- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4.—(1) Yn yr erthygl hon—
mae “prydles” (“lease”) yn cynnwys isbrydles a rhaid dehongli’r ferf “prydlesu” (“lease”) yn unol â hynny;
ystyr “y trosglwyddai” (“the transferee”) yw unrhyw berson y prydlesir neu y gwerthir y rheilffyrdd, neu unrhyw ran ohonynt, iddo o dan y pwerau a roddir gan yr erthygl hon;
ystyr “yr ymgymeriad a drosglwyddir” (“the transferred undertaking”) yw cymaint o’r rheilffyrdd ag a brydlesir neu a werthir o dan y pwerau a roddir gan yr erthygl hon.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), unrhyw bryd ar ôl y dyddiad perthnasol, caiff yr ymgymerwr, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, werthu neu brydlesu’r rheilffyrdd a drosglwyddir neu unrhyw ran ohonynt i unrhyw berson ar y cyfryw delerau ac amodau ag y gellir cytuno arnynt rhwng yr ymgymerwr a’r person hwnnw.
(3) Nid oes angen cydsyniad Gweinidogion Cymru o dan baragraff (2) os bwriedir prydlesu’r rheilffyrdd a drosglwyddir neu unrhyw ran ohonynt i un o’r cwmnïau neu i’r ddau ohonynt.
(4) Ac eithrio fel y darperir fel arall yn y Gorchymyn hwn—
(a)mae’r ymgymeriad a drosglwyddir yn parhau i fod yn ddarostyngedig i’r holl ddarpariaethau statudol a’r holl ddarpariaethau eraill sy’n gymwys iddo ar ddyddiad y brydles neu’r gwerthiant (i’r graddau y mae’r darpariaethau hynny yn parhau mewn grym ac yn gallu cael effaith),
(b)mae gan y trosglwyddai, ac eithrio’r ymgymerwr, yr hawl i gael budd o’r holl hawliau, pwerau a breintiau sy’n ymwneud â’r ymgymeriad a drosglwyddir ac arfer yr hawliau, y pwerau a’r breintiau hynny, ac
(c)wrth arfer pwerau unrhyw ddeddfiad, mae’r trosglwyddai yn ddarostyngedig i’r un rhwymedigaethau, statudol neu fel arall, ag a fyddai’n gymwys pe câi’r pwerau hynny eu harfer gan yr ymgymerwr.
(5) Mae paragraff (4) yn cael effaith yn ystod cyfnod unrhyw brydles a roddir, ac o ddyddiad gweithredol unrhyw werthiant, o dan y pwerau a roddir gan yr erthygl hon.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: