- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gwnaed
27 Mehefin 2019
Yn dod i rym
1 Gorffennaf 2019
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 27 a 187(1) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(1).
Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad yn unol ag adran 187(2)(f) o’r Ddeddf honno.
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2019.
2. Mae Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a)yn rheoliad 6(4)(c), yn lle “Rhannau 3 i 15” rhodder “Rhannau 2 i 15”;
(b)yn rheoliad 7(3)(c), yn lle “Rhannau 3 i 15” rhodder “Rhannau 2 i 15”;
(c)yn rheoliad 15(2)(d), yn lle “awdurdodau comisiynu” rhodder “gomisiynwyr gwasanaethau”.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
27 Mehefin 2019
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud mân ddiwygiadau i Reoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/165 (Cy. 41)) (“y Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli”) er mwyn cywiro gwallau yn yr offeryn hwnnw.
Mae rheoliad 6(4)(c) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli yn darparu, pryd bynnag nad yw’r unigolyn cyfrifol yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau, fod rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau yn eu lle er mwyn i’r gwasanaeth gydymffurfio â gofynion y rheoliadau yn Rhannau 3 i 15. Mae rheoliad 2(a) o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 6(4)(c) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli er mwyn ei gwneud yn ofynnol i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau yn eu lle hefyd er mwyn i’r gwasanaeth gydymffurfio â gofynion y rheoliadau yn Rhan 2 o dan amgylchiadau o’r fath.
Mae rheoliad 7(3)(c) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli yn darparu, pryd bynnag y mae darparwr gwasanaeth sy’n unigolyn yn absennol, fod rhaid i’r unigolyn hwnnw sicrhau bod trefniadau yn eu lle er mwyn i’r gwasanaeth gydymffurfio â gofynion y rheoliadau yn Rhannau 3 i 15. Mae rheoliad 2(b) o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 7(3)(c) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli er mwyn ei gwneud yn ofynnol i’r unigolyn sicrhau bod trefniadau yn eu lle hefyd er mwyn i’r gwasanaeth gydymffurfio â gofynion y rheoliadau yn Rhan 2 o dan amgylchiadau o’r fath.
Mae rheoliad 2(c) yn diwygio rheoliad 15(2)(d) o’r Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli er mwyn rhoi “comisiynwyr gwasanaethau” yn lle’r cyfeiriad at “awdurdodau comisiynu”.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: