- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
Enillion Troseddau, Cymru
Gwnaed
20 Chwefror 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
21 Chwefror 2018
Yn dod i rym
1 Ebrill 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 453(1A) a (2) o Ddeddf Enillion Troseddau 2002(1).
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Enillion Troseddau 2002 (Cyfeiriadau at Ymchwilwyr Ariannol Awdurdod Cyllid Cymru) 2018.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2018.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “ACC” (“WRA”) yw Awdurdod Cyllid Cymru;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Enillion Troseddau 2002.
3. Mae cyfeiriad at ymchwilydd ariannol achrededig mewn darpariaeth o’r Ddeddf a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen yn gyfeiriad at ymchwilydd ariannol achrededig sy’n aelod o staff ACC.
4. Mae cyfeiriad at ymchwilydd ariannol achrededig mewn darpariaeth o’r Ddeddf a bennir yn Rhan 2 o’r Atodlen yn gyfeiriad at ymchwilydd ariannol achrededig sy’n aelod o staff ACC ac sydd ar radd 7 neu uwch neu radd gyfatebol.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru
20 Chwefror 2018
Erthyglau 3 a 4
1. Adran 42(2)(c) (cais am orchymyn atal o dan Ran 2 – yn ddarostyngedig i awdurdodiad o dan adran 68(3)(c)).
2. Adrannau 47A(1)(c)(2) (adrannau 47B i 47S: ystyr “appropriate officer”) a 47M(3)(c) (cadwad pellach gan lys ynadon).
3. Pennod 3 o Ran 5 (ar wahân i’r ail gyfeiriad yn adran 290(4)(c)(3)).
4. Adran 352(5)(c)(4) (y person priodol at ddibenion gwarantau chwilio ac ymafael o dan Bennod 2 o Ran 8).
5. Adran 353(10)(c)(5) (y person priodol ar gyfer sicrhau mynediad ar unwaith i fangre pan na fo gorchymyn cyflwyno ar gael).
6. Adran 378(1)(b) (y swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau atafaelu o dan Ran 8).
7. Adran 378(3A)(ab)(6) (y swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau arian parod dan gadwad o dan Ran 8).
8. Adran 378(4)(a) (y swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau gwyngalchu arian o dan Ran 8).
9. Adran 47G(3)(c) (cymeradwyaeth briodol).
10. Adran 68(3)(c) (awdurdodiad ar gyfer ceisiadau ac apelau o dan Ran 2).
11. Adran 290(4)(c) (cymeradwyaeth ymlaen llaw gan uwch-swyddog i gynnal chwiliad arian parod o dan Bennod 3 o Ran 5).
12. Adran 378(2)(d) (uwch-swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau atafaelu).
13. Adran 378(3AA)(b)(7) (uwch-swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau arian parod dan gadwad).
14. Adran 378(6)(c) (uwch-swyddogion priodol at ddibenion ymchwiliadau gwyngalchu arian).
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn darparu bod cyfeiriadau at ymchwilwyr ariannol achrededig yn Neddf Enillion Troseddau 2002 (“y Ddeddf”) i’w darllen fel cyfeiriadau at ymchwilwyr ariannol achrededig sy’n aelodau o staff Awdurdod Cyllid Cymru.
Mae’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn yn nodi’r pwerau y gall ymchwilydd ariannol achrededig eu harfer o dan y Ddeddf.
Caiff ymchwilwyr ariannol achrededig wneud cais am orchmynion atal o dan Ran 2 o’r Ddeddf a chânt ymafael mewn eiddo y mae unrhyw orchymyn atal o’r fath yn gymwys iddo. Caiff ymchwilwyr ariannol achrededig hefyd chwilio am arian parod, ymafael ynddo, ei gadw a gwneud cais i’w fforffedu o dan Bennod 3 o Ran 5 o’r Ddeddf. Cyn arfer pwerau chwilio, rhaid iddynt (oni bai ei bod yn anymarferol gwneud hynny o dan yr amgylchiadau) gael cymeradwyaeth ymlaen llaw oddi wrth naill ai ynad heddwch neu uwch-swyddog y mae’n rhaid iddo hefyd fod yn ymchwilydd ariannol achrededig. Caiff ymchwilwyr ariannol achrededig hefyd wneud cais am orchmynion a gwarantau mewn perthynas ag ymchwiliadau atafaelu, gwyngalchu arian ac arian parod dan gadwad o dan Ran 8 o’r Ddeddf at ddibenion, ymysg pethau eraill, ei gwneud yn ofynnol i berson penodedig gyflwyno deunyddiau penodol; caniatáu chwiliad o fangre benodedig ac ymafael mewn deunyddiau ynddi a’i gwneud yn ofynnol i sefydliad ariannol ddarparu gwybodaeth cwsmeriaid sy’n ymwneud â pherson penodedig. Ymchwilydd ariannol achrededig yn unig, sydd, gan ddibynnu ar natur y gorchymyn neu’r warant, naill ai’n berson priodol, yn swyddog priodol neu’n uwch-swyddog priodol, gaiff wneud cais am y pwerau o dan orchmynion neu warantau o’r fath a/neu eu harfer.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
2002 p. 29. Mewnosodwyd adran 453(1A) gan adran 186(4) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6).
Mewnosodwyd adrannau 47A i 47S gan adran 55(1) a (2) o Ddeddf Plismona a Throsedd 2009 (p. 26).
Mewnosodwyd adran 290(4)(c) gan adran 79 o Ddeddf Troseddu Difrifol 2007 (p. 27), a pharagraffau 1 a 3(1) a (2) o Atodlen 11 iddi.
Mewnosodwyd adran 352(5)(c) gan adran 77 o Ddeddf Troseddu Difrifol 2007, a pharagraffau 1 a 7(1) a (3) o Atodlen 10 iddi. Fe’i diwygiwyd gan adran 80(1)(b) o’r Ddeddf honno.
Mewnosodwyd adran 353(10)(c) gan adran 77 o Ddeddf Troseddu Difrifol 2007, a pharagraffau 1 ac 8(1) a (3) o Atodlen 10 iddi. Fe’i diwygiwyd gan adran 80(3)(b) o’r Ddeddf honno.
Mewnosodwyd adran 378(3A) gan adran 77 o Ddeddf Troseddu Difrifol 2007, a pharagraffau 1 a 13 o Atodlen 10 iddi. Mewnosodwyd paragraff (ab) gan adran 80(7) o’r Ddeddf honno.
Mewnosodwyd adran 378(3AA)(b) gan adran 49(b) o Ddeddf Troseddu a’r Llysoedd 2013 (p. 22), a pharagraffau 24 a 27(1) a (2) o Ran 2 o Atodlen 19 iddi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: