Search Legislation

Rheoliadau Dosbarthu Carcasau a Hysbysu eu Prisiau (Cymru) 2018

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 5GORFODI A THROSEDDAU

Hysbysiadau

17.—(1Rhaid i unrhyw hysbysiad y mae’n ofynnol ei roi, neu yr awdurdodir ei roi, i unrhyw berson o dan y Rheoliadau hyn fod mewn ysgrifen.

(2Caniateir i unrhyw hysbysiad o’r fath gael ei roi—

(a)drwy ei drosglwyddo i’r person;

(b)drwy ei adael yng nghyfeiriad priodol y person; neu

(c)drwy ei anfon drwy’r post at y person yn y cyfeiriad hwnnw.

(3Pan fo unrhyw hysbysiad o’r fath i gael ei roi i gorff corfforaethol, caniateir iddo gael ei roi i un o swyddogion y corff.

(4At ddiben y rheoliad hwn, cyfeiriad priodol unrhyw berson y mae hysbysiad i gael ei roi iddo yw cyfeiriad hysbys olaf y person hwnnw, ac eithrio mai’r cyfeiriad priodol, yn achos corff corfforaethol neu un o swyddogion y corff, yw cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff hwnnw.

(5Yn y rheoliad hwn—

ystyr “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o’r corff corfforaethol; ac

ystyr “swyddog” (“officer”), mewn perthynas â chorff corfforaethol, yw unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i’r corff corfforaethol.

Pwerau mynediad

18.—(1Caiff swyddog awdurdodedig, ar unrhyw adeg resymol ac, os gofynnir iddo, ar ôl dangos awdurdodiad a ddilyswyd yn briodol, fynd i mewn i ladd-dy cymeradwy ac unrhyw fangre gysylltiedig, lle y gall carcasau fod yn cael eu trin, neu lle y gall cofnodion ynglŷn â’r carcasau hynny fod yn cael eu cadw, er mwyn canfod—

(a)a oes unrhyw drosedd o dan y Rheoliadau hyn yn cael, neu wedi cael, ei chyflawni yn y fangre; neu

(b)a oes unrhyw dystiolaeth yn y fangre o unrhyw drosedd o’r fath.

(2Caiff y swyddog fynd ag unrhyw bersonau eraill y mae’n credu eu bod yn angenrheidiol gydag ef.

(3Caiff ynad heddwch, drwy warant wedi ei llofnodi, ganiatáu i swyddog awdurdodedig fynd i mewn i unrhyw fangre, drwy rym rhesymol os bydd angen hynny, os yw wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig a roddir ar lw—

(a)bod sail resymol dros fynd i mewn i’r fangre at unrhyw ddiben ym mharagraff (1); a

(b)bod unrhyw un neu ragor o’r amodau a ganlyn wedi eu bodloni—

(i)bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu y rhagwelir y caiff ei wrthod, ac (yn y naill achos neu’r llall) fod hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i’r gweithredwr;

(ii)y byddai gwneud cais am fynediad, neu roi hysbysiad o’r fath, yn tanseilio’r diben o fynd i mewn;

(iii)bod yr achos yn achos brys; neu

(iv)bod y fangre’n wag neu fod y gweithredwr yn absennol dros dro,

(4Mae gwarant a ganiateir o dan y rheoliad hwn yn parhau mewn grym am dri mis.

(5Rhaid i swyddog sy’n mynd i mewn i unrhyw fangre wag, neu fangre sydd â’i gweithredwr yn absennol dros dro, adael y fangre wedi ei diogelu mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd cyn i’r swyddog fynd i mewn.

Pwerau swyddogion awdurdodedig

19.  Caiff swyddog awdurdodedig sy’n mynd i mewn i fangre o dan y Rheoliadau hyn—

(a)arolygu unrhyw garcas buchol neu garcas mochyn neu ran o garcas o’r fath, neu unrhyw garcas neu ran o garcas y mae’r swyddog yn amau’n rhesymol ei fod yn garcas buchol neu garcas mochyn neu ran o garcas o’r fath;

(b)archwilio unrhyw gofnod y mae’n ofynnol i weithredwr ei gadw o dan reoliad 11 neu 16 neu o dan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn neu Reoliad Gweithredu’r Comisiwn, a phan ddefnyddir cyfrifiadur i gadw’r cofnod hwnnw, cael mynediad i unrhyw gyfrifiadur a chyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig, a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â’r cofnod hwnnw, ac arolygu a gwirio gweithrediad y cyfryw gyfrifiadur a chyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig;

(c)ei gwneud yn ofynnol i gopïau neu ddarnau o unrhyw gofnod o’r fath gael eu dangos a, pan ddefnyddir cyfrifiadur i gadw’r cofnod hwnnw, ei gwneud yn ofynnol i’r cofnod gael ei ddangos ar ffurf a fydd yn caniatáu iddo gael ei gludo ymaith; a

(d)dal gafael ar unrhyw gofnod o’r fath y mae gan y swyddog reswm dros gredu y gall fod yn angenrheidiol fel tystiolaeth mewn achos o dan y Rheoliadau hyn.

Hysbysiadau gorfodi

20.—(1Os oes gan Weinidogion Cymru reswm dros gredu bod person wedi cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau hyn, caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad gorfodi i’r person hwnnw yn unol â pharagraff (2).

(2Rhaid i hysbysiad gorfodi—

(a)datgan ar ba sail y mae Gweinidogion Cymru’n credu bod trosedd wedi ei chyflawni;

(b)pennu’r mater sy’n cyfansoddi’r drosedd;

(c)pennu’r hyn y mae’n rhaid i’r person hwnnw beidio â’i wneud, neu’r mesurau y mae’n rhaid, ym marn Gweinidogion Cymru, i’r person hwnnw eu cymryd er mwyn cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn;

(d)ei gwneud yn ofynnol i’r person beidio â chyflawni’r weithred a bennir yn yr hysbysiad, neu gymryd y mesurau a bennir yn yr hysbysiad, neu fesurau sydd o leiaf yn gyfwerth â’r rheiny, o fewn y cyfnod (nad yw’n llai na 14 diwrnod) a bennir yn yr hysbysiad;

(e)hysbysu’r person am yr hawl i apelio a roddir gan reoliad 21; ac

(f)hysbysu’r person o fewn pa gyfnod y caniateir i apêl o’r fath gael ei gwneud.

(3Mae unrhyw berson sy’n torri hysbysiad gorfodi neu’n methu â chydymffurfio ag ef yn euog o drosedd.

Apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi

21.—(1Caiff person apelio i lys ynadon yn erbyn hysbysiad gorfodi os oes gan y person hwnnw reswm dros gredu na ddylai’r hysbysiad fod wedi ei roi.

(2Caiff person apelio o fewn y cyfnod o un mis sy’n cychwyn gyda’r dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad.

(3Y weithdrefn a ddilynir yw gwneud cwyn am orchymyn; a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980(1) yn gymwys i’r achos.

(4Ar apêl, caiff y llys naill ai ddiddymu’r hysbysiad neu ei gadarnhau, ac os bydd yn ei gadarnhau caiff wneud hynny naill ai yn ei ffurf wreiddiol neu gyda pha addasiadau bynnag y mae’r llys yn meddwl eu bod yn briodol.

Hysbysiadau cosb

22.—(1Os oes gan Weinidogion Cymru reswm dros gredu bod person wedi cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau hyn, caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad (“hysbysiad cosb”) i’r person hwnnw yn unol â pharagraffau (2) a (3).

(2Caiff hysbysiad cosb fod am unrhyw swm.

(3Rhaid i hysbysiad cosb—

(a)rhoi unrhyw fanylion am amgylchiadau’r drosedd honedig sy’n angenrheidiol i roi gwybodaeth resymol am y drosedd;

(b)datgan swm y gosb;

(c)datgan yn ystod pa gyfnod, yn rhinwedd rheoliad 23, na chychwynnir achos ynglŷn â’r drosedd;

(d)datgan i ba berson ac ym mha gyfeiriad y gellir talu’r gosb; ac

(e)datgan ym mha fodd y caniateir i’r taliad gael ei wneud.

Cyfyngiad ar ddwyn achos am drosedd cosb

23.—(1Pan fo hysbysiad cosb wedi ei roi i berson—

(a)ni chaniateir dwyn achos yn erbyn y person hwnnw am y drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi cyn diwedd y cyfnod o 28 diwrnod sy’n cychwyn ar y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad; a

(b)ni chaniateir euogfarnu’r person hwnnw am y drosedd os telir y gosb yn unol â rheoliad 24 cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys os tynnir yr hysbysiad cosb yn ôl yn unol â rheoliad 25.

Talu’r gosb

24.—(1Rhaid talu unrhyw gosb i Weinidogion Cymru drwy ei hanfon drwy’r post neu drwy unrhyw ddull a bennir yn yr hysbysiad cosb.

(2Mewn unrhyw achos, bydd tystysgrif yr honnir ei bod wedi ei llofnodi gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan yn datgan bod taliad o gosb wedi ei gael neu heb ei gael erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatgenir.

Tynnu hysbysiad cosb yn ôl

25.—(1Caniateir i hysbysiad cosb gael ei dynnu’n ôl os oes gan Weinidogion Cymru reswm dros gredu na ddylai fod wedi ei roi (pa un ai i’r person a enwyd yn yr hysbysiad cosb, neu fel arall).

(2Caniateir i hysbysiad cosb gael ei dynnu’n ôl gan Weinidogion Cymru drwy roi hysbysiad i’r person a enwyd yn yr hysbysiad cosb cyn i’r gosb gael ei thalu neu ar ôl i’r gosb gael ei thalu.

(3Pan dynnir hysbysiad cosb yn ôl, rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu unrhyw gosb a dalwyd o dan yr hysbysiad cosb i’r person a enwyd yn yr hysbysiad cosb o fewn 28 diwrnod, gan gychwyn gyda’r dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad bod yr hysbysiad cosb wedi ei dynnu’n ôl.

Troseddau: darpariaethau eidion Ewropeaidd

26.  Mae unrhyw berson sydd—

(a)yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad o dan ddarpariaeth eidion Ewropeaidd; neu

(b)yn torri unrhyw waharddiad a gynhwysir mewn darpariaeth eidion Ewropeaidd,

yn euog o drosedd.

Troseddau: darpariaethau moch Ewropeaidd

27.—(1Mae unrhyw berson sydd—

(a)yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad o dan ddarpariaeth moch Ewropeaidd; neu

(b)yn torri unrhyw waharddiad a gynhwysir mewn darpariaeth moch Ewropeaidd,

yn euog o drosedd.

(2Ond pan fydd gweithredwr neu’r person sy’n gyfrifol am ddosbarthu carcasau moch yn llunio cofnod gan gydymffurfio â’r amodau y cyfeirir atynt yn rheoliad 15 (cofnodion yn lle marcio) ni chyflawnir trosedd drwy fethu â chydymffurfio â darpariaeth moch Ewropeaidd Rhan 2 neu drwy ei thorri.

(3Yn y rheoliad hwn, ystyr, “darpariaeth moch Ewropeaidd Rhan 2” yw darpariaeth a bennir yng ngholofn (2) o Ran 2 o Atodlen 2.

Troseddau: hysbysiadau gan weithredwyr

28.  Mae unrhyw berson sy’n methu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o ofynion rheoliad 5 (hysbysiadau gan weithredwyr) yn euog o drosedd.

Troseddau: trwyddedau (carcasau buchol)

29.—(1Os ymgymerir â dosbarthu carcas buchol mewn lladd-dy cymeradwy—

(a)heb drwydded a ganiatawyd o dan reoliad 8, neu

(b)gan dorri unrhyw un neu ragor o amodau neu delerau trwydded o’r fath,

mae’r person sy’n ymgymryd â’r dosbarthu a gweithredwr y lladd-dy hwnnw ill dau’n euog o drosedd.

(2Os ymgymerir â dosbarthu carcas buchol mewn lladd-dy cymeradwy drwy ddefnyddio offer graddio awtomataidd—

(a)heb drwydded a ganiatawyd o dan reoliad 9 i ddefnyddio’r offer hwnnw yn y lladd-dy hwnnw, neu

(b)gan dorri unrhyw un neu ragor o amodau neu delerau trwydded o’r fath,

mae’r person sy’n ymgymryd â’r dosbarthu hwnnw a gweithredwr y lladd-dy hwnnw ill dau’n euog o drosedd.

(3Mae unrhyw berson sy’n gwneud newid mewn trwydded a ganiatawyd o dan reoliad 8 neu 9 yn euog o drosedd.

Troseddau: dulliau graddio awdurdodedig (carcasau moch)

30.  Os ymgymerir â dosbarthu carcas mochyn mewn lladd-dy cymeradwy drwy ddefnyddio dull graddio neu dechneg graddio mewn modd nad yw’n cydymffurfio â gofynion rheoliad 14, mae’r person sy’n ymgymryd â’r dosbarthu a gweithredwr y lladd-dy hwnnw ill dau’n euog o drosedd.

Troseddau: cofnodion a marciau

31.—(1Mae unrhyw berson sy’n methu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o ofynion rheoliad 11 (cofnodion: carcasau buchol) neu reoliad 16 (cofnodion: carcasau moch) yn euog o drosedd.

(2Mae unrhyw berson sy’n marcio carcas buchol neu ran o garcas o’r fath—

(a)fel y rhagnodir gan Erthygl 8(1), (2)(a), (3)(a) (o’u darllen gydag ail baragraff Erthygl 8(3)), (4) a (5) o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn, neu

(b)mewn modd sy’n debyg iawn i’r marc a ragnodir yn y darpariaethau hynny,

sy’n debygol o gamarwain, yn euog o drosedd.

(3Mae unrhyw berson sy’n marcio carcas mochyn neu ran o garcas o’r fath—

(a)fel y rhagnodir gan Erthygl 8(1), (2)(b), (3)(c) (o’u darllen gydag ail baragraff Erthygl 8(3)), (4) a (5) o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn, neu

(b)mewn modd sy’n debyg iawn i’r marc a ragnodir yn y darpariaethau hynny,

sy’n debygol o gamarwain, yn euog o drosedd.

Troseddau: rhwystro etc.

32.  Mae unrhyw berson—

(a)sydd heb esgus rhesymol, yn rhwystro unrhyw berson sy’n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn,

(b)sydd heb achos rhesymol, yn methu â rhoi i unrhyw berson sy’n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae’r person hwnnw yn rhesymol yn ei gwneud yn ofynnol er mwyn cyflawni swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn,

(c)sy’n rhoi i unrhyw berson sy’n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn unrhyw wybodaeth gan wybod ei bod yn ffug neu’n gamarweiniol, neu

(d)sy’n methu â dangos unrhyw ddogfen neu gofnod pan fo unrhyw berson sy’n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny,

yn euog o drosedd.

Y cyfnod ar gyfer dwyn erlyniad

33.—(1Caniateir i achos am drosedd o dan reoliadau 20(3), 26, 27, 28, 29, 30, 31(1) neu 32 gael ei ddwyn o fewn cyfnod o 12 mis o’r dyddiad y daeth yr erlynydd i wybod gyntaf am dystiolaeth ddigonol, ym marn yr erlynydd, i gyfiawnhau achos.

(2Ond ni chaniateir i achos o’r fath gael ei ddwyn ymhen mwy na 18 mis ers i’r drosedd gael ei chyflawni.

(3At ddibenion paragraff (1)—

(a)mae tystysgrif a lofnodwyd gan yr erlynydd neu ar ei ran ac sy’n datgan y dyddiad y daeth yr erlynydd i wybod gyntaf am dystiolaeth ddigonol i gyfiawnhau’r achos yn dystiolaeth derfynol o’r ffaith honno;

(b)bernir bod tystysgrif sy’n datgan y mater ac sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi felly wedi ei llofnodi felly, oni phrofir i’r gwrthwyneb.

Troseddau gan gyrff corfforaethol

34.—(1Os profir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi ei chyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad swyddog, neu i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog, mae’r swyddog hwnnw yn ogystal â’r corff corfforaethol yn euog o’r drosedd ac yn agored i’w erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(2Pan fo materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd ac anweithredoedd aelod, mewn cysylltiad â swyddogaethau’r aelod hwnnw o reoli, fel pe bai’r aelod hwnnw’n gyfarwyddwr i’r corff.

(3Yn y rheoliad hwn, ystyr “swyddog” mewn perthynas â chorff corfforaethol yw cyfarwyddwr, aelod o’r pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i’r corff, neu berson sy’n honni gweithredu mewn unrhyw swydd o’r fath.

Amddiffyniad diwydrwydd dyladwy

35.  Mae’n amddiffyniad os gall person a gyhuddir o drosedd o dan y Rheoliadau hyn (“P”), brofi bod P wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni’r drosedd gan P neu gan berson o dan reolaeth P.

Troseddau: cosbi

36.—(1Mae person sy’n euog o drosedd o dan y canlynol—

(a)rheoliad 20(3) (hysbysiadau gorfodi),

(b)rheoliad 26 (darpariaethau eidion Ewropeaidd),

(c)rheoliad 27 (darpariaethau moch Ewropeaidd),

(d)rheoliad 28 (hysbysiadau gan weithredwyr),

(e)rheoliad 29 (trwyddedau (carcasau buchol)),

(f)rheoliad 30 (dulliau graddio awdurdodedig: (carcasau moch)),

(g)rheoliad 31(1) (cofnodion), neu

(h)rheoliad 32 (rhwystro etc.),

yn agored, o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy.

(2Mae person sy’n euog o drosedd o dan reoliad 31(2) neu (3) (marciau camarweiniol etc.) yn agored—

(a)o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy; neu

(b)o’i euogfarnu ar dditiad, i ddirwy.

(1)

1980 p. 43; amnewidiwyd adrannau 51 a 52 gan Ddeddf Llysoedd 2003 (p. 39), adran 47.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources