Search Legislation

Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2018

Newidiadau dros amser i: Adran 2

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 03/03/2022.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2018, Adran 2. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

DehongliLL+C

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Cyfarwyddeb 2001/111/EC” (“Directive 2001/111/EC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/111/EC(1) ynglŷn â siwgrau penodol a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl;

ystyr “Cyfarwyddeb 2001/113/EC” (“Directive 2001/113/EC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/113/EC(2) ynglŷn â jamiau, jelïau a marmaledau ffrwythau a phiwrî castan a felyswyd a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl;

mae i “cynhwysyn” yr ystyr a roddir i “ingredient” yn Erthygl 2(2)(f) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011(3);

ystyr “cynhwysyn ychwanegol a awdurdodwyd” (“authorised additional ingredient”) yw cynhwysyn a bennir yn Atodlen 2;

ystyr “cynnyrch a reoleiddir” (“regulated product”) yw cynnyrch sydd wedi ei restru yn unrhyw un neu ragor o’r eitemau yn y tabl yn Rhan 1 o Atodlen 1 ac sy’n cydymffurfio â’r gofynion ynglŷn â’r cynnyrch hwnnw a nodir yn y Rhan o’r Atodlen honno a bennir yn yr eitem gyfatebol yng ngholofn 3 o’r tabl;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “echdynnyn dyfrllyd ffrwythau” (“aqueous extract of fruit”) yw echdynnyn dyfrllyd ffrwythau sydd, yn ddarostyngedig i’r colledion sy’n digwydd o reidrwydd mewn gweithgynhyrchu priodol, yn cynnwys pob un o gyfansoddion y ffrwythau a ddefnyddiwyd sy’n doddadwy mewn dŵr;

ystyr “ffrwyth” (“fruit”) yw ffrwyth ffres ac iach, sy’n rhydd rhag dirywiad, sy’n cynnwys pob un o’i gyfansoddion hanfodol ac sy’n ddigon aeddfed i’w ddefnyddio, ar ôl ei lanhau, cael gwared ar unrhyw frychau sydd arno, torri ei ben a’i goesyn, ac mae’n cynnwys sinsir, tomatos, y rhannau bwytadwy o goesynnau rhiwbob, moron, tatws melys, cucumerau, pwmpenni, melonau a melonau dŵr;

mae i “labeli” yr ystyr a roddir i “labelling” yn Erthygl 2(2)(j) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 ac mae’r ymadrodd “wedi ei labelu” (“labelled”) i’w ddehongli yn unol â hynny;

ystyr “mêl” (“honey”) yw’r sylwedd melys naturiol a gynhyrchir gan wenyn Apis mellifera o neithdar planhigion neu o secretiadau’r rhannau byw o blanhigion neu ysgarthiadau pryfed sy’n sugno planhigion ar y rhannau byw o blanhigion, y mae’r gwenyn yn eu casglu, yn eu gweddnewid trwy eu cyfuno â’u sylweddau penodol eu hunain, eu gwaddodi, eu dadhydradu, eu storio a’u gadael mewn diliau mêl i aeddfedu;

mae i “mewn masnach” yr un ystyr ag sydd i “in trade” yng Nghyfarwyddeb 2001/113/EC ac mae’r ymadroddion “masnachu mewn” ac “a fasnachir” (“trade in”, “trades in”, “traded”) i’w dehongli yn unol â hynny;

ystyr “mwydion ffrwythau” (“fruit pulp”) yw’r rhan fwytadwy o’r ffrwyth cyfan, gyda’r pilion, y croen, yr hadau, y dincod neu’r tebyg (fel y bo’n briodol) neu hebddynt a’r rhan honno o bosibl wedi ei sleisio neu ei wasgu ond heb ei lleihau i biwrî;

ystyr “piwrî ffrwythau” (“fruit purée”) yw’r rhan fwytadwy o’r ffrwyth cyfan, gyda’r pilion, y croen, yr hadau, y dincod neu’r tebyg (fel y bo’n briodol) neu hebddynt a’r rhan honno wedi ei lleihau i biwrî drwy gael ei hidlo neu drwy beri iddi fynd drwy broses debyg;

ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 1924/2006” (“Regulation (EC) No 1924/2006”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1924/2006(4) Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch honiadau am faethiad ac iechyd a wneir ar fwydydd;

ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008” (“Regulation (EC) No 1333/2008”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008(5) Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch ychwanegion bwyd;

ystyr “Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011” (“Regulation (EU) No 1169/2011”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch darparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy’n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor, ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/2004;

ystyr “sinsir” (“ginger”) yw gwreiddyn bwytadwy’r planhigyn sinsir mewn cyflwr ffres neu wedi ei breserfio gan gynnwys gwreiddyn sinsir wedi ei sychu a gwreiddyn sinsir wedi ei breserfio mewn surop;

ystyr “siwgr” (“sugar”) yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

(a)

unrhyw siwgr a ddiffinnir yn Rhan A o’r Atodiad i Gyfarwyddeb 2001/111/EC;

(b)

surop ffrwctos;

(c)

siwgr a echdynnwyd o ffrwythau;

(d)

siwgr brown;

ystyr “triniaeth a awdurdodwyd” (“authorised treatment”) yw triniaeth a bennir yn Atodlen 3.

(2Mae i unrhyw ymadrodd arall sy’n cael ei ddefnyddio yn y Rheoliadau hyn ac y mae’r ymadrodd Saesneg cyfatebol yn cael ei ddefnyddio yng Nghyfarwyddeb 2001/113/EC yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn â’r ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Gyfarwyddeb honno.

(3Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at un o offerynnau’r UE a restrir yn Atodlen 4 yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y’i diwygiwyd o bryd i’w gilydd.

(4Mae Rhan 13 o Atodlen 1 yn cael effaith o ran dehongli Atodlen 1.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 2 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)

(1)

OJ Rhif L 10, 12.1.2002, t. 53, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 1021/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 287, 29.10.2013, t. 1).

(2)

OJ Rhif L 10, 12.1.2002, t. 67, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 1021/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 287, 29.10.2013, t. 1).

(3)

OJ Rhif L 304, 22.11.2011, t. 18, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 78/2014 (OJ Rhif L 27, 30.1.2014, t. 7).

(4)

OJ Rhif L 404, 30.12.2006, t. 9, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 1047/2012 (OJ Rhif L 310, 9.11.2012, t. 36).

(5)

OJ Rhif L 354, 31.12.2008, t. 16, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2017/874 (OJ Rhif L 134, 23.5.2017, t. 18).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources