- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
35.—(1) Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais i wneud hynny, rhaid i fyfyriwr cymwys ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru—
(a)at ddibenion penderfynu—
(i)cymhwystra myfyriwr;
(ii)a yw myfyriwr yn cymhwyso i gael categori penodol o gymorth;
(iii)swm y cymorth sy’n daladwy i fyfyriwr;
(iv)a yw gordaliad wedi cael ei wneud i fyfyriwr;
(b)at unrhyw ddiben sy’n ymwneud ag adennill gordaliad;
(c)at unrhyw ddiben sy’n ymwneud ag ad-dalu benthyciad;
(d)at unrhyw ddiben arall sy’n ymwneud â’r Rheoliadau hyn y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei fod yn briodol.
(2) Caniateir i gais o dan baragraff (1) gynnwys gofyn i fyfyriwr cymwys am gael gweld—
(a)ei basbort dilys a ddyroddwyd gan y wladwriaeth y mae’r myfyriwr hwnnw yn wladolyn ohoni,
(b)ei gerdyn adnabod cenedlaethol dilys, neu
(c)ei dystysgrif geni.
(3) Pan fo digwyddiad a grybwyllir ym mharagraff (4) yn digwydd mewn cysylltiad â myfyriwr cymwys, rhaid i’r myfyriwr hysbysu Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y digwyddiad.
(4) Y digwyddiadau yw—
(a)bod y myfyriwr yn tynnu’n ôl o’r cwrs presennol, yn cefnu arno neu’n cael ei ddiarddel ohono;
(b)bod y myfyriwr yn trosglwyddo i gwrs arall (pa un ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad gwahanol);
(c)bod y myfyriwr fel arall yn peidio ag ymgymryd â’r cwrs presennol ac nad yw’n bwriadu parhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd neu na chaniateir iddo barhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd;
(d)bod y myfyriwr yn absennol o’r cwrs presennol—
(i)am fwy na 60 diwrnod oherwydd salwch, neu
(ii)am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall;
(e)bod y mis ar gyfer dechrau ar y cwrs presennol neu ei gwblhau yn newid;
(f)bod y manylion a ganlyn, sef—
(i)cyfeiriad cartref y myfyriwr neu ei gyfeiriad yn ystod y tymor,
(ii)rhif ffôn cartref y myfyriwr neu ei rif ffôn yn ystod y tymor, neu
(iii)cyfeiriad e-bost cartref y myfyriwr neu ei gyfeiriad e-bost yn ystod y tymor,
yn newid.
(5) Rhaid darparu gwybodaeth neu ddogfennaeth y mae’n ofynnol iddi gael ei darparu i Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn ar y ffurf honno a bennir gan Weinidogion Cymru.
(6) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol bod rhaid llofnodi—
(a)cais o dan reoliad 32;
(b)unrhyw ddogfennaeth arall a ddarperir iddynt o dan y Rheoliadau hyn,
yn y modd (gan gynnwys ar ffurf electronig) a bennir ganddynt.
(7) Mae’r cyfeiriad at fyfyriwr cymwys ym mharagraff (1) i’w drin fel pe bai’n cynnwys person sy’n gwneud cais o dan reoliad 32 hyd yn oed os penderfyniad Gweinidogion Cymru ar y cais yw nad yw’r person yn fyfyriwr cymwys.
(8) Gweler rheoliad 20 am ddarpariaeth ynghylch canlyniadau methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan y rheoliad hwn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: