- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2018.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Rheoliadau 2 i 8
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 Rhn. 1 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
Colofn 1 Enw’r cynnyrch yn Saesneg | Colofn 2 Enw’r cynnyrch yn Gymraeg | Colofn 3 Y Rhan o’r Atodlen hon sy’n cynnwys manyleb y cynnyrch |
---|---|---|
Rhan 1 | ||
Jam | Jam | Rhan 2 |
Extra jam | Jam ecstra | Rhan 3 |
Jelly | Jeli | Rhan 4 |
Extra jelly | Jeli ecstra | Rhan 5 |
Marmalade | Marmalêd | Rhan 6 |
Jelly marmalade | Marmalêd jeli | Rhan 7 |
Sweetened chestnut purée | Piwrî castan a felyswyd | Rhan 8 |
Rhan 2 | ||
“X” curd | Ceuled “X” | Rhan 9 |
Lemon cheese | Ceuled lemon | Rhan 10 |
“Y” flavour curd | Ceuled blas “Y” | Rhan 11 |
Mincemeat | Briwfwyd | Rhan 12 |
1. Cymysgedd o’r canlynol, y daethpwyd ag ef i ddwyster geliedig addas, yw jam—LL+C
(a)siwgr;
(b)mwydion ffrwythau, neu biwrî ffrwythau, neu fwydion ffrwythau a phiwrî ffrwythau, o un neu ragor o fathau o ffrwyth; ac
(c)dŵr.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
2. Er gwaethaf paragraff 1(a), caniateir i felysydd a ganiateir gael ei ddefnyddio wrth weithgynhyrchu jam naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol yn lle siwgr.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
3. Er gwaethaf paragraff 1(b), caniateir cael jam sitrws o’r ffrwythau cyfan, wedi eu torri’n stribedi, wedi eu sleisio neu wedi eu torri’n stribedi ac wedi eu sleisio.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
4. Rhaid i swm y mwydion ffrwythau, neu’r piwrî ffrwythau, neu’r ddau, a ddefnyddir am bob 1,000 gram o’r cynnyrch gorffenedig beidio â bod yn llai na’r canlynol—LL+C
(a)250 gram yn achos unrhyw un neu ragor o’r canlynol—
(i)cyrains cochion;
(ii)criafol;
(iii)aeron helyg y môr;
(iv)cyrains duon;
(v)egroes;
(vi)cwins;
(b)150 gram yn achos sinsir;
(c)160 gram yn achos afalau cashiw;
(d)60 gram yn achos ffrwyth y dioddefaint; ac
(e)350 gram yn achos unrhyw ffrwyth arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
5. Yn ogystal â’r cynhwysion a grybwyllir ym mharagraffau 1 i 3, caniateir i’r cynnyrch gynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol—LL+C
(a)cynhwysyn ychwanegol a awdurdodwyd, sydd, pan geir cyfyngiadau yn Atodlen 2 ynglŷn â’i ddefnyddio, yn cael ei ddefnyddio fel y’i pennir yn Atodlen 2;
(b)sudd ffrwythau sitrws, mewn cynnyrch a geir o fathau eraill o ffrwyth;
(c)sudd ffrwythau coch, mewn cynnyrch a weithgynhyrchir o unrhyw un neu ragor o’r ffrwythau a ganlyn—
(i)egroes;
(ii)mefus;
(iii)mafon;
(iv)gwsberins;
(v)cyrains cochion;
(vi)eirin;
(vii)rhiwbob;
(d)sudd betys coch, mewn cynnyrch a weithgynhyrchir o unrhyw un neu ragor o’r ffrwythau a ganlyn—
(i)mefus;
(ii)mafon;
(iii)gwsberins;
(iv)cyrains cochion;
(v)eirin;
(e)sudd ffrwythau eraill;
(f)pilion sitrws;
(g)dail Pelargonium odoratissimum, mewn cynnyrch a wneir o gwins.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
6. Rhaid i unrhyw ddeunyddiau crai a ddefnyddir i weithgynhyrchu’r cynnyrch yn unol â’r Rhan hon ac a grybwyllir yn Atodlen 3 fod heb eu trin ac eithrio drwy ddefnyddio triniaeth a awdurdodwyd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
7. Rhaid bod gan y cynnyrch gynnwys deunydd sych toddadwy o 60% neu ragor fel y’i pennir gan reffractomedr ar 20°C ac eithrio—LL+C
(a)cynnyrch lle mae siwgr wedi ei ddisodli’n gyfan gwbl neu’n rhannol gan felysydd a ganiateir; a
(b)cynnyrch y gwneir honiad yn ei gylch ei fod â llai o siwgr yn unol â’r amodau a nodir yn Rheoliad (EC) Rhif 1924/2006.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
8. Cymysgedd o’r canlynol, y daethpwyd ag ef i ddwyster geliedig addas, yw jam ecstra—LL+C
(a)yn achos jam ecstra egroes—
(i)siwgr;
(ii)piwrî annwysedig y ffrwyth hwnnw, neu gymysgedd o fwydion a phiwrî annwysedig y ffrwyth hwnnw; a
(iii)dŵr;
(b)yn achos jam ecstra di-had mafon, mwyar duon, cyrains duon, llus America a chyrains cochion—
(i)siwgr;
(ii)piwrî annwysedig y ffrwyth hwnnw, neu gymysgedd o fwydion a phiwrî annwysedig y ffrwyth hwnnw; a
(iii)dŵr;
(c)mewn achosion eraill—
(i)siwgr;
(ii)mwydion annwysedig un neu ragor o fathau o ffrwythau; a
(iii)dŵr.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
9. Er gwaethaf is-baragraffau (a)(i), (b)(i) ac (c)(i) o baragraff 8, caniateir i felysydd a ganiateir gael ei ddefnyddio wrth weithgynhyrchu jam ecstra naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol yn lle siwgr.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
10. Er gwaethaf paragraff 8(c)(ii), caniateir cael jam sitrws ecstra o’r ffrwythau cyfan, wedi eu torri’n stribedi, wedi eu sleisio neu wedi eu torri’n stribedi ac wedi eu sleisio.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
11. Rhaid peidio â chymysgu’r ffrwythau a ganlyn â ffrwythau eraill wrth weithgynhyrchu jam ecstra—LL+C
(a)afalau;
(b)gellyg;
(c)eirin careglynol;
(d)melonau;
(e)melonau dŵr;
(f)grawnwin;
(g)pwmpenni;
(h)cucumerau;
(i)tomatos.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
12. Rhaid i swm y mwydion ffrwythau (neu’r piwrî ffrwythau, neu’r piwrî ffrwythau a’r mwydion ffrwythau, yn achos cynnyrch y mae paragraff 8(a) neu (b) yn gymwys iddo) a ddefnyddir i weithgynhyrchu pob 1,000 gram o’r cynnyrch gorffenedig beidio â bod yn llai na’r canlynol—LL+C
(a)350 gram yn achos unrhyw un neu ragor o’r canlynol—
(i)cyrains cochion;
(ii)criafol;
(iii)aeron helyg y môr;
(iv)cyrains duon;
(v)egroes;
(vi)cwins;
(b)250 gram yn achos sinsir;
(c)230 gram yn achos afalau cashiw;
(d)80 gram yn achos ffrwyth y dioddefaint; ac
(e)450 gram yn achos unrhyw ffrwyth arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
13. Yn ogystal â’r cynhwysion a grybwyllir ym mharagraffau 8 i 10, caniateir i’r cynnyrch gynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol—LL+C
(a)cynhwysyn ychwanegol a awdurdodwyd, sydd, pan geir cyfyngiadau yn Atodlen 2 ynglŷn â’i ddefnyddio, yn cael ei ddefnyddio fel y’i pennir yn Atodlen 2;
(b)sudd ffrwythau sitrws, mewn cynnyrch a geir o fathau eraill o ffrwyth;
(c)suddoedd ffrwythau coch, mewn cynnyrch a weithgynhyrchir o unrhyw un neu ragor o’r ffrwythau a ganlyn—
(i)egroes;
(ii)mefus;
(iii)mafon;
(iv)gwsberins;
(v)cyrains cochion;
(vi)eirin;
(vii)rhiwbob;
(d)pilion sitrws;
(e)dail Pelargonium odoratissimum, mewn cynnyrch a wneir o gwins.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
14. Rhaid i unrhyw ddeunyddiau crai a ddefnyddir i weithgynhyrchu’r cynnyrch yn unol â’r Rhan hon ac a grybwyllir yn Atodlen 3 fod heb eu trin ac eithrio drwy ddefnyddio triniaeth a awdurdodwyd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
15. Rhaid bod gan y cynnyrch gynnwys deunydd sych toddadwy o 60% neu ragor fel y’i pennir gan reffractomedr ar 20°C ac eithrio—LL+C
(a)cynnyrch lle mae siwgr wedi ei ddisodli’n gyfan gwbl neu’n rhannol gan felysydd a ganiateir; a
(b)cynnyrch y gwneir honiad yn ei gylch ei fod â llai o siwgr yn unol â’r amodau a nodir yn Rheoliad (EC) Rhif 1924/2006.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
16. Cymysgedd o’r canlynol sydd wedi ei gelio’n briodol yw jeli—LL+C
(a)siwgr a sudd un neu ragor o fathau o ffrwyth;
(b)siwgr ac echdynnyn dyfrllyd un neu ragor o fathau o ffrwyth; neu
(c)siwgr a sudd ffrwythau un neu ragor o fathau o ffrwyth ac echdynnyn dyfrllyd un neu ragor o fathau o ffrwyth.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
17. Er gwaethaf is-baragraffau (a), (b) ac (c) o baragraff 16, caniateir i felysydd a ganiateir gael ei ddefnyddio wrth weithgynhyrchu jeli naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol yn lle siwgr.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
18. Rhaid i swm y sudd ffrwythau, neu’r echdynnyn dyfrllyd ffrwythau, neu’r ddau, a ddefnyddir i weithgynhyrchu pob 1,000 gram o’r cynnyrch gorffenedig beidio â bod yn llai na’r canlynol—LL+C
(a)250 gram yn achos unrhyw un neu ragor o’r canlynol—
(i)cyrains cochion;
(ii)criafol;
(iii)aeron helyg y môr;
(iv)cyrains duon;
(v)egroes;
(vi)cwins;
(b)150 gram yn achos sinsir;
(c)160 gram yn achos afalau cashiw;
(d)60 gram yn achos ffrwyth y dioddefaint; ac
(e)350 gram yn achos unrhyw ffrwyth arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
19. Pan ddefnyddir echdynnyn dyfrllyd ffrwythau wrth weithgynhyrchu’r cynnych, rhaid i’r symiau a bennir ym mharagraff 18 gael eu cyfrifo ar ôl tynnu pwysau’r dŵr a ddefnyddiwyd wrth baratoi’r echdynion dyfrllyd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I20Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
20. Yn ogystal â’r cynhwysion a grybwyllir ym mharagraffau 16 a 17, caniateir i’r cynnyrch gynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol—LL+C
(a)cynhwysyn ychwanegol a awdurdodwyd, sydd, pan geir cyfyngiadau yn Atodlen 2 ynglŷn â’i ddefnyddio, yn cael ei ddefnyddio fel y’i pennir yn Atodlen 2;
(b)sudd ffrwythau sitrws, mewn cynnyrch a geir o fathau eraill o ffrwyth;
(c)sudd betys coch, mewn cynnyrch a weithgynhyrchir o un neu ragor o’r mathau a ganlyn o ffrwyth—
(i)mefus;
(ii)mafon;
(iii)gwsberins;
(iv)cyrains cochion;
(v)eirin;
(d)pilion sitrws;
(e)dail Pelargonium odoratissimum, mewn cynnyrch a wneir o gwins.
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
21. Rhaid i unrhyw ddeunyddiau crai a ddefnyddir i weithgynhyrchu’r cynnyrch yn unol â’r Rhan hon ac a grybwyllir yn Atodlen 3 fod heb eu trin ac eithrio drwy ddefnyddio triniaeth a awdurdodwyd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I22Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
22. Rhaid bod gan y cynnyrch gynnwys deunydd sych toddadwy o 60% neu ragor fel y’i pennir gan reffractomedr ar 20°C ac eithrio—LL+C
(a)cynnyrch lle mae siwgr wedi ei ddisodli’n gyfan gwbl neu’n rhannol gan felysydd a ganiateir; a
(b)cynnyrch y gwneir honiad yn ei gylch ei fod â llai o siwgr yn unol â’r amodau a nodir yn Rheoliad (EC) Rhif 1924/2006.
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
23. Cymysgedd o’r canlynol sydd wedi ei gelio’n briodol yw jeli ecstra—LL+C
(a)siwgr a sudd ffrwythau;
(b)siwgr ac echdynnyn dyfrllyd ffrwythau; neu
(c)siwgr a sudd ffrwythau ac echdynnyn dyfrllyd ffrwythau.
Gwybodaeth Cychwyn
I24Atod. 1 para. 23 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
24. Er gwaethaf is-baragraffau (a), (b) ac (c) o baragraff 23, caniateir i felysydd a ganiateir gael ei ddefnyddio wrth weithgynhyrchu jeli ecstra naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol yn lle siwgr.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. 1 para. 24 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
25. Rhaid peidio â chymysgu’r ffrwythau a ganlyn â ffrwythau eraill wrth weithgynhyrchu’r cynnyrch —LL+C
(a)afalau;
(b)gellyg;
(c)eirin careglynol;
(d)melonau;
(e)melonau dŵr;
(f)grawnwin;
(g)pwmpenni;
(h)cucumerau;
(i)tomatos.
Gwybodaeth Cychwyn
I26Atod. 1 para. 25 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
26. Rhaid i swm y sudd ffrwythau, neu’r echdynnyn dyfrllyd ffrwythau, neu’r ddau, a ddefnyddir i weithgynhyrchu pob 1,000 gram o’r cynnyrch gorffenedig beidio â bod yn llai na’r canlynol—LL+C
(a)350 gram yn achos unrhyw un neu ragor o’r canlynol—
(i)cyrains cochion;
(ii)criafol;
(iii)aeron helyg y môr;
(iv)cyrains duon;
(v)egroes;
(vi)cwins;
(b)250 gram yn achos sinsir;
(c)230 gram yn achos afalau cashiw;
(d)80 gram yn achos ffrwyth y dioddefaint; ac
(e)450 gram yn achos unrhyw ffrwyth arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I27Atod. 1 para. 26 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
27. Pan ddefnyddir echdynnyn dyfrllyd ffrwythau wrth weithgynhyrchu’r cynnych, rhaid i’r symiau yn is-baragraffau (a) i (e) o baragraff 26 gael eu cyfrifo ar ôl tynnu pwysau’r dŵr a ddefnyddiwyd wrth baratoi’r echdynnyn dyfrllyd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I28Atod. 1 para. 27 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
28. Yn ogystal â’r cynhwysion a grybwyllir ym mharagraffau 23 a 24, caniateir i’r cynnyrch gynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol—LL+C
(a)cynhwysyn ychwanegol a awdurdodwyd, sydd, pan geir cyfyngiadau yn Atodlen 2 ynglŷn â’i ddefnyddio, yn cael ei ddefnyddio fel y’i pennir yn Atodlen 2;
(b)sudd ffrwythau sitrws, mewn cynnyrch a geir o fathau eraill o ffrwyth;
(c)pilion sitrws;
(d)dail Pelargonium odoratissimum, mewn cynnyrch a wneir o gwins.
Gwybodaeth Cychwyn
I29Atod. 1 para. 28 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
29. Rhaid i unrhyw ddeunyddiau crai a ddefnyddir i weithgynhyrchu’r cynnyrch yn unol â’r Rhan hon ac a grybwyllir yn Atodlen 3 fod heb eu trin ac eithrio drwy ddefnyddio triniaeth a awdurdodwyd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I30Atod. 1 para. 29 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
30. Rhaid bod gan y cynnyrch gynnwys deunydd sych toddadwy o 60% neu ragor fel y’i pennir gan reffractomedr ar 20°C ac eithrio—LL+C
(a)cynnyrch lle mae siwgr wedi ei ddisodli’n gyfan gwbl neu’n rhannol gan felysydd a ganiateir; a
(b)cynnyrch y gwneir honiad yn ei gylch ei fod â llai o siwgr yn unol â’r amodau a nodir yn Rheoliad (EC) Rhif 1924/2006.
Gwybodaeth Cychwyn
I31Atod. 1 para. 30 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
31. Cymysgedd o’r canlynol, y daethpwyd ag ef i ddwyster geliedig addas, yw marmalêd—LL+C
(a)dŵr;
(b)siwgr; ac
(c)mwydion ffrwythau, piwrî ffrwythau, sudd ffrwythau, pilion ffrwythau neu echdynnyn dyfrllyd ffrwythau, neu unrhyw gyfuniad o’r rhain, a phob un o’r rheiny wedi ei gael o ffrwythau sitrws.
Gwybodaeth Cychwyn
I32Atod. 1 para. 31 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
32. Er gwaethaf paragraff 31(b), caniateir i felysydd a ganiateir gael ei ddefnyddio wrth weithgynhyrchu marmalêd naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol yn lle siwgr.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I33Atod. 1 para. 32 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
33. Rhaid i swm y ffrwythau sitrws a ddefnyddir i weithgynhyrchu pob 1,000 gram o’r cynnyrch gorffenedig beidio â bod yn llai na 200 gram, y mae’n rhaid cael nid llai na 75 gram ohono o’r endocarp.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I34Atod. 1 para. 33 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
34. Yn ogystal â’r cynhwysion a grybwyllir ym mharagraffau 31 a 32, caniateir i’r cynnyrch gynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol—LL+C
(a)cynhwysyn ychwanegol a awdurdodwyd, sydd, pan geir cyfyngiadau yn Atodlen 2 ynglŷn â’i ddefnyddio, yn cael ei ddefnyddio fel y’i pennir yn Atodlen 2;
(b)olewau naws ffrwythau sitrws.
Gwybodaeth Cychwyn
I35Atod. 1 para. 34 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
35. Rhaid i unrhyw ddeunyddiau crai a ddefnyddir i weithgynhyrchu’r cynnyrch yn unol â’r Rhan hon ac a grybwyllir yn Atodlen 3 fod heb eu trin ac eithrio drwy ddefnyddio triniaeth a awdurdodwyd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I36Atod. 1 para. 35 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
36. Rhaid bod gan y cynnyrch gynnwys deunydd sych toddadwy o 60% neu ragor fel y’i pennir gan reffractomedr ar 20°C ac eithrio—LL+C
(a)cynnyrch lle mae siwgr wedi ei ddisodli’n gyfan gwbl neu’n rhannol gan felysydd a ganiateir; a
(b)cynnyrch y gwneir honiad yn ei gylch ei fod â llai o siwgr yn unol â’r amodau a nodir yn Rheoliad (EC) Rhif 1924/2006.
Gwybodaeth Cychwyn
I37Atod. 1 para. 36 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
37. Mae marmalêd jeli’n cydymffurfio â’r holl ofynion ynglŷn â marmalêd yn Rhan 6 ond nid yw’n cynnwys mater annhoddadwy ac eithrio y caniateir iddo gynnwys symiau bach o bilion wedi eu sleisio’n fân.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I38Atod. 1 para. 37 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
38. Cymysgedd o ddŵr, siwgr a chastanau a wnaed yn biwrî, y daethpwyd ag ef i ddwyster addas, yw piwrî castan a felyswyd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I39Atod. 1 para. 38 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
39. Er gwaethaf paragraff 38, caniateir i felysydd a ganiateir gael ei ddefnyddio wrth weithgynhyrchu piwrî castan a felyswyd naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol yn lle siwgr.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I40Atod. 1 para. 39 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
40. Rhaid defnyddio nid llai na 380 gram o gastan a wnaed yn biwrî i weithgynhyrchu pob 1,000 gram o’r cynnyrch gorffenedig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I41Atod. 1 para. 40 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
41. Yn ogystal â’r cynhwysion a grybwyllir ym mharagraffau 38 a 39, caniateir i’r cynnyrch gynnwys cynhwysyn ychwanegol a awdurdodwyd, ar yr amod ei fod, pan geir cyfyngiadau yn Atodlen 2 ynglŷn â defnyddio’r cynhwysyn ychwanegol hwnnw, yn cael ei ddefnyddio fel y’i pennir yn Atodlen 2.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I42Atod. 1 para. 41 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
42. Rhaid i unrhyw ddeunyddiau crai a ddefnyddir i weithgynhyrchu’r cynnyrch yn unol â’r Rhan hon ac a grybwyllir yn Atodlen 3 fod heb eu trin ac eithrio drwy ddefnyddio triniaeth a awdurdodwyd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I43Atod. 1 para. 42 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
43. Rhaid bod gan y cynnyrch gynnwys deunydd sych toddadwy o 60% neu ragor fel y’i pennir gan reffractomedr ar 20°C ac eithrio—LL+C
(a)cynnyrch lle mae siwgr wedi ei ddisodli’n gyfan gwbl neu’n rhannol gan felysydd a ganiateir; a
(b)cynnyrch y gwneir honiad yn ei gylch ei fod â llai o siwgr yn unol â’r amodau a nodir yn Rheoliad (EC) Rhif 1924/2006.
Gwybodaeth Cychwyn
I44Atod. 1 para. 43 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
44. Yn y Rhan hon ystyr “castan” (“chestnuts”) yw ffrwyth y gastanwydden (Castanea sativa).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I45Atod. 1 para. 44 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
45. Emylsiad o’r canlynol yw ceuled “X”—LL+C
(a)braster neu olew bwytadwy (neu’r ddau);
(b)siwgr;
(c)ŵy cyfan neu felynwy (neu’r ddau); a
(d)ffrwythau, mwydion ffrwythau, piwrî ffrwythau, sudd ffrwythau, echdynnyn dyfrllyd ffrwythau neu olewau naws ffrwythau neu unrhyw gyfuniad o’r rhain.
Gwybodaeth Cychwyn
I46Atod. 1 para. 45 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
46. Er gwaethaf paragraff 45(b), caniateir i felysydd a ganiateir gael ei ddefnyddio mewn ceuled “X” naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol yn lle siwgr.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I47Atod. 1 para. 46 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
47. Heblaw’r cynhwysion a bennir ym mharagraff 45(d), ni chaniateir defnyddio unrhyw ddeunydd cyflasu mewn ceuled “X” i roi blas neu arogl (neu flas ac arogl) ffrwyth.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I48Atod. 1 para. 47 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
48. Yn ogystal â’r cynhwysion a grybwyllir ym mharagraffau 45 a 46, yn ddarostyngedig i baragraff 47, caniateir i’r cynnyrch gynnwys unrhyw gynhwysion bwytadwy eraill.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I49Atod. 1 para. 48 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
49. Rhaid i swm y braster neu’r olew (neu’r ddau) a ddefnyddir am bob 1,000 gram o’r cynnyrch gorffenedig beidio â bod yn llai na 40 gram.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I50Atod. 1 para. 49 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
50. Rhaid defnyddio nid llai na 6.5 gram o solidau melynwy (p’un ai’n deillio o gynhwysyn wyau cyfan, melynwy neu’r ddau) am bob 1,000 gram o’r cynnyrch gorffenedig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I51Atod. 1 para. 50 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
51. Rhaid i swm y ffrwythau, y mwydion ffrwythau, y piwrî ffrwythau, y sudd ffrwythau, yr echdynnyn dyfrllyd ffrwythau a’r olew naws ffrwythau fod yn ddigon i nodweddu’r cynnyrch gorffenedig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I52Atod. 1 para. 51 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
52. Rhaid bod gan y cynnyrch gynnwys deunydd sych toddadwy o 65% neu ragor fel y’i pennir gan reffractomedr ar 20°C ac eithrio—LL+C
(a)cynnyrch lle mae siwgr wedi ei ddisodli’n gyfan gwbl neu’n rhannol gan felysydd a ganiateir; a
(b)cynnyrch y gwneir honiad yn ei gylch ei fod â llai o siwgr yn unol â’r amodau a nodir yn Rheoliad (EC) Rhif 1924/2006.
Gwybodaeth Cychwyn
I53Atod. 1 para. 52 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
53. Mae’r Rhan hon i gael ei darllen fel pe bai “X” wedi ei disodli gan—LL+C
(a)enw math neu fathau penodol o ffrwyth yn achos cynnyrch y mae’r cynhwysion a ddefnyddiwyd wrth ei baratoi yn unol â pharagraff 45(d) yn dod o’r math neu’r mathau hynny o ffrwyth yn unig;
(b)y geiriau “ffrwythau cymysg” yn achos cynnyrch y mae’r cynhwysion a ddefnyddiwyd wrth ei baratoi yn unol â pharagraff 45(d) yn dod o fwy nag un math o ffrwyth; neu
(c)y gair “ffrwyth” wedi ei ragflaenu gan rif yn achos cynnyrch y mae’r cynhwysion a ddefnyddiwyd wrth ei baratoi yn unol â pharagraff 45(d) yn dod o’r nifer hwnnw o fathau o ffrwyth.
Gwybodaeth Cychwyn
I54Atod. 1 para. 53 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
54. Mae ceuled lemon (“lemon cheese”) yn cydymffurfio â’r holl ofynion ynglŷn â cheuled “X” (““X” curd”) yn Rhan 9 sy’n briodol ar gyfer ceuled lemon (“lemon curd”).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I55Atod. 1 para. 54 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
55. Emylsiad o’r canlynol yw ceuled blas “Y”—LL+C
(a)braster neu olew bwytadwy (neu’r ddau);
(b)siwgr;
(c)ŵy cyfan neu felynwy (neu’r ddau); a
(d)deunydd cyflasu a ychwanegwyd er mwyn rhoi blas neu aroglau (neu flas ac aroglau) ffrwyth.
Gwybodaeth Cychwyn
I56Atod. 1 para. 55 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
56. Er gwaethaf paragraff 55(b), caniateir i felysydd a ganiateir gael ei ddefnyddio wrth weithgynhyrchu ceuled blas “Y” naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol yn lle siwgr.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I57Atod. 1 para. 56 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
57. Yn ogystal â’r cynhwysion a grybwyllir ym mharagraffau 55 a 56, caniateir i’r cynnyrch gynnwys unrhyw gynhwysion bwytadwy eraill.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I58Atod. 1 para. 57 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
58. Rhaid i swm y braster neu’r olew (neu’r ddau) a ddefnyddir am bob 1,000 gram o’r cynnyrch gorffenedig beidio â bod yn llai na 40 gram.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I59Atod. 1 para. 58 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
59. Rhaid defnyddio nid llai na 6.5 gram o solidau melynwy (p’un ai’n deillio o gynhwysyn wyau cyfan, melynwy neu’r ddau) am bob 1,000 gram o’r cynnyrch gorffenedig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I60Atod. 1 para. 59 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
60. Rhaid i swm y deunydd cyflasu a ddefnyddir fod yn ddigon i nodweddu’r cynnyrch gorffenedig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I61Atod. 1 para. 60 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
61. Rhaid bod gan y cynnyrch gynnwys deunydd sych toddadwy o 65% neu ragor fel y’i pennir gan reffractomedr ar 20°C ac eithrio—LL+C
(a)cynnyrch lle mae siwgr wedi ei ddisodli’n gyfan gwbl neu’n rhannol gan felysydd a ganiateir; a
(b)cynnyrch y gwneir honiad yn ei gylch ei fod â llai o siwgr yn unol â’r amodau a nodir yn Rheoliad (EC) Rhif 1924/2006.
Gwybodaeth Cychwyn
I62Atod. 1 para. 61 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
62. Mae’r Rhan hon i gael ei darllen fel pe bai “Y” wedi ei disodli gan—LL+C
(a)enw math neu fathau penodol o ffrwyth yn achos cynnyrch y mae’r deunydd cyflasu a ddefnyddiwyd wrth ei baratoi yn unol â pharagraff 55(d) wedi ei ychwanegu i roi blas neu arogl (neu flas ac arogl) y math neu’r mathau hynny o ffrwyth; neu
(b)y geiriau “ffrwythau cymysg” yn achos cynnyrch y mae’r deunydd cyflasu a ddefnyddiwyd wrth ei baratoi yn unol â pharagraff 55(d) wedi ei ychwanegu i roi blas neu arogl (neu flas ac arogl) mwy nag un math o ffrwyth.
Gwybodaeth Cychwyn
I63Atod. 1 para. 62 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
63. Cymysgedd o gyfryngau melysu, ffrwythau gwinwydd, pilion sitrws, siwet neu fraster cyfatebol a finegr neu asid asetig, gyda chynhwysion bwytadwy eraill neu hebddynt, yw briwfwyd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I64Atod. 1 para. 63 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
64. Er gwaethaf paragraff 63, caniateir i felysydd a ganiateir gael ei ddefnyddio wrth weithgynhyrchu briwfwyd naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol yn lle’r cyfryngau melysu.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I65Atod. 1 para. 64 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
65. Rhaid defnyddio nid llai na 300 gram o ffrwythau gwinwydd a philion sitrws am bob 1,000 gram o’r cynnyrch gorffenedig, y mae’n rhaid i 200 gram o leiaf ohono fod yn ffrwythau gwinwydd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I66Atod. 1 para. 65 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
66. Rhaid defnyddio nid llai na 25 gram o siwet neu fraster cyfatebol am bob 1,000 gram o’r cynnyrch gorffenedig.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I67Atod. 1 para. 66 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
67. Rhaid bod gan y cynnyrch gynnwys deunydd sych toddadwy o 65% neu ragor fel y’i pennir gan reffractomedr ar 20°C ac eithrio—LL+C
(a)cynnyrch lle mae cyfryngau melysu wedi eu disodli’n gyfan gwbl neu’n rhannol gan felysydd a ganiateir; a
(b)cynnyrch y gwneir honiad yn ei gylch ei fod â llai o siwgr yn unol â’r amodau a nodir yn Rheoliad (EC) Rhif 1924/2006.
Gwybodaeth Cychwyn
I68Atod. 1 para. 67 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
68. Yn y Rhan hon—LL+C
ystyr “cyfryngau melysu” (“sweetening agents”) yw—
unrhyw gynnyrch siwgr a ddiffinnir yn yr Atodlen i Gyfarwyddeb 2001/111/EC;
siwgr brown;
triogl cansen;
mêl;
ystyr “ffrwythau gwinwydd” (“vine fruits”) yw cyrains, mysgatelau, resins neu syltanas neu gymysgedd o unrhyw gyfuniad o’r ffrwythau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I69Atod. 1 para. 68 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
69. Yn yr Atodlen hon ystyr “melysydd a ganiateir” (“permitted sweetener”) yw unrhyw felysydd i’r graddau y mae ei ddefnyddio mewn cynnyrch a reoleiddir wedi ei ganiatáu gan Reoliad (EC) Rhif 1333/2008.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I70Atod. 1 para. 69 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
70. Yn achos cynnyrch a reoleiddir sydd wedi ei restru yn Rhan 1 o’r tabl yn Rhan 1 o’r Atodlen hon ac a baratowyd o gymysgedd o wahanol fathau o ffrwyth, mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at yr isafswm o ffrwyth i’w ddarllen fel pe bai’r isafswm a bennir ar gyfer y mathau perthnasol o ffrwythau wedi ei leihau yn gymesur â symiau cymharol y mathau o ffrwythau a ddefnyddiwyd i weithgynhyrchu’r cynnyrch.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I71Atod. 1 para. 70 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
Rheoliad 2(1)
1. Caniateir i’r cynhwysion ychwanegol a ganlyn gael eu defnyddio wrth weithgynhyrchu cynnyrch a reoleiddir sydd wedi ei restru yn Rhan 1 o’r tabl yn Rhan 1 o Atodlen 1—LL+C
(a)hylif pectin;
(b)gwirodydd, gwin a gwin liqueur, cnau, perlysiau sawrus, sbeisys, fanila ac echdynion fanila;
(c)fanilin;
(d)unrhyw sylwedd a ganiateir yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008.
Gwybodaeth Cychwyn
I72Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
2. Caniateir i’r cynhwysion ychwanegol a ganlyn gael eu defnyddio wrth weithgynhyrchu cynnyrch a reoleiddir sydd wedi ei restru yn Rhan 1 o’r tabl yn Rhan 1 o Atodlen 1 i’r graddau a nodir isod—LL+C
(a)mêl, i ddisodli siwgr yn gyfan gwbl neu’n rhannol;
(b)olewau a brasterau bwytadwy fel cyfryngau gwrth-ewynnu.
Gwybodaeth Cychwyn
I73Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
Rheoliad 2(1)
1. Caniateir i ffrwythau, mwydion ffrwythau, piwrî ffrwythau ac echdynion dyfrllyd ffrwythau gael—LL+C
(a)eu twymo, eu hoeri neu eu rhewi;
(b)eu sychrewi; neu
(c)eu dwysáu, i’r graddau ei bod yn dechnegol bosibl.
Gwybodaeth Cychwyn
I74Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
2. Ac eithrio pan y’u defnyddir i weithgynhyrchu jam ecstra neu jeli ecstra, caniateir i ffrwythau, mwydion ffrwythau, piwrî ffrwythau ac echdynion dyfrllyd ffrwythau gael eu trin drwy ddefnyddio sylffwr deuocsid (E 220) neu ei halwynau (E 221, E 222, E 223, E 224, E 226 ac E 227) yn gymorth i weithgynhyrchu, ar yr amod nad yw’r cynnwys sylffwr deuocsid yn uwch na’r uchafswm cynnwys sylffwr deuocsid a bennwyd yn Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I75Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
3. Heblaw cael eu sychrewi, caniateir i fricyll ac eirin a ddefnyddir wrth weithgynhyrchu jam gael eu trin ag unrhyw broses sychu arall hefyd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I76Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
4. Caniateir i bilion sitrws gael eu preserfio mewn heli.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I77Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
Rheoliad 2(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I78Atod. 4 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
Dyma offerynnau’r UE y cyfeirir atynt yn rheoliad 2(3)—
(a)Cyfarwyddeb 2001/111/EC;
(b)Cyfarwyddeb 2001/113/EC;
(c)Rheoliad (EC) Rhif 1924/2006;
(d)Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008;
(e)Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011.
Rheoliad 10
Gwybodaeth Cychwyn
I79Atod. 5 mewn grym ar 26.3.2018, gweler rhl. 1(3)
Colofn 1 Y ddarpariaeth yn y Ddeddf | Colofn 2 Addasiadau |
---|---|
Adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi ei fwriadu i’w fwyta gan bobl) | Yn is-adran (1), yn lle “this Act” rhodder “the Jam and Similar Products (Wales) Regulations 2018”. |
Adran 10(1) a (2) (hysbysiadau gwella) | Yn lle is-adran (1) (hysbysiadau gwella) rhodder— “(1) If an authorised officer of an enforcement authority has reasonable grounds for believing that a person is failing to comply with any of regulations 4 to 8 of the Jam and Similar Products (Wales) Regulations 2018, the authorised officer may, by a notice served on that person (in this Act referred to as an “improvement notice”)— (a)state the officer’s grounds for believing that the person is failing to comply with the relevant regulation; (b)specify the matters which constitute the person’s failure so to comply; (c)specify the measures which, in the officer’s opinion, the person must take in order to secure compliance; and (d)equire the person to take those measures, or measures that are at least equivalent to them, within such period (not being less than 14 days) as may be specified in the notice.”” |
Adran 20 (troseddau oherwydd bai person arall) | Yn lle “any of the preceding provisions of this Part” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 10 of the Jam and Similar Products (Wales) Regulations 2018”. |
Adran 21(1) a (5) (amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy) | Yn is-adran (1), yn lle “any of the preceding provisions of this Part” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 10 of the Jam and Similar Products (Wales) Regulations 2018”. |
Adran 30(8) (dadansoddi etc. samplau) | Yn lle “this Act” rhodder “the Jam and Similar Products (Wales) Regulations 2018”. Ym mharagraff (a) hepgorer “under subsection (6) above”. |
Adran 33 (rhwystro etc. swyddogion) | Yn is-adran (1), yn lle “this Act” (ym mhob lle y mae’n digwydd) rhodder “the Jam and Similar Products (Wales) Regulations 2018”. |
Adran 35(1)(1) a (2)(2) (cosbi troseddau) | Yn is-adran (1), ar ôl “section 33(1) above”, mewnosoder “, as applied and modified by regulation 10 of, and Schedule 5 to, the Jam and Similar Products (Wales) Regulations 2018,”. Ar ôl is-adran (1), mewnosoder— “(1A) A person guilty of an offence under section 10(2), as applied by regulation 10 of the Jam and Similar Products (Wales) Regulations 2018, is liable, on summary conviction, to a fine.” Yn is-adran (2), yn lle “any other offence under this Act”, rhodder “an offence under section 33(2), as applied by regulation 10 of the Jam and Similar Products (Wales) Regulations 2018,”. |
Adran 36 (troseddau cyrff corfforaethol) | Yn is-adran (1), yn lle “this Act” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 10 of the Jam and Similar Products (Wales) Regulations 2018,”. |
Adran 36A(3) (troseddau gan bartneriaethau Albanaidd) | Yn lle “this Act” rhodder “section 10(2), as applied by regulation 10 of the Jam and Similar Products (Wales) Regulations 2018,”. |
Adran 37(1) a (6) (apelau i lys ynadon) | Yn lle is-adran (1) rhodder— “(1) Any person who is aggrieved by a decision of an authorised officer of an enforcement authority to serve an improvement notice under section 10(1), as applied and modified by regulation 10 of the Jam and Similar Products (Wales) Regulations 2018, may appeal to a magistrates’ court.” Yn is-adran (6)— (a) yn lle “(3) or (4)” rhodder “(1)”, a (b) ym mharagraff (a), hepgorer “or to the sheriff”. |
Adran 39 (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella) | Yn lle is-adran (1) rhodder— “(1) On an appeal against a decision of an authorised officer of an enforcement authority to serve an improvement notice under section 10(1), as applied and modified by regulation 10 of the Jam and Similar Products (Wales) Regulations 2018, the magistrates’ court may either cancel or affirm the notice and, if it affirms it, may do so either in its original form or with such modifications as the court may in the circumstances think fit.” Yn is-adran (3), hepgorer “for want of prosecution”. |
Adran 44 (amddiffyn swyddogion sy’n gweithredu’n ddidwyll) | Yn lle “this Act” (ym mhob lle y mae’n digwydd) rhodder “the Jam and Similar Products (Wales) Regulations 2018”. |
Diwygir adran 35(1) gan baragraff 42 o Atodlen 26 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p. 44) o ddyddiad sydd i’w benodi ac fe’i diwygiwyd gan adran 85(1) o’r Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 (p. 10).
Diwygiwyd adran 35(2) gan adran 85(1) o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 ac O.S. 2015/664.
Mewnosodwyd adran 36A gan baragraffau 7 ac 16 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: