- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
92.—(1) Os yw Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn briodol gwneud taliadau o fenthyciad cynhaliaeth neu grant drwy drosglwyddo’r taliadau i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, cânt ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr cymwys ddarparu manylion unrhyw gyfrif o’r fath yn y Deyrnas Unedig y caniateir i daliadau gael eu gwneud iddo.
(2) Os yw’r amod hwnnw wedi ei osod, ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad o’r benthyciad neu’r grant hyd nes bod y myfyriwr cymwys wedi cydymffurfio.
93.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys—
(a)y mae grant (ac eithrio grant myfyriwr anabl) neu fenthyciad cynhaliaeth yn daladwy iddo mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd, a
(b)sy’n dod yn garcharor yn ystod y flwyddyn academaidd.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae swm y benthyciad cynhaliaeth neu’r grant sy’n daladwy wedi ei ostwng yn unol â’r fformiwla a ganlyn—
Pan—
S yw swm y benthyciad cynhaliaeth neu’r grant sy’n daladwy;
dB yw nifer y diwrnodau yn y flwyddyn academaidd o dan sylw;
dC yw nifer y diwrnodau yn ystod y flwyddyn pan yw’r myfyriwr cymwys yn garcharor.
(3) Ond caiff Gweinidogion Cymru benderfynu nad yw’r gostyngiad i’w wneud os ydynt yn meddwl ei bod yn briodol o dan yr amgylchiadau, gan roi sylw penodol i—
(a)y caledi ariannol a all gael ei achosi i’r myfyriwr drwy ostwng swm y benthyciad neu’r grant sy’n daladwy;
(b)pa un a fyddai’r gostyngiad yn effeithio ar allu’r myfyriwr i barhau â’r cwrs presennol.
94.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys—
(a)y mae grant (ac eithrio grant myfyriwr anabl) neu fenthyciad cynhaliaeth yn daladwy iddo mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd, a
(b)sy’n peidio ag ymgymryd â’r cwrs presennol am unrhyw gyfnod yn ystod y flwyddyn academaidd (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel bod yn absennol).
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae swm y benthyciad cynhaliaeth neu’r grant sy’n daladwy wedi ei ostwng yn unol â’r fformiwla a ganlyn—
Pan—
S yw swm y benthyciad cynhaliaeth neu’r grant sy’n daladwy;
dB yw nifer y diwrnodau yn y flwyddyn academaidd o dan sylw;
dAbs yw nifer y diwrnodau yn ystod y flwyddyn pan yw’r myfyriwr cymwys yn absennol o’r cwrs presennol.
(3) Ond caiff Gweinidogion Cymru benderfynu nad yw’r gostyngiad i’w wneud os ydynt yn meddwl ei bod yn briodol o dan yr amgylchiadau, gan roi sylw penodol i—
(a)y rhesymau dros absenoldeb y myfyriwr cymwys,
(b)hyd yr absenoldeb, ac
(c)unrhyw galedi ariannol a all gael ei achosi drwy ostwng swm y benthyciad neu’r grant sy’n daladwy.
(4) Nid yw myfyriwr cymwys i’w drin fel pe bai’n absennol at ddibenion y rheoliad hwn o dan yr amgylchiadau a ganlyn—
(a)pan fo’r absenoldeb oherwydd salwch ac am gyfnod nad yw’n hwy na 60 diwrnod;
(b)pan fo’r cwrs presennol yn gwrs gradd cywasgedig, unrhyw ran o’r flwyddyn academaidd pan nad yw’n ofynnol i’r myfyriwr fod yn bresennol yn y sefydliad;
(c)pan fo gan y myfyriwr anabledd ond na fo’n gallu bod yn bresennol yn y sefydliad am reswm sy’n ymwneud â’r anabledd hwnnw;
(d)pan fo’r myfyriwr ar gyfnod astudio neu ar gyfnod lleoliad gwaith yn ystod blwyddyn Erasmus;
(e)pan fo’r absenoldeb am fod y myfyriwr cymwys yn dod yn garcharor (gweler rheoliad 93).
95.—(1) Pan fo cyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys wedi dod i ben neu wedi cael ei derfynu, mae unrhyw swm o’r benthyciad cynhaliaeth neu’r grant sy’n daladwy mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd wedi ei ostwng yn unol â’r fformiwla a ganlyn—
Pan—
S yw swm y benthyciad cynhaliaeth neu’r grant sy’n daladwy;
ctB yw nifer y cyfnodau talu yn y flwyddyn academaidd o dan sylw;
ctT yw nifer y cyfnodau talu yn y flwyddyn sy’n dechrau ar ôl i gyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys ddod i ben neu gael ei derfynu.
(2) Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad o swm y benthyciad cynhaliaeth neu’r grant mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod talu sy’n dechrau ar ôl i gyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys ddod i ben neu gael ei derfynu.
(3) Mae paragraffau (4) i (8) yn gymwys pan fo—
(a)swm o grant yn daladwy i fyfyriwr cymwys (“P”) mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd, a
(b)cyfnod cymhwystra P yn dod i ben neu’n cael ei derfynu ar neu ar ôl y diwrnod y mae’r cwrs yn dechrau arno mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu—
(a)swm y grant a fyddai, pe na bai cymhwystra P wedi dod i ben nac wedi cael ei derfynu, yn daladwy i P mewn cysylltiad â’r cyfnod talu pan ddaeth cyfnod cymhwystra P i ben neu pan gafodd ei derfynu (y “swm llawn”), a
(b)cyfran y swm llawn a fyddai’n daladwy i P mewn cysylltiad â’r cyfnod sy’n dechrau ar ddechrau’r cyfnod talu hwnnw ac sy’n gorffen pan ddaeth cymhwystra P i ben neu pan gafodd ei derfynu (y “swm rhannol”).
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru gymryd y camau a grybwyllir ym mharagraff (6)—
(a)pan fônt wedi gwneud taliad i P o swm o grant mewn cysylltiad â’r cyfnod talu pan ddaeth cyfnod cymhwystra P i ben neu pan gafodd ei derfynu,
(b)pan fo’r taliad wedi ei wneud cyn i gyfnod cymhwystra P ddod i ben neu gael ei derfynu, ac
(c)pan fo’r swm a delir yn fwy na’r swm rhannol.
(6) Nod y camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (5) yw naill ai—
(a)gostwng swm y grant sy’n daladwy i P yn ôl y swm dros ben y cyfeirir ato ym mharagraff (5)(c) (ac yn unol â hynny, trin y swm dros ben fel gordaliad), neu
(b)os yw Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn briodol, estyn cyfnod cymhwystra P mewn cysylltiad â’r grant hyd ddiwedd y cyfnod talu (ac yn unol â hynny, mae’r swm llawn yn daladwy).
(7) Pan—
(a)bo Gweinidogion Cymru wedi gwneud taliad i P, neu y maent i fod i wneud taliad iddo, o swm o grant mewn cysylltiad â’r cyfnod talu pan ddaeth cyfnod cymhwystra P i ben neu pan gafodd ei derfynu, a
(b)bo’r taliad—
(i)wedi ei wneud neu i fod i gael ei wneud ar ôl i gyfnod cymhwystra P ddod i ben neu gael ei derfynu, neu
(ii)wedi ei wneud cyn hynny ac nad yw’n fwy na’r swm rhannol,
swm y grant sy’n daladwy yw’r swm rhannol oni bai bod paragraff (8) yn gymwys.
(8) O dan yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7), o ran Gweinidogion Cymru—
(a)cânt benderfynu bod cyfnod cymhwystra P yn cael ei estyn i ddiwedd y cyfnod talu o dan sylw (ac yn unol â hynny, mae swm llawn y grant yn daladwy) os ydynt yn meddwl ei bod yn briodol gwneud hynny, a
(b)rhaid iddynt benderfynu felly os yw swm y grant o dan sylw yn swm grant myfyriwr anabl a delir mewn cysylltiad â gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol.
(9) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyfnod talu” yw cyfnod (pa un a yw’n flwyddyn academaidd gyfan neu chwarter o flwyddyn academaidd) y mae fenthyciad cynhaliaeth neu grant yn daladwy, neu y byddai’n daladwy, mewn cysylltiad ag ef oni bai am y ffaith bod cyfnod cymhwystra’r myfyriwr cymwys wedi dod i ben neu wedi cael ei derfynu.
96.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn un o amodau hawlogaeth i gael taliad o fenthyciad at ffioedd dysgu neu fenthyciad cynhaliaeth fod yn rhaid i fyfyriwr cymwys ddarparu iddynt ei rif yswiriant gwladol yn y Deyrnas Unedig.
(2) Os yw’r amod hwnnw wedi ei osod, ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw daliad o’r benthyciad hyd nes bod y myfyriwr cymwys wedi cydymffurfio ag ef, oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni, oherwydd amgylchiadau eithriadol, y byddai’n briodol gwneud taliad er na chydymffurfiwyd â’r amod.
97.—(1) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi ei gwneud yn ofynnol darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth o dan reoliad 35(1) at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a grybwyllir ym mharagraff (2) o’r rheoliad hwn, cânt gadw yn ôl unrhyw daliad o fenthyciad at ffioedd dysgu neu fenthyciad cynhaliaeth hyd nes bod y myfyriwr yn cydymffurfio â’r gofyniad neu’n darparu esboniad boddhaol dros beidio â gwneud hynny.
(2) Y dibenion yw—
(a)penderfynu a yw’r myfyriwr yn fyfyriwr cymwys sy’n cymhwyso i gael benthyciad;
(b)penderfynu ar swm y benthyciad sy’n daladwy i’r myfyriwr;
(c)unrhyw fater sy’n ymwneud ag ad-dalu benthyciad gan y myfyriwr.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: