Search Legislation

Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2018

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2018

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 01/10/2023

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 03/03/2022.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2018. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 274 (Cy. 50)

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2018

Gwnaed

27 Chwefror 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

5 Mawrth 2018

Coming into force

26 Mawrth 2018

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 6(4), 16(1)(a) ac (e), 17(1) a (2), 26(1) a (3) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at yr offerynnau Ewropeaidd a restrir yn Atodlen 4 gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

I’r graddau y mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer pwerau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn unol ag adran 48(4A)(3) o’r Ddeddf honno.

Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio a gwerthuso’r Rheoliadau hyn fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(4).

Enwi, cymhwyso a chychwynLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2018.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 26 Mawrth 2018.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

DehongliLL+C

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Cyfarwyddeb 2001/111/EC” (“Directive 2001/111/EC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/111/EC(5) ynglŷn â siwgrau penodol a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl;

ystyr “Cyfarwyddeb 2001/113/EC” (“Directive 2001/113/EC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/113/EC(6) ynglŷn â jamiau, jelïau a marmaledau ffrwythau a phiwrî castan a felyswyd a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl;

mae i “cynhwysyn” yr ystyr a roddir i “ingredient” yn Erthygl 2(2)(f) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011(7);

ystyr “cynhwysyn ychwanegol a awdurdodwyd” (“authorised additional ingredient”) yw cynhwysyn a bennir yn Atodlen 2;

ystyr “cynnyrch a reoleiddir” (“regulated product”) yw cynnyrch sydd wedi ei restru yn unrhyw un neu ragor o’r eitemau yn y tabl yn Rhan 1 o Atodlen 1 ac sy’n cydymffurfio â’r gofynion ynglŷn â’r cynnyrch hwnnw a nodir yn y Rhan o’r Atodlen honno a bennir yn yr eitem gyfatebol yng ngholofn 3 o’r tabl;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “echdynnyn dyfrllyd ffrwythau” (“aqueous extract of fruit”) yw echdynnyn dyfrllyd ffrwythau sydd, yn ddarostyngedig i’r colledion sy’n digwydd o reidrwydd mewn gweithgynhyrchu priodol, yn cynnwys pob un o gyfansoddion y ffrwythau a ddefnyddiwyd sy’n doddadwy mewn dŵr;

ystyr “ffrwyth” (“fruit”) yw ffrwyth ffres ac iach, sy’n rhydd rhag dirywiad, sy’n cynnwys pob un o’i gyfansoddion hanfodol ac sy’n ddigon aeddfed i’w ddefnyddio, ar ôl ei lanhau, cael gwared ar unrhyw frychau sydd arno, torri ei ben a’i goesyn, ac mae’n cynnwys sinsir, tomatos, y rhannau bwytadwy o goesynnau rhiwbob, moron, tatws melys, cucumerau, pwmpenni, melonau a melonau dŵr;

mae i “labeli” yr ystyr a roddir i “labelling” yn Erthygl 2(2)(j) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 ac mae’r ymadrodd “wedi ei labelu” (“labelled”) i’w ddehongli yn unol â hynny;

ystyr “mêl” (“honey”) yw’r sylwedd melys naturiol a gynhyrchir gan wenyn Apis mellifera o neithdar planhigion neu o secretiadau’r rhannau byw o blanhigion neu ysgarthiadau pryfed sy’n sugno planhigion ar y rhannau byw o blanhigion, y mae’r gwenyn yn eu casglu, yn eu gweddnewid trwy eu cyfuno â’u sylweddau penodol eu hunain, eu gwaddodi, eu dadhydradu, eu storio a’u gadael mewn diliau mêl i aeddfedu;

mae i “mewn masnach” yr un ystyr ag sydd i “in trade” yng Nghyfarwyddeb 2001/113/EC ac mae’r ymadroddion “masnachu mewn” ac “a fasnachir” (“trade in”, “trades in”, “traded”) i’w dehongli yn unol â hynny;

ystyr “mwydion ffrwythau” (“fruit pulp”) yw’r rhan fwytadwy o’r ffrwyth cyfan, gyda’r pilion, y croen, yr hadau, y dincod neu’r tebyg (fel y bo’n briodol) neu hebddynt a’r rhan honno o bosibl wedi ei sleisio neu ei wasgu ond heb ei lleihau i biwrî;

ystyr “piwrî ffrwythau” (“fruit purée”) yw’r rhan fwytadwy o’r ffrwyth cyfan, gyda’r pilion, y croen, yr hadau, y dincod neu’r tebyg (fel y bo’n briodol) neu hebddynt a’r rhan honno wedi ei lleihau i biwrî drwy gael ei hidlo neu drwy beri iddi fynd drwy broses debyg;

ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 1924/2006” (“Regulation (EC) No 1924/2006”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1924/2006(8) Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch honiadau am faethiad ac iechyd a wneir ar fwydydd;

ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008” (“Regulation (EC) No 1333/2008”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008(9) Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch ychwanegion bwyd;

ystyr “Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011” (“Regulation (EU) No 1169/2011”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004;

ystyr “sinsir” (“ginger”) yw gwreiddyn bwytadwy’r planhigyn sinsir mewn cyflwr ffres neu wedi ei breserfio gan gynnwys gwreiddyn sinsir wedi ei sychu a gwreiddyn sinsir wedi ei breserfio mewn surop;

ystyr “siwgr” (“sugar”) yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)

unrhyw siwgr a ddiffinnir yn Rhan A o’r Atodiad i Gyfarwyddeb 2001/111/EC;

(b)

surop ffrwctos;

(c)

siwgr a echdynnwyd o ffrwythau;

(d)

siwgr brown;

ystyr “triniaeth a awdurdodwyd” (“authorised treatment”) yw triniaeth a bennir yn Atodlen 3.

(2Mae i unrhyw ymadrodd arall sy’n cael ei ddefnyddio yn y Rheoliadau hyn ac y mae’r ymadrodd Saesneg cyfatebol yn cael ei ddefnyddio yng Nghyfarwyddeb 2001/113/EC yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn â’r ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Gyfarwyddeb honno.

(3Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at un o offerynnau’r UE a restrir yn Atodlen 4 yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygiwyd o bryd i’w gilydd.

(4Mae Rhan 13 o Atodlen 1 yn cael effaith o ran dehongli Atodlen 1.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

CwmpasLL+C

3.—(1Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i gynhyrchion a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl ac eithrio unrhyw gynnyrch a fwriedir ar gyfer gweithgynhyrchu danteithion popty, teisennau crwst neu fisgedi.

F1(2. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(3Ym mharagraff (1) mae i “danteithion popty, teisennau crwst neu fisgedi” yr un ystyr â “fine bakery wares, pastries or biscuits” yn Erthygl 1 o Gyfarwyddeb 2001/113/EC.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

Defnyddio enw cynnyrchLL+C

4.—(1Rhaid i berson sy’n masnachu mewn cynnyrch sy’n cydymffurfio â gofynion Rhan o Atodlen 1 a bennir yng ngholofn 3 o’r tabl yn Rhan 1 o Atodlen 1 ddefnyddio enw’r cynnyrch a restrir yn yr eitem gyfatebol yng ngholofn 1 o’r tabl hwnnw, mewn masnach, fel enw’r cynnyrch.

(2Rhaid i berson beidio â defnyddio enw cynnyrch a restrir yng ngholofn 1 neu 2 o’r tabl yn Rhan 1 o Atodlen 1, neu’r enw cyfatebol mewn unrhyw iaith arall, mewn masnach, fel enw cynnyrch oni bai bod y cynnyrch yn cydymffurfio â’r gofynion ynglŷn â’r cynnyrch hwnnw a bennir yn y Rhan o’r Atodlen honno a restrir yn yr eitem gyfatebol yng ngholofn 3 o’r tabl.

(3Nid yw paragraff (2) yn atal enw cynnyrch rhag cael ei ddefnyddio, mewn masnach, fel rhan o enw cynnyrch arall—

(a)os yw defnyddio enw’r cynnyrch yn y modd hwnnw yn unol â’r arferion a ddefnyddir i ddynodi’r cynnyrch arall; a

(b)os na ellir drysu’r cynnyrch â chynnyrch a reoleiddir.

(4Yn ogystal ag enw’r cynnyrch y mae’n rhaid ei ddefnyddio yn rhinwedd paragraff (1), caiff person ddefnyddio enw Cymraeg y cynnyrch fel y’i rhestrir yn yr eitem yng ngholofn 2 o’r tabl yn Rhan 1 o Atodlen 1 sy’n cyfateb i enw Saesneg y cynnyrch yng ngholofn 1 o’r un tabl.

(5Nid oes dim ym mharagraffau (1) neu (4) yn atal enw cynnyrch rhag bod mewn unrhyw iaith arall yn ogystal â’r Gymraeg a Saesneg.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

Dangos y mathau o ffrwythau a ddefnyddiwydLL+C

5.—(1Rhaid i berson beidio â masnachu mewn cynnyrch a reoleiddir sydd wedi ei restru yn Rhan 1 o’r tabl yn Rhan 1 o Atodlen 1 oni bai bod mynegiad o’r mathau o ffrwythau a ddefnyddiwyd i weithgynhyrchu’r cynnyrch yn unol â pharagraffau (2), (3) neu (4), fel y bônt yn gymwys, wedi ei ychwanegu at enw’r cynnyrch.

(2Pan weithgynhyrchir cynnyrch a reoleiddir sydd wedi ei restru yn Rhan 1 o’r tabl yn Rhan 1 o Atodlen 1 gan ddefnyddio un math o ffrwyth, rhaid ychwanegu at enw’r cynnyrch fynegiad o’r math o ffrwyth a ddefnyddiwyd i weithgynhyrchu’r cynnyrch.

(3Pan weithgynhyrchir cynnyrch a reoleiddir sydd wedi ei restru yn Rhan 1 o’r tabl yn Rhan 1 o Atodlen 1 o ddau fath o ffrwyth, rhaid ychwanegu at enw’r cynnyrch fynegiad o’r mathau hynny o ffrwythau yn nhrefn ddisgynnol pwysau deunyddiau crai’r ffrwythau a ddefnyddiwyd i weithgynhyrchu’r cynnyrch.

(4Pan weithgynhyrchir cynnyrch a reoleiddir sydd wedi ei restru yn Rhan 1 o’r tabl yn Rhan 1 o Atodlen 1 o dri neu ragor o fathau o ffrwyth, rhaid ychwanegu at enw’r cynnyrch—

(a)mynegiad o’r mathau o ffrwythau a ddefnyddiwyd yn nhrefn ddisgynnol pwysau deunyddiau crai’r ffrwythau a ddefnyddiwyd i weithgynhyrchu’r cynnyrch;

(b)y geiriau “mixed fruit” neu eiriau tebyg; neu

(c)nifer y mathau o ffrwythau a ddefnyddiwyd.

(5Yn ogystal â’r geiriau sy’n ofynnol yn rhinwedd paragraff (4)(b), caniateir ychwanegu at enw’r cynnyrch y geiriau “ffrwythau cymysg” neu eiriau Cymraeg tebyg.

(6Nid oes dim ym mharagraffau (4)(b) neu (5) yn atal ychwanegu’r geiriau gofynnol at enw’r cynnyrch mewn unrhyw iaith arall yn ogystal â’r Gymraeg a Saesneg.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

Dangos y cynnwys ffrwythauLL+C

6.—(1Rhaid i berson beidio â masnachu mewn cynnyrch a reoleiddir sydd wedi ei restru yn Rhan 1 o’r tabl yn Rhan 1 o Atodlen 1 oni bai bod labeli’r cynnyrch yn dangos cynnwys ffrwythau’r cynnyrch yn unol â pharagraffau (2) i (4).

(2Rhaid i’r cynnwys ffrwythau gael ei ddangos drwy gynnwys y geiriau “prepared with x g of fruit per 100 g” gan osod faint mewn gramau o ffrwythau y deilliodd y mwydion ffrwythau, y piwrî ffrwythau, y sudd ffrwythau, y pilion ffrwythau a’r echdynnyn dyfrllyd ffrwythau ohonynt a ddefnyddiwyd am bob can gram o’r cynnyrch gorffenedig yn lle “x”.

(3Os defnyddir echdynion dyfrllyd, rhaid i gynnwys ffrwythau’r cynnyrch gorffenedig fel y’i dangosir ar labeli’r cynnyrch gael ei gyfrifo ar ôl tynnu pwysau unrhyw ddŵr a ddefnyddiwyd i baratoi’r echdynion dyfrllyd.

(4Rhaid i’r mynegiad o’r cynnwys ffrwythau ymddangos yn yr un cylch golwg ag enw’r cynnyrch ac mewn arwyddnodau y gellir eu gweld yn eglur.

(5Yn ogystal â’r geiriau sy’n ofynnol yn rhinwedd paragraff (2), caniateir cynnwys y geiriau “paratowyd â x g o ffrwythau am bob 100g”, gan osod faint mewn gramau o ffrwythau y deilliodd y mwydion ffrwythau, y piwrî ffrwythau, y sudd ffrwythau, y pilion ffrwythau a’r echdynnyn dyfrllyd ffrwythau ohonynt a ddefnyddiwyd am bob can gram o’r cynnyrch gorffenedig yn lle “x”.

(6Nid oes dim ym mharagraffau (2) neu (5) yn atal cynnwys y geiriau sy’n ofynnol yn rhinwedd paragraff (2) mewn unrhyw iaith arall yn ogystal â’r Gymraeg a Saesneg.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

Dangos cyfanswm y cynnwys siwgrLL+C

7.—(1Rhaid i berson beidio â masnachu mewn cynnyrch a reoleiddir sydd wedi ei restru yn Rhan 1 o’r tabl yn Rhan 1 o Atodlen 1 oni bai bod labeli’r cynnyrch yn dangos cyfanswm cynnwys siwgr y cynnyrch gorffenedig yn unol â pharagraffau (2) i (5).

(2Rhaid i gyfanswm y cynnwys siwgr gael ei ddangos drwy gynnwys y geiriau “total sugar content: x g per 100 g”, gan osod y cynnwys mewn gramau o solidau toddadwy ym mhob can gram o’r cynnyrch gorffenedig yn lle “x”.

(3Rhaid i gyfanswm cynnwys siwgr y cynnyrch gorffenedig fel y’i dangosir ar y labeli gael ei bennu â reffractomedr ar 20°C.

(4Rhaid i gyfanswm cynnwys siwgr y cynnyrch gorffenedig fel y’i dangosir ar y labeli fod yn gywir hyd at ±3 gradd reffractomedrig.

(5Rhaid i’r mynegiad o gyfanswm y cynnwys siwgr ymddangos yn yr un cylch golwg ag enw’r cynnyrch ac mewn arwyddnodau y gellir eu gweld yn eglur.

(6Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan fo honiad ynglŷn â chynnwys siwgr cynnyrch a reoleiddir sydd wedi ei restru yn Rhan 1 o’r tabl yn Rhan 1 o Atodlen 1 yn cael ei wneud a bod y cynnyrch wedi ei farcio neu wedi ei labelu, o ran ei gynnwys siwgr, â’r labeli maethiad rhagnodedig a nodir yn Erthyglau 30 i 35 o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011.

(7Yn ogystal â’r geiriau sy’n ofynnol yn rhinwedd paragraff (2), caniateir cynnwys y geiriau “cyfanswm y cynnwys siwgr: x g ym mhob 100 g”, gan osod y cynnwys mewn gramau o solidau toddadwy ym mhob can gram o’r cynnyrch gorffenedig yn lle “x”.

(8Nid oes dim ym mharagraffau (2) neu (7) yn atal cynnwys y geiriau sy’n ofynnol yn rhinwedd paragraff (2) mewn unrhyw iaith arall yn ogystal â’r Gymraeg a Saesneg.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

Sylffwr deuocsid gweddilliolLL+C

8.  Rhaid i berson beidio â masnachu mewn cynnyrch a reoleiddir sydd wedi ei restru yn Rhan 1 o’r tabl yn Rhan 1 o Atodlen 1 sydd â chynnwys sylffwr deuocsid gweddilliol o fwy na 10 miligram am bob cilogram oni bai bod, yn ychwanegol at unrhyw fanylyn y mae’n ofynnol ei nodi mewn rhestr o gynhwysion o dan Reoliad (EU) Rhif 1169/2011, presenoldeb y sylffwr deuocsid gweddilliol hwnnw wedi ei ddangos yn rhestr cynhwysion y cynnyrch yn ôl y ganran yn ôl pwysau o sylffwr deuocsid gweddilliol a geir yn y cynnyrch.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

GorfodiLL+C

9.  Dyletswydd awdurdod bwyd yw gorfodi’r Rheoliadau hyn yn ei ardal.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

Cymhwyso ac addasu darpariaethau yn y DdeddfLL+C

10.  Mae darpariaethau’r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 5 yn gymwys, gyda’r addasiadau a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw, at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

DirymuLL+C

11.—(1Mae Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2004(10) wedi eu dirymu.

(2Mae’r eitem sy’n ymwneud â Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2004 yn y tabl yn Rhan 4 o’r Atodlen i Orchymyn Cytuniad Lisbon (Newidiadau mewn Terminoleg neu Rifo) 2012(11) wedi ei dirymu.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

Vaughan Gething

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

27 Chwefror 2018

Rheoliadau 2 i 8

ATODLEN 1LL+CCynhyrchion a reoleiddir

RHAN 1LL+CRhestr cynhyrchion

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 1 Rhn. 1 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

Colofn 1

Enw’r cynnyrch yn Saesneg

Colofn 2

Enw’r cynnyrch yn Gymraeg

Colofn 3

Y Rhan o’r Atodlen hon sy’n cynnwys manyleb y cynnyrch

Rhan 1
JamJamRhan 2
Extra jamJam ecstraRhan 3
JellyJeliRhan 4
Extra jellyJeli ecstraRhan 5
MarmaladeMarmalêdRhan 6
Jelly marmaladeMarmalêd jeliRhan 7
Sweetened chestnut puréePiwrî castan a felyswydRhan 8
Rhan 2
“X” curdCeuled “X”Rhan 9
Lemon cheeseCeuled lemonRhan 10
“Y” flavour curdCeuled blas “Y”Rhan 11
MincemeatBriwfwydRhan 12

RHAN 2LL+CJam

1.  Cymysgedd o’r canlynol, y daethpwyd ag ef i ddwyster geliedig addas, yw jam—LL+C

(a)siwgr;

(b)mwydion ffrwythau, neu biwrî ffrwythau, neu fwydion ffrwythau a phiwrî ffrwythau, o un neu ragor o fathau o ffrwyth; ac

(c)dŵr.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

2.  Er gwaethaf paragraff 1(a), caniateir i felysydd a ganiateir gael ei ddefnyddio wrth weithgynhyrchu jam naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol yn lle siwgr.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

3.  Er gwaethaf paragraff 1(b), caniateir cael jam sitrws o’r ffrwythau cyfan, wedi eu torri’n stribedi, wedi eu sleisio neu wedi eu torri’n stribedi ac wedi eu sleisio.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

4.  Rhaid i swm y mwydion ffrwythau, neu’r piwrî ffrwythau, neu’r ddau, a ddefnyddir am bob 1,000 gram o’r cynnyrch gorffenedig beidio â bod yn llai na’r canlynol—LL+C

(a)250 gram yn achos unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(i)cyrains cochion;

(ii)criafol;

(iii)aeron helyg y môr;

(iv)cyrains duon;

(v)egroes;

(vi)cwins;

(b)150 gram yn achos sinsir;

(c)160 gram yn achos afalau cashiw;

(d)60 gram yn achos ffrwyth y dioddefaint; ac

(e)350 gram yn achos unrhyw ffrwyth arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

5.  Yn ogystal â’r cynhwysion a grybwyllir ym mharagraffau 1 i 3, caniateir i’r cynnyrch gynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol—LL+C

(a)cynhwysyn ychwanegol a awdurdodwyd, sydd, pan geir cyfyngiadau yn Atodlen 2 ynglŷn â’i ddefnyddio, yn cael ei ddefnyddio fel y’i pennir yn Atodlen 2;

(b)sudd ffrwythau sitrws, mewn cynnyrch a geir o fathau eraill o ffrwyth;

(c)sudd ffrwythau coch, mewn cynnyrch a weithgynhyrchir o unrhyw un neu ragor o’r ffrwythau a ganlyn—

(i)egroes;

(ii)mefus;

(iii)mafon;

(iv)gwsberins;

(v)cyrains cochion;

(vi)eirin;

(vii)rhiwbob;

(d)sudd betys coch, mewn cynnyrch a weithgynhyrchir o unrhyw un neu ragor o’r ffrwythau a ganlyn—

(i)mefus;

(ii)mafon;

(iii)gwsberins;

(iv)cyrains cochion;

(v)eirin;

(e)sudd ffrwythau eraill;

(f)pilion sitrws;

(g)dail Pelargonium odoratissimum, mewn cynnyrch a wneir o gwins.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

6.  Rhaid i unrhyw ddeunyddiau crai a ddefnyddir i weithgynhyrchu’r cynnyrch yn unol â’r Rhan hon ac a grybwyllir yn Atodlen 3 fod heb eu trin ac eithrio drwy ddefnyddio triniaeth a awdurdodwyd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

7.  Rhaid bod gan y cynnyrch gynnwys deunydd sych toddadwy o 60% neu ragor fel y’i pennir gan reffractomedr ar 20°C ac eithrio—LL+C

(a)cynnyrch lle mae siwgr wedi ei ddisodli’n gyfan gwbl neu’n rhannol gan felysydd a ganiateir; a

(b)cynnyrch y gwneir honiad yn ei gylch ei fod â llai o siwgr yn unol â’r amodau a nodir yn Rheoliad (EC) Rhif 1924/2006.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

RHAN 3LL+CJam ecstra

8.  Cymysgedd o’r canlynol, y daethpwyd ag ef i ddwyster geliedig addas, yw jam ecstra—LL+C

(a)yn achos jam ecstra egroes—

(i)siwgr;

(ii)piwrî annwysedig y ffrwyth hwnnw, neu gymysgedd o fwydion a phiwrî annwysedig y ffrwyth hwnnw; a

(iii)dŵr;

(b)yn achos jam ecstra di-had mafon, mwyar duon, cyrains duon, llus America a chyrains cochion—

(i)siwgr;

(ii)piwrî annwysedig y ffrwyth hwnnw, neu gymysgedd o fwydion a phiwrî annwysedig y ffrwyth hwnnw; a

(iii)dŵr;

(c)mewn achosion eraill—

(i)siwgr;

(ii)mwydion annwysedig un neu ragor o fathau o ffrwythau; a

(iii)dŵr.

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

9.  Er gwaethaf is-baragraffau (a)(i), (b)(i) ac (c)(i) o baragraff 8, caniateir i felysydd a ganiateir gael ei ddefnyddio wrth weithgynhyrchu jam ecstra naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol yn lle siwgr.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

10.  Er gwaethaf paragraff 8(c)(ii), caniateir cael jam sitrws ecstra o’r ffrwythau cyfan, wedi eu torri’n stribedi, wedi eu sleisio neu wedi eu torri’n stribedi ac wedi eu sleisio.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

11.  Rhaid peidio â chymysgu’r ffrwythau a ganlyn â ffrwythau eraill wrth weithgynhyrchu jam ecstra—LL+C

(a)afalau;

(b)gellyg;

(c)eirin careglynol;

(d)melonau;

(e)melonau dŵr;

(f)grawnwin;

(g)pwmpenni;

(h)cucumerau;

(i)tomatos.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

12.  Rhaid i swm y mwydion ffrwythau (neu’r piwrî ffrwythau, neu’r piwrî ffrwythau a’r mwydion ffrwythau, yn achos cynnyrch y mae paragraff 8(a) neu (b) yn gymwys iddo) a ddefnyddir i weithgynhyrchu pob 1,000 gram o’r cynnyrch gorffenedig beidio â bod yn llai na’r canlynol—LL+C

(a)350 gram yn achos unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(i)cyrains cochion;

(ii)criafol;

(iii)aeron helyg y môr;

(iv)cyrains duon;

(v)egroes;

(vi)cwins;

(b)250 gram yn achos sinsir;

(c)230 gram yn achos afalau cashiw;

(d)80 gram yn achos ffrwyth y dioddefaint; ac

(e)450 gram yn achos unrhyw ffrwyth arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

13.  Yn ogystal â’r cynhwysion a grybwyllir ym mharagraffau 8 i 10, caniateir i’r cynnyrch gynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol—LL+C

(a)cynhwysyn ychwanegol a awdurdodwyd, sydd, pan geir cyfyngiadau yn Atodlen 2 ynglŷn â’i ddefnyddio, yn cael ei ddefnyddio fel y’i pennir yn Atodlen 2;

(b)sudd ffrwythau sitrws, mewn cynnyrch a geir o fathau eraill o ffrwyth;

(c)suddoedd ffrwythau coch, mewn cynnyrch a weithgynhyrchir o unrhyw un neu ragor o’r ffrwythau a ganlyn—

(i)egroes;

(ii)mefus;

(iii)mafon;

(iv)gwsberins;

(v)cyrains cochion;

(vi)eirin;

(vii)rhiwbob;

(d)pilion sitrws;

(e)dail Pelargonium odoratissimum, mewn cynnyrch a wneir o gwins.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

14.  Rhaid i unrhyw ddeunyddiau crai a ddefnyddir i weithgynhyrchu’r cynnyrch yn unol â’r Rhan hon ac a grybwyllir yn Atodlen 3 fod heb eu trin ac eithrio drwy ddefnyddio triniaeth a awdurdodwyd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I26Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

15.  Rhaid bod gan y cynnyrch gynnwys deunydd sych toddadwy o 60% neu ragor fel y’i pennir gan reffractomedr ar 20°C ac eithrio—LL+C

(a)cynnyrch lle mae siwgr wedi ei ddisodli’n gyfan gwbl neu’n rhannol gan felysydd a ganiateir; a

(b)cynnyrch y gwneir honiad yn ei gylch ei fod â llai o siwgr yn unol â’r amodau a nodir yn Rheoliad (EC) Rhif 1924/2006.

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

RHAN 4LL+CJeli

16.  Cymysgedd o’r canlynol sydd wedi ei gelio’n briodol yw jeli—LL+C

(a)siwgr a sudd un neu ragor o fathau o ffrwyth;

(b)siwgr ac echdynnyn dyfrllyd un neu ragor o fathau o ffrwyth; neu

(c)siwgr a sudd ffrwythau un neu ragor o fathau o ffrwyth ac echdynnyn dyfrllyd un neu ragor o fathau o ffrwyth.

Gwybodaeth Cychwyn

I28Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

17.  Er gwaethaf is-baragraffau (a), (b) ac (c) o baragraff 16, caniateir i felysydd a ganiateir gael ei ddefnyddio wrth weithgynhyrchu jeli naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol yn lle siwgr.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

18.  Rhaid i swm y sudd ffrwythau, neu’r echdynnyn dyfrllyd ffrwythau, neu’r ddau, a ddefnyddir i weithgynhyrchu pob 1,000 gram o’r cynnyrch gorffenedig beidio â bod yn llai na’r canlynol—LL+C

(a)250 gram yn achos unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(i)cyrains cochion;

(ii)criafol;

(iii)aeron helyg y môr;

(iv)cyrains duon;

(v)egroes;

(vi)cwins;

(b)150 gram yn achos sinsir;

(c)160 gram yn achos afalau cashiw;

(d)60 gram yn achos ffrwyth y dioddefaint; ac

(e)350 gram yn achos unrhyw ffrwyth arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I30Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

19.  Pan ddefnyddir echdynnyn dyfrllyd ffrwythau wrth weithgynhyrchu’r cynnych, rhaid i’r symiau a bennir ym mharagraff 18 gael eu cyfrifo ar ôl tynnu pwysau’r dŵr a ddefnyddiwyd wrth baratoi’r echdynion dyfrllyd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

20.  Yn ogystal â’r cynhwysion a grybwyllir ym mharagraffau 16 a 17, caniateir i’r cynnyrch gynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol—LL+C

(a)cynhwysyn ychwanegol a awdurdodwyd, sydd, pan geir cyfyngiadau yn Atodlen 2 ynglŷn â’i ddefnyddio, yn cael ei ddefnyddio fel y’i pennir yn Atodlen 2;

(b)sudd ffrwythau sitrws, mewn cynnyrch a geir o fathau eraill o ffrwyth;

(c)sudd betys coch, mewn cynnyrch a weithgynhyrchir o un neu ragor o’r mathau a ganlyn o ffrwyth—

(i)mefus;

(ii)mafon;

(iii)gwsberins;

(iv)cyrains cochion;

(v)eirin;

(d)pilion sitrws;

(e)dail Pelargonium odoratissimum, mewn cynnyrch a wneir o gwins.

Gwybodaeth Cychwyn

I32Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

21.  Rhaid i unrhyw ddeunyddiau crai a ddefnyddir i weithgynhyrchu’r cynnyrch yn unol â’r Rhan hon ac a grybwyllir yn Atodlen 3 fod heb eu trin ac eithrio drwy ddefnyddio triniaeth a awdurdodwyd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

22.  Rhaid bod gan y cynnyrch gynnwys deunydd sych toddadwy o 60% neu ragor fel y’i pennir gan reffractomedr ar 20°C ac eithrio—LL+C

(a)cynnyrch lle mae siwgr wedi ei ddisodli’n gyfan gwbl neu’n rhannol gan felysydd a ganiateir; a

(b)cynnyrch y gwneir honiad yn ei gylch ei fod â llai o siwgr yn unol â’r amodau a nodir yn Rheoliad (EC) Rhif 1924/2006.

Gwybodaeth Cychwyn

I34Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

RHAN 5LL+CJeli ecstra

23.  Cymysgedd o’r canlynol sydd wedi ei gelio’n briodol yw jeli ecstra—LL+C

(a)siwgr a sudd ffrwythau;

(b)siwgr ac echdynnyn dyfrllyd ffrwythau; neu

(c)siwgr a sudd ffrwythau ac echdynnyn dyfrllyd ffrwythau.

Gwybodaeth Cychwyn

I35Atod. 1 para. 23 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

24.  Er gwaethaf is-baragraffau (a), (b) ac (c) o baragraff 23, caniateir i felysydd a ganiateir gael ei ddefnyddio wrth weithgynhyrchu jeli ecstra naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol yn lle siwgr.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I36Atod. 1 para. 24 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

25.  Rhaid peidio â chymysgu’r ffrwythau a ganlyn â ffrwythau eraill wrth weithgynhyrchu’r cynnyrch —LL+C

(a)afalau;

(b)gellyg;

(c)eirin careglynol;

(d)melonau;

(e)melonau dŵr;

(f)grawnwin;

(g)pwmpenni;

(h)cucumerau;

(i)tomatos.

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 1 para. 25 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

26.  Rhaid i swm y sudd ffrwythau, neu’r echdynnyn dyfrllyd ffrwythau, neu’r ddau, a ddefnyddir i weithgynhyrchu pob 1,000 gram o’r cynnyrch gorffenedig beidio â bod yn llai na’r canlynol—LL+C

(a)350 gram yn achos unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(i)cyrains cochion;

(ii)criafol;

(iii)aeron helyg y môr;

(iv)cyrains duon;

(v)egroes;

(vi)cwins;

(b)250 gram yn achos sinsir;

(c)230 gram yn achos afalau cashiw;

(d)80 gram yn achos ffrwyth y dioddefaint; ac

(e)450 gram yn achos unrhyw ffrwyth arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I38Atod. 1 para. 26 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

27.  Pan ddefnyddir echdynnyn dyfrllyd ffrwythau wrth weithgynhyrchu’r cynnych, rhaid i’r symiau yn is-baragraffau (a) i (e) o baragraff 26 gael eu cyfrifo ar ôl tynnu pwysau’r dŵr a ddefnyddiwyd wrth baratoi’r echdynnyn dyfrllyd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I39Atod. 1 para. 27 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

28.  Yn ogystal â’r cynhwysion a grybwyllir ym mharagraffau 23 a 24, caniateir i’r cynnyrch gynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol—LL+C

(a)cynhwysyn ychwanegol a awdurdodwyd, sydd, pan geir cyfyngiadau yn Atodlen 2 ynglŷn â’i ddefnyddio, yn cael ei ddefnyddio fel y’i pennir yn Atodlen 2;

(b)sudd ffrwythau sitrws, mewn cynnyrch a geir o fathau eraill o ffrwyth;

(c)pilion sitrws;

(d)dail Pelargonium odoratissimum, mewn cynnyrch a wneir o gwins.

Gwybodaeth Cychwyn

I40Atod. 1 para. 28 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

29.  Rhaid i unrhyw ddeunyddiau crai a ddefnyddir i weithgynhyrchu’r cynnyrch yn unol â’r Rhan hon ac a grybwyllir yn Atodlen 3 fod heb eu trin ac eithrio drwy ddefnyddio triniaeth a awdurdodwyd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I41Atod. 1 para. 29 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

30.  Rhaid bod gan y cynnyrch gynnwys deunydd sych toddadwy o 60% neu ragor fel y’i pennir gan reffractomedr ar 20°C ac eithrio—LL+C

(a)cynnyrch lle mae siwgr wedi ei ddisodli’n gyfan gwbl neu’n rhannol gan felysydd a ganiateir; a

(b)cynnyrch y gwneir honiad yn ei gylch ei fod â llai o siwgr yn unol â’r amodau a nodir yn Rheoliad (EC) Rhif 1924/2006.

Gwybodaeth Cychwyn

I42Atod. 1 para. 30 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

RHAN 6LL+CMarmalêd

31.  Cymysgedd o’r canlynol, y daethpwyd ag ef i ddwyster geliedig addas, yw marmalêd—LL+C

(a)dŵr;

(b)siwgr; ac

(c)mwydion ffrwythau, piwrî ffrwythau, sudd ffrwythau, pilion ffrwythau neu echdynnyn dyfrllyd ffrwythau, neu unrhyw gyfuniad o’r rhain, a phob un o’r rheiny wedi ei gael o ffrwythau sitrws.

Gwybodaeth Cychwyn

I43Atod. 1 para. 31 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

32.  Er gwaethaf paragraff 31(b), caniateir i felysydd a ganiateir gael ei ddefnyddio wrth weithgynhyrchu marmalêd naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol yn lle siwgr.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I44Atod. 1 para. 32 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

33.  Rhaid i swm y ffrwythau sitrws a ddefnyddir i weithgynhyrchu pob 1,000 gram o’r cynnyrch gorffenedig beidio â bod yn llai na 200 gram, y mae’n rhaid cael nid llai na 75 gram ohono o’r endocarp.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I45Atod. 1 para. 33 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

34.  Yn ogystal â’r cynhwysion a grybwyllir ym mharagraffau 31 a 32, caniateir i’r cynnyrch gynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol—LL+C

(a)cynhwysyn ychwanegol a awdurdodwyd, sydd, pan geir cyfyngiadau yn Atodlen 2 ynglŷn â’i ddefnyddio, yn cael ei ddefnyddio fel y’i pennir yn Atodlen 2;

(b)olewau naws ffrwythau sitrws.

Gwybodaeth Cychwyn

I46Atod. 1 para. 34 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

35.  Rhaid i unrhyw ddeunyddiau crai a ddefnyddir i weithgynhyrchu’r cynnyrch yn unol â’r Rhan hon ac a grybwyllir yn Atodlen 3 fod heb eu trin ac eithrio drwy ddefnyddio triniaeth a awdurdodwyd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I47Atod. 1 para. 35 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

36.  Rhaid bod gan y cynnyrch gynnwys deunydd sych toddadwy o 60% neu ragor fel y’i pennir gan reffractomedr ar 20°C ac eithrio—LL+C

(a)cynnyrch lle mae siwgr wedi ei ddisodli’n gyfan gwbl neu’n rhannol gan felysydd a ganiateir; a

(b)cynnyrch y gwneir honiad yn ei gylch ei fod â llai o siwgr yn unol â’r amodau a nodir yn Rheoliad (EC) Rhif 1924/2006.

Gwybodaeth Cychwyn

I48Atod. 1 para. 36 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

RHAN 7LL+CMarmalêd jeli

37.  Mae marmalêd jeli’n cydymffurfio â’r holl ofynion ynglŷn â marmalêd yn Rhan 6 ond nid yw’n cynnwys mater annhoddadwy ac eithrio y caniateir iddo gynnwys symiau bach o bilion wedi eu sleisio’n fân.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I49Atod. 1 para. 37 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

RHAN 8LL+CPiwrî castan a felyswyd

38.  Cymysgedd o ddŵr, siwgr a chastanau a wnaed yn biwrî, y daethpwyd ag ef i ddwyster addas, yw piwrî castan a felyswyd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I50Atod. 1 para. 38 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

39.  Er gwaethaf paragraff 38, caniateir i felysydd a ganiateir gael ei ddefnyddio wrth weithgynhyrchu piwrî castan a felyswyd naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol yn lle siwgr.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I51Atod. 1 para. 39 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

40.  Rhaid defnyddio nid llai na 380 gram o gastan a wnaed yn biwrî i weithgynhyrchu pob 1,000 gram o’r cynnyrch gorffenedig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I52Atod. 1 para. 40 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

41.  Yn ogystal â’r cynhwysion a grybwyllir ym mharagraffau 38 a 39, caniateir i’r cynnyrch gynnwys cynhwysyn ychwanegol a awdurdodwyd, ar yr amod ei fod, pan geir cyfyngiadau yn Atodlen 2 ynglŷn â defnyddio’r cynhwysyn ychwanegol hwnnw, yn cael ei ddefnyddio fel y’i pennir yn Atodlen 2.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I53Atod. 1 para. 41 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

42.  Rhaid i unrhyw ddeunyddiau crai a ddefnyddir i weithgynhyrchu’r cynnyrch yn unol â’r Rhan hon ac a grybwyllir yn Atodlen 3 fod heb eu trin ac eithrio drwy ddefnyddio triniaeth a awdurdodwyd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I54Atod. 1 para. 42 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

43.  Rhaid bod gan y cynnyrch gynnwys deunydd sych toddadwy o 60% neu ragor fel y’i pennir gan reffractomedr ar 20°C ac eithrio—LL+C

(a)cynnyrch lle mae siwgr wedi ei ddisodli’n gyfan gwbl neu’n rhannol gan felysydd a ganiateir; a

(b)cynnyrch y gwneir honiad yn ei gylch ei fod â llai o siwgr yn unol â’r amodau a nodir yn Rheoliad (EC) Rhif 1924/2006.

Gwybodaeth Cychwyn

I55Atod. 1 para. 43 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

44.  Yn y Rhan hon ystyr “castan” (“chestnuts”) yw ffrwyth y gastanwydden (Castanea sativa).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I56Atod. 1 para. 44 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

RHAN 9LL+CCeuled “X”

45.  Emylsiad o’r canlynol yw ceuled “X”—LL+C

(a)braster neu olew bwytadwy (neu’r ddau);

(b)siwgr;

(c)ŵy cyfan neu felynwy (neu’r ddau); a

(d)ffrwythau, mwydion ffrwythau, piwrî ffrwythau, sudd ffrwythau, echdynnyn dyfrllyd ffrwythau neu olewau naws ffrwythau neu unrhyw gyfuniad o’r rhain.

Gwybodaeth Cychwyn

I57Atod. 1 para. 45 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

46.  Er gwaethaf paragraff 45(b), caniateir i felysydd a ganiateir gael ei ddefnyddio mewn ceuled “X” naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol yn lle siwgr.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I58Atod. 1 para. 46 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

47.  Heblaw’r cynhwysion a bennir ym mharagraff 45(d), ni chaniateir defnyddio unrhyw ddeunydd cyflasu mewn ceuled “X” i roi blas neu arogl (neu flas ac arogl) ffrwyth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I59Atod. 1 para. 47 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

48.  Yn ogystal â’r cynhwysion a grybwyllir ym mharagraffau 45 a 46, yn ddarostyngedig i baragraff 47, caniateir i’r cynnyrch gynnwys unrhyw gynhwysion bwytadwy eraill.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I60Atod. 1 para. 48 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

49.  Rhaid i swm y braster neu’r olew (neu’r ddau) a ddefnyddir am bob 1,000 gram o’r cynnyrch gorffenedig beidio â bod yn llai na 40 gram.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I61Atod. 1 para. 49 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

50.  Rhaid defnyddio nid llai na 6.5 gram o solidau melynwy (p’un ai’n deillio o gynhwysyn wyau cyfan, melynwy neu’r ddau) am bob 1,000 gram o’r cynnyrch gorffenedig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I62Atod. 1 para. 50 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

51.  Rhaid i swm y ffrwythau, y mwydion ffrwythau, y piwrî ffrwythau, y sudd ffrwythau, yr echdynnyn dyfrllyd ffrwythau a’r olew naws ffrwythau fod yn ddigon i nodweddu’r cynnyrch gorffenedig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I63Atod. 1 para. 51 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

52.  Rhaid bod gan y cynnyrch gynnwys deunydd sych toddadwy o 65% neu ragor fel y’i pennir gan reffractomedr ar 20°C ac eithrio—LL+C

(a)cynnyrch lle mae siwgr wedi ei ddisodli’n gyfan gwbl neu’n rhannol gan felysydd a ganiateir; a

(b)cynnyrch y gwneir honiad yn ei gylch ei fod â llai o siwgr yn unol â’r amodau a nodir yn Rheoliad (EC) Rhif 1924/2006.

Gwybodaeth Cychwyn

I64Atod. 1 para. 52 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

53.  Mae’r Rhan hon i gael ei darllen fel pe bai “X” wedi ei disodli gan—LL+C

(a)enw math neu fathau penodol o ffrwyth yn achos cynnyrch y mae’r cynhwysion a ddefnyddiwyd wrth ei baratoi yn unol â pharagraff 45(d) yn dod o’r math neu’r mathau hynny o ffrwyth yn unig;

(b)y geiriau “ffrwythau cymysg” yn achos cynnyrch y mae’r cynhwysion a ddefnyddiwyd wrth ei baratoi yn unol â pharagraff 45(d) yn dod o fwy nag un math o ffrwyth; neu

(c)y gair “ffrwyth” wedi ei ragflaenu gan rif yn achos cynnyrch y mae’r cynhwysion a ddefnyddiwyd wrth ei baratoi yn unol â pharagraff 45(d) yn dod o’r nifer hwnnw o fathau o ffrwyth.

Gwybodaeth Cychwyn

I65Atod. 1 para. 53 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

RHAN 10LL+CCeuled lemon

54.  Mae ceuled lemon (“lemon cheese”) yn cydymffurfio â’r holl ofynion ynglŷn â cheuled “X” (““X curd”) yn Rhan 9 sy’n briodol ar gyfer ceuled lemon (“lemon curd”).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I66Atod. 1 para. 54 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

RHAN 11LL+CCeuled blas “Y”

55.  Emylsiad o’r canlynol yw ceuled blas “Y”—LL+C

(a)braster neu olew bwytadwy (neu’r ddau);

(b)siwgr;

(c)ŵy cyfan neu felynwy (neu’r ddau); a

(d)deunydd cyflasu a ychwanegwyd er mwyn rhoi blas neu aroglau (neu flas ac aroglau) ffrwyth.

Gwybodaeth Cychwyn

I67Atod. 1 para. 55 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

56.  Er gwaethaf paragraff 55(b), caniateir i felysydd a ganiateir gael ei ddefnyddio wrth weithgynhyrchu ceuled blas “Y” naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol yn lle siwgr.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I68Atod. 1 para. 56 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

57.  Yn ogystal â’r cynhwysion a grybwyllir ym mharagraffau 55 a 56, caniateir i’r cynnyrch gynnwys unrhyw gynhwysion bwytadwy eraill.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I69Atod. 1 para. 57 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

58.  Rhaid i swm y braster neu’r olew (neu’r ddau) a ddefnyddir am bob 1,000 gram o’r cynnyrch gorffenedig beidio â bod yn llai na 40 gram.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I70Atod. 1 para. 58 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

59.  Rhaid defnyddio nid llai na 6.5 gram o solidau melynwy (p’un ai’n deillio o gynhwysyn wyau cyfan, melynwy neu’r ddau) am bob 1,000 gram o’r cynnyrch gorffenedig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I71Atod. 1 para. 59 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

60.  Rhaid i swm y deunydd cyflasu a ddefnyddir fod yn ddigon i nodweddu’r cynnyrch gorffenedig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I72Atod. 1 para. 60 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

61.  Rhaid bod gan y cynnyrch gynnwys deunydd sych toddadwy o 65% neu ragor fel y’i pennir gan reffractomedr ar 20°C ac eithrio—LL+C

(a)cynnyrch lle mae siwgr wedi ei ddisodli’n gyfan gwbl neu’n rhannol gan felysydd a ganiateir; a

(b)cynnyrch y gwneir honiad yn ei gylch ei fod â llai o siwgr yn unol â’r amodau a nodir yn Rheoliad (EC) Rhif 1924/2006.

Gwybodaeth Cychwyn

I73Atod. 1 para. 61 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

62.  Mae’r Rhan hon i gael ei darllen fel pe bai “Y” wedi ei disodli gan—LL+C

(a)enw math neu fathau penodol o ffrwyth yn achos cynnyrch y mae’r deunydd cyflasu a ddefnyddiwyd wrth ei baratoi yn unol â pharagraff 55(d) wedi ei ychwanegu i roi blas neu arogl (neu flas ac arogl) y math neu’r mathau hynny o ffrwyth; neu

(b)y geiriau “ffrwythau cymysg” yn achos cynnyrch y mae’r deunydd cyflasu a ddefnyddiwyd wrth ei baratoi yn unol â pharagraff 55(d) wedi ei ychwanegu i roi blas neu arogl (neu flas ac arogl) mwy nag un math o ffrwyth.

Gwybodaeth Cychwyn

I74Atod. 1 para. 62 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

RHAN 12LL+CBriwfwyd

63.  Cymysgedd o gyfryngau melysu, ffrwythau gwinwydd, pilion sitrws, siwet neu fraster cyfatebol a finegr neu asid asetig, gyda chynhwysion bwytadwy eraill neu hebddynt, yw briwfwyd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I75Atod. 1 para. 63 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

64.  Er gwaethaf paragraff 63, caniateir i felysydd a ganiateir gael ei ddefnyddio wrth weithgynhyrchu briwfwyd naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol yn lle’r cyfryngau melysu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I76Atod. 1 para. 64 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

65.  Rhaid defnyddio nid llai na 300 gram o ffrwythau gwinwydd a philion sitrws am bob 1,000 gram o’r cynnyrch gorffenedig, y mae’n rhaid i 200 gram o leiaf ohono fod yn ffrwythau gwinwydd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I77Atod. 1 para. 65 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

66.  Rhaid defnyddio nid llai na 25 gram o siwet neu fraster cyfatebol am bob 1,000 gram o’r cynnyrch gorffenedig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I78Atod. 1 para. 66 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

67.  Rhaid bod gan y cynnyrch gynnwys deunydd sych toddadwy o 65% neu ragor fel y’i pennir gan reffractomedr ar 20°C ac eithrio—LL+C

(a)cynnyrch lle mae cyfryngau melysu wedi eu disodli’n gyfan gwbl neu’n rhannol gan felysydd a ganiateir; a

(b)cynnyrch y gwneir honiad yn ei gylch ei fod â llai o siwgr yn unol â’r amodau a nodir yn Rheoliad (EC) Rhif 1924/2006.

Gwybodaeth Cychwyn

I79Atod. 1 para. 67 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

68.  Yn y Rhan hon—LL+C

ystyr “cyfryngau melysu” (“sweetening agents”) yw—

(a)

unrhyw gynnyrch siwgr a ddiffinnir yn yr Atodlen i Gyfarwyddeb 2001/111/EC;

(b)

siwgr brown;

(c)

triogl cansen;

(d)

mêl;

ystyr “ffrwythau gwinwydd” (“vine fruits”) yw cyrains, mysgatelau, resins neu syltanas neu gymysgedd o unrhyw gyfuniad o’r ffrwythau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I80Atod. 1 para. 68 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

RHAN 13LL+CDehongli Atodlen 1

69.  Yn yr Atodlen hon ystyr “melysydd a ganiateir” (“permitted sweetener”) yw unrhyw felysydd i’r graddau y mae ei ddefnyddio mewn cynnyrch a reoleiddir wedi ei ganiatáu gan Reoliad (EC) Rhif 1333/2008.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I81Atod. 1 para. 69 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

70.  Yn achos cynnyrch a reoleiddir sydd wedi ei restru yn Rhan 1 o’r tabl yn Rhan 1 o’r Atodlen hon ac a baratowyd o gymysgedd o wahanol fathau o ffrwyth, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at yr isafswm o ffrwyth i’w ddarllen fel pe bai’r isafswm a bennir ar gyfer y mathau perthnasol o ffrwythau wedi ei leihau yn gymesur â symiau cymharol y mathau o ffrwythau a ddefnyddiwyd i weithgynhyrchu’r cynnyrch.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I82Atod. 1 para. 70 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 2LL+CCynhwysion ychwanegol a awdurdodwyd ar gyfer cynhyrchion a reoleiddir sydd wedi eu rhestru yn Rhan 1 o’r tabl yn Rhan 1 o Atodlen 1

1.  Caniateir i’r cynhwysion ychwanegol a ganlyn gael eu defnyddio wrth weithgynhyrchu cynnyrch a reoleiddir sydd wedi ei restru yn Rhan 1 o’r tabl yn Rhan 1 o Atodlen 1—LL+C

(a)hylif pectin;

(b)gwirodydd, gwin a gwin liqueur, cnau, perlysiau sawrus, sbeisys, fanila ac echdynion fanila;

(c)fanilin;

(d)unrhyw sylwedd a ganiateir yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008.

Gwybodaeth Cychwyn

I83Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

2.  Caniateir i’r cynhwysion ychwanegol a ganlyn gael eu defnyddio wrth weithgynhyrchu cynnyrch a reoleiddir sydd wedi ei restru yn Rhan 1 o’r tabl yn Rhan 1 o Atodlen 1 i’r graddau a nodir isod—LL+C

(a)mêl, i ddisodli siwgr yn gyfan gwbl neu’n rhannol;

(b)olewau a brasterau bwytadwy fel cyfryngau gwrth-ewynnu.

Gwybodaeth Cychwyn

I84Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 3LL+CTriniaethau a awdurdodwyd ar gyfer cynhyrchion a reoleiddir sydd wedi eu rhestru yn Rhan 1 o’r tabl yn Rhan 1 o Atodlen 1

1.  Caniateir i ffrwythau, mwydion ffrwythau, piwrî ffrwythau ac echdynion dyfrllyd ffrwythau gael—LL+C

(a)eu twymo, eu hoeri neu eu rhewi;

(b)eu sychrewi; neu

(c)eu dwysáu, i’r graddau ei bod yn dechnegol bosibl.

Gwybodaeth Cychwyn

I85Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

2.  Ac eithrio pan y’u defnyddir i weithgynhyrchu jam ecstra neu jeli ecstra, caniateir i ffrwythau, mwydion ffrwythau, piwrî ffrwythau ac echdynion dyfrllyd ffrwythau gael eu trin drwy ddefnyddio sylffwr deuocsid (E 220) neu ei halwynau (E 221, E 222, E 223, E 224, E 226 ac E 227) yn gymorth i weithgynhyrchu, ar yr amod nad yw’r cynnwys sylffwr deuocsid yn uwch na’r uchafswm cynnwys sylffwr deuocsid a bennwyd yn Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I86Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

3.  Heblaw cael eu sychrewi, caniateir i fricyll ac eirin a ddefnyddir wrth weithgynhyrchu jam gael eu trin ag unrhyw broses sychu arall hefyd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I87Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

4.  Caniateir i bilion sitrws gael eu preserfio mewn heli.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I88Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

Rheoliad 2(3)

ATODLEN 4LL+CCyfeiriadau newidiadwy

Gwybodaeth Cychwyn

I89Atod. 4 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

Dyma offerynnau’r UE y cyfeirir atynt yn rheoliad 2(3)—

(a)Cyfarwyddeb 2001/111/EC;

(b)Cyfarwyddeb 2001/113/EC;

(c)Rheoliad (EC) Rhif 1924/2006;

(d)Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008;

(e)Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011.

Rheoliad 10

ATODLEN 5LL+CCymhwyso ac addasu darpariaethau yn y Ddeddf

Gwybodaeth Cychwyn

I90Atod. 5 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

Colofn 1

Y ddarpariaeth yn y Ddeddf

Colofn 2

Addasiadau

Adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi ei fwriadu i’w fwyta gan bobl)Yn is-adran (1), yn lle “this Act” rhodder “the Jam and Similar Products (Wales) Regulations 2018”.
Adran 10(1) a (2) (hysbysiadau gwella)

Yn lle is-adran (1) (hysbysiadau gwella) rhodder—

(1) If an authorised officer of an enforcement authority has reasonable grounds for believing that a person is failing to comply with any of regulations 4 to 8 of the Jam and Similar Products (Wales) Regulations 2018, the authorised officer may, by a notice served on that person (in this Act referred to as an “improvement notice”)—

(a)state the officer’s grounds for believing that the person is failing to comply with the relevant regulation;

(b)specify the matters which constitute the person’s failure so to comply;

(c)specify the measures which, in the officer’s opinion, the person must take in order to secure compliance; and

(d)equire the person to take those measures, or measures that are at least equivalent to them, within such period (not being less than 14 days) as may be specified in the notice.”

Adran 20 (troseddau oherwydd bai person arall)Yn lle “any of the preceding provisions of this Part” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 10 of the Jam and Similar Products (Wales) Regulations 2018”.
Adran 21(1) a (5) (amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy)Yn is-adran (1), yn lle “any of the preceding provisions of this Part” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 10 of the Jam and Similar Products (Wales) Regulations 2018”.
Adran 30(8) (dadansoddi etc. samplau)

Yn lle “this Act” rhodder “the Jam and Similar Products (Wales) Regulations 2018”.

Ym mharagraff (a) hepgorer “under subsection (6) above”.

Adran 33 (rhwystro etc. swyddogion)Yn is-adran (1), yn lle “this Act” (ym mhob lle y mae’n digwydd) rhodder “the Jam and Similar Products (Wales) Regulations 2018”.
Adran 35(1)(12) a (2)(13) (cosbi troseddau)

Yn is-adran (1), ar ôl “section 33(1) above”, mewnosoder “, as applied and modified by regulation 10 of, and Schedule 5 to, the Jam and Similar Products (Wales) Regulations 2018,”.

Ar ôl is-adran (1), mewnosoder—

(1A) A person guilty of an offence under section 10(2), as applied by regulation 10 of the Jam and Similar Products (Wales) Regulations 2018, is liable, on summary conviction, to a fine.

Yn is-adran (2), yn lle “any other offence under this Act”, rhodder “an offence under section 33(2), as applied by regulation 10 of the Jam and Similar Products (Wales) Regulations 2018,”.

Adran 36 (troseddau cyrff corfforaethol)Yn is-adran (1), yn lle “this Act” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 10 of the Jam and Similar Products (Wales) Regulations 2018,”.
Adran 36A(14) (troseddau gan bartneriaethau Albanaidd)Yn lle “this Act” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 10 of the Jam and Similar Products (Wales) Regulations 2018,”.
Adran 37(1) a (6) (apelau i lys ynadon)

Yn lle is-adran (1) rhodder—

(1) Any person who is aggrieved by a decision of an authorised officer of an enforcement authority to serve an improvement notice under section 10(1), as applied and modified by regulation 10 of the Jam and Similar Products (Wales) Regulations 2018, may appeal to a magistrates’ court.

Yn is-adran (6)—

(a) yn lle “(3) or (4)” rhodder “(1)”, a

(b) ym mharagraff (a), hepgorer “or to the sheriff”.

Adran 39 (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella)

Yn lle is-adran (1) rhodder—

(1) On an appeal against a decision of an authorised officer of an enforcement authority to serve an improvement notice under section 10(1), as applied and modified by regulation 10 of the Jam and Similar Products (Wales) Regulations 2018, the magistrates’ court may either cancel or affirm the notice and, if it affirms it, may do so either in its original form or with such modifications as the court may in the circumstances think fit.

Yn is-adran (3), hepgorer “for want of prosecution”.

Adran 44 (amddiffyn swyddogion sy’n gweithredu’n ddidwyll)Yn lle “this Act” (ym mhob lle y mae’n digwydd) rhodder “the Jam and Similar Products (Wales) Regulations 2018”.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn darparu ar gyfer parhau i weithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/113/EC ynghylch jamiau, jelïau a marmaledau ffrwythau a phiwrî castan a felyswyd a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl (OJ Rhif L 10, 12.1.2002, t. 67). Maent hefyd yn cadw mesurau cenedlaethol presennol ynglŷn â cheuled, ceuled lemon a briwfwyd. Mae’r Rheoliadau’n dirymu ac yn disodli Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2004 (O.S. 2004/553 (Cy. 56)).

Mae rheoliad 4 ac Atodlen 1 yn rheoleiddio defnyddio’r enwau “jam”, “jam ecstra”, “jeli”, “jeli ecstra”, “marmalêd”, “marmalêd jeli”, “piwrî castan a felyswyd”, “ceuled”, “ceuled lemon” a “briwfwyd”. Yn ddarostyngedig i eithriad, dim ond os yw’r cynnyrch yn bodloni’r gofynion yn y rhan berthnasol o Atodlen 1 y caniateir i’r enwau hyn gael eu defnyddio.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i fanylion gael eu dangos ynglŷn â jam, jam ecstra, jeli, jeli ecstra, marmalêd, marmalêd jeli a phiwrî castan a felyswyd. Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i enw’r cynnyrch ddangos y mathau o ffrwythau a ddefnyddiwyd i weithgynhyrchu’r cynnyrch, mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i labeli’r cynnyrch ddangos ei gynnwys ffrwythau, mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i labeli’r cynnyrch ddangos cyfanswm ei gynnwys siwgr, ac mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â sylffwr deuocsid gweddilliol.

Mae rheoliad 9 yn gosod rhwymedigaeth ar awdurdodau bwyd i orfodi’r Rheoliadau.

Mae rheoliad 10 ac Atodlen 5 yn cymhwyso darpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990, gydag addasiadau. Mae hyn yn cynnwys cymhwyso, gydag addasiadau, adran 10(1), gan alluogi hysbysiad gwella i gael ei gyflwyno i’w gwneud yn ofynnol i gydymffurfio â darpariaethau penodedig yn y Rheoliadau hyn, a chymhwyso adran 10(2), sy’n gwneud methiant i gydymffurfio â hysbysiad gwella yn drosedd.

Mae rheoliad 11 yn dirymu Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2004 ac yn gwneud dirymiad canlyniadol ar ddarpariaeth yng Ngorchymyn Cytuniad Lisbon (Newidiadau mewn Terminoleg neu Rifau) 2012 (O.S. 2012/1809).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1990 p. 16. Diwygiwyd adran 16(1) gan baragraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28) (“Deddf 1999”). Diwygiwyd adran 17(1) a (2) gan baragraffau 8 a 12 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2011/1043. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 48(1) gan baragraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999. Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers”, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 fel y’i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, a’u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(2)

1972 p. 68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) ac fe’i diwygiwyd gan Ran 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) ac O.S. 2007/1388.

(3)

Mewnosodwyd adran 48(4A) gan baragraff 21 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999.

(4)

OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 652/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 189, 27.6.2014, t. 1).

(5)

OJ Rhif L 10, 12.1.2002, t. 53, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 1021/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 287, 29.10.2013, t. 1).

(6)

OJ Rhif L 10, 12.1.2002, t. 67, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 1021/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 287, 29.10.2013, t. 1).

(7)

OJ Rhif L 304, 22.11.2011, t. 18, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 78/2014 (OJ Rhif L 27, 30.1.2014, t. 7).

(8)

OJ Rhif L 404, 30.12.2006, t. 9, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 1047/2012 (OJ Rhif L 310, 9.11.2012, t. 36).

(9)

OJ Rhif L 354, 31.12.2008, t. 16, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2017/874 (OJ Rhif L 134, 23.5.2017, t. 18).

(11)

O.S. 2012/1809, y ceir diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(12)

Diwygir adran 35(1) gan baragraff 42 o Atodlen 26 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p. 44) o ddyddiad sydd i’w benodi ac fe’i diwygiwyd gan adran 85(1) o’r Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 (p. 10).

(13)

Diwygiwyd adran 35(2) gan adran 85(1) o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 ac O.S. 2015/664.

(14)

Mewnosodwyd adran 36A gan baragraffau 7 ac 16 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources