- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Arbed Ynni, Cymru
Gwnaed
6 Mawrth 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
9 Mawrth 2018
Yn dod i rym
1 Ebrill 2018
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) (Diwygio) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2018.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2011(3).
2. Mae’r prif Reoliadau wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 6.
3. Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a)yn y diffiniad o “dosbarthiad ased” (“asset rating”), yn lle “Reoliadau Perfformiad Ynni Adeiladau (Tystysgrifau ac Arolygiadau) (Cymru a Lloegr) 2007”, rhodder “Reoliadau Perfformiad Ynni Adeiladau (Cymru a Lloegr) 2012(4)”;
(b)hepgorer y diffiniad o “cais am grant rhannol” (“partial grant application”).
4. Yn rheoliad 5 (meini prawf cymhwystra)—
(a)ym mharagraff (2)(c), yn lle “38” rhodder “54”;
(b)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
“(3A) Ni chaniateir gwneud cais gweithfeydd mewn cysylltiad ag annedd pan fo—
(a)cais gweithfeydd wedi ei wneud yn flaenorol mewn cysylltiad â’r un annedd;
(b)y cais wedi ei gymeradwyo;
(c)gwneud y gweithfeydd mewn perthynas â’r cais hwnnw wedi ei gwblhau.”;
(c)hepgorer paragraff (3).
5. Yn rheoliad 6(1) (y dibenion y caniateir cymeradwyo grant ar eu cyfer), ar ôl is-baragraff (j), mewnosoder—
“(ja)darparu bylbiau golau rhad-ar-ynni;”.
6. Yn rheoliad 7 (uchafswm y grant)—
(a)ar ôl paragraff (2)(b) hepgorer “ac”;
(b)ar ôl paragraff (2)(b) mewnosoder—
“(ba)gan gyfeirio at ddosbarthiad ased annedd; a
(bb)gan gyfeirio at a yw annedd wedi ei chysylltu â’r rhwydwaith nwy ai peidio.”;
(c)hepgorer paragraff (2)(c).
7. Mae’r prif Reoliadau, fel y maent mewn grym yn union cyn y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym, yn parhau i fod yn gymwys ar y dyddiad hwnnw ac ar ôl y dyddiad hwnnw mewn perthynas â chais gweithfeydd neu gais am grant rhannol a wnaed ac a gymeradwywyd cyn y dyddiad hwnnw.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
6 Mawrth 2018
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2011 (O.S. 2011/656 (Cy. 94)) (“y prif Reoliadau”).
Mae rheoliad 3 yn diweddaru’r rhestr o ddiffiniadau yn y prif Reoliadau. Mae’n diweddaru ystyr “dosbarthiad ased” ac yn dileu’r diffiniad o “cais am grant rhannol”.
Mae rheoliad 4 yn diweddaru’r meini prawf cymhwystra o dan y prif Reoliadau. Mae’n dileu’r ddarpariaeth ar gyfer ceisiadau am grant rhannol, yn diweddaru’r dosbarthiad ased gofynnol y mae’n rhaid i annedd ei gael i fod yn gymwys am gais gweithfeydd ac yn darparu na fydd annedd lle y cyflawnwyd gwaith yn flaenorol mewn perthynas â chais gweithfeydd yn gymwys i wneud ceisiadau pellach.
Mae rheoliad 5 yn darparu ar gyfer darparu bylbiau golau rhad-ar-ynni o dan y prif Reoliadau.
Mae rheoliad 6 yn diweddaru’r fethodoleg a ddefnyddir gan Weinidogion Cymru i bennu uchafsymiau grantiau o dan y prif Reoliadau.
Mae rheoliad 7 yn darparu ar gyfer darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â cheisiadau sy’n mynd rhagddynt a gymeradwywyd cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.
1990 p. 27. Diwygiwyd adran 15 gan adran 142 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (p. 53).
Darparodd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fod y swyddogaethau o dan adran 15 i fod yn arferadwy o ran Cymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gydredol â’r Ysgrifennydd Gwladol ac yn rhydd rhag y gofyniad am gydsyniad y Trysorlys. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae’r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru o ran Cymru.
O.S. 2011/656 (Cy. 94), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2013/2843 (Cy. 270).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:
The data on this page is available in the alternative data formats listed: