Search Legislation

Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 29 Ebrill 2019.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “cyflogai” yr un ystyr ag “employee” yn adran 230(1) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996(1);

ystyr “cytundeb gofal maeth” (“foster care agreement”) yw’r cytundeb ysgrifenedig sy’n cwmpasu’r materion a bennir yn Atodlen 3 yr ymrwymir iddo rhwng y darparwr gwasanaethau maethu a’r rhiant maeth;

ystyr “darparwr gwasanaethau maethu” (“fostering services provider”) yw—

(a)

darparwr gwasanaethau maethu awdurdod lleol;

(b)

darparwr gwasanaethau maethu rheoleiddiedig;

ystyr “darparwr gwasanaethau maethu awdurdod lleol” (“local authority fostering services provider”) yw’r awdurdod lleol sy’n darparu gwasanaethau maethu’r awdurdod lleol;

ystyr “darparwr gwasanaethau maethu rheoleiddiedig” (“regulated fostering services provider”) yw person sydd wedi ei gofrestru o dan adran 7 o Ddeddf 2016 i ddarparu gwasanaeth maethu;

ystyr “darparwr gwasanaethau maethu yn Lloegr” (“fostering services provider in England”) yw—

(a)

asiantaeth faethu o fewn ystyr “fostering agency” yn adran 4(4)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(2), neu

(b)

awdurdod lleol sy’n cyflawni “swyddogaethau maethu perthnasol” o fewn ystyr “relevant fostering functions” yn adran 43(3)(b)(i) o’r Ddeddf honno(3);

ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

ystyr “Deddf 2016” (“the 2016 Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(4);

ystyr “gwasanaeth maethu awdurdod lleol” (“local authority fostering service”) yw unrhyw wasanaeth a ddarperir yng Nghymru gan awdurdod lleol sy’n gwneud y naill neu’r llall o’r canlynol neu sy’n cynnwys y naill neu’r llall o’r canlynol, sef lleoli plant gyda rhieni maeth neu arfer swyddogaethau mewn cysylltiad â lleoliad o’r fath, ac mae “gwasanaeth” (“service”) i’w ddehongli yn unol â hynny;

ystyr “gwasanaeth maethu rheoleiddiedig” (“regulated fostering service”) yw unrhyw wasanaeth a ddarperir yng Nghymru gan berson sydd wedi ei gofrestru o dan adran 7 o Ddeddf 2016 i ddarparu gwasanaeth maethu;

ystyr “gweithiwr cymdeithasol” (“social worker”) yw person sydd wedi ei gofrestru fel gweithiwr cymdeithasol yn y gofrestr a gynhelir gan Ofal Cymdeithasol Cymru(5) o dan adran 80 o Ddeddf 2016, yn Rhan 16 o’r gofrestr a gynhelir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol 2001(6) neu mewn cofrestr gyfatebol a gynhelir o dan gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon;

ystyr “lleoliad” (“placement”) yw lleoli plentyn gyda rhiant maeth o dan adran 81(5), (6)(a) a (b) o Ddeddf 2014;

ystyr “panel maethu” (“fostering panel”) yw panel a sefydlir yn unol â rheoliad 4;

ystyr “Rheoliadau 2003” (“the 2003 Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003(7);

ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015(8);

ystyr “rhestr ganolog” (“central list”) yw rhestr a sefydlir yn unol â rheoliad 3;

mae “rhiant” (“parent”), mewn perthynas â phlentyn, yn cynnwys unrhyw berson a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn;

ystyr “rhiant maeth” (“foster parent”) yw person sydd wedi cael ei gymeradwyo fel rhiant maeth yn unol â’r Rheoliadau hyn.

Y rhestr ganolog

3.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu gynnal rhestr o bersonau y mae’r darparwr yn ystyried eu bod yn addas i fod yn aelodau o banel maethu (“y rhestr ganolog”), gan gynnwys—

(a)un neu ragor o weithwyr cymdeithasol a chanddynt o leiaf dair blynedd o brofiad ôl-gymhwyso perthnasol, a

(b)un neu ragor o bersonau sydd wedi gweithredu fel rhiant maeth, ar yr amod nad ydynt wedi eu penodi, ac nad ydynt erioed wedi eu penodi, yn rhiant maeth gan y darparwr gwasanaethau maethu y cyfeirir ato yn y paragraff hwn.

(2Caiff person sydd wedi ei gynnwys ar y rhestr ganolog ofyn ar unrhyw adeg i’w enw gael ei ddileu o’r rhestr ganolog drwy roi mis o rybudd yn ysgrifenedig i’r darparwr gwasanaethau maethu.

(3Pan fo’r darparwr gwasanaethau maethu o’r farn bod person sydd wedi ei gynnwys ar y rhestr ganolog yn anaddas i aros ar y rhestr neu pan na all person o’r fath aros ar y rhestr, caiff y darparwr gwasanaethau maethu ddileu enw’r person hwnnw o’r rhestr drwy roi mis o rybudd yn ysgrifenedig iddo, gan nodi’r rhesymau dros y penderfyniad.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), o ran aelod o’r rhestr ganolog—

(a)caiff ddal swydd am dymor nad yw’n hwy na thair blynedd, a

(b)ni chaiff ddal swydd fel aelod o restr ganolog yr un darparwr gwasanaethau maethu am fwy na thri thymor heb gyfnod o ysbaid yn y canol.

(5At ddibenion paragraff (4)(b), ystyr “cyfnod o ysbaid yn y canol” yw cyfnod di-dor o dair blynedd o leiaf pan nad oedd yr unigolyn o dan sylw yn aelod o’r rhestr ganolog yn ystod y cyfnod cyfan hwnnw.

Paneli maethu

4.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu gyfansoddi un neu ragor o baneli maethu, fel y bo angen, i gyflawni swyddogaethau panel maethu o dan y Rheoliadau hyn, a rhaid iddo benodi aelodau’r paneli o blith y personau sydd ar y rhestr ganolog gan gynnwys—

(a)person, y mae rhaid iddo fod yn annibynnol ar y darparwr gwasanaethau maethu, i gadeirio’r panel (gweler paragraff (7)), a

(b)un neu ddau o bersonau a gaiff weithredu fel cadeirydd os yw’r person a benodwyd i gadeirio’r panel yn absennol neu os yw’r swydd honno yn wag (“yr is-gadeiryddion”).

(2Caniateir i banel maethu gael ei gyfansoddi ar y cyd gan unrhyw ddau neu ragor o ddarparwyr gwasanaethau maethu, ac yn yr achos hwnnw rhaid i’r aelodau gael eu penodi drwy gytundeb rhwng y darparwyr gwasanaethau maethu, ar yr amod nad yw unrhyw aelod a benodir wedi ei gymeradwyo, neu erioed wedi ei gymeradwyo, fel rhiant maeth gan y naill neu’r llall neu unrhyw un neu ragor o’r darparwyr gwasanaethau maethu sy’n cyfansoddi’r panel ar y cyd.

(3Caiff darparwr gwasanaethau maethu dalu i unrhyw aelod o banel maethu a gyfansoddir ganddo unrhyw ffi a benderfynir ganddo, a hynny’n ffi o swm rhesymol.

(4Rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu sicrhau bod digon o aelodau ar y panel maethu, a bod gan yr aelodau unigol rhyngddynt y profiad a’r arbenigedd sy’n angenrheidiol i gyflawni swyddogaethau’r panel yn effeithiol.

(5Caiff unrhyw aelod o banel maethu ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi mis o rybudd yn ysgrifenedig i’r darparwr gwasanaethau maethu a’i penododd.

(6Pan fo darparwr gwasanaethau maethu o’r farn bod unrhyw aelod o’r panel maethu a benodwyd ganddo yn anaddas i barhau fel aelod o’r panel neu na all person o’r fath barhau fel aelod o’r panel, caiff derfynu penodiad yr aelod hwnnw ar unrhyw adeg drwy roi rhybudd yn ysgrifenedig iddo, gan nodi’r rhesymau dros y penderfyniad.

(7At ddibenion y rheoliad hwn a rheoliad 6, nid yw person yn annibynnol ar y darparwr gwasanaethau maethu—

(a)os yw wedi ei gymeradwyo ar hyn o bryd gan y darparwr gwasanaethau maethu i fod yn rhiant maeth,

(b)os yw’n perthyn i un o gyflogeion y darparwr gwasanaethau maethu, neu i unrhyw berson sy’n ymwneud â rheoli’r gwasanaeth hwnnw,

(c)yn achos gwasanaeth maethu awdurdod lleol, os yw’r person yn aelod etholedig o’r awdurdod lleol hwnnw, neu wedi ei gyflogi gan yr awdurdod lleol hwnnw at ddibenion y gwasanaeth maethu neu at ddibenion unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r awdurdod lleol hwnnw sy’n ymwneud ag amddiffyn neu leoli plant,

(d)yn achos gwasanaeth maethu rheoleiddiedig, os yw’r person wedi ei gyflogi gan y gwasanaeth hwnnw neu yn un o ymddiriedolwyr y gwasanaeth hwnnw,

(e)at ddibenion is-baragraff (b), mae person (“person A”) yn perthyn i berson arall (“person B”) os yw person A—

(i)yn aelod o aelwyd person B, neu’n briod â pherson B neu’n bartner sifil i berson B;

(ii)yn fab, merch, mam, tad, chwaer neu frawd person B, neu

(iii)yn fab, merch, mam, tad, chwaer neu frawd y person y mae person B yn briod ag ef neu y mae person B wedi cofrestru partneriaeth sifil ag ef.

Swyddogaethau paneli maethu

5.—(1Swyddogaethau’r panel maethu mewn cysylltiad ag achosion a atgyfeirir iddo gan y darparwr gwasanaethau maethu yw—

(a)ystyried pob cais am gymeradwyaeth ac argymell pa un a yw person yn addas i weithredu fel rhiant maeth ai peidio,

(b)pan fo’n argymell bod cais yn cael ei gymeradwyo, argymell ar ba delerau y rhoddir y gymeradwyaeth,

(c)argymell pa un a yw person yn parhau i fod yn addas i weithredu fel rhiant maeth ai peidio, a pha un a yw telerau cymeradwyaeth y person yn parhau i fod yn briodol ai peidio—

(i)ar adeg cynnal yr adolygiad cyntaf yn unol â rheoliad 9(2), a

(ii)ar adeg cynnal unrhyw adolygiad arall pan ofynnir iddo wneud hynny gan y darparwr gwasanaethau maethu yn unol â rheoliad 9(5), a

(d)ystyried unrhyw achos a atgyfeirir iddo o dan reoliad 8(9) neu 9(10).

(2Wrth ystyried pa argymhelliad i’w wneud o dan baragraff (1), o ran y panel maethu—

(a)rhaid iddo bwyso a mesur ac ystyried yr holl wybodaeth sy’n cael ei throsglwyddo iddo yn unol â rheoliad 7, 8 neu 9 (yn ôl y digwydd),

(b)caiff ofyn i’r darparwr gwasanaethau maethu gael unrhyw wybodaeth berthnasol arall y mae’r panel maethu yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu ddarparu unrhyw gynhorthwy arall y mae’r panel maethu yn gofyn amdano, ac

(c)caiff gael unrhyw gyngor cyfreithiol neu feddygol y mae’n ystyried ei fod yn angenrheidiol mewn perthynas â’r achos.

(3Mewn perthynas ag achos person y mae adroddiad wedi ei lunio mewn cysylltiad ag ef yn unol â rheoliad 7(6), rhaid i’r panel maethu naill ai—

(a)gofyn i’r darparwr gwasanaethau maethu lunio adroddiad ysgrifenedig pellach, sy’n cwmpasu’r holl faterion a nodir yn rheoliad 7(5)(c), neu

(b)argymell nad yw’r person yn addas i fod yn rhiant maeth.

(4Rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu gael unrhyw wybodaeth y mae’r panel maethu yn ystyried ei bod yn angenrheidiol ac anfon yr wybodaeth honno i’r panel, a darparu unrhyw gynhorthwy arall y mae’r panel maethu yn gofyn amdano, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol.

(5Rhaid i’r panel maethu hefyd—

(a)cynghori ar y gweithdrefnau y cynhelir adolygiadau oddi tanynt gan y darparwr gwasanaethau maethu yn unol â rheoliad 9, a monitro eu heffeithiolrwydd o bryd i’w gilydd,

(b)goruchwylio’r ffordd y cynhelir asesiadau gan y darparwr gwasanaethau maethu, ac

(c)rhoi cyngor a chynnig argymhellion ar unrhyw faterion eraill neu achosion unigol y mae’r darparwr gwasanaethau maethu yn eu hatgyfeirio iddo.

(6Rhaid i’r panel maethu hefyd wneud cofnod ysgrifenedig o’i drafodion a’r rhesymau dros ei argymhellion.

(7Yn y rheoliad hwn, ystyr “argymell” yw argymell i’r darparwr gwasanaethau maethu.

Cyfarfodydd paneli maethu

6.—(1Ni chaniateir i unrhyw fusnes gael ei gynnal gan banel maethu oni bai bod o leiaf y canlynol yn cyfarfod fel panel—

(a)naill ai’r person a benodwyd i gadeirio’r panel neu un o’r is-gadeiryddion,

(b)un aelod sy’n weithiwr cymdeithasol a chanddo o leiaf dair blynedd o brofiad ôl-gymhwyso perthnasol, ac

(c)tri, neu yn achos panel maethu a gyfansoddir ar y cyd o dan reoliad 4(2), bedwar aelod arall, a

phan na fo’r cadeirydd yn bresennol ac na fo’r is-gadeirydd sy’n bresennol yn annibynnol ar y darparwr gwasanaethau maethu, rhaid i o leiaf un o aelodau eraill y panel fod yn annibynnol ar y darparwr gwasanaethau maethu.

(2Rhaid i banel maethu wneud cofnod ysgrifenedig o’i drafodion a’r rhesymau dros ei argymhellion.

Asesu darpar rieni maeth

7.—(1Pan fo person yn gwneud cais i ddod yn rhiant maeth a bod y darparwr gwasanaethau maethu yn penderfynu asesu addasrwydd y person hwnnw i ddod yn rhiant maeth, rhaid cynnal unrhyw asesiad o’r fath yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), o ran y darparwr gwasanaethau maethu—

(a)rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, gael yr wybodaeth a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1 sy’n ymwneud â’r person ac aelodau eraill o aelwyd y person a’i deulu,

(b)pan fo’r person wedi bod yn rhiant maeth o fewn y tair blynedd flaenorol ac wedi ei gymeradwyo felly gan ddarparwr gwasanaethau maethu arall neu gan ddarparwr gwasanaethau maethu yn Lloegr, rhaid iddo ofyn am eirda ysgrifenedig oddi wrth y darparwr gwasanaethau maethu arall hwnnw,

(c)ac eithrio mewn achos pan fo is-baragraff (b) yn gymwys a bod y darparwr gwasanaethau maethu arall yn darparu’r geirda y gofynnir amdano, rhaid iddo gyf-weld ag o leiaf ddau unigolyn sydd wedi eu henwebu gan y person i ddarparu geirda personol ar ei gyfer, a llunio adroddiadau ysgrifenedig am y cyfweliadau,

(d)ac eithrio pan fo’r darparwr gwasanaethau maethu yn awdurdod lleol a bod y person yn byw yn ardal yr awdurdod hwnnw, rhaid iddo ymgynghori â’r awdurdod lleol y mae’r person yn byw yn ei ardal, ac ystyried safbwyntiau’r awdurdod hwnnw,

(e)pan fo’r person wedi ei gymeradwyo yn rhiant maeth gan ddarparwr gwasanaethau maethu arall a’i fod yn cydsynio i hynny, caiff ofyn am gael mynediad i’r cofnodion perthnasol a luniwyd gan y darparwr gwasanaethau maethu arall hwnnw mewn perthynas â’r person, ac

(f)pan fo’r person wedi ei gymeradwyo yn ddarpar fabwysiadydd gan asiantaeth fabwysiadu a’i fod yn cydsynio i hynny, caiff ofyn am gael mynediad i’r cofnodion perthnasol a luniwyd gan yr asiantaeth fabwysiadu honno mewn perthynas â’r person hwnnw.

(3Pan fo—

(a)y darparwr gwasanaethau maethu, ar ôl rhoi sylw i unrhyw wybodaeth a geir o dan baragraff (2), yn penderfynu nad yw’r person yn addas i ddod yn rhiant maeth, neu

(b)y person yn anaddas i ddod yn rhiant maeth yn rhinwedd paragraffau (8) i (10), ac nid yw paragraff (11) yn gymwys,

rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu hysbysu’r person yn ysgrifenedig nad yw’n addas i fod yn rhiant maeth, gan roi’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

(4O ran yr hysbysiad ym mharagraff (3)—

(a)nid yw’n benderfyniad y caiff y person wneud cais i Weinidogion Cymru am adolygiad gan banel adolygu annibynnol mewn cysylltiad ag ef,

(b)caniateir iddo gael ei roi er gwaethaf nad yw’r darparwr gwasanaethau maethu wedi cael yr holl wybodaeth a nodir ym mharagraff (2), a

(c)ni chaniateir iddo gael ei roi fwy na 10 niwrnod gwaith ar ôl i’r darparwr gwasanaethau maethu gael yr holl wybodaeth a nodir ym mharagraff (2).

(5Pan fo’r darparwr gwasanaethau maethu wedi cael yr holl wybodaeth a nodir ym mharagraff (2) ac na fo wedi rhoi’r hysbysiad ym mharagraff (3) o fewn 10 niwrnod gwaith i wneud hynny, rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu, yn ddarostyngedig i baragraff (6)—

(a)cael yr wybodaeth a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 1 sy’n ymwneud â’r person ac aelodau eraill o aelwyd y person ac unrhyw wybodaeth arall yr ystyrir ei bod yn berthnasol,

(b)ystyried a yw’r person yn addas i fod yn rhiant maeth ac a yw aelwyd y person yn addas ar gyfer unrhyw blentyn,

(c)llunio adroddiad ysgrifenedig ar y person sy’n cynnwys y materion a ganlyn—

(i)yr wybodaeth sy’n ofynnol gan Atodlen 1 ac unrhyw wybodaeth arall y mae’r darparwr gwasanaethau maethu yn ystyried ei bod yn berthnasol,

(ii)asesiad y darparwr gwasanaethau maethu o addasrwydd y person i fod yn rhiant maeth; a

(iii)cynigion y darparwr gwasanaethau maethu ynghylch unrhyw delerau cymeradwyo, a

(d)hysbysu’r person bod yr achos i’w atgyfeirio i’r panel maethu, a rhoi copi i’r person o’r adroddiad a lunnir o dan is-baragraff (c) gan wahodd y person i anfon unrhyw sylwadau yn ysgrifenedig i’r darparwr gwasanaethau maethu o fewn 10 niwrnod gwaith sy’n dechrau â’r dyddiad yr anfonir yr hysbysiad.

(6Pan fo’r darparwr gwasanaethau maethu, ar ôl rhoi sylw i unrhyw wybodaeth a geir o dan baragraff (5)(a), yn penderfynu nad yw’r person yn debygol o gael ei ystyried yn addas i ddod yn rhiant maeth, caiff fwrw ymlaen i lunio adroddiad ysgrifenedig o dan baragraff (5)(c) er gwaethaf nad yw o bosibl wedi cael yr holl wybodaeth am y person sy’n ofynnol gan baragraff (5)(c).

(7Ar ddiwedd y cyfnod o 10 niwrnod gwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (5)(d) (neu pan geir sylwadau’r person, pa un bynnag sydd gynharaf), rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu anfon—

(a)yr adroddiad a lunnir o dan baragraff (5)(c),

(b)sylwadau’r person ar yr adroddiad hwnnw, os oes sylwadau, ac

(c)unrhyw wybodaeth berthnasol arall a geir gan y darparwr gwasanaethau maethu,

i’r panel maethu.

(8Yn ddarostyngedig i baragraff (11), nid yw’r person yn addas i fod yn rhiant maeth os yw’r person, neu unrhyw aelod o aelwyd y person sy’n 18 oed neu drosodd—

(a)wedi ei euogfarnu o drosedd benodedig a gyflawnwyd pan oedd yn 18 oed neu drosodd, neu

(b)wedi cael rhybuddiad gan gwnstabl mewn cysylltiad ag unrhyw drosedd o’r fath.

(9Ym mharagraff (8), ystyr “trosedd benodedig” (“specified offence”) yw—

(a)trosedd yn erbyn plentyn,

(b)trosedd a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 2,

(c)trosedd yn groes i adran 170 o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979(9) mewn perthynas â nwyddau y gwaherddir eu mewnforio o dan adran 42 o Ddeddf Cydgrynhoi Tollau 1876(10)(gwaharddiadau a chyfyngiadau) pan oedd y nwyddau gwaharddedig yn cynnwys ffotograffau anweddus o blant o dan 16 oed,

(d)unrhyw drosedd arall sy’n ymwneud ag anaf corfforol i blentyn, ac eithrio trosedd o ymosod cyffredin neu guro, ac

mae i’r ymadrodd “trosedd yn erbyn plentyn” yr ystyr a roddir i “offence against a child” gan adran 26(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000(11), er gwaethaf bod y ddarpariaeth honno wedi ei diddymu(12), ac eithrio nad yw’n cynnwys trosedd yn groes i adran 9 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003(13) (gweithgaredd rhywiol gyda phlentyn) mewn achos pan oedd y troseddwr o dan 20 oed ar adeg cyflawni’r drosedd a bod y plentyn yn 13 oed neu drosodd.

(10Yn ddarostyngedig i baragraff (11), nid yw person yn addas i fod yn rhiant maeth os yw’r person, neu unrhyw aelod o aelwyd y person sy’n 18 oed neu drosodd—

(a)wedi ei euogfarnu o drosedd a bennir ym mharagraff 11 o Ran 2 o Atodlen 2 a gyflawnwyd pan oedd yn 18 oed neu drosodd, neu wedi cael rhybuddiad gan gwnstabl mewn cysylltiad ag unrhyw drosedd o’r fath, neu

(b)yn dod o fewn paragraff 12 neu 13 o Ran 2 o Atodlen 2,

er gwaethaf bod y troseddau statudol yn Rhan 2 o Atodlen 2 wedi eu diddymu.

(11Caiff y darparwr gwasanaethau maethu ystyried bod person sy’n dod o fewn paragraff (8) neu (10) yn addas i fod yn rhiant maeth mewn perthynas â phlentyn (neu blant) penodol, os yw’r darparwr gwasanaethau maethu wedi ei fodloni bod hynny’n ofynnol er lles y plentyn hwnnw (neu’r plant hynny), a naill ai—

(a)bod y person, neu aelod o’i aelwyd, yn berthynas i’r plentyn, neu

(b)bod y person eisoes yn gweithredu fel rhiant maeth i’r plentyn.

(12Yn y rheoliad hwn, rheoliad 9 ac Atodlen 1, mae person sy’n byw yn aelwyd y person o dan drefniadau rhiant a phlentyn yn aelod o aelwyd y person.

Cymeradwyo rhieni maeth

8.—(1Ni chaiff darparwr gwasanaethau maethu gymeradwyo person sydd wedi ei gymeradwyo’n rhiant maeth gan ddarparwr gwasanaethau maethu arall neu gan ddarparwr gwasanaethau maethu yn Lloegr ac nad yw’r gymeradwyaeth honno wedi ei therfynu.

(2Ni chaiff darparwr gwasanaethau maethu gymeradwyo person yn rhiant maeth oni bai—

(a)bod y darparwr wedi cwblhau ei asesiad o addasrwydd y person, a

(b)bod panel maethu’r darparwr wedi ystyried y cais.

(3Rhaid i ddarparwr gwasanaethau maethu, wrth benderfynu pa un ai i gymeradwyo person yn rhiant maeth ac o ran telerau unrhyw gymeradwyaeth, ystyried argymhelliad y panel maethu.

(4Ni chaiff unrhyw aelod o’r panel maethu gymryd rhan mewn unrhyw benderfyniad a wneir gan ddarparwr gwasanaethau maethu o dan baragraff (3).

(5Os yw darparwr gwasanaethau maethu yn penderfynu cymeradwyo person yn rhiant maeth, rhaid i’r darparwr—

(a)rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r person sy’n pennu telerau’r gymeradwyaeth i fod yn rhiant maeth, er enghraifft, a yw’r gymeradwyaeth wedi ei rhoi mewn cysylltiad â phlentyn neu blant penodol a enwir, neu nifer penodol o blant ac ystod oedran benodol o blant, neu leoliadau o unrhyw fath penodol, neu o dan unrhyw amgylchiadau penodol, a

(b)ymrwymo i gytundeb gofal maeth â’r person.

(6Os yw darparwr gwasanaethau maethu yn ystyried nad yw person yn addas i weithredu fel rhiant maeth, rhaid i’r darparwr, yn ddarostyngedig i baragraff (7)—

(a)rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r person o’r cynnig i beidio â chymeradwyo’r person fel un sy’n addas i weithredu fel rhiant maeth (“penderfyniad”), ynghyd â’r rhesymau dros y cynnig hwnnw a chopi o argymhelliad y panel maethu, a

(b)hysbysu’r person y caiff, o fewn 28 o ddiwrnodau i ddyddiad yr hysbysiad—

(i)cyflwyno unrhyw sylwadau ysgrifenedig y mae’r person yn dymuno eu cyflwyno i’r darparwr gwasanaethau maethu; neu

(ii)gwneud cais i Weinidogion Cymru am adolygiad o’r penderfyniad gan banel adolygu annibynnol.

(7Nid yw paragraff (6)(b)(ii) yn gymwys mewn achos pan fo’r darparwr gwasanaethau maethu yn penderfynu nad yw o’r farn mwyach fod person yn addas i weithredu neu i barhau i weithredu, yn ôl y digwydd, fel rhiant maeth o dan reoliad 7(11).

(8Os, o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (6)(b)—

(a)nad yw’r darparwr gwasanaethau maethu yn cael unrhyw sylwadau, a

(b)nad yw’r person yn gwneud cais i Weinidogion Cymru am adolygiad gan banel adolygu annibynnol o’r penderfyniad,

caiff y darparwr gwasanaethau maethu fwrw ymlaen i wneud ei benderfyniad.

(9Os yw’r darparwr gwasanaethau maethu yn cael unrhyw sylwadau ysgrifenedig o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (6)(b), rhaid i’r darparwr—

(a)atgyfeirio’r achos i’r panel maethu i’w ystyried ymhellach, a

(b)gwneud penderfyniad, gan ystyried unrhyw argymhelliad newydd a wneir gan y panel maethu.

(10Os yw’r person, o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (6)(b), yn gwneud cais i Weinidogion Cymru am adolygiad gan banel adolygu annibynnol o’r penderfyniad, rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu wneud penderfyniad gan ystyried argymhelliad y panel maethu ac argymhelliad y panel adolygu annibynnol.

(11Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl gwneud y penderfyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (8), (9)(b) neu (10) yn ôl y digwydd, rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person ac—

(a)os cymeradwyo’r person i fod yn rhiant maeth yw’r penderfyniad, gydymffurfio â pharagraff (5) mewn perthynas â’r person, neu

(b)os peidio â chymeradwyo’r person yw’r penderfyniad, ddarparu rhesymau ysgrifenedig dros ei benderfyniad.

(12Mewn achos pan fo panel adolygu annibynnol wedi gwneud argymhelliad, rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu anfon copi o’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (11) at Weinidogion Cymru.

Adolygu a therfynu cymeradwyaeth

9.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu adolygu cymeradwyaeth pob rhiant maeth yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Rhaid cynnal adolygiad o fewn blwyddyn ar ôl cael y gymeradwyaeth fan bellaf, ac ar ôl hynny pa bryd bynnag y mae’r darparwr gwasanaethau maethu yn ystyried ei bod yn angenrheidiol, ond o leiaf unwaith y flwyddyn.

(3Wrth gynnal adolygiad, rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu—

(a)gwneud unrhyw ymholiadau a chael unrhyw wybodaeth y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn adolygu a yw’r rhiant maeth yn parhau i fod yn addas i weithredu fel rhiant maeth ac a yw aelwyd y rhiant maeth yn parhau i fod yn aelwyd addas,

(b)ceisio ac ystyried safbwyntiau—

(i)y rhiant maeth;

(ii)(yn ddarostyngedig i oedran y plentyn a’i ddealltwriaeth) unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gyda’r rhiant maeth, a

(iii)yn achos darparwr gwasanaethau maethu rheoleiddiedig, unrhyw awdurdod lleol sydd wedi lleoli plentyn gyda’r rhiant maeth yn y flwyddyn flaenorol.

(4Ar ddiwedd yr adolygiad rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu lunio adroddiad ysgrifenedig sy’n nodi—

(a)a yw’r rhiant maeth yn parhau i fod yn addas i weithredu fel rhiant maeth ac a yw aelwyd y rhiant maeth yn parhau i fod yn addas, a

(b)a yw telerau cymeradwyaeth y rhiant maeth yn parhau i fod yn briodol.

(5Rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu, ar adeg yr adolygiad cyntaf o dan y rheoliad hwn, atgyfeirio ei adroddiad i’r panel maethu er mwyn iddo ei ystyried, a chaiff wneud hynny ar adeg unrhyw adolygiad dilynol.

(6Os yw’r darparwr gwasanaethau maethu yn penderfynu, ar ôl ystyried unrhyw argymhelliad a wneir gan y panel maethu, fod y rhiant maeth ac aelwyd y rhiant maeth yn parhau i fod yn addas a bod telerau cymeradwyaeth y rhiant maeth yn parhau i fod yn briodol, rhaid i’r darparwr roi hysbysiad ysgrifenedig i’r rhiant maeth o’r penderfyniad hwnnw.

(7Os nad yw’r darparwr gwasanaethau maethu, wrth ystyried unrhyw argymhelliad a wneir gan y panel maethu, wedi ei fodloni mwyach fod y rhiant maeth ac aelwyd y rhiant maeth yn parhau i fod yn addas, neu fod telerau’r gymeradwyaeth yn briodol, rhaid i’r darparwr (yn ddarostyngedig i baragraff (9))—

(a)rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r rhiant maeth o’r cynnig i derfynu neu, yn ôl y digwydd, ddiwygio telerau cymeradwyaeth y rhiant maeth (“penderfyniad”), ynghyd â’r rhesymau dros y cynnig hwnnw a chopi o unrhyw argymhelliad a wneir gan y panel maethu, a

(b)hysbysu’r rhiant maeth y caiff, o fewn 28 o ddiwrnodau i ddyddiad yr hysbysiad—

(i)cyflwyno unrhyw sylwadau ysgrifenedig y mae’r rhiant maeth yn dymuno eu cyflwyno i’r darparwr gwasanaethau maethu, neu

(ii)gwneud cais i Weinidogion Cymru am adolygiad o’r penderfyniad gan banel adolygu annibynnol.

(8Nid yw paragraff (7)(b)(ii) yn gymwys i achos pan fo’r darparwr gwasanaethau maethu yn penderfynu nad yw o’r farn mwyach fod person yn addas i weithredu neu i barhau i weithredu, yn ôl y digwydd, fel rhiant maeth o dan reoliad 7(11).

(9Os, o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (7)(b)—

(a)nad yw’r darparwr gwasanaethau maethu yn cael unrhyw sylwadau, a

(b)nad yw’r rhiant maeth yn gwneud cais i Weinidogion Cymru am adolygiad o’r penderfyniad gan banel adolygu annibynnol,

caiff y darparwr gwasanaethau maethu fwrw ymlaen i wneud ei benderfyniad.

(10Os yw’r darparwr gwasanaethau maethu yn cael unrhyw sylwadau ysgrifenedig o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (7)(b), rhaid i’r darparwr—

(a)atgyfeirio’r achos i’r panel maethu er mwyn iddo ei ystyried ymhellach, a

(b)gwneud penderfyniad, gan ystyried unrhyw argymhelliad a wneir gan y panel maethu.

(11Os yw’r rhiant maeth yn gwneud cais, o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (7)(b), i Weinidogion Cymru am adolygiad o’r penderfyniad gan banel adolygu annibynnol, rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu wneud ei benderfyniad gan ystyried unrhyw argymhellion a wneir gan y panel maethu ac argymhelliad y panel adolygu annibynnol.

(12Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl gwneud y penderfyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (9), (10)(b) neu (11), rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu roi hysbysiad ysgrifenedig i’r rhiant maeth sy’n datgan, yn ôl y digwydd—

(a)bod y rhiant maeth ac aelwyd y rhiant maeth yn parhau i fod yn addas, a bod telerau’r gymeradwyaeth yn parhau i fod yn briodol,

(b)bod cymeradwyaeth y rhiant maeth wedi ei therfynu o ddyddiad penodedig, a’r rhesymau dros ei therfynu, neu

(c)telerau diwygiedig y gymeradwyaeth a’r rhesymau dros ei diwygio.

(13Caiff rhiant maeth roi hysbysiad ysgrifenedig i’r darparwr gwasanaethau maethu ar unrhyw adeg sy’n nodi nad yw’n dymuno parhau i weithredu fel rhiant maeth mwyach, ac ar hynny mae cymeradwyaeth y rhiant maeth wedi ei therfynu gydag effaith o 28 o ddiwrnodau i’r dyddiad y mae’r darparwr gwasanaethau maethu yn cael yr hysbysiad.

(14Rhaid i gopi o unrhyw hysbysiad a roddir o dan y rheoliad hwn gael ei anfon i’r awdurdod lleol ar gyfer unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gyda’r rhiant maeth (oni bai mai’r awdurdod lleol yw’r darparwr gwasanaethau maethu hefyd).

(15Mewn achos pan fo panel adolygu annibynnol wedi gwneud argymhelliad, rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu anfon copi o’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (13) at Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth sydd i’w hanfon i’r panel adolygu annibynnol

10.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaethau maethu yn cael hysbysiad oddi wrth Weinidogion Cymru bod person wedi gwneud cais am adolygiad o benderfyniad gan banel adolygu annibynnol.

(2Rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu, o fewn 10 niwrnod gwaith i gael yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), anfon y dogfennau a’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (3) at Weinidogion Cymru.

(3Mae’r dogfennau a’r wybodaeth a ganlyn wedi eu pennu at ddibenion paragraff (2)—

(a)copi o unrhyw adroddiad a lunnir ar gyfer y panel maethu, ac unrhyw ddogfennau eraill a atgyfeirir i’r panel maethu, at ddibenion rheoliad 7, 8 neu 9 yn ôl y digwydd,

(b)unrhyw wybodaeth berthnasol mewn perthynas â’r person a gafwyd gan y darparwr gwasanaethau maethu ar ôl y dyddiad y lluniwyd yr adroddiad neu yr atgyfeiriwyd y dogfennau i’r panel maethu, ac

(c)copi o’r hysbysiad ac o unrhyw ddogfennau eraill a anfonir yn unol â rheoliad 8(6)(a) neu 9(7)(a).

Cofnodion achos sy’n ymwneud â rhieni maeth ac eraill

11.—(1Rhaid i ddarparwr gwasanaethau maethu gynnal cofnod achos ar gyfer pob rhiant maeth sydd wedi ei gymeradwyo gan y darparwr a rhaid iddo gynnwys copïau o’r dogfennau a bennir ym mharagraff (2) a’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (3).

(2Y dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw, yn ôl y digwydd—

(a)yr adroddiad a lunnir o dan reoliad 7(5)(c) ac unrhyw adroddiadau eraill a gyflwynir i’r panel maethu,

(b)yr hysbysiad o gymeradwyaeth a roddir o dan reoliad 8(5)(a),

(c)unrhyw adroddiad ar adolygiad o gymeradwyaeth a lunnir o dan reoliad 9(4)(a),

(d)unrhyw hysbysiad a roddir o dan reoliad 9(12),

(e)y cytundeb gofal maeth sy’n nodi’r materion a’r rhwymedigaethau a restrir yn Atodlen 3, ac

(f)unrhyw argymhellion a wneir gan y panel maethu.

(3Yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yw, yn ôl y digwydd—

(a)cofnod o bob lleoliad gyda’r rhiant maeth gan gynnwys enw, oedran a rhyw pob plentyn sydd wedi ei leoli, dyddiad dechrau a therfynu pob lleoliad ac amgylchiadau’r terfyniad,

(b)yr wybodaeth a gaiff y darparwr gwasanaethau maethu mewn perthynas ag asesu a chymeradwyo’r rhiant maeth ac mewn perthynas ag unrhyw adolygiad o’r gymeradwyaeth neu ei therfynu.

(4Rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu lunio cofnod ar gyfer pob person nad yw’n ei gymeradwyo’n rhiant maeth, neu y mae ei gais wedi ei dynnu’n ôl cyn ei gymeradwyo, a rhaid iddo gynnwys, mewn perthynas â’r person—

(a)yr wybodaeth a geir mewn cysylltiad â’r asesiad,

(b)unrhyw adroddiad a gyflwynir i’r panel maethu ac unrhyw argymhelliad a wneir gan y panel maethu, ac

(c)unrhyw hysbysiad a roddir o dan reoliad 8.

(5Rhaid i ddarparwr gwasanaethau maethu awdurdod lleol hefyd gynnal cofnod achos ar gyfer pob person y mae plentyn wedi ei leoli gydag ef o dan reoliad 26 o Reoliadau 2015 (cymeradwyo dros dro berthynas, cyfaill neu berson arall sydd â chysylltiad â phlentyn) neu o dan reoliad 28 o’r Rheoliadau hynny (cymeradwyo dros dro ddarpar fabwysiadydd penodol fel rhiant maeth) a rhaid iddo gynnwys mewn perthynas â’r person hwnnw—

(a)cofnod mewn perthynas â’r lleoliad, gan gynnwys enw, oedran a rhyw pob plentyn sydd wedi ei leoli, dyddiad dechrau’r lleoliad ac, os yw’r lleoliad wedi ei derfynu, dyddiad ac amgylchiadau’r terfyniad, a

(b)yr wybodaeth a geir mewn perthynas â’r ymholiadau a wneir o dan reoliad 26(2) neu reoliad 28 (fel y bo’n briodol) o Reoliadau 2015.

Rhestr o rieni maeth

12.  Rhaid i’r darparwr gwasanaethau maethu gynnal rhestr o rieni maeth a chofnodi ynddi y manylion a ganlyn mewn perthynas â phob rhiant maeth—

(a)enw, cyfeiriad, dyddiad geni a rhyw pob rhiant maeth ac, yn achos gwasanaeth maethu awdurdod lleol, enw, cyfeiriad, dyddiad geni a rhyw pob person y mae wedi lleoli plentyn gydag ef o dan reoliad 26 neu reoliad 28 o Reoliadau 2015,

(b)dyddiad y gymeradwyaeth a dyddiad pob adolygiad o gymeradwyaeth (yn ôl y digwydd), ac

(c)telerau cyfredol y gymeradwyaeth (os oes rhai).

Cadw cofnodion a’u cyfrinachedd

13.—(1Rhaid cadw’r cofnodion a lunnir mewn perthynas â rhiant maeth o dan reoliad 11(1), ac unrhyw gofnod sy’n ymwneud â’r person hwnnw ar y rhestr a gynhelir o dan reoliad 12, am o leiaf ddeng mlynedd o’r dyddiad y caiff cymeradwyaeth y person hwnnw ei therfynu.

(2Rhaid cadw’r cofnodion a lunnir gan awdurdod lleol o dan reoliad 11(5) mewn perthynas â pherson y mae plentyn wedi ei leoli gydag ef o dan reoliad 26 neu reoliad 28 o Reoliadau 2015, ac unrhyw gofnod sy’n ymwneud â pherson o’r fath ar y rhestr a gynhelir o dan reoliad 12, am o leiaf ddeng mlynedd o’r dyddiad y caiff y lleoliad ei derfynu.

(3Rhaid cadw’r cofnodion a lunnir o dan reoliad 11(4) am o leiaf dair blynedd o’r adeg y caiff y cais i ddod yn rhiant maeth ei wrthod neu ei dynnu’n ôl, yn ôl y digwydd.

(4Rhaid i unrhyw gofnodion a gynhelir yn unol â rheoliad 11 neu 12 gael eu cadw’n ddiogel ac ni chaniateir iddynt gael eu datgelu i unrhyw berson ac eithrio—

(a)yn unol ag unrhyw ddarpariaeth mewn statud, neu a wneir o dan neu yn rhinwedd statud, yr awdurdodir mynediad i gofnodion o’r fath oddi tani, neu

(b)yn unol ag unrhyw orchymyn llys sy’n awdurdodi mynediad i gofnodion o’r fath.

Darpariaethau trosiannol

14.—(1Bernir bod unrhyw aelod o banel maethu a sefydlir o dan reoliad 24 o Reoliadau 2003 a arhosodd yn aelod o’r panel yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, o’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym, wedi ei benodi’n aelod o banel a gyfansoddir o dan y Rheoliadau hyn am gyfnod sy’n cyfateb i weddill tymor y swydd y penodwyd y person amdano o dan Reoliadau 2003.

(2Pan fo panel maethu a sefydlir o dan reoliad 24 o Reoliadau 2003 yn dechrau ystyried achos a atgyfeirir iddo o dan adran 26(1) o’r Rheoliadau hynny ond yn gohirio gwneud argymhelliad tan ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym, caiff y panel maethu barhau i ystyried yr achos hwnnw o dan Reoliadau 2003 fel pe na bai’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud.

(3Mewn achos pan oedd darparwr gwasanaeth maethu, fel y’i diffinnir yn Rheoliadau 2003(14), cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym—

(a)wedi dechrau, ond heb gwblhau, ei asesiad o ddarpar riant maeth o dan reoliad 27 o Reoliadau 2003,

(b)wedi dechrau ystyried, ond heb wneud, ei benderfyniad i gymeradwyo person fel rhiant maeth o dan reoliad 28 o Reoliadau 2003,

(c)wedi dechrau, ond heb gwblhau, ei adolygiad o gymeradwyaeth i riant maeth o dan reoliad 29 o Reoliadau 2003,

rhaid i’r darparwr gwasanaeth maethu gwblhau’r swyddogaethau hynny fel pe na bai’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud.

Huw Irranca-Davies

Y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

10 Rhagfyr 2018

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources