Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Diwygiadau i Atodlen 2

4.—(1Mae Atodlen 2 (categorïau o fyfyrwyr cymwys) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 1(2)(d) (categori 1 – personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”.

(3Ym mharagraff 6 (categori 6 – gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd)—

(a)yn is-baragraffau (1)(b) a (2)(b), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;

(b)yn is-baragraffau (3) a (4), hepgorer “ac eithrio’r Deyrnas Unedig” ym mhob lle y mae’n digwydd.

(4Ym mharagraff 7(1)(d) ac (e) (categori 7 – personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”.

(5Ym mharagraff 8 (categori 8 – gwladolion UE)—

(a)yn lle is-baragraff (1)(a) rhodder—

(a)sydd, ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—

(i)yn wladolyn UE,

(ii)yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig sydd wedi arfer hawl i breswylio, neu

(iii)yn aelod o deulu person yn is-baragraff (i) neu (ii),;

(b)yn is-baragraff (1)(c) a (d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;

(c)ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

(1A) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan is-baragraff (1) yn union cyn y diwrnod ymadael i fod yn gymwys ar ac ar ôl y diwrnod ymadael.;

(d)yn is-baragraff (2)(a), hepgorer “ac eithrio gwladolyn o’r Deyrnas Unedig”;

(e)yn is-baragraff (2)(d), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”;

(f)yn lle is-baragraff (4) rhodder—

(4) At ddibenion is-baragraff (1)(a), mae gwladolyn o’r Deyrnas Unedig wedi arfer hawl i breswylio os yw’r person hwnnw wedi preswylio yn Gibraltar neu wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig.

(6Yn lle paragraff 9 (categori 9 – plant gwladolion Swisaidd) rhodder—

Categori 9 – Plant gwladolion Swisaidd

9.(1) Person—

(a)sy’n blentyn i wladolyn Swisaidd y mae ganddo hawlogaeth i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir,

(b)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, a

(d)mewn achos pan oedd ei breswylio fel arfer, y cyfeirir ato ym mharagraff (c), yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn union cyn y cyfnod o breswylio fel arfer y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

(2) Mae unrhyw ddisgrifiad o berson a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y paragraff hwn yn union cyn y diwrnod ymadael i fod yn gymwys ar neu ar ôl y diwrnod ymadael.

(7Ym mharagraff 10(1)(c) (categori 10 – plant gweithwyr Twrcaidd), ar ôl “y diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr”.

(8Ym mharagraff 11 (preswylio fel arfer – darpariaeth ychwanegol)—

(a)ar ôl “diriogaeth sy’n ffurfio’r” mewnosoder “Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr” ym mhob lle y mae’n digwydd;

(b)yn is-baragraff (5), ar ôl “ardal” mewnosoder “ac eithrio’r Deyrnas Unedig neu Gibraltar”.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources