Cymru drwy ei hanfon drwy’r post neu drwy unrhyw ddull a bennir yn yr hysbysiad cosb.

(2Mewn unrhyw achos, bydd tystysgrif yr honnir ei bod wedi ei llofnodi gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan yn datgan bod taliad o gosb wedi ei gael neu heb ei gael erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatgenir.

Tynnu hysbysiad cosb yn ôl

25.—(1Caniateir i hysbysiad cosb gael ei dynnu’n ôl os oes gan Weinidogion Cymru reswm dros gredu na ddylai fod wedi ei roi (pa un ai i’r person a enwyd yn yr hysbysiad cosb, neu fel arall).

(2Caniateir i hysbysiad cosb gael ei dynnu’n ôl gan Weinidogion Cymru drwy roi hysbysiad i’r person a enwyd yn yr hysbysiad cosb cyn i’r gosb gael ei thalu neu ar ôl i’r gosb gael ei thalu.

(3Pan dynnir hysbysiad cosb yn ôl, rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu unrhyw gosb a dalwyd o dan yr hysbysiad cosb i’r person a enwyd yn yr hysbysiad cosb o fewn 28 diwrnod, gan gychwyn gyda’r dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad bod yr hysbysiad cosb wedi ei dynnu’n ôl.

Troseddau: darpariaethau eidion Ewropeaidd

26.  Mae unrhyw berson sydd—

(a)yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad o dan ddarpariaeth eidion Ewropeaidd; neu

(b)yn torri unrhyw waharddiad a gynhwysir mewn darpariaeth eidion Ewropeaidd,

yn euog o drosedd.

Troseddau: darpariaethau moch Ewropeaidd

27.—(1Mae unrhyw berson sydd—

(a)yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad o dan ddarpariaeth moch Ewropeaidd; neu

(b)yn torri unrhyw waharddiad a gynhwysir mewn darpariaeth moch Ewropeaidd,

yn euog o drosedd.

(2Ond pan fydd gweithredwr neu’r person sy’n gyfrifol am ddosbarthu carcasau moch yn llunio cofnod gan gydymffurfio â’r amodau y cyfeirir atynt yn rheoliad 15 (cofnodion yn lle marcio) ni chyflawnir trosedd drwy fethu â chydymffurfio â darpariaeth moch Ewropeaidd Rhan 2 neu drwy ei thorri.

(3Yn y rheoliad hwn, ystyr, “darpariaeth moch Ewropeaidd Rhan 2” yw darpariaeth a bennir yng ngholofn (2) o Ran 2 o Atodlen 2.

Troseddau: hysbysiadau gan weithredwyr

28.  Mae unrhyw berson sy’n methu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o ofynion rheoliad 5 (hysbysiadau gan weithredwyr) yn euog o drosedd.

Troseddau: trwyddedau (carcasau buchol)

29.—(1Os ymgymerir â dosbarthu carcas buchol mewn lladd-dy cymeradwy—

(a)heb drwydded a ganiatawyd o dan reoliad 8, neu

(b)gan dorri unrhyw un neu ragor o amodau neu delerau trwydded o’r fath,

mae’r person sy’n ymgymryd â’r dosbarthu a gweithredwr y lladd-dy hwnnw ill dau’n euog o drosedd.

(2Os ymgymerir â dosbarthu carcas buchol mewn lladd-dy cymeradwy drwy ddefnyddio offer graddio awtomataidd—

(a)heb drwydded a ganiatawyd o dan reoliad 9 i ddefnyddio’r offer hwnnw yn y lladd-dy hwnnw, neu

(b)gan dorri unrhyw un neu ragor o amodau neu delerau trwydded o’r fath,

mae’r person sy’n ymgymryd â’r dosbarthu hwnnw a gweithredwr y lladd-dy hwnnw ill dau’n euog o drosedd.

(3Mae unrhyw berson sy’n gwneud newid mewn trwydded a ganiatawyd o dan reoliad 8 neu 9 yn euog o drosedd.

Troseddau: dulliau graddio awdurdodedig (carcasau moch)

30.  Os ymgymerir â dosbarthu carcas mochyn mewn lladd-dy cymeradwy drwy ddefnyddio dull graddio neu dechneg graddio mewn modd nad yw’n cydymffurfio â gofynion rheoliad 14, mae’r person sy’n ymgymryd â’r dosbarthu a gweithredwr y lladd-dy hwnnw ill dau’n euog o drosedd.

Troseddau: cofnodion a marciau

31.—(1Mae unrhyw berson sy’n methu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o ofynion rheoliad 11 (cofnodion: carcasau buchol) neu reoliad 16 (cofnodion: carcasau moch) yn euog o drosedd.

(2Mae unrhyw berson sy’n marcio carcas buchol neu ran o garcas o’r fath—

(a)fel y rhagnodir gan Erthygl 8(1), (2)(a), (3)(a) (o’u darllen gydag ail baragraff Erthygl 8(3)), (4) a (5) o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn, neu

(b)mewn modd sy’n debyg iawn i’r marc a ragnodir yn y darpariaethau hynny,

sy’n debygol o gamarwain, yn euog o drosedd.

(3Mae unrhyw berson sy’n marcio carcas mochyn neu ran o garcas o’r fath—

(a)fel y rhagnodir gan Erthygl 8(1), (2)(b), (3)(c) (o’u darllen gydag ail baragraff Erthygl 8(3)), (4) a (5) o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn, neu

(b)mewn modd sy’n debyg iawn i’r marc a ragnodir yn y darpariaethau hynny,

sy’n debygol o gamarwain, yn euog o drosedd.

Troseddau: rhwystro etc.

32.  Mae unrhyw berson—

(a)sydd heb esgus rhesymol, yn rhwystro unrhyw berson sy’n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn,

(b)sydd heb achos rhesymol, yn methu â rhoi i unrhyw berson sy’n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae’r person hwnnw yn rhesymol yn ei gwneud yn ofynnol er mwyn cyflawni swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn,

(c)sy’n rhoi i unrhyw berson sy’n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn unrhyw wybodaeth gan wybod ei bod yn ffug neu’n gamarweiniol, neu

(d)sy’n methu â dangos unrhyw ddogfen neu gofnod pan fo unrhyw berson sy’n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny,

yn euog o drosedd.

Y cyfnod ar gyfer dwyn erlyniad

33.—(1Caniateir i achos am drosedd o dan reoliadau 20(3), 26, 27, 28, 29, 30, 31(1) neu 32 gael ei ddwyn o fewn cyfnod o 12 mis o’r dyddiad y daeth yr erlynydd i wybod gyntaf am dystiolaeth ddigonol, ym marn yr erlynydd, i gyfiawnhau achos.

(2Ond ni chaniateir i achos o’r fath gael ei ddwyn ymhen mwy na 18 mis ers i’r drosedd gael ei chyflawni.

(3At ddibenion paragraff (1)—

(a)mae tystysgrif a lofnodwyd gan yr erlynydd neu ar ei ran ac sy’n datgan y dyddiad y daeth yr erlynydd i wybod gyntaf am dystiolaeth ddigonol i gyfiawnhau’r achos yn dystiolaeth derfynol o’r ffaith honno;

(b)bernir bod tystysgrif sy’n datgan y mater ac sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi felly wedi ei llofnodi felly, oni phrofir i’r gwrthwyneb.

Troseddau gan gyrff corfforaethol

34.—(1Os profir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi ei chyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad swyddog, neu i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog, mae’r swyddog hwnnw yn ogystal â’r corff corfforaethol yn euog o’r drosedd ac yn agored i’w erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(2Pan fo materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd ac anweithredoedd aelod, mewn cysylltiad â swyddogaethau’r aelod hwnnw o reoli, fel pe bai’r aelod hwnnw’n gyfarwyddwr i’r corff.

(3Yn y rheoliad hwn, ystyr “swyddog” mewn perthynas â chorff corfforaethol yw cyfarwyddwr, aelod o’r pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i’r corff, neu berson sy’n honni gweithredu mewn unrhyw swydd o’r fath.

Amddiffyniad diwydrwydd dyladwy

35.  Mae’n amddiffyniad os gall person a gyhuddir o drosedd o dan y Rheoliadau hyn (“P”), brofi bod P wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni’r drosedd gan P neu gan berson o dan reolaeth P.

Troseddau: cosbi

36.—(1Mae person sy’n euog o drosedd o dan y canlynol—

(a)rheoliad 20(3) (hysbysiadau gorfodi),

(b)rheoliad 26 (darpariaethau eidion Ewropeaidd),

(c)rheoliad 27 (darpariaethau moch Ewropeaidd),

(d)rheoliad 28 (hysbysiadau gan weithredwyr),

(e)rheoliad 29 (trwyddedau (carcasau buchol)),

(f)rheoliad 30 (dulliau graddio awdurdodedig: (carcasau moch)),

(g)rheoliad 31(1) (cofnodion), neu

(h)rheoliad 32 (rhwystro etc.),

yn agored, o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy.

(2Mae person sy’n euog o drosedd o dan reoliad 31(2) neu (3) (marciau camarweiniol etc.) yn agored—

(a)o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy; neu

(b)o’i euogfarnu ar dditiad, i ddirwy.

Lesley Griffiths

Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

22 Tachwedd 2018

Rheoliad 2

ATODLEN 1Darpariaethau Ewropeaidd: carcasau buchol

(1) Y Rheoliad sy’n cynnwys y ddarpariaeth Ewropeaidd(2) Y ddarpariaeth(3) Y cynnwys
Rheoliad (EU) 2013Erthygl 10 ac Atodiad IV, pwynt A(II), ynghyd ag Erthygl 1 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (o’u darllen gyda Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007(14))Gofyniad i ddynodi categori’r carcas fel y’i pennir yn y darpariaethau hyn
Erthygl 10 ac Atodiad IV, pwynt A(III), ynghyd ag Erthygl 3(1) o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn, ac Atodiad 1 iddoGofyniad i ddynodi, mewn perthynas â charcas, dosbarth y cydffurfiad a’r gorchudd braster fel y’i pennir yn y darpariaethau hyn
Erthygl 10 ac Atodiad IV, pwynt A(IV)Gofyniad i gyflwyno carcasau yn y dull penodedig
Erthygl 10 ac Atodiad IV, pwynt A(V), yr is-baragraff cyntafGofyniad i ladd-dai cymeradwy ddosbarthu a nodi carcasau yn unol â graddfa’r Undeb
Rheoliad Dirprwyedig y ComisiwnErthygl 6(1)Gwahardd tynnu braster, cyhyr neu feinwe arall cyn pwyso, graddio a marcio
Erthygl 6(3)Gofyniad i gyflwyno’r carcas yn y dull penodedig, er mwyn canfod prisiau’r farchnad
Erthygl 7(1)Gofyniad ynghylch lle ac amser y dosbarthu
Erthygl 7(3)(a)Gofynion ynghylch amser y dosbarthu a’r pwyso
Erthygl 7(5)Gofyniad ynghylch amser y dosbarthu mewn achosion lle y mae dull graddio awtomataidd yn methu dosbarthu carcas
Erthygl 8(1), 8(2)(a), Erthygl 8(3)(a) o’u darllen gydag ail baragraff yr Erthygl honno, Erthygl 8(4)Gofynion ynghylch marcio carcasau i ddynodi categori a dosbarth y cydffurfiad a’r gorchudd braster
Erthygl 8(5)Gofynion mewn perthynas â labelu carcas
Erthygl 10(7)Gwahardd addasu manylebau technegol dulliau graddio awtomataidd awdurdodedig heb gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru
Erthygl 12Gofynion ynghylch dosbarthu drwy dechnegau graddio awtomataidd
Erthygl 14(1), (2) a (3)Gofyniad ynghylch pwyso’r carcas er mwyn hysbysu prisiau’r farchnad
Erthygl 14(4)Gofynion ynghylch hysbysu prisiau fesul dosbarth
Erthygl 17(2) o ran y modd y’i cymhwysir at daliadau atodol am garcasauGofynion ynghylch hysbysu unrhyw daliadau atodol
Rheoliad Gweithredu’r ComisiwnErthygl 1Gofynion ynghylch y cyfathrebiad rhagnodedig
Is-baragraffau un a thri o Erthygl 5(1) a’r AtodiadGofynion ynghylch addasiadau i bwysau’r carcas
Erthygl 7Gofyniad ynghylch dosbarthiadau ar gyfer cofnodi prisiau marchnad carcasau eidion
Erthygl 8(1), (3) a (4)Gofyniad ynghylch cofnodi prisiau’r farchnad

Rheoliadau 2, 15 a 27

ATODLEN 2Darpariaeth Ewropeaidd: carcasau moch

RHAN 1

(1) Y Rheoliad sy’n cynnwys y ddarpariaeth Ewropeaidd(2) Y ddarpariaeth(3) Y cynnwys
Rheoliad (EU) 2013Erthygl 10 ac Atodiad IV, pwynt B(II)Gofyniad i ddosbarthu carcasau i un o’r dosbarthiadau penodedig
Erthygl 10 ac Atodiad IV, pwynt B(III), fel y’i haddaswyd gan Erthyglau 3 a 4 o Benderfyniad y Comisiwn 2004/370/EC yn awdurdodi dulliau ar gyfer graddio carcasau moch yn y Deyrnas Unedig(15)Gofyniad i gyflwyno carcasau yn y dull penodedig
Erthygl 10 ac Atodiad IV, pwynt B(IV), is-baragraff 1, ynghyd ag Erthygl 1 o Benderfyniad y Comisiwn 2004/370/EC, ac Atodiad I iddo, yn awdurdodi dulliau ar gyfer graddio carcasau moch yn y Deyrnas UnedigGofyniad i raddio carcasau drwy ddulliau a awdurdodir gan y Comisiwn
Rheoliad Dirprwyedig y ComisiwnErthygl 6(1)Gwahardd tynnu braster, cyhyr neu feinwe arall cyn pwyso, graddio a marcio
Erthygl 7(1)Gofyniad ynghylch lle ac amser y dosbarthu
Erthygl 7(3)(b) a 7(4)(a)Gofynion ynghylch pwyso’r carcas ac addasu’r pwysau
Erthygl 12Gofynion ynghylch dosbarthu drwy dechnegau graddio awtomataidd
Erthygl 14(1), (2) a (3)Gofyniad ynghylch pwyso’r carcas er mwyn hysbysu prisiau’r farchnad
Erthygl 14(4)Gofynion ynghylch hysbysu prisiau fesul dosbarth
Erthygl 17(2) o ran y modd y’i cymhwysir at daliadau atodol am garcasauGofynion ynghylch hysbysu unrhyw daliadau atodol
Pwynt 2 o Ran A o Atodiad VGofynion ynghylch asesu faint o gig heb lawer o fraster sydd mewn carcasau
Rheoliad Gweithredu’r ComisiwnErthygl 1Gofynion ynghylch y cyfathrebiad rhagnodedig
Erthygl 9Gofynion ynghylch dosbarthiadau a phwysau er mwyn cofnodi prisiau marchnad carcasau moch
Erthygl 10Cofnodi prisiau’r farchnad

RHAN 2

(1) Y Rheoliad sy’n cynnwys y ddarpariaeth Ewropeaidd(2) Y ddarpariaeth(3) Y cynnwys
Rheoliad Dirprwyedig y ComisiwnErthygl 8(1), 8(2)(b), Erthygl 8(3)(c) o’u darllen gydag ail baragraff yr Erthygl honno ac Erthygl 8(4)Gofynion ynghylch marcio carcasau neu eu labelu
Erthygl 8(5)Gofynion mewn perthynas â labelu carcas

Rheoliad 11

ATODLEN 3Cofnodion: carcasau buchol

1.  Canlyniadau’r dosbarthu.

2.  Rhif cymeradwyo’r lladd-dy.

3.  Rhif lladdiad neu rif cigydda yr anifail y cafwyd y carcas ohono, fel y’i dyrannwyd gan y gweithredwr.

4.  Dyddiad y cigydda.

5.  Pwysau cynnes y carcas ynghyd â nodyn o’r canlynol—

(a)unrhyw addasiad a wnaed ar gyfer pwysau oer y carcas, a

(b)unrhyw gyfernod a gymhwyswyd.

6.  Y fanyleb trin a ddefnyddiwyd.

7.  Cofnod bod y cyfathrebiad rhagnodedig wedi ei wneud.

8.  Enw, llofnod a rhif cyfresol trwydded ddosbarthu’r person a ymgymerodd â’r dosbarthu.

Rheoliad 16

ATODLEN 4Cofnodion: carcasau moch

1.  Canlyniadau’r dosbarthu.

2.  Rhif cymeradwyo’r lladd-dy.

3.  Rhif lladdiad neu rif cigydda yr anifail y cafwyd y carcas ohono, fel y’i dyrannwyd gan y gweithredwr.

4.  Dyddiad y cigydda.

5.  Pwysau cynnes y carcas, ynghyd â nodyn o’r canlynol—

(a)unrhyw addasiad a wnaed ar gyfer y pwysau carcas oer, a

(b)unrhyw gyfernod a gymhwyswyd.

6.  Y ganran o gig heb lawer o fraster yn y carcas.

7.  Dynodiad a oedd y tafod, gwêr yr arennau, yr arennau a’r diaffram yn gysylltiedig neu wedi’u tynnu ymaith.

8.  Cofnod bod y cyfathrebiad rhagnodedig wedi ei wneud.

9.  Enw a llofnod y person a ymgymerodd â’r dosbarthu.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Dosbarthu Carcasau Eidion a Moch (Cymru) 2011 (O.S. 2011/1826 (Cy. 198)) (“Rheoliadau 2011”) o ganlyniad i ddiddymu Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1249/2008 (OJ Rhif L 337, 16.12.2008, t. 3).

Mae’r Rheoliadau’n gorfodi’r canlynol—

  • Erthygl 10 o Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t. 671) ac Atodiad IV iddo, sy’n ymwneud â graddfeydd yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer dosbarthu carcasau; a

  • Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 2017/1182 (OJ Rhif L 171, 4.7.2017, t. 74) (“Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn”); a Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 2017/1184 (OJ Rhif L 171, 4.7.2017, t. 103) (“Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn”) sy’n nodi rhagor o fanylion ynghylch rhoi’r graddfeydd hyn ar waith.

Mae’r Rheoliadau’n ymwneud â charcasau anifeiliaid buchol llawn-dwf (sef anifeiliaid sy’n wyth mis oed neu ragor) a moch.

Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr lladd-dai sy’n cigydda anifeiliaid buchol llawn-dwf neu foch hysbysu Gweinidogion Cymru. Er hynny, nid yw’r Rheoliadau’n gymwys i weithredwyr buchol ar raddfa fach sy’n cigydda llai na 150 o anifeiliaid buchol llawn-dwf yr wythnos ar gyfartaledd bob blwyddyn, oni bai eu bod yn dewis dosbarthu carcasau buchol (rheoliad 6); nac i weithredwyr lladd-dai lle y mae llai na 500 o foch glân yr wythnos yn cael eu cigydda, ar gyfartaledd bob blwyddyn (rheoliad 12).

Mae’r Rheoliadau’n darparu ar gyfer system drwyddedu i unrhyw un sy’n dosbarthu carcasau buchol drwy edrych arnynt ac ar gyfer trwyddedu lladd-dai sy’n defnyddio offer graddio awtomataidd i ddosbarthu’r carcasau hynny (rheoliadau 8 i 10). Mae torri gofynion y drwydded yn drosedd (rheoliad 29).

Rhaid i waith dosbarthu carcasau moch gael ei wneud drwy ddefnyddio dull graddio a awdurdodwyd a thechnegau graddio a weithredir gan bersonél cymwys (rheoliad 14). Mae torri’r gofyniad hwn yn drosedd (rheoliad 30). Yn lle marcio carcas mochyn, caniateir i weithredwr gadw cofnod o’i ddosbarthiad (rheoliad 15).

Mae’n ofynnol i weithredwyr lladd-dai cymeradwy gadw cofnodion ynglŷn â charcasau buchol a charcasau moch yn eu tro (rheoliadau 11 ac 16 ac Atodlenni 3 a 4).

Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau’n ymwneud â gorfodi, ac yn gwneud darpariaeth ynglŷn â phwerau swyddogion awdurdodedig, hysbysiadau gorfodi, hysbysiadau cosb ac achosion troseddol. Mae rheoliadau 20(3) a 26 i 32 yn nodi’r troseddau o dan y Rheoliadau, y gellir cosbi pob un ohonynt ar euogfarn ddiannod â dirwy, ac eithrio troseddau o dan reoliad 31(2) neu (3) (marciau ffug).

Yn benodol, mae rheoliadau 26 a 27 yn darparu bod torri darpariaethau penodedig yn neddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd yn drosedd, sef y darpariaethau eidion Ewropeaidd a nodir yn Atodlen 1 a’r darpariaethau moch Ewropeaidd a nodir yn Atodlen 2. Mae’r darpariaethau a bennir yn Atodlenni 1 a 2 yn cynnwys gofynion ynglŷn â chofnodi a hysbysu prisiau’r farchnad ar gyfer carcasau buchol a charcasau moch yn eu tro.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn gan fod y diwygiadau o natur dechnegol.

(1)

1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7), a Rhan 1 o’r Atodlen iddi. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006.

(3)

OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t. 671, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 2017/2393 (OJ Rhif L 350, 29.12.2017, t. 15).

(4)

OJ Rhif L 171, 4.7.2017, t. 74.

(5)

OJ Rhif L 171, 4.7.2017, t. 103.

(6)

OJ Rhif L 139, 30.4.2004, t 206, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 2015/2285 (OJ Rhif L 323, 9.12.2015, t. 6).

(7)

OJ Rhif L 139, 30.4.2004, t. 55, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 2017/1981 (OJ Rhif L 285, 1.11.2017, t. 10).

(8)

OJ Rhif L 171, 4.7.2017, t.. 74 .

(9)

OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t. 671, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 2017/2393 (OJ Rhif L 350, 29.12.2017, t. 15).

(10)

OJ Rhif L 171, 4.7.2017, t. 103.

(13)

1980 p. 43; amnewidiwyd adrannau 51 a 52 gan Ddeddf Llysoedd 2003 (p. 39), adran 47.

(14)

O.S. 2007/842 (Cy. 74). Mae Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007 yn sefydlu system adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol yng Nghymru, fel y’i pennir yn Erthygl 1 o Reoliad (EU) 2013.

(15)

OJ Rhif L 116, 22.4.2004, t. 32, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2006/374/EC (OJ Rhif L 142, 30.5.2006, t. 34).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources