- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Tai, Cymru
Gwnaed
14 Mehefin 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 19(2) a (3) o Ddeddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018(1).
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018 (Cychwyn a Darpariaeth Drosiannol) 2018.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “cronfa enillion o warediadau” (“disposal proceeds fund”) yw cronfa o dan adran 24(2) o Ddeddf 1996;
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Tai 1996(3);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018.
2. Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 15 Mehefin 2018—
(a)adran 1 (trosolwg o’r Ddeddf);
(b)adran 2 (ystyr “Deddf 1996”); ac
(c)adran 18 (pŵer i wneud diwygiadau canlyniadol pellach etc.).
3. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 15 Awst 2018—
(a)adrannau 3 i 5 (landlord cymdeithasol cofrestredig yn hysbysu am newidiadau cyfansoddiadol, etc.);
(b)adrannau 6 i 9 (pwerau sy’n arferadwy mewn cysylltiad â swyddogion a rheolaeth landlord cymdeithasol cofrestredig);
(c)adran 10 (pwerau sy’n arferadwy mewn cysylltiad ag ymchwiliadau etc.);
(d)adrannau 11 a 12 (hysbysiadau gorfodi a chosbau);
(e)adrannau 13 i 15 (gwarediadau tir);
(f)adran 16 ac Atodlen 1 (cyfyngiad ar aelodaeth awdurdodau lleol o fwrdd a hawliau pleidleisio); ac
(g)adran 17 ac Atodlen 2 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol).
4.—(1) Nid yw adran 15 o’r Ddeddf yn cael effaith, mewn perthynas â landlord cymdeithasol cofrestredig, hyd nes y cynharaf o’r canlynol—
(a)y dyddiad y mae’r cyllid yng nghronfa enillion o warediadau’r landlord cymdeithasol cofrestredig hwnnw yn dod i ben yn llwyr; neu
(b)y dyddiad y mae’r landlord cymdeithasol cofrestredig yn hysbysu Gweinidogion Cymru nad yw’n gallu defnyddio neu ddyrannu, na pharhau i ddefnyddio neu ddyrannu, cyllid yng nghronfa enillion o warediadau’r landlord cymdeithasol cofrestredig hwnnw yn unol â phenderfyniad a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 25 o Ddeddf 1996(4); neu
(c)15 Awst 2021.
(2) Er gwaethaf paragraff (1), nid yw’n ofynnol i landlord cymdeithasol cofrestredig sydd â chronfa enillion o warediadau ar 15 Awst 2018, o dan adran 24 o Ddeddf 1996, roi cyfrif am yr enillion o unrhyw warediad ar ôl y dyddiad hwnnw o fewn ei gronfa enillion o warediadau.
(3) Os yw landlord cymdeithasol cofrestredig (A), o fewn y cyfnod a nodir ym mharagraff (1), yn trosglwyddo ei gronfa enillion o warediadau i landlord cymdeithasol cofrestredig arall (B), caiff rheolaeth B o’r gronfa honno ei thrin o dan baragraff (1) fel pe bai’n A.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Tai ac Adfywio, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
14 Mehefin 2018
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 yn pennu 15 Mehefin 2018 fel y dyddiad dod i rym adrannau 1, 2 a 18 o’r Ddeddf, sy’n ddarpariaethau technegol, a’r pŵer i wneud diwygiadau canlyniadol etc.
Mae erthygl 3 yn pennu 15 Awst 2018 fel y dyddiad dod i rym ar gyfer unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf i’r graddau nad yw wedi ei chychwyn eisoes cyn y dyddiad hwn.
Mae erthygl 4 yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â dileu’r gofyniad i gynnal cronfa enillion o warediadau.
Diwygiwyd adran 24 gan adran 61 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (p. 17), ac O.S. 2010/866.
1996 p. 52. Diwygiwyd adran 25 gan adran 61 o Ddeddf Tai ac Adfywio 2008 (p. 17).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: